Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau/Y Golygydd
← Ei nawdd dros bregethwyr ieuaingc, myfyrwyr,&c., | Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau gan Robert Thomas (Ap Vychan) |
Yr Ymneillduwr |
PENNOD XII.
Y GOLYGYDD.
Cymhwysder i'r swydd—Pen and Ink Sketch, gan Ieuan Gwynedd—Y Rhifyn cyntaf o'r Dysgedydd Synwyr cyffredin—Nid corsen yn ysgwyd gan wynt—Annibyniaeth meddwl—Symledd fel ysgrifenyddDadleuon y "System Newydd"—Y pregethwyr teithiol—Penderfyniadau cymanfaoedd, &c—Ysgrif Scorpion—Y dymestl—Y Dysgedydd yn suddo—Camhysbysiad o'r ddyled, &c—Cyflwyniad o'r olygiaeth i fyny, ac apwyntiad eraill i gymeryd ei ofal.
Un-mlynedd-ar-ddeg-ar-hugain o Olygiaeth!—Nid yn aml y disgyn i ran un dyn i eistedd wrth lyw cyhoeddiad am dymor mor faith. Rhaid fod cymhwysder neillduol yn yr "Hen Olygydd" i'r swydd, cyn y gallasai barhau ynddi cyhyd, a rhoddi, ar y cyfan, foddlonrwydd cyffredinol. Dewiswyd Mr. Jones i'r gwaith, y mae yn sicr genym, nid oblegid mai efe oedd y mwyaf cyfleus i'r swyddfa, ond oblegid mai efe, a chymeryd pob peth i ystyriaeth, oedd y cymhwysaf o holl gychwynwyr y Dysgedydd i'w osod ar hyn o orchwyl. Buasai yn llawer haws cael cystal argraffydd a Mr. Richard Jones y tuallan i Ddolgellau, nag a fuasai cael cystal golygydd ar Parch. Cadwaladr Jones. Mewn rhyw bethau, hwyrach, fod pob un o'i gyfoedion, fel y dywed y diweddar Ieuan Gwynedd mewn ysgrif alluog o'i eiddo, yn rhagori ar Mr. Jones; ond tueddir ni i feddwl wedi talu sylw lled helaeth i'w olygiaeth, fod y cydgyfarfyddiad o wahanol ragoriaethau oedd ynddo ef, yn ei wneyd y cymhwysaf o honynt oll i'r swydd o Olygydd; a hýny yn ddiau a wyddai ei frodyr yn dda, ac oblegid hyny i'w law ef yr ymddiriedasant ei ofal yn benaf; ond y mae yn hawdd deall ei fod yntau yn gweithredu mewn ymgynghoriad parhaus a'i frodyr, yn enwedig a'r Hybarch J. Roberts, o Lanbrynmair; llythrenau enw yr hwn a welir amlaf o bawb ar ddalenau y Dysgedydd am y deng mlynedd cyntaf o'i gyhoeddiad. Mae "Ieuan Gwynedd" wedi tynu darluniad naturiol iawn o'r "Hen Olygydd" mewn ysgrif o'i eiddo a ymddangosodd yn y Principality, Tach. 2il, 1847. Dysgybl i Mr. Jones oedd Ieuan, wedi ei fagu dan ei nawdd yn y Brithdir; ac yr oedd gan y dysgybl feddwl mawr o'i athraw; ac felly hefyd yr oedd gan yr athraw o'i ddysgybl. Hwyrach y dylem ddyweyd mai papur Seisnig rhyddfrydig oedd y Principality. Dyma y cynyg cyntaf a wnaed i sefydlu papur Seisnig o'r fath nodwedd yn ein gwlad; ond fel llawer anturiaeth deilwng arall methodd o ddiffyg cefnogaeth. Er mai Mr. David Evans oedd y cyhoeddwr a'r perchenog, etto yr oedd Ieuan Gwynedd mewn cysylltiad uniongyrchol ag ef, a bu am dymhor yn gweithredu fel Golygydd. Ysgrifenodd ynddo amryw erthyglau galluog ar gyhoeddiadau cyfnodol Cymru, ac un o'r gyfres oedd yr ysgrif ar y Dysgedydd ; ac yr ydym yn cofio yn dda fod yr argraff ar ein meddwl pan ddarllenasom hwy ar y pryd, mai yr un ar y Dysgedydd oedd yr oreu o'r cwbl. Mae y "Pen and Ink Sketch" a ddyru o'r Hen Olygydd yn bortread byw. Rhoddwn hi yn yr iaith yr ysgrifenwyd hi. Mae mor eglur fel nas gall yr un Cymro, os yn deall dim Saesneg lai na'i deall.
