Neidio i'r cynnwys

Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams/Ychydig Benillion

Oddi ar Wicidestun
Adgofion 'Chwanegol Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams

gan Maurice Davies, Llanfair-ym-Muallt

Pregeth ar Exodus 15. 16.

YCHYDIG BENILLION,
PERTHYNAWL I'R COFIANT BLAENOROL.
[Teithiwr yn Mynwent Llanfair-ar-y-bryn.]


BETH yw enw y fynwent yma?
Mynwent Llanfair-ar-y-bryn,

O mor llonydd lle yw'r gladdfa!
Beth yw'r argraffiadau hyn?
William Williams, Pant-y-celyn!
Ow, a'i dyma ei feddrod ef?
Sant a fedrai chwarae ei delyn,
Braidd fel angel yn y nef!

Gwr o ddysg, a dawn, ac ysbryd,
Digyffelyb yn ei oes,
Do, fe ganodd odlau hyfryd,
Hymnau mawl am waed y groes;
Gwelodd deyrnas y Messiah,
Canodd am ei llwyddiant hi;
Theomemphus, ow, a'i dyma
'R fan lle rhoddes angeu di!

Nid oes ond y briddell yma,
Fry mae'r enaid heb ddim poen,
Yn derchafu'r haleluia
Beraidd byth am waed yr Oen;
Gydâ Rowlands o Langeitho,
Harris hen, a Jones Langàn:—
Mi gaf finnau, rwy'n gobeithio,
Ddyfod attoch yn y man.

Pwy sydd yma eto'n gorwedd,
Dan y garreg lydan hon,
Wrth dy ymyl yn y ceu-fedd? [1]
Beth yw'r enw cyntaf? John!

Ië, yn wir, John Williams ydyw,
Mab yr hen ganiedydd per,
Mae ei enaid yntau heddyw,
'N iach a siriol uwch y ser.

Gwr dysgedig iawn a doniol, [2]
Ydoedd yntau fel ei dad,
Nid oedd undyn mwy rhinweddol,
Nag efe o fewn y wlad;
Tyst ei ddichlyn, sanctaidd fywyd,
Tyst ei bur athrawiaeth ef,
Tyst ei elusenau hefyd,
I dylodion gwlad a thref. [3]

Cafodd urddau llawn, Esgobaidd,
Pan yn bump-ar-hugain oed:
Urddau gwell a mwy nefolaidd,
Gydâ hyny iddo rhoed;

Dawn yr Ysbryd o'r uchelder,
Oedd yr urdd a gafodd ef,
I draddodi mewn eglurder,
Genadwri fawr y nef.

Dysg, a dawn, ac aur, ac arian,
Corph, ac iechyd, tra fu byw,
A gyssegrodd ef yn gyfan,
At wasanaeth eglwys Dduw;
Ac wrth farw nid anghofiodd
Achos Duw, nac angen dyn,
Wrth ymadaw fe gyfranodd,
Yn haelionus i bob un.

Gorphwys, anwyl frawd, a huna,
Yn y beddrod tawel hwn,
Gydâ'th dad a'th fam gorwedda,
Ti gai lonydd yma, gwn;
Gydâ bloeddiad yr arch-angel,
Yn yr adgyfodiad mawr,
O dy wely priddlyd, tawel,
Cai gyfodi fel y wawr.

Wele, bellach mi adawaf,
Fynwent Llanfair-ar-y-bryn,
Trwy Frycheiniog mi dramwyaf,—
Beth yw'r holl wylofain hyn!
"Darfu, darfu, am y cyfiawn!
"Do, collasom ni ein tad,

"Colled fawr yw colli'r uniawn,
"Colled eglwys, colled gwlad!"

Arglwydd Ior cysura Seion,
Sydd yn athrist iawn ei gwedd,
Herwydd bod ei hen athrawon,
Anwyl wedi myn'd i'r bedd;
Os collasom ein hoffeiriaid,
Gynt fu'n enwog yn y Dê,
Byth na âd y Methodistiaid,
Cyfod eraill yn eu lle.

