Neidio i'r cynnwys

Cymru Fu/Nos Galangauaf yn y Cwm

Oddi ar Wicidestun
Iolo Morganwg Cymru Fu
Nos Galangauaf yn y Cwm
gan Isaac Foulkes

Nos Galangauaf yn y Cwm
Dafydd y Garreg Wen


NOS GALANGAUAF YN Y CWM

GAN GLASYNYS.

Pwy bynnag a chwenycho weled a chlywed dulliau a chwedlau yr hen bobl dda sydd wedi ein gadael er's llawer oes, deued hefo ni am noson i Gwm Blaen y Glyn. Beth bynnag, yr y'm ni am fyned yno'n brydlon fel y caffom ran o ddifyrwch diniwaid pobl wreiddiol y byd,—pobl nad oes ond un argraffiad ystrydebol o honynt i'w gael ar glawr daear. Amser hyfryd i deithio ydyw diwedd Hydref, os y bydd hi'n sych. Bydd y grug yn gochach, y mynyddoedd yn felynach, y goedwig yn fwy rhwd-goch yr adeg hon nag un amser arall, y planhigfeydd yn llawn dail, er fod llawer wedi cwympo: a'r llwyni derw tewfrig heb ddynoethi eu canghenau esgyrniog, er fod aml i gorwynt cuchiog beiddgar wedi cynnyg eu hysgrialu. Bydd yr afonydd erbyn hyn wedi llenwi eu gwelyau, ac yn ffurfio'n fath o linynau arianliw, ar draws, ac ar hyd mynwes y mynydd ban. Ond os bydd yr hin yn ddryghinllydd, bydd yn dywydd enbyd? Bydd y gwynt fel pe bae wedi d'od o'i garchar, ac yn ymruthro, ac yn ysgubo llon gau'r môr a choed y maes. Us bydd yn gwlawio, pistylla'r cymmylau nes hanner boddi'r byd. Poed hyn fel y bo, amser hyfryd ddigon ydyw mis Hydref; a'r noson olaf o hono ydyw ei brif ogonmiant, sef Nos Galangauaf! Y mae rhyw swyn arbenig y' mywyd syml, tawel, a digynhwrf y mynyddoedd; yma ceir unigrwydd syn a llawenydd gorhoenus yn cydfyw yn llaw-law hefo'u gilydd. 'Yr hên ŵr a'i gudynau fel yr eira, a'r bachgen gwridgoch, yn cyd-ymddifyru 'n fwyn-lon;—yr hen Neina druan ag amser wedi tynu ei og ddrain dros ei gwynebpryd hirgrwn, a'r eneth ieuangc a dwy-foch fel gwaed, yr hon, braidd, y plyg y babwyren ir o dan ei throed, yn cyd-fwynhâu yr un campau diniwaid: unent yn yr un floedd chwerthinllyd; ac ymlonent yn gyd-radd pan gaffent gymmorth i chwerthin gan rai o'r plant a fydd yn ben y gamp am chwedl ddigrif, neu ryw ystumiau gwamal. Bywyd hyfryd yw bywyd yn y mynyddoedd. Desgrifir ef fel hyn yn un o Fugeilgerddi a * * :—

Ryw noson oer ddryghinog yn HAFOD LWYFOG lan,
O dan y simneu fawr yn glyd yn profi blas y tân :
Eisteddai TAIR cenhedlaeth, —y Plant,—y Tad a'r Fam,
A Neina yn ei chadair wellt,—a Theida 'n hen a cham
Mewn cadair freichiau dderw, yn trin y tân a'i ffon,—
A'r plant oedd yn ymryson bod odan ei lygaid llon!
Hen arfer HAFOD LWYFOG er dyddiau "Cymru Fu,"
Oedd adrodd chwedlau wrth y plant ar hirnos gauaf du;
Un hynod iawn oedd Neina am gofio naw neu ddeg
O bethau glywodd gan ei Nain, am gampau'r Tylwyth Teg,
Wrth gribo gwlan ddechreunos:—a'i merch yn diwyd wau ;
A'i gŵr yn prysur wneud llwy bren, neu yntau efail gnau ;
Ond Teida oedd y goreu am hen gofiannau gwlad
Y rhai a ddysgodd yn y Cwm wrth gadw praidd ei dad.

