Neidio i'r cynnwys

Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams/Rhagymadrodd

Oddi ar Wicidestun
Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams

gan Maurice Davies, Llanfair-ym-Muallt

Coffadwriaeth

RHAGYMADRODD.

AT Y DARLLENYDD,

Os bydd i ti gael rhyw ddywenydd neu adeiladaeth wrth ddarllen y dalenau canlynol, gwybydd dy fod yn ddyledus mewn rhan i Morgan Williams, Ysw. Dolaugwynion; câr a chymmynweinydd, y diweddar Barch. John Williams, yr hwn yn ei hynawsedd caredig, a ganiataodd i mi ddyfodfa at bapyrau ac ysgrif-lyfrau Mr. J. Williams.

Os bydd i ti ganfod gwallau, fel yn ddiau y canfyddi lawer un; cyfrif hyny i'm hanfedrusrwydd i. Os bydd i ti dderbyn bendith i dy enaid, dyro y gogoniant i Dduw, oddi wrth yr hwn y mae pob rhoddiad daionus, a phob rhodd berffaith yn disgyn. Gan ddymuno i ti a phob dyn, ras yma, a thragywyddol ogoniant a dedwyddwch wedi myned oddi yma, y gorphwysa

Dy ewyllysiwr da,
A'th was dros Grist,
MAURICE DAVIES.

Llanfair-yn-Muallt,

Rhagfyr 24, 1830.

Nodiadau[golygu]