Cymru Fu/Llyn y Morwynion

Oddi ar Wicidestun
Diarebion Cymreig Cymru Fu
Llyn y Morwynion
gan Isaac Foulkes

Llyn y Morwynion
Iolo Morganwg


LLYN Y MORWYNION.

———————

GAN GLASYNYS.

———————

(Y Chwedl.)

“RYWBRYD yn yr oesoedd Canol digwyddodd fod prinder mawr o ferched ieuaingc yn Nyffryn Ardudwy, a'r gwŷr ieuaingc gan deimlo eu hunigoldeb a benderfynasant dori dros y bryniau, & myned a wneddynt cyn belled a Dyffryn Clwyd. Wedi aros ennyd yno cafas rhai rianod, a diattreg groesi y mynyddoedd yn ol a wnaethant. Pan genfu gwŷr Clwyd hyn, ffrommasant, ac ar eu hol yn arfog yr aethant, a phan ar bwys Ffestiniog goddiweddasant wŷr Ardudwy a'r Morwynion. Cymmerth ffrwgwd waedlyd le rhwng y ddeu-lu. Gwyliai'r Morwynion y cad ar faes o ben cnicyn o graig gyfagos.

Lladdwyd gwŷr Ardudwy oll. A'r morwynion wrth weled hyn a redasant i'r llyn gerllaw, ac yno y cawsant fedd diarch diamdo, ac fyth wed'yn galwyd ef yn Llyn y Dorwynion. Heb fod yn neppell oddiwrtho mae Beddau Gwyr Ardudwy." Gwel y BRYTHON, Cyf i. tu dal. 91.

NOD. Cymmerais fy hyfdra i dynu can o'r defnydd uchod, gan roddi rhai pethau i mewn a gadael eraill allan. Rhoddais enwau hefyd ar brif gymmeriadon y gan. Gweddus hefyd yn ddiddadl egluro yng nghylch y CHWIFLEIAN. Prin y mae eisiau crybwyll mai'r un gwrthrych sydd gennyf yma o dan sylw, ag sydd mor fynych yn cael ei dwyn o'n blaen yng Ngwaith y CYNFEIRDD; ac yn bendifaddeu, yn y MABINOGION. Dyma ddywed MYRDDIN yng NGYFOESI MYRDDIN A GWENDDYDD EI CHWAER,' "A chwedlau Chwibleian." Gwel MYF. ARCH. Cyf. i. tu dal. 143. Neu fel hyn yn ol Llyfr arall "A chwedle doet Cnibleian." Yr un ydyw hon y mae'n debyg a VIVIANNE; sef y globen ystumddrwg waedwyllt ag sydd gan Mr. Alfred Tennyson yn ei IDILIS OF THE KING. Gwelais yn y GREAL hefyd ei hanes hi a Myrddin yn croesi o Ynys Enlli mewn "tŷ gwydr", ac yn glannio yn Llydaw; ond nid ydyw 'r Llyfr hwnw wrth law gennyf heddyw,gan hynny, nid oes ond cyflwyno fy nghân isylw'r neb a ewyllysio ei darllen; a lled-awgrymu mai SIBYLL yr hynafiaid ydyw fy CHWIFLEIAN I.

"Cared doeth yr Encilion."

Nadolig, 1859

I.

Mor gu yw gwedd Traddodiad! merch hynaf amser yw;
Mae'n cadw Brutiau 'r oesoedd, cofiannau dynolryw,
Mae 'n wraig i Cof wybodus; a'u hunig ferch yw Coel:—
Ac maent yn gwastad wledda ar seigiau ffeithiau moel.
Mae ganddynt Gastell costus, yn llawn o greiriau hud,
Ar ar ei dyrrau pigfain mae 'n gwarchod Engyl mud:
Ac ynddo ceir gwyryfon yn canu nos a dydd
A phob rhyw lần ysprydion yn yfed awen rydd!
Traddodiad! mae dy adlais yn swyno meddwl dyn,
Goleua ddunos gofid, diddana gŵyn a gwŷn.
Dwyfoldeb sydd yn dalaith addurnol ael dy ben,
Dy eiriau sydd yn feddal fwyn, a'th wisg yn llaes a gwen.
Mor anwyl a morwynig! mor lân a'r Awen wir,
Mor ddwyfol ag angyles bur, mor gynnes ag yw'r GWIR!

