Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau/Y Pregethwr

Oddi ar Wicidestun
Ei Afiechyd, ei Farwolaeth, a'i Gladdedigaeth Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau

gan Robert Thomas (Ap Vychan)

Y Duwinydd


PENNOD VIII.

Y PREGETHWR.

"Gwr pwyllog synhwyrol"—Darluniad Christmas Evans—Y pregethwr—Dyfroedd Siloa yn cerdded yn araf—Nid newyddian yn y ffydd—Ei gymhwysder i adeiladu, yn hytrach na thynu i lawr—Ei ddelw ar ei eglwysi—Rhai oedfaon hwyliog—Yn marw fel y bu byw.

Pe gofynasid i mi i roddi darlun cryno ar fyr eiriau o nodwedd gwrthddrych y cofiant hwn, ni allaswn feddwl am ymadrodd mwy priodol i'r pwrpas na'r ymadrodd hwnw of eiddo y gŵr doeth:—"Gŵr pwyllog synhwyrol." "Gŵr pwyllog a synhwyrol" oedd efe mewn gwirionedd yn mhob man, ac ar bob achlysur, yn ei deulu, yn ei gymmydogaeth, yn yr eglwys, ac yn yr areithfa. Yr oedd cymhesuredd a chyfaintiolaeth yn holl elfenau ei nodwedd, a'r cwbl o dan reolaeth wastadol synwyr a phwyll. Cof genyf fy mod unwaith yn Nghaernarfon yn nghymdeithas y diweddar Hybarch Christmas Evans, lawer o flynyddau yn ol, pryd yr adroddai cyfaill hanes prawf pwysig a ddigwyddasai yn mrawdlys Dolgellau y dydd o'r blaen. Gelwid y Parch. C. Jones fel tyst ar yr achos. Yr oedd dan yr angenrheidrwydd i droi at ryw erthygl a ymddangosasai yn y Dysgedydd wrth ro'i ei dystiolaeth. Yr oedd golwg henafgwr parchus arno y pryd hwnw. Wedi myned i'r Witness box, tynai ei wydrau allan yn araf hamddenol; dododd hwy am ei wyneb, a throai ei olwg ar y barnwr, a'r cyfreithwyr, a'r rheithwyr, fel per buasai yn cymeryd stock o'r llys; a phawb yn edrych arno yn nghanol distawrwydd dwfn. Tynodd ei spectol yn mhen enyd, a chymerai ei napeyn o'i logell i rwbio a gloywi y gwydrau. Wedi eu cael i'r cywair priodol, edrychai drwyddynt yn dawel drachefn ar y barnwr a'r llys. Ac edrychai y barnwr arno yntau ac ar eu gilydd bob yn ail. Yna tynodd y Dysgedydd allan o'i logell, ac araf dröai at yr erthygl, mor ddigyffro meddai'r adroddydd, a phe buasai yn eistedd ar ei hen gadair ddwy—fraich ar ei aelwyd gartref. Ar hyny, torai yr hen Gristmas Evans allan, gan waeddi, "Cadwaladr gyffroi! Na choelia i fawr! Pwy welodd Cadwaladr yn cyffroi erioed! Ni chyffroisai Cadwaladr ddim pe buasai fo'n gwel'd y Cynddiliwiaid yn codi o'r ddaear, ac yn llenwi'r holl wlad o Ddolgellau i'r Bermo; mi gwela fo'n rhoi'i spectol am ei drwyn, ac yn edrych arnyn nhw.—Beth ydi'r rhain tybed; medd o, yn wir, dacw'r hen Nimrod, on te hefyd! ie, y fo ydi o rwy'n siwr braidd." Byddai yr hen frawd yn mwynhau y disgrifiad uchod, a roddai yr hen ddisgrifiedydd penigamp o hono yn fawr iawn. Ond

FEL PREGETHWR,

y mae a wnelwyf fi âg ef yn awr; ac fel y cyfryw, yr oedd ganddo ei safle briodol ei hun yn mysg ei frodyr, nid oedd yn meddu ar dreiddgarwch ac angerddolder Morgan, o Fachynlleth, na grymusder meddyliol Michael Jones, o Lanuwchllyn; nac athrylith Williams, o'r Wern, &c., ond yr oedd mor siwr o'i fater ag yr un o honynt. Yr oedd ol arafwch, a gofal, a phwyll, a barn, ar gyfansoddiad ei bregethau, yn gystal ag ar y traddodiad o honynt yn yr areithfa. Ni thaniai y fellten yn ei lygad; ni chanfyddid dychrynfeydd yn ei wedd; ac ni chlywid swn y daran yn ei lais; ac ni theimlid y gwynt nerthol yn rhuthro, na'r gwlaw mawr ei nerth yn disgyn braidd un amser, yn ei bregethiad ef. Afon hyd ddol-dir gwastad, oedd ei weinidogaeth ef—"Dyfroedd Siloa yn cerdded yn araf," ydoedd. Gwelir ambell afon fel pe byddai ar frys gwyllt am gyrhaedd y môr, chwyrnu megys yn ddigofus ar y cerig a safant yn ei ffordd, tra y mae un arall fel yn caru ymdroi, ymddolenu, ac ymfwynhau ar ei thaith i adlewyrchu pob gwrthddrych yr elo heibio iddo ar wyneb ei dyfroedd. Cyffelyb oedd afon ei weinidogaeth yntau. Nid oedd mor gyfaddas i'r gwaith o dynu i lawr a chwalu cestyll a muriau o ddifrawder ac anystyriaeth, ag ydoedd i adeiladu meddyliau yn ngwirioneddau a ffydd yr efengyl. Nid ei gwaith priodol hi oedd arloesi a diwreiddio y drain a'r mieri, ond yn hytrach planu a maethu y ffinwydd a'r myrtwydd.

