Neidio i'r cynnwys

Cofiant D Emlyn Evans/Yr Amgylchfyd agos

Oddi ar Wicidestun
Cerddoriaeth Gymreig ddechreu'r Ganrif Cofiant D Emlyn Evans

gan Evan Keri Evans

Dydd y Pethau Bychain

Ei Gyfnod Cyntaf, 1843—1860.




III.

YR AMGYLCHFYD AGOS.

DYNA'r amgylchfyd cerddorol cyffredinol yng Nghymru pan anwyd Emlyn, ac ymlaen i dymor ei blentyndod—amgylchfyd dan oleuni gwan ond cynhyddol oedd yn treiddio o ganolbwyntiau mwy disglair mewn ardaloedd a phersonau, ac yn cael ei groesawu a'i fwyhau gan feddyliau cydnaws a derbyngar mewn mannau eraill. Ond rhaid i ni fwrw trem ar ei deulu a'i amgylchfyd neilltuol cyn gweld pa fodd ac i ba raddau y manteisiodd ar y cyfleusterau oedd yn ei afael.

Ganwyd ef Medi 21ain, 1843, ym Mhen'ralltwen, ffermdy bach ar y bryn uwchlaw dyffryn Ceri, yn ymyl lle'r ymgyll yn nyffryn mwy y Teifi. Gwneir y fferm i fyny o fryndir uchel, iach, mwy cyfarwydd â chân yr uchedydd nag eiddo'r fronfraith, ag eithrio dwy "fron " sydd yn disgyn yn dra serth i'r cwm islaw, a dôl ar waelod y cwm, lle gyrrid y gwartheg yn yr haf, pan fyddai'r dŵr yn brin ar y bryniau. Y mae'r olygfa o ymyl y tŷ, ac yn arbennig o gaeau uchaf y fferm, yn dra swynol ac amrywiol, ac yn rhoddi cipolygon ar gyrion dyffryn Teifi yn ymyl, a golwg fwy agored ac ehangfawr yn y pellter, o'r Foelfre i'r Frenni Fawr a mynyddres Preseli. Yn yr amgylchfyd naturiol hwn, gyda'r uchedydd a'r awel "awel o'r mynydd ac awel o'r môr"—y treuliodd Dafydd bach flynyddoedd cyntaf ei fywyd "ymhell o sŵn y dref." Yn wir, nid oedd tref ddi—sŵn Castellnewydd Emlyn i'w gweld, lai fyth i'w chlywed oddiyno, ag eithrio sŵn y Ffrwdwen dan ei chastell pan fyddai'r tywydd yn braf—fel y deuai sŵn "ffrydiau Cenarth" o gyfeiriad arall ag addewid am law—fel y tybid.

Enwau ei dad a'i fam oedd Evan a Mary Evans; ond dadcu a'i famgu (o ochr ei fam), sef Dafydd a Mary Jones, oedd yn byw yn y fferm; yn unig arhosai ei fam, yr hon oedd y ferch hynaf, yn ei hen gartref wedi dydd ei phriodi. Yr oedd ei famgu— a alwai ef y pryd hwnnw yn "Mam"—yn orhoff ohono, gymaint felly fel y cafwyd ei deganau chware bychain wedi eu trysori ganddi wedi dydd ei chladdu. Clywsom ddweyd fod yr Iberiad yn gryf yn Emlyn. Os oedd, yr oedd wedi ei amhuro gryn lawer— efallai ei wella—gan elfennau eraill. Yr oedd gwaed Ysgotaidd, yn ol yr hanes teuluaidd, drwy ei "famgu Pen'ralltwen," yn rhedeg yn ei wythienau. Yr oedd mam ei famgu yn ferch y "Dinas"—y fferm nesaf at Dolgoch yn Emlyn yn nyffryn Ceri, a phan ddaeth Ysgotyn o'r enw James yn arolygwr (supervisor) i Gastellnewydd Emlyn, syrthiodd y ddau mewn cariad â'i gilydd. Yr oedd ei rhieni hi yn dra anfodlon i'r gyfeillach, a gwrthodasant eu cydsyniad briodas; ond yr oedd ei chariad hi yn gryfach na bygythion a chloion, a'r canlyniad fu iddi gael ei dadwaddoli. Wedi i'r ddau symud i Fryste, bu hi farw, a thynherodd calon hen wraig y Dinas—y hi, mae'n debyg, oedd yn gwisgo'r llodrau—yn ddigon i dderbyn ei hwyrion i'w haelwyd, ac i ymgymryd â'u dwyn i fyny. Eu henwau oedd James, Dafydd a Mary. Daeth James i gael ei adnabod yn ddiweddarach. ym myd llên fel "Iago Emlyn": bu'n weinidog gyda'r Annibynwyr yn Park St., Llanelli, ac yna yn Clifton, lle y bu farw.

