Cymru Fu/Diarebion Cymreig

Oddi ar Wicidestun
Branwen Ferch Llyr Cymru Fu
Diarebion Cymreig
gan Isaac Foulkes

Diarebion Cymreig
Llyn y Morwynion


DIAREBION CYMREIG.

(GAN CYNDDELW.)

"ONI BYDDI GRYF BYDD GYFRWYS."

Mae cyfrwysdra yn cael ei reoli gan onestrwydd yn beth canmoladwy, canys y mae gwybodaeth yn nerth, ac y mae dyn yn cyflawni drwy gyfrwysdra yr hyn nas gall ei wneuthur drwy gryfder. Mae chwedl "Y cawr a'r gwenhudiw” yn egluro y ddiareb hon. Yn yr hen amseroedd, pan oedd cawri a chorachod ar y ddaear, aeth dau o honynt, sef cawr a gwenhudiw i ddwyn moch. Dylid cofio nad oedd neb y pryd hwnw yn meddwl fod lladrata anifeiliaid yn bechod, oblegyd praidd, —anrhaith, ysglyfaeth, oedd yr enw cyffredin arnynt; ac y mae "moch preiddyn" ac "anrhaith o foch" yn eiriau mynych mewn hen awdwyr. Pa fodd bynag aeth y cawr a'r gwenhudiwi barc un o'r Dyledogion i geisio "moch preiddyn." Yr oedd y cawr o faintioli a nerth dirfawr, ac yn ymddiried mwy i'w gryfder nag i'w ddoethineb; a'r gwenhudiw, fel dynion bychain yn gyffredin, yn hunanol a chyfrwys. Wel, aeth y ddau i'r Parc lle'r oedd llawer o foch, a rhai yn fawrion a chigog, wedi pesgi ar fês, a ffrwythau ereill. Ymosododd y cawr ar y rhai mwyaf, a thewaf, a chododd luaws o honynt dros yr amgae i'r tir gwyllt; a daliodd y gwenhudiw ychydig o berchyll heb nemawr ond blew arnynt. Ar ol boddloni eu hunain aethant i edrych am y moch: "Ond," ebai'rcawr, "ar ol eu cael, sut y gwyddom pa rai a ddalias i, a pha rai a ddaliaist dithau? Dylai pob un gael ei eiddo ei hun." "Dylai yn ddiamheu," ebai'r gwenhudiw, gan wenu yn hudol ar y cawr; "ond," ebai'n mhellach, "yr oedd tro yn nghynffon pob un a ddaliais i." Hyny, fel y mae yn hysbys yw nôd mochyn cadwrus. Am hyny aeth y gwenhudiw a phob mochyn o werth, a gadawodd y rhai teneuon cynffonlipa i'r cawr. Yr addysg yw fod y cyfrwys yn byw ar gefn y cryf. Y gweithiwr yw y cawr difeddwl, a'i feistr yn fynych yw y gwenhudiw cyfrwys.

“Goreu cyfrwysdra gonestrwydd.”

"ESMWYTH CWSG POTES MAIP."

"Melus cwsg cawl erfin." Ni wyr y deheuwyr nemawr am botes maip, ac ychydig a wyr y Gogleddwyr am gawl erfin, er mai yr un peth ydynt. Bywioliaeth wael iawn yw potes maip, ie, gwaelach na "photes blawd a dŵr." Cawl dall ydyw; a gwelwyd bechgynach lawer tro yn "tywys y gŵr dall” ar ol colli y potes yn anfwriadol (?) hyd y bwrdd. Ond at y ddiareb:-

Amser maith yn ol yr oedd dau gymydog yn byw dan yr un to, yn agos i'r mynydd, mewn hafod, a chan bob un o honynt luaws o blant. Bychan oedd eu henill, ac, fel y gallesid meddwl, caled ydoedd ar un o honynt. "Potes maip" a bara caledlwyd oedd eu hymborth fynychaf, yn y tŷ arall yr oedd cawl bras llygadog, a chyflawnder o gig defaid. Ond yr oedd cryn amheuaeth yn nghylch gonestrwydd y teulu hwn, a llawer yn meddwl nad oedd defaid y cymydogion yn cael llonydd ganddynt. Pa fodd bynag, un noswaith yn nyfnder y gauaf dyna guro wrth y drws y ffermwyr a swyddogion cyfiawnder yn dyfod i chwilio y ty, a chafwyd digon o olion lladrad i gymeryd y gŵr i garchar ganol nos. Wrth glywed y swn a'r terfysg yn y tŷ dihunodd teulu y tŷ nesaf. "Wel, wel," meddai'r wraig, yr oeddwn i yn ofni mai fel yna y buasai'n dod. "O hirddrwg daw mawrddrwg." 'Drwg y ceidw diawl ei was.' Codwch Gruffydd. "Gad lonydd i mi," ebai Gruffydd, — Esmwyth cwsg potes maip, a rhoddodd ei ben ar y gobenydd, a chysgodd yn dawel dan y bore. "Llaw lân diogel ei pherchen." "Asgre lân diogel ei pherchen," medd diareb arall. Mae tlodi a gonestrwydd yn well na llawnder a lladrad: canys "Gwell angeu na chywilydd." "Gwell gochel mefl na'i ddial." "Gwell gwichio'r coludd na chochi'r ddeurudd."