"The brethren agreed to publish their periodical at Dolgelley, and the Rev. Cadwalader Jones was appointed editor. Mr. Jones was then a minister of about 12 years standing, and had four small churches under his care. He is a native of Llanuwchllyn, and studied for some time at the Independent Academy, then at Wrexham. He was chosen by a majority over the Rev. D. Morgan, now of Llanfyllin, to be the successor of the Rev. Hugh Pugh, of Brithdir, who died in the year 1809. Mr. Jones has continued ever since the pastor of Dolgelley and Islaw'rdref churches, which has prospered under his ministry. He resigned the pastorship of Brithdir and Rhydymain in 1837, but continues still to pay a monthly visit to his old flock, where he is regarded with partriarchal honour. As a preacher he is clear and instructive, and has been a kind and affectionate pastor. He has been lately married to his third wife, and has a family of seven sons. Cad- walader Jones (as he was then called) was not a very likely person to become an editor. We are not aware that he had written anything besides a small pamphlet against the late Rev. John Elias, who had charged the Independents with being Semi—Pelagians. His produetion is a vigorous attack, conducted with much acuteness, and considerable warmth. Mr. Elias never replied, but reminded his hearers at a subsequent association held at Dolgelley, that he could pray for those who had written against him. Mr. Jones possessed not the fiery eloquence of Williams, the sound adamantive scholarship of Michael Jones, the completeness of John Roberts, the public spirit of Jones, Holywell, the learning and elegance of Everett, nor the tremendous, inexhaustible, everlasting perseverance of Morgan. His preaching attribute was strong common sense, and his stock—in—trade was an immense fund of patience of which the Printer's Devil often had occasion to complain bitterly in taking the proofs to his residence. Yet, of the thirteen brethren, probably none would have proved a formidable competitor for the centores' chair, if we except Everett, who was an elegant and prolific writer.
Probably not many of our readers have seen the editor of the Dysgedydd at work, and a peep at the good man in his office may not prove void of interest to them. Perhaps it may induce them to visit Dolgelly and its vicinities,—a land where the beauties of nature have been prodigally lavished, to prepare the very home of repose. Cader Idris, in its cloud capped majesty, the foaming Aran, the placid Wnion, the wilds of Clywedog, the delicious spots of Brithdir, the cradled valley from the Dysgedydd Office to the peak of Aran Fawddwy, the ruins of Cymmer Abbey, the waterfalls of Ganllwyd, and the stately windings of the Mawddach, will afford ample scope for delightful excursions. To find the editor at home and at work, the visitor must leave the town about nine in the morning in the early part of the month, when the materials for the forthcoming Dysgedydd are in course of selection. Cross the Lower Bridge (Bont Fawr) with its seven solid arches, turn to the right and proceed towards Llwyn, where the ancestors of the celebrated Dr. Owen lived. Then slowly ascend along Rhiw Careg Feirig for about a mile, and turn on the left to a narrow lane, and he will presently find himself at Cefnmaelan, a spacious farm house where the archdruid, as he is called sometimes, resides. Probably the first to give him welcome at the door will be a stout, shaggy, goodhumoured shepherd's dog, and that his semi—courteous and knowing bark will be the first voice to greet the ear. As the Meronians are not very strict observers of etiquette, the pilgrim may "walk in" through the wide open doors without further ceremony. He enters into a large kitchen where on his right hand he will find the fire place, the left side of which we warrant will be in the safe possession of Mr. Editor. A small round oak table, about seven feet in circumference, will be on his right, and on which will be found a small white cup with red letters thereon. In that a small penny or two penny phial is placed, which forms the editorial inkstand. Editor's pen is a plain unclarified quill, which has written all the etitorial articles for the last three or perhaps four years. On an this immense pile of the Patriot, Carnarvon Herald, and, we trust, the PRIN- CIPALITY, will attract the eye. His feet being always elevated on the corner of the grate, have become quite fireproof. About his chair three or four large piles of correspondence are placed, and there among domestics and visitors, all the weighty concerns of the Dysgedydd are calmly settled. Paper after paper is taken from the pile, and is patiently eyed from beginning to end. After being weighed if not found wanting, they are put aside for publication; otherwise, they are consigned back to the hopeless heap, as the Editor rather (braidd) thinks that they will not suit his pages.
Mr. Jones is now about 65 years of age. His appearance after all the domestic sorrows through which he has passed, is healthy and happy. The keen grey eye has scarcely lost any of its lustre, nor has the sweet smile disappeared from the countenance. The forehead is high, and partially hidden by the light flowing silvery hair, which falls like beams of light from the honoured head. The voice, though it has no peculiar charm, is engaging. His physiognomy unmistakeably indicates a man much given to deliberation, and who does not lack "information in the brain."
Daeth y rhifyn cyntaf o'r Dysgedydd allan yn mis Tachwedd, 1821. Math o specimen copy ydoedd, yn cynnwys anerchiad byr gan y Golygydd, cofiant y Parch. R. Tibbot, Llanbrynmair, gan J. R.; Anerchiad at ieuengctyd Cymru, gan S. R.; Cellwair a Phechod, gan Iau; Gwahaniaeth y ddwy oruchwyliaeth, heb enw; Gwybodaeth ysbrydion, gan B. Evans; Llawysgrifen y Parch. S. Phillips, gan B. E; y Gymdeithas Genhadol, gan R. E.; Llythyr Radama, brenin Madagascar; Pigion o lythyr Mrs. Mault, heb enw; Gofyniadau buddiol y Parch. Joseph Alleine, gan Egryn; Hanesion gwladwriaethol, heb enw; Barddoniaeth—Anerch y Dysgedydd, gan Meurig Ebrill, Gwilym Cawrdaf, a W. H.; a Pheroriaeth, Tôn, Mahalaleel. Dyna yr oll o gynnwysiad y rhifyn cyntaf. Rhoddasom ef yma yn llawn er mantais y rhai na chawsant, ac na chant o bosibl, byth weled y rhifyn. Darllenasom yn lled fanwl, y rhan fwyaf o'r Dysgedydd am y blynyddoedd y bu dan ofal yr Hen Olygydd; a thalasom sylw neillduol i bob peth a ysgrifenwyd ganddo ef ei hun. Drwg genym nad yw y cloriau o fewn ein cyrhaedd ar y rhai y mae yn gwneyd ei sylwadau at ei Ohebwyr. Mae y rhai hyny yn aml yn llawn cystal a dim arall a ellir gael, er deall teithi neillduol cymeriad Golygydd. Nid i ni yma y perthyn manylu ar gymhwysderau personol Mr. Jones, yn ddim pellach nag y maent yn amlygu eu hunain yn y Golygydd; ac y maent yn dyfod i'r golwg yn aml iawn.