Y gwrid sydd ar dy ruddiau, gwirionedd ydyw hwn,
A'r Gallu anweledig yw cludydd cryf dy bwn!
Mae'th gyfrin fel yr yspryd, a'th ddysg o gylch y byd:
Lledneisrwydd a thirioni glân sy'n llenwi'th fron a'th fryd.
Traddodiad, Cof, a'r cyfan, O! rhoddwch help yn awr,
I adrodd digwyddiadau hen oesoedd blaen y wawr!
O! tyred Coel ddiniwaid, a thithau Hanes llwyd,
Rhowch olwg ar eich trysor drud, ac yna'm hawen gwyd
Ar edyn esmwyth ffansi, —i chwareu yn y gwynt,
Ac yna gwir olygfa gaf ar chwedlau'r oesau gynt,
Fel eira yn lloerenod ar fron y mynydd draw,—
Neu'r afon pan fo'r rhewynt blin yn rhoddi arni daw,—
Er ceisio llesg ymlusgaw,—y dwfr ei hun yw'r clo,
Am fod ei wyneb fel y dur,—mae dros y dw'r yn dô;—
Cyffelyb digwyddiadau, damweiniau dynolryw,
Er darfod ni ddarfyddant byth: er marw maent yn fyw.
Gan hyny fwyn Draddodiad, a'th acceniadau coeth,
Rho dro am unwaith etto ar hyd y bryniau noeth.
Perora nefol gerddi; melusber gerddi hud
A chwareu ar dy delyn aur nes cana'r creigiau mud.
Cyfuna oesau amser, dolenna barthau'r byd
A gloywa brudd-feddyliau bardd a goleu dwyfol fryd!
Hawddamor fyth-awenol! er fod dy iaith yn syn
Cawn rodio unwaith law-yn-llaw gerglannau'r gloyw Lyn.

II.

Eisteddai hên awenydd ar faen mwsoglyd gynt
A'i hirion wyn-gudynau a droellid gan y gwynt:
Ei delyn yn ei ymyl a'i phwys ar foncyff cam,—
Y delyn bêr a gafodd yn gofrodd gan ei fam.
Sibrydai ffrwd furmurog ar fron briallog fryn
Gan frysio tua'r gwastad er gloywi gwedd y glyn:
Gerllaw'r oedd hên fasarnen, —hoff le 'r ysguthan lwyd, —
O dan y deiliog gysgod, "Cwyn, cwyn," oedd cân y glwyd.
Pan oedd yn hanner huno daeth ato forwyn wen,
A'i gwallt yn grych-fodrwyog-frith-emmog gylch ei phen.
Dechreuodd rydd-ymddiddan ag acceniadau coeth:-


Y Chwifleian.

“Myfi yw morwyn Anian-Chwifleian ddiddan ddoeth:
Mae gennyf, fwyn Awenydd, gyfrinion dyfnion dysg,—
Danghosafddwfn ddirgelion,—dadlennaf chwedl y pysg,—
Mae Llyn yng nghesail bryniau ac arno donnau mân,
Bydd hwn yn fêdd diamdo morwynion glwysion glân."

Diflanodd y Chwifleian tu hwnt i geulan werdd,
A'r bardd yn haner effro a dybiai glywed cerdd
Yn llwytho yr awelon,—a'r dail yn dawnsio'n rhydd,
Ac "Adar Glyn Rhianon," perorion nos a dydd
Yn mud a distaw wrando,—yn synu ar y said:
Ond canfu'r bardd ar barlas pwy oedd y canwyr cain.
A chlywodd eu cyd-odlau, —deallodd air neu ddau,—
"Y Llyn," a "Gwyr Ardudwy," ac hefyd "bywyd brau."
Aeth yn ei flaen yn ffodog, a'i delyn ar ei gefn,
A cheisiai wrth ymlwybran ddirnadu 'r ryfedd drefn:—

Yr Awenydd.

"Rhagluniaeth," meddai, "Tynghed, dy ferch, mae hono'n ddall,—
Paham mae hon yn rhoddi i'r annoeth fwy na'r call?
Mae dreiniog lwybrau eisoes heb foes, yn groes eu greddf,—
Diodid nid da ydyw rhoi bai ar ddifai ddeddf.
Er hyny, (Duw fo 'n maddeu) mae rhywbeth hynod gam
I'w garfod ar y ddaear. Mae rhai'n gyfoethog: pa'm?
Ac eraill yn ymlusgo yn salw o dan draed;
A'r cyfan oll yn frodyr—heb ddim gwahaniaeth gwaed."

