Neidio i'r cynnwys

Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams/Adgofion 'Chwanegol

Oddi ar Wicidestun
Coffadwriaeth Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams

gan Maurice Davies, Llanfair-ym-Muallt

Ychydig Benillion

ADGOFION 'CHWANEGOL.

Yr oedd Mr. Williams mewn amgylchiadau pur cysurus o ran pethau y byd hwn; ac wedi marwolaeth ei frawd, gellir dywedyd ei fod yn oludog Ni bu erioed yn briod; (na'i frawd ychwaith,) gan hyny nid oedd ganddo deulu, namyn chwïorydd, a phlant y rhai hyny, felly yr oedd ganddo lawer mwy o gyfoeth nag a allasai dreulio arno ei hun. Yr oedd efe yn mhell iawn o fod yn grintachus ar y naill law, ac o fod yn afradus ar y llaw arall. Yr oedd wedi cael ei ddysgu gan yr efengyl sanctaidd, ac o naturiaeth hefyd, i gadw llwybr canol rhwng y ddau eithafion hyny, y rhai sydd mor wrthun a phechadurus yn mhob dyn crefyddol, ac yn enwedig yn mhob gweinidog yr efengyl.

Yr oedd ei dy ef yn agored yn wastad i bregethwyr teithiol o ba le bynag y deuent, a rhoddai ef yn ewyllysgar iawn, bob croesaw ac ymgeledd, i'r dyn ac i'w anifail hefyd, fel nad oedd hyny yn costio dim i eglwysi gweinion y gymydogaeth. Anaml hefyd y byddai yr un pregethwr tlawd yn troi ymaith i'w daith y boreu dranoeth, na byddai i Mr. Williams roddi rhyw swmyn o arian yn ei law, fel anrheg elusengar wrth ymadael. Teimlir y golled am dano yn ddiau yn hyn, fel mewn llawer o bethau eraill, gan y tô presenol o bregethwyr isel eu hamgylchiadau, a arferent ddod i Bant-y-celyn.

Pell iawn oedd Mr. Williams o geisio clod iddo ei hun yn ei elusenau a'i weithredoedd da: gochelai yn fanwl rhag ei gwneuthur yn ngwydd dynion; a braidd y gwypai ei law aswy pa beth a wnelai ei law ddeau, o herwydd y dirgeleidd-dra gofalus hyn, nid hawdd yw gwybod pa faint oedd ef yn roddi mewn elusenau i'r tlodion, ac mewn cyfraniadau at achos Duw. Gellir casglu oddiwrth bethau a gafwyd yn ysgrifenedig yn mhlith ei bapurau ar ol iddo farw, ei fod yn rhoddi yn gyffredin at achos yr Arglwydd, ac mewn elusenau, o gant i ddau cant o bunau bob blwyddyn, am y deng mlynedd diweddaf o'i oes, a rhai blynyddoedd, gymaint a dau cant a haner-o bunau! Pe gwnelai pawb yn ol ei gallu a'i sefyllfa yn gyfatebol i'r gwr duwiol a hael-fryd hwn, byddai yn hawdd danfon Cenadau a Beiblau dros y byd; byddai yn hawdd sefydlu ysgolion sabbathawl yn mhob man lle nad ydynt, byddai yn hawdd cynal achos Duw mewn eglwysi gweiniaid; a gwnelid i galon y wraig weddw lawenychu mewn llawer man, lle mae yn awr yn galaru gan dlodi ac angen.

Heblaw ei gyfraniadau blynyddawl ac achlysurawl yn ei fywyd, nid anghofiodd efe achos Duw a'r tlodion yn ei ewyllys ddiweddaf, fel gellir gweled wrth yr hyn a ganlyn:

I gymdeithas genhadol Llundain..........................................£100
I'r gymdeithas genhadol eglwysig........................................£100
I gymdeithas yr ysgol sabbathol yn yr Iwerddon..........................£100
At dalu dyledion capelydd y Methodistiaid Calfinaidd, yn Mrycheiniog....£100

At gynal yr achos yn mhlith y Methodistiaid Calfinaidd yn Llanddyfri, rhoddodd bum' punt y flwyddyn, tra fyddo byw ei nại Mr. William Powel, yn awr o Bant-y-celyn. Ar ol talu amryw gymmynion (legacies,) eraill: traul ei gladdedigaeth, a phob man ofynion; mae y gweddill[1] o'i dda symudol, sef ei arian i gael ei rhanu yn gyfartal rhwng Cymdeithas Genhadol Llundain; Cymdeithas Genhadol yr Eglwys; a'r Gymdeithas Feiblaidd Brydeinig a Thramor: oddigerth rhyw symiau bychain sydd i gael eu rhanu rhwng tlodion y gymydogaeth, yn ol fel y gwelo y cymmyn-weinydd yn angenrheidiol.

