Cymru Fu/Branwen Ferch Llyr

Oddi ar Wicidestun
Rhys Grythor Cymru Fu
Branwen Ferch Llyr
gan Isaac Foulkes

Branwen Ferch Llyr
Diarebion Cymreig


BRANWEN FERCH LLYR.

(Hen Fabinogi Gymreig.)

BENDIGAID-FRAN ab Llyr oedd frenin coronog ar yr Ynys hon, ac ardderchogid ef â choron Llundain. Ac un prydnawngwaith yr oedd efe yn Harddlech, yn Ardudwy, yn ei lys: ac eistedd yr ydoedd ar graig Harddlech uwchben y weilgi, a Manawyddan ab Llyr, ei frawd gydag ef, a dau frawd arall un-fam iddo-Nissyen ac Efnissyen, a phendefigion eraill gweddaidd o gylch brenin. Y ddau frawd un-fam ag ef meibion oeddynt i Eurosswydd a'i fam ef Penardin ferch Peli ab Manogan. Y cyntaf o'r gwyr hyn gwas da ydoedd, ef a barai dangnefedd rhwng ei deulu pan y byddant lidiocaf, sef oedd hwnw Nissyen; a'r llall a barai ymladd rhwng ei ddau frawd pan y byddent heddychaf. Ac fel yr eisteddent felly, gwelent dair llong ar ddeg yn dyfod o ddeau Iwerddon, ac y cyflym gyrchu tuag atynt, -y gwynt o'u holau yn eu nesau yn ebrwydd. "Mi a welaf longau draw," meddai y brenin "yn dyfod yn brysur i'r tir; erchwch i wyr y llys wisgaw am danynt a myned i edrych pa amcan sydd ganddynt." Felly y gwyr a ymwisgasant, ac a aethant i waered atynt, ac wedi gweled y llongau, diau oedd ganddynt nas gwelsant erioed longau cywreiniach eu hansawdd na hwynt. Hwyliau teg a gweddus o bali oedd arnynt. Ac wele un o'r llongau yn rhagflaenu y lleill, ac uwchlaw ei bwrdd gwelent ddyrchafu tarian, a swch y darian tuag i fynu yn arwydd tangnefedd. A'r gwyr a nesasant atynt fel y gallent glywed eu gilydd. Yna bwrw badau allan a wnaethant, a dyfod i dir, a chyfarch gwell i'r brenin. Y brenin a'u clybu o'r lle yr ydoedd, ar graig uchel uwch eu pen: "Nawdd Duw a chroesaw i chwi," ebai y brenin, "eiddo pwy ydynt y llongau hyn? a phwy ydyw y llywydd arnynt?" Arglwydd," ebynt hwythau, y mae Matholwch Wyddel yma, a'i eiddo ef ydynt." "Beth," ebai y brenin, "a fyn efe? a fyn efe ddyfod i dir?" "Na fyn, arglwydd," ebynt hwythau,"neges sydd ganddo â thi; ac ni lania efe oni cheiff ei neges." "Pa ryw neges sydd iddo!" ebai y brenin, "Mynu ymgyfathrachu a thi, arglwydd:" meddent hwythau, "I erchi Branwen ferch Llyr y daeth efe ; ac os da yn dy olwg, efe a fyn rwymo Ynys y Cedyrn gydag Iwerddon, fel y byddont cadarnach". "Ie", ebai X yntau, "deued i dir, a chynghor a gymerwn ninau." A dygwyd yr ateb yna at Matholwch, ac ebai, "Mi a af yn llawen." Efe a ddaeth i dir, a derbyniwyd ef yn groesawus, allawenydd mawr fuyn y llys y noson hono, rhwng ei wyr ef a gwyr y llys. Dranoeth cymerwyd cynghor, pryd y penderfynwyd rhoddi Branwen i Fatholwch; a Branwen oedd un o dair brif rian yr Ynys,—tecaf morwyn yn y byd oedd.

Neillduwyd Aberffraw fel man yr oedd hi i ddyfod yn briodferch iddo; ac aethant tuag yno,—Matholwch a'i luoedd yn eu llongau a Bendigaid-Fran a'i luoedd yntau ar dir hyd oni ddaethant i Aberffraw. Ac yn Aberffraw dechreuwyd y wledd, ac yr eisteddasant. Ac fel hyn yr eisteddent: Brenin Ynys y Cedyrn a Manawyddan ab Llyr ar y naill ochr iddo, a Matholwch ar y llall, ac wrth ei ystlys ef yr eisteddai Branwen. Nid mewn tŷ yr oeddynt, eithr mewn pebyll; nid oedd dy allai gynwys Bendigaid-Fran. A'r gyfeddach a ddechreuodd, a gloddesta ac ymddiddan y buont hyd oni welsant mai melysach hûn na gloddest; yna cysgu a wnaethant; a'r nos hono y priodwyd Matholwch a Branwen.