Pan oedd yn syn-fyfyrio fe welai langciau llon—
Rhai'n ymchwedleua'r ddifyr,—rhai'n taflu "careg" gron,
Neu ynte “drosol" anferth, —er dargos grym a nerth;
A swp o wyr oedranus dan gysgod deiliog berth
Yn sôn am ddyddiau maboed, —yn ieuaingc, er yn hên,—-
Eu bywyd mewn deng mynyd ail fywient gyda gwên.
Aeth attyrt: Fe roed crechwen groesawus iddo'n awr,
Ac megis cylch o'i gwmpas daeth pawb—yn fach a mawr:
Yr hên yn dawel syllai, —yr ieuaingo graifai'n syn
Ar wyneb yr Awenydd mwyn, a'i hir gudynau gwyn.

Gofynwyd iddo aros am enyd yn eu mysg—

Mervin, Arlwydd Ardudwy.

"O! aros," ebai Mervin, cawn genyt ti ryw ddysg :
Tydi yw'r gwr a welais yn nhawel oriau'r nos,
A choelio'r wyf y medri ro'i hanes Enid dlos
Fy ngobaith;—cydmar enaid;—gwyr pawb mai unig wyf
Gwn daw o dannau'th delyn feddyglyn i fy nghlwyf.

Tyr'd heno i fy neuadd, cawn eto hir ymgom:
Pa le mae Rhys neu Hywel? Dowch: ewch a'r delyn drom,"—
Fel mellten drwy'r ffurfafen daeth meinwen at y bardd
A cherddai wrth ei ochor nes cyraedd godre'r ardd,
Ond yno sydyn safodd a llinyn yn ei llaw,
A chlywodd pawb hi 'n sibrwd,—

Y Chwifleian.

"Y drefn sy'n tynu draw.
Mesuraf fi amseroedd, a llanwaf fodd y llyn:
Mae 'r rhosyn heno ’n wridog a'r lili ’n las a gwyn!"

Syn-safai 'r hen Awenydd,—dywedai 'r gwir yn noeth;

Yr Awenydd.

"Wel, dyna rydd-ymddiddan, Chwifleian ddiddan ddoeth."

III.—Mervin,

"Mae genyf," meddai Mervin—Pan yn ei Neuadd lawn
Gyfrinach a'r Awenydd. Foreuddydd a phrydnawn,
Breuddwydio'r wyf am rywun: a hyny yn barhaus:
Pwy ydyw'r anwyl feinir ? Paham mae yn sarhaus?
Mae yma hefyd heno gyfeillion fel fy hun—
Mewn dwfn deimladau beunydd o herwydd nad oes mûn
I'w chael yn nhud Ardudwy. Pur galed ydyw hyn:
Moes i ni'n awr dy gynghor :"-

Yr Awenydd.

"Mi welais ar y llyn
Aderyn balch yn nofio, a'i wisg fel eira gwyn,
Ei hunan mewn unigedd, a'i olwg oedd yn syn."

Y Chwifleian.

"A fedri di, Awenydd, hysbysu in' paham
Mae rhai yn gorfod bydio heb neb i luddio 'u cam?
Mae arnom eisiau rhiain cariadus heinif heirdd,"
Rhai tebyg i'r anwyliaid ddesgrifir gan y beirdd.
Os medri, brysia, dywed,—tosturia wrth ein nwyd.—

Attebwyd o'r tu allan.

Y Chwifleian.

"Draw, draw yn Nyffryn Clwyd,
Mae Enid dlos y Glasgoed yn curio er dy fwyn,
Cyferfydd di y fory yn nghệl cysgodol lwyn,
Dos yno â'th farchogion, mewn gwisgoedd gwyrdd a gwyn,
Ond cofia'r 'bedd diamdo,' a 'llonydd dwfn y llyn.'
Dos dithau'r mwyn Awenydd, ac arfer eiriau coeth
I'w dilyn,—dyna gynghor Chwifleian ddiddan ddoeth."

Yr Awenydd.

