Cymru Fu/Dafydd y Garreg Wen

Oddi ar Wicidestun
Nos Galangauaf yn y Cwm Cymru Fu
Dafydd y Garreg Wen
gan Isaac Foulkes

Dafydd y Garreg Wen
Ymddiddan Rhwng y Bardd a'r Llwynog


DAFYDD Y GARREG WEN.

GAN GLASYNYS.

Rywbryd, pan ar fy mhererindod "Yn fy anwyl hen Eifionydd," fe ddigwyddodd i mi gyfarfod â dyn ar ddamwain; os oes y fath beth a chyfarfod ar ddamwain yn bod ? Hyn sydd amlwg, fodd bynag, na wyddai ef ar faes medion y ddaear pwy oeddwn i, ac nad oedd dim peth mwy anfwriadol ar fy rhan inau, na dechreu siarad âg ef; ond fel yr oedd rhywbeth yn mynu bod, i siarad yr aethom, ac ni bu yn edifar genyf ddechreu. Ni wnaf ddesgrifio fy nghydymaith; ond troaf ar fy union yn ei gwmni i fonwent Ynys Cynhaiarn. Beddau aml a cherrig coffhaöl destlus! Pob peth yn lanwaith gryno : ac nid wyf yn meddwl y ceir cymaint o englynion beddargraph da mewn un fonwent yn Nghymru! Wrth rodio yn ol ac yn mlaen o gylch y beddau, daethom o'r diwedd at feddfaen wahanol i'r lleill. Carreg a llun telyn arni! Dechreuais ddarllen, a chanfum yn ebrwydd mai bedd Dafydd Owen, neu Dafydd y Garreg Wen, ydoedd. Ar ol syllu ennyd ar fan fechan ei fedd, gofynais ychydig o hanes y Telynor. Gan fod yr hin yn lled frwd, aethom ein deuodd i Borth y fonwent, ac yno yr eisteddasom i rydd ymgomio am hwn a'r llall, ac ym mysg y cofianau a roed i mi o'r rhai sydd yno'n huno, dywedodd fy nghyfaill wrthyf mewn dull syml a diseremoni, rywbeth yn debyg i hyn am DAFYDD OWEN, neu Ddafydd y Garreg Wên. Yr oedd ei rieni yn byw mewn Tyddyn lled fychan ym mhlwyf Treflys. Merch lle o'r enw Issallt oedd hi, a'i henw bedydd oedd Gwen. Teulu pur glyfar am feddyga oedd teulu Issallt, a dywedir eu bod yn deilliaw lin o lin o FEDDYGON MYDDFAI, sef o Rhiwallon a'i Feibion, (ac y mae teulu Dolffanog hefyd yn deillio o'r unrhyw.) Yr oedd Gwen yn medru prydyddu ambell i bennll siawns, ac yn hoff odiaeth o ganu hefo'r delyn. Nid ydwyf yn cofio, pe trigwn, pwy na pha beth oedd enw ei gŵr: ond yn y Garreg Wên yr oeddynt yn byw. Bu iddynt amryw o blant, ac yn eu mysg Dafydd. Nis gwyddis pa bryd y dechreuodd gyweirio telyn, ond gellid coelio yn hwylus i hynny gymeryd lle pan. oedd yn bur ieuangc. Gartref yr oedd Dafydd hefo'i dad a'i fam. Aeth Rhys, brawd iddo, i ffwrdd, a throes allan, ar ol hir grwydro draw ac yma, yn arddwr i ryw ŵr boneddig yn Ysgotland. Byddai Dafydd yn arfer cadw nosweithiau llawen mewn gwahanol fanau yn fynych. Daeth yn gerddor medrus, ac aeth son am dano ar draws ac ar hyd y wlad. Rywbryd pan oedd yn dyfod adref un bore yn nechreu hâf, ar ol bod yn chwareu mewn palas heb fod yn neppell o'i gartref, eisteddodd ar faen mwsoglyd, a rhoes bwys ei ben ar ei delyn: y mae'n debyg ei fod wedi blino wedi bod wrthi hi trwy gydol y nos... Cododd yr hedydd o'i wely gweiriog yn ei ymyl i achub blaen y wawr, a dechreuodd hidlo cân. Fely dywedodd rhywun am dano,—y mae'n debyg y teimlai Dafydd :—

"Fel cwmmwl uwch y gweunydd, yn hidlo odlau blith
Ymgodai'n syth, a'i esgyll yn wlyb o berlog wlith
Yr Hedydd lafar hudol, a'i gu awenol gan,—
Fe wlawiai yn gawodau ei fwyn Emynau mân."