Yr oedd "John Jones, Pontceri," brawd ei dadcu, yn dra adnabyddus fel gwleidydd lleol—yn Radical o flaen ei oes. Ef, a'i frawd o Ben'ralltwen, oedd prif adeiladwyr yr ardal—cyfuniad o amaethu ac adeiladu a erys yn y teulu o hyd.

Yr oedd ei fam yn wraig ragorol, yn fam dda, dduwiolfrydig ei hysbryd a dichlyn ei chymeriad; perchid a cherid hi gan bawb o'i chydnabod. Ond oddiwrth ei dad yr etifeddodd ei alluoedd meddyliol—y tu allan i gerddoriaeth. Yr oedd ef yn un o gynheddfau cryfion uwchlaw'r cyffredin; ac er na chafodd ond rhyw chwarter blwyddyn o ysgol (yn y Betws, Glynarthen), ac nad oedd ond gweithiwr caled yn y gweithfeydd dur ym Mynwy, ymrôdd i ddisgyblu ei feddwl yn ei oriau hamdden, nes medru siarad ac ysgrifennu Saesneg yn gystal â Chymraeg, a dod i feddu gwybodaeth gyffredinol eang mewn Ieithyddiaeth, Rhifyddeg, Hanesiaeth, Gwleidyddiaeth, Gwyddoniaeth boblogaidd, a Diwinyddiaeth. Casglodd lyfrgell dda,——a mwy na hynny, yr oedd ei gydnabyddiaeth â hi yn fwy cyfartal â'i chynnwys nag ydyw gyda llawer ohonom. Ei werthfawrogiad ef o fanteision addysg, yn wyneb ei anfanteision ei hun, sydd yn cyfrif am y ffaith fod ei fab hynaf wedi cael gwell addysg na'r cyffredin o werin Cymru'r amser hwnnw. Deilliai ef, ar ochr ei fam, o'r Peregrines a ddaeth i fyny o Benfro; wele amhuredd arall eto yn y gwaed Iberaidd!

Pan oedd Dafydd bach yn bedair oed, gadawodd ei dad a'i fam hen aelwyd Pen'ralltwen, ac aethant i fyw i'r Drewen, er y treuliai ef wedyn lawer o'i amser ym Mhen'ralltwen gyda'i famgu. Pan yn chwech oed, dechreuodd fynd i'r ysgol i Fryngwyn, pellter dair milltir o'r Drewen; sêl y tad dros addysg fore, ac absenoldeb cyfleusterau agosach, a barai fod plentyn mor ieuanc yn gorfod cymryd taith ddyddiol mor bell; a mawr oedd pryder a helynt y fam i'w hebrwng ran o'r ffordd bob bore, ac eilwaith i'w gyfarfod yn yr hwyr. Yn ffodus, yr oedd Pen'ralltwen ryw dri lled cae o ochr y ffordd wedi pasio'r tyle. cyntaf, ac felly'n torri'r daith i'r teimlad pan na fyddai amser yn rhoddi cyfle i alw, er mai nid yn aml y byddai'n ddigon annhrugarog i hynny. Ond wedi peth amser cafwyd gwaredigaeth oddiwrth yr helynt. dyddiol hwn i draed a chalon drwy gychwyniad ysgol yn y Drewen. Bu dan dri ysgolfeistr yno na feddent ar un cymhwyster arbennig i'r swydd: ond arhosodd clod un ohonynt, o'r enw Wheeler, yn hir yn y fro fel un a allai ysgrifennu "fel copperplate." Ar ol bod nifer o flynyddoedd yno, symudwyd ef i "ysgol yr Eglwys" yng Nghastellnewydd, lle'r oedd ysgolfeistr o allu a medr—yn neilltuol fel rhifyddwr— O'r enw William Williams ("Wil y Cwm "). Bu Herber Evans hefyd yn yr un ysgol; ac er mai braidd yn ddiystyrllyd y sieryd ef amdani oherwydd ei stŵr, yr oedd gan Emlyn barch calon i'w hen feistr; ymwelai ag ef, a gyrrai anrhegion iddo hyd y diwedd. Yr oedd yn ffasiwn y dyddiau hynny i adysgrifio y problemau rhifyddol a weithid allan mewn ysgriflyfrau, i ddangos olion cynnydd y disgybl i'r rhieni synfawr, gellid meddwl, a chroniclo ei gampau i'r oesoedd i ddod yn absenoldeb arholiadau a graddau. Y mae eiddo Emlyn ar gael, a dangosant raddau o ysgolheigdod a threfnusrwydd sydd yn hynod mewn un mor ieuanc (nid oedd ond deuddeg oed yn gadael yr ysgol). Profant hefyd fod yr ysgolfeistr yn gallu cyfrannu addysg a mynnu trefn feddyliol, gan nad faint o stŵr oedd yn yr ysgol. Dangosant, ymhellach, mai nid wedi mynd allan i fyd busnes y dysgodd Emlyn y destlusrwydd a nodweddai ei holl waith.