Yr oedd yn meddu ar synwyr cyffredin cryf. Nid ydym yn tybied y gellir cael dim yn ei ysgrifeniadau sydd mewn un modd yn awgrymu diffyg callineb. Yr oedd bod yn ddistaw pan y dylasai lefaru yn llawer mwy o brofedigaeth iddo, na llefaru pan y dylasai fod yn ddistaw. Ceid ei holl sylwadau pan y gwnai hwy yn "eiriau doethineb;" a phan y traethai ef ei farn, nid oedd ond oferineb ymgyndynu, am y gwnai hyny gyda'r fath briodoldeb, fel y barnai agos pawb, pa un bynag a gytunent a'i olygiadau ef ai peidio, mai cystal oedd ei gadael yn y fan hono.
Gwyddai pawb a'i hadwaenai y meddai ystôr ddihysbydd yn mron o amynedd. Yr oedd ei "arafwch yn hysbys i bob dyn." Medrai deimlo, a digio, a dyweyd geiriau miniog a chyrhaeddgar os mynai; ac ar yr un pryd nid yn aml y bu yr un dyn yn ei swydd ef, a gadwodd lywodraeth mor berffaith ar ei holl deimladau; ac er hyny nid un llwfr, a meddal, a hawdd ei arwain ydoedd ychwaith; ond yr oedd yn annibynol iawn ei feddwl, ac yn bur benderfynol ei ysbryd. Nid hawdd oedd ei droi yn ol o'r cyfeiriad a gymerai. Yn araf a phwyllog iawn y gwnai ei feddwl i fyny, ond wedi ei wneyd, nid “ corsen yn ysgwyd gan wynt" ydoedd.
Yr oedd yn ysgrifenydd eglur a dealladwy iawn. Nid oedd dim yn aruchel a barddonol yn ei arddull, a buasai yn fwy llwyddianus fel golygydd pe gallasai daflu mwy o dân a bywyd i bawb o'i gylch. Yn hyny hwyrach na bu yr un golygydd yn Nghymru erioed mor alluog a "Gomer." Gallai ef ag ysbrydiaeth ei ysgrifell daflu tân i'w ddarllenwyr, a pheri iddynt deimlo yn angerddol drosto ef, a thros y Seren a olygid ganddo ef. Cadfridog ydoedd yn medru casglu ei luoedd o'i gylch a'u gwefreiddio a'i ysbryd nes peri iddynt ddibrisio pob peth er ei fwyn. Nid oedd hyny yn nodwedd arbenig yn Mr. Jones, ond yr oedd yntau yn llwyddianus iawn i gadw pawb yn gyfeillion iddo. Mae yn debyg na wnaeth neb erioed lai o elynion iddo ei hun, ac ystyried ei fod mewn sefyllfa yr oedd dan yr angenrheidrwydd beunydd o anfoddloni rhyw rai. Dywedai beth bynag a fyddai ganddo i'w ddyweyd yn eglur a syml, heb amcanu ond ychydig at dlysni a phrydferthwch. A phe gofynid i ni grynhoi elfenau ei gymeriad fel golygydd, fel y gellir eu casglu oddiar dudalenau y Dysgedydd yn ystod tymor maith ei olygiaeth dywedem, mai synwyr cyffredin cryfarafwch, pwyll, ac ysbryd barn-anmhleidgarwch ac annibyniaeth meddwl-ac eglurdeb a symledd fel ysgrifenydd oeddynt ei brif nodweddion.
