Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau/Ei nawdd dros bregethwyr ieuaingc, myfyrwyr,&c.,

Oddi ar Wicidestun
Ei Neillduolion fel Gweinidog a Bugail Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau

gan Robert Thomas (Ap Vychan)

Y Golygydd


PENNOD XI.

CYFAILL GWEINIDOGION IEUAINGC, MYFYRWYR, &c.

Codi pregethwyr—Craffder i weled y cymhwysderau angenrheidiol—Engraifft—Dilyn esampl y Gwaredwr—Letty-garwch—Dyddordeb yn eu llwyddiant—Athrofa y Bala a'r hen "Ddysgedydd"—Yn stoic mewn pwyll—Llythyr y Parch. O. Evans.

Golygaf fod y drefn sydd genym yn Nghymru o godi dynion ieuaingc i bregethu'r efengyl yn tra rhagori ar y dull sydd yn ffynu yn Lloegr. Yn yr eglwysi Seisnig y mae ymgeiswyr am y weinidogaeth yn gyffredin yn ymwthio i'r weinidogaeth gyda chydsyniad ychydig gyfeillion crefyddol. Ond yn Nghymru y mae ymgeiswyr am y weinidogaeth yn gyffredin yn cael eu hanog i bregethu, a chyn yr ymgyflwynant i'r gwaith, y maent yn cael pleidlais o anogaeth a chydsyniad yr eglwys y perthynant iddi. Y mae'n gofyn yspryd cenadol a chraffder i godi dynion addas i bregethu. Lle y mae diffyg hyn, y mae dynion ieuaingc gobeithiol heb eu gweled, ac wedi treulio eu hoes mewn dinodedd, pryd y gallasent fod yn lampau yn llosgi. Er mai arafaidd anarferol oedd Mr. Cadwaladr Jones yn ei holl ysgogiadau, yr oedd yn sylwedydd manol ar bobl ieuaingc ei eglwysi, ac yn dwyn sêl mawr yn ei ffordd bwyllus, ond penderfynol ei hun, dros godi dynion cymhwys i'r weinidogaeth. Nid hir y byddai Mr. Jones yn llygadu dyn ieuange o dalent, ac yn Nghymru, y weinidogaeth yw bron unig faes doniau y genedl Gymreig, ar ol cael ei goresgyn gan y Saeson. Am bregethwyr, nid ydym yn meddwl fod un wlad yn rhagori ar Gymru. Mae talent y genedl i'w gael yn benaf yn nghylch y weinidogaeth. Bu Mr. Jones yn offeryn i dueddu rhai o'n gweinidogion goreu a mwyaf grymus at y gwaith o bregethu'r efengyl. Mae y restr ganlynol yn dangos hyny. O dan ei weinidogaeth ef, a thrwy ei anogaeth y cododd y personau canlynol i bregethu:—y Parchedigion Owen Owens, Rhesycae; Evan Evans, Llangollen; Edward Roberts, Cwmafon; Evan Jones, Tredegar, alias Ieuan Gwynedd; Edward Roberts, Coedpoeth; Robert Edwards, Llanymddyfri; Rowland Hughes, Dolgellau; Griffith Price, Croesgarnedd; Richard Owen, Rhydymain, &c.