Mewn hen lyfr ysgrifen o eiddo Mr. Williams, gwelir cofnodiad fel hyn mewn un man, "Mary Bartlet wedi bod lawer o sabbathau heb fara i'w fwyta, &c." Gellid meddwl mai rhyw gymydoges. dlawd iddo oedd y wraig uchod, a'i fod yntau fel Job yn chwilio allan y cwyn ni wyddai, gan ei nodi yn ei gof-lyfr i'r dyben o'i chynorthwyo yn ei thlodi. "Y cyfiawn a ystyria fatter y tlodion, ond yr annuwiol ni ofala am ei wybod." Felly yn amlwg y gwnai y gwr duwiol hwn, yn ei oes ac wrth farw hefyd; a diamau iddo brofi cyflawniad o'r addewid hono. "Gwyn ei fyd a ystyria wrth y tlawd, yr Arglwydd a'i gwared ef yn amser adfyd."[2]

Crefydd Enoc, a Noa, ydoedd crefydd Mr. Williams, diamau y byddai yn rhodio llawer gydâ Duw, fel hwythau: ac hefyd yn mynych gyflwyno ei hunan i Dduw a'i wasanaeth, fel yr ymddengys wrth yr hyn a ganlyn, yr hyn a gyfieithwyd o bapyryn Saesoneg, a gafwyd wedi ei wthio i gongl ddirgel yn un o'i lyfrau llogell ef:—"Yr wyf yn awr yn cael y fraint rasol o ddechreu blwyddyn newydd: pa un a gaf fi byth weled ei diwedd hi a'i peidio, nis gwn; pa un bynag am hyny, bydded yr amser a ganiataer i mi ychydig neu lawer, ond i'r Arglwydd roddi gras i mi i fod yn ffyddlon. Mae arnaf eisiau help a chymorth, ac yr wyf yn eu gofyn gan y nef ei hun, i dreulio yr hyn sydd yn ol o'm dyddiau yn fwy nag erioed er gogoniant y gwaredwr bendigedig hwnw, yr hwn a wnaed yn felldith dros fyd melldigedig. Nerth i gyflwyno fy hunan yn hollawl, gorph ag enaid, ac oll sydd ynof, i'w ogoniant ef. Ac yr wyf fel hyn yn addaw ac yn addunedu, i gyssegru gweddill fy nyddiau i Dduw ac i'w ewyllys ef, tra parhawyf i dynnu yr anadl fywiol hon. Nid wyf yn beiddio meddwl y cyflawnaf yr addunedau hyn gan ymddiried yn fy nigonoldeb fy hun; ond gan weddio ar i Dduw, o’i helaeth a'i anfeidrol ras, fy nghynorthwyo i, i redeg yr yrfa a osodwyd o'm blaen, ar iddo ef fy nerthu i'w ofni yn wastadol â pharchedig ofn: fy nerthu i'w garu ef, ac ef yn unig, tra byddwyf yn ymdaith yn y byd daearol hwn: ac yn y diwedd, cael o honof ei ogoniant tragywyddol ef, trwy Alpha ac Omega iachawdwriaeth dynion, Fel prawf o'm cyd-syniad a'r pethau uchod, yr wyf yn ewyllysgar jawn yn gosod fy enw wrth yr ysgrif hon."

"JOHN WILLIAMS."

Nis gwyddis pa bryd yr ysgrifenodd efe y papyryn uchod, gan nad oes yr un amseriad wrtho; ond mewn un arall o'i lyfrau mae ysgrif debyg i'r un uchod i'w chael a dyddiad wrthi. Gan nad yw ond bèr, ac yn dangos agwedd meddwl y gwr duwiol hwn yn oleu ac yn hyfryd iawn, dodwn gyfieithad o honi fel hyn:

"Ionawr 1af, 1790.

"Trwy fawr drugaredd a daioni Duw, cefais y fraint unwaith eto, o weled dechreu blwyddyn arall. Yr wyf yn ostyngeiddiaf yn attolygu, ac yn y modd taeraf yn crefu, ar i Dduw o'i anfeidrol drugaredd a'i ras, gyfranu i mi y cynnorthwyon dwyfol a neillduol hyny, mae efe yn eu cyfranu i'w bobl fel y galluoger fi i gyssegru fy hunan iddo yn fwy diragrith a ffyddlawn nac erioed."

