Neidio i'r cynnwys

Cofiant D Emlyn Evans/Masnach: Y Gan

Oddi ar Wicidestun
Mae'Nghalon yng Nghymru Cofiant D Emlyn Evans

gan Evan Keri Evans

Pan fyn y daw

X. MASNACH: "Y GAN."

YN 1871 cawn ef yn cychwyn ar gwrs newydd ym myd masnach fel trafaeliwr masnachol (commercial traveller)—cwrs a barhaodd am lawn ugain mlynedd. Na thybied y darllenydd am foment ei fod allan o'i elfen yn y byd hwn, nac mewn hualau ar y ffordd." Ni fyddai mor gywir dweyd fod ei ymroddiad i'w fasnach yn fach ag a fyddai dywedyd fod ei gariad at gân yn fwy. Yr oedd yn ddyn busnes o'r iawn ryw,—yn fyw, yn ymroddus, yn bendant. Er ei eni gyda thueddfryd delfrydol cryf, nid gwannach mo'i ymhyfrydiad ym myd actau pendant, ym myd amser a lle. Ond os oedd y duedd yn gynhenid gryf ynddo, cafodd fantais i'w datblygu a'i disgyblu yn ei fusnes, yn gystal yn y safleoedd o gyfrifoldeb a lanwai yn Cheltenham a'r Drenewydd, a phan yn trafaelu o dref i dref ar ran y cwmni. Yr oedd yn rhaid iddo fod yn fanwl, yn brydlon, i'w air, neu ynteu fethu. Yn wir yr oedd ei ymagweddiad tuagat y byd masnachol, nid yn un o atgasrwydd na chŵyn hyd yn oed, ond yn un o ymhyfrydiad ac edmygedd; clodforai ei bwerau disgyblaethol, ac edrychai arno fel maes prawf talentau tybiedig, ac addysg ysgol a choleg. Bu'r ddisgyblaeth a gafodd yn ei fasnach o help mawr iddo yn ei waith arall yn ddiweddarach; ni allsai byth wneuthur y gwaith a wnaeth, a chyda'r fath effeithiolrwydd, onibâi am y trefnusrwydd a'r trylwyredd a ddysgodd gyda'i fasnach. Bid siŵr ni fedrai lai na chondemnio oriau meithion y faelfa yn ei amser ef. Ar y cyfrif hwnnw, yr oedd bywyd y trafaeliwr, gyda'i symud a'i amrywiaeth, a'i helynt hyd yn oed, yn un o waredigaeth iddo. Deuai y prif anhawster i mewn gyda newid llety'n gyson, byw mewn gwestai ddydd ar ol dydd, ofn afiechyd nos, yr haint a rodia yn y tywyllwch," ac ymgyfaddasu i'r deithriaid na allai osgoi dod i gyffyrdd—iad â hwy. Oblegid y mae'n rhaid inni gofio'i fod yn un o deimladau llednais, a'i fod wrth natur yn un o'r rhai mwyaf gwylaidd a neilituedig; eto, drwy benderfyniad di—ildio, gorchfygodd ogwydd natur a rhugl amgylchoedd anghydraws, nes dod bob yn dipyn i deimlo'n dra chartrefol yn y byd newydd, ac i sugno'i bleser heb ei boen. Daeth yr elfen yma o "boen" bywyd y trafaeliwr i fwy o amlygrwydd yn ddiweddarach gyda gwanychiad ei iechyd, a phan oedd nychtod yn gydymaith cyson, ac yntau'n mhell oddicartref.

Un elfen arbennig o swyn iddo ef yn y math hwn ar fywyd oedd y rhoddai gyfle iddo yn y blynyddedd cyntaf yn bennaf—i ymgydnabyddu â'r Gymru. a garai mor fawr. Oblegid fe deimlai ef ddiddordeb, nid mewn "gweld y wlad" yn gyffredinol, a chael golygfeydd newydd i gyson oglais ei lygaid a deffro cywreinrwydd arwynebol, ond, fel un yn meddu ar reddf hanesyddol gref, mewn taleithiau a threfi, a phentrefi, y byddai iddynt hanes a diddordeb gwladgarol, llenyddol, neu gerddorol. Yn y modd hwn, yn gystal â thrwy ei ymweliadau eisteddfodol, daeth yn gydnabyddus â gwahanol rannau o Gymru, ac yn dra hyddysg yn eu hanes.

