Coelion Cymru/Rhagarwyddion Marwolaeth
← Ymddangosiad Ysbrydion | Coelion Cymru gan Evan Isaac |
Llynnoedd a Ffynhonnau → |
V.
RHAGARWYDDION MARWOLAETH
Er cynefined ydym â marwolaeth, nid yw ei ddirgelwch yn awr fawr llai, os dim, nag ydoedd , filoedd o flynyddoedd yn ôl, ac efallai mai'r dirgelwch hwn a barodd gasglu o'i gwmpas gymaint ] o goelion. Y mae'n ddiamau fod y mwyafrif o'r coelion hyn yn gyffredin i holl rannau gwledig Cymru,—coelion ysmala nad oes gamp ar eu hesbonio, a choelion eraill dieithr, anesboniadwy a bair arswyd digymysg. Y mae eto'n aros weddillion credu mawr a chadarn yn rhagarwyddion marwolaeth.
Credid yn gryf gynt yn y "Deryn Corff" a phery'r canol oed a'r hen i gredu ynddo. Nid oes wybodaeth glir a phendant am yr aderyn hwn. Gwisgir ef â thywyllwch anhreiddiadwy, cyffelyb i'r tywyllwch a wisg yr hyn y proffwyda amdano. Y dybiaeth gyffredin yw, ei fod yn ddu ei liw ac o faintioli bronfraith, a'i lygaid mawr yn saethu allan belydrau treiddiol â'u ias fel ia. Dywedai'r Athro T. Gwynn Jones wrthyf unwaith y credid gynt mewn rhai ardaloedd mai aderyn drudwy ydoedd. Clywais ei alw hefyd yn ddylluan frech. Eithr pa enw bynnag a roddir iddo, meddylir amdano fel peth annaearol a ofnir hyd ddychryn. Eheda yn y nos-nos dywyll-i ffenestr y claf a churo'n ysgafn â'i big ar y gwydr. Bydd hyn yn arwydd sicr o farwolaeth buan y claf. Peth hawdd i'r bach ei ffydd yn y pethau hyn yw esbonio gwaith aderyn yn tynnu at ffenestr olau a'i tharo. Tua deugain mlynedd yn ôl, a mi'n darllen neu geisio gweithio pregeth un noson ar gyfyl deuddeg, a glaw trwm yn disgyn trwy wynt cryf, clywn guro ysgafn fel curo pwyntil ar wydr y ffenestr. Daeth y "Deryn Corff" i'm meddwl ar drawiad, ond megais ddigon o wroldeb i fyned allan a chwilio'r helynt. Gwelais yr aderyn ar y ffenestr olau, a deliais ef. Nid aderyn drudwy mohono na'r ddylluan frech nac un o liw du a maint bronfraith, eithr peth bach ofnus yn crynu fel deilen, o faint a lliw gwas-y-gog neu lwyd-y-berth. Rhyw greadur barus a'i herlidiodd o'i glwyd i'r nos ystormus, a thynnodd yntau at y golau. Bu ugeiniau farw yn y pentref er y noson honno, ond ni wybûm byth pwy a oedd ym meddwl yr aderyn a ddeliais.
Yr arwydd sicraf a gad erioed o farwolaeth ydyw'r Gannwyll Gorff. Fflam fechan welw-las ydyw, a ddaw o enau'r sawl a fydd farw'n fuan, ac a deithia'n araf lwybr y gladdedigaeth i'r bedd. Amrywia maint y fflam yn ôl oedran y person sydd i farw. Deddf y Gannwyll ydyw cychwyn o dŷ'r un a gynrychiola a diffodd ar fan y bedd. Eithr y mae eithriadau.