Dyna ddarlun o dai'r mynyddwr aramseroedd cyffredin; ond ar Nos Galangauaf, nid un teulu fyddai yn nghyd; ond pawb trwy'r Cwm yn ddiwahân; gwan hen, a gwan ifangc: y llangciau cryf esgyrniog, a'r lodesi glandeg chwim ar eu troed; y tadau gwybodus, a'r mamau llawn pryder, a syberwyd. Byddai yr henlangc consetlyd yno, a'r hen ferch wastad ei chwedl, yn anghofio am dro weled bai ar bawb a phob peth yn dangos ei wyneb. Ym Mlaen y Glyn y byddai pawb yn y Cwm, er cyn cof, yn arfer cadw Nôs Galangauaf. Hen dŷ hir, digon symol yr olwg arno oddiallan, oedd Blaen y Glyn. Yr oedd yno ddwy neu dair o goed ynn yn tyfu gerllaw iddo, allwyn o frysgyll tew heb fod yn neppell. Yr oedd yno hefyd bistyll yn y buarth; a thipyn yn mhellach draw yr oedd y fuches. O flaen y drws yr oedd llei'r ystenau godro, ac wrth y pen deheuol ryw ddwsin a hanner o gychod gwenyn yn rhes. Bellach, beth fyddai i ni fyned i'r tŷ i ro'i tro? Hen ddrws derw mawr heb brofi blas paent erioed: yna hen gul-fan eang: y llawr o gerig llyfnion yn lân. Trown i mewn ar y llawchwith. Dyma hen simneu fawr anwyl yn ddigon o'i maint i gynwys dau ddwsin ar unwaith: lle i gadw mawn yn y gornel bellaf. Tân ddigon i rostio eidion ar yr aelwyd, a dau neu dri o gŵn yn gorwedd yn hamddenol o'i flaen. Un ochr i'r gegin (oblegid yn y gegin yr ydym; a lle iawn yw hen gegìn lanwaith llawer man rhwng y bryniau)—un ochr y mae bwrdd, a hwnw gyn wyned a'r talch; nid calch dealler, ond talch; o'r tu draw, ar y silffoedd y mae rhesi o drenswriau cyn wyned ac yntau; dippyn yn mhellach y mae'r dressel; ben dresselddu: coed a dyfodd ar y tir yw ei defnydd. Y mae pedair llythyren ar ei phen uchaf, a'r flwyddyn y gwnaed hi mor amlwg a hyny. Yr oedd y platiau pewter gyn loywed ag y gellid gweled eì gysgod ynddynt. Yr ochr arall yr oedd hen gwpwrdd tri-darn: yroedd hwnw wedi cael eì wneud yn rhodd brïodas i dad-cu-hen-daid y gŵr!! Dyfaler felly ei oed. Yr oedd yno res o ystolion gwynion: a chryn lawer o gadeiriau derw da. Yr oedd. y llawr cerig yn llyfn ddisglaer, a fflamau'r tân yn gwenu wrth weled eu llun yn mhob peth o'u deutu. Dyna Flaen y Glyn i chwi.