"JOHN WILLIAMS."

Fel hyn y byddai y gwr Duw' hwn yn mynych ‘gyfrif ei ddyddiau;' yn mynych gyflwyno ei hun i'r Arglwydd; yn ymwadu â'i nerth ac a'i gyfiawnder ei hun; yn hollawl ymorphwys ar Berson a gwaith yr hwn sydd yn Alpha ac yn Omega yn iachawdwriaeth dyn; ac yn taer weddio am nerthoedd a doniau yr Ysbryd Glân, i gyflawni ei weinidogaeth, i gadw ei le, ac i harddu athrawiaeth Duw ei Iach, awdwr yn mhob peth. Y fraint a gaffom ninnau oll, o fod yn ddilynwyr iddo ef, megis y bu yntau i Grist.

Ryw yspaid o amser cyn ei farw, danfonodd y llythyr canlynol at hen gyfaill[3] anwyl iddo; a diammau ei fod yn werth ei gyfieithu a'i argraffu yn mhlith yr adgofion hyn.

"Am fy iechyd i, go ganolig yw, yr wyf yn gweddio Duw yn ddifrifol, ar iddo fy ngwneuthur yn ymostyngar i'w ewyllys ef, a pheidio mewn un modd a bod yn anfoddlawn i'w driniaethau ef. O pa fath bechod mawr yw, bod yn anoddefgar dan wialen Tad nefol! Yr wyf fi yn gwbl analluog i fyned i unman oddi cartref yn awr; ond yr wyf yn parâu i bregethu ychydig yn fy nhŷ fy hun, ac ac mae fy nghymydogion yn dyfod yn nghyd ́ac yn ei lenwi yn dda."

"Byddwch cystal a'm cofio i yn garedig iawn at y bobl yn eich eglwys chwi, ac erchwch iddynt yn mlaenaf o bob peth, i arfer pob diwydrwydd i wneuthur eu galwedigaeth a'u hetholedigaeth yn sicr, o blegid y mae yn sicr yn Nuw. Yn ail, i wneuthur Duw a'i air yn unig sylfaen i adeiladu arni. Yn drydydd, pa le bynag y byddont dywedwch wrthynt am gario eu crefydd gydâ hwynt. Yn bedwerydd, i ochelyd pob pechod, yn fwy nac unrhyw wawd, neu air du a daflo'r byd arnynt. Yn bummed, i ymgais llawer am ysbryd addfwyn a llonydd, yr hwn sydd ger bron Duw o fawr werth. Yn chwechfed, bydded iddynt ymgais am wneuthur rhyw ddaioni yn wyneb pob croes a thrallod · a'i cyfarfyddo. Yn saithfed, bydded iddynt weddio llawer, ar i esiampl Crist fod o'u blaen yn mhob amgylchiad a sefyllfa."

"JOHN WILLIAMS."

Llawer iawn o ddywediadau byrion, ond geirwir a gwerthfawr, sydd ganddo wedi eu hysgrifenu yn ei 'sgrif-lyfrau; ond y mae yn anhawdd gwybod am lawer o honynt, pa un a'i yr eiddo ef ei hun ydynt, ai yntau eu cymeryd o ryw lyfrau eraill a wnaeth. Am y byr weddiau canlynol, mae yn sicr mai efe ei hun oedd yn ei hucheneidio i'r nef, fel hen Jacob gynt, (Gen. 49. 18.) yn nghanol pob trafferthion a gorchwylion eraill, dodwn y tair ganlynol i lawr yma.

Chwefror 26, 1827.

"O Arglwydd dyro i mi ddoethineb i ymddwyn yn addas yn mhob peth."

Tachwedd 8fed.

"Cynnorthwya fi, O Dduw, i ymgadw oddi wrth bob peth drwg!"
"Nertha fi, O Dduw, i ymgadw oddi wrth bob rhith ddrygioni!"

