Neidio i'r cynnwys

Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau/Y Duwinydd

Oddi ar Wicidestun
Y Pregethwr Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau

gan Robert Thomas (Ap Vychan)

Ei Neillduolion fel Gweinidog a Bugail


PENNOD IX.

Y DUWINYDD.

Pwysigrwydd gwybodaeth Dduwinyddol—Safle gwrthddrych y cofiant hwa fel Duwinydd Ei fanteision boreuol—Dr. Williams ac eraill— y Calfmaid cymhedrol Cymreig—"Y Llyfr glas "—Cychwyniad y Dysgedydd Y cytundeb cyntaf—Ei neullduad ef i'r olygiaeth— Etholeligaeth gras Cynrychiolaeth Adda—Athrawiaeth yr Iawn— Dylanwad yr Ysbryd Glan Natur Eglwys—Bedydd—Ei neullduolion Diwinyddol.

Gwybodaeth Dduwinyddol yw y bwysicaf o bob gwybodaeth y gall dyn gael gafael arni. Deil berthynas ag ef yn y byd hwn, a deil berthynas ag ef yn y byd arall yn oes oesoedd. Ynddi y mae "geiriau bywyd tragywyddol" dyn. Er y gellir yn eithaf priodol ddosranu Duwinyddiaeth yn wahanol ganghenan, etto, un yw hi wedi y cyfan. Trwyddi hi y daw dyn yn adnabyddus â Duw, o ran ei Fodolaeth a'i Briodoleddau gogoneddus. Trwyddi hi y eyrhaedda syniadau teilwng am arfaeth a chynlluniau y Goruchaf. Hyhi a'i dysg am lywodraeth foesol yn ei natur, ei deddfau, ei chymhellion, ei gweinyddiad, ei gwobrau, a'i chospau; ac am dano ei hunan, fel deiliad y llywodraeth hono; seiliau ei gyfrifoldeb am ei holl ymddygiadau; a'i sefyllfa andwyol fel pechadur yn erbyn yr Arglwydd. Duwinyddiaeth sydd yn dangos beth yw natur pechod, gwreiddiol a gweithredol, ar un llaw, natur a rhinwedd, ar y llaw arall. Trwyddi hi y ceir esboniad ar y cyfamod a wnaeth Duw â'r Adda cyntaf, a'r cyfamad a wnaeth efe a'r Adda diweddaf, hefyd ynddi hi yr eglurir y goruchwyliacthau neu y cyfamodau a wnaeth Duw a dynion o bryd i bryd wedi y cwymp. Duwinyddiaeth sydd yn agor ger ein bronau holl drefn fawr ein Hiachawdwriaeth. Eglura i ni Berson rhyfedd y Gwaredwr, yr Iawn anfeidrol dros bechod, Galwad yr efengyl, Dylanwad yr Ysbryd Glân, Dychweliad pechaduriaid, Adenedigaeth, Ffydd a chyfawnhad, Santeiddhad a gogoneddiad y saint, a chosp dragywyddol yr annuwiolion. Clywsom rai cyn hyn yn ceisio bychanu a gwawdio ymdrechiadau rhai eraill i gyraedd syniadau cywir a chyson ar byngciau Duwinyddol; ond nid yw geiriau gwatwarus y cyfryw ddynion o nemawr bwys, ond iddynt hwy eu hunain; gwyr pawb deallus yn mha ddosbarth i'w rhestru. Nid yw yn ormod i ni ddywedyd, fod o'r pwys mwyaf i Gristionogion yn gyffredinol, ac i bregethwyr yr efengyl yn arbenigol, ymdrechu cyrhaeddyd syniadau Ysgrythyrol a theg ar bob canghen o Dduwinyddiaeth. Ynddi hi y dylai dynion ymgartrefu. I'w deall y dylent alw allan ymadferthoedd eu heneidiau. Ynfydrwydd o'r mwyaf yw ei hesgeuluso.

Gwyr y gogleddwyr, a'r deheuwyr, hefyd, yn bur dda, fod y diweddar Barchedig Cadwaladr Jones wedi astudio duwinyddiaeth yn fanwl iawn. Ceid llawer o bregethwyr mwy hyawdl a dylanwadol nag ef, a chyfarfyddid a llawer oeddynt yn well ysgolheigion nag ef; gwelid ambell un yn eangach ei wybodaeth gyffredinol, a llawer yn fwy barddonol a dyrchafedig eu syniadau na'n hen gyfaill hybarch o Gefnmaelan; ond yr ydym yn dyweyd yn ddibetrus, nad oedd heb o'i frodyr yn yr oes ddiweddaf, ac nad oes yr un o honynt yn yr oes hon ychwaith, yn rhagori arno fel duwinydd. Safai yn ddiau yn y rhes flaenaf o'n duwinyddion Cymreig. Yr oedd yn bwyllog i gael gafael ar y gwirionedd; yr oedd llygaid ei feddwl yn graff a threiddlym i wahaniaethu y gwir oddiwrth y gau; yr oedd egwyddorion sylfaenol duwinyddiaeth wedi cael eu hastudio ganddo yn fanwl a thrwyadl; a chanfyddai gyda chywirdeb mawr, pa syniadau oeddynt mewn cysondeb i'r egwyddorion gwreiddiol hyny; ac o'r ochr arall, pa syniadau oeddynt mewn gwrthdarawiad iddynt, ac yn milwrio yn eu herbyn.

Cafodd Mr. Jones gryn fantais i ddyfod yn dduwinydd cyson a manwl. Nid oedd nemawr o lyfrau ond rhai duwinyddol yn yr ardal, lle y magwyd ef. Duwinyddiaeth oedd. prif astudiaeth ei gymmydogion. Yr oedd gwr, a dwy o ferched yn y Ty Mawr, gerllaw i'r Deildref Uchaf, yn dduwinyddion campus, ac yn cydfyned âg ef i'r Hen Gapel, ac yn cyd-ddyfod adref bob Sabboth. Yr oedd gweinidog y gynulleidfa, y Dr. Lewis, yn dduwinydd cryf a manwl, yn bregethwr duwinyddol, ac yn ysgrifenydd duwinyddol galluog. Yr oedd y "Corff o Dduwinyddiaeth," a'r Esboniad ar yr Efengylau a llyfr yr Actau, yn nhai Pennantlliw-bach; a chyn iddo ef fyned i'r weinidogaeth, yr oedd Esboniad Dr. Lewis ar y Rhufeiniaid wedi dyfod o'r wasg; ac nid gormod yw dywedyd fod y llyfrau buddiol hyn yn cael eu hastudio yn fanwl yn yr ardal; ac yn mysg eraill, yr oedd yntau yn dra chydnabyddus â hwynt. Cynnwysai y llyfrau a nodwyd fêr gweinidogaeth yr Hen Gapel, yn enwedig y "Corff o Dduwinyddiaeth," a'r Esboniad ar y Rhufeiniaid. Felly, wrth ddarllen llyfrau duwinyddol, yn cael ei amgylchu gan gymmydogion duwinyddol, a than weinidogaeth dduwinyddol gref a goleuedig, nid ydym yn rhyfeddu fod Mr. Jones wedi ei dueddu yn foreu i astudio duwinyddiaeth yn fanwl a thrwyadl, heblaw pwysfawredd y mater ei hun, yn ngolwg dyn pwyllus ac ystyriol fel ydoedd efe.

Ac heblaw y pethau a nodwyd, yr oedd dadleuon mawrion yn cael eu dwyn yn mlaen rhwng y Calfiniaid â'r Arminiaid, pan oedd efe yn cyfaneddu yn Llanuwchllyn, ac yn yr ysgol yn Ngwrexham, ac yr oedd hyny yn sicr o droi nerth ei feddwl at byngciau yr athrawiaeth. Yr oedd y pregethwyr ieuaingc a'r gweinidogion y cyfeillachai efe â hwynt, pan oedd ei nodwedd feddyliol yn cael ei ffurfio, megys, Hugh Pugh, o'r Brithdir; William Williams, Cwmhyswn, wedi hyny o'r Wern; John Roberts, Llanbrynmair; D. Morgan, o Dowyn a Llanegryn, wedi hyny o Fachynlleth; D. Jones, Treffynnon; John Lewis, Bala; a James Griffiths, o Fachynlleth, y pryd hwnw, ac wedi hyny o Dy Ddewi, oll yn astudwyr duwinyddiaeth; a diau, iddynt hwy fod yn offerynau i gryfhau tuedd naturiol ei feddwl yntau i chwilio "beth a ddywed yr Ysgrythyr" ar bob peth perthynol i'r grefydd Gristionogol. Dylid cofnodi yn mhellach, fod Dr. Williams, o Rotherham, wedi cyhoeddi pregeth ar "Ragluniaethiad i Fywyd," gyda nodiadau manwl a meistrolgar ar ei diwedd, yn nechreu y ganrif hon; a deffroasai y bregeth hono lawer o bobl feddylgar yn Lloegr a Chymru, i fyfyrio yn fanylach nag o'r blaen ar byngciau crefyddol. Heblaw hyny, yn y flwyddyn 1809, cyhoeddodd yr un gwr dysgedig ei draethawd galluog ar "Gyfiawnder a Phenarglwyddiaeth;" ac yn mhen ychydig o flynyddau wedi hyny, cyhoeddodd argraffiad newydd o hono mewn ffurf wahanol. Cyhoeddodd Dr. Williams, hefyd, ychydig cyn ei farwolaeth, ei amddiffyniad cryf a rhesymol. i "Galfiniaeth Ddiweddar." Daeth amryw lythyrau o waith yr enwogion, Bellamy, ac Andrew Fuller, i ddwylaw amryw o weinidogion yr Annibynwyr yn ngogledd Cymru, yr amser hwnw, ac yn mysg eraill yr oedd Cadwaladr Jones yn astudiwr esgud ar y llyfrau a nodwyd; ac felly yr oedd cynud ychwanegol beunydd yn cael ei roddi ar y tân a gyneuasid eisoes yn ei enaid, ac ymawyddai fwyfwy am feddu syniadau cywir ar bob cangen o athrawiaeth y Beibl.

Nid Mr. Jones yn unig a symbylwyd y pryd hwnwi astudio duwinyddiaeth, ond llawer o frodyr eraill hefyd, y rhai a ddaethant yn raddol i weled yn eglur, nad oedd yr athrawiaeth a clwir yn Galfiniaeth, o'i hesbonio yn deg, yn cynnwys y pethau a roddid yn ei herbyn gan ei gwrthwynebwyr; ac nad oedd ei phleidwyr yn arfer ei hamddiffyn yn aml ar yr egwyddorion y dylasent wneuthur—hyny. Daeth y fath syniadau a'r rhai canlynol:—Bod Duw yn arfaethu goddef'i bechod ddyfod i'r byd ac aros ynddo.—Bod pechod o ran ei natur, yn rhywbeth cadarnhaol, megys rhyw wenwyn yn ngwaed dynoliaeth.—Bod etholedigaeth gras yn cynnwys gwrthodedigaeth.—Bod pwys, mesur, a therfynau i aberth y Cyfryngwr, a bod dyn heb allu o fath yn y byd i gydymffurfio âg ewyllys. ddatguddiedig yr Arglwydd; do, meddwn, daeth syniadau fel y rhai uchod i ymddangos yn ynfydrwydd perffaith yn ngolwg Mr. Jones a'r ysgol newydd hon o dduwinyddion Cymreig. Ymddengys fod y dadleuon diweddar yn erbyn yr Arminiaid wedi gwneud yr enwadau Calfinaidd yn Nghymru yn fwy of Galfiniaid nag yr arferent fod yn gyffredin; ond pan ddaeth yr ysgol Galfinaidd newydd, trwy ddarllen a myfyrio, pwyso a barnu, y gwahanol olygiadau oedd yn y wlad, yn wyneb. gair Duw, i weled a theimlo fod y tir y safent hwy eu hunain arno yn un cadarn a disigl, dechreuasant gyhoeddi eu golygiadau yn eofn a digêl. Y canlyniad fu, bloedd uchel yn eu herbyn o bob cyfeiriad. Yr oedd eu brodyr o'r hen ysgol Galfinaidd yn eu gwrthwynebu ar un llaw; a'r Arminiaid ar y llaw arall; ond defnyddiasant hwy yr areithfa a'r wasg i amddiffyn eu syniadau, a gorchfygasant y ddwy blaid. Cy- hoeddodd y Parch. J. Roberts, o Lanbrynmair, ei lythyrau "Ar ddybenion Cyffredinol a Neillduol Dyoddefaint Iesu Grist," yn y flwyddyn 1814. Daeth yr hybarch Thomas Jones, o Ddinbych, allan i wneuthur sylwadau arnynt, yn y flwyddyn 1819. Ysgrifenodd Mr. Roberts, drachefn, attebiad i sylwadau Mr. Jones, mewn ugain o bennodau, yn nghyd ac Atddodiad, yn cynwys traethodau byrion ar amrywiol bynciau y dadleuid yn eu cylch. Ysgrifenwyr y byr-draethodau oeddynt y brodyr W. Williams, Wern; D. Morgan, Mach- ynlleth; R. Everett, Dinbych; M. Jones, Llanuwchllyn; J. Breese, Liverpool; a rhoddodd C. Jones, Dolgellau Ol-ys- grifen," i ddiweddu y cwbl. Gelwid y llyfr hwn "Y Llyfr Glas," am fod ei glawr o'r lliw hwnw, mae yn debygol. Bu curo didrugaredd ar Y Llyfr Glas" o'r areithfaoedd, a thrwy y wasg: ond ni wnaeth ei ysgrifenwyr ond ychydig o sylw o'r ymosodwyr. Aethant hwy yn mlaen yn ddigynwrf, fel y mae dyfroedd dyfnion yn arfer ymsymud, tra y mae ffrydiau beision yn llawn cyffro a thwrw trwy yr holl oesoedd. Nid oedd gwaith eu gwrthwynebwyr yn eu gosod allan fel Armin- inid yn tycio dim. Daliasant hwy eu tir yn ddiysgog, a magasant oes o feddylwyr cryfion yn nghynulleidfaoedd yr Annibynwyr, yn ngogledd Cymru, y rhai oeddynt mor bell oddiwrth Arminiaeth, ar y naill law, ag oeddynt oddiwrth Uchel-Galfiniaeth, ar y llaw arall. Ysgrythyrwyr oedd ys- grifenwyr Y Llyfr Glas,' hwy a'u dysgyblion. Credent bob gair sydd yn y Beibl, a chysonent ei wahanol ranau a'u gilydd goreu ag y gallent, ac yn ol dim a ymddengys buont yn fwy llwyddianus i ddangos cysondeb y Dwyfol Wirionedd nag y buasai yr Hen Ysgol Galfinaidd, na'r Ysgol Arminaidd ychwaith. "Arminiaid" a waeddid ar eu holau hwy y pryd hwnw; ond Uchel-Galfiniaid a waeddir ar olau pobl o'r un farn a hwy yn y dyddiau diweddaf hyn. Gellir yn hawdd roddi cyfrif am y gwahaniaeth yna, pan ystyrir, mai yr Hen Ysgol Galfinaidd oedd yn eu galw hwy yn Arminiaid, ac mai yr un Arminaidd sydd yn cyhuddo eu dysgyblion o Uchel-Galfiniaeth; a diau fod y bobl sydd yn arfer amddiffyn eu golygiadau trwy lysenwi a gwarthruddo eu gwrthwynebwyr, pan na allant ateb eu rhesymau, yn byw, bob amser, mewn eithafion, ac annghysondeb. Yn y flwyddyn 1821, dan ymosodiadau a chamddarluniadau eu gwrthwynebwyr, dechreuodd yr Ysgol Galfinaidd newydd, yn Ngogledd Cymru, deimlo yn gryf fod arnynt angen am gyhoeddiad misol i egluro ac i amddiffyn eu golygiadau ar athrawiaeth yr Efengyl, ac i wasanaethu yr enwad y perthynent iddo mewn pethau eraill. Addfedodd y peth yn raddol yn eu meddyliau; ac ar y dydd cyntaf o Dachwedd, yn y flwyddyn uchod, mewn cyfarfod a gynhaliwyd yn Ninbych, cydunwyd i gychwyn cyhoeddiad rhydd i'r dybenion a nodwyd, a daeth un Rhifyn allan, fel engraifft o'r hyn a fwriedid gael, yn mis Tachwedd, 1821; galwyd sylw yr eglwysi a'r cynnulleidfaoedd at y mater, a llwyddodd yr anturiaeth.