Er nad oes i Gannwyll Gorff un diben namyn rhaghysbysu am farwolaeth person arbennig, dylid gochel ei llwybr, oblegid o gyffwrdd â dyn pair iddo niwed dybryd, ac weithiau fe'i lleddir. Edrydd George Borrow hanesyn am y Gannwyll yn lladd dyn. Cyraeddasai Borrow dafarn Ponty-gŵr-drwg ar ei daith trwy Gymru, a theimlodd y dylai esgyn Pumlumon, ac yfed o ffynhonnau tarddiol Rheidol a Gwy a Hafren. Bore Sul, Tachwedd 5, 1854, tynnodd yn ei ôl trwy Ysbyty Cynfyn, a galw yn nhafarn Dyffryn Castell am gwrw ac arweinydd. Bugail deallus a chynefin â'r mynyddoedd ac â llên preswylwyr eu cilfachau oedd yr arweinydd, ac oherwydd hynny yn ŵr wrth fodd calon Borrow. Yfwyd hyd wala o lygaid yr afonydd, ac ar y daith yn ôl i Ddyffryn Castell am ragor o 'gwrw da,' ymgomiwyd am y Tylwyth Teg a Chanhwyllau Cyrff. Credai'r arweinydd yn gryf yn y naill a'r llall, ac adroddodd hanes dyn a laddwyd ychydig amser cyn hynny trwy fyned i lwybr Cannwyll Gorff a'i chyffwrdd. Dychwelai'r dyn hwnnw o Lanidloes i Langurig ar noswaith dywyll ac ystormus, a chyn gryfed oedd y gwynt a'r glaw a luchid i'w wyneb ag iddo fethu â gweled y Gannwyll a ddeuai i'w gyfarfod. Ni allodd ochel ei llwybr a lladdwyd ef ar drawiad. Tybir yn gyffredin dynnu o Borrow lawer ar ei ddychymyg yn ei wahanol lyfrau, ond dysg Theodore Watts-Dunton, a wyddai yn dda am yr awdur a'i waith, y gellir dibynnu ar yr hanesion a geir yn Wild Wales. Boed hynny'n wir neu beidio, gwn fod ei ddisgrifiad o'r daith o Ddyffryn Castell i Bumlumon yn fanwl gywir, oblegid cerddais yr un llwybrau a gwelais yr un golygfeydd fwy nag unwaith. Gellir yn ddiamau gredu i'r dyn adrodd yr hanes fel y ceir ef gan Borrow.
Yn y flwyddyn 1923, ysgrifennodd Mr. Thomas Richards, ysgolfeistr Pont-ar-Fynach, i'r Welsh Gazette gyfres o ysgrifau gwerthfawr ar lên gwerin yr ardal, ac yn rhifyn Mehefin 7, dyry hanes Cannwyll Gorff a siglodd gryn lawer ar ei anghrediniaeth. Dywaid iddo ef erioed wawdio'r gred yn y Gannwyll hyd oni ddaeth amgylchiadau i newid ei farn a'i deimlad. Un nos Lun, ymwelwyd ag ef gan Mr. O. P. Williams, athro ysgol Cwm Ystwyth, a rhwng naw a deg o'r gloch hebryngodd ei gyfaill tua'i gartref cyn belled â Gwarfelin, ac yna edrych yn ôl i weled a oedd golwg am gerbyd Cwm Ystwyth yn dychwelyd o farchnad Aberystwyth. Er eu llawenydd, gwelent olau cerbyd yn tynnu i fynu i'r fan y troir i Ddolgrannog. Yn y man collwyd y golau mewn trofa. Disgwyliwyd ei weled eilwaith, eithr ni welwyd ef mwy. Y dydd Sadwrn dilynol yr oedd Mr. Richards a'i briod ar eu taith i Gwm Ystwyth, a phan ddaethant gyferbyn â Botgoll, ar yr hen ffordd uchaf, gwelent angladd yn hollol ar y fan y gwelwyd y golau y nos Lun flaenorol. Ar ôl holi, cafwyd mai claddedigaeth Miss Paul, Goginan, merch y Capten Paul, ydoedd, ar ei ffordd i Eglwys Newydd.
