Cymru Fu/Arwyddion Angeu
← Llewelyn, ein Llyw Olaf | Cymru Fu Arwyddion Angeu gan Isaac Foulkes Arwyddion Angeu |
Rhys Grythor → |
ARWYDDION ANGAU.
(OFERGOELION.)
BEIIR ni, mae'n ddiamheu, gan ddynion bychain crebachlyd eu meddyliau, am roddi ar gof a chadw rhyw Ofergoelion fel y rhai hyn ; pan yn anwybodus buasem ninau yn cydweled â hwynt. O'r ochr arall, pe gadawsem y gorgredoau allan, nid ystyriasai y gwybodus a'r deallgar ein Cymru Fu yn gyflawn hebddynt; gan mai y dull goreu i adnabod ansawdd wareiddiol a chymeriad deallol pob oes a chenedl ydyw gwybod pa bethau a gredid ganddynt. Hyd derfyn y ganrif ddiweddaf, credai tua naw o bob deg o'n cenedl mewn ofergoelion a rhagarwyddion mor gadarn ag y credent yr Efengyl ei hun; ac ystyrient y sawl a amheuai ddilysrwydd y cyfryw bethau yn ddim gwell nag Atheist. Yn wir, ychydig o flynyddau yn ôl, gan ddosparth lluosog o'n cydwladwyr, ystyrid pob dyn ychydig callach na'r cyffredin fel mewn cyfathrach â'r diafol, ac yn ddyledus i'w fawrhydi Satanaidd am eu rhagoriaeth mewn dysg a gwybodau. Felly yr ystyrid y Dr. John Dafydd Rhys Dr. John Cent, yr Archddiacon Prys, Huw Llwyd o Gynfal, ac yn bendifaddau y Dr. W. Owen Puw; ac ni bu erioed hen fechgyn glanach eu moes, a phurach eu dybenion, tra y chwarddent yn braf am ben mympwyon gwrachod a chorachod safnrhwth eu hoes. Ond clywsom ddynion gwybodus, dynion diarhebol am eu geirwiredd a'u duwioldeb, yn dweyd yn y dull mwyaf pendant eu bod wedi gweled gweledigaethau, a chlywed clywedigaethau, nad oedd modd eu priodoli i ddim cyffredin a naturiol. Wrth wrando ar y gwŷr geirwir hyn yn dweyd eu profiadau gyda'r rhan ysprydol o'r greadigaeth, ymgodai yn ein meddwl bob amser y cwestiwn. Tybed fod rhy w wyddon gywrain mewn ysprydiaeth nad ydym ni eto yn ei deall? Tybed fod cymundeb cymdeithasol rhwng yspryd ag yspryd dignawd, nad ydy w'r ysprydion mewn cnawd wedi ei chwilio allan? Beth am y cydgyfarfyddiad rhyfedd a gymerant le rhwng meddyliau a meddyliau pan byddo'r corph yn absennol? Beth am freuddwydion?