Yr oedd gan Mr. Jones ofal tadol am y dynion ieuaingc, yr oedd efe a'i eglwysi wedi eu codi i'r weinidogaeth. Siaradai lawer am danynt, ac ymddedwyddai yn eu llwyddiant. Ar ol iddynt sefydlu yn fugeiliaid ar eglwysi, holai lawer ar weinidogion cymydogaethol pan y deuent ar eu taith drwy Ddolgellau yn nghylch eu llwyddiant, ac ymffrostiai yn eu rhagoriaethau. Nid holi y byddai fel ambell i chwedleuwr maleisus er mwyn gwneyd iddynt "ddrygau lawer," yn ol esiampl Alexander y gôf copr, ond fel tad yn cydlawenhau a dynion ag oedd yn cydlafurio ag ef yn yr efengyl. Mewn codi dysgyblion i bregethu'r efengyl ar ei ol dilynai Mr. Jones esiampl ein Gwaredwr. Nid gweinidog llwyddianus a fu Crist ei hunan, ond cododd ddeuddeg o ddynion hyfforddedig yn y gwirionedd i bregethu'r efengyl ar ol ei adgyfodiad. Nid ydym yn cael yn hanes yr eglwys un cyfnod yn cael ei fritho â'r fath nifer o sêr o'r maintioli mwyaf. Ryw un Abraham, ac un Dafydd, ac un Elias, ac un Eliseus a gawn ar unwaith. Ond cododd Crist ddeuddeg tywysog crefyddol i eistedd ar ddeuddeg gorsedd, i farnu deuddeg llwyth Israel, a gwnaeth y deuddeg dyn hyn eu hol ar y byd, nes teimlodd yr holl ddaear oddiwrth eu dylanwad. Yn ol yr un esiampl cododd Mr. Jonos ddysgyblion sydd wedi cario y genadwri a draethodd i gylch llawer eangach na chylch ei weinidogaeth uniongyrchol ef ei hun, a thrwyddynt, y mae efe wedi marw, yn llefaru etto.

Yr oedd y croesaw a roddai Mr. Jones i efrydwyr a phregethwyr ieuaingc ar eu teithiau, yn galonog. Nid wyf yn cofio un pregethwr yn cwyno erioed fod Mr. Jones wedi bod yn sarug at neb ar ei daith, ond canmolai pawb ei sirioldeb. Yr oedd ei dŷ bob amser yn agored i dderbyn pregethwyr, a gwariodd lawer iawn o'i olud mewn lletygarwch. Yr oedd, nid yn unig yn garedig drwy ras, ond yr oedd wedi ei wneyd yn greadigol felly. Yr oedd yn llawn hynawsedd a natur dda, fel y gwasanaethodd y wlad am ychydig, ac y cyfranodd yn ehelaeth mewn lletygarwch at gynal achos crefydd, nid yn unig yn ol ei allu, ond uwchlaw ei allu. Er hyny bu rhagluniaeth Duw yn dirion iawn o hono. Ar yr un pryd, yr oedd ganddo ei farn, a medrai feirniadu dyn ieuangc yn ddeheuig os gwelai angen am hyny. Ar rai adegau, pan y byddai ei argyhoeddiadau yn gryfion, medrai geryddu yn bur llawdrwm, ond yn bwyllus a boneddigaidd. Ni clywais erioed ei fod wedi cynhyrfu, fel ag i golli dim llywodraeth ar ei dymherau. Yr oedd ei bwyll yn ddiarebol. Pan yr oedd y diweddar Christmas Evans unwaith yn pregethu yn nghymydogaethau Dolgellau, ar ddydd y farn ddiweddaf, ar ol dyweyd am y ddaear yn crynu, a'r mynyddoedd yn neidio a phethau o'r fath, fel climax ei reítheg bloeddiai "y byddai Cadwaladr Jones wedi ei gynhyrfu y pryd hwnw!" Cynghorwr heb ei ail oedd Mr. Jones i ddyn ieuange. Ni welais i erioed ddyn o wneuthuriad cyffelyb. Yr oedd yn ddyn o deimladau tyner iawn, caredig tu hwnt, ac ar yr un pryd yr oedd y mwyaf digynhwrf o feibion dynion; yn Stoic perffaith mewn pwyll, ac yn un o'r dynion mwyaf hynaws.