Mae y sylwad canlynol ar baganiaeth a christionogaeth yn gymraeg ganddo; mae yn debyg maj yr eiddo ef ei hun yw, ac mae yn cynnwys llawer o wir, hyd yn nod y dydd heddyw:

"Mae rhywbeth rhyfedd iawn yn ymddangosiad paganiaeth a christionogaeth; mae cristionogaeth yn ymddangos fel pe byddai yn teyrnasu, ac eto mae ei sylwedd wedi myned ymaith: a phaganiaeth fel pe byddai wedi ffoi, ac eto ei sylwedd yn aros." Mae y dywediadau canlynol hefyd wedi eu hysgrifenu yn gymraeg ganddo, ac am hyny yn fwy tebyg i fod yn eiddo ef ei hun:—"Nid oes dim yn fwy anwadal, gwammal, ac ansafadwy, na pharch dynion." "Y dywediad arall yw hwn :—"Barn y byd yn gyffredinol yw, bod y da sydd ynddynt, eu haelioni, a'i rhinweddau, yn fwy na'u drwg; ac y pwysa eu da y drwg i lawr yn y dydd mawr." Ac mae y dywediad hwn o eiddo ei dad, yn deilwng iawn hefyd o'i gadw mewn coffadwriaeth, ac o sylw pawb yn y weinidogaeth:—"Mae pregethwr heb eondra fel durlif heb ddannedd, fel cyllell heb awch, ac fel milwr heb galon." Nid eondra dynol, yn tarddu oddi ar gryfder tymherau naturiol, yr hyn nid yw ddim ond digywilydd-dra, oedd yr hen wr duwiol yn ei feddwl yn ddiau; eithr yr eondra sanctaidd hwnw mae yr Arglwydd yn ei roddi yn eneidiau ei holl weision anfonedig, pan mae yn gosod gair y cymod ynddynt, pan mae cariad Crist yn eu cymhell, pan maent yn ofn yr Arglwydd yn perswadio dynion, a phan y maent yn cael eu gwisgo â nerth o'r uchelder. Yn yr ystyr yna o'r gair eondra, mae y dywediad yn wir iawn; mae yn hollawl angenrheidiol i waith mawr y weinidogaeth. Ar y naill law nid oes dim yn fwy gwrthun i'w weled na dyn cryf hunanol, yn ymruthro i ymdrin a phethau Duw yn ei hyfdra digywilydd ei hunan; ac ar y llaw arall, nid oes dim yn fwy prydferth a hardd, na gweled y dyn gwylaidd, duwiol, a chrynedig, yn cael ei godi gan ddylanwadau yr Ysbryd Glân uwchlaw iddo ei hun a'i holl ofnau, ac yn agoryd ei enau yn hyf, i draethu gwirioneddau Duw fel y perthyn ac y gweddai eu traethu. Rhyfedd fel mae y Duw grasol wedi gwneud hyn â llawer o'i genadon gweiniaid lawer gwaith. Yna y gallant ddywedyd gydâ'r prophwyd Mica, Pen. 3.8. "Yn ddiau llawn wyf fi o rym gan Ysbryd yr Arglwydd, ac o farn a nerth, i ddangos ei anwiredd i Jacob, a'i bechod i Israel." Yna y gallant ddywedyd gyda'r apostol, "Arfau ein milwriaeth ni nid ydynt gnawdol, ond nerthol trwy Dduw, i fwrw cestyll i'r llawr." 2 Cor. 10. 4. Mae y nerth hwn o'r uchelder yn angenrheidiol i'r pregethwr enwog, doniol, a mwyaf dysgedig; hebddo nis gall efe wneuthur dim: ac mae y nerth hwn yn ddigon i'r cynghorwr isel-fryd, bychan ei ddawn, a llai ei ddysgeidiaeth, er mor grynedig ac ofnus ydyw, wrth deimlo ei wendid, a'i annigonoldeb ynddo ei hun, i fod yn genad Arglwydd y lluoedd at bechaduriaid.

Gwr iach, cadarn a goleu yn yr athrawiaeth, ydoedd Mr. Williams. Er nas galwai efe neb yn dad iddo ar y ddaear; eto, yr hyn a elwir Calfinistiaeth, yn yr ystyr gywiraf o'r gair, oedd ei gredo diysgog ef. Yr oedd yn berffaith gyson a bannau ffydd yr Eglwys Sefydledig, yn yr hon y dechreuodd ei weinidogaeth; ac hefyd a Chyffes Ffydd[4] y Methodistiaid Calfinaidd, yn mhlith pa rai y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes. Ond, yr hyn sydd fwy na'r cwbl, yr oedd yr hyn oll a gredai ac a bregethai efe, yn hollawl gyd-gordiol ag anffaeledig wirionedd Duw, wedi ei sylfaenu a'i oruwch-adeiladu ar sail yr apostolion a'r prophwydi, ac Iesu Grist ei hun yn ben congl-faen; yn bob peth ac yn mhob peth, yn ei athrawiaeth, ei weinidogaeth, ei brofiad a'i holl ymarweddiad ef. Pell iawn ydoedd efe oddi wrth ddeddfoldeb ar y naill law, ac oddi wrth anneddfoldeb (antinomianism,) ar y llaw arall. Am Arminiaeth neu ddeddfoldeb, mae yr hyn a ganlyn yn ysgrifenedig yn un o'i lyfrau, "Esgusoder fi, os credaf dystiolaeth Crist yn hytrach na dadleuon cecrus Arminiaeth-yn hytrach na gwysia yr Hollalluog i gael ei brofi ger bron gorsedd-faingc ein syniadau ni, a gosod ein hunain i fynu yn farnwyr y Duwdod." Eto, "nid yw arfaeth Duw fel ceiliog gwynt, i gyfnewid, a throi o amgylch, fel y dygwyddo i awel ewyllys rydd dyn chwythu." Am anneddfoldeb, yr oedd ei bregethau, ac yn enwedig manylrwvdd ei fuchedd sanctaidd, yn brofion digon amlwg i bawb, ei fod yn ffieiddio â châs cyflawn, y ffos leidiog hono.