Tua phum mlynedd ar hugain yn gynhyrach ar oes Mr. Thomas Richards, preswyliai yng Nghwm Ystwyth gariwr adnabyddus o'r enw William Burrell, y Bryn. Cadwai Burrell gerbydau i gario pobl i farchnadoedd a ffeiriau. Pob dydd Sadwrn llogai Mr. Richards a myfyrwyr eraill gerbyd Burrell i'w dwyn i Aberystwyth ar gyfer dosbarthiadau yn y Brifysgol. Un nos Sadwrn, oherwydd bod arholiad, methwyd â chychwyn adref onid oedd yn un ar ddeg o'r gloch, a thuag un o'r gloch y bore, a hwy'n cerdded y rhiw hir o Fwlch-heble i gyfeiriad Llaindegugain, llithrodd y gyrrwr at y myfyrwyr a oedd y tu ôl i'r cerbyd, a gofyn a welwyd gan rai ohonynt olau yn symud o flaen y cerbyd. Ni welsai neb y golau, a cheisiwyd darbwyllo'r gyrrwr mai ei dwyllo a gafodd gan adlewyrchiad o oleuni llusern y cerbyd. Eithr ni thyciai dim. Mynnai ef weled ohono olau dieithr. Y dydd Llun dilynol, lladdwyd Mr. Burrell gan geffyl yn Aberystwyth, ac aed â'i gorff i'w gartref y noson honno yn ei gerbyd ef ei hun. Gofyn Mr. Richards, "Yn awr, beth am y golau a welodd? [1]
Credid yn y Gannwyll Gorff trwy bob rhan o Gymru gynt, ac efallai y gwneir hynny o hyd gan bobl oedrannus. Dywaid "Cymru Fu ": "Y mae'r 'canwyllau' hyn i'w gweled hyd y dydd hwn ym Môn, Dyfed, Dyffryn Clwyd ac iseldiroedd Maldwyn."[2] Ond nid ychwanegir yma fwy na dau hanesyn a gefais gan bersonau sydd eto'n fyw, y naill gan y Parchedig Joseph Jenkins, llenor ac awdur adnabyddus, a'r llall gan Mr. E. Lloyd Jones, King's Cross, Llundain.
Ar nos dywyll, a hi'n hwyr rhwng un ar ddeg a deuddeg, dychwelai John Benjamin o garu merch yng Nghwm Ystwyth trwy goed Hafod Uchdryd, Caredigion, a phan gyrhaeddodd y ffordd sydd rhwng y plas a'r Eglwys Newydd, gwelai olau gwelw-las yn dyfod i'w gyfarfod. Rhag ei weled a'i adnabod neidiodd dros y clawdd a sefyll i wylio'r golau. Pan ddaeth y golau hyd ato, gwelai er ei syndod gapten gwaith mwyn yn yr ardal â channwyll wedi ei sicrhau ar ei het galed, yn ôl arfer y mwynwyr. Cerddodd y capten heibio yn syth, â'i lygaid yn gaeedig, i gyfeiriad Eglwys Newydd. Aeth John Benjamin yn oer a llesg a chrynedig gan ddychryn. Trannoeth yn y gwaith adroddodd John yr hanes wrth John Jenkins, tad y Parchedig Joseph Jenkins. Credai'r ddau John y gellid disgwyl rhyw aflwydd ynglŷn â'r gwaith neu gartref rhywun a weithiai ynddo. Ymhen ychydig ddyddiau lladdwyd y capten drwy ddamwain yn y gwaith. Teithiodd yr angladd i fynwent Eglwys Newydd ar hyd ffordd y golau a welodd Mr. Benjamin. Bu Mr. John Jenkins fyw hyd 1925, a thystiai y credai John Benjamin mewn Cannwyll Gorff cyn gryfed ag y credai yn ei Feibl. Y mae'n lled debyg y credai Mr. Jenkins yntau felly. Ym mis Ebrill, 1929, cefais gan Mr. E. Lloyd Jones, Llundain, hanesyn diddorol a wahaniaetha beth oddi wrth hanesion cyffredin am y Gannwyll Gorff. Nos Sul, Ionawr n, 1918, cydgerddai dwy eneth ieuanc, Miss ---------------, Hafodgau Uchaf, a Miss -----------, Pantyrhedyn, i'w cartrefi o oedfa yng nghapel Pontrhydygroes. Cyn ymadael â'i gilydd safasant am ychydig i ymgomio, ac yn sydyn gwelent olau dieithr yn myned heibio ac yn tynnu at Bantyrhedyn. Aeth y ddwy yn fud gan ofn, a brysio i'w cartrefi. Yr oedd yn amhosibl esbonio'r golau, oblegid bod myned i dŷ yn anghyson ag arfer Cannwyll Gorff, canys ei deddf hi ydyw dyfod 0 dŷ i fynwent. Yn fuan daeth gwybodaeth weled o lawer y golau yn teithio o orsaf Ystrad Fflur i Bontrhydygroes, pedair milltir o daith.