Y mae y cytundeb gwreiddiol rhwng cychwynwyr y Dysgedydd, yr hwn a ysgrifenwyd yn y cyfarfod crybwylledig yn Ninbych, yn awr ger bron; a diau, mai dyddorol fydd gan ddarllenwyr y cofiant hwn gael gwybod ei gynnwysiad. Ni a'i rhoddwn yma fel y mae yn yr iaith Saesoneg, ac heb ei gyfieithu. Dyma fo:-

ARTICLES OF AGREEMENT, &C

1821, Nov. 1st.

1. We, whose names are underwritten, have all and severally agreed, to publish a Monthly Magazine, to be called Dysgedydd Crefyddol, price 6d. per No.

2. That we shall forward to the Editors, some Article or other for insertion monthly, and encourage our friends in our respective neighbourhoods to do the same.

3. That in case of loss attending the undertaking, we will bear it share and share alike: but if it should produce any gain, we shall consider ourselves entitled, severally, to a portion thereof, and the rest rt our discretion to be applied towards religious purposes.

D. Jones, Holywell.
D. Morgans, Machynlleth.
Rt. Everett, Denbigh.
Cadr. Jones, Dolgelley.
W. Williams, Wern.
John Evans, Beaumaris.
Benjamin Evans, Bagillt.
D. Roberts, Bangor.
Robt. Roberts, Treban.
Edw. Davies, Rhoslann.
John Roberts, Llanbrynmair.
Wm. Hughes, Dinas.
These two were present, but left the place without signing their names to the document.

C. JONES.


Dyna gychwyniad y Dysgedydd, dros saith a deugain of flynyddoedd yn ol. Nid oes ond dau o'r gwyr a arwyddasant yr "Articles of Agreement" yn awr yn fyw; sef, y Parch. Edward Davies, Trawsfynydd; a'r Dr. Everett, o America; ac y maent hwythau bellach, agos yn barod i fyned ar ol eu brodyr i'r orphwysfa.

Yn Nolgellau y penderfynwyd argraffu y cyhoeddiad newydd; a'r Parch. Cadwaladr Jones, am ei fod yn gweinidogaethu yno, ac yn ŵr synhwyrol, araf, a phwyllog, yn ddigon naturiol a benodwyd i ymgymeryd â'r Olygiaeth. Mewn cyhoeddiad rhydd ac anmhleidiol, fel yr un oedd dan ei olygiaeth ef, cafodd o bryd i bryd gyfleusdra i amlygu ei feddwl ar rai o brif byngciau yr athrawiaeth sydd yn ol duwioldeb. Cyfodai dadleuon lled frwd ambell dro, a gelwid arno yntau i wneyd sylwadau terfynol arnynt; ac yn y sylwadau a wneir genym arno, fel Duwinydd, caiff ef lefaru, hyd y gallom, drosto ei hunan. Bydd hyny yn decach nag a fyddai i ysgrifenydd y Bennod hon geisio rhoddi crynodeb o'i olygiadau ar wahanol faterion, er y gallasai wneuthur hyny yn lled gywir pe buasai angenrheidrwydd yn galw am iddo wneyd. Heblaw y sylwadau a wnaeth ef, o dro i dro, ar byngeiau crefyddol yn y Dysgedydd, y mae genym wrth law ysgrifau eraill o'i eiddo, y rhai a gant ein gwasanaethu yn y mater hwn, fel y byddo angen am danynt.

Yn y blynyddoedd 1824 ac 1825, bu dadl hirfaith yn y Dysgedydd, ar Arfaeth Duw, ac Etholedigaeth gras, rhwng y Parchedigion J. Roberts, D. S. Davies, o'r ochr Galfinaidd, a Sion y Wesley, o'r ochr Arminaidd, a gwnaeth y Golygydd sylwadau synhwyrlawn ar ei diwedd. Yn mhen ugain mlynedd wedi hyny, bu dadl faith ar yr un pyngciau, ac yn yr un misolyn, rhwng E. H., ac R. J.; ac ar derfyniad y ddadl hono, hefyd, gwnaeth y Golygydd sylwadau sydd yn dangos yn eglur beth oedd ei olygiadau ef ar Arfaeth ac Etholedigaeth. Gan fod y sylwadau diweddaf hyn o'i eiddo o gryn bwys, ac wedi cael eu hysgrifenu ganddo pan oedd ei feddwl wedi addfedu drwy hir fyfyrdod ar y ddwy ochr i'r ddadl, ni a'u rhoddwn yma ger bron ein darllenwyr. Mae eu gwerthfawredd yn esgusawd digonol dros eu meithder. Buasai yn well genym eu cael heb y ffurf ddadleuol sydd arnynt: ond barnasom nas gallasem newid y ffurf hono heb wneuthur cam a'r Awdwr; ac am hyny cant ymddangos yn y dull y daethant odditan ei law ef ei hun.

ETHOLEDIGAETH

Sylwadau ar y ddadl a fu rhwng Meistri Ellis Hughes, a Robert Jones, yn y Dysgedydd am y blynyddoedd 1845—6. Wrth ddarllen yr holl ddadl, tueddir ni i wneyd y sylwadau canlynol:—

I. PA ETHOLEDIGAETH SYDD MEWN DADL.

1. Nid Etholedigaeth i swyddau gwladol nac eglwysig, mewn amser na chyn amser, ydyw; megys y golygir yn 1 Sam. x. 24; Ioan vi. 70.

2. Nid Etholedigaeth i freintiau gwladol na chrefyddol ydyw, megys y dywedir am genedl Israel yn 1 Bren. iii. 8; Esay xli. 8, 9.

3. Nid yr anwylder a ddengys yr Arglwydd mewn amser tuag at ei bobl wedi eu dygiad i gymmod ag ef yn Nghrist ydyw. Gelwir rhai yn etholedigion o herwydd eu dygiad i sefyllfa o anwylder gan Dduw, ac nid fel etholedigion yn arfaeth dragwyddol Jehofa. "Etholedigion Duw, santaidd ac anwyl," Col. iii. 12. "Pwy a rydd ddim yn erbyn etholedigion Duw?" Rhuf. viii. 33. "Oni ddial Duw ei etholedigion, sydd yn llefain arno ddydd a nos?" Luc xviii. 7. Credwn fod y ddwy blaid yn cytuno yn hollol am bob un o'r ystyriaethau uchod, yn ddiwahaniaeth.

Y mae yr holl ddadl, gan hyny, yn nghylch Etholedigaeth bersonol a thragywyddol yn Nghrist i ras a gogoniant. Haora E. H. fod yr Etholedigaeth hon yn ysgrythyrol, a haera R. J. nad ydyw.

II. NATUR YR ETHOLEDIGAETH HON A'I CHYNNWYSIAD.

1. Nid yw y "gadael eraill i farwolaeth," a'r "penderfynu peidio cadw dim un ond y rhai a gedwir," a briodolir gan R. J. i E. H. tudal. 115, bl. 1845, yn un rhan o honi. Gweithred benarglwyddiaethol ydyw ethol ac arfaethu achub; ond nid yw y penderfynu gadael i rai fyw a marw yn eu pechodau, neu benderfynu peidio cadw, &c. ddim amgen na pheidio gweithredu, neu benderfynu neu arfaethu dim; neu fel y dywed un "Arfaethu peidio arfaethu." Nid yw y penderfynu, arfaethu, neu fwriadu tybiedig hyn, yn effeithio dim ar neb o'r gwrthddrychau cadawedig mwy nag hebddo.

2. Nid yw "penderfynu damnio y rhai a ddemnir," (neu a gosbir) y sonir am dano gan E. H. tudal. 149, bl. 1845, yn dal un berthynas â'r Etholedigaeth dan sylw. Oblegid rhaid fod y fath benderfyniad i ddamnio, neu gosbi, yn weithred berthynol i Dduw fel Llywodraethwr moesol; ond perthyn iddo fel Penarglwydd grasol yn unig y mae Etholedigaeth. 3. Nid yw gwrthodiad neb pechaduriaid yn dal un ber- thynas â'r Etholedigaeth hon. Pan sonir am yr Arglwydd yn gwrthod rhai, cymer hyn le mewn canlyniad i'w pechodau. Pan gynygiant eu gwasanaeth rhagrithiol iddo yn eu pechodau, nid yw yn eu cymeradwyo, nac yn eu derbyn hwy na'u gwas- anaeth; y maent fel "arian gwrthodedig" ganddo. Ond, craffwn, ymddygiad yw hwn etto perthynol i Dduw fel Llywodraethwr, ac nid fel Penarglwydd grasol. Pechod yn y gwrthodedig sydd yn achosi y gwrthodiad a'r annghymeradwyaeth; ond gras yn Nuw yw yr unig achos o'r Etholedigaeth mewn dadl. Taera dilynwyr J. Wesley nas gellir dal Etholedigaeth heb ar yr un pryd ddal gwrthodedigaeth; a chan nad oes gwrthodedigaeth, nad oes ychwaith yr un Etholedigaeth o'r fath ag a gredir gan Galfiniaid: ond nid yw y geiriau ethol a gwrthod yn eiriau cyferbyniol, a'r fath gysylltiad rhyngddynt fel nad yw yr un yn bodoli heb y llall. Y gair cyferbyniol i ethol yw gadael, a'r gair cyferbyniol i wrthod yw cynyg. Cyn y gellir gwrthod y mae yn rhaid fod cynyg; ond ni raid fod cynyg lle byddo dewis. Y mae dewisiad yn aml yn cymeryd lle heb un cynygiad, ac o ganlyniad heb un gwrthodiad. Y mae gwrthodiad, gan hyny, yn mhob ystyr y cymerir y gair, yn anfeidrol bell oddiwrth fod yn perthyn i Etholedigaeth rasol Duw. Ond dymunem sylwi yn mhellach,—

1. Fod amryw ymadroddion ysgrythyrol yn cynnwys a darlunio yr Etholedigaeth hon; megys "Ordeinio i fywyd," Act. xiii. 48; "Dewis," Iago ii. 5; "Rhagluniaethu i fabwysiad,', Eph. i. 5; Rhuf. viii. 29; "Arfaeth yn ol Etholedigaeth gras," Rhuf. ix. 11; "Apwyntio," 1 Thes. v. 9; "Bwriadu," Esay xiv. 27; Jer. li. 29, &c. y rhai a'n harweiniant i gredu mai y gangen hono o arfaeth Duw ydyw sydd yn sicrhau iachawdwriaeth tyrfa ddirif o bechaduriaid. Nid oes yr un o'r ymadroddion ysgrythyrol sydd yn ei darlunio yn arwyddo ychydig rifedi mwy na llawer; ond gall yr holl ymadroddion gyfeirio at lawer yn llawn cystal ag ychydig; a cham â golygiadau Calfiniaid ydyw cysylltu â hwynt mai ychydig rifedi yw y rhai a gedwir. Na, na, credwn yn hytrach na bydd Iesu wedi ei gyflawn ddiwallu heb weled y dyrfa fwyaf ar ei ddeheulaw yn y dydd mawr diweddaf,-"O lafur ei enaid y gwel, ac y diwellir," &c.

2. Y mae y geiriau ethol, dewis, &c. yn y cysylltiad hwn, yn benaf, os nad yn unig, yn dal perthynas â phersonau yn hytrach na phethau. Personau a etholwyd, a ddewiswyd, a ragluniwyd, &c.

Gwahaniaetha Etholedigaeth oddiwrth arfaeth, yn gymaint a bod yr olaf yn cynnwys pethau yn gystal a phersonau; ond oll yn bethau ag y mae llaw weithredol gan Dduw ynddynt, ac o ganlyniad yn bethau da, heb ddim drwg ynddynt. Y mae cylch Etholedigaeth ac arfaeth drachefn yn gyfyngach na chylch Hollwybodaeth. Cyrhaedd hon at y drwg yn gystal. a'r da, ac at holl greaduriaid Duw yn gystal a dynion; ond nid yw yn achosi dim—da na drwg, nac un creadur rhesymol nac afresymol mewn bodolaeth.