Yr oedd holl elw yr hen Ddysgedydd yn myned i ro'i ysgol i ddynion ieuainge a godid i'r weinidogaeth. Golygodd yr Hen Olygydd y misolyn hwn am flynyddau lawer am 10p. yn y flwyddyn, a'r holl gynyrch yn cael ei roddi i bregethwyr ieuainge. Tra y bu'r cyhoeddiad yn ei ddwylaw, yr oedd pob hyder ynddo fel Golygydd, ac ni fu'r hen Ddysgedydd yn fwy ei barch na phan yr oedd yn ei law. Yn nerth elw'r Dysgedydd y cychwynwyd Athrofa'r Bala, yr hon sydd wedi anfon allan ugeiniau o weinidogion. Elw'r Dysgedydd yn y dechreu oedd braidd yr unig gymorth a dderbyniai. Bob yn dipyn daeth casgliadau i gynnorthwyo cynnaliaeth a geid oddiwrth y Dysgedydd. Drwy wahanol gyfnewidiadau, pallodd cymhorth y Dysgedydd, rhoddodd Mr. Jones, yr olygiaeth i fyny, a gorfu ar Athrofa'r Gogledd ddibynu ar y casgliadau yn llwyr. Fodd bynag, oni b'ai'r elw oddiwrth y Dysgedydd, mae'n debyg na fuasai Athrofa'r Bala wedi ei chychwyn o gwbl, ac am flynyddau lawer, llafur Mr. Cadwaladr Jones gyda'r Dysgedydd oedd ei phrif gynnaliaeth. Yr oedd Mr. Cadwaladr Jones yn ffyddlon iawn yn holl bwyllgorau yr Athrofa. Efe bob amser bron a ddewisid yn gadeirydd, os byddai yn bresenol, ac anfoddlon iawn a fyddai neb i gymeryd y gadair os byddai Mr. Jones yn bresenol. Parhaodd i ddyfod i'r pwyllgorau hyd ei ddiwedd. Edrychid arno bob amser fel tad tirion a ffyddlon.

Yr oedd Mr. Jones yn gystal beirniad ar bregeth a neb y darfu i ni ei gyfarfod. Gwelsom rai yn cael eu cario gan ffrwd hyawdledd o ryw fath, a nerth llais i gymeradwyo pregethau na byddai'r farn yn eu cymeradwyo. Nid oedd hyn yn un brofedigaeth i Mr. Jones. Yr oedd bob amser yn berffaith oer, a chlir ei ben. Pan y byddai cynnulleidfaoedd yn berwi, gwelsom ef lawer gwaith yn berffaith ddigynwrf, ond byddai yn effro drwyddo, ond iddo gael pregeth wrth ei fodd. Rhoddodd lawer cynghor gwerthfawr i bregethwyr ieuaingc. Pan y byddai yn gwasgu yn lled drwm ar ambell i un lled ddilygad a hyf, a hwnw yn methu cydweled âg ef yn nghylch y diffygion ynddo a nodai Mr. Jones, cyfodai ar adegau deimladau drwg yn erbyn Mr. Jones, am mai anhawdd iawn yw i neb weled ei bechod ei hun. Beirniadodd Mr. Jones lawer ar bregethwyr ieuaingc, a dywedodd ei feirniadaeth yn garedig wrthynt, er mwyn eu harafu a'u diwygio, a gwnaeth les mawr lawer gwaith wrth wneyd hyn. Yr oedd ei ddybenion da bob amser uwchlaw amheuaeth, a'i farn gref yn ei gadw rhag gwyro.

Yr oedd Mr. Jones yn ochelgar hyd at fod yn ofnus, a dichon fod ei law ar adegau wedi bod yn rhy drom ar rai a ddysgyblai. Mae anturiaeth yn perthyn i'r ieuange, a gochelgarwch i'r hen. Yr oedd Mr. Jones yn naturiol yn fwy o enfa i atal nag o yspardyn i symbylu. Mewn cynghorau, atal pobl wylltion oedd ei apostolaeth yn fwy na chyffroi i waith, er y medrai wneyd hyny yn eithaf, ond iddo fod yn ddigon sicr ei fod yn waith priodol i'w wneyd. Gwelsom ei ochelgarwch yn ei gario i eithafoedd. Nid oedd ynddo yr elfenau rheidiol i wneyd Luther mewn unrhyw wlad. Yr oedd yn debycach i Erasmus —yn hirben iawn, ond yn rhy ofnus ar adegau. Cariai yr ofn yma i bob peth, ei amaethyddiaeth, adeiladu capelau, &c., fel oedd yn sicr bob amser nad elai i brofedigaeth. Mewn oes o 85 mlynedd, unwaith y gwelsom ef erioed wedi myned i'r fagl. Yr oedd craffder y llwynog wedi ei roddi iddo. Nis gallasai dynion ieuaingc selog a llawn o yni beidio a theimlo gwerth cymeriad pwyllog a phwysig fel yr eiddo Mr. Jones. Ar yr un pryd, ni thalasai i bawb fod fel Mr. Jones. Mae yn dda cael un Lapland i oeri tipyn ar y byd; ond pe buasai'r byd i gyd yn Lapland, buasai yn rhy amddifad o wres. Na feddylied y darllenydd ein bod yn tybied na wnaeth Mr. Jones waith, am ein bod yn dweyd fel hyn. Yr oedd yn un o'r mwyaf blaen—llaw mewn llafur hunanymwadol i godi pregethwyr ieuaingc, ac ychydig a lwyddodd i wneyd cymaint ag a wnaeth efe.

