Neidio i'r cynnwys

Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams/Coffadwriaeth

Oddi ar Wicidestun
Rhagymadrodd Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams

gan Maurice Davies, Llanfair-ym-Muallt

Adgofion 'Chwanegol

COFFADWRIAETH
Y
PARCH JOHN WILLIAMS.

CWYNIR yn athrist gan y prophwyd Esay 57. I. Fod y cyfiawn yn marw, ac ni esyd neb at ei galon, a bod y gwyr trugarog yn cael ei cymmeryd ymaith, heb neb yn deall mai o flaen drygfyd y cymmerir y cyfiawn ymaith. Mae yn debyg nad oes yr un genedl gristionogol wedi bod yn fwy euog o'r cyhuddiad trwm uchod, na'n cenedl ni, y Cymry. Cododd yr Arglwydd lawer o ddynion enwog mewn dawn, dysgeidiaeth, llafur, a defnyddioldeb yn ein plith; ond cyn gynted ag y buant feirw, hwy a ebargofwyd yn y ddinas, ac yn y wlad lle buont yn llafurio.

Mae yn wir fod peth diwygiad o'r esgeulusdra hyn yn y blynyddoedd diweddaf, os gellir ei alw yn ddiwygiad hefyd; sef ysgrifenwyd hanes amryw o ddynion ieuainc duwiol a gobeithiol, gan rai o'u cyfeillion a'u cyfoedion, tra mae llawer o'r hen bobl enwog a llafurus, y rhai a ddygasant bwys y dydd a'i wres, yn cael eu gadael i fyned i dir angof, heb son am danynt. Un o'r cyfryw ydoedd y diweddar Barch. John Williams, o Bant-y-celyn: gwr teilwng iawn i'w gofiant gael ei ysgrifenu gan y mwyaf doniol a llithrig yn y dywysogaeth; ond gan mai arnaf fi y disgynodd y coelbren am y gorchwyl, nid oes genyf ddim i'w wneyd, ond hel yn nghyd gymmaint o ddefnyddiau a allaf, a'u gosod ger bron y darllenydd mor drefnus ag y medraf, gan feddwl yn sier, y bydd yn dda gan filoedd yn ein gwlad, gael hyn o goffadwriaeth am y gwr enwog hwnw.

Mr. John Williams, ydoedd ail fab i'r Parch. William Williams, o Bant-y-celyn, yr awen-fardd godidocaf, a mwyaf defnyddiol i Eglwys Crist, a fu yn mhlith y Cymry erioed: gwr y bydd ei enw fel ei waith, yn arogli yn beraidd iawn, tra parâo crefydd Iesu, yn mhlith unrhyw enwad union-gred yn y dywysogaeth. A diamau y pery hyny weithian. hyd derfyn byd.

Ganwyd John Williams ar y 23ain o fis Mai, ya y flwyddyn 1754. Yn ei fabandod, ei febyd, a'i ieuenctid, ymddengys oddiwrth lythyrau ei dad, bod golwg gyflym a gobeithiol arno; a'r hen wr fel pe buasai yn darllen rhyw beth yn ei wynebpryd, neu yn hytrach yn meddu gradd o ysbryd prophwydoliaeth, a ddywedai yn aml, "E fydd Jack yn wr cadarn yn yr ysgrythyrau." Pa beth bynnag a gynhyrfai yr hen Ganiedydd peraidd i feddwl felly, ac i ddywedyd felly, am ei fab, iawn y meddyliodd, ac iawn y dywedodd: cadarn a fu efe yn yr ysgrythyrau, a grymus iawn a fu effeithiau yr ysgrythyrau ar ei galon a'i holl ymddygiad ef, trwy ei oes.

Derbyniodd gynsail egwyddorion ei ddysgeidiaeth gan ei dad ei hun; a chychwynwyd of mewn dysgeidiaeth awdurawl, (Classical Learning,) dan ofal un Mr. Williams, yr hwn oedd y pryd hyny yn athraw ysgol yn y lle a elwir Coed-cochion, ond a fu gwedi hyny yn Weinidog yn yr Eglwys Sefydledig, ac hefyd yn pregethu yn deithiol yn mhlith y Methodistiaid Calfinaidd. `Yr oedd Mr. J. Williams yn barchus ac yn anwyl iawn o'i hen athraw hyd y diwedd, fel yr ymddengys oddiwrth lythyr a ddanfonodd at ei frawd, y Parch. W. Williams, Offeiriad yn Truro, yn Nghernyw, lle mae yn crybwyll am dano fel hyn:-"Mae Mr. Williams, Feriglor Llandeilo'r-fàn, yr athraw cyntaf a goreu a gawsoch chwi a minnau, wedi myned i ffordd yr holl ddaear. Cyfarfu ar ei bererindod â chroesau trymion, ac âg aml ddrygau; ond gwaredodd yr Arglwydd ef oddiwrthynt oll. Bu farw dan ganu "fordd newydd wnawd gan Iesu Grist, &c."

Gadawodd ar ei ol dri o feibion, yn Weinidogion yn yr Eglwys Sefydledig.

Pan yn nghylch pymtheg oed, symudwyd Mr. Williams oddi dàn ofal ei hen athraw duwiol i'r Ysgol Ramadegol yn Nghaerfyrddin: lle y gorphenodd y ddysgeidiaeth hono, sydd fel llawforwyn, yn wasanaethgar iawn, ac yn dra angenrheidiol, i weinidogaeth yr efengyl. Gwedi iddo fod am rai blynyddoedd yn yr athrofa uchod, yr oedd J. Williams, drwy athrylith a diwydrwydd, nid yn unig wedi rhagori ar ei gyd-ysgolheigion, ond hefyd yn cyd-raddu â'i athrawon; fel nad oedd ganddynt mwyach ddim i'w ddangos iddo, ar nad oedd eisioes. wedi ei ddysgu.

Yr oedd y pryd hwn yn rhy ieuanc i dderbyn urddau eglwysig, ac yn rhy fywiog a deffro ei ysbryd, i dreulio ei amser mewn segurdod. Fel yr oedd un prydnawn-gwaith yn myfyrio pa beth a wnelai; canfu trwy y ffenestr, yr Esgob a'i wraig yn rhodio ar yr heol: aeth allan yn ddioed i'w cyfarfod ac a gyfarchodd yr Esgob fel y canlyn:"Fy arglwydd, a fyddwch chwi mor ostyngedig a chaniatâu i mi gael ymddiddan gair a chwi?" Caniataodd yr Esgob hyny yn dirion iddo, ac yntau a aeth rhagddo, "Fy arglwyd, mae yn hysbys i'ch arglwyddiaeth fy mod i wedi dysgu y cwbl sydd ganddynt i'w ddysgu i mi yn yr athrofa hon, a chan nad wyf yn ewyllysio treuliaw dim o'm hamser yn segur; yr wyf mewn cyfyng-gyngor pa beth i'w wneyd, hyd oni ddelwyf mewn oedran i gael fy urddo: a gair o gyngor gan eich arglwyddiaeth yn fy amgylchiad presenol, yw yr hyn yr ydwyf yn ddeisyfu yn daer ac yn ostyngedig." Atebai yr Esgob ef yn fwynaidd, "Gellwch ddisgwyl clywed oddiwrthyf, John Williams, yn nghylch y pryd hwn yfory." Diolchodd yntau iddo yn barchus, a'r Esgob a'i wraig a ymadawsant dan wênu.

