Neidio i'r cynnwys

Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams/Pregeth ar Exodus 15. 16.

Oddi ar Wicidestun
Ychydig Benillion Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams

gan Maurice Davies, Llanfair-ym-Muallt

Gwallau Argraffyddol

𝙿𝚁𝙴𝙶𝙴𝚃𝙷,
AR
EXODUS 15. 16.

Ofn ac arswyd a syrth arnynt; gan fawredd dy fraich y tawant fel carreg, nes myned trwodd o'th bobl di, Arglwydd, nes myned o'r bobl a ennillaist ti trwodd.

Nid oes dim yn fwy difyrus i'w ddarllen na hanesyddiaeth, ac o bob hanesyddiaeth nid oes un yn deilwng i'w gydmaru a hanesyddiaeth y Beibl:yma y mae gwirionedd wedi ei ysgrifenu a bys Duw, a'r rhan amlaf yn cynwys meddwl ysbrydol yn gystal a llythyrenol, ac yn dwyn perthynas amlwg ag Eglwys Duw, yr hon a bwrcasodd efe a'i briod waed. Yr oedd Exodus yr Israeliaid o'r Aipht; eu gwaredigaeth o dan law Pharao, a'u mynediad trwy y mor coch, yn gysgodau neillduol o brynedigaeth pechaduriaid trwy Iesu Grist. Geiriau y testun ydynt ran o'r gân a ganodd Moses a meibion Israel ar lan y môr coch, yn wyneb eu bod wedi myned trwyddo yn diogel, a'u gelynion llidiog yr Aiphtiaid wedi eu boddi ynddo. Y mae'r gân hon oll yn hynod deilwng o'n sylw, o herwydd dyma'r gân gyntaf y mae genym hanes am dani erioed, ac nid yn unig y mae y gân hon yn haeddu sylw a pharch o herwydd ei hynafiaeth, ond yn benaf o herwydd ei chynhwysder a'i hysbrydolrwydd. Y mae yn berthynol nid yn yn unig i amgylchiad lythyrenol yr Israeliaid ar fin y mor coch, eithr hefyd mewn modd cyfriniol yn ateb i wir Eglwys Duw yn mhob oes hyd ddiwedd y byd:ac y mae ihan o honi yn cyrhaedd i dragywyddoldeb ei hun fel yr ymddengys oddi wrth y diwedd-glo, adn. 18. Yr Arglwydd a deyrnasa byth ac yn dragywydd. Y mae y rhan gyntaf o'r gân, hyd adn. 13, yn cynwys diolchgarwch am bethau wedi digwydd eisioes :gwaredigaethau wedi eu cael, a gelynion wedi eu gorchfygu; a'r rhan arall hyd y diwedd sydd mewn modd prophwydoliaethol, yn rhagfynegu am bethau i ddyfod. Heb amcanu sylwi ar bob peth cynnwysedig yn y gân anghydmarol hon, ni a allwn weled yn eglur mae prophwydoliaeth yw geiriau'r testun, o'r ofn a'r arswyd fuasai yn syrthio ar y Canaaneaid, fel na buasai ynddynt galon er cynyg atal mynediad Israel trwy yr Iorddonen i dir yr addewid "Ofn ac arswyd a syrth arnynt gan fawredd dy fraich y tawant fel carreg;" ac felly y bu, Jos. 3. 15, 16, 17. a 5. 1. "A phan ddaeth y rhai oedd yn dwyn yr arch hyd yr Iorddonen, a gwlychu o draed yr offeiriad, oedd yn dwyn yr arch, yn ngwr y dyfroedd, a'r Iorddonen a lanwai dros ei glanau oll, holl ddyddiau y cynhauaf.-Yna y dyfroedd, y rhai oedd yn disgyn oddi uchod, a safasant; cyfodasant yn bentwr yn mhell iawn oddwrth y ddinas Adam, yr hon sydd o ystlys Saretan; a'r dyfroedd y rhai oedd yn disgyn i for y rhos, sef i'r mor heli, a ddarfuant, ac a dorwyd ymaith. Felly y bobl a aethant drosodd ar gyfer Jericho.—A'r offeiriaid, y rhai oedd yn dwyn arch cyfamod yr Arglwydd, a safasant ar dir sych, yn nghanol yr Iorddonen, yn daclus; a holl Israel oedd yn myned drosodd ar dir sych, nes darfod i'r holl genedl fyned trwy yr Iorddonen.—Pan glybu holl frenhinoedd yr Amoriaid, y rhai oedd o'r tu hwnt i'r Iorddonen tu a'r gorllewin, a holl frenhinoedd y Canaaneaid, y rhai oedd wrth y mor, sychu o'r Arglwydd ddyfroedd yr Iorddonen o flaen meibion Israel, nes eu myned hwy trwodd; yna y digalonwyd hwynt, fel nad oedd yspryd mwyach ynddynt, rhag ofn meibion Israel. Ac yr oedd eu mynediad tawel hwynt trwy afon yr Iorddonen yn gysgod o dawel fynediad pobl yr Arglwydd trwy afon angeu i'r Ganaan ' ysbrydol, o dragywyddol orphwysfa a dedwyddwch ̧ A chymeryd y geiriau yn y golygiad yma, ni gawn ymdrechu cadarnhau ac egluro y tri sylw can lynol, sef,