Yn awr i ddechreu ar ein chwedl. Y mae mwy na deugain mlynedd er pan y digwyddodd yr olygfa. Ac fel hyn y cymerth y peth le. Yr oedd hiyn brydnawn heulog;—ond dihangodd yr haul dros gribau y mynyddoedd: a gadawodd ni i gymeryd ein siawns pan yn croesi o'r Griafolen rhyngom a'r Bwthyn llwyd lle trigai'n mam. Pan oedd cysgodion y nos yn ymwasgu am danom, daeth hen chwedlau a chofion ein maboed ì'n meddwl yn dryblith drablith. Brasgamu yr oeddynt yn mlaen, oblegid nid oedd ugain mlynedd wedi llwyr ddileu oddiar y meddwl yr hen lwybrau a gerddwyd cenym pan yn crwydro ar ol defaid ein rhieni. Ar ol hir chwysu daethpwyd o'r diwedd i ben gallt serth, a chlywem oddi tanom ryw sŵn siarad; ambell i chwerthiniad llawen, a sibrwd adseiniol. Eisteddwyd am enyd ar hen faen mwsoglyd. Cyfarthai y cŵn wrth un fan, ac attebid hwy gan gwn o'r ochr arall i'r Cwm. Rhedai mil-fil o feddyliau ar draws eu gilydd yn yr enaid, fel gwybed bach ar hwyrnos yn Mehefin. Ond codwyd, ac aed i lawr o lêch i lwyn. Weithiau byddem mewn caregle garw, bryd arall ar lecyn mor esmwyth â'r melfed; croeswyd ffrwd o ddwr, ac odditanodd yr oedd cornant yn frydar ei felusgerdd un-dônol. Ond yn nghesail y bryn gerllaw gwelem oleu. Cofiwyd pa le ydoedd, ac unionwyd ato gyn gynted ag y gellid. Wedi curo wrth y drws: er nad oedd eisiau hyny er mwyn cael gwybod a oedd neb yn y tŷ, oblegyd yr oedd digon o dwrf o'r tu mewn, yn profi hyny yn ddigon amlwg i bawb o'r tuallan. Daeth y ferch i'r drws, ac i mewn a ninau. Yr oedd yno gryn ddwsin o ferched o wahanol oed, a phedwar neu bump o hen bobl yn ymgomio yn ddifyr wrth y tân. Cyfarchwyd gwell; ac yr oedd yno rai oedd yn cofio ein taid yn las-lefnyn: ac un hen wraig wedi bod ganwaith hefo ein nain yn Ngwyl Mabsant y Llan. Yr oedd Blaen y Glyn yr un fath yn union ag oedd pan oeddym wedi bod yno cyn gadael ein hen fro gynhenid. Yr hen gloc, gwyneb du felyn yn y gornel wrth ochr y cwpwrdd tri-darn, &c. Wedi eistedd, erfyniwyd arnom aros yno i gael rhan o'r difyrwch, a phenderfynwyd yn ddigon diseremoni. Yr oedd y bechgyn, meddynt, yn tanio'r coelcerth ar ben y Bryn, ac yr oeddynt oll i dd'od yno yn union deg i godi afalau o'r dw'r ; i ro'i cnau yn y tân er mwyn cael gwybod tesni: ac yr oeddynt hefyd yn disgwyl Rhydderch y Crythor yno. Ar ol bod yn y tŷ am ryw ddeng mynyd,a chael cynyg rhywbeth yn fwyd o leiat deirgwaith yn ystod pob mynyd o'r cyfamser, awd allan yn nghwmni tair neu bedair o'r genethod i weled y Coelcerth. Erbyn hyn yr oedd wedi ei danio, a'i oleu yn gwneyd y Cwm o ben i ben felun ganghell Eglwys ysplen- ydd ar fore y Nadolig. Rhoddai wrid i'r afon gordeddog; a grym yn nghochni hydrefol daily coed. Canai y bechgyn; chwarddai y plant; a chyfarthai y cŵn, a