Tranoeth y cyfodasant, a gwyr a swyddwyr y llys a ddechreuasant drefnu a rhanu eu ceffylau, a'u rhanu a wnaethant yn mhob cyfair hyd at y môr.

Ac un diwrnod, wele Efnissyen, y gŵr anheddychol a grybwyllwyd uchod, yn dyfod i'r fan yr oedd meirch Matholwch, ac yn gofyn pwy bioedd y merch. "Meirch Matholwch, brenin yr Iwerddon, a briodes Branwen dy chwaer, ei feirch ef ydyw y rhai hyn." "Ac Felly y gwnaethant hwy a morwyn cystal a hono!—a chwaer a mi —ei rhoddi heb fy nghenad, ni allent daflu mwy o ddirmyg arnaf," ebai ef. Yna efe a wanodd y meirch, ac a dorodd eu gweflau wrth eu danedd, a'u clustiau wrth eu penau, a'r rhawn wrth eu cefnau, ac os cai graffar eu hamrantau efe a'u torodd wrth yr esgyrn, ac efea'u hanffurfiodd felly hyd onid oeddynt hollol ddiwerth.

Dygwyd yr hanes hwn at Matholwch a dywedwyd wrtho fod ei feirch wedi eu hanffurfio, a'u llygru hyd nad ellid da o honynt. "Ie," ebai un, "dy waradwyddo wnaethpwyd, a dyna yr amcan." "Os dyna yr amcan, y mae yn syn genyf pa fodd y rhoddasant imi forwyn mor urddasol ac mor anwyl gan ei chenedl a Branwen!" "Arglwydd," ebai un arall, "ti a weli pa fodd y mae, ac nid oes iti i'w wneuthur ond cyrchu i'th longau." Ac ar hyny cyrchu tua'i longau a wnaeth efe.

Pan glybu Bendigaid-Fran fod Matholwch yn ymadael â'r llys heb gymeryd ei genad, efe a ddanfonodd genadau ato i ofyn yr achos. Y cenadau hyn oeddynt, Iddic fab Anarawd, a Hefeydd Hir. Y rhai hyn wedi ei oddiweddyd, a ofynasant iddo, "Pa beth yr oedd yn ei wneuthur, a phaham yr elai ymaith?" "Diau," ebai yntau, "pe gwybuaswn ni ddaethwn yma. Cefais fy nirmygu, ni chafodd neb driniaeth waeth nag a gefais i yma."Beth yw hyny?" ebynt hwythau. "Rhoddi i'm Franwen ferch Llyr, un o dair prif rian yr ynys hon, a merch i Frenin Ynys y Cedyrn, ac wedi hyny fy ngwaradwyddo: a rhyfedd genyf na'm dirmygesid cyn rhoddi imi y rhian ardderchog "Diau, arglwydd," ebynt hwythau, "nad o fodd neb yn y llys, nac yn y cynghor, y gwnaed y gwaradwydd hwn iti; a chan iť gael dy ddirmygu y mae y gwarthrudd o hono yn fwy ar Fendigaid-Fran nag arnat ti" Ydyw yn wir,” ebai yntau, "er hyny nis gall efe ddileu y gwaradwydd." Y cenadau a ddygasant yr ateb yma i'r lle yr ydoedd Bendigaid-Fran, a mynegasant iddo yr ateb a roddasai Matholwch. Yn wir," ebai yntau, "nid oes yr un llwybr i'w luddias rhag myned ymaith na bydd imi ei ddefnyddio."

"Ie, arglwydd," ebynt hwythau, "anfon genadau ereill ar ei ol." Ebai y brenin, "Cyfodwch Fanawyddan ab Llyr, a Hefeydd Hir, ac Unic Glew Ysgwydd, a mynegwch wrtho y caiff efe farch iach am bob un a niweidiwyd: ac yn iawn am y dirmyg, efe a gaiff hefyd ffon o arian cyn ffurfed a chyn daled ag ef ei hun; a chlawr o aur cyn lleted a'i wyneb. A mynegwch iddo pwy a wnaeth hyny, ac i'r ysgelerder gael ei wneud yn erbyn fy ewyllys; ac fod yr hwn a'i gwnaeth yn frawd un-fam a mi, ac nid hawdd genyf ei ladd na'i ddyfetha. A deued Matholwch i'm cyfarfod, ac mi a wnaf dangnefedd ag ef yn ol ei gynllun ef ei hun."