Mae "Hanesion gwladwriaethol "y Dysgedydd yn eglurhad nodedig ar ei symledd fel ysgrifenydd. Nid oes dim yn swynol a hudoliaethus ynddynt mewn un modd, ac etto y mae yn cofnodi helyntion a digwyddiadau yr amserau hyny fel un yn eu deall yn drwyadl, ac oddiar eu deall yn ceisio eu hysgrifenu fel y gallai eraill hefyd eu deall. Yn aml iawn ysgrifenir hanesion gwladol mewn newyddiaduron a misolion yn y fath fodd, fel y mae yn hawdd gweled nad yw yr ysgrifenwyr eu hunain wedi deall yr amgylchiadau yn drwyadl. Nyddir erthyglau hirion i fyny gyda rhes o eiriau amwys ac anmhenodol; ac er y gall y dwl a'r anwybodus dybied eu bod yn ysgrifau galluog a doniol, gwel y craff a'r sylwgar nad ydynt yn ddim ond "chwyddedig eiriau gorwagedd," ac nad oedd yr ysgrifenydd ei hun yn deall yr amgylchiadau, ond yn rhanol ac anmherffaith iawn; ac o angenrheidrwydd gan hyny, yn anmherffaith iawn y gallasai eu cyflwyno i'w ddarllenwyr, ac er celu ei anwybodaeth ymwisgai mewn niwl a thywyllwch. Ond nid un felly oedd Mr. Jones, "gwell oedd ganddo ef lefaru pum' gair trwy ei ddeall na mil o eiriau" heb feddwl ac ystyr iddynt. Gofynai dysgybl i'w athraw unwaith pa fodd y gallasai lefaru yn effeithiol? "Mae tri pheth yn eisiau," ebe yr athraw, σε yn gyntaf, rhaid fod genych ryw beth pendant i'w ddweyd. Yn ail, rhaid i chwi ddweyd y peth pendant hwnw yn y geiriau symlaf a ellwch gael. Ac yn drydydd, rhaid i chwi ddweyd y peth pendant hwnw mewn geiriau syml fel un yn ei gredu eich hun." Eithaf da. Mae yr hyn sydd wir am siarad yn effeithiol yr un mor wir am ysgrifenu yn effeithiol. Gwyddai Golygydd y Dysgedydd yn dda yr amgylchiadau a gofnodai. Nid o'r papurau newyddion a ddarllenai y cyfieithai i'w bapur yn gaeth; ond cymerai y cwbl o'r newyddiaduron i'w feddwl ei hun yn gyntaf, ac wedi eu troi yno yn hir, trosglwyddai hwy o'i feddwl i'w eiriau ei hun ar bapur i fyned i'r Dysgedydd, a gallasai eu dweyd yn hawdd wrth gyfaill ar y ffordd i'r dref bron yn yr un geiriau ag yr oedd wedi eu hysgrifenu. Dywedir fod rhywun yn gofyn i Dr. Lewis unwaith beth oedd ei feddwl ar ryw adnod. "Beth ydwi'n ddweyd yn fy esboniad ?" oedd yr ateb. Os gwir hyny, yn y llyfr yr oedd esboniad y Doctor, ac nid yn ei feddwl; ond y mae dull syml Golygydd y Dysgedydd o ysgrifenu y newyddion cyffredinol yn dangos eu bod yn ei feddwl cyn eu trosglwyddo i'r papur, ac wedi dyfod yn rhan mor naturiol o'i feddwl fel y gallem yn naturiol gasglu nad oeddynt wedi eu colli oddiyno er eu trosglwyddo i'r llyfr. Buasai yn dda genym ddwyn engrheifftiau, ond y mae y terfynau a ganiatawyd i ni yn ein rhwymo i ymatal.
Bu y Dysgedydd yn faes dadleuaeth frwd am flynyddau. Nid oes odid athrawiaeth dduwinyddol na chwestiwn cymdeithasol na bu y Dysgedydd yn ymdrin âg ef, a dadleuon poethion ar lawer o honynt; ac amlygwyd yn nglyn â'r dadleuon hyny lawn cymaint o gymhwysderau y Golygydd, ag mewn dim arall. Y "system newydd" fel ei gelwid oedd yn peri cyffro mawr yn mlynyddoedd cyntaf ei olygiaeth. Un o'r rhai blaenaf yn mysg dadleuwyr y dyddiau hyny oedd yr Hybarch J. Roberts, Llanbrynmair, a hen ddadleuwr teg a boneddigaidd iawn ydoedd. Tŷn a phenderfynol dros ei bwnge mae yn wir, ond yr oedd yn hawdd gweled mai ymofynydd gonest am y gwirionedd ydoedd. Ei ddadl ef a D. S. Davies, Llundain, ac eraill, yn erbyn Sion y Wesley yw un o'r rhai cyntaf yn y Dysgedydd. Rhoddodd y Golygydd bob tegweh iddynt. Nid oedd byth ddim brys arno i gau y dadleuon i fyny, a gallesid bod yn bur sicr os soniai y Golygydd am dynu pen ar unrhyw ddadl fod corff y darllenwyr wedi llwyr flino arni. Yn rhifyn Mai, 1825, y mae yn cloi y ddadl hono i fyny, ac y mae yn gwneyd hyny gyda'r pwyll a'r craffder oedd mor briodol iddo. Dywed yn bur ddigynwrf "Nid ydym yn deall fod y ddadl wedi parhau cyhyd oblegid cyfatebolrwydd ymddangosiadol yn synwyr, dysg, a rhesymiadau y dadleuwyr, ond oblegid gorhoffedd Sion yn, a'i sêl dros y gwaith o wrthwynebu ei wrthwynebwyr goreu ag y medrai, pan na fyddai ganddo ond ychydig iawn o feddyliau newyddion." Mor ddidwrw onide, y mae yn ei droi o'r neilldu. Yna yn myned yn mlaen i sylwi ar bwyntiau y ddadl. Bu yr un ddadl ger bron mewn gwahanol ffurfiau lawer gwaith ar ol hyny; ac ymddengys i ni bob amser fod terfyniad "Dadl Etholedigaeth" yn Nysgedydd Ebrill, 1847, yn un o'r ysgrifau galluocaf a gyhoeddwyd erioed ar y pwngc yn ein hiaith.