llawenhaem ninau. Ond dyma rywun yn d'od! "Pwy ydyw tybed?" ebai y naill wrth y llall. "Pwy ydwyf? ond Rhydderch y Crythor debyg" ebai llais dwfn yr hên fachgen. "Wel," ebe merch Blaen y Glyn, "Iechyd i dy galon di Rhydderch, yr oedd fy Nain yn dweyd na fethaist di ddim unwaith a do'd yma er's mwy na deugain mlynedd." "Pawb yn iach gobeithio," meddai yr hen Grythor: "O," ebe hithau, "pob peth fel arferol. Mi fyddwn yn dechreu arni gyn gynted ag y daw'r bechgyn o ben y Bryn. Aethom yn ôl hefo'n gilydd i'r tŷ: a chyn pen ychydig o fynydau yr oedd y rhai oeddynt hefo'r coelcerth; yn bob gradd o honynt, wedi do'd ilawr. Yr oedd yno rai yn edrych arnom ni fel pe buasai gyrn ar ein pen. Ni wyddent pa lwyth, iaith, neu genedl oeddym. Ond dyma'r Crwc yn llawn dwfr; a Gwen, canys dyna oedd enw merch y tŷ, yn dyfod a llonaid ei ffedog o afalau croendeg, ac yn bwrw rhyw ddwsin o honynt iddo, a'r hogiau yn dechreu arni nesu am y digrifwch. Yr oedd yno un llefnyn digrifach na'r lleill, ei enw oedd Ifan Dafydd. Efe oedd y cyntaf i benlinio with y Crwc; cododd Ifan ddau afal yn lled ddiboen, a rhoes un i hen wraig Blaen y Glyn, a'r llall i ninau. Yr oeddym ni yn llu o gylch y tân, yn chwerthin ac yn siarad; ond dyma linyn yn cael ei grogi wrth fach dan y llofft; a phren yn cael ei rwymo wrtho; yna rhoed afal ar un pen iddo, ac yn y pen arall yr oedd hollt, ac yn yr hollt y rho'id darn oganwyll frwynen, ac nid ychydig y llonder a geid pan fyddis yn ceisio sugno'r afal i'r genau, ac os methid, ond odid fawr na thrôai y ganwyll, ac y llosgai fochgern yr ymgeisydd. (Onid oes cryn debygrwydd yn hyn i'r wedd y digwydd i ymgeiswyr aflwyddianus ein Heisteddfodau, nid yn unig collant y wobr, ond llosgir eu bochgernau hefyd yn fynych.) Erbyn hyn yr oedd y ddiod Griafol yn cael ei thywallt, a digonedd o Feth wedi do'd ary bwrdd. Ar ford yn un gongl,—(nid oedd llian arni, oblegid yr oedd cyn wyned ag un llian a fedd Cymru ;) yr oedd bara ceirch wedi eu troi bron yn grwn, a lwmp o fenyn a dagrau ar ei olwg-melyn; yn ei ymyl yr oedd clobyn o gosyn iraidd, a phawb yn cael helpu ei hun, heb gymhell yn ychwaneg na "dyma 'r bwyd;" ond nid bwyd oedd y pethau ar Nôs Galangauaf. Yr oedd yno dori cnau; a gwaith difyr yw hyny os y ceid hwy yn llawnion. Ond codi yr afalau o'r dwfr oedd y prif beth yn ngolwg y bechgyn. Pan y codai Rhys Puw un gwelid ef yn ei wthio yn hanner dirgel i gil llaw Elin y Bryn: a phan y byddai Cydwelyn Lewis yn methu, a rhoi o'r plant direidus yn taro eì ben tan ddw'r, gellid darllen effaith gofid ar ruddiau Lwlan Sion. Ni wyddent hwy etto ddim am garu; ond yr oedd rywbeth yno er hyny; a'r "rhywbeth" hwnw yn gyffredin a lefarai a "Gwnaf" wrth allor y Llan, yn y pen draw.

