Cymru Fu/Iolo Morganwg

Oddi ar Wicidestun
Llyn y Morwynion Cymru Fu
Iolo Morganwg
gan Isaac Foulkes

Iolo Morganwg
Nos Galangauaf yn y Cwm


IOLO MORGANWG.

(GAN CYNDDELW.)

TYBIAF na bydd ychydig o nodiadau ar ddyn mor hynod a IOLO MORGANWG yn anghydweddol ag ysbryd ac amcan "CYMRU FU." Un o'r dynion rhyfeddaf a fagodd Cymru erioed ydoedd. Dyn isel yn y byd—dyn yn diystyru cyfoeth, ac yn hollol amddifad, mae'n debyg, o ddoethineb a chyfrwysdra y byd hwn. Mynai fod yn dlawd, gweithiai â'i ddwylaw i gadw ei deulu, ac ymroddai i'w swydd, fel Bardd a Derwydd,i gasglu pob math o wybodau dichonadwy iddo, yn enwedig gwybodau henafol a Chymruaidd; a bu farw mewn oedran teg, yn nghanol cyflawnder o ysgriflyfrau gwerthfawr, yn y flwyddyn 1826. Ni bu dyn mwy caredig, dyngarol, a dirodres yn rhodio daear erìoed. Nid oedd un aberth yn ormod ganddo i'w gwneuthur er lles eraill; a'i awydd a'i hyfrydwch penaf oedd cyfranu addysg i'r ymgeisydd ieuanc ac athrylithgar. Ond o herwydd gwreiddiolder ei olygiadau ar braidd bob peth, annibyniaeth ei farn, hynodrwydd penderfynol ei ddull, ac o herwydd iddo ymddangos mewn oes hynod o ragfarnllyd mewn pethau gwladol a chrefyddol, treuliodd ei oes faith a llafurus heb ennill y sylw a'r parch a ddylasai gan y cyffredin; yr oedd llawer yn elynion diachos iddo, ac ychydig yn ei fawrhau fel pe buasai brophwyd o'r nefoedd.

Dywedir i IOLO yn more ei oes benderfynu chwilio perfeddwlad America i edrych am y Madogwys; canys credid y pryd hwnw eu bod yn hawdd eu cael, dim ond myned i hela am danynt. Yr oedd IoLo yn gerddwr dihafal, a gallai gerdded llawer ar ychydig iawn o fwyd; ond barnai y byddai raid iddo ar ei hynt Fadogaidd oddef mwy o galedina chyffredin, am hyny bu yn caledu ei hun at y gwaith, yn pori glaswellt, yn cysgu allan, &c., nes i ddiffyg anadl, a phoenau ereill, ei argyhoeddi o'i gamsyniadau. Ystyrid IOLO yn dderwydd ymarferol, sef yn fab heddwch, yr hwn na ddynoethid arf yn ei wyddfod; eto mae cof am dano yn cefnogi y Dr. Dafydd Samwel i ymornestu a Ned Mon yn Llundain; ond barna rhai mai fel dyddiwr y cymerodd IOLO y swydd, yn hytrach nag fel cefnogwr y fath gyflafan. Pa fodd bynag, ni bu yno dywallt gwaed, canys ni ddaeth Ned Mon i'r maes. Dyna ffordd hynod i feirdd a llenorion i roddi terfyn ar eu hymrysonau Eis teddfodawl.

Yr oedd bywyd Iolo yn hynod o ddiaddurn a chyntefig,

"O Ddawon afon yfai, Ac yn ei nerth canu wnai."

Dwfr, a llaeth, a thê oeddynt ei ddiodydd cyffredin; a phelled a hyn y gwrthbrofir, ynddo ef, yr hen haeriad—

"Ni fu ddoeth a yfo ddw'r."

Yr oedd yr afonig Dawon yn gymydoges hoff ganddo, pan y rhodiai ar ei glenydd, ac yr yfai o honi.

Tybiaf fod Iolo yn fwy o feddyliwr na neb yn ei oes.

"Ni chytunai a Burnet, Whiston, Buffon, Whitehurst, na Hutton, yn eu dychymygion yn nghylch ansawdd ein daear, a'r achosion o'r annhrefn, neu yn hytrach y drefn bresenol o amrywiol osodiadau a sefyllfaoedd y gwelyau a'r colofnau o greigiau a sylweddau ereill yn ei harwynebedd. Yr oedd ganddo gyfundraith o'i eiddo ei hun.—
G. Mechain.

Mae yn anhawdd gwybod yn iawn pa beth oedd ei farn grefyddol. Nid oedd Waring, ei fywgraffydd, yn gwybod chwaith. Yn ei Salmau y gwelir mwyaf o'i syniadau crefyddol. Mae yn amlwg ei fod yn ddyn bucheddol a chymwynasgar, yn feddyliwr dwfn ar bethau dwyfol, fod ganddo syniadau goruchela pharchus am Dduw, ac am yr Ysgrythyr Lân fel amlygiad o'i ewyllys. Yr oedd y Diweddar Ddr. Jenkins, o Hengoed, yn gydnabyddusiawn a Iolo, a chlywais ef yn son cryn lawer am dano. Yn ol fel y dywedai ei gyffes wrth Dr. Jenkins, yr oedd efe yn Undodwr mewn rhai pethau, yn Grynwr mewn pethau ereill, yn Fethodist yn nhrefn y weinidogaeth, ac yn Fedyddiwr mewn bedydd. Nid oedd neb yn ei foddio yn mhob peth, ac yr oedd efe yn cymeradwyo rhywbeth yn mhawb. Soniai am ysgrifenu llyfr i ddangos fel yr oedd pawb yn cyfeiliorni, o dan yr enw—"Ymweliad y Diawl ag Eglwysi Cymru." Ond ni chyflawnodd ei amcan yn hyn fel mil o bethau ereill a fwriadodd. Gwir nad oedd Iolo, er ei holl wybodaeth a'i barodrwydd i gyfranu addysg, ond athraw gwael i'r dysgybl diathrylith. Yr oedd ei olygiadau ef yn wreiddiol braidd ar bob pwnc, a chanddo rywbeth i'w ddywedyd yn erbyn pob plaid a syniad mewn crefydd ac athroniaeth; ond nid allai y dysgybl pendew lyncu dim ond y syniadau nacaol, ac felly ni ddysgent nemawr o ddim ond amheu a gwrthddadleu. Yr oedd tuedd naturiol yn hyny i ladd yspryd crefydd, ac i nychu dawn ac athrylith; a'r canlyniad yw, na fagodd Iolo, er ei holl gymhwysderau cynhenid, cymaint ag un dysgybl gwerth son llawer am dano. Yr oedd awyr farddonol y Gogledd yn wahanol. Bu D. Ddu, G. Mechain, ac eraill yn fwy ffodus i gynnyrchu beirdd uchelryw ac awenddrud.