"CYN BELLED AG Y CYFARTHODD CI."

Mynych y clywir y ddiareb hon ar lafar gwlad. Pan fydd rhywun yn son am fyned yn mhell—ffwrdd o'r wlad, -dywedir iddo fyned "cyn belled ag y cyfarthodd ci." Mae'r ddiareb hon yn seiliedig ar gyfreithiau Dyfnwal Moelmud, deddfroddwr hynaf y Cymry. "Tair clud ddeol y sydd; murn a chynllwyn; brad teyrnedd, sef brad gwlad a chenedl; ac anrhaith-ledrad amwyllyniawg; sef y dylai pawb yn nghlyw y corn, ffordd y cerdder, fyned yn nghyrch y deol hyny, bob rhyw ac oedran; a chynnal cyfarth gan gwn, yn ydd eler hyd rhoddi ar fôr, ac ydd elo a ddeoler driugeinawr o'r golwg." Yr oedd pawb o bob rhyw ac oedran i uno yn y gyfarthfa gyffredinol i yru y troseddwr o'r wlad. Ond dywedir mewn lle arall "Tri dyn y sydd a'u braint nas byddant wrth gorn gwlad;- bardd, fferyllt, a gwr llys; sef nis gellid hebgor un nac arall o'r tri." "Clud ddeol" oedd fod y wlad yn codi i alltudio y tri throseddwr a nodir yn y gyfraith. "Murn a chynllwyn” oedd lladd drwy gynllwyn, a rhuthr o'r llwyn ar ddyn yn ddisyfyd. Brad teyrnedd yn erbyn y llywodraeth. "Amwyllyniawg"—treiglwn y gair-gwyll, amwyll—tywyll o bob tu, amwyllyn-un yn cael ei amgylchu gan dywyllwch, am wyllyniawg-peth mewn tywyllwch. "Anrhaithledrad amwyllyniawg—irretrievable spoliation–lledrad anadferadwy. Y ffordd i ddeol y cyfryw bechaduriaid o'r wlad oedd chwythu corn i alw pob rhyw ac oedran, gyda holl gŵn y wlad i'w hela tua'r môr, a chadw'r cwn i gyfarth nes i'r ffoadur fyned ar y môr, a chynnal y cyfarth i fyny am 60 awr wedi i'r troseddwr fyned o'r golwg. Dyna beth yw myned cyn belled ag y cyfarthodd ci." D. S.-Ġelwir cyfreithiau Dyfnwal Moelmud yn Drioedd y Carcludau (Car-motes). Symudiadau ar geir mae'n debyg yw yr ystyr. Mae gwŷr Powys yn arfer y gair Carmowta yn fynych am gerdded oddiamgylch i chwilio am rywbeth,—cardota.

BARDDONIAETH DDIAREBOL YR HEN GYMRY.

Hyfforddiadau diarebol yw llawer o farddoniaeth hynaf y Cymry. Yr anhawsdra mwyaf yn ffordd eu deall yw hendra y cyfeiriadau, a byrder yr ymadroddion. Cyfranogant i raddau o ddullwedd addysgiadol Diarebion Solomon. Nodwn rai engreifftiau o farddoniaeth y gauaf:

CALANGAUAF—lli yn nant,
Cyfnewid Sais a'i ariant,
Dign enaid mam geublant."

Yr unig syniad neillduol i'r tymhor, yn y pennill yna, yw "lli yn nant," canys y mae'r nentydd oedd yn sychion yr hâf yn llifo gan wlawogydd y gauaf. Pethau gwastadol yw "cyfnewid Sais a'i ariant," arian a masnach yw ei awyddfryd ef erioed yn mhob gwlad, felly hefyd "mam geublant," sef llysfam, "dign" a diserch yw ei henaid hithau at "geublant," sef plant nad ydynt yn eiddo gwirioneddol iddi.

"CALANGAUAF—Cul hyddod,
Melyn blaen bedw, gweddw hafod,
Gwae a haedd mefl er bychod."

Aeth yr Hydref, neu'r Hyddfref (rutting season) heibio, am hyny mae'r hyddod yn deneuon:-

"Calan bydd—fref cain cynnwyre,

Cyfarwydd dwfr yn ei ddyfrlle."