Yn un cwr o'r tŷ yr oedd f'ewyrth Reinallt Wmffra: hen wryn bach ystwyth ei chwedl; ac mewn gwirionedd yr oedd yn anhawdd gwybod pa'r un oedd y mwyaf diddan ai gwrando arno ef a Morgan Llwyd yn dweyd eu cofion; ai ynte edrych, a rhoi clust i ddywediadau y rhai ifangc. Yr oedd yno beth arall hefyd. Yr oedd yno glic parhaus yr hosanau a'r gwëill; o herwydd nid oedd dwylaw 'r merched un mynyd yn llonydd. "Pobl ddiwyd yw pobl y mynyddoedd," meddem wrthym ein hunain. "Dyma lawer o'r hen Ewyrthod, a'r oll o'r hen fodraboedd "yn diwyd wau" hyd yn nod pan yn ymddifyru."Ond Yn mha le y mae Rhydderch Crythor? Dyma fo! A fyni di, ddarllenydd, glywed neu weled pa fath un oedd ? Wel! haf ati ynte.

Y mae'n debyg na thynwyd llun creadur mwy afrosgo erioed, ond na falier hyny, gwnawn ein goreu. Ac os methwn; methwn wrth geisio.. Yroedd, ymae'n ddiddadl, wedi gweled o leiaf dri—ugain gauaf; felly yr oedd yr ychydig wallt a feddai, wedi froi fel llin wedi ei gânu. Clamp o ddyn tua dwylath o daldra: pur eiddil, a thipyn o wâr ganddo. Gwyneb hir pantiog, a chlobyn o drwyn, a allasai, pe cymerasid gofal o'r defnydd, wneyd y tro, o leiaf, rhwng tri: hyny ydyw, pe buasid yn rhyw haner cynil hefo'r cyfryw ddefnyddiau. Yr oedd hwnw hefyd yn troi yn fwâiog, a chrwbi mawr yn ar ei ganol. Ceg ledgam, ac un wefl yn croes—guddio y llall;—yr isaf yn darn guddio'r uchaf. Gên hir, a thipyn o dro ynddi. Ei ysgwyddau yn cantio at eu gilydd: a dau lygad: un yn edrych y ffordd yma, a'r llall yn serenu'r ffordd draw. Ryw ysgrifinllyn fel yna oedd Rhydderch; ond yr oedd, er hyny, yn bur siongc ar ei droed, ac yn ffraeth eithaf ar ei dafod. Wedi cael digon ar godi'r afalau, a llosgi'r bochgernau; a'r cnau wedi lleihau cryn lawer yn y fwydor,—oblegyd yn y fwydor y rhoddesid y cnau; dyna Gwen Llwyd, merch y tŷ at ei mam, ac yn erfyn am dro newydd ar y droell. Dylesid sôn cyn hyn, efallai, am un bachgen llwyd—denau a eisteddai yn nghil y pentan. Nid oedd ef yn cymeryd dim sylw yn y byd o ddim ag oedd yn cymeryd lle. Gwrandawai yn astudar bawb, ac ambell dro, pan welid ei lygaid, gellid canfod ynddynt ddwysder a threiddgarwch wedi cyd—gymysgu. Yr oeddeigorgi blewog ambell dro yn llyfu ei law. Ond distaw fud oedd efe, yn gweu ambell bwyth ar hosan Reinallt Wmffra. Amlwg oedd fod rhywbeth ar ei feddwl. Yr oedd Gwen hithau yn edrych weithiau, a'i llygaid dros ei hysgwydd, tua'r fan yr eisteddai, ond nid oedd dim byd arall yn cymeryd lle rhyngddynt. Priciodd rhywbeth ni er hyny. Peth rhyfedd yw y rhywbeth yma, ni waeth hynnag ychwaneg. Ond dyma'r ganwyll frwyn i lawr, a thacw'r crwc yn cael symud ei borfa. A phawb ar ôl cael eu rhan o'r ddiod Griafol, neu o'r Meth, yn hwylio am fod yn barod i wrando ar Rhydderch yn rhwbio ei Grwth. Mymiai f' ewyrth Reinallt mai canu pennillion oedd y goreu, ac nid oedd. neb A feiddiai groesi yr hen fachcen. Felly dechrenwyd o ddifrif hogi arfau. "Pawb a'i bennill yn ei gwrs," oedd y drefn, ac nis esgusodid hen nac ieuangc. Dyma ddechreu rhwbio'r tanau, a'r rhai hyny yn gwichian ar y cyntaf, yn waeth eu sŵn na chant o gywion dallhuanod pan yn ymladd a'u gilydd. Ond chware teg i'r hen law, medrodd o'r diwedd gyweirio ei hen offeryn, a chafwyd llawer darn digon di falc ganddo cyn darfod. Chwareuodd "Serch Hudol," i ddechreu, a tharodd Hen ŵr Blaen y Glyn y pennill cyntaf o "Forwynion Glan Geirionydd" yn odiaeth dda; dilynwyd ef nes aed dros y Gân. Yn y fan hon, newidiwyd y dôn. Ond y mae'n fwy nathebyg, ernewid y dôn, mai yr un oedd miwsig calon fri neu bedwar oleiaf yn y fana'r lle! Aeth y Crythor yn ei flaen, ac erbyn hyn, yr oedd clic y gweill weditewi, a phawb o lwyrfryd calcn yn gwylio ei adeg. Ond pan ddaeth amser Twm Pen Camp i ganu, (cenaw ystumddrwg ofnadwy, fel yr oedd yn hawdd gweled wrth ei lygaid, oedd Twm,) ac fel yr oedd rhywbeth yn mynu bod efe oedd i ganu yn nesaf, ar ol f'ewyrth Reinallt Wmffra, yr hwn, er bod ei lais yn crynu, a ddatganodd yn bur dda, chwareu teg iddo. —A thyma Twm yn dechreu ar ei ol ef, a thyma ei bennill :

'Roedd ci gan Reinallt Wmffra
Yn firiad arei fera',
Ac yn ci fyw ni ddringai riw—
Mor waned ei gymala'.