Y mae un yn fyw heddyw[1]—Mr. J Lloyd Davies, Casnewydd ar Wysg—oedd nid yn unig yn yr ysgol honno yr un pryd ag Emlyn, ond oedd hefyd yn dra chyfeillgar ag ef, ac a barhaodd felly hyd y diwedd— buont gyda'i gilydd " ar y ffordd " (fel Commercial Travellers) am flynyddoedd wedyn. Y ddau beth a saif yng nghof Mr. Davies amdano yw ei fywiowgrwydd direidus a chyflymder ei ddeall. Yr oedd Mr. Davies beth yn hŷn na'i gyfaill; ond hwynthŵy ill dau oedd top boys yr ysgol. Eto nid rhwydd credu i'w feistr ddweyd amdano, pan yn ddeuddeg oed, nad oedd ganddo ddim pellach i'w ddysgu iddo—ond dyna'r stori. Pan oedd ef yn ysgol y dref, yr oedd draper o'r enw Denis Lloyd yn cadw "Siop y Bont" — y tŷ nesaf ond un at bont Emlyn—ac wedi braidd ymserchu yn y llanc fel prentis dymunol, wrth ei weld yn pasio'n ol a blaen i'r ysgol. Ac er yn llawn nwyf a chware, nid oedd yn rhyw gryf iawn pan yn hogyn, a diau fod ei fam—a'i famgu, bid siŵr— yn ei ystyried yn rhy lednais i fod nac yn amaethwr nac yn adeiladydd, fel ei dadcu. Felly prentisiwyd ef yn Siop y Bont, lle y bu am dair blynedd. Amser caled gafodd yma —oriau hirion, yn fwy felly o lawer nag a geir ar hyn o bryd, alluniaeth anghydnaws â chylla gwan, tra nad oedd pawb mor garedig iddo a'i feistr. Ond treuliai ei Suliau yn y Drewen, a Phen'ralltwen a Phontgeri, lle'r oedd ganddo gartref arall a chroeso mor gynnes ag un o'r lleill gan ei ewythr, John Jones, a'i ddwy fodryb. Dyddiau gwynion oedd y rheini pan gaffai ei draed yn rhydd o flin gaethiwed y siop, a pharhaodd y gwynder ar yr atgof amdanynt hyd y diwedd.

Yr oedd yn awr yn aelod yn eglwys y Drewen, ac yn canu yn y côr, fel y cawn weld. Y gweinidog rhwng 1840 ac 1850 oedd Robert Jones,—dyn a barodd gryn lawer o ymrafael yn yr eglwys, ac a fu farw ar dir gwrthgiliad. Nid oedd yr awyrgylch yn ffafriol i ffyniant gwir grefydd, a gadawodd llawer yr eglwys —tadcu Pen'ralltwen yn eu mysg. Eto, araf iawn y ciliai'r gogoniant oedd yno yn amser Benjamin Evans a John Phillips (mab Dr. Phillips, Neuaddlwyd) pan ddeuai y cannoedd ynghyd o bob cyfeiriad, hyd yn oed dros afon Teifi. Codwyd y llanc o leiaf yn adlewyrch y gogoniant hwn, er mai cymylog a chymysglyd oedd yr awyrgylch agos. Cyn ei ddilyn i Forgannwg, geilw ei ogwydd a'i fanteision cerddorol fel plentyn a llanc am sylw byr.

Nodiadau

[golygu]
  1. 1914