Y canlyniad o hyn a fu, iddo gael ei osod yn îsathraw yn yr ysgol hòno: ac am ei wroldeb hwn, mae ei dad yn ei ganmol yn wresog mewn llythyr at ei fab henaf:—"Bydd wrol, Billy," ebe efe "mae pregethwr. heb wroldeb fel durlif heb ddanedd, fel cyllell heb awch, neu fel milwr heb galon. Aeth dy frawd Jacky ei hun i ymddiddan a'r Esgob, ar yr heol yn Nghaerfyrddin, a chafodd ei wobrwyo am ei wroldeb." "Mae ofn dyn yn dwyn magl."

Gwedi iddo gael hawl-fraint i Eglwys Llanfynydd, yn Swydd Gaerfyrddin, cafodd ei urddo yn Ddyweinydd, (Deacon,) gan yr Esgob Warren, yn Nghapel Llys yr Esgob, yn Abergwili, ar y Sabbath y 17eg o Hydref, yn y flwyddyn 1779, sef y flwyddyn gyntaf o gyssegriad yr Esgob Warren. Cyn pen y flwyddyn, sef Medi y 3ydd, 1780, cafodd ei urddo yn Offeiriad gan yr un Esgob. Yr unig holiadau am dduwinyddiaeth a ofynodd yr Esgob iddo wrth ei urddo oedd, y ddau a ganlyn. 1. Beth oedd cyfiawnâad? 2. Beth oedd yn ei feddwl wrth ffydd yn unig? I'r gofyniad cyntaf, atebodd Mr. Williams fel hyn:—"Wrth gyfiawnhad, yr wyf yn deall, fod pechadur euog yn cael hawl personol yn nghyfiawnder Crist trwy ffydd yn unig. "Megis y mae Dafydd hefyd yn datgan dedwyddwch y dyn, y mae Duw yn cyfrif cyfiawnder iddo heb weithredoedd." "Yr ydym ni yn cyfrif mai trwy ffydd y cyfiawneir dyn heb weithredoedd y ddeddf." I'r ail, attebodd fel hyn:-"Wrth ffydd yn unig, yr wyf yn deall, egwyddor ysbrydol, ag mae yr Ysbryd Glan yn ei phlanu yn enaid dyn yn yr adenedigaeth, yr hon egwyddor sydd yn ei ddysgu synied yn addas am Dduw, ac am dano ei hunan; ac yn ei alluogi i ymorphwys ar gyfiawnder Crist am gymeradwyaeth gydâ Duw; i ymddiried yn ei waed ef am faddeuant a glanâad; ac yn y cyflawnder sydd ynddo am bob trugaredd i fywyd tragywyddol." Ni welodd yr Esgob yn addas i godi yr un wrthddadl, yn erbyn ei atebion addas ac ysgrythyrol; yr unig gyngor a roddodd iddo wrth ymadael oedd, "Byddwch wych fy mab; gochelwch na wneloch ddim cyfeillach a'r Methodistiaid, a dïammau genyf y byddwch yn gysur i chwi eich hun, ac yn addurn i'r Eglwys." Ar hyn ymadawodd Mr. Williams yn siriol, ac yn ddiolchgar i'r Arglwydd am y cymmorth a'r llwyddiant a gawsai: ac ar y ffordd adref, dywedai rhyngddo ag ef ei hun, "Nid yw fy arglwydd Esgob yn adnabod y Methodistiaid hyn, cystal ac yr adwaen i hwynt, pe amgen, ni buasai yn fy annog i beidio cyfeillachu a hwynt. Arglwydd, na ddyro y pechod hwn yn erbyn dy hen was! Ac am danaf finnau, byddaf waelach etto na hyn; byddaf ddirmygus yn fy ngolwg fy hun, a chyda'r llaw-forwynion. (am y rhai y llefurai yr Esgob,) y'm gogoneddir."

Gwedi iddo gael ei urdd Offeiriadol, ni chafodd yr un Plwyf dàn ei ofal, nes iddo gael perigloriaeth (curacy) Llanfair-yn-muallt, a Llanddewi'r-cwm, yn mis Awst, 1782. Ond byddai yn gweinyddu dros eraill, pa le bynnag y byddai galwad am dano; a bu yn gwasanaethu amryw weithiau yn Llanfairar-y-bryn, y Plwyf lle ganed ef, a lle mae ei gorph yn awr yn gorwedd, hyd oni chyfodir y meirw yn Nghrist.

Ar gais y diweddar Barch. Mr. Jones o Langana, gwr y bydd ei goffadwriaeth byth yn fendigedig, aeth Mr. Williams i Langrallo, yn Morganwg, yn Ionawr, 1781, a bu yno yn cadw ysgol, ac yn pregethu yn rhai o'r Llanau cymmydogaethol, hyd oni symmudodd i Lanfair-yn-muallt, yn Awst, 1782. Mae yn debygol ei fod yn barchus iawn yn Morganwg gan rai o uchelwyr y wlad; oblegid cair fel hyn yn ysgrifenedig yn ei Gôd-lyfr, Mai 30, 1781. "Heddyw, pregethodd yr Esgob Barrington a minnau, y naill ar ol y llall, yn Nghymmanfa fisol yr Offeiriaid, yn Mrô Morganwg: ei arglwyddiaeth yn Saesoneg, a minnau yn Gymraeg." Nis gallasai fod yn anenwog iawn, pe amgen, ni roddasid ef i bregethu ar y fath achlysur, ac yn enwedig gyda'r Esgob.