Yr oedd John Evans, mab Pantyrhedyn, yn gweithio ar y pryd ym Morgannwg, ac yn Ionawr, 1918, bum niwrnod wedi gweled y golau, bu farw trwy ddamwain yn y gwaith. Daethpwyd ag ef i'w hen ardal i'w gladdu, a theithiwyd o orsaf Ystrad Fflur filltir heibio i'r fynwent i Bantyrhedyn, i orffwys tros y nos yn yr hen gartref. Yr oedd y ddwy ferch a welodd y golau yn fyw yn 1929. Yn ei lyfr ar Ofergoelion, dywaid y Doctor William Howells y credid yn gyffredin yng Nghymru gynt mai merthyrdod un o hen esgobion Tyddewi oedd achos cyntaf cynnau'r Gannwyll hon. Tra llosgai corff yr Esgob, gweddïai am i Dduw beri gweled y golau o flaen marwolaeth pawb, yn dystiolaeth ddarfod iddo ef farw yn ferthyr.[3] Y TOILI. Yn ôl y gred gyffredin gynt, un o arwyddion sicraf marwolaeth oedd y Toili. Gwelid ef gan gannoedd, a hynny yn aml yn yr hen amser. Ceid y goel trwy Gymru gyfan, eithr tan enwau gwahanol. Dywedai'r Canon D. Silvan Evans mai'r enw a roid arno mewn rhannau o Ddeheudir Cymru oedd Tolaeth neu Dolaeth, a thybiai ef mai llygriad o Tylwyth ydyw. Yn Sir Gaerfyrddin, Toili a ddefnyddir, a'r un gair, wedi newid y llythyren o am a geir mewn rhannau o Sir Aberteifi. Enw ar ysbryd claddedigaeth ydyw. Tua thrigain mlynedd yn ôl, peth digon cyffredin ydoedd cyfarfod yn y nos ag ysbryd claddedigaeth, ac er mai eithriad yw ei gyfarfod yn awr, gwn am rai sydd eto'n fyw a gafodd y fraint, a gwn am eraill nas gwelsant a gred yn gryf ynddo. Efallai—pwy a wyr?— fod y Toili ar ein llwybrau eto'n awr, ond ein bod ni gan gymaint ein goleuni yn methu â'i ganfod.
Pan oedd Twm o'r Nant yn cadw Tyrpeg yn Llandeilo Fawr, ar y ffordd i Nantgaredig a Chaerfyrddin, gwelodd ef y Toili ac amryw bethau hynod eraill. Gwell fydd rhoddi ei eiriau ef ei hun. "Ni a fyddem yn gweled llawer yn y nos yn myned trwodd heb dalu; sef y peth a fyddent hwy yn ei alw y Gyheureth neu ledrith; weithiau hersiau a mourning coaches, I ac weithiau angladdau ar draed, i'w gweled mor I amlwg ag y gellir gweled dim, yn enwedig liw 'nos. Mi welais fy hun ryw noswaith, hers yn myned trwy'r gate, a hithau yng nghauad; gweled y ceffylau a'r harneis, a'r hogyn postilion a'r coachman, a'r siobau rhawn fydd ar dopiau hers, a'r olwynion yn pasio'r cerrig yn y ffordd fel y byddai olwynion eraill; a'r claddedigaethau yr un modd, mor debyg, yn elor ac yn frethyn du, neu os rhyw un ieuanc a gleddid, byddai fel cynfas wen; ac weithiau yn gweled canwyll gref yn myned heibio."[4]
Un nos dywyll yr oedd Mr. David Morgan yn tynnu at ei gartref ym Manc-y-Môr, Cnwch Coch, a thybiai glywed sŵn cerdded torf gref o gyfeiriad tŷ a oedd gerllaw, a elwid Llain. Yn fuan daeth canu wylofus-canu ar yr hen emyn, " Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau." Yn crynu gan ofn, aeth Mr. Morgan i'w dŷ cyn gyflymed ag y medrai, a hysbysu'r teulu o'r hyn a glywsai. Cynghorwyd ef i alw gŵr y tŷ nesaf. Aeth y ddau i gyfeiriad y canu, a chael mai Toili oedd yno yn llenwi'r ffordd. Blwyddyn i'r diwrnod hwnnw claddwyd gwraig y Llain, ac aeth yr angladd ar hyd yr un ffordd gan ganu " Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau." Ÿ mae Mr. David Morgan yn fyw yn awr, a chefais yr hanes yn 1921 gan ei ferch, Mrs. J. E. Jones, Aberystwyth.