Cyffelyb, yn ddiddadl, oedd o flaen Dafydd; ac ar amrantiad d yma'r hên orchudd i ffwrdd oddiam y delyn, a chwareuodd y Cerddor GODIAD YR HEDYDD: un o alawon pereiddiaf, a mwyaf dynwaredol, a fêdd Cymru! Ryw dro arall yr oedd wedi blino gartref, a chychwynodd, a'i delyn ar ei gefn, i chwilio am ei frawd Rhys; ac ar ol hir grwydro, daeth o hyd iddo, draw yn mryniau'r Alban, a bu yno'n aros mewn parch a llawenydd am hir amser. Wedi blino yno, a phan ar gychwyn tuag adref, gofynodd y boneddwr, gyda'r hwn yr oedd ei frawd yn aros, am dôn ganddo fel coffhâd o'i arhosiad yn y fan a'r lle. Pa beth a wnaeth Dafydd ond rhoddi iddo'r dôn oedd newydd wneyd cyn cychwyn oddicartref, erbyn Gwylmabsant Criccieth, sef, Difyrwch Gwyr Criccieth, a galwyd hi yn yr Alban yn Roslin Castle. Ar ol iddo ddyfod yn ol, yr oedd yn amlwg ddigon nad oedd teithio wedi gwneyd llawer o ddaioniiddo. Yr oedd yn pesychu yn enbyd. Ei lygaid wedi suddo i eigion ei ben. Ei wyneb dealltwrus a welwai, a gwelid argoelion fod angau yn chwareu alaw leddf ar delyn ei fywyd! Curio wnaeth; ac nid yn hir y bu heb orfod rhoi goreu i dynnu'r tannau, o herwydd yr oedd ei nerth yn rhy egwan: ond er hynny, bob tro y caffai awr led ddiboen, ymlusgai at ei hen offeryn, a chwareuai rai,

O'r hen Alawon tyner
Sydd wedi tynnu deigr o lygaid amser."

Parhâu i wanychu yr oedd, ac o'r diwedd, prin y medrai adael ei wely. Un. diwrnod edrychai yn bur gysglyd; gwylid ef yn ddyfalgan ei anwyl fam. Pan yn ei wylio, gwelai fath o wên ar ei wynebpryd, a chanfyddai ei fysedd yn ystumio yn olac yn mlaen. Daeth ei wêdd hefyd i edrych fel yr oedd cyn iddo fyned yn sâl. Llenwai'r pantiau, ac ymledai ei foch-gernau! Ofnai Gwen ei fod yn marw! Ond ar fynyd, agorodd ei lygaid, a dywedodd, er yn floesg, "O! mam, mi welais y peth harddaf a welodd neb erioed!". Yna tynnai ei anadl yn hirllaes, a rhoes rhyw haner tro ar ei ben; ac yna aeth yn mlaen,— "Ni chlywais i erioed o'r blaen y fath ganu! Y Miwsig! O! mam, rhowch i mi fy nhelyn! Medraf, mi fedarf chwareu hono!" Yna syrthiodd i fath o bêr—lewyg esmwyth. A'i fam yn ei wylio; pwy wyr nad oedd hithau yn gweled rhyw oleuni drwy'r dagrau gloywon a ddylifiai o'i dau lygad tyner. Fel ag yr adbelydrir goleu yr haul yn y manwlith; pa'm nad ad-dywynai dwyfoldeb yn ei heiddo hithau ? Deffrodd Dafydd yr eiltro, a gofynai hefo'i olwg yn gystal ag hefo'i lais, "A gaf fi, mam anwyl, fy nhelyn amunwaith eto?" Pwy fedrai ei ommedd . Nid Gwen: nid y fam. Dygodd y delyn i mewn. ac araf a thyner gododd y Telynor; a rhoes ef i eistedd ar echwyn y gwely. Rhoes glustogau a gobenyddiau i'w gyna lnes yr oedd fel mewn cadair. Ac yna

Dechreuodd DAFYDD chwareu;—a'i fam gynhaliai 'i ben—
O'r tanau mwyn y tynnodd HEN ALAW 'R GARREG WEN.