Ar ei symmudiad i Lanfair-yn-muallt, aeth i lettŷa at Law-feddyg cyfrifol, o'r enw Jones, gwraig yr hwn oedd yn ddynes dduwiol, ac yn aelod ffyddlawn gyda'r Methodistiaid Calfinaidd hyd ddydd ei marwolaeth ac yn dra adnabyddus i gasglydd hyn o hanes. Ymddengys fod ei dad ar daith yn Ngogledd Cymru, pan gafodd y Parch. John Williams ei sefydlu yn Llanfair; a disgynai yr awen ar yr hen gathlydd peraidd ar ei daith; ysgrifenodd gân go ddigrif ato, un pènill o ba un sydd fel y canlyn:

"Hed y Gwccw, hed yn fuan, hed, aderyn glas ei liw, "Hed oddi yma i Bant-y-celyn, gwed wrth Maly 'mod i'n fyw; "Hed oddi yno i Lanfair-'muallt, gwed wrth Jack am gadw'ile "Ac os na chaf ei weled yma, caf ei weled yn y ne‘.

Mewn ymddiddanion â Mr. Williams, clywais ef yn sylwi lawer gwaith, bod gormod o weniaeth yn hanesion dynion duwiol; o herwydd y byddir yn coffâu eu rhinweddau yn unig, ac yn cuddio eu holl golliadau. Gan mae dyna oedd ei farn ef, a chan fod yr Ysbryd Glân yn yr ysgrythyr, yn coffầu beiau duwiolion er gocheliad i ni, yn gystal a'u rhinweddau er siampl i ni; mi feddyliwn mai nid anweddus fyddai coffâu yma ei wendid yntau hefyd, yn enwedig pan ystyriom y coffa galarus sydd ganddo ef ei hun am ei fai, yn ei holl lythyrau at ei gyfeillion. Er bod Mr. Williams er yn ieuanc, a phethau gobeithiol ynddo, yn wastad o ymddygiad boneddigaidd; ac ar ol cael ei neillduo i'r weinidogaeth yn cael ei barchu gan bob gradd, fel gwr dysgedig a gwybodus; eto, mae yn debygol, (a hyny oedd ei feddwl ef ei hun,) nad oedd wedi cael tröedigaeth wirioneddol at Dduw, ac i lwybrau sancteiddrwydd, cyn dyfod i Lanfair-yn-muallt: oblegid byddai yn fynych yn cael ei orchfygu gan y pechod o yfed i ormodedd; ac fel yr oedd un tro yn claddu un o'i blwyfolion,[1] ac yn sefyll ar fin y bedd, yn datgan y geiriau "Pridd i'r pridd, lludw i'r lludw, &c.," trwy effaith diod gadarn, bu agos iddo syrthio i'r bedd, a hyny a wnaethai ddïammau, oni buasai i gyfaill oedd yn ei ymyl ymfaelyd ynddo, a'i achub! Effeithiodd hyn gymmaint arno, fel y sobrodd yn hollawl yn y fan. Aeth i'w letty dan wylo yn chwerw-dost, ac i'w ystafell yn ddioed; ac ni welwyd ef hyd y boreu dranoeth. Ni chysgodd ef ddim y noson hono; ond, a'i galon yn ddrylliog, ac a'i enaid yn toddi gan drallod, gwnaeth ei wely yn foddfa. Gellir cael graddau o olwg ar y cyfyngder caled y bu ynddo, wrth y cyfaddefiadau a'r saeth-weddïau canlynol o'r eiddo ef ar yr achlysur hwnw:—"Dywedaf wrth y pwll, tydi yw fy nhad; ac wrth y pryƒ, fy mam aʼm chwaer wyt. Fy ngheudod sydd anwireddau Nid oes ynof fi ddim da yn trigo. Aflan, aflan! Mae fy nghalon fel Babilon, yn lletty cythreuliaid, ac yn nyth pob aderyn aflan ac atgas! Rhyfedd, o Dduw na buasit ti yn fy nghauad i fynu mewn anobaith, ac mewn cadwynau tywyllwch gydâ'r diafol, hyd farn y dydd mawr! Pa beth a ddywedaf? gosodaf fy llaw ar fy ngenau, i edrych a oes gobaith Gan i ti arbed hyd yma, arbed i fywyd tragywyddol. Deuaf atat fel y Publican, gan ddywedyd, O Dduw bydd drugarog wrthyf bechadur. Y Duw sydd anfeidrol mewn trugaredd, trugarhâ wrthyf finnau. Bydd drugarog wrth fy anghyfiawnderau, a'm pechodau, a'm hanwireddau, na chofia ddim o honynt mwyach. Cyfiawnhâ fy enaid euog trwy dy ras, trwy y prynedigaeth sydd yn Nghrist Iesu. Ac O, pura, sancteiddia, glanhâ, a dyro galon newydd i mi 0 Dduw. Cefais galon arall genyt lawer gwaith: ond yr wyf heb y galon newydd. Calon newydd wyf yn ymofyn, pe byddai i mi gardota fy mara o ddrws i ddrws. Bydded i waed Crist, yr hwn trwy yr Ysbryd tragywyddol a'i hoffrymod ei hun yn ddifai i Dduw, buro fy nghydwybod oddi wrth weithredoedd meirwon, i wasanaethu y Duw byw. Gogonedda dy ras yn fy iachawdwriaeth, bechadur tlawd, &c., &c.

Fel hyn y trodd ei wyneb, ac yr ymroddodd i geisio yr Arglwydd, gan barau mewn gweddiau ac erfyniadau taerion hyd doriad y dydd; ac mae yn debygol i'r Arglwydd yn fuan, ddangos ei hun yn Dduw parod i faddeu; yr hyn a barodd iddo yntau dorri allan mewn diolchgarwch, gan ddywedyd, "Diolch am radd o lonyddwch oddi wrth of a drag. O na fydded i mi mwyach dderbyn ysbryd eaethiwed i beri ofn, ond ysbryd mabwysiad, trwy yr hwn y gallwyf lefain Abba Dad. Addefais fy mhechod wrth it, a'm hanwiredd ni chuddiais; dywedais, cyffesaf yn fy erbyn fy hun fy anwireddau i'r Arglwydd, a thi a faddeuaist anwiredd fy mhechod." Ychydig ddyddiau ar ol hyn, mae yn ysgrifenu fel hyn:—"O na byddai yr holl fyd yn profi y fath sylwedd, ac yn teimlo y fath rym a chysur mewn crefydd, ag wyf fi yn deimlo yn bresenol. Mae yr Arglwydd wedi maddeu fy mhechod, ac yn darostwng fy llygredd. Mae yn tarfu fy ngelynion, ac yn symud fy ofnau. Mae yr ychydig a brofais i o bethau y nefoedd ar y ddaear, yn ei gwneud yn nefoedd yma; ond yn y nef ei hun, lle mae gwyneb fy Mhriod i'w weled heb un llen, a'i holl berffeithiau yn ymddisgleirio heb un gorchudd. O mor fawr fydd y wledd, mor rhyfedd y mwynâad; lle caf oleuni tragywyddol, gweledigaethau tragywyddol, a thebygolrwydd tragywyddol, i'r Duw tragywyddol!"