Mae yr Ysbryd Glan a'i ddoniau,
Eto'n weddill genyt ti,
Er nad oes na chymmwysderau,
Na dysgeidiaeth genym ni;
Gwladaidd yw ein Gweinidogion,
Eto grymus yn eu Duw,
Presenoldeb Brenin Seion,
Fydd ein harddwch tra fo'm byw.

Deunaw cant a deunaw mlynedd,
Tair-ar-ddeg yn ol yn awr,
Pan y daethum i gyfanedd,
Yn Mrycheiniog, nid yw fawr
Un llafarwr oedd pryd hwnw,
Yno'n ie'ngach na myfi,
Jeffrey Davies wrth ei enw,
Goreu frawd a gwr o fri.


Deg a phed war oedd yn hynach,
O rai enwog wrth y llyw,
O'r rhai hyny nid oes mwyach,
Onid chwech ar dir y byw;
Wyth o honynt aeth i huno,
Yn y distaw tywyll fedd,
A'u heneidiau sy'n gorphwyso,
Gyda'r Oen yn ngwlad yr hedd.

Ond er marw ein gweinidogion,
Byw yw'r weinidogaeth fawr,
Amlach ydyw ein cenadon
Yma, nac erioed yn awr;
Coll'som wyth mewn deuddeng mlynedd,
Cawsom bymtheg yn eu lle,
Diolch byth i Dduw'r gwirionedd,
Pethau mawr a wnaeth efe.

Ac heblaw chwanegu nifer
Y cenadon yn ein plith,
Cawsom hefyd o'r uchelder,
Ar ein gwlad wyrenig wlith;
Hen Frycheiniog a grechwenodd,
Pan esgorodd ar ei phlant,
Mewn tair blynedd fer 'chwanegodd
Iesu iddi lawn pum cant!

Onid ydyw hyn i'n hanog,
Frodyr oll, mewn ysbryd ffydd,

I lafurio yn galonog?
Dowch, a gweithiwn tra mae'n ddydd;
Ber yw'r einioes, bererinion,
Buan iawn yr awn i roi
Cyfrif am ein goruchwylion,
Nid yw angeu yn ymdroi.



Llwydd a fydd i'r Trefnyddion,—weis cydwedd,
Os cadwant orch'mynion,
Dianwych eu Duw union,
O ddiwael frwd dduwiol fron.


Nodiadau[golygu]

  1. Dymunodd gael ei gladdu mewn bedd newydd, yr hyn a fuasai yn anmhossibl, oni buasai i hen sycamorwydden gael ei diwreiddio yn ymyl bedd ei dad.
  2. Darllenai ran o'r Beibl Hebraeg bob dydd yn y blynyddoedd diweddaf o'i fywyd, ac fe allai nad oedd gwell Hebrewr yn y dywysogaeth, ac eglurai y gwahaniaeth sydd mewn rhai manau ya y cyfieithad. Hefyd, yr oedd yn Gymro rhagorol ac anhawdd cwrdd ag un a allasai roddi tarddiad geiriau Cymraeg, yn nghyd ag ystyr enwau lleoedd yn well nag ef. Yr oedd ganddo luosawgrwydd mawr o lyfrau mewn amrai ieithoedd, y rhai a adawodd yn ei ewyllys i nai iddo, sef y Parch. William Powell, Curad Llanllawddog a Llanpumsaint, gwr grymus yn yr efengyl, ac sydd yn debyg o wneud defnydd da o honynt.
  3. Yr oedd yn deall physygwriaeth yn dda, ond nid hoff oedd ganddo ymarferyd a hyny ei hun, ond pan glywai fod rhyw un isel ei amgylchiadau yn y gymydogaeth yn glaf, danfonai am law feddyg yn ddioed, a thalai iddo.