Dyna oedd ein barn am dani y pryd hwnw, darllenasom hi fwy nag unwaith wedi hyny, ac nid ydym wedi gweled achos. i newid na chymedroli ein barn. Gwyddom yn dda na bu yn foddion i argyhoeddi y rhai a wrthwynebant y golygiadau a gofleidiai efe. Nid ydym yn meddwl fod neb yn disgwyl y gwnai hyny, ond gwyddom iddi gadarnhau llawer o'r rhai oeddynt amheus; a pheri i'r rhai a gredent yr athrawiaeth o'r blaen deimlo yn gryfach a gwrolach ynddi. Anhawdd genym feddwl fod unrhyw ddyn teg a diduedd (os yw yn bosibl cael y fath) beth bynag fyddo ei farn bersonol ar yr athrawiaeth, na chydnebydd y craffder, y medrusrwydd, a'r annibyniaeth meddwl gyda pha un y mae yr "Hen Olygydd" fel barnwr yn symio y cwbl i fyny.
Profodd Mr. Jones fwy nag unwaith yn ystod ei Olygiaeth ei fod yn annibynol iawn ei feddwl; ac er mor awyddus ydoedd am foddloni ei frodyr, ni phetrusai os barnai fod doethineb yn galw arno, i wneyd pethau y gwyddai y byddai iddo drwy hyny dynu anfoddlonrwydd cyfundebau cyfain. Y rheol yn nglyn a chyhoeddiadau enwadol ydyw cyhoeddi pa bethau bynag y penderfynir arnynt mewn cyfarfodydd sirol neu gymanfaoedd, pa un bynag a fydd y golygydd yn cydweled â hwy ai peidio, a gadael i'r rhai sydd yn eu gwneyd fod yn gyfrifol am danynt; ac ymddengys i ni ei bod, ar y cyfan, yn rheol ddoeth a diogel. Ond nid ydym yn amheu nad all fod eithriadau. Mae yn bosibl i gynnadledd neu gymanfa, dan gynhyrfiad ar y pryd, neu dan ddylanwad dau neu dri o weinidogion blaenllaw a phoblogaidd, basio penderfyniad y buasai yn dda gan naw o bob deg o'r rhai oedd yn bresenol, yn eu horiau mwyaf pwyllog ac ystyriol, pe na buasai erioed wedi pasio; a gall golygydd sydd yn hollol y tuallan i'r dylanwadau hyny, wrth eistedd yn bwyllog wrth ei fwrdd, farnu y byddai yn llawer gwell peidio ei gyhoeddi. Ond pwy a faidd gymeryd y cyfrifoldeb o dynu gwg ac anfoddlonrwydd cynifer o ddynion dylanwadol, y rhai os na wneir yn ol eu gair hwy, a fygythient dynu eu nawdd oddiwrth y cyhoeddiad, a chychwyn un arall dan olygiaeth un o honynt eu hunain. Bu yr Hen Olygydd yn y brofedigaeth yna lawer gwaith. Nis gwyddom pa sawl gwaith y cyhoeddodd benderfyniadau am eu bod yn dyfod oddiwrth gynnadleddau o weinidogion, y rhai, yn ol ei farn bwyllog ef ei hun, y buasai yn well peidio eu cyhoeddi; ond gwyddom iddo mewn dwy engrhaifft yn neillduol ddangos digon o wroldeb ac annibyniaeth, i adael allan benderfyniadau yr oedd siroedd cyfain yn eu cynnadleddau wedi cytuno arnynt. Ac nid siroedd bychain a chyffredin oeddynt ychwaith, ond siroedd lle yr oedd rhai o weinidogion mwyaf poblogaidd yr enwad ar y pryd yn gweinidogaethu, ac yn cymeryd rhan yn y penderfyniadau. Mae yn gadael y cyntaf o'r neilldu yn bur esmwyth, gydag olnodiad-"Digon tebyg y beuir ni am adael allan y pumed penderfyniad, gan y rhai a gydunent ynddo; ond hyderwn yr ymdawelant hyd nes y caffom hysbysu iddynt yn gyfrinachol ein rheswm dros hyny." Yn yr amgylchiad arall, torodd y cwbl yn bur swta gyda sylw bỳr ar y clawr; a phan yr ysgrifenwyd yn bersonol ato am eglurhad, ei ateb oedd "Mai dau frawd pur uchelfrydig o'r dechreuad, oedd y rhai yr oedd y sir yn ymranu rhyngddynt; ac nad oedd o werth i frodyr heddychol a ffyddlon fyned yn blaid i foddio balchder y naill na'r llall." Yr ydym yn crybwyll y pethau hyn, nid i roddi ein barn a'r hyn o bryd, pa un a wnaeth Mr. Jones yn iawn ai peidio yn yr amgylchiadau yna; ond, pa un bynag, yr ydym yn edmygu y gwroldeb a'r annibyniaeth a amlygai. Ac y mae yn ddigon tebyg erbyn hyn fod y rhan fwyaf o'r rhai oedd a llaw yn y cynnadleddau hyny, yn barnu y buasai yn llawn cystal heb basio y penderfyniadau y barnodd yr Hen Olygydd yn ddoethach eu gadael allan. Yr ydym yn bur sicr mai dyna deimlad y rhan fwyaf o lawer o'r rhai oedd a fynent a'r amgylchiad diweddaf a nodwyd.