Cafodd Mr. Williams y tro hwn, y fath gasineb at y pechod o feddwdod, fel y clywais ef yn dywedyd, na bu y peth byth wedi hyny yn brofedigaeth iddo. Ac mewn llythyr at ei frawd, 1784, mae yn dywedyd, "I Dduw y byddo'r diolch, yr wyf wedi cael y fath oruchafiaeth ar y pechod a wyddoch chwi oedd barod i'm hamgylchu, fel nad oes neb o'm cyfeillion yn fy nrwg-dybied: a thrwy drugaredd nid oes raid iddynt."

Gwedi y tro uchod, darllenai y gwasanaeth a phregethai dair gwaith ar y Sabbath, o fewn yr Eglwys Sefydledig; ac yn yr wythnos byddai gydâ ei frodyr y Methodistiaid yn Nghapel Alpha,[2] y rhai yr oedd ganddo erioed barch mawr iddynt, ond o hyn allan, ei frodyr anwylaf yn yr Arglwydd oeddynt. Aeth son am ei droedigaeth yn y fan drwy holl Sir Frycheiniog; a chlywodd yr Arglwyddes Huntingdon am y cyfnewidiad mawra gymerodd le arno; ac o herwydd y parch mawr oedd ganddi i'w dad, a gwybod ei fod yntau yn ysgolhaig rhagorol; hi a ysgrifenodd ato yn ei dull syml a difrifol a chyffredin hi, gan daer ddymuno arno gymeryd gofal yr Athrofa yn Nhrefeca am ryw yspaid o amser; o herwydd fod y Prif-athraw yno dan angenrheidrwydd o fyned oddi cartref am rai misoedd. Ufuddhâodd Mr. Williams i fyned; ac yn Nhrefeca y bu o ddechreu Awst hyd ddiwedd Rhagfyr, 1784. Yn ystod yr amser hwn dangosodd y fath ddiwydrwydd, a'r fath gymwysderau fel athraw, fel yr hoffodd y bendefiges enwog a duwiol hono ef yn fawr, ac a'i gwobrwyodd ef yn hardd am ei wasanaeth. Yr oedd yr holl Efrydwyr (students) hefyd yn ei garu yn anghyffredin; a chafwyd cryn waith darbwyllo rhai o honynt, i beidio gadael yr athrofa, a chanlyn Mr. Williams i Lanfair-yn-muallt.

Bu wedi hyn ddwy flynedd yn Llanfair, yn llafurus a defnyddiol iawn, oddi fewn ac oddi allan i furiau yr Eglwys Sefydledig. Pan diswyddwyd Mr. Phillips o fod yn athraw yr ysgol yn Nhrefeca, cafodd Mr. Williams fel oedd yn naturiol disgwyl, ei ddewis yn ei le, yn Ionawr, 1786. Yr achos o ddiswyddo Mr. Phillips, medd y Parch. William Kemp, (Athraw Duwinyddol yr Athrofa yn Cheshunt,) ydoedd yn nghylch Bradford, y Gwrthddeddfwr, (Antinomian,) Mr. Phillips yn lle ymddwyn tu ag ato yn ol rheolau yr Athrofa, a bennododd ymddadleu âg ef yn yr iaith Ladin, ar yr awr giniaw. Yn mhoethder y ddadl, pan oedd Bradford a'i dalcen fel y pres, yn haeru, ac yn amddiffyn ei athrawiaeth benrydd, methodd Mr. Phillips a meddianu ei hun, cododd ei waed yn ei wyneb, torodd allan o'i ffroenau, a llifodd yn ffrwd ar hyd liain y bwrdd. Daeth y peth annymunol hyni glustiau yr Arglwyddes, gorchymynodd i'r holl Efrydwyr gyd gyfarfod, a thrin y mater yn ol cyfraith yr Athrofa, a'r penderfyniad a fu, diswyddo Mr. Phillips. Y Parch. S. Lloyd, (o Abertawy wedi hyny,) oedd yr Efrydydd henaf y pryd hwnw, ac yn y gadair ar yr achlysur hwnw. Offeiriad oedd Mr. Phillips, ac yn ŵr tra dysgedig: bu yn byw wedi hyny yn Birmingham.

Pum' mlynedd a haner y bu Mr. Williams yn Nhrefeca, a chyfrif yr amser y bu yno yn absenoldeb yr athraw: oblegid yn Ebrill, 1791, rhoddodd ei swydd i fynu, er pob ymdrechiadau o eiddo Ymddiriedolwyr (Trustees) yr Athrofa, a'r Arglwyddes hefyd, i'w gadw yno. Dau reswm neillduol oedd yn roddi ym ei waith yn ymadael â Threfeca; yn gyntaf, o herwydd marwolaeth ei dad, yr oedd yn barnu mai ei ddyledswydd oedd myned i Bant-y-celyn, i fod yn gysur i'w fam yn ei gweddwdod a’i henaint. Yn ail, fel y gallai gael mwy o amser a chyfleusdra at ei hoff waith, sef pregethu yr efengyl.

Er mai pum' mlynedd a haner y bu ef yn athraw yn Nhrefeca; eto, yr oedd yn amser maith pan ystyriom fod holl bwys y gwaith arno ef ei hun: nid oedd ganddo neb i'w gynorthwyo; efe ei hun oedd yn dysgu'r ieithoedd, yn gwrando yr holl draethodau ar ddywinyddiaeth, ac yn manwl farnu arnynt. Ymddengys oddiwrth amrai o'i lythyrau, yn enwedig at ei frawd, fod ei lafur yn fawr iawn yr amser hwnw. Ni byddai yn cysgu, yn aml, dros ddwy, o'r pedair awr ar hugain; a'r rhan fynychaf, byddai yn codi am bedwar o'r gloch yn y boreu. Yr oedd ganddo o leiaf ddeuddeg o Efrydwyr (Students) dan ei ofal, ac weithiau bedwar ar ddeg; a rhai o'r hai hyny yn hynod o dreiddgar, fel y byddai yn cael gwaith cadw y blaen arnynt: yn enwedig dau o honynt, Woodward a Roby; byddent hwy yn aml wrth ei sodlau, ac yn ei gadw ar lawn waith, i roddi gwaith newydd iddynt hwy.

