Neidio i'r cynnwys

Cofiant D Emlyn Evans/Cerddoriaeth Gymreig ddechreu'r Ganrif

Oddi ar Wicidestun
Rhagolwg Cofiant D Emlyn Evans

gan Evan Keri Evans

Yr Amgylchfyd agos

II.
CERDDORIAETH GYMREIG DDECHREU'R GANRIF.

GAN fod ei hanes yng nghlwm wrth hanes cerddoriaeth ei wlad, a chan y cydnabyddir fod ganddo hawl i siarad ar y mater, caiff ef ddisgrifio sefyllfa gerddorol ei wlad yn ystod hanner cyntaf y ganrif ei ganed ynddi:—

Y mae rhai ohonom yn ddigon hen i gofio sefyllfa cerddoriaeth yn ein plith tua hanner canrif yn ol,[1] ac felly yn medru sylweddoli y gwahaniaeth rhwng yr hyn ydyw yn awr a'r hyn ydoedd yr adeghonno. Ni fydd hynny yn gynhorthwy uniongyrchol iddynt ffurfio barn fanwl am yr hyn ydoedd hanner canrif arall cyn yr adeg honno, ond gall fod o help,acnid oedd y gwahaniaeth a'r cyfnewidiadau yn scfyllfa cerddoriaeth, fel ag mewn popeth trwy y wlad a'r deyrnas, yn agos cymaint yn yr hanner canrif cyntaf ag yn yr hanner olaf. Yn wir, mor belled ag y mae a fynno â cherddoriaeth Gymreig, gellir dneyd fod cyfnod ein dadeni yn dechreu gyda'r hanner olaf o'r ganrif.

"Ond i droi yn ol i'w dechreu, yr oll o gerddoriaeth Gymreig argraffedig a feddem i wynebu'r ganrif oedd ychydig alawon coralaidd oeddent wedi eu cyhoeddi gyda Salmau Edmwnd Prys (1621), ac o waith Ifan Williams mewn Llyfr Gweddi Cyffredin, o'r hwn y cyhoeddwyd ail argraffiad yng Nghaergrawnt yn 1770. Dyna swm a sylwedd ein cerddoriaeth gysegredig hyd ag y gwyddis. Nid oedd ein sefyllfa yn llawn mor anghenus o barthed i'n cerddoriaeth genedlaethol, gan fod Parry ddall, o Rhiwabon, wedi anrhegu ei wlad ag Ancient British Music yn 1742; am yr hwn gariadus lafur —er na chynhwysa'r gyfrol ond 24 o alawon— bydded ei goffadwriaeth am byth yn fendigedig gan bob cerddor Cymreig. Yn 1752 dygodd allan gyfrol arall, ac eto y drydedd yn 1781. Ac yn 1784 cyhoeddodd Bardd y Brenin ei Relicks— cyfrol dra phwysig, yr hon a ddilynwyd gan eraill yn 1794 (helaethiad o'r un flaenorol), 1802, ac 1820.

"Mae'n anodd gwybod pa sut y cafwyd ni yn y sefyllfa dlodus hon ynglŷn â'n cerddoriaeth gysegredig; ac hyd yn hyn y mae y cwestiwn yn un nad ydym wedi cael un math o oleuni boddhaol arno. Efallai y datguddir y peth ryw ddydd, ond am y presennol rhaid ymfoddloni ar y ffaith fel y mae uchod.

"Ar ddechreu y ganrif, hefyd, nid oedd gennym, hyd ag y gwyddom, na gramadeg cerddorol yn yr iaith, nac unrhyw fath o draethawd neu erthygl yn ymdrin ag egwyddorion y gelfyddyd. Gwyddom, bid siwr, am lyfr John Dafydd Rhys, a'r hyn a geir yn y Myryrian am ysgrif-lyfr Robert ab Huw o Fodwgan, ac eraill, ond nid yw hyn oll nac yma nac acw, cyn belled ag y mae a fynno â ni yn awr.

"Yn 1816 cyhoeddodd John Ellis, Llanrwst, ei Fawl yr Arglwydd yn cynnwys rhai cyfarwyddiadau; Owen Williams o Fôn, ei Gamut—cyfieithiad o Dibdin—yn 1817; yn 1828, John Ryland Harries, Abertawe, Grisiau Cerdd Arwest; a William Owen, Drenewydd, y Caniedydd Crefyddol, yr hwn hefyd a gynhwysai gyfarwyddiadau yn y wyddor. Credwn mai dyma ein rhai cyntaf, ac er mor brin y wybodaeth a gyfrannent, ac er mor hynod o ddilun a gwallus oeddent o ran cynllun, cynhwysiad, a phopeth, yr oeddent yn well na dim, ac yn rhyw rag-arwydd fod gwawr well ar dorri. A'r un fath y gerddoriaeth a geid ynddynt; fel ag yn Brenhinol Ganiadau Seion Owen Williams, a gyhoeddwyd yn 1819. Yn wir, wrth edrych dros Mawl yr Arglwydd, er engraifît, mae'n anodd gwybod pa sut y gellid gwneud dim o'r darnau—os y cenid hwy hefyd o gwbl fel yr oeddent.