Y cenadau a aethant ar ol Matholwch, ac a fynegasant iddo eiriau Bran yn garedig, ac yntau a'u gwrandawodd. "Wŷr," ebai ef, "ni a gymerwn gynghor." Ac efe a aeth i'r cynghor, a phenderfynasant os gwrthod ycynygiad hwn a wnelynt y byddent debycach o gael cywilydd a f'ai fwy na chael iawn a f'ai gymaint; gan hyny derbyniasant y cynyg, a dychwelasant i'r llys mewn heddwch.

Yna trefnwyd y pebyll ar ddull neuadd, ac eisteddasant i fwyta, ac fel yr eisteddent ar ddechreu'r wledd, felly'r eisteddent yn awr. A Matholwch a Bendigaid-Fran a ddechreuasant ymddiddan, a thybiai Bran nad oedd ei gyfaill yn ymddangos mor llawen ag o'r blaen, a thybiai mai bychander yr iawn a roddwyd iddo a barai ei fod yn athrist. "Ha! unben," ebai Bendigaid-Fran, "nid ydwyt mor llawen heno âg oeddit y noson cynt. Os ydyw hyn o herwydd bychander dy iawn, ychwanegaf ati yr hyn a fyddo da yn dy olwg, ac yfory telir iti y ceffylau." "Arglwydd," ebai yntau, Duw a dalo iti." "Mi a chwanegaf dy iawn befyd," ebai Bendigaid-Fran, “rhoddaf bair i ti, cyneddf yr hwn ydyw, os lleddir un o'th wyr heddyw a'i fwrw i'r pair hwn, erbyn tranoeth efe a fydd cyn iached ag y bu erioed, eithr efe a gyll ei barabl—nid all efe siarad. Ac efe a ddiolchodd yn fawr am hyny, a llawen ydoedd o'r achos.

Tranoeth y bore talwyd y meirch i Fatholwch hyd y cyrhaeddodd y meirch dofion. Yna cyrchasant i gwmwd arall a rhoddasant ebolion iddo hyd oni thalwyd y nifer oll, a galwyd y cwmwd hwnw o hyny allan Talebolion.

Yr ail noson eisteddasant yn nghyd. "Arglwydd," ebai Matholwch, "pa le y cefaist y pair a roddaist imi ?" "Cefais ef gan ŵr a fu yn dy wlad di, ac ni fynwn ei roddi i neb ond i un o'r wlad hono." "Pwy oedd hwnw ?" ebai ef. "Llassar Llaesgyfnewid, a ddaeth i'r wlad hon o'r Iwerddon, a chydag ef Cymideu Cymeinfoll ei wraig, y rhai a ddiangasant o'r Ty Haiarn yn Iwerddon, pan wnaed y lle yn boeth wynias o'u hamgylch, ac y ffoisant oddiyno. Y mae yn syn genyf na wyddost yr hanes." "Mi a wn ychydig yn ei gylch, a chymaint ag a wn I hynya hysbysaf iti. Un diwrnod yr oeddwn yn hela ar fryn yn mhen llyn yn Iwerddon, a elwir Llyn y Pair, ac mi a welwn wr melyngoch mawr yn dyfod o'r llyn a pair ar ei gefn. A gŵr helbulus yr olwg arno ydoedd, ac erchyll ei wedd: gwraig a'i canlynai, ac os oedd ef yn fawr, mwy ddwywaith na ef oedd y wraig. A chyrchu ataf a wnaethant, a chyfarch gwell inni. Ebe fi, 'pa le y cyrchwch?' Ebai yntau, 'Hyn ydyw achos ein cyrchiad. Yn mhen mis a phythegnos yr esgora y wraig hon. A'r mab a aner y pryd hyny a fydd ryfelwr llawn arfog.' Felly cymerais hwynt, a buont gyda fi am flwyddyn, a'r flwyddyn hono cefais hwynt yn ddiwarafun. Eithr o hyny allan dechreuwyd grignach rhagddynt, canys o ddechreuad y pedwerydd mis y gwnaethant eu hunain yn gas gan y bobl, trwy ei sarhadau yn y tir, a thrwy afionyddu a blino pendefigion a phendefigesau y wlad. O hyny allan fy neiliaid a atolygasant arnaf ymadael a hwynt, ac y rhoddasant ddewis imi, ai fy neiliaid ai hwynt. Minau a ymgynghorais pa beth wnelid â hwynt, canys o’u bodd nid elynt ymaith, ac o'u hanfodd trwy ymladd nis gellid eu gyru. Yn y cyfwng hwn, gwŷr y cynghor a benderfynasant ar wneuthur ystafell o haiarn oll. Ac wedi bod yr ystafall yn barod, cyrchu pob gôf yn Iwerddon yno, a phawb ag oedd yn perchen gefail a morthwyl. Yna peri gosod glo cyfuwch a chrib yr ystafell, a pheri fod i'r gwr a'r wraig a'u plant gael digonedd o fwyd a diod; a phan wybuwyd eu bod yn feddwon, dodi y glo oddeutu yr ystafell ar dân, a'u chwythu gyda meginau nes oedd y tŷ yn eiriasdân. Yna cynaliasant gynghor ar ganol llawr eu hystafell. A'r gŵr a arosodd hyd onid oedd y pleit (plates) yn wynion gan wres; a'r pryd hwnw oherwydd y dirfawr wres, efe a ruthrodd a'i ysgwydd yn erbyn y pleit, ac a'i tarawodd allan; a'i wraig a'i dilynodd, eithr namyn ef a'i wraig ni ddihengis neb oddiyno. "A'r pryd hwn, mae yn debygol," ebai Matholwch wrth Fendigaid-Fran, "y daeth efe trosodd yma atat ti." "Diau ei ddyfod yma, ebai Bran, a rhoddi y pair imi." "Yn mha ddull y derbyniaist ti hwynt?" "Mi a'u dosberthais tros fy holl deyrnas, ac y maent yn lluosogi ac yn ymddyrchafu yn mhob lle, ac yn cadarnhau y manau y b'ont gyda gwŷr ac arfau yn y dull goreu a welais erioed."