Mae blaen bedw wedi melynu, yn gyferbyniol i'r "bedw briglas" ddechreu haf. "Gweddw hafod." Trigai y Cymry gynt yn yr hafod yr haf, ac yn yr hendref y gauaf. Ddechreu haf gadawent yr hendref, a chychwynent tua'r hafod. Dyna'r cargychwyn. "Dyn cargychwyn yw dyn rhodiad, a fo yn symud ei gàr a'i fod bob amser." —Cyf. Hywel Dda. Yn y càr y rhoddent y celfi angenrheidiol i fyned i'r Hafod i odro'r gwartheg, y defaid, a'r geifr. Calangauaf oedd adeg y càrddychwel, sef dyfod a chynnyrch yr haf i lawr i'r hendref i fyw arno y gauaf, a gadael yr hafod yn weddw hyd yr haf nesaf.

"Gwae a baedd mefl er bychod."

Mefl yw gwarth neu gywilydd. "Brychau a meflau," 'gweithiwr difefl." "Ni ddylir maeddu gwraig, namyn o dri achaws, sef, am roddi peth ni ddylys; am gaffael gwr arall genddi; ac am ddyuno mefl ar farf ei gwr." —Cyf. Cymru. "Gwell gochel mefl na'i ddial." "Mefl i'r llygoden untwll.” - Tri mefl fethiant gŵr bod yn arglwydd drwg, a bod yn ddryg-garwr, a bod yn llibinwr yn nadlau." Mefl in côg ni lyfo oi law.”

Mefl ar dy farf yn Arfon,

Ac ar dy wefl mefl yn Mon."

D. AB GWILYM.

BYCHOD.

Bychod–bach, bychan, bychod, bychydedd, bychodrwydd, bychydig, &c. Peth bychan, ychydig o beth. "Gwell bychod yn nghod na chod wag." "Gormod yw bychod o bechodau." "Bychodedd o Gristionogion oedd yr amser hyny." " Na werth er bychodedd." "Baich o bechodau, nid bychodrwydd." "O bychydig y daw llawer." "Nid yw'rbyd ond bycbydig." Gan hyny ystyr y ddiareb yw, gwae y sawl a haeddo gywilydd o herwydd peth bychan, canys y mae yn fwy o warth i ddyn dori ei gymriad am ychydig nag am lawer.

CELWYDD.

Mae'r gair hwn wedi colli ei fonedd a'i barch er ys oesoedd lawer: ond bu unwaith yn arwyddo doethineb. Cel-gwydd yw ei haniad; nid celu o wydd, fel y dywed rhai, ond celwyddoniaeth-gwybodaeth geledig. Ogwydd y daw gwyddor, egwyddor, gwyddon, gwyddoniadur, &c. Gwybodaeth gyfrinachol y doethion oedd celwydd yn yr hen amseroedd. "Gwaith celwydd yw celu rhin." Ond yn nhreigliad oesoedd aeth y gair a ddynodai gyfrinion y celfydd i arwyddo peth croes i wirionedd.

CATH.

Clywais lawer gwaith ar lafar gwlad, "Ceiniog yw pris Cath yn mhen Tre Llundain." Bychan y gwyddwn fod y dywediad hwnw yn seiliedig ar gyfreithiau Hywel Dda. Dyma'r hen gyfraith, yn ol "Dull Gwynedd," wedi diweddaru y sillebiad. Gwerth Cath a'i theithi yw hyn:-

1. Gwerth cenaw Cath yw, o'r nos ei ganer hyd oni agoro ei lygaid, ceiniawg cyfraith. 2. Aco hyny hyd oni laddo lygod, dwy geiniawg cyfraith. 3 Agwedi y lladdo lygod, pedair ceiniog cyfraith, ac ar hyny y trig fyth. 4. Ei theithi yw, gweled, a chlybod, a lladd llygod, ac na bo twn yn ei hewin, a meithrin, ac nad yso ei chenawon; ac os ei phrynu a dderfydd, o bydd un o'r teithi hyn yn eisiau, adferer traian ei gwerth yn ol. Yn ol "Dull Gwent," teithi Cath yw bod yn gyfglust, gyflygad, gyfddanedd, gyflosgwrn, gyfewin, ac yn ddifán o dàn; a lladd llygod yn dda; ac nad yso ei chenawon; ac na bo gathderig ar flaen pob lloer.

Y neb a laddo Gath a warchatwo dŷ ac ysgubor y brenin, neu ai dyco yn lledrad, dodi a wneir ei phen ar y ddaear, a'i llosgwrn i fyny, a'r ddaear fydd ysgubedig, ac yna dineu (tywallt) grawn gwenith glân am dani (o'i chwmpas), oni chuddio flaen ei llosgwrn; a hyny o wenith yw ei gwerth. Y neb a ddalio gath yn llygota yn ei ardd lin, taled ei pherchenawg y llwgr.

Gallesid ychwanegu amryw o ddeddfau am Gathod; ond dengys hynyna fod "Cymru Fu" yn dra llawn o lygod, onide ni buasai Cath mor werthfawr.


Nodiadau[golygu]