Gyda'r eithriad a nodwyd (ar ei ddychweliad i Gymru) bu'n dra ffodus a dedwydd yn ei gysylltiadau masnachol. Yr oedd ganddo allu eithriadol i wneuthur cysylltiadau busnes yn rhai cyfeillgar. Yr oedd yn "bersonoliaeth ddiddorol," a chanddo ddoniau cymdeithasol o radd uchel. Y canlyniad oedd iddo'n raddol wneuthur llu o gyfeillion—ac wrth "gyfeillion" golygwn rywbeth mwy na chydnabod nid yn unig ymhlith ei gyd-drafaelwyr, ond hefyd ymysg y siopwyr. Yn ychwanegol at hyn rhoddai ei deithiau hefyd gyfle helaeth iddo ddod i gyffyrddiad personol â cherddorion a chantorion y parthau yr ymwelai â hwy. Y mae'n eglur felly mai nid bywyd llwyd a diflas oedd eiddo Emlyn yn ystod y blynyddoedd hyn, ond bywyd llawn o "fynd" ac o liwiau symudol; ac er ei fod mewn un ystyr heb gartref i ddychwelyd iddo'n gyson, yr oedd ganddo lawer o "gartrefi oddicartref" dros y rhan fwyaf o Gymru.

Yr oedd mantais arall yn perthyn i'r math yma ar fywyd galluogai ef i fod o wasanaeth ynglŷn â Chaniadaeth mewn gwahanol rannau o'r wlad. Cawn ef yn aelod o'r "Côr Mawr" yn 1872. Yr oedd yr bresennol yng nghyfarfod y pwyllgor cyffredinol yn Neuadd Ddirwestol Aberdâr, Awst 20fed, pryd yr etholwyd ef—gyda Charadog, Eos Rhondda, Alaw Ddu, D. Rosser, D. Francis, a Dl. Griffiths—yn aelod o'r Pwyllgor Y Cerddorol—pwyllgor oedd i arolygu holl aelodau'r Côr ar gyfer cystadleuaeth y flwyddyn ddilynol.

Y pryd hwn, cymerai ran fel datganydd yn gyson mewn cyngherddau—nid yn broffeswrol, ond gan mwyaf i helpu cyfeillion. Wedi gorffen ei fywyd arhosol yn y Drenewydd, cawn ef yn cymryd rhan yr unawdydd (tenor) mewn perfformiad o Samson gan ei hen gôr. Cyrchodd am flynyddoedd i gyngerdd blynyddol Bethel, Castellnewydd Emlyn, i gynorthwyo'i gyfaill Tommy Morgan. Ac felly drwy'r wlad fel y gellir galw y tymor hwn (1870-75) y tymor cyngherddol yn ei hanes. Ni ŵyr y rhai a'i hadwaenai yn ei amser diweddarach,—pan oedd yr anadl yn pallu—am ei allu a'i swyn eithriadol fel unawdydd. Onibâi am ei wendid corff, a'i gariad mwy at gyfansoddi, gallasai fod ymysg ein goreuon. Gwyddom am rai a garai ei glywed uwchlaw neb ar gyfrif rhyw dynherwch melfedaidd a hollol unique—Emlynaidd—oedd yn ei lais.

Cwyna ef yn ei lythyr at Mr. Dd. Lewis—fod y canu "yn lladd cyfansoddi." Eto, nid annaturiol casglu fod yna berthynas hanfodol rhwng y canu yn y blynyddoedd hyn â chyfnod "y Gân"a gychwynnwyd—yn bennaf—gyda Bedd Llewelyn yn 1874. Y mae yna gysylltiad bywydol rhwng yr hyn a ddarllenwn â'r hyn a gynhyrchwn: cais meddyliau ad-gynhyrchu eu hunain ond cael y cyfrwng priodol—meddwl cydnaws. A diau fod ei waith yntau'n canu caneuon fel The Death of Nelson a The Bay of Biscay wedi symbylu ei feddwl i weithredu ar yr un llinellau. Ar yr un pryd, credwn mai braidd yn or-feirniadol yw dweyd ei fod ef wedi copïo'r Sais o leiaf, ei gollfarnu am wneuthur hynny. Yn sicr, gwasanaeth yw copio'r blwch ond peidio â lladrata'r perl. Ai nid benthyca ffurfiau cân oddi ar ei gilydd y mae'r cenhedloedd wedi ei wneuthur yn gyffredinol, fel yr oedd yr angen? Ac ai nid gwas cenedl yw'r un sydd yn meddu ar y canfyddiad i wneuthur hyn wrth weld yr eisieu ? Ai nid llygad y genedl ydyw? Y peth pwysig yw llenwi'r "ffurf" â "chynnwys" cyfaddas i eisieu'r genedl ar y pryd.

Profodd Bedd Llewelyn—a datganiad diail Eos Morlais ohoni—fod cyflawnder amser "y Gân" wedi dod yng Nghymru cymerodd y wlad "by storm." Fod yna gyfnod fel hyn i'r Gân sydd amlwg, fel y dengys ef ei hun mewn ysgrif o'i eiddo'n ddiweddarach:

"Efallai nad oes un dosbarth o gerddoriaeth. ag y mae ein datblygiad wedi bod yn fwy cyflym ynddo na'r Gân; er nas gallwn ystyried ein bod eto wedi cyrhaedd tir mor uchel ynddo ag yn y Ganig, yr Anthem, a'r Dôn, ac efallai rai ffurfiau eraill.

