Cymru Fu/Rhys Grythor

Oddi ar Wicidestun
Arwyddion Angeu Cymru Fu
Rhys Grythor
gan Isaac Foulkes

Rhys Grythor
Branwen Ferch Llyr


Rhyw fath gadffwl gwlad yr ystyrid Rhys, ac, fel ffyliaid yn gyffredin yn gall a chyfrwys tros ben; ac yn crwydro hyd y wlad heb yn unman gartref, a'i Grwth (math o fiddle) gydag ef, o dŷ y bonheddwr hwn i dŷ y bardd draw, o'r dafarn hon i'r dafarn acw, weithiau ar ei fferau ei hun a thro arall ar yspryd o hen geffyl y buasai'n ffitiach ei fod yn y barcdy ers blynyddoedd. Ond byddai drws agored i Rhys yn mhob man; yr oedd ei hyfder gwatwarus yn lladd pob gelyniaeth, a gorfodid y costowcaf ei dymer i ddweyd fel y dywed mam am ei phlentyn, "Mae'n ân mhosibl edrych yn ddig arno." Gymaint oedd yr alwad am ei wasanaeth ar adegau fel y byddai beirdd yn cyfansoddi rhimynnau hirion o gywyddau i "Ofyn am ei fenthyg." Cyfansoddodd William Cynwal un felly ar gais Elis Prys o Blasiolyn, i ofyn Rhys gan Sion Tudur o Wigwair; a gwae i'r Crythor byth fyned tan sylw eu hawen, Nid oedd derfyn ar ei ddawn ymadrodd, a byddai yn

Siarad yn serth drafferthus
Hwff, haf, bwff, baff, rwff raff, Rys.

Y mae dyn yn sadio ac yn sobri cryn lawer fel yr ymestynna cysgodau'r hwyr o'i gylch, ond yn ôl Sion Tudur yr oedd Rhys yn eithriad i'r rheol hon: -

Yn neuben ei fyd yn ebol — diriad,
Yn aderyn lledffol,
Yn ifanc, ffiaidd lanc ffôl;
Ac yn hen yn gynhwynol.

Ac -wedi marw a chladdu Rhys Grythor ni pheidiodd ef a bod o ddifyrrwch mawr i werin bobl Gwynedd. Ymddifyrant yn fynych wrth adrodd y chwedlau canlynol a'r cyffelyb am dano: - Rhys a ddamweiniodd fod ar noson yn Mettws Abergele, yn canu i foneddigion; ac a hwy yn nghanol ei digrifwch deuai i mewn yno un Thomas Lewis, o Lanfachraeth yn Môn, gŵr o atebion parod tebyg i Rhys. Wedi myned o honynt yn gydnabyddus o gyneddfau eu gilydd, drwy ymryson crasineb, ebai Rhys, "Pebuasai fy nhad erioed ar ei ymdaith yn Mon, dywedaswn dy fod ti yn frawd imi." "O," ebai Thomas, "nid anhaws inni fod yn frodyr er hynny, canys byddai fy nhad i yn arferol a dyfod i borthmona i'r wlad hon, ac efallai iddo daro wrth dy fam di." A dyna i Rhys slap yn ei fawd. Un ffraeth ei dafod oedd y gŵr hwn o Lanfachraeth. Nid oedd wasanaeth yn eglwys ei blwyf un tro, ac yntau a aeth i Fangor o bwrpas i achwyn wrth yr Esgob o'r herwydd, ac erfyn arno gymeryd ymaith y pwlpud, gan ei fod yn beth trwsgl diddaioni. A'r Esgob gan ddeall ei feddwl, a ddywed y gyrrai ef bregethwr iddynt. A'r Sul cyntaf y deuai, ac wrth esgyn i'r pwlpud, o fod y llawr yn gnyciog ac anwastad, tripiodd y pregethwr. Yna y dywedai Thomas, "Cymerwch ofal, syr, canys y mae ef yn wyllt iawn; ni farchogwyd mono ers blwyddyn. "Yna'r offeiriad a bregethodd yn Seisnig iddynt, ac wedi dyfod allan o'r eglwys, cyfarch gwell a wnâi y gŵr parchedig i Thomas, a gofyn iddo pa fodd yr hoffai ei bregeth; yntau a atebodd, "Yn wir mi a'i tebygwn i iâr yn magu cywion hwyaid."