3. Y mae Etholedigaeth wedi achosi yn Nuw, ac nid yn neb o'r rhai a gedwir. Y mae R. J. yn priodoli yr achos o etholiad i "rinweddau dyn o hono ei hun," fudal. 49, bl. 1846. Ystyria efe Etholedigaeth yn dal perthynas â gweithredoedd, megys edifarhau, caru, credu yn Nghrist, &c. neu, mewn geiriau eraill, bod Duw wedi penderfynu er tragwyddoldeb achub y rhai a edifarhant, ac a gredant yn Nghrist "o honynt eu hun— ain." Gwir fod R. J. yn ei atebiad i'r gofyniad, "Pwy sydd yn dwyn dynion i edifarhau a chredu?" yn dywedyd yn tudal. 49, bl. 1846, mai "Duw trwy weinidogaeth yr efengyl a'r Ysbryd Glân" sydd yn eu dwyn i gredu. Ond nid yw yr Ysbryd Glân, yn ol ei farn ef, ddim amgen na moddion moesol, neu weinidogaeth moddion achub, yr hyn a iawnddefnyddir gan y rhai a gedwir, ond a gamddefnyddir gan bawb eraill yn ngwlad efengyl; herwydd haera R. J. fod yr annghredinwyr a all fod yn nghynnulleidfa Bryn Sion yn meddu yr un manteision a dylanwadau yr efengyl a'r rhai sydd yno yn credu—na wnaeth Duw ddim i'r naill yn fwy na'r llall cyn iddynt gredu, ond fod pawb of honynt yn meddianu gweinidogaeth yr efengyl a'r Ysbryd fel eu gilydd. Yn awr, onid naturiol yw gofyn, Beth yw yr achos fod rhai yn iawnddefnyddio y moddion moesol sydd ganddynt, pan y mae eraill yn eu camddefnyddio? Dichon yr ateba rhai—1. Mai goruwchlywodraeth yr Ysbryd Glân ar weinidogaeth moddion ydyw yr achos—fod ganddo ffordd ddirgelaidd i wneyd i amgylchiadau a phethau gydgyfarfod fel y maent yn sier o ateb eu dyben, sef dwyn y cyndyn yn ufudd.

2. Mai gwaith uniongyrchol yr Ysbryd Glân ar yr enaid, mewn cysylltiad â gweinidogaeth yr efengyl, yw yr achos. Credwn ninnau fod gan yr Ysbryd Glân ffordd deilwng o hono ei hun. i weithredu ar yr enaid mewn cysylltiad â moddion moesol, fel y sicrheir dychweliad tyrfa ddirif o dir damnedigaeth i afael bywyd tragwyddol.

Ond ni addefir un o'r ystyriaethau hyn gan R. J. Gŵyr yn dda os addefa un o honynt fod yn rhaid iddo ar yr un pryd addef yr Etholedigaeth mewn dadl, oblegid fod yr Ysbryd yn gwneyd mwy i'r rhai sydd yn eu hiawnddefnyddio nag i'r rhai sydd yn eu camddefnyddio; ac os ydyw yn gwneyd mwy i rai nag eraill, rhaid ei fod wedi bwriadu hyny er tragwyddoldeb, yr hyn a gynnwys Etholedigaeth yn ei chyflawn nerth. Yn hytrach nag addef hyn, golyga R. J. mai dyn o hono ei hun ydyw yr achos fod rhai yn iawnddefnyddio yr oll mae efe yn ei ystyried yn foddion achub; megys "gweinidogaeth yr efengyl, yn nghyda'i dylanwad ar y meddwl," yr hyn a eilw efe "yr Ysbryd Glân."

Y mae y dybiaeth hon yn ymddangos i ni yn taro yn hollol yn erbyn rhediad eglur y Beibl. 1. O herwydd y darluniad a wneir o ddyn wrth natur. Oni ddywedir yma fod dyn wrth natur ac o hono ei hun yn "dywyllwch," Eph. v. 8: "Yn feirw mewn camweddau a phechodau," Eph. ii. 1: "Yn elyn i Dduw," Rhuf. v. 10; Col. i. 21; "Meddylfryd ei galon yn ddrygionus bob amser," Gen. vi. 5: ac heb "ddim. da yn ei gnawd yn trigo," Rhuf. vii. 18. Oddieithr i ni fyned a'r achos o rinweddau moesol yn mhellach na'r dyn o hono ei hun, nid yw amgen na haeru fod tywyllwch o hono ei hun yn troi yn oleuni yn yr Arglwydd—y marw o hono ei hun yn dyfod yn fyw—gelyniaeth o honi ei hun yn cymmodi â Duw—perffaith ddrygioni yn troi yn rhinwedd—ac ymddi— fadrwydd o ddaioni yn dyfod yn ddaioni sylweddol? Y mae yr hwn sydd dan lywodraeth tywyllwch mor sier o barhau felly, o'i ran ei hun, ag ydyw y dall mewn ystyr naturiol of beidio gweled—y marw naturiol o beidio byw—ac un dan lywodraeth gelyniaeth at Dduw o beidio ei garu. Nid am nad oes ganddo alluoedd naturiol i weled y mae yn dywyllwch, ac heb weithredu fel dyn byw ysbrydol, a gwneuthur daioni: ond am nas myn weled, caru, credu, gwneuthur daioni, &c. Nid yw yr anallu hwn yn esgusodi neb, yn gymaint a'i fod yn berffaith bechadurus. 2. Am y priodolir hyn i Dduw yn unig. "Duw, yr hwn a orchymynodd i oleuni lewyrchu o dywyllwch, yw yr hwn a lewyrchodd yn ein calonau, i roddi goleuni gwybodaeth gogoniant Duw, yn wyneb Iesu Grist." 2 Cor. iv. 6; Eph. v. 8. "Chwithau a fywhaodd efe, pan oeddych feirw mewn camweddau a phechodau," Eph. ii. 1—5. "A phob peth sydd o Dduw, yr hwn a'n cymmododd ni âg ef ei hun trwy Iesu Grist, ac a roddodd i ni weinidogaeth y cymmod," 2 Cor. v. 18. "Canys Duw yw yr hwn sydd yn gweithio ynoch ewyllysio a gweithredu o'i ewyllys da ef," Phil. ii. 13. "Nid o'r hwn sydd yn ewyllysio y mae, nac o'r hwn sydd yn rhedeg chwaith; ond o Dduw, yr hwn sydd yn trugarhau," Rhuf. ix. 16. "Canys trwy ras yr ydych yn gadwedig, trwy ffydd; a hyny nid o honoch eich hunain; rhodd Duw ydyw," Eph. ii. 8. Pob rhoddiad daionus, a phob rhodd berffaith, oddiuchod y mae, yn disgyn oddiwrth Dad y goleuni, gyda'r hwn nid oes gyfnewidiad, na chysgod tröedigaeth," Iagoi. 17. "Myfi a blenais, Apolos a ddyfrhaodd; ond Duw a roddes y cynnydd. Felly nid yw yr hwn sydd yn planu ddim, na'r hwn sydd yn dyfrhau; ond Duw yr hwn sydd yn rhoi y cynnydd," 1 Cor. iii. 6, 7.—Y mae pob dyn yn sicr o weithredu yn ol tueddiadau llywodraethol y galon; a chan fod tuedd llywodraethol yr enaid yn unig yn ddrygionus bob amser, ni thardd o'r fath ffynnon fudr ddyfroedd gloywon, megys caru Duw, credu yn Nghrist, &c., heb i law Duw achosi y cyfryw. Y mae priodoli yr achos i ddyn o hono ei hun yn arwain i gamgymeriadau mawrion; sef bod y rhai sydd yn edifarhau, caru, a chredu yn Nghrist, neu yn defnyddio moddion achub, heb syrthio mor ddwfn ac eraill trwy y cwymp; neu mai damwain ydyw eu bod yn eu defnyddio: neu ynte fod gan ddyn y fath arglwyddiaeth ar ei ewyllys (self determining power) fel y mae yn ei thueddu at y da a'r drwg yn ddiwahaniaeth, yr hyn y mae wyneb yr ysgrythyrau yn ei erbyn, a natur pethau yn profi i'r gwrthwyneb.

4. Y mae yr Etholedigaeth hon yn hollol ddidderbyn wyneb. Y mae amryw yn tybied fod Etholedigaeth yn dderbyn wyneb, yr hyn a feiir mewn dynion, ac a wedir yn perthyn i Dduw; a diammau genym fod R. J. o'r farn hon. Gwel tudal. 363, bl. 1846. Wrth sylwi ar Act. x. 37, dywed, "Y mae yr ymadrodd hwn yn rhoi ar ddeall i ni fod Pedr yn tybied y buasai Duw yn dderbyniwr wyneb pe buasai yn ethol yr Iuddewon ac yn gadael y cenhedloedd; yna buasai Duw yn dderbyniwr wyneb yr un modd pe buasai yn ethol rhai personau a gadael personau eraill cyn seiliad y byd." Yn ol y dywediad hwn, y mae R. J. yn rhwym o briodoli i Dduw, dros dymmor yr oruchwyliaeth Iuddewig, yr hyn a ystyria efe yn annheilwg o hono, sef derbyn wyneb, trwy ethol yr Iuddewon a gadael y Cenhedloedd dros holl dymmor yr oruchwyliaeth hono; ac os oedd yn gyson â'i gymmeriad fod yn dderbyniwr wyneb fel hyn dan yr oruchwyliaeth hono, gall fod yn gyson â'i gymmeriad yn awr, ac am byth. Ond nid yw Duw dderbyniwr wyneb. "Nid oes derbyn wyneb ger bron Duw," Rhuf. ii. 11. Nid ethol un a gadael y llall yw y derbyn wyneb y sonia Pedr a Phaul am dano, ond cymeradwyo yr Iuddew yn ei ddrwg am ei fod yn Iuddew, a gwrthod y cenedlddyn rhinweddol am mai cenedlddyn ydoedd. Derbyn wyneb, gan hyny, ydyw cymeradwyo un drwg am ei fod yn perthyn i ni, neu mewn sefyllfa uchel yn y byd; a gwrthod neu annghymeradwyo un da am ei fod yn dlawd, neu heb fod yn perthyn i ni. Ond nid yw Ethol— edigaeth yn derbyn wyneb neb; cafodd hi bawb yn yr un cyflwr, heb neb yn wynebu at Dduw am eu bywyd, ond yn cwbl gefnu arno yn ddieithriad. Ni chafodd le i wrthod neb, ac ni fwriadodd achub neb o herwydd unrhyw wahaniaeth rhyngddynt o ran cyflwr, sefyllfa, na gwaedoliaeth; ac nid yw yn gosod un rhwystr ar ffordd neb i ddychwelyd at Dduw; a phe deuai rhyw un at Iesu Grist am ei fywyd o hono ei hun, ni ddywedai etholedigaeth un gair yn erbyn ei gadw. Ond yn yr olwg ar bawb yn cefnu ar ddedwyddwch, ac yn sicr o ddinystrio eu hunain am byth—o'u rhan eu hunain—y mae hi wedi penderfynu dwyn tyrfa ddirif at Iesu fel y caffont fywyd.

5. Y mae yr Etholedigaeth hon mewn cysylltiad a dyledswydd dyn. Dywed llawer un, Os ydwyf wedi fy ethol ni waeth i mi fyw yn fy mhechodau na pheidio, byddaf yn sicr o fyned i'r nef; ac os nad wyf, nid oes modd i mi fyned yno pe byddwn fyw mor dduwiol a Job! Nagê, nid yw hyn amgen nag ysgaru yr hyn a gysylltodd Duw â'u gilydd. Y mae y moddion a'r dyben wedi eu cysylltu â'u gilydd yn arfaeth Iehofah, megys yn yr amgylchiad a grybwyllir am Paul a'r rhai oedd gydag ef yn y llong, Act. xxvii. 22, 23. Dywedodd Paul wrth y canwriad a'r milwyr, "Onid erys y rhai hyn yn y llong, ni ellwch chwi fod yn gadwedig." Hysbyswyd ef gan angel yr Arglwydd yn flaenorol "na byddai colled am einioes un o honynt, ond am y llong yn unig." Pe buasai Paul yn ymddwyn fel y mae llawer yn siarad yn ein dyddiau ni am Etholedigaeth gras, buasai yn dywedyd, Y mae Duw wedi fy hysbysu na bydd colled am einioes un o honom; am hyny gellwch fod mor ddiofal ag y mynoch, a myned allan o'r llong i'r bâd os mynwch; ni bydd colled am einioes un o honoch. Ond ni ddywedodd fel hyn, ond yn hollol i'r gwrthwyneb. Rhybuddiodd hwy dan berygl bywyd i aros yn y llong-os nad arhosent nas gallent fod yn gadwedig. Felly y mae Duw wedi bwriadu achub y rhai oll a achubir, a'u dwyn i lwybr cadw-edifarhau am bechod-cilio oddiwrtho-credu yn Nghrist-byw yn dduwiol, &c., mewn trefn i fod yn gad- wedig; a chyhoedda y bygythion trymaf uwch eu penau os anufuddhant; a hyn oll er eu dwyn i, a'u cadw ar lwybr y nef a diogelu eu bywyd. "Nid yw hyn yn brawf," fel y dywed R. J. tudal 49, "fod yn bosibl i rai wedi eu hethol gan Dduw fod yn fyr o gyrhaedd iachawdwriaeth." Y mae hyn yn wir am lawer a etholwyd i freintiau yr efengyl; ond y mae allan yn hollol o'r pwnc mewn dadl.

6. Y mae yr Etholedigaeth hon yn hollol gyson â galwad cyffredinol yr efengyl, yn nghyda'r arferiad o holl foddion achub tuag at bawb. Ond dichon y beia R. J. arnom am son am "foddion achub, moddion addas, moddion digonol, &c., am nad ydynt yn ateb eu dyben "heb Etholedigaeth yn extra." Gwel tudal. 49, bl. 1846. Y mae yn wir fod Etholedigaeth yn achosi iddynt ateb eu dyben; ond nid yn achosi iddynt fod yn foddion addas a digonol. Y mae geiriad E. H. wedi rhoddi lle i amheuaeth am addasrwydd a digonolrwydd y moddion heb eu defnyddio, pan y dywed, tudal. 277, "Mae yr Iawn, yr efengyl, &c., yn drefn a moddion addas i gadw dyn ond eu defnyddio." Y mae hyn yn wir, ond nid yr holl wir yn y mater. Buasai yn well pe dywedasai eu bod yn foddion perffaith addas a digonol, pa un bynag a gaffont eu defnyddio ai peidio; a chofied R. J. nad yw eu haddasrwydd a'u digonolrwydd yn ymddibynu ar ymddygiad dyn yn eu defnyddio. Nid rhoddi gwisg am danom sydd yn ei gwneuthur yn addas a digonol, ond rhaid parhau i'w gwisgo er ateb ei dyben. Nid oes yr un annghysondeb rhwng yr Etholedigaeth hon â galwad cyffredinol, mwy nac sydd rhwng Penarglwyddiaeth a chyfiawnder yn yr hanfod ddwyfol. "Y mae Etholedigaeth," fel y dywed J. R. yn y Galwad Difrifol, "yn perthyn i Dduw fel Penarglwydd grasol; ond ei waith yn galw yn perthyn iddo fel Llywodraethwr cyfiawn; yn ganlynol, tra na fyddo annghysondeb rhwng Penarglwyddiaeth. a chyfiawnder yn yr hanfod ddwyfol, nis gall fod anghysondeb rhwng gweithrediad Penarglwyddiaeth yn ethol, a gweithrediad cyfiawnder yn galw. Yr oedd Etholedigaeth yn golygu dyn yn dderbyniwr goddefol; ond y mae galwedigaeth gyffredinol yn golygu dyn yn weithredydd rhydd, a deiliad llywodraeth foesol; a thra na byddo annghysondeb rhwng bod dyn yn dderbyniwr goddefol, ac yn weithredydd rhydd, nis gall fod annghysondeb yn ymddygiadau Duw tuag ato fel y cyfryw. Ac heblaw hyny, dyben Etholedigaeth bersonol oedd dwyn dynion i ufudd-dod i alwad yr efengyl."