"Rhaid" ebai'r Bardd, "yn ufudd, os myni gael y fûn,
I ti a'th ddewr farchogion yn union bod ag un,
Ddod drosodd i Rufoniog—yn gefnog, wrth y gais,
Daw Enid ar ei hunion i'r llwyn pan glyw fy llais
Yn canu 'Mwynder Meinwen?: 'r wy'n adwaen rhian dlos
Y Glasgoed er's blynyddoedd. Na falier yn y nos:
Rhaid cychwyn: galw'th ddynion: na chymer fir na bwyd,
Cawn ddigon o radlondeb ar waelod Dyffryn Clwyd."

IV.

Pan oedd y wawrddydd las-wen yn agor dorau'r dydd,
A'r bywiog chwim a welon yn plygu cangau'r gwŷdd,
O ben Hiraethog noethlwm canfyddid cyrrau'r fro—
Y wlad lle'r oedd y dewrion am aros dros eu tro,
Pan oedd y meirch golygus yn gorphwys enyd fâch,
A hwythau 'r glàn farchogion,-i gyd o uchel âch,—
Yn ymddifyru'n llawen, —a'u penau oll yn noeth,
Disgynodd yn eu canol y lân Chwifleian ddoeth.
Dywedai 'n llym wrth Mervin:-

Y Chwifleian.

"Bydd llwyddiant ar dy daith,
Ond gwylia 'r 'Llyn mynyddig a'r rhosdir grugog llaith."

Aeth ymaith ar amrantiad gan farchog meirch y nef,
A thaerai rhai o'r dewrion eu bod yn clywed llef
Yn treiddio trwy 'r clogwyni; a'r adsain ar y bryn
Yn atteb, "cymer ofal o'r rhosdir llaith a'r llyn."

V.

Bu'r dderwen fawr yn fesen: bu 'r afon ddofn yn ffrwd:
Bu 'r haul yn ddwl lygiedyn yn rhodio yn y rhwd:
Ond troellir gan Ragluniaeth a Thynged gibog gâs
Ddigwyddion byd yn sydyn hyd derfyn bywyd bâs.
Ymwawria 'r dydd yn raddol—a'r adar per eu cerdd
Ddyhidlent felus odlau yn nghudd y goedlan werdd;
A'r lleiniau teg meillionog, toreithiog lwythog le,—
Edrychent mor wyryfol a thyner lesni'r Ne'.
Tirioni a Thlysineb, y ddwy rodianant draw,
A blodau glân a blagur yn dusw yn eu llaw!
Gorweddai gwŷr Ardudwy gerllaw afonig lefn,
O'u blaen y dyffryn eang, a mynydd o'r tu cefn:
Torasant dalaith fedw,—plethasant hi yn hardd,
Brithasant hi a blodau yn addurn ael y bardd :
Dechreuodd yntau chwareu Alawon pêr ei wlad-
Alawon mwynlawn cariad sy'n llawn tymerau mâd.
Mor odiaeth lon edrychai gwyr tirion Meirion fro,—
Pan oeddynt yn ymolchi yn gryno ar y gro:
A Mervin;—dyn agored, a'i wyneb llawn yn llon;—
Dau lygaid du 'n serenu,-a'i rudd yn goch a chron:
Ysgwyddau llydain grymus, a'i wallt 'r un lliw a'r frân,
Yn arwr mewn gwirionedd ;—ond cariad oedd y gân!
Ond ofnai hyn yn erwin, a chofiai 'r breuddwyd hwn—
Yr ydoedd ar ei feddwl a'i bwys yn llethol bwn!
Un noson yn y gwanwyn daeth hunlle ar ei hynt,
Ac yn ei dull arferol fe bwysodd ar ei wynt.
Cyn hyny, gwelai rïan, yn cerdded yn y coed
Gyn laned ag un angel; ond gwelai am ei throed
Ryw gadwyn haiarn rydlyd a phwysau wrthi 'n dỳn:
Ar fynyd ciliodd ymaith, a suddodd i ryw Lyr.
Ond pan oedd hi yn cwympo daeth hunlle megis arth
A gwasgodd nerth ei enaid fel gwasga'r haul y tarth.

VI. Yr Awenydd.

"Dos draw i'r llwyn cyfagos ac eistedd ar y faingc
Sydd yno dan Grïafolen, a gafael mewn tair caingc:
Ymgroesa wed'yn deirgwaith, ac adrodd y tri gair,
Ac yna taer ddeisyfa, ymbiliau'r Forwyn Fair.
Daw Enid yno atat;-y brydferth Enid fwyn-
Anwylaf o'r anwylion i wrando ar dy gwyn.
Dos yno: gwyr y cyfan; Chwifleian ddiddan aeth
I'w denu i'th gyfarfod : a dwyn ei chalon wnaeth!