Er bod Mr. Williams yn ysgolhaig rhagorol, ac yn dra hyddysg yn yr ieithoedd dysgedig, ac yn enwedig yn ieithoedd gwreiddiol yr Hen Destament a'r Newydd; eto, nid oedd yn wr ymadroddus, nac yn meddu llawer o hyawdledd areithyddol, o leiaf, nid oedd yn ymgais am ddangos hyny yn ei bregethau cyhoeddus. Ei lwybr mwyaf hoff a mwyaf arferedig ef wrth bregethu oedd, egluro ei destun yn fanwl; ac yr oedd ganddo lawer o gymmwysiadau i hyny o herwydd ei wybodaeth o'r ieithoedd gwreiddiol, defodau ac arferion gwledydd y dwyrain, &c.

Ar ol agor ei destun, sylwai ar yr athrawiaeth a gynnwysai, a dybenai gydâg ychydig o addysgiadau cymmwysiadol. Byrion fyddai ei bregethau ef yn gyffredin, anaml y parâai dros haner awr, ond yr oeddent yn addysgiadol iawn, ac yn fywiog, nid hawdd oedd i neb ei wrando ef yn ddiofal, na myned o'r oedfa heb gael rhyw oleuni ar y gwirionedd nad oedd ganddo o'r blaen.[5]

Yn nghymdeithas yr eglwys, sef y cyfarfodydd profiad, ychydig a ddywedai efe ar y tro. Codai i fynu, a dywedai ychydig eiriau, yn addas a pherthynol iawn i'r matter a fyddai dan sylw, ac yna eisteddai i lawr hyd oni ddelai rhyw beth ar ei feddwl drachefn. Yn nghyfarfodydd misol y Sir, hefyd yr un fath bedd efe; ychydig a ddywedai efe ar y tro ar unrhyw bwnc; ond hyny a ddywedai byddai mór brïodol ac addas i'r perwyl, fel y byddai ei holl frodyr, llafarwyr a blaenoriaid, yn ymostwng iddo, ac yn cydnabod uniondeb ei sylwadau. Gostyngedig a hunan ymwadol iawn oedd efe yn y cyfarfodydd hyn, er bod ei ddysgeidiaeth a'i wybodaeth am bethau duwinyddol, yn rhagori ar bawb o'i frodyr, a phawb o honynt yn rhoddi y flaenoriaeth iddo; eto, wrth draed pawb y mynai efe fod. Ar yr un pryd, os dangosai neb ryw arwydd o anmharch neu ddirmyg arno, efe a welai ac a deimlai hyny mor fuan a rhywun arall; ond yr oedd yn meddu doethineb, a gras digonol hefyd, i beidio dangos i neb ei fod wedi cael ei gythruddo; tangnefeddus oedd efe ei hun, a charai dangnefedd yn mhob màn, ac yn enwedig yn mhlith ei frodyr crefyddol. Mae y sylw canlynol ganddo ar y mater hwn, yn ysgrifenedig yn un o lyfrau:—"Mae tymher gwerylgar mewn perygl mawr o gynnyddu yn arferiad drwg iawn ; ac yn fynych yn gwneud cyfeillach dyn yn dra annymunol. Heblaw y surni mae yn genedlu mewn cyd-ymddiddanion, mae yn aml yn creu annghymeradwyaeth, ie, a chasineb, rhwng dynion, i ba rai mae cyfeillgarwch yn anhepgorol angenrheidiol."