Os dywedir fod gras yn yr alwad yn gystal a chyfiawnder, ni wna hyny ond cadarnhau yr hyn a amcenir ei brofi, sef nas gall fod un annghysondeb rhwng gras yn y ffynnon, a gras yn y ffrydiau sydd yn dylifo o honi. Dichon y gofynir i ni, Paham y mae Duw yn galw ar yr anetholedig, y rhai y gŵyr efe yn berffaith na fyddant gadwedig? Nid eu bod yn anetholedig yw yr achos na fyddant gadwedig, ond eu camddefnydd o drefn Duw; ac yn gymaint a bod Etholedigaeth neillduol a galwad yr efengyl yn gyson â'u gilydd, credwn y bydd llawer mwy o Dduw, mwy o ddyn, a mwy o drefn achub dyn yn dyfod i'r amlwg yn nhrefn Etholedigaeth ddiammodol, a galwad cyffredinol, nag a welsid byth pe buasai Duw yn gosod cadwedigaeth dyn i ymddibynu ar ei waith yn defnyddio moddion achub o hono ei hun. Dymunem sylwi hefyd fod y gofyniad uchod mor anhawdd ei ateb i'r Armin ag ydyw i'r Calvin; oblegid y mae y naill a'r llall fel eu gilydd yn credu galwad cyffredinol yr efengyl, a holl wybodaeth Iehofah. Gellid gofyn lluaws o ofynion cyffelyb i'r un uchod; megys "Paham y mae wedi rhoddi bodolaeth, ac yn rhoddi cynnaliaeth i'r rhai y gwyddai ef mai annghredu a wnaent, ac mai colledig fyddent?

Ond wedi y cyfan a ellir ddweyd ar y mater, y mae goruchwyliaethau y nef yn anfeidrol bell uwchlaw amgyffred holl greaduriaid rhesymol y nef a'r ddaear; a rhaid i ni ddweyd y rheswm paham y mae yn gwneyd fel hyn neu fel arall, fel y dywedodd ein Harglwydd—"Felly y rhyngodd. bodd yn dy olwg."

7. Y mae'r Etholedigaeth hon yn ysgrythyrol. Ni sylwn. yma ond yn unig ar y prif adnodau a gamesboniodd R. J., gan amcanu unioni yr hyn a gamodd efe. Nis gallwn lai na synu iddo ddychymygu fod y geiriau, "Diystyrasoch fy holl gynghor i," &c., yn golygu arfaeth Jehofah, pan y mae y cysylltiad yn dangos yn eglur i'r gwrthwyneb.

Sylwa R. J. hefyd ar 2 Pedr i. 10.—"Byddwch ddiwyd i wneuthur eich galwedigaeth a'ch etholedigaeth yn sicr." Dywed fod yr ymadrodd yn rhoddi ar ddeall fod ein Hetholedigaeth yn ansicr, a bod ar ein llaw ni ei gwneyd yn sicr," tudalen 211, bl. 1845. Nid yw yn meddwl eu gwneyd yn sicr adnabyddus i feddwl y saint; ond, yn ol ei eiriau ef ei hun mewn llythyr eglurhaol atom, "Gwneyd ein galwedigaeth a'n Hetholedigaeth yn sicr o ateb y dyben y bwriadwyd hwynt, sef iachawdwriaeth dynion." Dywed hefyd mai "dyben galwad yr efengyl ydyw cael dynion i gredu yn Nghrist, a dyben Etholedigaeth yw bywyd tragwyddol i bwy bynag a gredo." Gwelir yma yn eglur mai wrth yr alwedigaeth y meddylia, galwad yr efengyl; ac wrth yr etholedigaeth y meddylia, etholedigaeth i fywyd tragwyddol pan gredir; ac wrth eu gwneyd yn sicr, eu gwneyd yn sicr o ateb y dyben eu bwriadwyd! Meddyliem fod yr esboniad yn un gwreiddiol, ac na ddaeth erioed i feddwl neb arall. Ond gwreiddiol neu beidio, ymddengys i ni yn hollol annghytuno â'r meddwl dwyfol; ac er dangos hyny, sylwn yn-1. Mai at rai yn profesu duwioldeb yr ysgrifenai yr apostol, a'i fod yn siarad â hwy fel rhai yn ateb i'w proffes-yn wir dduwiolion. Fel y cyfryw, yr oedd galwad yr efengyl wedi ateb ei dyben (eu dwyn i gredu) tuag atynt eisoes, ac o ganlyniad eu hetholedigaeth wedi cymeryd lle (yn ol barn ein cyfaill), a bywyd tragwyddol wedi ei roddi iddynt mewn addewid sicr a didwyll, ac o ran mewn mwynhad. 2. Mai amcan yr apostol oedd eu hannog i ymestyn yn mlaen at yr hyn nad oeddynt wedi ei gyrhaedd, gan eu hannog i ddiwydrwydd i hyny; a chan eu bod wedi credu, yr oeddynt wedi eu hethol, yn ol ei farn ef, a bywyd tragwyddol yn eu gafael yn barod, ac o ganlyniad, dyben eu galwedigaeth a'u hetholedigaeth wedi ei ateb. Pa synwyr, gan hyny, a allasai fod yn y gwaith o'u hannog i arfer diwydrwydd i ymestyn at yr hyn oeddynt wedi ei gyrhaeddyd? 3. Sylwn ar y geiriau rhyfedd hyn o eiddo ein cyfaill; "Eu gwneyd yn sicr o ateb y dyben y bwriadwyd hwynt." Pwy ydyw yr hwynt yma? Galwedigaeth ac etholedigaeth yn ddiau. Gan bwy y mae ein cyfaill yn meddwl i'r alwad gael ei bwriadu i ateb y dyben a sonia, sef credu yn Nghrist? Gan Dduw yn ddiammau, ac nid gan neb arall. Wel, ynte, gellir gofyn, A fwriadodd Duw i alwad yr efengyl ateb y dyben y bwriadwyd hi tuag at bawb sydd yn ei chlywed? Os dywedwn, Do; yna fe greda pawb o honynt, a byddant oll yn gadwedig! neu ynte, y bydd bwriad Duw heb ei gyflawni. Os dywedwn, Na ddo; mai i'r rhai sydd yn credu yn unig y bwriadodd Duw iddi ateb ei dyben; yna gwelir yn eglur fod yn rhaid ar yr un pryd addef yr etholedigaeth y dadleuwn drosti. Ond lled debygol y bydd R. J. am gael ei draed yn rhydd o'r maglau hyn etto, ac y dywed mai bwriadu ymddibynol ar ymddygiad dyn yn credu y mae yn ei feddwl. Os felly rhyw fwriadu rhyfedd iawn yw hwn-bwriadu "cael dynion i gredu," a gadael i grediniaeth dyn o hono ei hun sicrhau neu ddiddymu bwriad Duw!! Nid yw hyn amgen na bwriadu a pheidio bwriadu, arfaethu a pheidio arfaethu, ethol a pheidio ethol, ar yr un pryd. Bwriadu, os credant; ac oni chredant, y bwriadu yn syrthio i ddiddymdra! Dyma fwriadu na wna un daioni i neb: bwriadu sicr o droi i ddiddymdra yn ei berthynas â phawb, oblegid na chreda neb o honynt eu hunain, fel y sylwyd eisoes. Ymddengys fod R. J. yn dal dwy etholedigaeth; un er tragwyddoldeb, gwel tudal. 211, bl. 1845; ac un arall mewn amser ar grediniaeth dyn, yn ol ei sylw ar yr adnod dan ein hystyriaeth. Ond pe byddai deng mil o etholedigaethau fel hyn yn ymddibynu ar edifeirwch a chrediniaeth dyn o hono ei hun, ni byddai neb yn well erddynt; ond arhosai pawb am amser a thragwyddoldeb dan farn condemniad heb gredu. Ni chred dyn o hono ei hun heb ddylanwad neillduol Ysbryd Duw ar ei enaid, ae ni rydd yr etholedigaethau uchod un math o gymhorth iddo i hyny. Os dywedir mai am fod dyn yn dduwiol y mae Duw yn ei ethol, pa le yr ymddengys yr angenrheidrwydd iddo gael ei ethol i santeiddrwydd, a'i greu yn Nghrist i weithredoedd da, ac yntau yn flaenorol yn santaidd, ac yn gwneyd gweithredoedd da?

Ond beth, meddwch, yw meddwl y geiriau, "Byddwch ddiwyd i wneuthur eich galwedigaeth a'ch etholedigaeth yn sier?" Mewn atebiad i hyn sylwn fod yr apostol yn ysgrifenu atynt fel duwiolion, ond etto yn y tywyllwch am eu galwedigaeth effeithiol, a'u hetholedigaeth i fywyd tragwyddol gan Dduw; ao y byddai yn angenrheidiol iddynt arfer diwydrwydd mewn bywyd duwiol a hunanymholiad er gwneyd hyn yn sicr wybodus iddynt ou hunain: ac yn annogaeth i ymgyrhaedd at hyn, sylwa ar y fantais a gaent wrth hyny—na lithrent hwy ddim byth. Cyfarwydda ni yn gyntaf at ein galwedigaeth, gwaith Duw ar ein heneidiau; ac oddiyno yn ol at y ffynnon fawr o ba un y tarddodd ein galwedigaeth, sef etholedigaeth—ei ddilyn yn ol oddiwrth ei waith at y cynllun. Ac os hyn, fel y credwn, yw meddwl yr adnod, rhaid nas gall yr alwedigaeth hon ychwaith olygu galwad yr efengyl, na'r etholedigaeth olygu etholedigaeth i fwynhau breintiau yr efengyl, oblegid nis gallasent fod yn ansicr o hyn. —nid oedd raid iddynt arfer un diwydrwydd i'w wneyd yn sicr—yr oedd yn berffaith wybodus iddynt eisoes.

Sylwa hefyd ar 2 Thes. ii. 13, "Oblegid i Dduw o'r dechreuad eich ethol chwi i iachawdwriaeth," &c. a dywed mai etholiad y cenhedloedd i freintiau, megys, Eph. iii. 1—6, a olygir. Ond y mae hyn yn hollol gamsyniad. Y mae y geiriau o'r dechreuad yn cyfeirio yn aml at dragwyddoldeb cyn bod amser, Ioan i. 1, a 1 Ioan i. 1. Wrth gymharu yr adnodau hyn, ymddengys fod y geiriau yn y dechreuad," "ac o'r dechreuad," a'r un meddwl iddynt, sef "er tragwyddoldeb." Gwel hefyd Michah v. 2. Nid yw y geiriau "o'r dechreuad" yma yn golygu dechreuad pregethiad yr efengyl, am nad ydynt yn cael eu harferyd am hyn yn neillduol yn un man arall; ac nid yw yn cydfyned à hanesiaeth yr ysgrythyr fod y Thessaloniaid yn flaenffrwyth y cenhedloedd, fel yr ymddengys yn Act. xv. 3. Yr un etholedigaeth a olygir yn y geiriau dan sylw ag yn 1 Thes. i. 4, 5. At yr un bobl y mae yr apostol yn ysgrifenu, ac y mae yn dangos yn eglur nad etholedigaeth i freintiau a olyga yno; oblegid y rheswm a ddefnyddia i brofi eu hetholedigaeth, fod yr efengyl tuag atynt, nid mewn gair yn unig, ond mewn nerth, ac yn yr Ysbryd Glân, ac mewn sicrwydd mawr, &c. Sylwa, yn mhellach, ar Rhuf. viii. 28, 29, "Y rhai a ragwybu, a ragluniodd efe hefyd," &c. Mae R. J. yn golygu mai "penderfyniad tragwyddol Duw i faddeu pechodau yr edifeiriol, a rhoi bywyd tragwyddol i bwy bynag a gredo yn Nghrist yw etholedigaeth," tudal. 49, bl. 1846. Yna ceisia gysoni ei olygiad hwn â'r adnodau uchod. Ond dywed yn ei bregeth, tudal. 363, bl. 1846, mai "etholiad y cenhedloedd i fwynhau breintiau crefyddol yn sefydliad yr oruchwyliaeth efengylaidd a feddylir yn holl epistolau Paul." Beth, ai nid epistol Paul yw yr epistol at y Rhufeiniaid? Y mae R. J. wedi anghofio ei hun. Camddarlunia olygiadau E. H. yn tudal. 49, pan y dywed fod E. H. yn golygu wrth etholedigaeth, "Penderfyniad tragwyddol Duw o rai personau i gredu, ac o bersonau eraill i beidio credu." Nis gallwn ni gredu fod E. H. yn dweyd na meddwl fod Duw wedi penderfynu i neb beidio credu. Ond rhag gwneyd un annhegwch ag R. J. yn ei esboniad ar yr adnodau dan sylw, boddlonwn iddo gymeryd yr un a fyno -ei etholedigaeth amserol, neu ei "benderfyniad tragwyddol i faddeu pechodau yr edifeiriol," &c. y mae yn golygu y ddwy "yn dal perthynas â gweithredoedd,' gwel tudal. 49, bl. 1846, "y weithred o garu Duw yn rhesymiad yr apostol;" ac of ganlyniad nid yw ei etholedigaeth o un gwerth i neb, ond yn syrthio i hollol ddiddymdra, yn gymaint a'i bod yn ymddibynu ar weithredoedd da dyn o hono ei hun. Neu ynte iddo gymeryd yr adnod dan sylw yn golygu ei drydedd etholedigaeth, sef etholiad y cenhedloedd i freintiau, yr hon a olyga yn holl epistolau Paul pan y sonia am etholedigaeth, medd ef. Ond sylwed ein darllenwyr fod y geiriau yn cynnwys pob Cristionogion pa un bynag ai Iuddewon ai Cenhedloedd fyddont. O herwydd y mae y breintiau y sonir yn y geiriau yn perthyn nid i gyfundebau fel y cyfryw, ond i bersonau neillduol; a'r holl freintiau yn effaith rhagwybodaeth, a rhagluniad y nef.