Y mae hanes a adroddai'r Parchedig Joseph Jenkins yn 1929 yn sôn am beth cyffelyb. Yn hwyr ar nos dywyll dychwelai Thomas Morgan, Tan-yr-allt, Pontrhydygroes, o dŷ un o'i gymdogion. Cerddai ganol y ffordd rhag taro'r cloddiau. Yn sydyn, teimlai ei wasgu i'r clawdd gan bwysau rhywbeth anweledig. Clywai sŵn fel sŵn torf yn myned heibio, eithr ni welai neb. Er pob ymdrech nid oedd fodd ymgadw rhag y clawdd, a lled-orweddodd hyd oni ddarfu'r sŵn a myned o'r dorf heibio. Ar ôl ei ryddhau a cholli peth o'i ofn, gwybu gyfarfod ohono â Thoili. Ymhen ychydig ddyddiau aeth angladd y ffordd honno, ac adnabu Thomas Morgan y sŵn a glywsai pan wasgwyd ef i'r clawdd. Er clywed o Mr. Jenkins yr hanes amryw droeon pan oedd yn fachgen, metha â chofio enw'r person a gladdwyd.
Nid oes fwy na thrigain mlynedd er pan âi Marged Humphreys, Cnwch Coch, un noson, i lawr drwy Lôn Harri i Lanfihangel-y-Creuddyn. Ar ben Lôn Harri cyfarfu â Thoili, a bu bron a mygu gan wasgu'r dorf. Adnabu Marged yr elorgerbyd a'r gyrrwr, ac wrth ei ochr gwelai'n eistedd ŵr Troed Rhiw Bwba. I Benllwyn, gerllaw Aberystwyth, y perthynai’r elorgerbyd. Ymhen ychydig wythnosau yr oedd Marged yng nghladdedigaeth gwraig o'i hardal, a gwelai yno yr un cerbyd a'r un personau ag a welsai yn y Toili ar ben Lôn Harri. Cefais yr hanes hwn yn 1920, gan wraig ddeallus a oedd yn byw yn Aberystwyth.
Y mae'r hanesyn a ganlyn a gefais gan y Parchedig John Humphreys (Wmffre Cyfeiliog) yn perthyn i'r un dosbarth. ≥ "Stori Drychiolaeth yw hon, wedi ei hadrodd i mi'n bersonol gan y person a welodd ac a glywodd. Rhys Evans oedd ef, a aned ac a fagwyd yn Eglwysfach, Ceredigion. Bu fyw wedi hynny ym Machynlleth, a phan adnabûm i ef yr oedd yn flaenor gyda'r Wesleaid yn Ynysybwl. Morgannwg.
"Dyn ieuanc ydoedd pan ddigwyddodd y pethai a adroddai wrthyf, ac yn 'cadw cwmni' â merch a wasanaethai yn ffermdy Caerhedyn, ryw filltir dda o'i gartref, ar odre'r pentref ar fin y ffordd o'r Cei sydd islaw Castell Glandyfi.