Gwedi bod wrthi felly yn galed am chwe' diwrnod, nid oedd gorphwys iddo ef ar y sabbath; llefarai y rhan fynychaf dair gwaith ar y sabbath; a theithiau yn gyffredin ddeg, ugain, ac weithiau ddeugain milldir, at yr oedfâon hyn, rhwng myned a dychwelyd. Mewn llythyr at ei frawd, dyddiedig Mawrth, 1789, mae yn dywedyd fel hyn:—"Yr wyf fi weithian wedi cynefino a gweithio, debygwn, fel nad oes arnaf eisiau na gorphwys na chysgu, gan yr hyfrydwch fyddaf yn gael yn y gwaith, a'r cymorth mae'r Arglwydd yn ei roddi i mi ynddo: ond, y mae fy rheswm yn dywedyd wrthyf: y caf fi deimlo oddiwrth hyn yn ol llaw.

Yr ydym newydd gael galwad o'ch Sir chwi, (Cernyw), oddiwrth ugain o gynulleidfaoedd am bregethwyr; ac yr ydwyf finnau wedi cael gorchymyn i barotoi cynnifer a allaf yn ddioed. Onid yw hyn, fy anwyl frawd, yn profi eich segurdod a'ch esgeulusdra chwi yr Offeiriaid, yn y rhan yna o'r wlad?—Ond nac adroddwch hyn yn Edinburgh, na fynegwch hyn yn heolydd Glasgow, rhag llawenychu merched y Kirk,[3] rhag gorfoleddu o ferched yr anghydffurfwyr!"

Mehefin 17, 1791, sef dau fis ar ol ymadawiad Mr. Williams o Drefeca, bu farw yr Arglwyddes Huntingdon; a phenderfynodd ymddiriedolwyr a chynorthwywyr y sefydliad yn Nhrefeca, mai gwell oedd symud yr Athrofa o Gymru i Cheshunt, swydd Herts, 14 milldir o Lundain. Hyny a wnaed, ac agorwyd y lle uchod Awst 24, 1792, pryd y llefarodd ar yr achlysur y Parch. Mrd. Crole, Eyre, Platt, a Kirkman: y rhai oedd wedi eu dwyn i fynu oll yn Nhrefeca. Mae yr Athrofa wedi bod o ddefnydd i'r Cymry, er ei symud i Cheshunt, yn Lloegr; mae rhai yn llafurio yn bresenol, yn llafurio yn ddefnyddiol yn mhlith y Methodistiaid, a gawsant eu dysgu yn yr Athrofa hono. Mae yn agored i wyr ieuainc o bob enwad crefyddol union-gred; a phan ymadawont a'r Athrofa, cânt ddewis eu plaid grefyddol i lafurio yn eu plith.

Pan ymadawodd Mr. Williams a'r Athrofa, yr oedd 14 o wyr ienainc dan ei ofal; o ba rai nid oes yn fyw (medd Mr. Kemp,) ond hyn, sef y Parch. Timothy Wildbore, Penryn; y Parch. John Bickerdike, Kentish Town; y Parch John Davies, o Reading; y Parch Robert Bradley, Offeiriad yn Manchester; y Parch. Thomas Smith, o Lundain a'r Parch. David Ralph, o Gaerodor.

Gwedi i Mr. Williams symud i Bant-y-celyn, ymroddodd i waith y weinidogaeth yn mhlith y Methodistiaid CaIfinaidd; yn sir Frycheiniog yn fwyaf neillduol; er mai Llanddyfri, yn sir Gaerfyrddin, a gafodd y fraint o gael ei enw ef yn ei plith, fel aelod eglwysig. Yr oedd efe er hyny yn ystyried ei hun, ac yn cael ei ystyried gan ei frodyr, yn aelod o Gymdeithas a chyfarfod Misol sir Frycheiniog, hyd ddydd ei farwolaeth. Ni bu y Parch. John Williams erioed yn gymaint o deithiwr a'i dad, ac a llawer eraill o'r hen bobl yn moreu y diwygiad; ond cyfyngai efe ei lafur gan mwyaf o fewn swydd Frycheiniog, a rhan o swydd Gaerfyrddin. Eto, bu amryw weithiau yn ymweled a'r holl eglwysi yn y Deheubarth, a bu ddwy waith hefyd yn y Gogledd. Y tro cyntaf y bu trwy Wynedd oedd, yn 1800; a'i gyfaill ar ei daith y tro hwnw oedd, Mr. John Prytherch, o'r Defynog. Gwedi dychwelyd o'r daith hono, mae yn ysgrifenu at ei frawd fel hyn:—"Yr ydwyf newydd ddychwelyd o daith, o 600 o filldiroedd o leiaf. Pan ysgrifenasoch chwi eich llythyr diweddaf, yr oeddwn yn Dolgellau, yn sir Feirionydd, mewn Cymmanfa. Yn y daith hon yr oeddwn yn llefaru yn gyffredin, dair gwaith yn y dydd, yn gweinyddu Swper yr Arglwydd ddwy waith; ac yn trafaelu tua phymtheg milldir, y naill ddiwrnod gyda'r llall. Yn fy holl daith, ni chlywais am gymaint ag un gweinidog effro yn yr Eglwys Sefydledig! O mor drwm ydyw, pan mae yr Arglwydd yn dywedyd, "Yr Offeiriaid a ddywedant, Pa le mae yr Arglwydd? a'r rhai sydd yn trin y gyfraith nid adnabuant fi." Ond mae yr Arglwydd yn cyfodi iddo ei hun fugeiliaid o blith y crefftwyr a'r ffarmwyr, y rhai sydd yn ei law ef, yn afonyddu y byd. Nid yw satan yn cynhyrfu dim wrth bregethu moesoldeb, a rhinweddau da; iechydwriaeth Iesu sydd yn ei gynhyrfu ef; dyna sydd yn cloddio ei allorau i lawr, yn gwaredu y caethion, yn datod gweithredoedd y diafol, &c. Nid rhyfedd i'r apostol ddywedyd, "Nid oes arnaf gywilydd o efengyl Crist." Nid oedd arno gywilydd i'w chredu fel dyn, i'w phroffesu fel cristion, i'w chyhoeddi fel apostol, nac i farw ynm i hachos fel merthyr."