Y nos hono, dilyn ymddiddan a cherdd a chyfeddach a wnaethant, hyd oni welsant fod cwsg yn well; yna i gysgu yr aethant. Felly treuliasant y wledd hono trwy ddigrifwch, ac ar ei diwedd cychwynodd Matholwch a Branwen gydag ef tuag Iwerddon; ac o Aber Menai y cychwynasant mewn tair llong ar ddeg, a daethant hyd yn Iwerddon. Yn Iwerddon bu dirfawr lawenydd o herwydd eu dyfod. Ac nid ymwelodd na phendefig na phendefiges â Branwen ar na roddai hi iddynt naill ai cae (clasp), ai modrwy, ai teyrndlws, teilwng i'w gweled yn myned o'r llys: felly y treuliodd hi y flwyddyn yn ddifyr a chlodfawr. Ac yn yr amser hwnw beichiogiad a ddamweiniodd iddi, ac yn y priod amser ganwyd iddi fab, a galwyd ef Gwern ab Matholwch, a rhoddwyd ef i'w famaethu yn y fan yr oedd goreuwyr yr Iwerddon. Ac yn yr ail flwyddyn wele derfysg yn Iwerddon o herwydd y sarhad a dderbyniasai Matholwch yn Nghymru, a'r taliad a gafodd am ei feirch; a'i frodyr-maeth [foster-brothers], a'r rhai oeddynt nesaf ato, yn edliw yn ddigêl a pharhaus iddo ei waradwydd. Ac nid oedd heddwch iddo gan y terfysg hyd oni chaent ddial ei sarhad. A'r dial a wnaethant ydoedd gyru Branwen o'i ystafell ef, a'i gwneud yn gogyddes i'r llys, a pheri i'r cigydd wedi iddo ddryllio y cig bob bore roddi bonclust iddi. A dyna ei phenyd. "Ie, arglwydd," ebai ei wŷr wrth Fatholwch, "pâr weithian wahardd y llongau, yr ysgraffau, a'r coraclau, fel nad el neb i Gymru; ac a ddel o Gymru carchara hwynt, rhag na ddychwelont, ac adrodd yr hanes." Ac efe a wnaeth hyny, ac felly y bu am dair blynedd.

A Branwen a feithrinodd aderyn drytwen (starling), odditan y noe bobi, ac a ddysgodd iaith iddo, a dysgodd i'r aderyn pa fath wr oedd ei brawd. A hi a ysgrifenodd lythyr yn dysgrifio ei phoenau a'i hanmarch, a'i rhwymodd am fôn aden yr aderyn, ac a'i hanfonodd tua Chymru. A'r aderyn a ddaeth i'r Ynys hon, a chafodd Bendigaid- Fran yn Ngher Seiont yn Arfon mewn cynghor, ac efe a ddisgynodd ar ei ysgwydd, ac a ysgydwodd ei blyf oni chanfyddwyd y llythyr, a gwybuwyd i'r aderyn gael ei feithrin mewn modd aneddog.