Yr oedd wedi myfyrio a deall duwinyddiaeth athrawiaethau yr efengyl yn dda, ac felly wedi ffurfio barn bwyllus a chref ar bob pwngc. Mesurai a theimlai y tir yn ofalus cyn ymsefydlu arno, ac nid gorchwyl hawdd fuasai ei symud wedi hyny. Un caled iawn i ymdrafod âg ef mewn dadl ydoedd, ar unrhyw bwngc o athrawiaeth.

Teimlai rhai deallus wrth ei wrando yn pregethu mai nid "newyddian yn y ffydd," oedd y pregethwr; nid un wedi brys-gipio golygiadau duwinyddol pobl ereill, a rhedeg â hwynt ymaith i'r areithfa, cyn eu chwilio, eu profi, a'u deall, ac felly yn myned i'r niwl a'r tywyllwch gyda hwynt,—ond eu bod yn eistedd dan athraw deallus, un a wyddai beth oedd efe yn ei gylch, ac un a allasai roddi rheswm da dros y pethau a gynygiai efe i sylw a derbyniad ei wrandawyr. Felly os nad oedd efe yr hyn a ystyrid yn bregethwr mawr a phoblogaidd, yr oedd yn athraw a dysgawdwr da; yn was ffyddlon a doeth, yr hwn a osododd ei Arglwydd ar ei deulu i roddi bwyd iddynt yn ei bryd. Os nad oedd yn meddu ar y nerth a allasai ysgwyd gwlad, fel oedd gan ambell i un o'i frodyr cyfoediol yn y weinidogaeth, yr oedd ganddo y dawn a'r cymhwysder i arwain, a choleddu, a phorthi praidd Duw.

Yr oedd ei ddelw ef i'w gweled ar yr eglwys dan ei ofal, yn y cynydd graddol a pharhaol a fu arni dan ei weinidogaeth ef. Yr oedd ei chynydd mewn rhifedi, gwybodaeth, profiad, a dylanwad, yn cyd-gerdded a'u gilydd. Cof genyf glywed y diweddar Michael Jones, Llanuwchllyn, pryd hyny, yn sylwi un tro, nad oedd ef yn adnabod un eglwys yn dwyn cymaint o ddelw ei gweinidog arni, a'r eglwys yn Nolgellau, ac ystyriai ef hyny yn anrhydedd i'r gweinidog a'r eglwys.

Gwastadrwydd ac arafwch tyner oedd ei nodwedd arbenigol fel pregethwr, fel y sylwyd, cyffelyb i'r ych yn tynu ei gwys yn bwyllog, hyd nes y delo gerllaw y dalar, ac yno yn rhoi plwe arni i'w chael i'r pen, rhoddai yntau ysbonc arni tua'r diwedd, er cael ei aradr allan o'r tir; ond syrthiai rhyw ysbrydiaeth wresoglawn arno yntau ambell waith; clywais ei hen gymmydog a'i gydlafurwr yn y weinidogaeth, y diweddar Barch. H. Llwyd, o Dowyn, yn son am rai oedfaon hynod a gafodd; ac yn enwedig am un mewn cyfarfod yn Towyn, os wyf yn cofio yn iawn, pan oedd y pregethwr a'r gwrandawyr wedi llwyr anghofio eu hunain, ac yn ymdroi mewn dagrau. Ni allasai neb oedd yn bresenol yn yr oedfa hono, ei anghofio byth meddai Mr. Llwyd.

Fel y bu byw, felly hefyd y bu farw, yn araf, yn bwyllog, a thawel. Yr un fath olwg oedd arno yn marw, ag oedd arno yn y llys yn rhoddi ei dystiolaeth y diwrnod hwnw, neu yn yr areithfa, cyn ac wedi pregethu, llawn hunanfeddiant. "Yr ydych yn yr afon Mr. Jones," ebai cyfaill wrtho ychydig cyn iddo ei chroesi, "Ha, ie, wel ydwyf," eb efe "Ond y mae hi'n braf iawn yma." Ië, "yn braf iawn," ond hi aeth yn brafiach o lawer iawn arno wedi iddo ei chroesi i'r ochr arall.

Bellach hen batriarch, hybarch, a hoff. Bydd wych! Gorphwysed dy ben gwyn yn dawel yn y llwch, hyd wawr dydd y dadebru a'r codi. Teimlwn chwithdod i feddwl na chawn mwyach weled dy wedd radlawn, na mwynhau dy gyfeillach fwyn ac adeiladol yr ochr hon i'r bedd. Diangaist oddiwrthym ni at frodyr anwyl a chydlafurwyr ffyddlawn yn y weinidogaeth, y rhai a ragflaenasent, lle y mwynhai gyfeillach well a phurach heb ymadael mwy.

"Diangaist i'r bedd, ni alarwn am danat,
Er mai trigfa galar a niwl ydyw'r bedd;
Ei ddorau agorwyd o'r blaen gan dy Geidwad,
A'i gariad wna'r ddunos yn ddiwrnod o hedd.

"Diangaist i'r bedd, ni welwn mwy'th wyneb,
Rhwng hyder ac ofn, os unwaith petrusaist,
Dy lygaid agorwyd ar ddydd tragwyddoldeb,
Ac angel a ganodd yr Anthem a glywaist."