Ar ol cael ei wala ar yr hen delyn, rhoed ef yn ol yn ei wely, a theimlai ei hun yn llawer gwell a mwy diboen. Ar ol gorphwys gronyn, dywedodd wrth ei fam pa fodd y dysgodd y don. Yr oedd, meddai, wedi bod mewn byd arall. Dyma ei eiriau :—" Gwelwn fy hun mewn gwlad goediog: pob deilen yn werddlas: pob brigyn yn îr, a phob canghen yn llawndwf. Y gwrychoedd yn ddail i gyd, a'r dolydd yn llawn o feillion aroglber. Yr afonydd yn loywon, ac yn araf ddiog lithro, heb sŵn na dadwrdd. Gwelwn fy hun wrth Neuadd hardd; ac o flaeny drws yr oedd gardd lysiau. Mewn deildŷ, yng nghongl yr ardd, clywwn rywun yn chwareu ar y delyn; a'r alaw oedd yr hon a chwareuais i, mam. O flaen y deildŷ, yr oedd dwy golomen lwydlas yn gwrando. Aethum yn araf a digon gostyngedig at y fan a'r lle, ac er fy mawr syndod, nid oedd yno na thelyn na pheth. Synnais beth wrth hyn. Ond etto, yr oedd y canu yn para; a pha beth oedd ond Yr awel yn d'od o'r berllan i'r deildŷ, drwy wiail wedi eu cordeddu! O! mam! fel yr oeddwn yn blysio i chwi gael clywed canu! Ond ni welwn yn fy myw neb ond y ddwy golomen. Ar hyn mi ddeffroais, a gwelais chwi, fy mam anwyl," Distawodd; ac amlwg oedd ei fod wedi llesgâu, a bod ei "ddaearol dŷ" yn prysur ddadfeilio,—fod ei luesttŷ yn cael ei brysur ddattod. Chwibianai Angau, ei alargerdd, yn ei fonwesei hun! Bu fyw am ychydig o ddyddiau: a'i fam a ddywedodd y cyfan a ddywedodd Dafydd wrth ei chydnabod. Yr oedd hi yn medru yr Alaw hefyd ar dafod leferydd, ac nid oedd dim yn lloni y Telynor yn fwy na chlywed ei fam yn canu'r Alaw Newydd.

Cyn hir, fe hunodd! Aeth adref i ardal lonydd yr aur delynau!

"Claddwyd ef yn yr Ynys yma," ebai'r Cofiadur; "a thyma'i fedd. Ar ddiwrnod ei ganhebrwng, yr oeddis yn canu'r Alaw, o'r Garreg Wen bob cam i'r Eglwys, ac hefyd ar lân y bedd! Ond y peth rhyfeddafo gwbl ydoedd, i ddwy golomen dd'od at dŷ'r Garreg Wên pan ddygwyd y corph allan i'r drws, ac i'r ddwy ddilyn yr elor o hyd, drwy gydol y ffordd;—iddynt fyned i'r Eglwys, ac aros yn llonydd yno tra buwyd yn darllen y Gwasanaeth; a phan aed at lân y bedd yr oeddynt hwythau yn ymyl yr arch. Ond pan ddywedodd yr Offeiriad "Daear i'r ddaear pridd i'r pridd, lludw i'r lludw," ehedodd y ddwy ymaith, ac ni's gwelwyd mo'nynt mwy!" A thyna gefais i o hanes

DAFYDD Y GARREG WEN.

PENNILLION A GANT Y TELYNOR WRTH FARW.

Fy nhelyn! fy nhelyn! Ga'i nhelyn mam ?
Mae'r Angel yn dyfod yn araf ei gam!
Mae sŵn tragwyddoldeb yn boddi fy mryd,—
Mi ganaf fy marwnad wrth adael y byd.

Fy nhelyn! mae f'enaid yn llenwi pob tant,
A gobaith yn sibrwd y caf fod yn sant,
Rwy'n myned! rwy'n myned i lysoedd y nen
I seinio'r fwyn Alaw,—yr HEN GARREG WEN.

Mi wela'r Golommen, O! gwelaf y ddwy;,
Hwy ddeuant i'm hebrwng i fynwent y plwy':
Gobeithio caf DELYN yn ninas yr hedd
A THELYN i nodi man fechan fy medd!

Ffarwel! Y mae'r Angel yn galw'n ddi daw,
Mae ganddo DELYNAU ddigonedd wrth law :
"Rwy'n myned yn dawel i lysoedd y nen,
Wrth fyned 'rwy'n canu yr HEN GARREG WEN,
GLASYNYS.


Nodiadau[golygu]