Yna cymerodd Bendigaid-Fran y llythyr, ac edrychodd arno; ac wedi iddo ei ddarllen, doluriodd yn fawr o herwydd trallod Branwen. Ac yn ebrwydd efe a ddanfonodd o'r lle hwnw genadau i wysio yr holl Ynys, a pharodd ddyfod pedair gwlad a saith ugain hyd ato, ac efe ei hun a gwynodd wrth y cyngor o herwydd trallod ei chwaer. Felly ymgyngorasant, a phenderfynasant fyned i'r Iwerddon, a gadael saith o wyr yn dywysogion yma, a Charadog ab Bran yn benaf arnynt hwy a'u saith marchog. Yn Edeyrnion y gadawyd y gwyr hyn; ac oblegyd hyny gosodwyd y saith marchog ar y trefydd. Ac enwau y gwŷr hyn oeddynt Caradawc ab Bran, a Hefeydd Hir, ac Unic Glew Ysgwydd, ac Iddic ab Anarawd Gwallgrwn, a Fodor ab Erfyll, a Gwlch Minascwrn, a Llassar ab Llaesar Llaesysgwydd, a Phendaren Dyfed yn was ieuanc gyda hwynt. A'r rhai hyn oeddynt y saith cynweisiaid a gymerent ofal yr Ynys, a Charadawc ab Bran yn benaf o honynt.

Bendigaid-Fran a'r lluoedd hyn a hwyliasant tua'r Iwerddon, ac ni buont hir ar y môr cyn dyfod i ddwfr bâs lle nid oedd ond dwy afon-Lli ac Archan eu gelwid, a'r gwyr a orchuddient y môr. Yna efe gymerth hyny o luniaeth oedd ganddo, ac a'i dygodd ar ei gefn tua thir Iwerddon. A meichiaid Matholwch oeddynt ar lan y weilgi, a hwy a ddaethant at Fatholwch, ac a gyfarchasant well iddo. Duw a'ch noddo," ebai yntau, "pa chwedlau sydd genych o'r môr?" "Arglwydd," ebynt, "y mae genym newydd rhyfedd. Coed a welsom ar y weilgi yn y lle nas gwelsom erioed yr un pren. Y mae hynyna yn rhyfedd. A welsoch chwi ddim heblaw hyny ?" Gwelsom, arglwydd," ebynt hwy, "fynydd mawr yn cerdded gerllaw y coed, ac ar y mynydd yr oedd esgeir ("ridge") uchel, a llyn o bob tu i'r esgeir. A'r coed, a'r mynydd, a phobpeth o honynt oll yn ymsymud." "Yn wir," ebai yntau, "nid oes neb yma all ddehongli hyn oddigerth Branwen."

Danfonwyd cenadau at Branwen. Arglwyddes, "ebynt hwy, beth debygi di am hyn?" "Gwŷr Ynys y Cedyrn ydynt wedi dyfod trosodd wrth glywed am fy mhoen a'm anmharch." Beth ydynt y coedwig a welir ar v weilgi?" ebynt hwy. "Gwernenau (yards) a hwylbreni llongau," obai hi. "Och," ebynt hwy, "beth oedd y mynydd mawr a welem with ystlys y llongau?" "Bendigaid-Fran, fy mrawd I," ebai hi, "oedd hwnw, yn dyfod i ddwfr bâs, canys nid oes mewn dwr bâs, a'i cynal ef." Beth yw yr esgeir uchel hwnw, a'r llyn ar bob ochr o hono?" Ebai hi. "Llidiog ydyw efe wrth edrych tua'r Ynys; a'i ddau lygaid un o bobtu i'w drwyn ydynt y ddau lyn un o bob tu i'r esgair."

Yna cynullwyd holl ryfelwyr yr Iwerddon ar frys, a chymerwyd cynghor. "Arglwydd," ebynt ei bendefigion wrth Fatholwch, "nid oes gynghor namyn cilio tros y Llinon (afon yn Iwerddon), a chadw yr afon rhyngom ag ef, a thori y bontsydd ar yr afon, canys y mae maen-sugn (loadstone) ar waelod yr afon nas gall na llong na llestr ei chroesi." Felly hwy a groesasant yr afon ac a dorasant y bont.

Bendigaid-Fran a ddaeth i dir gyda glan yr afon a'i lynges gydag ef. "Arglwydd," ebai ei bennaethiaid, "a wyddost ti natur yr afon yma na ddichon dim fyned trosti ac nad oes bont arni? Beth yw dy gynllun yn nghylch pont?" "Nid oes genyf gynllun," ebai yntau, "namyn a fo pen bid pont. Myfi a fyddaf bont." A dyma'r waith gyntaf yr arferwyd y ddiareb, yr hon a arferir yn bresenol. Ac wedi gorwedd o hono ar draws yr afon, gosodwyd clwydi arno, ac aeth ei luoedd trosto.

Ac fel y cyfodai wele genadau oddiwrth Fatholwch yn dyfod ato ac yn cyfarch gwell iddo, ac yn ei anerch yn enw Matholwch ei gyfathrachwr, ac yn ei hysbysu na haeddai efe oddiar ei law namyn da; "canys y mae Matholwch yn rhoddi brenhiniaeth Iwerddon i Wern fab Matholwch, a dy nai dithau fab dy chwaer. A hyn a esyd efe o'th flaen di am y cam a'r dirmyg a wnaethpwyd ar Branwen: ac fel y mynech di, ai yma ai yn Ynys y Cedyrn yr ymdeithia Matholwch.” Ebai Bendigaid-Fran, "Os nad allaf fi fy hun gael y frenhiniaeth; weithian cymeraf gynghor am eich cenadwri chwi. O hyn hyd hyny dyna yr unig ateb a gewch genyf." "Ie," ebynt hwythau, "y genad oreu a gawn ni i ti, a ddygwn ni atat, ac aros dithau ein cenad ni" “Arosaf," ebai ef, a deuwch yn ebrwydd."