Mewn cyfeillach bersonol, ymddiddanai Mr. Williams yn rhydd iawn, ac wrth ei fodd, tra y cedwid at ryw bethau ysgrythyrol. Hoffai yn fawr egluro ac agor rhyw adnodau a fyddai yn dywyll ac yn ddyrus i'w gyd-ymddiddanydd, ond cyn gynted ag y tawai ei gyfaill, a pheidio gofyn rhywbeth yn ychwaneg iddo, ymddangosai yn anesmwyth ac aflonydd, codai ar ei draed, ac âi allan o'r ystafell:nid oedd ynddo ef ei hun, nemawr o ddawn cymdeithasu, ond fel yr holid ef, ac y tynid ef yn y blaen mewn cyfeillach.

Pan fyddai yn disgwyl rhyw gyfaill, megis pregethwr neu rywun arall, i'w dŷ, byddai yn ysgrifenu amryw holiadau a fyddai ar ei feddwl ofyn iddo, ar ddarn o bapyr cyn ei ddyfod; ac yna pan ddeuai, cymerai ei bapyr yn ei law, a gofynai yr holiad cyntaf; gwedi cael atteb i hwnw, âi allan, odid, ac yn y màn deuai yn ei ol, a gofynai'rail holiad, ac felly hyd onid elai dros y cwbl. Gan y byddai ei feddwl yn wastad yn myfyrio ar ryw bethau eraill, byddai yn gwneyd hyn, mae'n debyg ar ryw fynyd lonydd, i gynnorthwyo ei gof, erbyn y delai y gwr dïeithr i'w dŷ. Byddai ganddo ryw bobl dlodion agos yn mhob cwr o Sir Frycheiniog, y rhai a dderbynient ryw gyfran o elusen ganddo am flynyddoedd ; a llawer o'r holiadau uchod a fyddai yn nghylch y rhai hyny, yn nghyd ag agwedd achos Duw yn nghyrau pellaf y Sir. Arferai hyn yn enwedig yn ei flynyddoedd diweddaf, ar ol iddo fethu teithio, ac ymweled a'r eglwysi ei hun.

Mae yn debyg na chyhoeddodd Mr. Williams ddim drwy yrargraffwasg, namyn Hymnau gwerthfawr a melusion ei dad; ac hefyd cyfieithad o lyfryn Saesoneg ar Athrawiaeth y Drindod. Nid yw yn hysbys i'r ysgrifenydd chwaith a oedd dawn pryd yddu ganddo ef, yr hon oedd mor helaeth a godidog gan ei dad. Wrth y cyfieithad a wnaeth o'r hymn Saesoneg felus hono, O'er the gloomy hills of darkness, &c, (gwel argraffiad 1811, tu dal. 410.) gellir meddwl bod y ddawn ganddo, ac yr ysbryd hefyd, yn debyg iawn i'w dad; ond wrth edrych ar amryw bennillion sydd ganddo draw ac yma ar hyd ei ysgrif-lyfrau, gellid meddwl nad oedd y ddawn brydyddol ganddo, nid yw y rhai hyny ond lled anmherffaith a chlogyrnaidd,. Dywed un o'i berthynasau, bod yn ei feddiant ef ysgrif-lyfr go fawr o hymnau a ganodd efe, a thybia mai cyfieithiadau ydynt o hymnau Mr. Cennic, pregethwr oedd yn cyd-oesi a'r Parch. G. Whitfield, ac yn pregethu yn nghyfundeb y gwr enwog hwnw. Bob amser y gofynai ysgrifenydd y cofiant hwn iddo pa ham na chyfansoddai hymnau, ei ateb oedd, "Bod ei dad wedi canu digon." Mae ganddo ar ei ol lawer iawn o bregethau, efallai tua mil, wedi eu hysgrifenu, rhai yn Gymraeg a rhai yn Saesoneg:ond y rhai Saesoneg sydd wedi eu hysgrifenu helaethaf, a manylaf o lawer.