"Gyn siwred a mod i yma mi 'th darawaf di Twm," ebai yr hen Reinallt, ac yn chwilio am ei ffon mewn ffwdan gwyllt, "Gwna, nid elai byth o'r fan yma," ebai, a thyna bawb mewn llewygon. "Wel, arhoswch f'ewyrth Reinallt," meddai Twm, "mae ail gynygi Gymro gael." Felly, ar ol i bawb ro'i goreu i chwerthin, a'r hen ŵr ddo'd dipyn atoei hun, dyma'r Crythor yn dechreu rhwbio drachefn: yna daeth Twm allan yr eiltro, a chanodd fel hyn:

Pan oedd y ci ryw noson
Yn ceisio crafu'r crochan,
'Roedd Reinallt Wmtfîra a Mari Sion
Yn cynal bon ei gynffon.

"Os drwg cynt, gwaeth gwedy'n." Yr oedd Reinallt am ddarn ladd Twm; chwiliai am ei ffon, a bygythiai ei ddwyn o flaen ei well am ei ysgandarleisio. " Ond," ebai'r Llange llonydd, "'na hitiwch, f'ewyrth Reinallt, mi dalaffiiiddofoc." Tawelwyd yn lled lew; er y byddai pyffiiau o chwerthin yn d'od yrwan ac yn y man, nes y byddai pawb yn ddiwahân yn ymollwng, a f'ewyrth Reinallt yn dechreu ail fygwth yn waeth nag erioed. Er mwyn cael llonyddwch dyma'r Llangc llonydd yn dweyd y canai ef gerdd newydd. Ac ar ol cael cip ar lygaid gleision Gwen, dechreuodd ar ei waith :

Nos G'langauaf ydyw heno
Y mae tân yn llygaid Gweno;
Tân a welsom yn y Goelcerth,
Oedd yn adrodd tesni prydferth.

Nos G'langauaf, "cnau" i'w bwyta,
Er fod allan "Hwch ddu Gwta :"
METH i'w yfed a llawenydd,
A Morwynion Glân Meirionydd.

"Dyna fesglyn ar ol," ebe Reinallt, "thâl oddim'! thâlo dlim baw!" "Wel! aroswch iddo orphen, yn enw dyn," meddai Morgan Llwyd, "Dos yn dy flaen Huw Bifan," canys dyna oedd enw y Llangc llonydd,

Neithiwr bum yn Neuadd Nannau,
Yno'n tiwinio hefo'r tanau;
Wrth dd'od adref dros y Roballt
Gwelais Gi fy Ewyrth Reinallt.