Nod saethau a direidi Rhys bron bob amser oeddynt ei gyfeillion y tafarnwyr. Un tro bu yn bwyta ac yn diota mewn gwesty yn Nyffryn Clwyd am fis; ac am yspaid, mawr fyddai'r cyrchu at gwrw'r tafarnwr, er mwyn cael gweled Rhys. Tra y cymerai hyn le, yr oedd iddo groesaw mawr gan y publican a'i deulu; a dyna lle byddai'r Crythor yn chwareu nes llawenhau pob calon; ond y bobl a flinasant toc ar y ddiod sur, yn hytrach nag ar gwmnïaeth Rhys. Ac o hynny, chwerwodd tymer y tafarnwr cribddeilgar, a dechreuodd godi yn ddrud ar Rhys am ei fwyd a'i ddiod; ac ni chymerth yntau arno nad eithaf boddlon ydoedd i dalu. Siaradai, yfai, gwawdiai, fel arfer. "Wyddoch chwi beth," ebai ef wrth ei westywr un diwrnod, "y mae gan i ddyfais i groywi diod sur. "Dyna'r very peth oedd gen innau eisio. "Punt am dani?" ebai Rhys. "Boddlon. "Wel, fy nyfais ydyw rhoddi rhaff wair un-darn o gylch y baril cwrw bedwar tro, gan orchuddio'r baril bob tro, a chroywa'r ddiod suraf yn y wlad mewn dwy awr. " Awd i wneud y rhaff wair - y publican yn un pen iddi yn gollwng y gwair, a'r pechadur yn y pen arall yn troi y droell; a'r dyledwr a'r gofynnwr yn myned bellach, bellach, oddiwrth eu gilydd o hyd; a Rhys tan edrych yn sobr anwedd, yn troi ac yn troi nes y trodd o amgylch congl rhyw adeilad. Yna rhoddodd geiniog i hogyn bychan a safai gerllaw am droi yn ei le - a ffwrdd ag ef ymaith, tan ddywedyd, "Nid twyll twyllo twyllwr," a gadael y cwrw gan sured ag erioed, a thymer y gofynnwr yn lled debyg iddo, ac nid anrhydeddodd y Crythor y lle hwnnw mwyach â'i bresenoldeb.

Dro arall, Rhys mewn tafarndy bychan yn Môn, yn gofyn am lasiad o gwrw, a gwelai nad oedd nemawr ddim yn y gwydr o'i flaen ond dwr. "Rhoswch chwi," ebai ef, gan gymeryd y gwydr i'w law, "beth ydyw enw'r afon yna sy'n myn'd heibio'r tŷ hwn ? Chofiwn i yn fyw myw, ac y mae ar flaen fy nhafod i hefyd;" a chyda'r gair cymerth lwnc o'r ddiod. Bron na laddodd efe ŵr y tŷ gyda'r ergyd. Crybwyllasom y byddai ef weithiau ar ei geffyl. Ceffylau erchyll o deneuon fyddent ei geffylau, nes peri i lawer synu sut na holltasai yn ddau wrth eu marchogaeth. Anrhegion fyddent gan ryw foneddig neu gilydd i Rys, wedi iddynt dori eu gwynt, neu fod yn rhy hen i weithio. Ar un o'r bwystfilod hagr hyn, yr aeth ef un diwrnod i ffair Nefyn, a dodes ef mewn ystabl yn muarth rhyw dafarndy; yna aeth i rodio hyd y dref. Yn ei absenoldeb, daeth tri o grach-foneddwyr i'r buarth hwnw, hwythau hefyd ar feirch, y rhai a ddodwyd yn yr un ystabl â cheffyl Rhys, ar ba un yr edrychasant gyda gradd helaeth o syndod a digrifwch. “Pwy biau'r rinoseros hwn?” ebynt hwy wrth yr hostler. "Rhys Grythor," oedd yr ateb. Ac yna direidus gynllwynasant alanas ar y rinoserus, chwedl hwythau. Torasant ymaith ei fwng, a blew ei gynffon, ei amrantau, a'i glustiau, nes peri i'r hwn oedd hyll gynt yn awr yn edrych yn saith hyllach; a mawr oedd eu digrifwch a'u llawenydd oblegyd eu direidwaith. Yna aethant hwythau ymaith, a dychwelodd Rhys i'r ystabl. Holo!” ebai ef, “pwy wnaeth yr anmharch hwn ar fy Ngharnwenan (canys dyna'r enw a roddai ar ei feirch bob amser er cof am farch yr enwog Arthur) ?” “Y bonedd- wyr biau y ceffylau hyn," ebai'r hostler. “Mi a wnaf o'r goreu â hwynt," ebai ef ynddo ei hun; a chymerydei gyllell a rhwygo safnau meirch y crach-foneddigion a wnaeth Rhys. Ar hyn hwythau a ddaethant yn ol, a dechreu edliw a gwatwar i Rhys ei farch anffurfiol a diolwg a wnaethant. Yn mh'le y cefaist ti yr harddbeth hwn, Rhys?” ebai un, "'Rwyt yn rhoi gormod o fwyar duon iddo," ebai'r ail ; “Y mae pobl Caer wedi myned a'i gig oddiarno i'w werthu yn lle cig eidion, a'i rawn i wneud perwigau i'r merched,” ebai'r trydydd. Gwrandawai Rhys ar ei crasder g yda gwen gyfrwys nas gallasent hwy mo’i ddeall sut yn y byd Wel, mae yn ddigrif, mae yn ysmala," ebai'r tri ar unwaith. Ydyw," ebai Rhys, mae'ch ceffylau chwi yna wedi rhwygo eucegau wrth chwerthin am ei ben!”

Llawer o bethau cyffelyb ellid ddweyd am y Crythor, ond digon hyn i brofi ei arabedd a'i ffraethder. Yn Eisteddfod fawr Caerwys 1568, graddiwyd ef yn Ddysgybl Cerdd Dafod. Diamheu ei fod o gyneddfau cryfion annghyffredin, ond, ysywaeth fel llawer o feib talentog Cymru, o'i flaen ac o'i ol, yn claddu ei ddefnyddioldeb yn meddau'r blys.


Nodiadau[golygu]