Sylwa hefyd ar 2 Tim. i. 9, "Yr hwn a'n hachubodd, ac a'n galwodd ni à galwedigaeth santaidd, nid yn ol ein gweithredoedd ni, ond yn ol ei arfaeth ei hun a'i ras." Dywed fod yr adnod hon yn golygu "trefn achub, trefnu ffordd iechydwriaeth, agor ffordd y bywyd o flaen y byd," &c. Ymddengys i ni fod y geiriau yn golygu y pethau y maent yn ddweyd, sef gweithredol achubiaeth; o herwydd-1. Mai eu troi o'u priodol ystyr ydyw eu cymhwyso at "drefn achub, agor ffordd bywyd o flaen y byd," &c. 2. Am fod cysylltiad y geiriau yn dangos hyn i raddau helaeth. Sonia Paul am dano ei hun yn adn. 12, ac am Timotheus adn. 5, ac am danynt eu dau adn. 7, fel rhai wedi eu hachub, a'u galw yn wir ufuddion i'r efengyl, "nid yn ol eu gweithredoedd, ond yn ol ei arfaeth ei hun a'i ras."

'Bellach, deuwn at destyn pregeth R. J. yn ein Rhifyn am Ragfyr 1846. "Megys yr etholodd efe ni ynddo ef cyn seiliad y byd, fel y byddem santaidd a difeius ger ei fron ef mewn cariad." Yma sylwa mai "etholedigaeth y cenhedloedd i freintiau yr oruchwyliaeth efengylaidd" a olygir, yr hyn a ymddengys i ni yn hollol annghywir—1. O herwydd fod Paul yn rhoddi ei hun yn un o honynt, megys yn y geiriau ni a byddem: nis gallasai roddi ei hun yn un o'r cenhedloedd, oblegid mai Iuddew ydoedd mewn gwirionedd. 2. O herwydd mai at y saint ar ffyddloniaid yn Nghrist Iesu yr oedd yn ysgrifenu ei epistol, y rhai oeddynt gynnwysedig nid o genhedloedd yn unig, ond hefyd o Iuddewon dychweledig; am hyny, yr oedd yn gallu ystyried ei hun yn un o honynt, ac o ganlyniad wedi ei ethol i fywyd tragwyddol, ac i santeiddrwydd fel y llwybr i fywyd, a hyny cyn seiliad y byd—nid am eu bod yn santaidd, ond "fel y byddent santaidd a difeius ger ei fron ef mewn cariad." Ond dichon yr haerir nad yw debygol fod yr holl eglwys yn wir dduwiol, ac o ganlyniad nas gallasai ddweyd eu bod wedi eu hethol cyn seiliad y byd heb un eithriad. Yma sylwn fod yr apostol yn eu hanerch yn ol y broffes of dduwioldeb oeddynt wedi ac yn ei wneyd; ac o herwydd mai hwn oedd y cymmeriad cryfaf perthynol iddynt, ystyriai yn briodol eu hanerch dan yr enwau saint a ffyddloniaid yn Nghrist Iesu, ac wedi eu hethol cyn seiliad y byd. Fel hyn y llefarai am eglwysi cyfain eraill yr un modd, gan eu cynghori hwynt yn deilwng yn ol yr enw oedd arnynt; gwel ei epistolau at y Corinthiaid, Philippiaid, Colosiaid, Thessaloniaid, &c., &e. Gan hyny, pell iawn, i'n tyb ni, ydyw esboniad R. J. o fod yn gywir.

Oddiwrth y sylwadau blaenorol dysgwn—1. Na wnaeth ac na wna yr Etholedigaeth y dadleuwn drosti ddim drwg i neb. Ni achosodd ac ni achosa anedifeirwch neb, gelyniaeth neb at Dduw, annghrediniaeth neb yn Nghrist, dygiad neb i gyflwr colledig, na thragwyddol gosbedigaeth neb—hi a ylch ei dwylaw yn lân oddiwrth waed pawb oll.

2. Ei bod wedi ac yn achosi daioni annhraethadwy. Etholedigaeth ydyw yr achos o ddygiad tyrfa ddirif o bechaduriaid i gredu yn Nghrist, i afael bywyd, ac i holl ddedwyddwch y nef.

3. Nas gwnaeth ac nas gwna yr Etholedigaeth Arminaidd ac ammodol, a wrthwynebir genym, un daioni cadwedigol i neb. Ni ddygodd ac ni ddyga hon neb i gredu yn Nghrist, i edifeirwch am bechod, i gymmod â Duw, i ymadael â'i bechod, i ffordd santeiddrwydd, i gyflwr o ddiogelwch rhag damnedigaeth, na neb at Dduw i ddedwyddwch y nef. Wedi yr estyna foddion achub i ddynion, yn ddiammod, gad rhwng pawb â hwy, ac ni estyna un llaw o gymhorth i un pechadur tlawd i gydio gafael yn nhrefn achub er dyfod i afael bywyd, os na chreda, o hono ei hun, yn gyntaf! Etto dadlenir drosti gan lawer fel pe byddai bywyd tragwyddol yr holl fyd yn troi arni!!

4. Y mae y gyfryw Etholedigaeth yn dra niweidiol a phechadurus. 1. Y mae ei chredu yn dangos anwybodaeth. Pe byddai i ddynion ddim ond darllen, gwrando, a myfyrio yn ddiduedd, gyda gweddi ddyfal at Dduw am gymhorth i iawnfarnu yn y mater, gallent weled yn eglur, feddyliem ni, fod yr Etholedigaeth hon yn anysgrythyrol. 2. Y mae y grediniaeth o honi yn tueddu i achlesu balchder dyn. Nid yn ei osod ar dir cyfrifoldeb, ond yn ei godi i fyny i dir duwioldeb a rhinwedd, o hono ei hun; a thrwy hyny yn siomi enaid gwerthfawr. 3. Y mae yn taro yn erbyn athrawiaeth gras. Os yw Etholedigaeth yn sylfaenedig ar dduwioldeb a rhinwedd dyn yn credu, edifarhau, &c., y mae gwaith mewnol Ysbryd yr Arglwydd yn hollol afreidiol. Gan fod dyn yn dechreu byw yn dduwiol o hono ei hun, diau y gall barhau felly hefyd, a bod yn ddedwydd. Y mae y gorchestgamp mwyaf wedi ei gyflawni. 4. Y mae yn taro yn erbyn caniadau y nef i raddau helaeth iawn. Molianu Duw y maent yno am ei gariad tragwyddol, am anfon ei Fab i fod yn Iawn am bechod, rhoddi breintiau yr efengyl yn eu dwylaw, a thueddu eu calonau i wneyd derbyniad o honi, heb son dim am eu rhagoroldeb eu hunain ar eraill nas derbyniasant hi.

5. Fod yr Etholedigaeth a wrthwynebwn yn rhwym o syrthio i hollol ddiddymdra. Yn ol hon byddai Duw yn dywedyd fel y canlyn:—Yr wyf yn bwriadu achub pawb a gredant o honynt eu hunain; ond os na chredant felly, nid wyf yn bwriadu eu hachub y mae bodolaeth fy mwriad yn syrthio i ddihanfodiad; a chan na chredai neb fel hyn, ni byddai ganddo un bwriad i achub neb. Y mae hyn megys pe dywedai un wrth dad naturiol, a fyddai dan lywodraeth cariad at ei blentyn. anwylaf, prif hyfrydwch ei fynwes, Os bydd i ti ladd dy blentyn erbyn y pryd hyn yfory, mi a'th godaf yn foneddwr mwyaf o fewn y deyrnas. A fyddai efe yn debygol o wneuthur, ac yntau dan lywodraeth cariad at ei blentyn? Na, gwrthodai y cynygiad gyda'r diystyrwch mwyaf. "Cariad sydd gryf fel angeu.—Dyfroedd lawer ni allant ddiffoddi cariad, ac afonydd nis boddant: pe rhoddai wr holl gyfoeth ei dŷ am gariad, gan ddirmygu y dirmygid hyny," Can. viii. 6, 7. Felly yr un modd ni wna yr hwn sydd yn byw dan lywodraeth cariad at ei bechod ei groeshoelio er pob anogaethau a roddir iddo i wneuthur.

6. Mai ffoledd mawr ydyw gwrthwynebu yr Etholedigaeth a bleidiwn, o herwydd ei bod yn gwneyd mwy er achub rhai nag eraill. Oni wnaeth Duw lawer mwy mewn Etholedigaeth i freintiau i rai nag eraill? Rhoddwyd mwy i'r Iuddewon na'r Cenhedloedd am filoedd o flynyddoedd; ac oni wna efe fwy o lawer yn awr i rai Cenhedloedd nag eraill? Y mae y rhan fwyaf o'r byd etto heb efengyl. Nid yw etholiad i freintiau a manteision achub yn gorwedd fawr os dim gwell ar y mater hwn nag Etholedigaeth i fywyd. Nid yr un faint o iechyd, cyfleusderau, a breintiau crefyddol a roddir gan Dduw i'r naill a'r llall; etto nid oes achos gan neb i feio arno am hyn: nid oes rwymau arno i roddi dim i neb, ac nid yw yn gwneyd cam â neb wrth gyfranu mwy i eraill. Paham, gan hyny, y beïr ar Etholedigaeth gras?

7. Fod yr Etholedigaeth y dadleuwn drosti yn gadael yr un faint o obaith a mantais i fod yn gadwedig i'r gweddill gadawedig ag a adewir gan Arminiaid i bawb. Nid yw yn eu hyspeilio o'u galluoedd naturiol i iawn ddefnyddio moddion achub-nid yw yn rhoddi un tuedd drygionus ynddynt-ac nid oes a fyno hi a gwneyd un anfantais i neb mwy nag hebddi. Pa fanteision bynag y mae Arminiaid yn ei roddi i bawb i fod yn gadwedig, y mae Etholedigaeth, yn yr ystyr Galfinaidd'o feddwl, yn gwneyd yr un peth i'r gweddill gadawedig, ac yn sicrhau cadwedigaeth y dyrfa fawr a achubir, pan nad yw Etholedigaeth ammodol yn sicrhau cadwedigaeth neb.

Yn awr, gadawn y Sylwadau blaenorol at ystyriaeth ein darllenwyr, heb gymeryd arnom draethu ar lawer o bethau y gallesid gwneyd ar y pwngc, gan gyfyngu ein hunain yn unig at y pethau a gymerai i fewn y prif faterion a ymddengys i ni yn gamsyniol yn y ddadl.

Cyfeiriwn ein darllenwyr, er gweled ychwaneg ar y pwngc, at y ddadl rhwng y Parchn. J. R., D. S. Davies, a Sion y Wesley, bl. 1824, tudal. 47, 76, a 106; a bl. 1825, tudal. 48, 75, 106, 114, 117, a 145; yn nghyd â Sylwadau y Golygydd, 148.

Gwyddai Mr. Jones, yn llawn cystal a neb yn Nghymru, fod y golygiadau a gofleidia dyn ar Arfaeth Duw, ac Etholedigaeth Gras, yn sicr o effeithio yn ddirfawr ar ei syniadau ar byngciau Duwinyddol eraill; megys, ymddibyniaeth dyn ar Dduw am bob daioni; cyflwr dyn fel creadur syrthiedig, a gwrthryfelwr penderfynol yn erbyn yr Arglwydd; natur moddion moesol, a'u gweinyddiad tuag at ddynion, fel deiliaid cyfrifol yn llywodraeth Duw; natur gwaith yr Ysbryd Glân, yn nychweliad a santeiddiad pechaduriaid; fod ysgogiad dyn at ddaioni, yn nhro-bwynt dechreuol ei iachawdwriaeth, yn hollol o Dduw, yn gystal a pharhad y saint mewn santeiddrwydd; cyflwyniad yr holl ogoniant i'r Arglwydd, dros byth, gan y gwaredigion; ac amryw bethau pwysig eraill. Gwelai ef yn eglur mai yn ol fel y byddo syniadau dyn ar y pethau hyn, y bydd ei grefydd yn nefol neu yn ddaearol, yn Ddwyfol neu yn ddynol; a dyna paham y rhoddai gymaint o bwys ar feddiannu golygiadau ysgrythyrol a chyson ar arfaethau y Brenin mawr, ac etholedigaeth gras.

Fel y mae golygiadau dynion ar arfaeth ac etholedigaeth yn dylanwadu yn gryf ar eu holl gyfundraeth Dduwinyddol, felly, hefyd, y mae y syniadau fyddo ganddynt ar Oruchwyliaeth Eden a Chynnrychiolaeth Adda yn sicr o effeithio yn fawr ar eu syniadau am lawer o bethau pwysig eraill; megys, doethineb, daioni, a chyfiawnder Duw yn y sefydliad a wnaeth efe yn Mharadwys, gyda golwg ar hiliogaeth y dyn cyntaf; natur sefyllfa creadur perffaith, yn ei berthynas â'r Goruchaf; natur pechod; beth yw yr anfanteision a'r colledion a ddaeth ar hil Adda mewn canlyniad i'w drosedd ef; tegwch athrawiaeth Cyfrifiad, a'r hyn a gynnwysa; cynnrychiolaeth yr Adda diweddaf, a chyfrifiad o'i gyfiawnder ef i rai euog, er eu cyfiawnhad; y rhesymoldeb i un gael ei achub drwy haeddiant un arall; marwolaeth plant bychain; yr hyn a gynnwysa eu hiachawdwriaeth drwy Iesu Grist; beth yw perthynas bresenol dynolryw a chyfammod Eden; yn mha bethau yr oedd y sefydliad a elwir, yn gyffredin, "Y Cyfammod Gweithredoedd" yn gynwysedig; a oedd ynddo ras mawr yn gystal a chyfiawnder; yn nghyd a phethau eraill y gellid eu nodi.i

Y mae genym Draethawd byr o eiddo yr Hen Olygydd, a gyhoeddwyd ganddo yn y Dysgedydd, ar ol iddo ef roddi yr olygiaeth i fyny; a chan ei fod yn dangos, i raddau, beth oedd ei farn ar y sefydliad Edenaidd, rhoddir ef yma, er mwyn darllenyddion y Cofiant hwn:

CYNNRYCHIOLAETH ADDA.

Wrth ymdrin â'r mater difrifol a phwysig hwn, dymunem sylwi ar y gosodiadau canlynol:

1. Fod Duw wedi creu Adda ar ei lun a'i ddelw ei hun, mewn gwybodaeth, cyfiawnder, a santeiddrwydd. Pa hyd y parhaodd yn y cyflwr hwn, nis gwyddom; ond y mae yn ddiamheuol ei fod yn ystyriol o'i gyfrifoldeb i'w Greawdwr, a'i rwymau i'w garu â'i holl galon, ac ufuddhau iddo yn mhob peth a ddywedai efe wrtho. Gwyddai mai Duw yn unig ydoedd Meddiannydd yr holl fyd, ac nad ydoedd ganddo ef hawl i ddim oedd ynddo ond a ganiateid iddo gan ei Greawdwr a'i Lywodraethwr.