Yn perthyni'run cyfnod yr oedd John Williams, Dolgelley, David Harris, Carno, a D. J. Morgan, Llechryd; dynion yn ddiau a lafuriasant yn galed, ac i oreu eu gallu. Y mae rhai o donau ac anthemau y tri, yn enwedig eiddo J. Williams a D. J. Morgan, yn parhau yn eu blâs gyda ni hyd heddyw, a'r un fath, rai gan John Ellis, er yr ymddengys fod D. Harris yn llawn cymaint, os nad mwy, o gerddor a'r un ohonynt.

"Yn y cyfnod boreol hwn yr oeddyn arfer gyffredin i gyhoeddi tonau mewn cyfnodolion fel Seren Gomer; a gwnaeth rhai o'r goreuon (o ran eu hawenyddiaeth) eu hymddangosiad cyntaf drwy gyfryngau felly; ond yr oeddent fel rheol yn boenus o wallus a diamcan. Gwnaeth Ieuan Glan Geirionydd wasanaeth buddiol drwy ei ysgrifau gwyddorol yn y Gwladgarwr (Caerlleon). Ond pan gyrhaeddwn 1838 daeth 'anadliad o Lanidloes' â Gramadeg John Mills, yr hwn a ddilynwyd yn 1842—3 gan Arweinydd Cerddorol Richard Mills; tra yr oedd Caniadau Seion wedi gwneud eu hymddangosiad yn 1840— yr Atodiad yn canlyn yn 1842. Bellach dechreuwyd cyfnod newydd, ac er nad oedd y Gramadegau a'r Casgliadau hyn mewn un wedd yn berffaith, yr oeddent yn anhraethol uwch na dim a feddem o'r blaen, pwyntient i'r cyfeiriad priodol, a buont yn foddion i roddi ysgogiad na fu ei gyffelyb cyn hynny i gerddoriaeth Gymreig . . . . . .

"Y mae un arall o weithwyr difefl Llanidloes yn hawlio cymeradwyaeth a chrybwylliad, sef Hafrenydd, yr hwn a wnaeth wasanaeth diamheuol drwy gyhoedd' y Salmydd Cenedlaethol (1845) a'r Ceinion (1852), drwy y rhai y dygodd y genedl i ymgydnabyddiaeth â nifer o gorawdau y prif feistri, Handel, Haydn, Mozart, etc.

"Amhosibl cofnodi yn agos yr oll o'r casgliadau o bob math a maint a gyhoeddwyd yn y blynyddau hyn. . . . . Amhosibl hefyd crybwyll enwau chwarter y rhai fuont yn fwy neu lai gweithgar a blaenllaw fel athrawon ar hyd y wlad, ac fel cyfansoddwyr . . . . . .Y mae rhai o'r casgliadau (a gyhoeddwyd wedi 1850) yn perthyn o ran eu cynnwys a'u teilyngdod i'r oes flaenorol, megis Y Blwch Cerddorol (1852). Am gyffelyb reswm gosodir J. D. Jones yn y cyfnod nesaf, er iddo gyhoeddi y Perganiedydd yn 1847; a Gramadeg Alawydd yr hwn a gyhoeddwyd (argraffiad cyntaf) yn 1848.