"Ar fy nghydwybod i! fyna' i ddim fy ysgandarleisio fel yma; lle y mae fy ffon i, mi âf fi adref, ni waeth genyf beth fo ungwr." "Aros, aros," ebai Morgan Llwyd, "hwde! gorniad o Feth cyn cychwyn." Ac ar ol cael hwnw i'w law, dyna bob peth heibio, a Thwm Pen Camp ac yntau yn ffrindiau rhag blaen. Yn awr daeth amser rhoi cnau y merched yn y tân. Yr oedd pob geneth i gael dewis ei chneuen, ac i'w rhoddi yn y tân a'i llaw ei hun. Yr oedd yn rhaid i Gwen, merch y tŷ, ddewis y gyntaf, a'i rhoi yn y marwydos. Os y rhoddai y gneuen glec, dyna arwydd dda; ond os rhyw fud—losgi a wnai, dyna argoel ddrwg. Taflodd Gwen un i'r tân, ac yr oedd yn crynu wrth wneyd; ond dyma glec dros y tŷ, aphawb yn chwerthin am yr uchaf. Bychan a wyddent hwy mai'r un fynyd, ïe, yr un amrantiad yr oedd clec arall yn cymeryd lle: yr oedd bwa serch yn rhoi clec yn mynwes un na's gwelodd hi mono erioedo'r blaen, hyd y noson hono, a hyny ar yr un amrantiad. Y mae rhywbeth hynod yn y clecian yma. Gan igneuen wisgi Gwen wneyd yr hyna ddylasai, ac i ddarn o honi neidio o'r tân i wyneb Rhywun, codwyd y darn i fynu, ac erbyn edrych, yr oedd haner y cnewyllyn yno: cadwasom ef yn ofalus mewn mynyd. Ni fynai'r genethod ereill gynyg am goel. Yr unig un, ar ol hir grefu, a dreiodd, oedd Cadi Reinallt. Hên lodes ryfedd oedd hon, nad oedd hyd yn oed amser yn gwneyd dim o'i ol arni wrth fyned heibio. Rhyw bwtan fêr wedi gwneyd bargen dda yn ffair y trwynau ydoedd; a llawer byd o ysmaldod a hylldod yn perthyn iddi. Ond druan oedd Cadi! ni wnai ei chneuen hi ond mud—losgi, heb un arwydd clec yn agos ati. Yn y cyfamser, yr oedd Rhydderch yn rhydd-ymgomio; a'i hen ffidil a'r bwa, un pen a'i bwys ar ochr ei glun, a'r pen arall ar y llawr. Yr oedd Twm Pen Camp yn bwyta brechdan a chaws heb fod yn neppell oddiwrtho. A thra yr oedd y Crythor wrthi yn adrodd wrthym hanes ryw Fwgan oedd wedi d'od i'w gyfarfod yr wythnos cynt, wrth fyned adref o ryw noswaith lawen; cymerth Twm yr ymenyn oddiar ei fara, a rhwbiodd y tanau a'r bwa ag ef. O'r diwedd, daeth un o'r cŵn heibio, a dechreuodd lyfu'r ffidil. "Holo!" ebai Cadi Reinallt, "y mae Mottyn am ro'i tiwn i ni, f'ewyrth Rhydderch." Cipiodd yr hen fachgen y ffidil ar ei lin, a dyna fu am y tro. Yr oedd hi erbyn hyn wedi tynu yn hwyr; ond yr oedd yn rhaid cael un dôn wed'yn cyn cadw noswyl. Felly penderfynwyd, ar gais Morgan Llwyd, cael yr hen dôn swynol "Anhawdd ynadael." Dyma'r hen Rydderch yn hel ei gelfi, ac yn rhoi ei hun mewn ystum deilwng. Ond pan ddechreuodd rygnu nid oedd dim sŵn. Ail-gynyg. Dim gwell. Ceisio wed'yn; ond dim yn tycio; a chafodd Mottyn druan y bai. Yr oedd yr hen Grythor am ladd y ci, a phawb yn ei ddondio yn arswydus. Felly ar ol i'r cymydogion gael corniad o Feth bob un, a chanu nos da'wch, aeth pawb adref yn un a chytûn; f'ewyrth Reinallt wedi llwyr anghofio pob peth, oddigerth penillion Twm Pen Camp. Huw Bifan yntau ar ol cael un cip-olwg ar lygaid Gwen, a gychwynodd a'i galon yn llawn o serch. Cadi Reinallt hithau, er gwaethafanffawd y gneuen, a edrychai mor llon a'r gôg ar frig y ganghen. Yr oedd hi a'i meddwl ganthi. Gwyddai y deuai dydd ar ol nos; ei bod hi eisoes yn dechreu blawrio. Ar ôl i bawb ymadael, cawsom ninau hir ymddiddan hefo theulu'r tŷ. A rhywbryd cyn toriad y dydd, aeth pawb i'w hûn a'u heddwch. Ond eri mifyned i ystafell o'r neilldu, yr oedd pob peth yn clecian o'm cwmpas. Yr oedd y grisiau wrth imi fyned i fynu yn clecian. Yr oedd y llotft wrth i ni ei cherdded yn clecian. Yr oedd y gwely wrth i mi orwedd yn clecian. A phob tro a roddais ynddo, yr oedd yn clecian. Ac ni wnaethi hyn nac ychwaneg, yr oedd rhywbeth yn ein calon ninau yn clecian. Pan hunem gysgu, yr oedd y glec yn ein deffro. Pan ddeffroem yr oedd y clec yn ein süo yn ol drachefn.

Bore dranoeth, pan aethom i lawr, pwy oedd yn cyfarfod wrth droed y Grisiau ond Gwen Llwyd : dyna glec eto. Ar ôl boreubryd, fel yr oedd rhywbeth yn mynu bod, aethom allan, a phwy oedd wrth y pistyll yn golchi cunog ond Gwen; gofynwyd iddi'r cwestiwn, ac o dan gwmwl o wrid, daeth y giec i ben. * *

Mae Nôs Galangauaf yn anwyl byth wedi hyn. Ac y mae'r plant a Gwen a minnau yn hoffi'r swynol noson, a phob tro y daw ar gylch byddwn yn bwyta cnau, ac yn yfed Meth er côf am y glec gyntaf yn Mlaen y Glyn.


Nodiadau

[golygu]