Dangosodd Mr. Jones raddau helaeth hefyd o ysbryd annibynol yn nglyn â'r dadleuon a fu o bryd i bryd yn y Dysgedydd yn nghylch pregethwyr cynnorthwyol. Bu amledd teithwyr yn faich mawr ar yr eglwysi flynyddau yn ol, a gwnaed llawer cynyg i reoli y teithio diddiwedd. Pasiwyd penderfyniadau yn lled gyffredinol, nad oedd yr un pregethwr cynnorthwyol i fyned i daith heb gymeradwyaeth cyfarfod chwarterol neu gymanfa. Ni bu Mr. Jones erioed yn ffafriol i'r rheol hono, ac amlygodd hyny fwy nag unwaith yn y Dysgedydd. "Y mae hyn " meddai "yn ymddangos i mi bob amser yn gorwedd yn anesmwyth ar ein hegwyddorion fel Annibynwyr, ac ar yr ysgrythyrau." Ystyriai ef fod cymeradwyaeth y gweinidog a'r eglwys lle y byddo y pregethwr cynnorthwyol yn aelod yn uwch awdurdod na dim a allasai unrhyw gyfarfod sirol ei roddi iddo. Mae ganddo un syniad yn nglyn â chyfarfodydd sirol yr esgusodir ni am ei ddwyn i mewn yma; yr ydym yn gwneyd hyny, am fod yn dda genym weled hen wron profedig yn datgan ei farn mor groyw ar fater yr ydym wedi gwneyd ein meddwl i fyny yn bur benderfynol arno er's blynyddoedd. Dyma ei eiriau, “Ni ddeallais etto erioed mai fel cynrychiolwyr yr eglwysi, a thrwy awdurdod yr eglwysi y mae gweinidogion yr Annibynwyr i ymdrin â'n hachosion; a bod ganddynt hawl i lunio i sefydlu deddfau fel y barnont hwy eu hunain yn oreu." Nis gallasom ninau erioed ddeall yr egwyddor o gynrychiolaeth yn nglyn âg Annibyniaeth; ac nid ydym yn credu fod gweinidogion na diaconiaid yn cyfarfod mewn cynnadleddau fel cynrychiolwyr yr eglwysi, nac yn awdurdod yr eglwysi, ond yn hollol fel personau unigol, a pha bethau bynag y penderfynant arnynt i gael eu derbyn neu eu gwrthod gan yr eglwysi fel y barnont yn oreu. Mae penderfyniadau cynhadleddau yn ddarostyngedig i farn yr eglwysi, ac nid yr eglwysi yn ddarostyngedig i benderfyniadau cynnadleddau. Dadleuodd yr "Hen Olygydd” hyny yn gryf iawn, a hyny ar adeg yr oedd rhai gweinidogion a chyfundebau yn hawlio mwy o awdurdod i gynnadleddau nag a all Annibyniaeth ganiatau.
Unwaith o gwbl y gwelsom yr "Hen Olygydd" mewnpen bleth—wedi gollwng y llyw o'i law, neu o leiaf yn ymafael ynddo yn ofnus iawn. Bu ddrwg genym ganwaith drosto, a gwnaethom ein goreu ar y pryd i gynal ei freichiau. Cododd ysgrif Scorpion, yn Nysgedydd Tach. 1848, ystorm na chodwyd ei chyffelyb y mae yn sicr genym gan un ysgrif yn yr oes yma. Nid dyma y lle i roddi barn ar yr ysgrif; ond rhaid i bawb addef fod athrylith ynddi; a'i bod yn ddarluniad rhy gywir o lawer, sydd eglur oddiwrth yr effeithiau a gynyrchodd. Nis gallasai dim ond ei gwirionedd beri i gynifer deimlo oddiwrthi. Cynhyrfodd diaconiaid trahaus yn ei herbyn, a chefnogid hwy gan weinidogion ofnus, y rhai yn ddirgel a ddywedent bethau tra gwahanol—pasiwyd penderfyniadau i beidio derbyn y Dysgedydd i dŷ, ac i anfon at y Golygydd i'w gondemnio am adael iddi ymddangos—gwelid y rhifynau dyfodol o'r Dysgedydd yn bentyrau—ac ofer oedd i'r dosbarthwyr ei gynyg i'r derbynwyr digofus. Brawychodd yr Hen Olygydd er ei holl bwyll a'i hunanfeddiant, a bu am yspaid fel un heb wybod pa beth i'w wneyd. Dylifai llythyrau ato gyda phob Post yn ei fflangellu yn arw; a dylifant hefyd i'r swyddfa, yn gwahardd anfon ychwaneg o'r Dysgedydd i'r lleoedd lle yr ydoedd oherwydd yr ysgrif dan felldith ysgymundod. Ceisiodd lonyddu y cythrwfl gyda nodiad golygyddol yn y rhifyn dyfodol; ac ymddengys y nodiad hwnw i ni yn berffaith resymol. Dyma fe
'Drwg genym fod amryw o'n cyfeillion wedi cynhyrfu cymaint ag a wnaethant, wrth weled a darllen ysgrif Scorpion yn ein rhifyn diweddaf. Meddianwch eich amynedd am dipyn bach, nes y gweloch y diwedd. Os gwir y mae Scorpion yn ei ddyweyd, nis gallwn lai na disgwyl yr ergydion trymaf i ddisgyn arnom; ond os anwir nid rhaid i ni ofni na dychrynu rhagddo ef—hawsaf o lawer ydyw dangos iddo ef a phawb eraill eu camgymeriad. Ni raid i'r dieuog ofni sefyll ei brawf. I'r euog y perthyn ofni; y gwir sydd yn lladd. Dywedwyd llawer o bethau am Annibynwyr ac Annibyniaeth yn Haul Llanymddyfri; a chwynir ac achwynir yn awr gan ein gohebydd doniol Scorpion; a chan ei fod yn siarad mor gyffredinol, chwenychem i'r mater gael ei chwilio i'r eithaf, fel y byddo i'r ddedfryd o ddieuogiaeth gael ei chyhoeddi uwch ben yr eglwysi Annibynol, ac iddynt ddyfod allan fel aur wedi ei buro trwy dân.