Y cenadau ddychwelasant at Matholwch. "Arglwydd," ebynt hwy "parotoa genad well i Fendigaid-fran ni wrandawai ef ar y genad a ddygasom ni ato. "Ha wyr," ebai Matholwch, "beth ydyw eich cynghor chwi?" "Arglwydd," ebynt hwy, "nid oes it' gyngor namyn un. Ni bu efe erioed mewn tý; gan hyny gwna dŷ i'w gynwys ef a gwŷr Ynys y Cedyrn yn y naill barth, a thithau a'th lu yn y parth arall o hono, a dyro dy frenhiniaeth yn ei law, a thal warogaeth iddo. Ac o herwydd anrhydedd gwneuthur y tŷ, gan na chafodd erioed dŷ i'w gynwys ynddo, efe a ymheddycha â thi." A'r cenadau a ddaethant a'r genadwri yna at Fendigaid-fran.

Ac efe a gymerth gynghor, a phenderfynwyd derbyn y genad, a thrwy gynghor Branwen y bu hyn oll rhag i'r wlad gael ei dinystrio. A'r cytundeb hwn a gywiriwyd, —tŷ mawr a chryf a adeiladwyd. Eithr y Gwyddelod a gynllwynasant ystryw, sef dodi gwanas (bracket)o bobtui'r can' colofn ag oeddynt yn y tŷ, a dodi bol croen ar bob gwanas, a gwr arfog yn mhob un o honynt. Yna Efnissyen a ddaeth i mewn o flaen lluoedd Ynys y Cedyrn, ac a edrychodd olygon gorwyllt ac annrhugarog ar hyd y tŷ, a chanfyddodd y boliau croen wrth y pyst. "Beth sydd yn y boly hwn?" ebai ef wrth un o'r Gwyddelod. "Blawd, enaid,” oedd yr ateb. Ac Efnissyen a'u teimlodd hyd oni ddaeth at ben y dyn, ac yna gwasgodd y pen nes y teimlodd ei fysedd yn cyfarfod yn yr ymenydd trwy yr esgyrn. Gadawodd hwnw a rhoddodd ei law ar y nesaf, a gofynodd pa beth oedd ynddo. "Blawd,” ebai y Gwyddel. A'r un modd y gwnaeth efe a phawb o honynt, hyd nad adaw- odd o'r ddau-canwr namyn un yn fyw, a phan ddaeth ato ef gofynodd pa beth ydoedd ynddo. “Blawd, enaid," ebai y Gwyddel. Yna efe a deimlodd hyd oni chafodd ei ben, a gwasgodd hwnw fel y rhai eraill; eithr a glywai arfau am ben hwnw, ac nis gadawodd ef nes ei ladd. Yna canodd yr englyn hwn:-

Y sydd yn y boly hwn amryw flawd
Ceimet, cynifeit, disgymfeit,
Yn trin rhac cytwyr cat barawt,"

" There is in bag a different sort of meal,
The ready combatant, when the assault is made
By his fellow warriors, prepared for battle."

LADY CH. GUEST.