I. Bod gan Dduw ei bobl yn y byd, a'r rhai hyny yn bobl trwy enilliad 'nes myned trwodd o'th bobl di, Arglwydd, nes myned o'r bobl a ennillaist ti trwodd.

II. Bod yn rhaid symud y bobl yma o'r byd i ogoniant trwy afon angeu, ac y cânt fyned trwyddi yn ddiogel, 'Ofn ac arswyd a syrth arnynt,—tawant fel carreg.

III. Bod diogelwch eu mynediad i'w briodoli i fawredd braich Duw, neu ei holl-alluawgrwydd, "Gan fawredd dy fraich y tawant fel carreg, nes myned trwodd o'th bobl di Arglwydd."

I. Bod gan Dduw ei bobl yn y byd, a'r rhai hyny yn eiddo iddo trwy ennilliad geruwch naturiol.—1. Y maent oll wedi eu hethol yn Nghrist gan yr un cariad tragywyddol Eph. 1. 4, 5. Megis yr etholodd efe ni ynddo ef cyn seiliad y byd, fel y byddem yn sanctaidd ac yn ddifeius ger ei fron ef mewn cariad. Wedi iddo ein rhag-luniaethu ni i fabwysiad trwy Iesu Grist iddo ei hun, yn ol boddlonrwydd ei ewyllys ef. Er cymaint o 'wahaniaeth a ddichon fod rhwng y naill gredadyn a'r llall yn eu gwybodaeth, eu doniau, a'u hamgylchiadau, &c., eto y maent oll yn gydradd yma, y mae yr oll o ddedwyddwch yr oll o honynt yn tarddu o'r un ffynon, ac y mae ganddynt oll yr un achos diolch i Dduw, o blegid iddo o'r dechreuad eu hethol hwynt i iachawdwriaeth.—2. Y maent wedi eu prynu a'r un gwerthfawr waed, 1 Pedr 1. 18, 19. Gan wybod nad a phethau llygredig, megis arian neu aur, y'ch prynwyd oddi wrth eich ofer ymarweddiad, yr hon a gawsoch trwy draddodiad y tadau. Eithr a gwerthfawr waed Crist, megis oen difeius a difrycheulyd. Dat. 5.9. A hwy a ganasant ganiad newydd, gan ddywedyd, Teilwng wyt ti i gymmeryd y llyfr, ac i agoryd ei seliau ef:o blegid ti a laddwyd, ac a'n prynaist nii Dduw trwy dy waed, allan o bob llwyth, ac iaith, a phobl, a chenedl. Eph. 5. 25, 26. Y gwyr, cerwch eich gwragedd, megis ag y carodd Crist yr eglwys, ac a'i rhoddes ei hun drosti. Fel y sancteiddiai efe hi, a'i glanhau â'r olchfa ddwfr. trwy y gair. Nis gwnai neb brynu unrhyw beth er mawr gwerth, heb ei fod yn golygu cael ei feddianu, yn yr un modd ni ellir meddwl i Grist roddi ei hun yn bridwerth dros bechaduriaid, heb ei fod yn penderfynu eu gwared o'r sefyllfa bechadurus a thruenus yr oeddynt wedi myned iddo trwy bechod:'O lafur ei enaid y gwel ac y diwellir.—3. Y maent wedi eu hail—eni o'r un hâd anllygredig, 1 Pedr 1. 23. Wedi eich ail eni, nid o had llygredig, eithr anllygredig, trwy air Duw, yr hwn sydd yn byw ac yn parhau yn dragywydd. Iago 1. 18. O'i wir ewyllys yr enillodd efe nyni trwy air y gwirionedd, fel y byddem ryw flaenffrwyth o'i greaduriaid ef. Dyma'r cyfnewidiad mwyaf a gymer le ar y pechadur byth, a phwy bynag a'i profodd yn wirioneddol nis gall byth ei angofio. Y mae symud pechadur o gyflwr pechod i gyflwr sanctaidd o ras, yn llawer mwy na'i symud o ras i ogoniant. Yn y naill y mae yn cael cyfnewidiad cyflwr, eithr yn y llall cynnydd mewn cyflwr yn yr hon y mae eisioes. Yn yr adenedigaeth y y mae yn cael ei symud o dywyllwch i oleuni, eithr yn y llall nid ydyw ond myned o oleuni llai, i oleuni mwy, o ogoniant i ogoniant. —4. Y mae yr un ysbryd yn preswylio ynddynt, Ioan 14. 16. A mi a weddiaf ar y Tad, ac efe a rydd i chwi Ddiddanydd arall, fel yr arhoso gydâ chwi yn dragywyddol. Y mae'r Ysbryd Glân yn ymweled â llawer, eithr yn trigo yn unig yn y saint, 1 Ioan 3. 24. A'r hwn sydd yn cadw ei orchymynion ef, sydd yn trigo ynddo ef, ac yntau ynddo yntau. Ac wrth hyn y gwyddom ei fod yn aros ynom, sef o'r Ysbryd a roddes efe ini. Yn y saint y mae yn cartrefu yn barhaus; i'r saint y mae yn ernes werthfawr o etifeddiaeth dragywyddol, ac arnynt hwy y mae yn sel a adwaenir ac a arddelir yn nydd y farn.-5. Y maent oll yn mwynhau cymdeithas felus a Duw yn Nghrist, I Ioan 1. 3. Yr hyn a welsom ac a glywsom, yr ydym yn ei fynegi i chwi, fel y caffoch chwithau hefyd gymdeithas gyda ni:a'n cymdeithas ni yn wir sydd gyd â'r Tad, a chyd â'i Fab ef Iesu Grist. Yn y gymdeithas gyfeillachol hon y mae Duw a hwythau yn cyd ymddiddan, y naill yn mynegi ei gyfrinach i'r llall, a thrwy rinwedd y gymdeithas agos hon y mae'r saint yn cael ei newid yn raddol i ddelw eu Tad, 2 Cor. 3. 18. Eithr nyni oll ag wyneb agored, yn edrych ar ogoniant yr Arglwydd megis mewn drych, a newidir i'r unrhyw ddelw o ogoniant i ogoniant, megis gan Ysbryd yr Arglwydd.