Yn 1802, aeth drachefn i Ogledd Cymru: ei gyfaill y tro hwn oedd, Mr. William Bevan, Trecastell. Wedi dychwelyd, mae yn ysgrifenu eilwaith at ei frawd fel hyn:—" Teithiasom trwy holl siroedd Gogledd Cymru, a rhan helaeth o siroedd Amwythig a Chaerlleon. Yn Nghaer, cyfarfuom a'r Parch, Mr. Charles, o'r Bala: mae yn ddrwg genyf ddywedyd, fod y chwydd gwyn yn ei law ef, ac mae y Llaw-feddygon yn barnu bydd rhaid ei thori ymaith. Yr achlysur o hono oedd, cael anwyd wrth groesi un o fynyddoedd sir Feirionydd, Yr ydwyf yn ofni y bydd i'r gwas ffyddlon hwn i Grist, farw yn ferthyr, o herwydd ei fawr ymdrech yn yr achos goreu. Er gwaned oedd, darllenodd y gwasanaeth ddwy waith o fy mlaen i yn Nghaer. Pan glywoch fy mod i wedi bod ar daith mor fawr trwy Wynedd, diau y disgwyliwch i mi ddywedyd rhyw beth am y mynyddoedd gwylltwedd, a'r golygiadau anhygoel sydd yno; ond y gwirionedd yw, yr oedd pwysfawrogrwydd y gwaith, a lludded corphorol, yn marweiddio yn llwyr, bob ymofyniad ysgafn-fryd, (curious,) ac sydd mor naturiol i chwi a minau wrth natur. Er bod llawer o fynyddoedd yn y Gogledd, eto y mae yno lawer o wlad dda odiaeth; ac mae y trigolion yn bobl lanwaith, lettygar, ac o ymddygiadau rhagorol."

"Yn sir Fôn, creffais ar y lle a elwir y Plas Newydd; lle y bu Owen Tudur gynt yn byw, yr hwn a ymbriododd a Chatherine, gweddw Harri y V: y mae cof-arwydd am dano yno hyd heddyw. Owen Tudur oedd y dyn glanaf yn ei oes; ond nid oedd o waedoliaeth uchel. Dywedir bod ei fam yn cadw geifr gydâ hi yn y tŷ, yn gyfeillesau, yn lle pendefigesau; ac ei bod yn wastad yn ciniawa oddi ar ddisgl bren ar ei gliniau. Nis gwyddwn i o'r blaen fod breninoedd Lloegr yn hanu o Mona Antiqua, ond y mae'n debyg mai felly y mae ; ac y mae pobl sir Fôn yn hynod o debyg yn eu gwynebpryd i lun Ilarri VIII. Ond y mae yr efengyl wedi peri iddynt ragori yn mhell mewn ffyddlondeb a serchawgrwydd ar y tywysog hwnw; oblegid, gallwch deithio o Ddyfnaint i Fôn, heb gyfarfod a phobl mor serchog i ddieithriaid."

Mewn llythyr at ei frawd, 1808, ar ol coffau gydâ galar dwys am farwolaeth William Lloyd, Ysw., o Gaio, mae yn dywedyd fel hyn:—"Amser nithio yw hwn, ac y mae pob peth yn galw arnom i wylio a gweddio. Mae yr Arglwydd wedi digio, mae y cleddyf wedi ei dynu allan mewn amryw ffyrdd, ac nid oes dim ond gweddi daer a bair iddo fyned yn ol i'r wain. Ond yn nghanol rhyfeloedd, a son am ryfeloedd, yr Arglwydd sydd yn teyrnasu; efe a edwyn y rhai sydd eiddo ef, ac y mae pob peth yn cyd weithio er daioni iddynt hwy. Mae dyben dynion yn un peth, a dyben Duw yn beth arall: ond cyngor yr Arglwydd hwnw a saif."

Mewn llythyr arall at ei frawd, 1812, y dywed, "Nid oes un Offeiriad yn perthyn i gorph y Methodistiaid yn y sir hon (Brycheiniog,) ond fy hunan, mae y pellder rhyngom ni a'r Eglwys Sefydledig yn ymledanu bob dydd; ac mae y bobl ieuainc yn cymmeryd yn ganiatâol, nad yw yr Eglwys ond math o gristionogrwydd gwladol: mae yr hen bobl o hyd yn meddu gradd fawr o ragfarn o blaid yr Eglwys, ond nis gwaeth gan y dosparth ieuainc o honom pe byddai yr holl Offeiriaid wedi eu halldudio i'r ochr draw i'r Ganges. Ond er hyn i gyd nid yw yr Offeiriaid yn Neheudir Cymru wedi cyhoeddi dim yn erbyn ein corph ni, ac nid oes neb o honom ninau yn ddirgel nac yn gyhoedd, yn beiddio dywedyd dim yn anmharchus am yr Eglwys wladol.

Yr oedd iechyd Mr. Williams yn adfeilio er ys blynyddoedd, o herwydd yn Hydref 14, 1814, mae yn ysgrifenu at ei frawd; ac wedi coffau yn hiraethlawn am farwolaeth y Parch. Mr. Charles, o'r Bala, mae yn dywedyd fel hyn:—"Mawr y golled a gafodd Cymru oll, ac yn enwedig corph y Methodistiaid yr oedd ef yn hynod o ddefnyddiol mewn llawer ffordd ; cyhoeddodd amryw o lyfrau rhagorol. Efe a gyhoeddod ar fy nymuniad i hanes bywyd ein tad: myfi a roddais yr ysgerbwd iddo, ac yntau a'i gwisgoedd a chroen; myfi a ddanfonais. y defnyddiau, ac yntau a gododd yr adeilad. Pan gofiwyf am ei ddefnyddioldeb yn ein plith, a'n bod wedi cael ein hamddifadu o hono; yr wyf yn dychymmygu nad oes genyf ond dywedyd, "Arbed dy bobl, O Arglwydd, ac na ddyro dy etifeddiaeth i warth." Ni chaniatâ fy iechyd i mi fyned nemawr oddi cartref i bregethu yr efengyl, yr hyn sydd ofid mawr i mi: ac yr wyf yn esgeuluso ambell i Gyfarfod Misol, o herwydd nas gallaf nacâu fy nghyhoeddiad, gan daerineb y cyfeillion, a minau yn gwybod fy mod yn analluogi fyned ato. Nid yw gwiw i mi ddywedyd wrth fy mrodyr anwylaf am fy afiechyd, ni wnant ond chwerthin am fy mhen, gan feddwl nad oes dim ond yr hip yn fy mlino, canys felly y galwant hwy bob peth nad ydynt hwy yn ei ddeall, ac ni chredant fod un clefyd ar bregethwr ond yr hip, nes clywed ei fod wedi marw; yna dywedant wrth ei gilydd, "Mae yn debyg ei fod ef yn afiach er ys blynyddoedd, er nad oeddem ni yn ei gredu." Pan fyddwyf fi gartref, yr wyf yn treulio y rhan fwyaf o'm hamser yn darllen y Beibl, a sylwadau y Dr. Gill arno. Yr wyf wedi darllen y rhan fwyaf o'r naw llyfr un plyg, (9 vol. folio.) Yr wyf yn hoffi canlyn y Doctor i bob man ond i'r afon, er ei fod efallai, wedi dywedyd rhai pethau fel uwch gwympiedydd,[4] a milflwyddiedydd,[5] y buasai cystal iddo beidio. Eto, pwy bynag a gymero y boen i ddarllen, gwaith y Doctor, caiff ei wobrwyo yn gyflawi am ei lafur, ac i'm tyb i, a gaiff gymaint o wybodaeth ddefnyddiol, a phe darllenai yr holl lyfrau a ysgrifenwyd."