Bu Mr. Williams yn y weinidogaeth o gwbl yr yspaid hirfaith o 49 o flynyddoedd. Urddwyd ef yn Offeiriad yn y flwyddyn 1779, sef pan oedd yn 25 oed. Gadawodd yr Eglwys Sefydledig yn y flwyddyn 1786, gwedi bod yn llafurio ynddi saith mlynedd. Bu yn athraw yr ysgol yn Nhrefeca o Ionawr 1786, hyd Ebrill 1791, sef tua phum mlynedd a hanner, rhwng y tri mis y buasai yno o'r blaen, yn lle Mr. Phillips. Gadawodd yr ysgol hono fel y dywedwyd yn 1791, a llafuriodd yn ffyddlon ac yn dderbyniol iawn yn nghyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd, o hyny hyd ddiwedd ei oes, sef 37 o flynyddoedd. Bu farw mewn oedran teg, (74 o flynyddoedd,) digonwyd ef â hir ddyddiau, a chafodd weled iachawdwriaeth Duw. Bu amryw o Offeiriaid duwiol Eglwys Loegr yn llafurus ac yn ddefnyddiol iawn yn mhlith y Methodistiaid Calfinaidd o'u dechreuad; nid oes yn awr ond ychydig iawn o honynt, heb gael eu symud i'r wlad ddedwydd hòno, lle nad oes gwahaniaeth rhwng enwau na phleidiau, ond pawb yn un corph yn Nghrist.

Wele yn canlyn ychydig eto o'i ddywediadau, a gafwyd yn ysgrifenedig yn tnhlith ei bapyrau. Addas iawn, debygai yr ysgrifenydd, yw ei sylw canlynol ar fedydd babanod:—

"Gweinyddu bedydd i blant rhïeni annuwiol, sydd foddion effeithiol i'w caledu mewn pechod; mae yn ddirmyg mawr ar yr ordinhâd, ac yn cryfâu breichiau y rhai a wrthwynebant fedydd babanod. Pe byddai pawb ag sydd o blaid bedyddio plant, yn cadw o fewn cylch gair Duw, ac yn peidio bedyddio neb ond had y ffyddloniaid, gan eu magu yn yr eglwys, a'u meithrin yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd yn ol cyngor yr apostol, ac yn ol arfer eglwysi Bohemia; ni chlywem son am ail-fedyddio yn mhen ychydig flynyddoedd.' Tebyg iawn i hyna y sylwodd Matthew Henry; ebai efe, "Pe iawn ddefnyddid bedydd babanod yn fwy cydwybodol, byddai llai o ddadleu yn ei erbyn."

Sylwai Mr. Williams ar hyfdra dynion yn pechu fel hyn:—"Mae dynion yn pechu fel pe byddent yn meddwl y bydd porth uffern wedi ei gauad i fynu cyn yr elont hwy yno."

Nid yw hunan-ymwadiad, a hunan-ffieiddiad, dyn duwiol, yn beth anghyson a thawelwch ei gydwybod, yn yr olwg ar ei ddiniweidrwydd:ni bu neb braidd yn fwy hunan-ymwadol na Mr. Williams; ac eto ni a'i cawn yn gwneyd y sylw canlynol am dano ei hun:-"Mae yn gysur genyf feddwl, na bûm i trwy wybod i mi, yn achos o ofid am un mynyd i neb erioed. Naddo, mwy nag y bûm yn achos o'r diffyg diweddar a fu ar y lleuad; ac ni bûm yn euog o un dichell-dro brwnt, yn holl ystod fy mywyd."

Mae yn debyg mai ychydig cyn ei ddiwedd yr ysgrifenodd y llinellau canlynol, pan oedd y dyn oddi allan yn gwaelu ac yn adfeilio, a'r enaid yn hiraethu am y tŷ nid o waith llaw, tragywyddol yn y nefoedd. "O na byddai fy enaid mor debyg i'r nef ag yw fy nghorph i'r ddaear; nid yw yr hen babell briddlyd yn ateb dim dyben i mi y dyddiau hyn, ond i fod yn hîn-ddangosydd, (Barometer,) i arwyddo cyfnewidiad y tywydd. Ond y mae rhyw beth o dynfa yn fy ysbryd at y rhai sydd wedi eu perffeithio."

Yn mhlith pethau eraill, mae y cofnodiad canlynol ganddo yn un o'i ysgrif-lyfrau, am ryw hen ŵr duwiol, adnabyddus iddo ef, ag oedd wedi marw:-"Mae yr hen —— o ——wedi gorphen ei yrfa! Dywedodd ar ei wely angeu, "Yr wyf yn cofio yr amser pe dywedasid wrthyf nad oedd ond un dyn o blwyf —— i fyned i uffern, buaswn yn sicr mai myfi oedd hwnw; ond yn awr trwy drugaredd, pe dywedid wrthyf nad oes ond un i fyned i'r nefoedd, gwn mai myfi yw efe."

Llawer o bethau eraill a allesid ei ychwanegu mewn perthynas i'r gwas fyddlon hwn i Grist, ond rhag chwyddo y llyfr i ormod o faintioli, ac mewn canlyniad i fwy o bris; mi gaf ddiweddu hyn o hanes gyda'r penillion canlynol, yn nghyd ag ychydig o sylwadau ar y geiriau a ddymunodd efe i fod yn destun, ar ddydd ei gladdedigaeth.