II. Y mae yn rhaid i'r bobl yma gael eu symud o'r byd hwn trwy afon angeu i ogoniant; o'r hyn yr oedd mynediad yr Israeliaid trwy'r Iorddonen i wlad Canaan yn gysgod priodol; yma y mae yn addas i ni sylwi ar y pethau canlynol:—1. Mae mynediad trwodd yw marw, o fyd o amser i fyd o dragywyddoldeb; felly y mae yr Arglwydd Iesu yn desgrifio ei farwolaeth ei hun, Luc 22. 22. Ac yn wir y mae Mab y dyn yn myned, megis y mae wedi ei luniaethu:eithr gwae y dyn hwnw trwy yr hwn y bradychir ef. Ac felly y mae y gydmariaeth yma, "nes myned trwodd o'th bobl di, Arglwydd, nes myned o'r bobl a ennillaist ti trwodd." trwy afon yr Iorddonen i dir Canaan yn llythyrenol, trwy angeu i wlad o orphwysfa dragywyddol yn ysbrydd. 2. Y mae y mynediad yma yn anhepgorol angenrheidiol i bawb, Heb. 9. 27. Ac megis y gosodwyd i ddynion farw unwaith ac wedi hynny bod barn. Gen. 47. 29. A dyddiau Israel a nesasant i farw. Y gwr disyml hwnw Jacob:y gwr nerthol a llwyddianus hwnw mewn gweddi Israel, y mae yn rhaid iddo farw fel eraill, "Eich tadau pa le y maent hwy, a'r prophwydi a ydynt hwy yn fyw byth? nag ydynt, nid ydynt, yn byw ond ychydig o amser yn y byd hwn:pan orphenont y gwaith a roddwyd, iddynt i'w wneuthur, y maent yn cael eu galw i dŷ eu Tad, i etifeddu sylwedd yr addewidion. Yr enwog William Williams o Bant-y-celyn, ni fu byw ond 74 o flynyddoedd, a'i fab haelionus John Williams a gafodd yn gymwys yr un nifer; buant meirw ill dau mewn oedran têg ac yn gyflawn o ddyddiau.—3. Y mae mynediad y duwiol trwy afon angeu bob amser yn ddiogel, ac yn fwyaf cyffredin yn dawel trwy sicrwydd tufewnol o'u buddugoliaeth, gwel y testun a Jos. 3. 17. A'r offeiriaid, y rhai oedd yn dwyn arch cyfammod yr Arglwydd, a safasant ar dir sych, yn nghanol yr Iorddonen, yn daclus: a holl Israel oedd yn myned drosodd ar dir sych, nes darfod i'r holl genedl fyned trwy yr Iorddonen, Ni chollwyd yr un o'r Israeliaid yn yr Iorddonen, felly holl brynedigion Iesu a ant yn ddiogel trwy angeu i ogoniant; ni chollir yr un o honynt, ond byddant oll ar ddeheulaw y gwaredwr y dydd y gwnel briodoledd. Ac megis y mae eu mynediad bob amser yn ddiberygl, felly y mae yn gyffredin yn dawel ac yn dangnefeddus, Salm 37.37. Ystyr y perffaith, ac edrych ar yr uniawn, canys diwedd y gwr hwnw fydd tangnefedd. Pan aeth Israel o'r Aipht ni oddefwyd i un ei i symud ei dafod yn ei herbyn, a phan aethant trwy'r Jorddonen, ni ddaeth un o'r Canaaneaid i gynnyg eu rhwystro, ond "tawasant fel carreg." "A phan glywsant sychu o'r Arglwydd ddyfroedd yr Iorddonen, digalonwyd hwynt fel nad oedd ysbryd mwyach ynddynt." Ac felly yn gyffredin pan y bo teulu Duw yn afon angeu, ni chaniatteir idd eu gelynion ysbrydol, (sef, byd cnawd a diafol, y rhai a barodd gymaint o aflonyddwch iddynt yn y byd,) eu blino yn eu mynydau diweddaf, a llawer enaid ofnus yn ei fywyd, a glywyd yn awr angeu yn canu, 1 Cor. 15. 55. O angeu pa le mae dy golyn? O uffern pa le mae dy fuddugoliaeth.