Mewn llythyr arall at ei frawd, y mae yn ysgrifenu yn y dull syml a hunan-ymwadol hyn:—"O mor druenus yw i ni yn anad neb dynion, drysori i ni ein hunain drysorau ar y ddaear, a ninau yn anog eraill i dysori iddynt drysorau yn y nef! Ond cofiwch hyn, pa le bynag y byddo eich trysor, yno bydd eich calon hefyd. Yr wyf fi yn ei gweled yn ddyledswydd arnaf, i weddio dros yr holl fyd; yn enwedig dros fy mherthynasau yn ol y cnawd: ond fy unig gyfeillion ar y ddaear yw pobl grefyddol, yr wyf yn caru y rhai hyn gyda pha blaid bynag o gristionogion y byddont. Ar yr un pryd, yr wyf yn teimlo mwy o anwyldeb at fy mrodyr y Methodistiaid na thuag at neb arall; nid am fy mod yn meddwl eu bod hwy yn fwy duwiol nac eraill, ond am fy mod i wedi arfer mwy a hwynt, a chael cymaint prawf o'u ffyddlondeb. Yr wyf fi mor ddall i'm camsynadau fy hunan, fel ag ydwyf yn ei chyfrif yn fraint fy mod gyda chorph o bobl a ddywedant am fy ngholled wrthyf, ac ni oddefant bechod ynof." Mewn llythyr at ei frawd mae yn ysgrifenu fel hyn: "Yr oeddwn i yn adnabod un gwr boneddig a fyddai yn arfer dywedyd yn ei fywyd, nad oedd yr un uffern; ond wrth farw, gwnaeth ei lw ei fod ef yn myned yno! Cysgod yw y cwbl yr ochr hyn, ond sylwedd yw pob peth yr ochr draw.[6]. Byddai yn dda genyf glywed a ddarllenasoch chwi Ail Adroddiad Blynyddol, y Gymdeithas Feiblaidd Brydeinig a Thramor. Casglodd y Methodistiaid tlodion yn Nghymru, ddwy fil a phum cant o bunau! ac enwau eraill yn ffyddlon yn ol eu gallu. Mae Esgobion Llundain, Durham, Exeter, a Thy-ddewi, yn Rhaglywyddion y Gymdeithas; ond y mae yn ddrwg genyf weled cyn lleied o enwau yr offeiriaid wrth res y cyfroddwyr; mae hyn yn dangos nad ydynt hwy am i wybodaeth ysbrydol ymdaenu; a chan nad ydynt yn darllen dim o'r Beibl eu hunain, ond yr hyn sydd raid iddynt ei ddarllen, nid ydynt am i neb arall ei ddarllen. Maddeuwch fy mod i mor eon ar fy hen frodyr yr offeiriaid; cariad atynt, ac eiddigedd drostynt yw yr achos fy mod yn dywedyd fel hyn. Na thybied neb fy mod i yn elyn i fy Mam-eglwys; ond nid wyf yn ddall i'r pethau beius sydd ynddi. Gellwch ddeall fod genyf fi barch mawr, nid yn unig i bersonau yn yr Eglwys Sefydlelig, ond hefyd i'w chyfansoddiad, pan y dywedwyf wrthych, fy mod yn darllen bob dydd, y peth cyntaf yn y boreu, y Salmau gosodedig gan yr Eglwys "

Yn ei gystudd diweddaf, yr oedd yn ddibaid mewn gweddi; ac yn ymwrthod yn hollawl â'i gyfiawnder ei hun, fel sail am gymeradwyaeth gydâ Duw: ni allai oddef clywed son am ddim o'r holl ddaioni a wnaethai yn ei oes. "Gwas anfuddiol" oedd ei iaith yn wastad; ond er hyny, yr oedd yn hyderu yn ddiysgog am fywyd tragywyddol yn rhad ac yn rhodd, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.

Y tro diweddaf y gwelodd yr ysgrifenydd ef, galwodd arnaf yn ol, wedi i mi fyned allan o'r tŷ. Rhyfeddais am hyny, a minau wedi canu yn iach iddo yn y Parlawr. Mi droais yn fy ol, a gofynais "A oeddech chwi yn galw arnaf, syr?" 'Dim', ebe yntau, 'ond hysbysu i chwi, na chewch fy ngweled i ar y ddaear hon byth mwy.' 'Caf, gobeithio,' ebe finau, lawer gwaith etto.' 'Na ddywedwch felly,' ebai yntau; a chan edrych yn ddifrifol yn fy wyneb, gwelodd fy ngwedd yn newidio, ac ar yr unwaith edrychodd yn nodedig o siriol arnaf, gan ddywedyd, "Y cwbl wyf yn geisio genych yw, gweddio drosof am i mi gael myned trwy y dyfroedd mewn tawelwch, heb ymollwng dan ddyrnod angeu. Ond yr wyf yn dra sicr, pwy bynag a gofio am danaf, a phwy bynag a'm hanghofio, y mae Un na anghofia 'mohonof: a chaf weled yr Arch, a Josua yr Archoffeiriad, pan fyddwyf yn colli fy ngolwg ar bob peth arall."

Yr oedd hyn tua haner blwyddyn cyn iddo farw, ac-fel y dywedodd efe, nis gwelais ac nis gwelaf fi ef byth mwy ar y ddaear hon, ond yr wyf yn gobeithio cael ei weled yn y dydd hwnw, pan y delo Mab Duw i ymofyn am ei berlau o lwch y bedd; acy caiff ef a minau, gydâ holl dyrfa fawr y gwaredigion, gyd fwynhau a chyd glodfori yr hwn a'n carodd ni, ac a'n golchodd oddi wrth ein pechodau yn ei waed ei hun. Bu yn felus genym ei gyd bregethu ef lawer gwaith yma, er maint ein gwaeledd; a pha faint mwy melus y bydd genym ei gyd folianu ef fry, heb waeledd o un math yn ei flino ef na ninau.