Bydd Enid glws y Glasgoed yn eiddo itti mwy;
Prysura 'n union atti nac aros ddim yn hwy."

Aeth Mervin drwy 'r coedlannau yn ffodog at y fan,
Ond O! daeth ofn fel afon nes boddi 'i enaid gwan:
Daeth arno arswyd creulon y Widdan,—morwyn ffawd,
Ac hefyd cofiai 'r breuddwyd oedd bicell yn ei gnawd.
Yng nghanol llwyn canghenog, mi welai faingc a phren
Criafolen yn ymwyro, ar osgo uwch ei phen:
Dechreuodd ei ddefosiwn: darfyddodd : ni ddaeth neb!
Eisteddodd: cysgodd ennyd fêr a'i wridog rudd yn wleb;
Y cyntaf peth a deimlodd oedd llaw morwynig wên
Yn chwareu 'n anwyl hefo hir gudynau du ei ben.
Agorodd ei olygon, a gwelai fyd yn grwn;
Dattodwyd tidau gofid caeth: a darfod wnaeth y pwn.
Sisialai 'r ddau 'n gariadlon yn mynwes gynes serch
Ac engyl pur a syllent drwy lygaid glas y ferch:—
Ymdoddent mewn anwyldeb;—neu fel yr enfys draw,
Ymollwng ar ol cawod wna i'r goleu gwyn gerllaw:
Cyffelyb golwg Enid; O serch y lluniwyd hwy
A thyna 'r achos iddynt ro'i amrywiol farwol glwy'.
Carasant oriau hirion,—ond byrrion, byrrion iawn
Yn nhyb y ddau: chwenychent hwy bob awr, yn ddiwrnod llawn.
Carasant oriau hirion.—dwy galon aeth yn un;—
Mae rhywbeth hyfryd, oes mewn serch yn adgenhedlu hun!"

Enid.

"Tyr'd Mervin, tyr'd i'r Glasgoed, cei groeso nhad a mam:
Moes glywed fy anwylyd glân, paham na ddeui; pa'm?"

Mervin.

"Mae ngwŷr yn aros accw am danaf hefo 'r bardd." —

Enid.

"Na, tyred i fy nghalon aur: mor bell achlawdd yr ardd?"

Mervin.

"Mae arnaf awydd dyfod, ond beth o'm gwŷr, fy mûn?"

Enid.

"Na falia, Mervin anwyl, hwy gysgant dawel hôn
Wrth ddisgwyl am dy weled! Awn, awn, mae mantell lwyd
Yn agorei goblygion llaith:—noswylia'r clodfawr Clwyd!”

VII.

Y bore fel arferol, ymrithiai hunan haf,
Ond gwelid ar ei wyneb brith argoelion bod yn glaf.
Cyn hir fe dduai'r wybren;—pistylliai'r gwlaw er gloes;
A'r hin hyfrydlon noson cynt, yn ddryghin erwin droes.
Ond os oedd du 'r ffurfafen, 'r oedd calon dau yn wyn,—
Nes clywent wich y Widdan gâs yn brudio am ryw Lyn.
Adgofiodd hyn i Mervin y pethau drwg ei hynt,
Ond buan aethant ymaith oll fel niwl o flaen y gwynt.
Pan soniwyd am briodi, mor barod oedd y ddau!
Y tad gynghorai aros peth—"hyd nes gwisgïai 'r cnau."
Y fam, er hyn, oedd foddlon: ei duw oedd Mervin hardd :
Hên gariad iddi oedd ei dad, a chafodd ei gwahardd
fod yn briod iddo:—ei chariad oedd er hyn ;
A pharai serch ELIO LLWYD yr un at OWEN WYNN.)
Ond Enid feddal addfwyn, a'i bron yn llawn o dân,
Gynlluniodd ìi ddïengyd—(a thair genethig glân
I'w chanlyn ;) hefo Mervin i dud Ardudwy draw,—
Ac am y bryniau 'r aeth y pump er gwaetha 'r gwynt a'r gwlaw!

VIII.