2. Gwelodd Duw yn dḍa, yn gymaint a'i fod yn greadur cyfrifol iddo, ei osod ar brawf. Yn y sefydliad, neu y drefn hon, rhoddwyd cyfraith i Adda. "A'r Arglwydd Dduw a orchymynodd i'r dyn, gan ddywedyd, O bob pren o'r ardd gan fwyta y gelli fwyta: ond o bren gwybodaeth da a drwg, na fwyta a hono; oblegid yn y dydd y bwytei di o hono, gan farw y byddi farw." Gofynai y gyfraith hon berffaith ufudddod dros holl dymor ei brawf. Nid ydym yn gwybod hŷd amser ei brawf; ond gellid meddwl nad ydoedd ond byr. Pa fodd bynag am hyn, methodd Adda ddal ei ffordd; a chyn diwedd yr amser hwnw, efe a fwytaodd o'r ffrwyth gwaharddedig, a chollodd ei hawl yn ol y drefn hon i fywyd o ddedwyddwch, yr hwn yn ddiau a gawsai drwy gydffurfio â'r gyfraith a roddwyd iddo. Daeth dan fygythiad y cyfammod neu y drefn hon, "yn y dydd y bwytei di o hono, gan farw y byddi farw." Ymadawodd â Duw,-daeth yn agored i farwolaeth naturiol a thragwyddol. Gen. ii. 17.

3. Gosodwyd ein tad Adda i sefyll, nid yn unig drosto ei hun, ond hefyd dros ei holl hiliogaeth. Oni buasai y gosodiad hwn, ni fuasai trosedd cyntaf Adda ddim i ni mwy na'i droseddau eraill ar ol hyny, neu droseddau ein rhieni, neu ryw rai eraill a gaffai y cyffelyb fanteision i osod esiampl ddrwg ger ein bron. Ond y mae yn dra eglur yn yr ysgrythyrau, fod ei drosedd cyntaf ef wedi dwyn ei holl hiliogaeth i'r un cyflwr ag yntau-sef cyflwr o ysgariaeth oddiwrth Dduw, ac yn agored i farwolaeth naturiol a thragwyddol. Rhuf. v. 12, 14, 15, 17, 18, 19, 21. "Am hyny, megys trwy un dyn y daeth pechod i'r byd, a marwolaeth trwy bechod; ac felly yr aeth marwolaeth ar bob dyn, yn gymaint a phechu o bawb. Canys os trwy gamwedd un (neu un camwedd) y teyrnasodd

marwolaeth trwy un; mwy o lawer y caiff y rhai sydd yn derbyn lluosogrwydd o ras, ac o ddawn cyfiawnder, deyrnasu mewn bywyd trwy un, Iesu Grist. Felly gan hyny, megys trwy gamwedd un y daeth barn ar bob dyn i gondemniad; felly hefyd trwy gyfiawnder un y daeth y dawn ar bob dyn i gyfiawnhad bywyd." Gwel hefyd 1 Cor. xv. 21, 22, 49. "Canys gan fod marwolaeth trwy ddyn, trwy ddyn hefyd y mae adgyfodiad y meirw. Oblegid megys yn Adda y mae pawb yn meirw, felly hefyd yn Nghrist y bywheir pawb. Ac megys y dygasom ddelw y daearol, ni a ddygwn hefyd ddelw y nefol." Nid ydym i ddeall wrth yr ysgrythyrau uchod, ein bod ni, blant Adda, yn cael ein hystyried gan Dduw wedi bwyta o'r ffrwyth gwaharddedig yn bersonol; ond ei fod yn ein cyfrif yn ddarostyngedig i'r un canlyniadau â phe buasem wedi gweithredu yn bersonol, a hyny oblegid tegwch ac uniondeb y drefn o osod Adda yn ben i sefyll ei brawf drosom. Gan hyny, yn gymaint a bod ein tad Adda wedi ei osod i sefyll, nid yn unig drosto ei hun, ond hefyd dros ei holl hiliogaeth, yr oedd y bygythiad, a'r addewid gynnwysedig yn y cyfammod a wnaed âg ef, yn perthyn i'w hiliogaeth yn gystal ag yntau. "Yn y dydd y bwytei o hono, gan farw ti a fyddi farw," Gen. ii. 17. Dichon y dywed rhyw un, er fod yn eglur y lleferir y geiriau hyn with Adda, nad oes air o son ynddynt am ei hiliogaeth ef. Mewn atebiad i'r cyfryw, gellir dywedyd, nad oes ychwaith un gair o son am ei hâd yn y geiriau yn Gen. iii. 19, "Canys pridd wyt ti, ac i'r pridd y dychweli." Er hyny, y mae yn eglur fod y geiriau yn perthyn i'w hiliogaeth yn gystal ag yntau, fel mai trwy rym y ddedfryd sydd ynddynt y maent oll yn ddarostynedig i farwolaeth." Yn Adda y mae pawb yn meirw."

Dichon etto fod ambell un yn methu canfod uniondeb, tegwch, a daioni y fath drefn, a gosod un dyn i sefyll drosom ni oll, ac yn tybied y buasai yn llawer tecach, a mwy manteisiol i'w hiliogaeth, gael eu gosod i sefyll eu prawf drostynt eu hunain, na bod un dyn [Adda] yn sefyll dros ei holl hâd. I hyn gellir ateb, na chafodd Adda, na neb o'i hiliogaeth, un anfantais yn y drefn hon. Ond i'r gwrthwyneb, fod y drefn, nid yn unig yn llawn cystal, ond yn fwy manteisiol i bawb, na phe buasem yn cael ein gosod i sefyll bawb drosto ei hun, fel yr ydym yn dyfod i'r byd. Gwelir hyn wrth ystyried—

1. Y mae y drefn yn ymddangos yn fwy manteisiol i Adda gyda golwg arno ei hun yn bersonol, nag hebddi; o herwydd fod cadw y gorchymyn a roddwyd iddo yn rhoddi hawl mewn bywyd ysbrydol, naturiol, a thragwyddol, pryd nad ydoedd ganddo un hawl bersonol yn flaenorol i'r drefn hon. Diau fod rhwymau arno garu Duw â'i holl galon, yn ol rheswm a natur pethau, fel y daeth o law ei Greawdwr; ond pe buasai yn byw bywyd o berffaith gariad at ei Greawdwra byw felly dros fil o flynyddoedd, nis gallasai drwy hyny hawlio dim o law ei Grewr; a gallasai Duw, heb wneyd un annghyfiawnder ag ef, ei ddifodi drachefn. Ond cynnwysai y cyfammod, neu y drefn hon, ras mawr, nid yn unig parhad o'r hyn ydoedd ganddo, ond yn ol pob tebygolrwydd, llawer iawn yn ychwaneg.

2. Yr ydoedd y drefn hon mor, ac yn fwy manteisiol i'w hiliogaeth, na phe buasai pob un yn cael ei osod i sefyll ei brawf drosto ei hun; oblegid yr oedd ganddo alluoedd naturiol mor rymus ag a ddymunasai neb o honom ninnau fod genym; ac yr oedd hefyd yn berffaith santaidd, heb un tuedd i'r gwrthwyneb ynddo. Ac heblaw hyny, yr ydoedd yn meddiannu ar berffaith ddynoliaeth mewn cyflawn faintioli a nerth, gorff ac enaid; ac newydd dderbyn y gyfraith o enau Duw ei hun pan ddechreuodd ei brawf;—a diau ei fod yn meddu perffaith ystyriaeth o'i rwymedigaethau i'w Dad nefol; ac yn mhob modd gymaint, a mwy o annogaethau i gadw ei le nag a allasai fod genym ni, wrth sefyll drosom ein hunain yn unig; o herwydd fod dedwyddwch ei hiliogaeth ar un llaw, a'u hannedwyddwch ar y llaw arall, yn annogaethau ychwanegol i ufudd—dod iddo, at ei ddedwyddwch a'i annedwyddwch ei hun yn bersonol; yr hyn nas gallasent fod yn annogaethau i ni, a golygu ein bod yn sefyll ond drosom ein hunain yn unig.

Diau fod Adda yn gwybod yn dda ei fod yn sefyll dros ei hiliogaeth;—yr oedd yn degwch iddo gael gwybod hyn—ac nid ei adael yn y tywyllwch, a llen megys dros ei lygaid; a diau hefyd ei fod yn caru dedwyddwch ei holl hiliogaeth, yn gystal a'i ddedwyddwch ei hun. Yn gymaint a'i fod yn berffaith santaidd, nis gallasai lai na theimlo felly; a gallasai ddywedyd, Os bydd i mi gadw fy lle am dymmor fy mhrawf, bydd i mi, nid yn unig sicrhau dedwyddwch i mi fy hun, ond dedwyddwch hefyd i'm holl blant: ac ar y llaw arall, os bydd i mi droseddu gorchymyn fy Nghrëwr, mi a ddygaf, nid yn unig fy hun, ond fy holl blant hefyd, i gyflwr o bechod a thrueni; mewn geiriau eraill, yn ddarostyngedig i farwolaeth ysbrydol, naturiol, a thragwyddol.

Gwrthddadl.—Nis gallasai cyflwr truenus dynolryw, mewn canlyniad i drosedd cyntaf Adda, fod yn un annogaeth iddo gadw ei le, oblegid yr oedd yn credu y byddai farw yn y dydd y bwytâi o'r ffrwyth gwaharddedig; o ganlyniad, ni fuasai ganddo hiliogaeth mewn cyflwr truenus i deimlo drostynt.

Atebiad.—1. Nid yw y geiriau, "Yn y dydd y bwytei o hono, gan farw ti a fyddi farw," yn golygu y byddai iddo farw yn ddioed ac anocheladwy pan y pechai, ond y dygai ei hun yn ddarostynedig, neu yn agored i farwolaeth. Diau mai hyn ydoedd meddwl Duw wrth lefaru y geiriau; pe amgen, buasai marwolaeth naturiol yn cymeryd lle y dydd hwnw heb arbediad. Gan mai hyn ydoedd meddwl Duw wrth lefaru y geiriau, fel hyn yr oedd am i Adda eu deall; a diammau mai fel hyn y deallodd yntau hwynt, ac nid yn wahanol.

2. Yr oedd ganddo sylfaen ddigonol i gredu y byddai ganddo hiliogaeth, oblegid i Dduw ddywedyd wrtho ef a'i wraig Efa, "Ffrwythwch, ac amlhewch, a llenwch y ddaear, a darostyngwch hi, ac arglwyddiaethwch ar bysg y môr, ac ar ehediad y nefoedd, ac ar bob peth byw a ymsymudo ar y ddaear," Gen. i. 28. Dylem gymeryd y geiriau yn hytrach fel addewid na gorchymyn, megys yn adnod 22, pryd yr arferir y cyfryw ymadrodd wrth y creaduriaid direswm, y rhai nad ydynt yn ddeiliaid gorchymyn oddiwrth Dduw. Saif y geiriau hefyd yn eu perthynas â hiliogaeth Adda yn gystal ag yntau. Gan hyny, cynnwys yr ymadrodd y byddai iddo ef a'i hiliogaeth lenwi y ddaear o ddynion, y rhai a ddygid dan ddedfryd marwolaeth os byddai iddo ef fwyta o'r ffrwyth gwaharddedig.

3. Gwyddai y byddai iddo hâd oblegid y gosodiad o hono yn bencynnrychiolwr, i sefyll drostynt. Ni fuasai yn cydsefyll ag anfeidrol ddoethineb Jehofah ei osod yn ben i sefyll dros ddihanfodiaid; ond y mae y gosodiad ynddo ei hun yn rhagdybied yn anwadadwy y byddai iddo hiliogaeth.

4. Nid ar yr ammod o ufudd—dod i'r gorchymyn a gafodd Adda yr oedd bod iddo hiliogaeth yn ymddibynu; ond yr oedd Duw wedi penderfynu, a gwneyd yn ddealladwy, y byddai iddo hiliogaeth, a hyny yn hollol annibynol ar ei ufudd—dod ef, neu ar y llaw arall, ei anufudd-dod. Yr oedd gan Dduw drefn arall drwy yr hon y gallai, ac y gallodd, oedi cyflawniad y bygythiad yn yr amgylchiad o anufudd—dod. Gan hyny, gallwn gredu yn ddibetrus, fod truenusrwydd cyflwr ei hâd mewn canlyniad i'r cwymp, yn annogaeth gadarn ychwanegol iddo gadw ei le, yn gystal a'u dedwyddwch ar y llaw arall. Gan hyny, manteisiol, ac nid anfanteisiol, ydoedd y drefn i'w holl hiliogaeth.

Oddiwrth yr ystyriaethau blaenorol gwelwn—

1. Mai ynfyd ydyw pob dyn a lefaro yn erbyn trefn Duw. Yn y drefn hon, dengys Duw nid yn unig ei gyfiawnder, ond hefyd ei benarglwyddiaeth a'i ras;—ei gyfiawnder, yn gofyn dyn i roddi ufudd—dod rhesymol i'w Greawdwr a'i Gynnaliwr, ac yn cyhoeddi y ddedfryd farwol uwch ei ben am anufuddhau. Ei benarglwyddiaeth, yn ei greadigaeth a moddion ei brawf; ac yn neillduol ei waith yn myned i gyfammod âg ef, yn yr hwn y cafodd Adda a'i hiliogaeth lawer mwy o fanteision i fod yn ddedwydd na phe buasent yn sefyll bawb drostynt eu hunain yn bersonol.

2. Fod arbediad dyn wedi iddo bechu yn arwain y meddwl at y drefn gyfryngol. Oni buasai y drefn hon, nis gallasai cyfiawnder arbed ein tad Adda am un munydyn wedi iddo droseddu—yr ydoedd tywalltiad yr oll oedd yn y bygythiad i fod arno yn ddigymysg a dioed.

3. Fod dyfodiad pob dyn i'r byd drwy, a than y drefn gyfryngol, ac nid dan y drefn a wnaed âg Adda.

Gwnaed sylwadau ar yr ysgrif flaenorol gan un o ohebwyr y Dysgedydd, ac amddiffynodd yr Hen Olygydd ei olygiadau: ond nid ydym yn gweled fod yn angenrheidiol i ni, er ateb dyben y cofiant hwn, ddifynu ei nodiadau amddiffynol. Nid ydym yn ammheu, ychwaith, na allasai ef fod yn fwy gwyliadwrus wrth ffurfio rhai o frawddegau yr erthygl ar "Gynnrychiolaeth Adda;" a buasai yn ddymunol pe buasai wedi trin y pwnge yn llawer helaethach, yn ei wahanol gysylltiadau, nag y gwnaeth: ond, dengys yr hyn a roddwyd yma gyfeiriad naturiol ei syniadau.