Clywais na bu dim llawer o gyfnewidiad arno er pan y gwelaswn i ef; ond ei fod yn myned wanach wanach yn raddol bob dydd: ond er llygru y dyn oddi allan, eto yr oedd y dyn oddi mewn yn cael ei adnewyddu o ddydd i ddydd. Y testun olaf y pregethodd efe arno oedd, Job xlii. 5, 6. "Myfi a glywais a'm clustiau son am danat ti, &c." Ar geiriau diweddaf a ysgrifenodd efe yn ei ddydd-lyfr oedd, "I'th law diy gorchymynaf fy ysbryd." Yr oedd hyny ar yr unfed-ar-ddeg o fis Mai, 1828; ac ar y pumed o Fehefin, llai na mis o amser ar ol hyny, gwrandawyd ei weddi, cafodd ei ddymuniad, ac ehedodd ei enaid sanctaidd yn ddiamau, i fwynâu dedwyddwch tragywyddol yn mhlith yr holl rai a sancteiddiwyd. Er ei fod yn gwaelu yn raddol fel y dywedwyd, am rai misoedd, eto ni bu ond y tri diwrnod olaf o'i fywyd yn cadw ei wely. Yn hyn hefyd cafodd ei ddymuniad, sef "myned trwy y dyfroedd mewn tawelwch." "Ystyr y perffaith, ac edrych ar yr uniawn, canys diwedd y gwr hwnw fydd tangnefedd." "Efe a â i dangnefedd, hwy a orphwysant bob un yn ei hystafelloedd."

Ar y degfed o Fehefin, ymgynullodd torf fawr o'i gymydogion, a phelledigion hefyd, i hebrwng y rhan farwol o hono i'r tŷ thag-derfynedig i bob dyn byw. Yr oedd Mr. Williams wedi dymuno am i ddau o'i hen frodyr a'i gyd-weithwyr yn Mrycheiniog, y Parch. William Havard, a'r Parch. Maurice Davies, lefaru yn ei gladdedigaeth ef, ar Exodus xv. 16, ond gan nas gallwyd danfon gwybodaeth iddynt hwy mewn pryd, methwyd a chyflawni y rhan hono o ddeisyfiad ein hen frawd trancedig. Gan fod dau frawd o Sir Gaerfyrddin, sef Mrd. John Jones, o Landdeusant, a Josuah Phillips, o Bank-y-felin, ac hefyd y Parch. William Griffiths o Frowyr, yn Morganwg, yn dygwydd bod yn y gymydogaeth ar y pryd hwnw; buont hwy mor garedig a gweini ar yr achlysur galarus yn y drefn ganlynol:—Darllenodd a gweddiodd y brawd John Jones, yna llafarodd y brawd Josuah Phillips ar Phil. i. 21, yn gymraeg; ac ar ei o!, llafarodd y braw1 William Griffiths, yn saesoneg, ar Ioan x. 9. ac felly y terfynodd y gwasanaeth yn y tŷ, cyn cychwyn y corph tu a hen gladdfa gyssegredig ei dad a'i fam, yn mynwent Llanfair-ar-y-bryn. Afraid yw sylwi, iddo gael ei gladdu yno, yn ol dull yr Eglwys Sefydledig o gladdu pawb; "mewn gwir ddiogel obaith i adgyfodiad i fuchedd dragwyddol, &c," a thybiwn nad oedd dim yn groes gan yr un ymneillduwr a'i hadwaenai, ac a oedd yno yn bresenol, glywed darllen y cyfryw eiriau uwch ben ei feddrod ef. O mor addas a phrydferth yw holl wasanaeth y claddedigaeth yn Eglwys Loegr, i'w ddarllen wrth gladdu dyn duwiol.

Rhoddwyd maen hardd ar fedd Mr. Williams, yn mhen ychydig ar ol ei gladdu; a'r ysgrif addas a ganlyn yn gerfiedig arno: a sylwer, mai ar ei ddeisyfiad ef ei hun y rhoddwyd y geiriau olaf, yr hyn a ddengys ei feddwl isel am dano ei hun hyd ei ddiwedd, yn nghyd a'r ysbryd diolchgar oedd yn llanw ei enaid am yr hyn a wnaethai yr Arglwydd erddo.

SACRED
TO THE MEMORY
OF THE
REV. JOHN WILLIAMS,
PANT-Y-CELYN,
IN THIS PARISH,
IN WHOM

LEARNING, PIETY, & BENEVOLENCE,
WERE UNITED.
HE DEVOTED A CONSIDERABLE PART OF HIS
WEALTH TO THE TRANSMISSION OF THE
GLORIOUS GOSPEL TO ALL LANDS.
He died June 5th, 1828.
AGED 74 YEARS.


STRANGER! should'st thou approach this awful shrine,
The merits of the honoured dead to seek;
The friend, the son, the christian, the divine,
Let those who knew him, those who lov'd him speak.


"A SINNER SAVED."

BEDD-ARGRAFF, (cyfieithad.)



CYSSEGREDIG
I GOFFADWRIAETH
Y
PARCH. JOHN WILLIAMS,
PANT-Y-CELYN,
YN Y PLWYF HWN,
YN MHA UN YR OEDD
DYSGEIDIAETH, DUWIOLDEB, A CHYMMWYNASGARWCH
WEDI YMUNO.
EFE A GYFLWNODD RAN FAWR O'I GYFOETH
I DDANFON YR EFENGYL OGONEDDUS
I'R HOLL FYD.
Bu farw Mehefin 5ed, 1828,
YN 74 MLWYDD OED.


ESTRON! Os bydd i ti nesu, at y greir-gell ddifrif hon,
I ymholi am y marw, a rhinweddau pur ei fron;
Cyfaill ydoedd, mab, a christion, a duwinydd enwog iawn,
I bawb a'i 'nabu, pawb a'i càrai tystiant hwy am dano'n llawn,


"PECHADUR WEDI EI ACHUB"

Nodiadau[golygu]

  1. Cefais yr hanes uchod gan y Parch. James James, o'r Fenni.
  2. Capel y Methodistiaid Calfinaidd yn Llanfair-yn-muallt, yw y cyntaf erioed a adeiladodd y corph hwnw yn Nghymru; am hyny galwyd ef Alpha, yn ol enw y llythyren gyntaf yn yr egwyddor Groeg.
  3. Kirk, yr un peth a'r gair Church, yn Gymraeg Eglwys, Kirk y gelwir Eglwys Sefydledig yr Alban, neu Scotland.
  4. Uwch-gwympiedydd, (Supralapsarian,) un yn dàl fod Duw wedi ethol rhai, a gwrthod y lleill, o ddynolryw, yn ei arfaeth dragywyddol, fel ei greaduriaid, yn hytrach nac fel creaduriaid syrthiedig. Tybia yr Is-gwympiedydd, (Sublapsarian,) fel arall, mai gyda golwg ar ddynion fel creaduriaid syrthiedig, yr etholodd Duw rai.
  5. Mil-flwyddiedydd, (Millenarian,) un yn dal y daw Crist, i deyrnasu ar y ddaear am fil o flynyddoedd.
  6. All, all on earth is Shadow, all beyond
    Is Substance; the reverse is Folly's Creed:
    How solid all, where change shall be no more?
    Dr. Young's Night Thoughts, Night 1. page 5