"Yn yr hanner gyntaf o'r ganrif ymddanghosodd nifer o gasgliadau o'n halawon cenedlaethol, heblaw eiddo Bardd y Brenin, megis Casgliad Russell yn 1808—adargraffiad gan mwyaf o alawon cyhoeddedig eisoes gan Bardd y Brenin; casgliad Thornsen, Edinburgh, yn 1809 ac 1811 (gyda chyfeiliannau gan Haydn, Beethoven, etc.); amryw gan John Parry (Bardd Alaw) yn dechreu yn 1809 ac yn cyrraedd i 1839 ac 1848, pryd y dygodd allan ei Welsh Harper (Cyfrolau I a II). Yn yr un flwyddyn cyhoeddwyd British Melodies gan Master Joseph Hughes pan nad oedd ond 9 mlwydd oed. Yr oedd Richard Roberts wedi cyhoeddi Cambrian Harmony yn flaenorol i hyn (1829), ac ymddanghosodd casgliad gan Hayden, Caernarfon, yn 1833. Dyna fraslun o'r prif gasgliadau hyd nes y cyrhaeddwn 1844, pryd y daeth Miss Williams, Aberpergwm, a'r Ancient National Airs of Gwent and Morganwg allan—y pwysicaf yn ddiameu er ymddangosiad cyfrolau Parry Ddall, a Bardd y Brenin, ac i raddau llai rai o eiddo Bardd Alaw. Yn 1845 cyhoeddodd ieuan Ddu, Merthyr, Y Caniedydd Cymreig—' The Cambrian Minstrel.' ***** "Yr Eisteddfod gyntaf o bwys a gynhaliwyd yn y ganrif oedd un Caerfyrddin yn 1819, yn yr hon y llywyddai Dr. Burgess, Esgob Tyddewi, ac yr oedd yn bresennol yr hen fardd Iolo Morganwg. Mewn ystafell yng Ngwesty yr Ivy Bush y cynhelid hi, ac yr oedd y gweithrediadau cerddorol yn gyfyngedig, yn ol yr hanes sydd o'n blaen, i bedwar o delynorion cyflogedig, y rhai a chwareuent ar brydiau 'rhag blino y gynulleidfa â gormod o undonaeth'—barddol a thraethodol fel y casglwn, gan y dajrlIenid y farddoniaeth a'r traethodau buddugol yn y cyfarfod! Cafwyd 'Duw Gadwo'r Brenin' gan y telynorion, ac wedyn canwyd yr unrhyw gan dri o aelodau Cymdeithas Gyngherddawl Caerbaddon,' a chaed cystadlu ar y delyn am delyn arian, Bardd y Brenin yn beirniadu. Yn Eisteddiod Cadair Merthyr, 1825, yr oedd ariandlws i'r datganydd goreu, ac eto i'r telynor cyntaf ac ail oren. Dyma'r datganydd wedi gwnead ei ymddangosiad bellach; ac yn Eisteddfod Gadeiriol Gordofigion Lerpwl 1840, yr oedd y cyfansoddwr yn dechreu dod i'w eiddo ei hun, yn ychwanegol at ei faeth—frodyr, y telynor a'r datganydd, gan y cynhygid gwobr go hael am 'Amrywiadau' ar dôn a roddid, ac eto am y 'dôn Gymreig newydd' oreu, Bardd Alaw yn beirniadu. Dylem fod wedi crybwyll Eisteddfod Caerdydd yn 1834—un hytrach nodedig i ni yma, gan mai ynddi hi y daeth Brinley Richards allan gyntaf—yntau am "Amrywiaethau" (ar Llwyn Onn) o dan feirniadaeth yr un beirniad a'r blaenorol.

"Ond prif Eisteddfodau y cyfnod hwn oedd eiddo Cymreigyddion y Fenni a gychwynwyd yn 1834,— enaid a bywyd y rhai oedd Arglwyddes Llanofer,— er yn ddiau fod eu dylanwad, fel yr ymddanghosant yn y presennol, yn fwy mewn cyfeiriadau llenyddol na cherddorol.

"Yn y Gogledd yr oedd eisteddfodau clodus Bethesda yn ein cyfoethogi ag anthemau Lloyd, Cyndeyrn, Alawydd, Eos Llechid, ac eraill; ac ar adeg ychydig yn ddiweddarach, Gymdeithas Gerddorol Ddirwestol Aberdâr, gyda chyfres o gyfansoddiadau baddugol yn anthemau, canigau, etc."

Dywed fod J. Ambrose Lloyd, "blaen—redegydd. eneiniedig y Gymru gerddorol oedd i ddod ar y maes ers blynyddau" ond heb "ddyfod i'w lawn. dŵf."

Mewn ysgrif arall o'i eiddo darllenwn : Gydag ymddangosiad J. Williams, J. Ellis, ac eraill yn y Gogledd, a D. J. Morgan yn y De, yr oedd arwyddion cynhyddol o adfywiad cerddorol drwy y wlad. . . . .

"Pan y deuwn at y Millsiaid o Lanidloes yn y Gogledd, a Ieuan Ddu, Rosser Beynon, ac eraill. o hen ysgol Merthyr yn y De, yr ydym yn cael y wlad yn myned rhag ei blaen mewn ystyr gerddorol yn gyflymach fyth. . . .

"Yn fuan ar ol hynny (1848) cyhoeddodd Alawydd, Bethesda, ei Ramadeg-un o'r gweithiau bychain. egwyddorol goreu a feddwn hyd y dydd hwn; ac heblaw hyn gwnaeth wasanaeth pwysig mewn cyfeiriadau eraill, drwy ffurfio dosbarthiadau, sefydlu cymdeithasau, perfformio oratoriau, a chynnal eisteddfodau fuont yn foddion i ddwyn rhai o'r cerddorion blaenaf i'r amlwg.

"Wrth daflu golwg yn ol ar yr ad-ddeffroad (renaissance) cerddorol tua diwedd yr hanner gyntaf o'r ganrif bresennol, bydd i ni, fel un, edrych bob amser gyda diolchgarwch tuag at Lanidloes, Merthyr, a Bethesda, fel y tri chanolbwynt y daeth ein goleuni pennaf ohonynt."

Nodiadau

[golygu]
  1. Gwêl Y Cerddor ddechreu 1901.