Da iawn—dyna ddigon byth o ymddiheurad, a drwg iawn genym i'r Hen Olygydd parchus—ar ol gwylio cyhoeddiad yr enwad yn ofalus, fel tad yn gwylio ei blentyn, am yn agos i ddeng mlynedd ar hugain—ymostwng i wneyd rhagor. Beth bynag am gywirdeb y darluniad a roddir gan Scorpion o'i gymhwyso yn gyffredinol, yr ydym yn sicr o un peth, mai y dynion a ddarlunid ganddo, a gododd y dymhestl yn erbyn yr ysgrif, a'r Dysgedydd, a'i Olygydd. Ni welsom yn un diacon da wedi teimlo dim oddiwrthi, oddigerth ambell un oedd dan ddylanwad y dosparth a ddisgrifir mor gywir yn yr erthygl.
Nid yw yr ymddiheurad yn rhifyn Rhagfyr wedi ateb y dyben i dawelu y cythrwfl; a dyma un gostyngeiddiach yn rhifyn Ionawr:—"Dwys ofidiwn oblegid i ysgrif Scorpion friwio teimladau diaconiaid ffyddlawn a da. Pe gwybuasem y parasai haner y blinder ysbryd a wnaeth iddynt hwy, ni chawsai ymddangos. Yr ydym yn hollol annghymeradwyo cyffredinedd a style ysgrif Scorpion. Ymdrechwn na chaffo ysgrif o stamp hon ymddangos mwyach. Ysgrifenodd lluaws o frodyr atom yn ardystio yn ei herbyn, a cheryddwyd ni yn llym gan rai o'i phlegid; ond dangosid ysbryd addfwyn, cariadlawn, a theimladwy, yn y rhan fwyaf o honynt. Yr ydym yn ddiolchgar iawn iddynt am eu cydymdeimlad a ni o barth yr 'amryfusedd' hwn. Ni raid i neb betruso yn nghylch ein hymlyniad wrth egwyddorion Annibyniaeth na'n parch i ddiaconiaid. Yr ydym yn pleidio yr egwyddorion hyn er's tua haner canrif, a gallwn dystio yn awr ar fin y bedd ein bod yn eu gwerthfawrogi fwy fwy beunydd—'Cured y cyfiawn fi yn garedig, a cherydded fi; na thored eu holew penaf hwynt fy mhen; canys fy ngweddi fydd etto yn eu drygau hwynt." Yn wir y mae yn rhy ddrwg fod hen wyliedydd ffyddlon yn gorfod ysgrifenu fel yna, am ddim ond gollwng ysgrif alluog i'r Dysgedydd nad oedd neb yn gyfrifol am ei syniadau ond yr awdwr ei hun. Daeth amryw i'r maes i wrthwynebu Scorpion; ac yn rhifyn Mawrth y mae ysgrif ddoniol a thalentog, ond pur ysgythrog, gan Ieuan Gwynedd yn amddiffyn Scorpion a'r Golygydd; ac yn rhifyn Mehefin y mae y Golygydd ei hun yn symio y cwbl i fyny, ac yn cloi y ddadl. Yn ei adolygiad y mae yr Hen Olygydd wedi adfeddianu ei bwyll a'i hunanfeddiant arferol, ac yn terfynu y cwbl gyd a'r eglurdeb a'r anmhleidgarwch hwnw oedd mor briodol iddo. Dichon y tybia rhai na ddylesid cyfeirio at bethau fel hyn; nid oes achos i ni ddyweyd ein bod yn barnu yn wahanol, oblegid y mae y ffaith ein bod yn cyfeirio atynt yn profi hyny. Pethau cyhoeddus ydynt, a byddant yn amlwg yn y Dysgedydd i'r oesau a ddel. Maent yn mysg prif ddigwyddiadau bywyd golygyddol ein gwrthddrych; ac y mae y dull yr â dynion drwy amgylchiadau mwyaf tymhestlog eu hoes, yr eglurhad goreu ar deithi meddyliol a moesol eu natur. Ysgydwodd yr amgylchiadau yna gryn lawer ar yr Hen Olygydd, ac addfedodd ef i ymddeol o gyfrifoldeb y swydd. Yr oedd yr argraff ar ei feddwl ef nad ymddygwyd yn gwbl foneddigaidd ac anrhydeddus gan bawb tuag ato—fod cefnogaeth rhai o'n llenorion galluocaf wedi ei atal oddiwrth y Dysgedydd yn mlynyddoedd olaf ei olygiaeth ef er mwyn prysuro ei gael o'i law, ac na chafodd y gyfran oedd yn ddyledus iddo am ei lafur y blynyddoedd diweddaf, na chyfrif o'r ol—ddyledion