III. Y mae hyn i'w briodoli i fawredd braich Duw, neu ei holl-alluawgrwydd. Diamau ei fod yn gysur mawr i feibion Israel i weled yr offeiriaid rhai oedd yn dwyn arch cyfammod yr Arglwydd yn sefyll ar dir sych, yn nghanol yr Iorddonen, yn daclus a diysgog:ac felly yr un modd, y mae yn gysur cryf i gredinwyr gweiniaid, i weled gweinidogion yr efengyl yn marw yn llawn hyder y ffydd y buont yn ei phregethu i eraill, Heb. 13.7. Meddyliwch am eich blaenoriaid, y rhai a draethasant i chwi air Duw ffydd y rhai dilynwch, gan ystyried diwedd eu hymarweddiad hwynt. Ond eu.cysur mwyaf oedd gwybod bod y Duw byw ei hunan yn eu plith, yr hyn oedd yn amlwg wrth weled y dyfroedd, oedd yn disgyn oddi uchod, yn sefyll ac yn cyfodi yn bentwr, a'r dyfroedd y rhai oedd yn disgyn i'r môr heli a ddarfuant, ac a dorwyd ymaith, ac yr oedd yn amlwg fod eu Duw gydâ hwynt, gan nad oedd neb o'i gelynion yn cynnyg attal eu mynediad: "gan fawredd dy fraich y tawant fel carreg." Job 40. 9. A oes i ti fraich fel i Dduw; neu a wnei di daranau a'th lais fel yntau? Sal. 89. 13. Y mae i ti fraich a chadernid: cadarn yw dy law, ac uchel yw dy ddeheulaw. Crediniaeth o bresenoldeb Duw gyda ni wrth farw, yw y moddion mwyaf effeithiol i dynu ymaith ofn marw, Sal 23.4. Te, pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angeu, nid ofnaf niwed:canys yr wyt ti gyda mi:dy wialen a'th ffon a'm cysurant. Ond cael Duw gyda ni, nis rhaid ofni niwed, efe a ostega'r gelyn a'r ymddialydd. 2 Pedr 1. 11. Canys felly yn helaeth y trefnir i chwi fynediad i mewn i deyrnas ein Harglwydd a'n Hachubwr Iesu Grist. Nid hwyrach na bydd i ryw gristion gwan, ddarllen y sylwadau byrion hyn, yr hwn trwy ofn marwolaeth, sydd dros ei holl fywyd dan gaethiwed, yn ymresymu yn aml ag ef ei hun, Jer. 12. 5. O rhedaist ti gyda'r gwyr traed, a hwy yn dy flino, pa fodd yr ymdarewi a'r meirch? ac os blinasant di mewn tir heddychlawn, yn yr hwn yr ymddiriedaist, yna pa fodd y gwnai yn ymchwydd yr Iorddonen. Ymddiried yn yn y Duw a barthodd y môr, ac a wnaeth i ddyfroedd yr Iorddonen sefyll yn bentwr, gan obeithio yn berffaith am y gras a ddygir i ti yn natguddiad Iesu Grist Esa. 35. 10. Yna yr agorir llygaid y deillion, a chlustiau y byddarion a agorir.




W. ROWLANDS, ARGRAFFYDD, PONTYPOOL.

Nodiadau[golygu]