"Un noson yn hwyr iawn, dychwelai o garu yng Nghaerhedyn. Gwyddai fod llong fechan yn y Cei ar y pryd yn llwytho barc. Pan oedd ar ei ffordd adref, ac ar gyfer y Cei, clywai ganu yn y cywair lleddf. Ac yntau'n gwybod yr arferai morynion y Castell ddyfod i lawr weithiau i dreulio noson lawen gyda'r morwyr, tybiodd mai felly yr oedd y noson hon, a gwaeddodd: ' Ewch adre'r tacle yn lle cadw pobl yn effro ganol nos fel hyn.' Ni ddaeth un ateb. Yna clywai sŵn megis lliaws yn ymsymud, a gwelai rith tyrfa fechan yn cyfeirio at y ffordd fawr ar hyd ffordd gul a arweiniai o'r Cei. Ni wyddai yn ei fyw pa beth i'w wneuthur. Gwelai, os âi yn ei flaen, y byddai'n sicr o gyfarfod yr hyn a oedd yno, a daeth ofn a chryndod arno. Yr oedd yn tynnu at ganol nos, a'r wlad tan dawelwch dwfn ag eithrio sŵn cerdded yr orymdaith fach. Petrusodd a sefyll, ac yna symud megis o'i anfodd. Fel y dynesent at ei gilydd, gwelai yn eglur mai Toili oedd yno. Wedi dyfod yn agos, clywai'r arch yn gwegian ar yr elor. Dechreuodd y canu eilwaith, canu tyrfa wan a chanu wylofus. Dilynodd yntau r orymdaith tu draw i'w gartref a thrwy'r pentref hyd at lidiart y fynwent. Yr oedd rhyw drymder llethol yn yr awyr, a phawb yn symud yn araf a mud. Ymhen ysbaid gwelai'r eglwys, ac yr oedd yn llawn golau. Er ei syndod a'i fraw, gwelai hefyd olau yn ei gartref ef ei hun, a bu bron a syrthio. Galwodd yn uchel ar ei fam a cheisio ganddi ddiffodd y golau, oblegid clywsai od âi dyn i'r golau ar ôl gweled ysbryd, y llewygai a myned fel marw. Pa fodd bynnag, nid oedd y gweiddi i ddim pwrpas. Cysgai'r fam yn drwm a methwyd â'i deffroi. Teimlai Rhys Evans druan, yn ei ddychryn mawr, nad oedd dim yn aros iddo namyn mentro i'w gartref. Aeth i mewn, a'r munud hwnnw, yn y golau, syrthiodd i lewyg. Ni wybu fyth pa fodd y llwyddodd i ddringo i'r llofft ac i'r gwely.
Yn fuan ar ôl y weledigaeth hon, daeth i'r Cei un o'r llongau bychain am lwyth o farc. Arferid cario beichiau trwm o'r barc o'r tir i'r llong, yr hyn oedd waith caled. Un diwrnod, a hwy yn llwytho, syrthiodd bachgen ieuanc o Wyddel tan ei faich rhwng y llong a'r Cei, a boddi. Galwyd gweinidog Wesle o Fachynlleth i wasanaethu yn yr angladd. Canwyd ar fwrdd y llong fach, a digwyddodd popeth fel y rhagddangoswyd gan y Toili," Nid oes dim yn fwy o werth mewn llên gwerin na phendantrwydd, Pan geir hanes â'r enwau a'r dyddiadau a berthyn iddo yn bendant, dylid diogelu'r hanes hwnnw. Pwysig hefyd ydyw hanes a gredir fel ffaith sicr gan bersonau sy'n awr yn fyw, ac nid gan rai a fu farw ganrif neu ddwy yn ôl. Perthyn yr holl nodweddion hyn i'r hanesyn a ganlyn, a gefais gan Mr. Evan Jones, King's Cross, Llundain, Gorffennaf 3, 1929.
Milltir dda i'r deau o Bontrhydygroes, Ceredigion, ffìnia â'i gilydd ffermydd Hafodgau Uchaf a Phantyffynnon Uchaf. Yn yr haf pawr y gwartheg ar y mynydd, ac weithiau crwydrant tan bori filltir neu ragor oddi wrth y tai. Un min nos anfonwyd Mr. Evan Jones, mab Hafodgau, a Mr. John Jenkins, mab Pantyffynnon, i gyrchu'r gwartheg i'w godro. Cafwyd y gwartheg, ac a'r ddau fachgen ar gychwyn yn ôl, safent ar fryncyn a elwir Pencwarel, yn wynebu cors eang a ymgyfyd yn raddol at odre mynydd yr ochr bellaf oddi wrthynt. Ar ucheldir yn y fan honno yr oedd lluesty bychan o'r enw Seren, lle preswyliai hen ŵr o'r enw William Thomas a oedd yn wael ei iechyd ers peth amser. Yn sydyn ac annisgwyliadwy, clybu'r bechgyn o gyfeiriad y Seren ganu wylofus ar yr hen emyn, "Bydd myrdd o ryfeddodau." Edrychodd y ddau ar ei gilydd, ac yna i gyfeiriad y canu, a gweled clwstwr o bobl yn symud yn araf oddi wrth y tŷ. Dychrynwyd y llanciau, ac yn eu hofn rhedasant y gwartheg i'w cartrefi. Deallodd y mamau wrth y godro redeg ohonynt y gwartheg, ac wedi beio a holi, adroddwyd wrthynt yr hyn a glywyd ac a welwyd. Ymhen pythefnos bu farw William Thomas, Seren, a dydd y claddu yr oedd y ddau fachgen yn dystion eilwaith o'r pethau a glywyd ac a welwyd y min nos hwnnw o Bencwarel.