Ha! dacw wŷr Ardudwy ar lethr y mynydd serth
Yn canu ac yn dawnsio'n rhydd dan gysgod dreiniog berth ;
Pan welsant hwy'r rhianod,—lliw'r manod ar y bryn
Yn dyfod hefo Mervin ar gefn merlynod gwyn;
Rhoed uchel floedd gyfarchol,—plygasant ar eu glin,—
A phawb a geiriau swynol serch yn llifo dros ei fìn.
Yn osgordd deg ymffurfiwyd: y Bardd oedd ar y blaen,
Ac yna Mervin ddenol—ar farch oedd deg ei raen ;—
Ac Enid dlosgain hefyd ; a'r tair mor lawen lon
Ag wynos pan yn campio yn nwyfusar y fron.
O'u deuttu ac yn dilyn, Marchogion glân eu gwedd
A ddeuent fel cynhebrwngmawr—(heb feddwl am y bedd,—
Y bedd cyfriniol hwnw, "diamdo fedd" y Llyn)—
Gan rydd chwedleua 'n ddifyr ddoeth wrth groesi nant a glyn

Mynachlog! neu Yspytty! mor swynol sŵn dy gloch!
Mae'n seinio dros y cymmoedd cudd—"yn iach! yn iach y bo'ch."
Mor hyfryd i'r pererin ar ol ei ludded maith,
Fydd clywed clir wahoddiad hon i orphwys ar ei daith!
Ceiff yma gartref tawel; a phawb fydd yno'n frawd;
Yn ceisio dysgu 'r naill y llall i wrthladd byd a'r cnawd.
Yr oriau gedwir yma i ymbil am y rhâd,
A gluda 'r egwan, er mor lesg, i dawel dŷ ei Dad!
Tŷ gweddi,—tŷ elusen,—tŷ cariad,—cennad Iôr—
Na foed i'r Aberth bythol mwy gael gwawd o fewn dy gôr!
Ond bydded presennoldeb yr Hwn a roddes gri
"Fy Nhad, O! maddeu iddynt hwy,"—ar groesbren Calfari
Ddylenwi côr a changhell, a chafell heb wahân,
Nes byddo'r byd yn teimlo gwres cynhesol Dwyfol dân!

I hen Yspytty Ifan; i ŵydd yr Abbad ffraeth
Yr aed; a chyn pryd Gosper llawn, eu dyweddio wnaeth;
Ac wedy'n ail-gychwynwyd yn osgordd, fel o'r blaen,
A'r Abbad ddaeth i'w hebrwng yn dirion dros y waen.
Ei fendith iddynt rhoddes, ac adref troes yn awr,
A hwythau aethant tua'u bro yn gwmni teg eu gwawr.

IX.

Pan draw ar frig y bryniau, yng ngolwg bro eu bryd, —
Hwy welent yr eangfor yn cysgu yn ei gryd:
Pinaglau draw ac yma,—hen greigiau noeth eu gwlad,
Oastell il caerog Anian lwys,—nawddleoedd rhyddid rhad.
Fe safodd pawb i syllu ar waedlyd wrid y nen,
A'r haul fel coch-farworyn mawr,—heb belydr am ei ben.
Pan yn eu syn-fyfyrdod daeth twrw ar eu clust,
Ni wyddai nebo b'le naphwy: sibrydai Mervin, "Ust."
Ond cyn pen haner munud, fe welid ar y bryn,
Rhyw lu yn gyrru 'n ffyrnig, a phawb asylla 'n syn!
Dynesu wnaent yn dalog,—rhai mewn cynddeiriog nwyd,
Ac ereill ofnent na chaent byth un gip ar Ddyffryn Clwyd.

X.—Rolf, Arglwydd Dinbych.

"O ladron melltigedig! a hyllig deulu'r fall!
Cewch yma, myn y nefoeddfawr, gael profì pwys eich gwâll!
Yn barod! Ha! Ellyllon; yn drawsion ewch dan draed,
Ceiff grug y mynydd feddwi'n awr wrth yfed nodd eich gwaed.

Mervin.

"Yn araf, ddyn, yn araf; defnyddia, os oes pwyll: —
Ni wnaethom ddim yn haeddu'r fath enwau llawn o dwyll,
Mae'n wir i Enid anwyl;

Rolf.

"'Taw, fulain, taw a'th sŵn."

Mervin.

"O'r goreu, Rolf; dim coegni: ni thrinir ni fel cŵn,
Myn gwaed fy nheidiau dewrion! farchogion blaen y gâd
Arfogwch; dim ond ymladd: nac ofner briw na brad."

Enid.