Nodiadau[golygu]

  1. Y cwbl yn gwneuthur i fynu rhwng wyth a naw cant punt.
  2. Er bod Mr. Williams yn enwog fel dyn, fel ysgolhaig, fel cristion, ac fel gweinidog ffyddlon; eto, ei brif ragoriaeth ef oedd ei elusengarwch. Ni welodd Cymru ond ambell un cyffelyb iddo yn y rhinwedd ganmoladwy hono; ac ar ei ol nid adwaen yr ysgrifenydd yr un tebyg iddo. Mynych y dywedai air yr apostol, mai "dedwydd yw rhoddi yn hytrach na derbyn." Act. 20. 35. "Yn lle fy nanfon i i'r byd i gardota," ebai efe, "mae yr Arglwydd yn rhoddi modd i mi i gyfranu cardod i bob un sydd yn galw, os na bydd i'm calon ddrwg fy lluddias. O Arglwydd, dyro ddoethineb i mi, i ddefnyddio yr holl drugareddau a roddaist i mi, fel un yn credu bod yn rhaid rhoddi cyfrif. I bwy bynag y rhoddwyd llawer, llawer a ofynir ganddo.' Luc 12. 48. Pa fodd y gallaf feddwl fy mod yn tebygu i ti yn sancteiddrwydd dy natur, os nad wyf yn tebygu i ti yn naioni dy natur; canys ti O Arglwydd ydwyt dda a maddeugar; ac o fawr drugaredd i'r rhai oll a alwant arnat. Gwr da sydd gymmwynasgar, ac yn rhoddi benthyg: wrth farn y llywodraetha efe ei holl achosion." Byddai geiriau yr apostol ar ei feddwl yn fawr hefyd am elusengarwch. 1 Ioan 3. 17-21. Ond yn awr mae efe yn gorphwys oddiwrth ei lafur, a'i weithredoedd sydd yn ei ganlyn.
  3. Mr. Jones, Llwyndewi, Llangadog.
  4. Mewn perthynas i'r llyfr uchod, mae y sylw canlynol ganddo wedi ei ysgrifenu yn un o'i lyfrau-Heddyw y darlenais gyffes ffydd y Methodistiaid Calfinaidd. Erioed ni chymerodd dynion llai eu dysg a llai eu rhagfarn arnynt gyfansoddi Cyffes Ffydd; ond y mae gwendid Duw yn gryfach na dynion, a ffolineb Duw yn ddoethach na dynion. Mae yr Eurgrawn Efengylaidd yn rhoddi canmoliaeth iddo; ond pe cawsai ei feirniadu gan lu y nef, mi debygwn mai eu dedfryd a fuasai, "Gwir eiriau Duw yw y rhai hyn!"
  5. Fel pregethwr yr oedd Mr. Williams yn hynod o barchus chymeradwy gan bawb ag oedd yn adnabod y gwirionedd ac yn ei garu mynych y meddyliai yr ysgrifenydd wrth ei wrando am eiriau Dafydd, "Agoriad dy eiriau a rydd oleuni." Salm 119. 130. Er nad oedd yn hyawdl, fel y dywedwyd uchod; eto, yr oedd ei eiriau yn addas, a'i lais yn dreiddgar. Cyn darllen ei destun dywedai bob amser, 'Gair yr Arglwydd,' yna darllenai yr adnod mewn cywair uchel a hyglyw, ddwy neu dair gwaith drosodd. A phob ysgrythyr a goffaau yn ei bregeth, dyrchafai radd ar ei lais yn uwch na phan ddefnyddiai ei ymadroddion ei hun. Da iawn fyddai i laweroedd o bregethwyr Cymru ymdebygu iddo yn hyn, ac nid darllen ei testynau mewn llais mor isel fel na chlyw mo haner y gynnulleidfa bwynt, ac yn mhen ychydig, bloeddiant eu pethau eu hunain yn ddigon uchel ag y gallo deng mil o ddynion eu clywed. Am bregethau hirion, byddai Mr. Williams yn arfer dywedyd, nad oedd yr un pregethwr braidd yn ynys Brydain wedi amser y Puritaniaid, yn meddu digon o gymmwysder i bregethu awr heb flino mwy na hanner eu gwrandawyr; ac os treulir dros ddeng munud mewn gweddi, beth bynag o hyfrydwch a gaffo y dyn ei hun, holl waith eraill fydd disgwyl iddo ddarfod.