Ar hyny daeth y lluoedd i'r tŷ. Gwyr Ynys Iwerddon i'r tŷ ar y naill ochr, a gwŷr Ynys y Cedyrn ar y llall. Ac mor fuan ag yr eisteddasant yr oedd cyfundeb rhyngddynt; a rhoddwyd y frenhiniaeth i'r bachgen. Wedi cwblhau yr heddwch Bendigaid-fran a alwodd y mab ato, ac oddiwrth Bendigaid-fran y mab aeth at Manawyddan; a phawb ar ei gwelai oedd yn ei garu. Ac oddiwrth Fanawyddan galwyd ar y mab gan Nissyen mab Eurosswydd; ac wele y mab a aeth ato yn dirion. "Paham," ebai Efnissyen, "na ddaw fy nai fab fy chwaer ataf fi? Pe na byddai frenin yn Iwerddon da fyddai genyf yndirioni â'r mab." "Aed atat yn llawen," ebai Bendigaid-fran. A'r mab a aeth ato yn llawen. "Myn fy nghyffes i Dduw," ebai Efnissyen yn ei galon, "ni thybia y tylwyth y gyflafan a wnaf yr awrhon." Yna cyfododd a chymerodd y mab gerfydd ei draed, a chyn i neb yn y tŷ gael gafael arno bwriodd y mab yn ngwysg ei ben i'r tân poeth. Branwen pan welodd ei mab yn y tân a amcanodd hefyd neidio i'r tân o'r lle yr eisteddai rhwng ei dau frawd. Eithr Bendigaid-fran a gydiodd ynddi ag un law, ag yn ei darian a'r llall. Ac yna yr oedd pawb yn ffrystio hyd y tŷ, a thyna y trwst mwyaf a fu erioed yn yr un tŷ; a phawb oeddynt yn ymarfogi. Yna y dywed Morddwydtyllyon, "Gwern grwngwch fuwch Forddwydtyllyon," (The gadflies at Morddwyd's cow,-march gacwn buwch Morddwydtyllyon). A thra yr oeddynt yn ceisio eu harfau Bendigaid-fran a gynhaliai Branwen rhwng ei darian a'i ysgwydd. Yna y Gwyddelod a gyneuasant dân tan bair yr adeni, a bwriasant gyrff meirw i'r pair hyd onid ydoedd yn llawn, a thranoeth daeth y rhai hyn allan o hono yn rhyfelwyr cystal ag o'r blaen oddieithr nad allent lefaru. Ac Efnissyen yn gweled nad oeddynt wyr Ynys y Cedyrn yn adfywio yn un man a ddywedodd yn ei galon, "Gwae fi! imi fod yn achos yr alanas hon ar wyr Ynys y Cedyrn; a drwg im'oni cheisiaf wared rhag hyn." Ac efe a ymfwriodd i blith celanedd y Gwyddelod, a daeth dau Wyddel bonllwm (unshod) heibio iddo, ac a'i bwriasant i'r pair gan dybied mai Gwyddel ydoedd. Ac efe a ymestynodd yn y pair nes y torodd y pair yn bedwar dryli, ac yna torodd ei galon yntau.

Oherwydd hyn yr enillodd gwŷr Ynys y Cedyrn gymaint ag a enillasant; eithr ni fuont fuddugol gan na ddiangodd onid saith o honynt, a brathwyd Bendigaid-Fran yn ei draed a gwenwyn-waew. Y seithwyr a ddiangasant oeddynt Pryderi, Manawyddan, Gluneu Eil Taran, Taliesin, Gnawc Grudyen ab Murgel, a Heilyn ab Gwynn Hen.

Yna parodd Bendigaid-fran iddynt dori ymaith ei ben; "a chymerwch chwi y pen," ebai ef, a dygwch hyd y Gwynfryn yn Llundain, a chleddwch ef yno a'i wyneb ar Ffrainc. A chwi a fyddwch ar y ffordd yn hir. Yn Harddlech, byddwch saith mlynedd yn gwledda, ac adar Rhianon yn canu i chwi yn y cyfamser. A bydd gystal genych gymdeithas y pen ag y bu oreu genych pan fu arnaf fi erioed. Ac yn Gwales, yn Mhenfro, y byddwch bedwar ugain mlynedd; ac oni agorwch y drws sydd a'i wyneb tua Henfelen a thua Chernyw, y pen a erys yn ddilwgr. A phan agoroch y drws hwnw nis gellwch aros yno yn hwy; cyrchwch i Lundain i gladdu y pen yn ddioedi. Felly torasant ei ben ymaith, a'r seithwyr hyn a'i dygasant trosodd; a Branwen yn wythfed gyda hwynt. Yn Aber Alaw yn Talebolion y daethant i dir, ac eistedd a wnaethant a gorphwys. A Branwen a edrychodd tuag Iwerddon a thuag Ynys y Cedyrn, ac wedi eu gweled, "Gwae fi!" ebe bi, "fy ngeni, dwy ynys a ddiffeithiwyd o'm hachos," a hi a roddodd ochenaid fawr, ac a dorodd ei chalon ar hyny. Gwnaethant iddi fedd petrual, a chladdasant hi ar lan yr Alaw.

A'r saith wyr a deithiasant tua Harddlech, gan ddwyn y pen gyda hwynt, ac fel yr elent wele lu o wragedd a phlant yn eu cyfarfod, "A oes genych newydd?" "Nac oes," ebynt hwythau, "ond fod Caswallon ab Beli wedi goresgyn Ynys y Cedyrn, a'i fod yn frenin coronog yn Llundain". "Beth ddaeth o Garadawg ab Bran a'r seith- wyr a adawyd gydag ef yn yr Ynys hon?" "Daeth Caswallon arnynt ac a laddodd y chwe gŵr, a thorodd Caradog yntau ei galon gan ofid, am weled y cleddyf yn lladd ei wyr ac nis gwypai pwy a'i llawiai. Yr oedd Caswallon wedi taflu hud trosto, fel nas gallai neb ei weled yn lladd y gwŷr, ei gleddyf yn unig ellid weled. Ni fynai Caswallon ei ladd ef gan ei fod yn nai iddo fab ei gefnder. Efe oedd y trydydd a dores ei galon gan ofid. Pendaran Dyfed oedd yn was ieuanc gyda hwynt a ddiangodd i'r coed," ebynt hwy.