"Na, na, fy Mervin anwyl; dim ymladd; tyr'd ym mlaen;
Nid felly'n awr fy nghalon bach."

Gwŷr Ardudwy.

I'r waen! i'r waen!! i'r waen !!!

VI.—Yr Awenydd.


"Yn 'Enw Duw a'i dangnef,'pa beth? pa beth yw hyn?
Ystyriwch air o gynghor doeth hen ŵr a'i walltyn wyn;"—

Gwŷr Clwyd.

"Bydd ddistaw! ffŵl! yn barod," —

Mervin.

"Ymladdaf fi fy hun
A dau o'ch rhai dewisol," —

Gwŷr Clwyd.

"Pa le mae ROLF yn un?

Mervin.

"Tyrd Rolf; yn awr yw'r adeg: nid dyma amser twrf,
Rhyw ddau oth wyr a thithau! Tyrd, tyr'd, yr adyn llwfr."

Enid.

"Moes gusan, Mervin, gwrando; fy nghalon! dyro ddau!
O! Dduw a Mair Fendigaid! mae f'enaid yn llesghau."

Rolf.

"I'r maes, ddyhirwyr anfad."—

Mervin.

"Doed dau i'th ddilyn di,
Ymladdaf a chwi 'n lawlaw : neu ynte deued tri.

Rolf.

"Dos ymaith, Enid, brysia, cei eto weled pa'm
Y buost mor fursenllyd a gwadu 'th dad a'th fam."

Mervin.

"Hyd angau, Enid anwyl; drwy angau awn yn un
Dau ydym annattodol, brïododd serch ei hun."

I'r maes oedd bloedd aflafar y tingcian arfau rhydd,
Ac ar y rhosdir brwynogllaith terfynwyd gwaith y dydd!

XI.

Ar gopa craig uchelgrib uwch-ben y rugog rôs
Y safai'r glân rianod pur wrth ymyl Enid dlos:
Ond, Ow ! mae'n gwylltio; gwrando!—

Enid.

O!'r fyth Fendigaid Fam,
Eiriola ! danfon gymhorth i MERVIN rhag cael cam.

  • * * * * * * * *

Y maes oedd wastad hynod; a'r ddwyblaid ddaeth yn mlaen;—
A'r oergri ruddfan dystiai fod marwolaeth ar y waen!
Daeth Rolf i arfod Mervin, a gerwin oedd eu grym,—
Nesaent yn hyf,—ond dyma dri â bwyill miniog llym,
Yn rhedeg yno i helpu,—ond dacw ddau i lawr,
A Rolf a'i ben fel ceubren hyll, yn brathu gwellt y llaw

Ond ar y funud yna, daeth saeth o'r ochr draw,
A suddodd yn ei fraicli yn ddwfn; ond nid oedd ofn na braw.
Parhau i wir weddio 'r oedd Enid yn ddi ball:—

Enid.

"O Argwydd cadw Mervin fwyn ! Tydi yn unig all.
Mae 'n medi ei elynion! ! Fah y Forwyn hur,
O! Cadw Mervin imi 'n wr, er giuaethaf llidiog gur.
Mae chwech yn rhedeg atto,— mae chwech yn erbyn un,—
Mae pedwar wedi cwympo, a'r pum," — * * *
Duw ei hun
Faddeuo. Dowch Enethod. Fy Nuw a Mair a'i myn.
Cawn noddfa etto rhag eu llid yn mynwes lawn y Llyn."
"I'r llyn," oedd gwaedd y pedair,—neidiasant,— cawsant fedd
Diamdo dan ei donnau mân; a theulu'r tawel hedd —
Y Forwyn Fair a'r seintiau a'r pur wyryfon sydd,
Yn cyfeillachu efo 'r rhain yng ngoleu 'r nefol ddydd !

XII.

Mae "Beddau gwŷr Ardudwy" ar waenydd Serw 'n awr,
Yn ddalen waedlyd er coffâu y flin ymladdfa fawr;
A thonau "Llyn Morwynion" wrth olchi min y làn
Yn sibrwd beunydd am y "bedd diamdo" sy 'n y fan.
A dywed mwyn Draddodiad, — " ar lawer noson oer
Bydd Enid hyd y rhosdir llaith yng ngoleu'r welw loer
Yn chwilio am ei Mervin; ond cyn daw bore gwyn
Bydd wedi suddo yn ei hôl yn llonydd dwfn y Llyn."


Nodiadau[golygu]