Digwyddodd hynny tros ddeugain mlynedd yn ôl, ond y mae Evan Jones a John Jenkins yn fyw heddiw, ac yn credu yng ngwirioneddolrwydd y weledigaeth a gawsant cyn gryfed ag y credant mewn unrhyw beth.
Mynnai llawer gynt roddi coel ar yr hyn a elwid Tolaeth neu Dolaeth fel arwydd sicr o farwolaeth. Sŵn traed neu gerbydau, neu guro byrddau, neu ganu clychau ganol nos, ydoedd Tolaeth. Clywodd yr hen bobl bethau rhyfedd, ac o wrando ar dystiolaeth rhai mewn oed pan oeddem ni'n blant, y mae'n anodd i ninnau beidio â chredu mewn rhyw fath o arwyddion, oblegid, hyd y gwelaf fi, nid oes yn awr fawr neb yn rhagori o ran na dealltwriaeth na diwylliant na geirwiredd ar y genhedlaeth o'r blaen. Mor anodd yw amau person oedrannus a ddywaid iddo droeon glywed drymder nos guro gweithio arch cyn marwolaeth cymydog? Amryw flynyddoedd yn ôl bu farw modryb i mi ym mhentref Taliesin, ac yr oedd yn wraig ddeallus a phwyllus a geirwir. Ni wn i am ragorach modryb gan neb. Clywsai hi'r curo yn fynych, a soniodd wrthyf am y peth droeon. Preswyliai heb fod ymhell o weithdy John Dafis, y saer, ac yn aml deuai iddi ganol nos o'r gweithdy, ychydig ddyddiau cyn marwolaeth un o'r pentrefwyr, sŵn gweithio'r arch.
Sŵn ydoedd y Cyheuraeth yntau, eithr sŵn yn yr awyr liw nos. Disgrifir ef fel ysgrechian gwyllt, ac weithiau fel griddfan un ar ddarfod amdano. Ni welid Cyheuraeth un amser; peth i'w glywed yn unig ydoedd.[5] Rhydd y Parchedig Edmund Jones enghreifftiau yn ei lyfr hynod o ymddangosiad ysbrydion, canhwyllau cyrff a'r cyheuraeth, neu un ohonynt, ym mhob sir yng Nghymru, a dysg fod i'r Gannwyll a'r Cyheuraeth wasanaeth gwerthfawr a phwysig. Y mae, meddai ef, y naill yn dystiolaeth i'r llygad a'r llall i'r glust o fodolaeth ysbrydion ac anfarwoldeb yr enaid.