Yna cyrchasant i Harddlech, a gorphwysasant, gan ddechreu bwyta ac yfed. A daeth tri aderyn gan ddecreu canu iddynt ryw gerdd, ac anfwyn oedd pob cerdd a glywsant erioed wrth eu cydmaru a hi; ac er fod yr adar i'w clywed fel yn mhell oddiwrthynt eto gan amlyced oedd eu cân a phe buasent gyda hwy. Yn y wledd hon buont felly am saith mlynedd.

Ac yn mhen saith mlynedd y cychwynasant tua Gwales, yn Mhenfro; ac yno yr oedd iddynt le teg brenhinaidd uwchben y weilgi, a neuadd. I'r neuadd y cyrchasant, a dau o'r drysau oeddynt yn agored, ond y trydydd yn ngauad a gwyneb hwn ydoedd tua Chernyw. "Gwel acw," ebai Manawyddan, "y drws ni ddylem ni ei agor." Treuliasant y noson hono yn ddieisiau a dyddan. Ac am yr holl fwyd a welsant yn eu gwydd, ac y clywsant am dano, nid oeddynt yn cofio dim; nac am alar o fath yn y byd. Yno y treuliasant bedwar ugain mlynedd, yn ddiarwybod iddynt erioed dreulio ysbaid mwy digrif a difyr. Nid oedd flinach ganddynt ar ddiwedd yr ysbaid nag ar ei ddechreu, ac nis gwyddai yr un o honynt pa hyd y buont yno; ac nid annifyrach ganddynt fod y pen yno na phe buasai Bendigaid-Fran gyda hwynt ei hun. Ac o herwydd y pedwar ugain mlynedd hyny gelwid yr ysbaid "Ysbaid gwledda yr urddawl ben". Gwledd Branwen a Matholwch a fu cyn eu myned i'r Iwerddon.

"Un diwrnod," ebai Heilyn ab Gwyn, "Drwg a'm goddiweddo onid agoraf y drws i wybod ai gwir a ddywedir am hyny." Agor y drws a wnaeth, ac edrych ar Gernyw ac ar Aber Henfelen. A phan edrychasant yr oeddynt oll mor ymwybodol o'r colledion a gawsant, ac o'r holl geraint a chyd-ymdeithion a gollasent, ac o'r holl drueni a'i goddiweddasant, a phe digwyddasai y cyfan iddynt yn y fan hono; ac yn benaf am dynged eu harglwydd. Ac oherwydd eu haflonyddwch meddwl nis gallasent orphwys eithr cyrchasant gyda'r pen tua Llundain, a chladdasant ef yn y Gwynfryn. A hwnw fu y trydydd mad-cudd-pan guddiwyd; a'r trydydd anfad ddatgudd -pan ddatguddiwyd; gan na ddeuai ormes byth i'r ynys hon tra byddai y pen yn y cudd hwnw.

Ac fel hyn y mae'r hanes am y gwŷr a deithiasant o'r Iwerddon.

Yn Iwerddon nis gadawyd neb yn fyw namyn pump o wragedd beichiog mewn ogof yn y diffeithwch: ac i'r pump gwragedd hyny yn yr un cyfnod y ganed pum'mab a'r pum' mab hyny a fagasant hwy hyd oni ddaethant yn weision mawr, ac oni feddyliasant am wragedd. Chwe- nychasant gael gwragedd, a chymerasant famau eu cyd- ymdeithion yn wragedd, a gwladychu a chyfaneddu a rhanu y wlad rhyngddynt a wnaeth y pump. Ac o achos y rhaniad hwnw y gelwir eto "Pum' rhan Iwerddon." Ac edrych y wlad a wnaethant ffordd y buasai ymladdau, a chawsant aur ac arian hyd oni ddaethant yn gyfoethog: Dyna fel y terfyna y rhan hon o'r Fabinogi yn nghylch palfawd (blow) a roddwyd i Branwen, yr hwn a fu drydydd anfad balfawd yn yr ynys hon: ac yn nghylch gloddest Bran pan aeth lluoedd deng wlad a thriugain trosodd i'r Iwerddon i ddial palfawd Bronwen; ac yn nghylch y wledd a fu yn Harddlech saith mlynedd: ac am ganiad adar Rhianon; ac ymdeithiad y pen am yr yspaid o bedwar ugain mlynedd.


Nodiadau[golygu]