Am athrawiaeth ogoneddus yr Iawn dros bechod, golygai Mr. Jones, fel y Calfiniaid cymhedrol yn gyffredin, Fod aberth Crist yn anfeidrol yn ei natur, ei haeddiant a'i werthfawredd, ac yn sylfaen gadarn a digonol i alwad yr efengyl ar bob dyn i gredu yn Iesu Grist, "a chan gredu y caffont fywyd yn ei enw ef." Ni welai ef fod yn deg cyfyngu ymadroddion eang y Beibl am aberth y Cyfryngwr; megys y geiriau "y byd, yr holl fyd, bawb, pob dyn," at ran o'r byd, ac un dosbarth o ddynolryw; ac ni ystyriai fod y ffaith addefedig, mai rhan o'r byd, er ei fod y rhan fwyaf a gedwir trwy Grist, mewn un modd yn annghyson â helaethrwydd yr Iawn. Caiff ef etto lefaru drosto ei hun ar y pen hwn, a sylwa fel y canlyn:Gallai fod rhyw un yn barod i ofyn, Os yw Iawn Crist wedi cael ei roddi, ac yn cael ei ystyried yn ddigon dros holl ddynolryw, Pa fodd na fyddai holl ddynolryw yn gadwedig? I hyn gellir ateb:

1. Fod y gofyniad yn codi oddiar olygu yr Iawn fel taliad arianaidd o ddyled, a'i fod wedi gwneuthur Duw yn ddyledwr i ddynion. Ond mae y golygiad ar Iawn Crist yn gwbl annghyson â'r gwirionedd;—yn gwneuthur achub yn weithred o ddyled gyfiawn ar Dduw i'w thalu, ac nid yn weithred o ras yn Nuw, mewn cysondeb â chyfiawnder, yn ol Eph. ii. 5, 7, &c.

2. Fod Duw wedi cael Iawn ar ei draul ei hun yn unig, ac nid ar draul neb o'r rhai a droseddodd yn erbyn ei lywodraeth, "Yr Arglwydd a edrych iddo ei hun am Oen y poethoffrwm." A chan fod Duw wedi codi i fyny anrhydedd ei lywodraeth ar ei draul ei hun yn mherson ei Fab, ni raid iddo ddiolch i neb o'r drwgweithredwyr; fe fuasai enw da Duw, ac anrhydedd ei lywodraeth, tan gwmwl byth o'u rhan hwy; yn ganlynol nid oedd arno rwymau i achub neb o honynt mwy na'i gilydd. Etto, pan y mae Duw wedi cael anrhydedd boddhaol i'w lywodraeth (er ar ei draul ei hun) efe a all achub heb wneuthur un cam â hwynt; a chan ei fod yn Benarglwydd llawn o ras, penderfynodd i achub y rhai a achubir, ac efe a wna.

Nid oedd yn bossibl i un person dwyfol wneuthur y llall yn ddyledwr iddo, ond trwy rasol gyfammod rhyngddynt, am fod yr un mawrhydi yn perthyn i'r naill fel y llall; a phan mae y Tad yn gwneuthur addewidion i'r Mab y gwel ei had, o lafur ei enaid, ac y caiff ei ddiwallu, &c., mae hyny yn ol cyfammod neu gyngor grasol rhwng y personau dwyfol.

3. Gorchymynir pregethu yr efengyl i bob dyn, ac yn yr efengyl y mae Duw yn gwneuthur cynygiad diragrith o gadwedigaeth i bob dyn fel eu gilydd; yr hyn na allai fod, oni bai fod yr Iawn yn cael ei ystyried gan Duw ei hun (pa fodd bynag y mae dynion yn ei ystyried) yn ddigon yn wyneb ei ddwyfol lywodraeth dros holl ddynolryw.

4. Pe byddai pob dyn sydd yn clywed yr efengyl (ac nid ar Dduw y mae'r bai nad yw pob dyn sydd yn y byd wedi clywed yr efengyl) yn gwneuthur eu dyledswydd, byddai pob dyn sydd yn clywed yr efengyl yn gadwedig. Dyledswydd ddi-ymwad pob dyn sydd yn clywed yr efengyl yw ei chredu, a bydd pob dyn a gredo yr efengyl yn sicr o fod yn dragwyddol gadwedig. "Yr hwn sydd yn credu yn y Mab, y mae ganddo fywyd tragwyddol, &c., a'r hwn sydd heb gredu i'r Mab ni wel fywyd; eithr y mae digofaint Duw yn aros arno ef. Nac ofna, cred yn unig. Canys felly y carodd Duw y byd, fel y rhoddodd efe ei unig—anedig Fab, fel na choller pwy bynag a gredo ynddo ef, ond caffael o hono fywyd tragwyddol." Ni raid i neb ofni fod arfaeth yn erbyn iddo gredu, neu fod Iawn Crist yn rhy fach iddo gredu ynddo, neu fod Ysbryd Duw am ei gadw yn ol o gredu, neu yn anewyllysgar i'w gynnorthwyo yn y gwaith.

Gyda golwg ar yr hyn a ddywedir gan rai, Fod Iawn Crist yn ddigonol dros y rhai a gollir, pe buasai wedi ei drefnu iddynt a throstynt, dywed Mr. Jones fel y canlyn:—" Onid yr un peth yw hyn a dywedyd ei fod yn ddigonol pe buasai yn ddigonol? Llais a rhediad yr ysgrythyr ydyw, 'Y mae pob peth yn barod, deuwch i'r briodas.' Nid y mae pob peth yn barod, pe buasai pob peth wedi ei drefnu, &c., nage, nid fel hyn y llefara y dwyfol wirionedd; ond golyga hwn fod Crist wedi ei drefnu a'i osod i fod yn ddigonol Geidwad i'r holl fyd, ac ar y digonolrwydd hwn y mae galwad gyffredinol yr efengyl yn sylfaenedig; 'Deuwch i'r briodas,' &c. Nid ar yr hyn nid yw (ddigon pe buasai) ond ar yr hyn sydd, y mae galwadau'ı nef ar bechaduriaid i ddyfod at Grist wedi eu sylfaenu."

Dywed Mr. Jones, yn mhellach, "Gesyd y Beibl allan fod cyfammod (neu drefn) Duw yn dal perthynas â phawb. Nid fel rhai heb un berthynas rhyngddynt â'r drefn mwy na chythreuliaid yr ymddygir tuag atynt ddydd a ddaw. Nid felly yr ymddygir tuag atynt yn awr. Onid trwy y cyfammod, neu y drefn hon, y mae holl weinyddiadau daionus a grasol Duw yn cael eu gweini tuag atynt yn y fuchedd hon? Trefnwyd lawn a marwolaeth Crist i fod yn gyfrwng holl weinyddiadau daionus Duw tuag at y byd; a gwadu hyn ydyw esbonio ymaith yr angenrheidrwydd o Iawn er achubiaeth yr eglwys. Os gellir yn gyson â chyfiawnder, ac ag anrhydedd llywodraeth Iehofa, weinyddu un drugaredd tuag at fyd colledig, [heb Iawn] ar yr un sylfaen y gellir achub i fywyd tragwyddol."

Ond tra y daliai ef, yn y modd mwyaf diysgog, anfeidrol helaethrwydd yr Iawn, a bod galwad yr efengyl ar bob dyn yn seiliedig ar anfeidroledd yr Iawn, daliai, yr un mor gadarn, Fachniaeth Crist dros yr eglwys, a'i fod wedi ymrwymo i ddwyn y dorf ddirif a roddwyd iddo gan y Tad, i dderbyn y cymmod, ac i fyw bywyd santaidd ar y ddaear, ac i'w gogoneddu yn y diwedd, a'r cwbl mewn perffaith gysondeb â gogoniant ac anrhydedd gorsedd a llywodraeth y Brenin mawr. Yr oedd ei olygiadau ar Fachniaeth Crist dros yr eglwys yn gyffelyb i'r eiddo ei gyfaill, y Parch. J. Roberts, o Lanbrynmair, y rhai a geir mewn pregeth o eiddo y gwr enwog hwnw, yn y Dysgedydd am Hydref, 1827. Dywed yn ei lythyr at y Parch. John Elias, mewn amddiffyniad i'r Ymneillduwyr,— "Fod Duw er tragwyddoldeb, wedi bwriadu achub y rhai oll a achubir ganddo—Fod gan Iesu wrth farw, olwg neillduol ar rhai a gedwir (er ei fod yn Iawn anfeidrol ddigonol i achub yr holl fyd, ac yn gyfrwng gweinyddiad pob daioni y mae'r holl fyd yn ei gael gan Dduw) i gael etifeddu iechydwriaeth." Afreidiol yw i ni ymhelaethu ar y mater hwn.

Am ddylanwad yr Ysbryd Glân, yr angenrheidrwydd am dano, a'r gwirionedd pwysig mai trwy y dylanwad hwnw, mewn cysylltiad â'r efengyl a moddion moesol eraill, y dychwelir ac y santeiddir pechaduriaid, yr oedd golygiadau Mr. Jones yn oleu, ac yn hollol benderfynol. Nid rhyw rith o ddylanwad dwyfol, i dwyllo y werin, a ddaliai ef allan, ond dylanwad sicr—effeithiol ac uniongyrchol Ysbryd yr Arglwydd ar galon pechadur, yn goleuo y deall, yn ysgogoi yr ewyllys heb ddim trais, yn agor y galon i ddal ar y pethau, ac yn dwyn dynion trwodd yn deg o farwolaeth i fywyd. Mewn sylwadau golygyddol ar y mater hwn, dywed Mr. Jones fel y canlyn:—"Gwyddom am rai o'r awdwyr mwyaf dysgedig, deallus, a chyfrifol, yn gwahaniaethu yn eu barn yn nghylch y modd y mae y dduwiol anian yn cael ei phlanu yn yr enaid. Rhai a ddywedant, mai trwy y gair, fel moddion, y mae hyn yn cymeryd lle. Gwel Eiriadur y Parchedig Thomas Charles, tan y gair Adenedigaeth. Eraill a ddywedant, mai mewn modd digyfrwng y cymer hyn le; megys y rhai a enwyd uchod, &c., (Dr. Lewis, a Dr. Phillips). Sylwn yma, fod y ddwy blaid yn cyd—uno yn y pethau canlynol:—1. Nad yw y gair yn ddigonol ynddo ei hun i roddi anian santaidd i neb. 2. Mai yr Ysbryd Glân yw y Gweithydd. 3. Fod yr Ysbryd Glân yn gweithredu ar galon y pechadur. Gan hyny, yr unig beth y maent yn gwahaniaethu yn ei gylch yn y pwngc hwn ydyw, A ydyw yr Ysbryd Glân yn gwneyd defnydd o'r gair fel offeryn, trwy ba un y cyfrenir y dduwiol anian, neu nad ydyw.—Pan y dywedir ei fod, onid yw y fath ymadrodd yn rhoddi ar ddeall fod gan yr Ysbryd Glân ryw weithrediad ar y gair yn gystal ac ar y galon; oblegid os na olygir hyny, pa ddyben yw son am y gair fel offeryn neu foddion, pa un sydd ynddo ei hyn yn annigonol i ateb y dyben dan sylw? Ac os golygir rhyw weithrediad ar y gair, pan y tybir ei fod yn offerynol i aileni, dymunem yn fawr gael gwybod, pa beth y mae y gweithrediad hwn yn ei wneuthur ar y gair? Oni raid ei fod yn fath o gyfnewidiad arno, megys gordd yn cael ymaflyd ynddi i daro y graig, neu gleddyf yn cael ei finio i drywanu, neu y cyffelyb? Ond, medd yr Arglwydd, 'Ni newidiaf yr hyn a ddaeth allan o'm genau.' Onid mwy priodol, gan hyny, ydyw cyduno â'r awdwyr sydd yn dywedyd, mai yn ddigyfrwng y mae Duw yn planu y dduwiol anian yn yr enaid? Gellid meddwl fod y rhai hyn ar dir cadarn ac eglur, a bod yr ysgrythyrau canlynol, 1 Pedr i. 23; Iago i. 18; 1 Cor. iv. 15; Philemon x., a'u cyffelyb, yn cael eu deall yn fwyaf cywir ganddynt hwy. Mae yr awdwyr eraill yn golygu fod yr adnodau hyn yn gosod allan y modd y mae yr anian newydd yn cael ei phlanu yn yr enaid: ond y rhai hyn yn golygu mai cyfeirio y maent at y modd y mae yr anian newydd yn amlygu ei hun yn ngweithrediadau priodol yr enaid tuag at wahanol wrthddrychau, megys caru, credu, &c. Mae hyny yn cymeryd lle trwy fod y gair yn datguddio gwahanol wrthddrychau i'r enaid; ac oni ellir barnu fod gwaith yr anian santaidd yn ei hamlygu ei hun fel hyn, yn cael ei alw aileni, cenhedlu, ennill, &c., a bod y gwaith hwn o aileni, cenhedlu, ennill, &c. weithiau yn cael ei briodoli i Dduw, ac weithiau i ei weision, yn gymaint a bod llaw gan y naill a'r llall yn mhregethiad y gair. Priodol, debygid, ydyw ystyried fod yn rhaid i'r enaid gael ei fywhau cyn y byddo i'r gair gael un effaith gadwedigol arno. Gwel Act. xvi. 14. Nid oes neb mor ynfyd mewn pethau naturiol a meddwl mai trwy roddi had yn y ddaear y mae hi yn cael ei haddasu i ddwyn ffrwyth! Neu fod yr Arglwydd, trwy dywyniad yr haul yn trosglwyddo llygaid i ddynion! Onid yr un mor afresymol ac anysgrythyrol ydyw dywedyd, mae trwy y gair y mae y dduwiol anian yn cael ei rhoddi yn yr enaid?"