CŴN WYBR, NEU CŴN ANNWN. Ymddengys bod unwaith gred yr ymlidid yr enaid, ar ei ymadawiad o'r corff, yn yr awyr gan gŵn marwolaeth. Rhai bychain llwytgoch oeddynt, ac wedi eu rhwymo â chadwyn, a'u harwain gan ryw fod corniog. Y traddodiad ydoedd yr anfonid hwy o Annwn i geisio cyrff, ac y dilynent farwolaeth yn ôl eu swydd. Gwelai cŵn y ddaear hwy a dychrynu. Hyn oedd y rheswm am yr udo a glywai dynion yn y nos. Gwyddai oes y Parch. Edmund Jones, y Trans, yn dda am y Cŵn Wybr.[6] GWENYN YN RHAGFYNEGI. Rhoddid unwaith goel gref ar wenyn a'u harferion. Hwy a roddai un o'r arwyddion cyntaf o farwolaeth y penteulu, naill ai drwy iddynt oll farw yn y cwch neu ynteu gilio ohono. Y mae yn y Llyfrgell Genedlaethol lawysgrif nad yw'n hen a rydd yr hanesyn hwn. " Tua deugain mlynedd yn ôl bu farw gwenyn dau gwch a berthynai i dŷ yn Nyffryn Clwyd, ac yn fuan wedyn bu gŵr y tŷ (a oedd yn amaethwr ar radd eang) farw. Hyd y dydd hwn y mae'r cychod hynny yn wag, a'r mynedfeydd iddynt wedi eu cau, rhag i wenyn eraill fyned iddynt a gwneuthur tro cyffelyb â'r teulu. Y penteulu presennol yw mab y meistr a fu farw."[7]
Ni wn am neb a gâr Ganu Ceiliog ganol nos. Y mae rhywbeth annaturiol ynddo, ond o brin y gellir credu mai gwybodaeth oruwchnaturiol sydd wrth wraidd ei ganu. Eithr nid creadur cyffredin mo'r ceiliog, a theimla yntau hynny. Mor fonheddig y brasgama'n uchel ac esmwyth, a'r fath her sydd yn ei ganu croch! Cystal gennyf "Geiliog Pen-y-Pas" yr Athro Parry-Williams â dim sydd yn ei Ysgrifau.[8] Od oes ddiffyg, dyna yw hwnnw, peidio â sôn am fri ei ddawn broffwydol yn nyddiau'i nerth. Pair holl osgo ceiliog gredu ei fod o radd uwch na'r sawl a fo'n edrych arno, a bod yn ei feddwl balch gyfrinachau na ddaethant erioed i feddwl dyn. Dyna, efallai, seiliau ffydd y wlad yn ei allu i ragfynegi marwolaeth. Credid gynt, a chredir yn awr gan lawer, fod canu ceiliog drymder nos yn arwydd difeth o farwolaeth rhywun. Pe gwelid y ceiliog tra cân, gellid yn lled agos enwi'r person a elwir nesaf i'w gyfrif, oblegid y mae pig y ceiliog bob amser yng nghyfeiriad preswylfod hwnnw. Deugain mlynedd yn ôl deffrowyd Dafydd Rodrig, Tan'rallt," Taliesin, ar hanner nos gan y canu, ac yn ei ddychryn galwodd ar y forwyn o'i gwely i edrych i ba gyfeiriad yr oedd pig y ceiliog. Nid oes neb a gâr ganu ceiliog liw nos. Paham, tybed? Llawer ceiliog gwych, ac o dras uchel, a ddienyddiwyd oherwydd ei ganu anamserol.
CI YN UDO. Gwaith hawdd i'r sawl a gred yng ngallu ceiliog yw gweithredu ffydd yng ngwybodaeth a doethineb ci, oblegid o'r holl anifeiliaid, nid oes fwy na dau sydd cyn galled ag ef. A phwy a adwaen ddyn yn well, ac a deimla gymaint o ddiddordeb ynddo? Peth rhesymol yw rhoddi coel ar arferion cŵn, ac os credir yn ofer weithiau, ni ddaw i'r cŵn na neb arall niwed o hynny. Credai'r tadau, a chred llawer o'u plant eto, mai peth anffodus a difrifol i'r eithaf ydyw udo ci ar ôl machlud haul. Ni chyfarfûm i erioed â neb yn unman, na doeth nac annoeth, a hoffai udfa ci wedi nos.
Gwelais roddi tri rheswm tros udo'r ci,—1, Gall ci weled ysbryd a'i ofni; 2, Mor dreiddgar yw ei arogli fel y gŵyr pan ddynesa marwolaeth; 3, Mor graff yw ei welediad fel y gwêl angel marwolaeth.[9]
Nodiadau
[golygu]- ↑ The Welsh Gazette (Aberystwyth), Mehefin 7, 1923.
- ↑ Cymru Fu, td. 297.
- ↑ Cambrian Superstitions, William Howells (1831), td. 60.
- ↑ Twm o'r Nant, (Cyfres y Fil) (1909) (Cyf. I.), td. 20.
- ↑ Yr Hynafion Cymreig Peter Roberts (Cyf. H. Hughes, 1823), td. 221.
- ↑ Welsh Folklore and Folk Custom, Yr Athro T. Gwynn Jones (1930), td. 203,
- ↑ Llyfr. Gen., Llsgr. 5654.
- ↑ Ysgrifau, Yr Athro T. H. Parry-Williams (1928), td. 24.
- ↑ 1 Llyfr. Gen., Llsgr. 5653.