"Nid yw hyn ond a ddisgwylid, oherwydd dim ond yn ddiweddar y cychwynwyd gyda'r Gân o'i chymharu a'r lleill; ac i hyn hefyd y mae esboniad parod. Y mae y Gân briodol yn gofyn rhyw gymaint o allu a gwybodaeth chwareyddol o du y cyfansoddwr, ond nid oedd cerddorion Cymreig cyfnod cyntaf ein hadenedigaeth gerddorol—yr un anthemol o Mills i Lloyd, etc.—yn chwareuwyr, nac fel dosbarth yn medru ysgrifennu cyfeiliant offerynol: ac y mae yr un sylw yn gymhwysiadol, er i raddau llai, at y cyfnod nesaf, yr un canigol—Gwilym Gwent, etc. Gwir y ceid eithriad yn Owain Alaw, er esiampl, ond cynnil iawn oedd hyd yn oed ei gyfeiliannau ef o'u cymharu ag eiddo y cyfnod caneuol presennol—ychydig oedd y mater gwir annibynnol a roddai i'r offeryn: bellach, o bosibl, y mae y rhan offerynnol yn trespasu gormod ar y llais, a theitl aml i ddarn ddylai fod, nid' Can i lais gyda chyfeiliant i'r piano,' ond yn hytrach, Pot—pourri i'r piano gyda brawddegau achlysurol i'r llais."

Yn hynod iawn, nid ei gyd-ganigwyr,—ag eithrio Dr. Parry—oedd ei gymdeithion mwyaf amlwg yn neffroad y Gân, ond triawd disglair arall, sef R. S. Hughes, William Davies, a D. Pughe Evans. Dilynwyd Bedd Llywelyn gan Can y Tywysog, a'r Gadlef, ac yn ddiweddarach, gan Hen Wlad y Menyg Gwynion, Gwlad yr hen Geninen Werdd, Y Gan a Gollwyd, etc., a chan doreth o ganeuon ar bob math nad oeddynt ond adgynyrchiadau, heb fod wrth gwrs yn adroddiadau. Y peth arall o bwys yn ystod y cyfnod hwn yw cyfansoddi a chyhoeddi ei gantawd Y Tylwyth Teg. Dengys ei lythyrau a'i ysgrifau (gwêl Pennod XI) ei fod yn dechreu blino ar gystadlu, ac nid yw'r gantawd hon—a'i ganeuon—ond mynegiant o'i awyddfryd cerddorol pan yn teimlo y cylch cystadleuol yn rhy gyfyng a chaeth. Yr oedd wedi cyfansoddi "Cantawd gysegredig o'r blaen (meddai ef wrth Mr. Dd. Lewis), ond nid oes gennym wybodaeth bellach am honno.[1] Mewn llythyr o'i eiddo at Alaw Ddu, dywed beth oedd ei nod wrth gyfansoddi hon:—

"Nid ymdrechais ysgrifennu gwaith llafurfawr, ond mewn gwirionedd, operetta fechan ysgafn; gan dalu, cyn belled ag y gallwn, gymaint o sylw i'r dramatic continuity ag a hawliai Wagner ei hun, ac heb esgeuluso, mi obeithiaf, y melodic form. Bernais mai doethach fyddai ei galw yn Dramatic Cantata nac yn Operetta—edrycha'r genedl hytrach yn ddrwgdybus ar y gair olaf hyd yn hyn."

Perfformiwyd y Gantawd yn Eisteddfod Genedlaethol Birkenhead (1878) ac yn Llundain, Abertawe, a llawer o fannau eraill, gyda llwyddiant a chymerdwyaeth.

Eto, er ei fod wedi rhoddi mân gystadlu heibio, cystadleuai gyda llwyddiant yn y prif Eisteddfodau. Y mae'n debig i'w fywyd cystadleuol gyrraedd ei uchafbwynt yng Ngwrecsam yn 1876, pryd yr enillodd yr holl wobrwyon cynygiedig am gyfansoddi cerddoriaeth leisiol.

Pan geisiwn sylweddoli i ni ein hunain amgylchiadau allanol ei fywyd, y trafaelu mewn trên a cherbyd, y busnes a'r symud beunydd o siop i siop, cwmni cyfeillion yn yr hwyr, commercial room a gwely'r gwesty, y mae'n syndod y gwaith a wnaeth yn ystod y blynyddoedd hyn, gyda Chyfansoddiadaeth a Chaniadaeth, a Llenyddiaeth yn "Y Gerddorfa ", ac y mae ei allu i gyfansoddi yn ddirgelwch tu hwnt. Yn Cheltenham yr oedd amodau myfyrdod ac astudiaeth, ar waethaf orïau meithion y faelfa, gryn lawer yn fwy ffafriol; o leiaf yr oedd ei amser, ar ol yr oriau hynny yn eiddo iddo'i hun, a gallai ei dreulio mewn neilltuedd a thawelwch yn ei ystafell. Ond sut yr oedd cyfansoddi'n bosibl "ar y ffordd"?

Nodiadau

[golygu]
  1. Os nad Gweddi'r Cristion ydoedd.