Er mai yr Undodiaid, neu y Sociniaid, fel eu gelwir, oedd yn hawlio Iolo fel brawd, eto mae'n debygol na bu efe erioed yn aelod eglwysig gyda hwy. Gellid meddwl mai aelod anhydrin mewn cymdeithas fuasai, oddigerth gydag ychydig o feirdd y rhai a edrychasent arno fel eu horacl. Ond dywedwn air eto am Iolo fel Emynwr. Cyfansoddodd tua thair mil o emynau, a thua thri chant o Erddyganau i'w canuarnynt. Dyna dystiolaeth ei fab, T. ab Iolo. Gan hyny mae 2500 o'i Salmau heb eu cyhoeddi eto; canys tua 500 o honynt sy'n argraffedig yn y ddau Lyfr. Mae ei Emynau yn rhagori mewm nifer ar eiddo Williams Pantycelyn, ac yn rhagori'n ddirfawr mewn celfyddgarwch hefyd. Wrth ystyried hyn, amledd ei fyfyrdodau ereill, gwaeledd gwastadol ei iechyd, a chyfyngder ei amgylchiadau bydol, yr ydym yn synu at amrywioldeb ei ddoniau, a'i ddiwydrwydd diflino. Wedi'r cwbl, ni ddaw Emynau Iolo byth yn boblogaidd yn Nghymru. Er nad oes ynddynt syniadau tramgwyddus i neb am a wn i, eto maent yn amddifad o'r elfen fywydol hono sy'n gwneud hymn yn flasus ac effeithiol. Nid yw cwymp dyn yn Adda a'i achubiaeth drwy angau Crist, yn un rhan o'i syniadau crefyddol; eto cydnebydd Iesu Grist fel athraw dwyfol wedi dyfod i ddysgu'r ffordd i'r bywyd, a gwynfydedigrwydd y sawl a wrendy arno, ac a'i dilyna. Nid oes yno ddim o'r newyn a'r syched am gyfiawnder sydd yn Emynau Williams. Mae Williams yn canu angen a phrofiad y werin yn eu dull a'u hiaith sathredig hwy eu hunain; a dyna athroniaeth ei boblogrwydd Emynol. Gosodwn rediad y Salmau yn ngeiriau yr hen fardd ei hun, fel diweddglo i'n hysgrif.

Dechreuodd Iolo ei lafur Emynawl ar ol cyhoeddi ei farddoniaeth Seisnig tua 1796, ar anogaeth y Dr. Gregory, y Dr. Kippis, Theophilus Lindsey, ac ereill. Ei amcan oedd "ysgrifenu rhyw faint o Salmau neu Hymnau Cymraeg, o'r cyfryw ag y gallai Cristionogion diragfarn, o bob enw a phlaid, ymuno ynddynt i folianu'r UN DUW A THAD OLL." "Amcenais gadw mor agos ag y medrai fy neall gwan i, at feddwl yr Ysgrythyrau; cymerais waith y Brenin Dafydd yn rhagddarlun imi, amcenais, er cloffed fy neall, ei ddilyn, ac ymgadw, mor agos ag y medrwn, at ei ffordd ef; fy Ngheinmygedau, yn gyffredin, ydynt fal ei rai yntau; mawl i Dduw; rhagoroldeb ei air a'i gyfraith; gwynfydedigrwydd y cyfiawn a rodio yn eu hol; addewidion Duw i'r sawl a'i hofnant, a'i carant, ag a ufuddhânt iddo; gwelir rhai o'm Salmau yn athrawiaethol, yn annog cyfiawnder, cariad, trugaredd, addfwynder, gobaith, a chred yn Nuw; yn annog i lynu yn gadarn wrth y gwir, ei ddilyn i ba le bynag y bo'n harwain, a hyny hyd farw drosto, lle bo achos yn gofyn: i ufuddhau ì Dduw yn hytrach nag i ddyn."

Nid ein bwriad oedd ysgrifenu Cofiant Iolo Morganwg, ond cofnodi ychydig o'i hynodrwydd fel dyn a Derwyddfardd

Dilys mai codiad Iolo—a gwnodd
Forganwg o angho',
A hir y cedwir mewn co'—gan ddoethion
Hen gyfrinion a gofir yno.
Iolo fawr oedd haul i feirdd,
Ac i dorf o gadeirfeirdd
Uthredig Athraw ydoedd,
A'i air clwm eu horacl oedd ;
Mewn barddrin a chyfrin chwedl—mae'n amlwg,
IOLO MORGANWG HAUL MAWR Y GENEDL.

CYNDDELW.


Nodiadau[golygu]