a ddaethant i law. Cyhoeddodd ef ei adroddiad ei hun o'r amgylchiadau yn yr Herald Cymraeg am Mehefin 22, 1861. Ni byddai ond ofer i ni drosglwyddo yr ysgrif hono yn llawn yma. Yr unig beth yr ymddangosai yr Hen Olygydd yn anfoddlawn iawn iddo, ydoedd y gair a ledaenwyd gan ryw rai fod ei olynwyr ef yn ngolygiaeth y Dysgedydd wedi ei gymeryd dan 200p. o ddyled, a bod rhyw frawd wedi dyweyd hyny yn Nghaernarfon rywbryd wrth fyned oddiamgylch yn achos y Dysgedydd. Ar y mater hwnw dywed, "Pa fodd bynag y bu i'r brawd hwnw gyhoeddi y fath beth o'r pulpudau, y mae yn hollol anwireddus. Mae yn wir fod y Dysgedydd tra y parhaodd yr hen olygiaeth am 31 o flynyddoedd yn eiddo yr enwad Annibynol yn gyflawn, a than lywodraeth dirprwy yr enwad yn hollol; ond ar derfyniad yr olygiaeth aeth trwy gydsyniad y dirprwy yn feddiant i'r Golygwyr presenol a'r argraffydd. Hollol annghywir yw dyweyd fod 200p. o ddyled arno ar y pryd. Tystiolaeth y gwyr a edrychasant dros ei gyfrifon wrth gyfeisteddfod llawn, Awst 25, 1852, ydoedd fod tua 50p, o ddyled arno, hyny yw, fod yr arian a ddaeth i law yn fyr i ateb yr hyn a aethai allan yn ei achos o gymaint a 50p. neu yn agos i hyny. Ond sylwer yma fod digon o ol—ddyledion ar lyfr yr argraffydd, a mwy na digon i ateb i'r gofynion dyledus iddo ef a'r Hen Olygydd (hwy yn unig oedd y gofynwyr). Casglodd yr argraffydd gymaint ag a fedrodd o'r ol—ddyledion hyn, ac un gwych dros ben am hyny ydyw 'ef; nid wyf yn gwybod y swm a gafodd— dywed ef mai ychydig oeddynt ond ni ddywedodd pa faint ydyw yr ychydig hyny wrth ei gydofynwr, na neb arall yr wyf yn tybied. Pa fodd bynag am hyn, ni ddaeth yr un hatling i logell yr Hen Olygydd!—aethant oll i logell yr argraffydd! Pe buasai pawb yn talu buasai wedi cael digon i ateb ei ofynion ei hun a'r Hen Olygydd hefyd; oblegid dywedodd wrthyf, "Pe buasai pawb yn talu, ni buasai dim dyled ar y Dysgedydd." O ganlyniad gellid meddwl fod gan yr Hen Olygydd fwy o achos i gwyno na neb arall.”
Ni bu yr olygiaeth fel y gwelir gan hyny ond o ychydig elw arianol iddo; ond yr oedd yr hyfrydwch a deimlai yn ei waith yn llawn ddigon o dâl ganddo ef am bob trafferth. Ond yn sicr dylasai un a wnaeth y fath wasanaeth gwerthfawr i lenyddiaeth gyfnodol ei enwad gael cydnabyddiaeth llawer helaethach nag a dderbyniodd; a digon tebyg genym nad oes neb wedi gwneyd cymaint o waith, a bod o gymaint gwasanaeth i'w cenedl a'u gwlad a'r gweinidogion hyny sydd wedi rhoddi yr oll o'r amser a allent hebgor oddiwrth ddyledswyddau eu swydd, at addysgu a chyfranu gwybodaeth i'w cydgenedl drwy y wasg. Dydd y farn yn unig a ddengys swm mawr eu gwasanaeth. Barnodd Mr. Jones fod ei oedran yn galw arno i ymneillduo o gyfrifoldeb yr olygiaeth; ac y gallasai rhyw rai ieuengach wneyd y gwaith yn fwy effeithiol i gyfarfod ag ysbryd cynyddol yr oes; ac oblegid hyny cyflwynodd yr oruchwyliaeth i fynu mewn cyfarfod rheolaidd a gynhaliwyd yn Nolgellau Awst 25, 1852, ac ymddiriedwyd ei ofal am y dyfodol i nifer o frodyr talentog a phoblogaidd; ac yn y rhagymadrodd ar ddiwedd y flwyddyn hono, yn ei anerchiad ymadawol, gwelir ei fod yn gollwng yr awenau o'i law yn siriol a llawen gyda'r dymuniadau goreu i'w olynwyr yn yr olygiaeth.