Gyda hyn o ragymadrodd, ni a awn yn mlaen i gofnodi yr Arwyddion Angau a gredid gan ein cyndadau, heb roddi ein gair tros ddilysrwydd y naill na'r llall o honynt: -
1. Canwyllau Cyrph. Math o oleuni nwyol yn tarddu oddiar leithder a llygredd oedd y "canhwyllau" hyn; fel yr Ellylldan (Jack-a'- Lantern) yn codi oddiar gors afiach. Y mae yn ddirgelwch pa fodd y priodolwyd erioed grwydradau direol y goleuni hwn i ragflaeniad marwolaeth, ac y galwyd hwynt yn" Ganiwyllau Cyrph. " Ond dyna'r ffaith. Pobl Dyfed pan ganfyddent y llewyrch (annaturiol, yn eu tyb hwy), yn ymlithro ar hyd rhyw ffordd neu lwybr, a benderfynent yn y fan y byddai corph un o'u cymydogion yn myned ar hyd yr unrhyw ffordd neu lwybr yn bur fuan. Clywsom y chwedlau anhygoelaf a ddisgynasant ar ein clustiau erioed am y Lampau Lledrithiog hyn. Dywedid y byddent yn amrywio yn eu maintioli yn ôl oed a maintioli yr hwn y rhybuddient ei farwolaeth. Fel hyn: - yr oedd "cannwyll" baban yn debycach i fagïen nag i gannwyll; tra y byddai "cannwyll" gŵr yn mlodeu ei ddyddiau yn cynud yn fawr fel fflam o goelcerth anferth. "Canwyll" wen a âi o flaen menyw, ac un goch a ragflaenai wryw. Dy wedid na byddent yn cerdded ar nosweithiau gwlybion; ond ar dywydd sych a thesog, gwelid hwynt mor aml â gwybed min nos yn Ngorphenaf. Canfyddid hwynt ar brydiau yn y fynwent yn tan heidio uwch ben y bedd a agorid ar fyrder. Y cyfryw oeddynt y rhamantau dieithr a goelid yn Nyfed, ac mewn mannau eraill o ran hynny, hyd ddechreu y ganrif hon, ac nid oedd y cwbl ond natur yn llosgi ei phydredd ei hun - trydan yn d'od i gyffyrddiad a'r nwy anmhur yn y gors a'r fynwent, a hwnnw we'di tanio yn aros yn llonydd neu yn cerdded o gwmpas wrth drugaredd y gwynt. Y mae'r "canhwyllau" hyn i'w gweled hyd y dydd hwn yn Môn, Dyfed, Dyffryn Clwyd, ac isel- diroedd Maldwyn; ond o drugaredd, ni frawychir y trigolion ddim mwy wrth edrych arnynt nag wrth edrych ar lewyrn (meteor), "syrthiad seren," yn nhŷ byr hen bobl.
2. Yr oedd sŵn, tebyg i sŵn cloch yn y glust yn arwydd sicr o farwolaeth; a digwyddai'r alaeth bob amser yn y cyfeiriad y digwyddai'r glust fod ar y pryd. Yn yr amser gynt hefyd, byddai cloch y llan yn dra gwasanaethgar fel rhybuddiwr, dywedai fod amser ymddatodiad rhai o'r plwyfolion parchus a chyfrifol gerllaw trwy roddi tri thinc o honni ei hun, a hynny yn nghefn trymaf y nos. Hynodid cloch Blaenporth, yn Ngheredigion, yn arbenigol yn hyn o beth. (Brython, cyf.v. tudal. 225). Rhyw ddiaspad prudd, prudd, prudd, oedd y tri chlul hynny, digon a pheri i ffŵl haf dori ei galon a marw o'r melancoli.
3. Cwn Annwn, neu Gwn Bendith y Mamau. Barna y Parch. O. Jones, Manchester, mai llygriad o gwn lledrithiog Pwyll Pendaran Dyfed, y sonnir am danynt yn y Mabinogion Cymreig, ydynt y Cwn Annwn. Ychydig a wyddis am danynt yn y cymeriad o Rybuddion. Dywed y Parch. Edmwnt Jones o'r Transh, (dyna'r dyn mwyaf ysprydol y cawsom ni erioed y fraint o ddarllen ei waith; y mae Swedenborg yn anhraethol islaw iddo) am y Cwn hyn, mai" Po agosaf i ddyn y byddont, lleiaf a fydd eu sŵn; a pho bellaf, uwchaf a fydd, gan ymchwyddo weithiau fel udfa bytheuad, neu waedgi mawr." Llafar Gwlad, a dyma'r safon ar hynciau o'r natur yma, a ddywed fod eu hudiadau yn annhraethadwy grasach a chrasach nag oernadau bleiddiaid rheibus. Bydd Vox populi yn son am danynt, wrth y tân mawn ar hirnos gauaf, fel haid o gwn duon bychain tan lywyddiaeth rhyw lymangi mawr cymaint ag eidion pum' mlwydd. Udent fynychaf mewn croesffyrdd a'r mannau mwyaf cyhoeddus. Yr oedd yn beryglus erchyll sefyll ar eu llwybr, gan y brathent yn gynddeiriog, ac yr oedd eu brathiadau yn angheuol. Weithiau ymgynullent yn un haid gethernus at fedd yr hwn y rhagflaenent ei farwolaeth, ac wedi udo a chwynfan yn y lle am gryn amser ymsuddent i'r ddaear, ac nis gwelid hwy mwy. A dyna Gwn Annwn.