Gan fod y llythyr a ganlyn yn egluro y mater hwn yn mhellach, rhoddwn ef yma.

AT C. R. JONES, LLANFYLLIN.

ANWYL SYR.—Mae yn dda iawn genyf ddeall fod gobaith y cawn, a hyny yn fuan, Gofiant teilwng o'ch anwyl, a'ch hybarch dad, gan fod cynifer o frodyr, mor gymhwys a galluog, wedi ymgymeryd â'r gorchwyl o barotoi cofiant iddo. Yr oedd efe yn ddiddadl yn "dywysog ac yn wr mawr yn Israel," ar lawer o ystyriaethau, er mai gwr disyml a hollol ddiymhongar ydoedd o ran yr olwg arno. Gwelaf oddiwrth yr hysbysiad, fod un bennod o'i Fywgraffiad yn cael ei chyflwyno i son am "Ei nawdd dros bregethwyr ieuaine, &c."; a bydd yn dda genyf, os caniateir i minau ddweyd gair am dano, dan y penawd hwn, oddiar fy mhrofiad fy hun. Bum yn cadw ysgol yn Rhydymain gerllaw Dolgellau, am dymhor cyn myned i'r weinidogaeth, a byddai yntau yn arfer dyfod i Rhydymain i pregethu y pryd hwnw, unwaith yn y mis; a dyna yr amser y daethum gyntaf i gydnabyddiaeth ag ef, er fy mod wedi ei weled a'i glywed, unwaith neu ddwy cyn hyny. Nid oeddwn i ond dyn ieuanc dinod, a dieithr yn y gymmydogaeth; ac felly nid oedd genyf unrhyw hawl i disgwyl iddo gymeryd nemawr sylw o honof, na theimlo fawr o ddyddordeb ynof; ond eto, cefais lawer iawn o sirioldeb a chefnogaeth, a chalondid ganddo ef, a'r Parch R. Ellis, Brithdir, tra bum yn yr ardal. Yn mhen amser, meddyliodd y cyfeilion yn Berea, Môn, am roddi galwad i mi i ddyfod yn weinidog iddynt; ond cyn gwneuthur hyny. anfonasant at Mr. Jones a Mr. Ellis, i ymgynghori â hwynt ar y mater. Ni wybum i ddim am y peth ar y pryd; ond ryw dro wedi i mi ymsefydlu yno, meddyliodd y swyddogion, na buasai o un niwed iddynt roddi i mi lythyrau a dder- byniasent oddiwrth y Parchedigion C. Jones ac R.Ellis ; ac y maent yn fy meddiant yn awr, ac yn neillduol o werthfawr yn fy ngolwg, fel amlygiad o deimladau caredig y ddau weinidog parchus. Ni byddai yn briodol cyhoeddi y llythyr hwn, o eiddo yr hen Olygydd Hybarch, am ei fod yn dal perthynas rhy agos a mi yn bresenol; ond teimlaf ei bod yn ddyledswydd arnaf, yn gystal ag yn bleser genyf, grybwyll y ffaith, fel un engraifft o'i garedigrwydd i bregethwyr ieuainc. Bydd ei goffadwriaeth byth yn anwyl ac yn barchus genyf.

Yr eiddoch yn serchog,

Llanbrynmair.

OWEN EVANS.