Ymddengys yn eglur y medrai ysgrifenydd y paragraph uchod "lefaru yn groyw," fel Aaron. Nid oes ynddo ddim osgoi, darnguddio, a dywedyd y pethau tebycafi foddio dynion difeddwl. Dylanwad dwyfol gwirioneddol ac uniongyrchol ar y galon sydd gan yr Hybarch C. Jones yn cael ei ddal allan, fel oedd gan Lewis, Phillips, Edwards, Williams, Fuller, Wardlaw, a Payne. Teg hefyd yw nodi, fod Charles, ac enwogion eraill a gydolygent âg ef, mai trwy y gair y mae yr Ysbryd Glân yn aileni pechaduriaid, yn dal gwir ddylanwad dwyfol; ond eu bod yn golygu mai trwy y gair y mae y gwir ddylanwad hwnw yn cyrhaedd y galon. Buasent yn dychrynu rhag y dyb, nad oes unrhyw ddylanwad yn cael ei ddefnyddio yn nychweliad a santeiddiad dynion, ond dylanwad moesol y moddion a arferir tuag atynt; ac felly nid oedd y gwahaniaeth rhyngddynt hwy a'r rhai a farnent mai dylanwad digyfrwng o eiddo yr Ysbryd Glân sydd yn cyfnewid y galon, ddim o gymaint pwys, ond yn unig fel pwnge o gysondeb, ac o gywirdeb, wrth geisio egluro Philosophyddiaeth y gwaith a wneir ar eneidiau y rhai a ddychwelir. Gallai y naill blaid fel y llall weddio yn ddihoced am ddylanwad yr Ysbryd Glân. Ond ni ellir dywedyd felly am y golygiad sydd yn gosod allan mai trwy ddylanwad moesol y moddion yn unig y cyfnewidir calonau pechaduriaid, heb ddim oddiwrth yr Arglwydd, nac yn uniongyrchol, na thrwy y moddion, yn y mater o gwbl; dim ond dynion a'r moddion wyneb yn wyneb, a'r rhai sydd yn credu yn gwneyd hyny o honynt eu hunain, heb un gwir reswm am y gwahaniaeth sydd rhyngddynt hwy ag eraill a wrthodant ddychwelyd at yr Arglwydd. Priodolai hen weinidog Dolgellau ddychweliad pob un a ddychwelir i Benarglwyddiaethol ras Duw, yn gweithredu trwy ddylanwad uniongyrchol yr Ysbryd Glân, ac yn ol bwriad ac arfaeth dragwyddol y Jehofa.

Prin y mae yn angenrheidiol dywedyd ei fod yn credu yn gryffod Arfaeth Duw a dylanwad effeithiol yr Ysbryd Glân, yn berffaith gyson â rhyddweithrediad dyn yn ei ddychweliad, ei santeiddiad, a pherffeithiad y gwaith da ar ei gyflwr. Credai Mr. Jones, mewn cysondeb â'i olygiadau ar byngciau eraill, Fod dyn mewn sefyllfa o brawf yn ngwyneb moddion gras, yn y fuchedd hon; a bod ganddo allu naturiol, fel creadur rhesymol a rhydd, i gydymffurfio âg ewyllys ei Greawdwr; ac nad oes dim yn ei rwystro i wneyd hyny ond ei anallu moesol, sef ei gariad cryf at yr hyn sydd ddrwg, a'i clyniaeth. trwyadl at yr hyn sydd dda; ac felly, bod colledigaeth pob dyn a gollir yn hollol o hono ei hunan, tra y mae cadwedigaeth y rhai a gedwir yn unig o Dduw.

Daliai ef yr athrawiaeth o Barhad y saint yn ffafr Duw, ac mewn santeiddrwydd, ac y dygir pob gwir gredadyn yn ddiogel i'r nef, yn y pen draw; a gwelai yn eglur, Fod cyfiawnder a gras yn cydymddisgleirio yn iachawdwriaeth pechaduriaid, o'r Alpha i'r Omega. Nid rhyw opiniynau oedd y pethau a nodwyd ynddo ef, ond yr oedd ei olygiadau ar byngciau crefydd yn anwylach ganddo na'i fywyd, a glynai wrthynt trwy bobpeth yn ddiwyro, ac yn hollol benderfynol.

Am y pyngeiau o Natur eglwys, a dysgyblaeth Tŷ Dduw, Annibynwr o'r Annibynwyr oedd ein brawd ymadawedig; ond coleddai ei olygiadau neillduol ei hun mewn cariad brawdol at enwadau eraill, ac ewyllys da cyffredinol i bawb a wahaniaethent oddiwrtho. Anfynych y cyfarfyddid a dyn mor rydd a diragfarn ag ef; ac ar yr un pryd nid oedd dim a barai iddo roddi i fyny yr un iot o'r hyn a gredai fel gwirionedd datguddiedig. Yr oedd yn dawel, yn fwyn, a didwrf iawn; ond er hyny, yr oedd mor ddiysgog a brenhinbren y goedwig. Credai fod plant bychain yn gyffredinol yn addas ddeiliaid Bedydd, ac mai trwy daenelliad y mae yr ordinhad hono i gael ei gweinyddu; dadleuodd gryn dipyn ar y materion hyn; ond nid oedd dim culni yn ei feddwl ef tuag at y rhai na fynant fedyddio neb ond plant proffeswyr crefydd, a chredinwyr; na thuag at y rhai a gredant na ddylid bedyddio neb ond credinwyr, a'r rhai hyny yn unig trwy drochiad.

Wedi gosod golygiadau Mr. Jones ar rai o brif byngciau crefydd ger bron y darllenwyr, a hyny, gan mwyaf, yn ei eiriau ef ei hun, terfynir y bennod hon gydag ychydig o sylwadau, nid ar ei Dduwinyddiaeth, ond arno ef ei hunan fel Duwinydd.

1. Yr oedd yn ymhyfrydu yn ddirfawr mewn Duwinyddiaeth. Yn y maes toreithog hwnw y carai lafurio. Yno yr oedd gartref. Yr oedd awydd am ddeall cysondeb y dwyfol wirionedd yn llosgi yn ei fynwes hyd ddiwedd ei oes. Gwelsom lawer henafgwr fel un wedi blino yn myfyrio, yn chwilio, ac yn ysgrifenu ei feddyliau, cyn cyraedd yn agos i bedwar ugain oed; ond nid felly yr oedd ef. Parhaodd y tân o wir awydd i gynyddu mewn gwybodaeth Dduwinyddol i gyneu yn ei enaid ef nes ydoedd yn bedair a phedwar ugain oed, a throsodd, heb oeri dim, na gwanhau o ran ei nerth. Yr oedd awyddfryd dyddiau ei ieuengetyd ynddo yn henafgwr. Yr ydoedd yn wro wybodaeth gyffredinol, yn enwedig yn y pethau oeddynt yn angenrheidiol iddo eu gwybod fel dyn, gwladwr, a gweinidog yr efengyl yn mysg ei gydaelodau eglwysig; ond, yn ddiau, mewn Duwinyddiaeth y rhagorai.

2. Cafodd hyd i ben y ffordd i astudio yr ysgrythyrau pan oedd yn ieuangc, ac nid ymadawodd a hi pan heneiddiodd. Holl ymdrech ambell bregethwr ydyw parotoi pregethau. Dyna a wna ar hyd ei oes; a bydd dyn felly mewn hen ddyddiau heb ddeall na'r ddeddf na'r efengyl, ond odid. Astudio egwyddorion, elfenau cyntaf gwir wybodaeth, yn drwyadl, a wnaeth Mr. Jones; ac wedi hyny yr oedd adeiladu arnynt yn orchwyl esmwyth iddo, mewn cydmariaeth.

3. Yr oedd ef, hefyd, yn feddianol ar y cymhwysderau naturiol a moesol sydd yn anhebgorol angenrheidiol i wneyd Duwinydd da. Yr oedd ei ddeall yn gryf a threiddlym, ei gof yn gynnwysfawr, a'i amynedd mawr yn ei alluogi i sefyll uwchben anhawsderau nes eu gorchfygu. Ac heblaw y pethau yna, yr oedd ei barch i'r gwirionedd, a'r farn uchel oedd ganddo am ei werth a'i bwysigrwydd, yn gynnorthwyol iawn iddo i gael gafael arno. Gwyddai yn dda am ei ddylanwad iachusol ar ei galon a'i fuchedd ei hun yn bersonol, a gwelodd, yn ei oes faith, ei effeithiau daionus ar eraill, a bod cyfeiliorni o ffordd y gwirionedd yn arwain dynion i bob rhyw ormod rhysedd, ac yn distrywio eu defnyddioldeb yn llwyr.

4. Yr oedd yn rhydd iawn oddiwrth bob mympwy yn ei ymchwiliadau am y gwirionedd. Yr oedd penchwibandod yn hollol ddyeithr iddo ef. Nid oedd un awydd ynddo am wneyd ei hun yn hynod, trwy osod allan ryw olygiadau synfawr ar byngciau crefydd, i dynu sylw y byd ato ef ei hun. Gwr dysyml, gostyngedig, a hunanymwadol ydoedd. Dysgybl i Grist a fu ef ar hyd ei oes. "Beth a ddywed yr ysgrythyr?" oedd y cwestiwn y ceisiai gael atebiad iddo ar bob pwnge bob amser.

5. Yr oedd yn dra annibynol ar ddynion yn ffurfiad ei olygiadau. Er cymaint oedd ei barch i'r Doctor Lewis, gwahaniaethai oddiwrtho ar amryw o bethau pwysig. Ni allai weled fod Doctor Williams yn gywir yn mhob peth. Teimlai ef ei gyfrifoldeb personol i Ben yr eglwys am ei olygiadau, yn gystal ag am ei ymarweddiad, a chwiliai a barnai drosto ei hunan, ac anogai bawb eraill i wneyd yn yr un modd. Yr oedd yn awyddus am wybod y modd y syniai gwahanol ysgrifenwyr am wirioneddau y Beibl, yn Buritaniaid ac Annghydffurfwyr, yn Arminiaid a Chalfiniaid, yn Esgobaethwyr a Phresbyteriaid, yn Brydeinwyr, Americaniaid, ac Almaenwyr; ond ni bu yn gaeth ddilynwr i neb, ac ni alwai neb ar y ddaear yn dad.

6. Peth arall tra nodedig yn Mr. Jones fel Duwinydd, oedd ei fanylrwydd. Ni ymfoddlonai, fel y gwna rhai, ar gymeryd termai Duwinyddol i mewn i'w gyfundraeth heb drafferthu yn nghylch eu hystyron. Mynai ddeall yn drwyadl beth a olygir pan arferir geiriau fel etholedigaeth, cyfammod, cynnrychiolaeth, cyfrifiad troseddiad, dylanwad dwyfol, adenedigaeth, a pharhad mewn gras. Mynai wybod beth a olyga ysgrifenwyr o wahanol farnau wrth y termau uchod, a'u cyffelyb. Profai bobpeth, a daliai yr hyn a gydwybodol farnai yn dda. Chwiliai mor fanwl Beth sydd wirionedd, fel na ddiangai unrhyw beth, pa mor fychan bynag y byddai, heb ei sylw a'i ystyriaeth. Yr oedd fel dyn yn pwyso aur, o ran manylrwydd. Adwaenai gychwynfeydd camgymeriadau. Dilynasai hwynt i'w ffynhonau, o ba rai y tarddent allan. Ni foddlonid ef fod unrhyw beth yn wirionedd, heb iddo yn gyntaf ei olrain i'w darddle yn yr ysgrythyrau, ac i'r gwirionedd tragwyddol ac anfeidrol sydd yn y Duwdod. Nid yn ei bregethau a'i gyflawniadau cyhoeddus yr ymddangosai y manylrwydd hwn egluraf, ond yn ei ysgrifeniadau, ac yn arbenigol yn ei ymresymiadau â'i gyfeillion ar y ffordd, ar y maes, ac ar yr aelwyd. "Ac am ben hyn oll, gwisgai gariad, yr hwn yw rhwymyn perffeithrwydd." Cydoddefai a'r gwan ei feddwl; dysgai yr anwybodus yn amyneddus; ymresymai tra y parhai gobaith am wneyd lleshad trwy hyny; gobeithiau y goreu am bawb; cydnabyddai ei ffaeledigrwydd ei hun; a hawl eraill i farnu drostynt eu hunain fel yntau; ac ni arferai lymder at neb o'i wrthwynebwyr, tra y cadwent yn weddol ar lwybr gweddeidd-dra, ac hyd nes y byddai eu haerllugrwydd a'u hynfydrwydd wedi myned tros ben terfynau pob goddefgarwch dynol. Er hyn oll, pan fyddai angenrheidrwydd yn galw, medrai ergydio i bwrpas, a dywedyd pethau a deimlid i'r byw am amser maith.

Yr anhawsder penaf i ddarlunio Mr. Jones fel Duwinydd, yw ei gyflawnder a'i berffeithrwydd. Yr oedd yn hynod o ddigoll ryw fodd. Fel dyn perffaith, heb un linell ddiffygiol yn ei wynebpryd, nac aelod llesg a nychlyd yn ei gyfansoddiad, felly, yntau, yr oedd yn gymesurol, yn llawn, a chryf, yn mhob rhan o'i Dduwinyddiaeth: y pethau a berthynent i Dduw a'i lywodraeth, ei arfaeth a'i ras, a'i holl waith yn iachawdwriaeth dynion; yn nghyd â sylfaen dyledswydd dyn, ei waith yn ei holl gysylltiadau, a'i gyfrifoldeb am dano yn y diwedd.

Dyna rai o ddelwau meddwl yr hybarch Cadwaladr Jones fel Duwinydd; a rhai enghreifftiau teg o'i olygiadau ar yr athrawiaeth sydd yn ol duwioldeb.

Os nad oedd yn feddianol ar gyflymdra meddyliol Mr. Williams, o'r Wern, i ganfod a golwg eryraidd, megys ar unwaith, gysondeb neu annghysondeb gwahanol olygiadau a gair Duw, ac a gwir athroniaeth Cristionogaeth; os nad oedd ynddo, yn wastadol, y llawnder oedd yn ei gyfaill Mr. Morgan; os nad oedd ei rym a'i dân meddyliol yn gyfartal i'r eiddo Mr. Jones, Llanuwchllyn, neu Mr. Breese, o Liverpool; gallwn ddywedyd, yn ddibetrus, ei fod, pan gaffai hamdden i fanwl astudio unrhyw bwnge, yn llawn mor sicr o gyrhaedd cysondeb âg ef ei hun, ac â'r ysgrythyrau, ag yr un o'r enwogion uchod. Credu yr ydym mai mewn ymresymiaeth deg a manwl, gyda chyfeillion, yn ei gongl gartref; neu, pan wesgid yn drwm arno gan wrthddadleuwyr ystrywgar, mewn unrhyw amgylchiad, y deuai ef allan ynei nertha'i loewder. Magodd y cynnulleidfaoedd oeddynt dan ei ofal yn debyg iawn, o ran eu hoffder o Dduwinyddiaeth, iddo ef ei hunan; a phan fu farw, collodd yr Annibynwyr yn Nghymru un o'r Duwinyddion goreu yn eu plith.