4. Ond yr arch-ddrychiolaeth oedd yr hon a elwid y Teulu. Pobl Dyfed bron yn unig oeddynt wedi eu breintio a llygaid i ganfod hon hefyd. Darlun ysprydol cyflawn ydoedd o'r angladd a gymerai le. Pawb a phopeth yn ysprydol yn ei briodol le a'i swydd. Yspryd ceffyl yn tynnu yspryd hearse, yn mha un yr oedd yspryd arch ac yspryd y marw: ac yn caul yn ysprydion anmherffeithiedig y cymydogion wedi bod yn bwyta yn helaeth cyn cychwyn o yspryd y bara a'r caws, ac yfed yn helaeth o yspryd y cwrw brwd. Ac wedi i yspryd yr offeiriad ac yspryd y clochydd ddarllen yspryd y gwasanaeth, ac i'r holl ysprydion gydganu salm ueu emyn, a rhoddi yspryd y corph yn yspryd y bedd, a'i briddo gydag yspryd o raw, yr holl ysprydion a ddychwelent i'w cartrefleoedd. Ni fynychid y rhybudd hwn, gan ei fod braidd yn drafferthus i ysprydion fyned trwy'r ddefod fwy nag unwaith. Sonid llawer am gosb y sawl trwy ddamwain neu anystyriaeth a ymyrrent a'r Teulu ar eu taith; ond gan fod y Teulu wedi marw ni byddai'r cyfryw hanesion o unrhyw wasanaeth i'r oes hon.
5. Y Gyhiraeth. Nid drychiolaeth mo'r rhybudd hwn, eithr clywolaeth. Rhyw ddolef gras annaturiol ydoedd yn gwibio tua'r awyr yn nyfnder nos; fynychaf, uwchben croesffyrdd, a'r llwybrau y dygid y marw ar hyd-ddynt. Byddai'r cryfaf yn delwi wrth ei sŵn, y meddw yn sobri, a'r tyngwr yn syrthio ar ei liniau i weddïo. Y mae pob lle i gredu nad ydyw'r Gyrhiraeth wedi ymadael â Chymru hyd y dydd hwn, ond yn aderyn y ceir ef yn bresennol wrth yr enw Coblin y coed (Woodpecker).
Chwanegwn y rhybuddion canlynol, y rhai, os na chredir hwynt, eto ydynt ar flaen tafod y Wlad hyd yn nod y dydd hwn: -
6. Dallhuan yn ysgrechian.
7. Ci yn udo.
8. Aderyn y corph yn ymguro yn erbyn ystafell wely y claf, a dyna bobpeth trosodd gyda'r truan hwnnw. Yn ôl llafar Gwlad, aderyn rhyfedd oedd hwn heb blu nac adenydd, yn crwydro drwy'r ffurfafen yn y dull mwyaf cyfrin, ac yn byw, ond pan ar negesau rhybuddiol i'r byd hwn, yn ngwlad Hud a lledrith.
9. Pren afalau yn blodeuo'n anamserol, - arwydd sicr o farwolaeth ei berchennog yn ystody tymor hwnw ydoedd.
10. Ceiliog yn nhrymder nos yn canu yn ei glwyd.
11. Iâr yn cannu fel ceiliog.
12. Breuddwydio eich bod yn mhriodas rhyw gyfaill. Sicrhai hynny y byddwch yn fuan yn ei gynhebrwng.
13. Gauaf glas, mynwent fras.
Pe gallesid rhoddi pwys ar y rhagargoelion hyn, diau mai pobl hapus fuasai'r hen Gymry, trwy y gallasent fyw mewn rhusedd eu gwala hyd oni ddaethai y "rhybudd," ac yna iawn dreulio eu hamser gweddill. Ond am danynt oll bron gellir dywedyd mai dychmygion mynachod yr oesoedd tywyll oeddynt wedi eu dyfeisio o bwrpas er cyffroi dynion i ystyriaeth o'u camweddau, a byrdra eu heinioes.
Nodiadau
[golygu]