Cofiant Dafydd Rolant, Pennal/Ei Deulu
← Cynwysiad | Cofiant Dafydd Rolant, Pennal gan Robert Owen, Pennal |
Boreu Oes → |
COFIANT DAFYDD ROLANT
——————♦——————
PENOD I.
EI DEULU.
Desgrifiad o ardal Pennal—Y teulu yn adnabyddus cyn cof —Cof—golofn Dafydd Rolant—Ei Adroddiad ei hun am ei haniad Dr. Pugh y Cunger—Dylanwad dywedyd tesni—Hugh Rolant yn heliwr Achau—Ffraethineb ei Atebion—Ei sylw pan ddewiswyd ei fab yn flaenor—Hugh Rolant yn dyfod yn Ddirwestwr—Ei brofiad fel Dirwestwr, a'i Araeth ar Ddirwest—Hugh Rolant yn ymladdwr Ceiliogod—Darluniad Dafydd Rolant o "Gocyn ceiliogod"—Spardynau y Ceiliogod.
AN yn sefyll yn nrws ty Llwynteg, cartref gwrthddrych y Cofiant hwn, gwelir ar un olwg dair o Siroedd Cymru, Meirionydd, Aberteifi, a Threfaldwyn. Cyferfydd y tair sir wrth ymyl Glandyfi Junction, dwy filldir o bellder o bentref Pennal. I bwy bynag nad yw yn gwybod eisoes, bydded hysbys mai ardal ydyw Pennal ar gwr eithaf Sir Feirionydd, yn wynebu y Deheudir. Os edrychir ar y llaw chwith o gerbydau y Rheilffordd, wrth deithio i fyny o Glandyfi at Machynlleth, ceir golwg ar gyrion yr ardal; ond mae y lle yn fwy o faintioli wedi dyfod iddo nag yr ymddengys oddidraw. Saif y pentref ar y gwastad, a'r bryniau llyfnion, moelion, yn ei haner amgylchu, ac yn ei gysgodi rhag gwynt y Gogledd a gwynt y Gorllewin. A thywyna yr haul, os bydd yn haul yn rhywle, ar wyneb yr ardal, haf a gauaf, o fore hyd nos. Cydnabyddir y gymydogaeth fel un o'r rhai prydferthaf, os nad y brydferthaf oll yn Sir Feirionydd. Arweinia y ffordd fawr yr hen turnpike road—rhwng Machynlleth ac Aberdyfi trwy ei chanol, Daw llanw y môr, ar hyd Afon Dyfi, o fewn llai na haner milldir i'r pentref, gan basio heibio i fyny tua Derwenlas, i gyfeiriad Machynlleth.
Heblaw bryniau, a dolydd, a choedwigoedd o gryn amrywiaeth sydd yn prydferthu y lle, mae yn yr ardal hefyd amryw o balasdai. Ar un ochr i'r pentref y mae Talgarth Hall, preswylfod y diweddar C. F. Thruston, Yswain, y gwr a gynygiai David Williams, Castell Deudraeth, i fod yn Aelod Seneddol dros y sir, pan ymgeisiodd y tro cyntaf, yn 1859. Ar yr ochr gyferbyniol i'r pentref y mae Pennal Tower. Perchenogir y palasdy hwn hefyd gan y Thrustons. Yma y treuliodd Proffeswr Henry Rogers, awdwr yr Eclipse of Faith, flynyddoedd olaf ei fywyd, ac yma y bu farw. Yma y dyddiwyd y llyfr olaf a ysgrifenodd—Super-Human Origin of the Bible, Pennal Tower, Rhagfyr, 1873.
Preswyliai teulu Cymreig yn y gymydogaeth, yr hwn a chwareuodd ran nid anenwog yn mhlith yr ardalwyr am, o leiaf, y ddwy ganrif ddiweddaf. Yr olaf, a'r hynotaf o'r teulu, a'r hwn a ddaeth i fwyaf o gyhoeddusrwydd ydoedd Dafydd Rolant. Dyna yr enw wrth ba un yr adnabyddid ef oreu gan ei gyd-oeswyr, am ba reswm y defnyddir y ffurf hwn o'r enw fynychaf yn y Cofiant am dano. Er rhoddi ychydig o syniad i'r darllenydd am dano ar y cychwyn, dechreuir gyda'r hyn y bydd bywgraffiadau yn gyffredin yn terfyno. Ar yr 21ain o Awst, 1895, gosodwyd ar ei fedd yn Mynwent Newydd Pennal, Gof-golofn brydferth, o farmor gwyn, un troedfedd ar ddeg o uchder. Ac mae yn gerfiedig ar y golofn y geiriau a ganlyn:
COFFADWRIAETH
AM
DAVID ROWLAND
Llwynteg, Plwy Pennal.
Ganwyd Mai 12, 1811.
Bu farw Tachwedd 7, 1893
Blaenor yn Eglwys y Trefnyddion Calfinaidd, Pennal, o
1850 i 1893.
——————
"Gwr da, duwiol, hynaws, haelionus, ffraeth, ffyddiog."
Preswyliai ei hynafiaid yn Mhennal er cyn côf, ac yr oeddynt yn bobl liosog a hynod, hil hepil. Enillasant hynodrwydd nid yn mhethau goreu y ddau fyd, fel y gwnaeth yr hwn yr ysgrifenir ei hanes yn y tudalenau hyn, ond pawb yn ol eu ffordd. Hynodrwydd yn nghyfri y byd presenol oedd yr eiddynt hwy. Rhydd Dafydd Rolant, mewn paragraph neu ddau a ysgrifenwyd ganddo rywbryd, gip-olwg ar ei haniad, yn ei ddull a'i eiriau ei hun.—
"F'y rhieni oeddynt Hugh Rowland, a Jane Davies ei wraig. Magwyd fy nhad yn y Felinganol, Pennal, a'm mam yn y Cwrt, pentref cyfagos—Joiners oedd teulu fy nhad, ac yn cadw melin. Bu y teulu yn y Felinganol am oesoedd (byddai fy nhad yn dweyd na allasai neb ddweyd yn amgen nad oeddynt yno er Adda). Yr oedd un peth wedi eu gwneuthur yn hynod gyhoeddus yn y wlad, sef eu bod yn Cock Masters, ymladdwyr ceiliogod. Mae yn dda genyf fod yr hen arfer greulon bron a darfod pan oeddwn i yn ienanc.
Merch i William Davies y gof, oedd fy mam. Hen frawd oedd ef, fel gofaint yn gyffredin, pur sychedig. Er hyny, yr oedd wedi dysgu hel tipyn o'r byd. Yr oedd ganddo ddigon o dir i gadw dwy fuwch, a pony, ac yr oedd wedi buildio pedwar o dai, a gefail gôf, ond ar brydles yr oeddynt. Wedi côf genyf fi y terfynodd y brydles, ac aethant oll yn eiddo y meistr tir. Heblaw hyny, yr oedd ganddo ychydig arian ar dir a môr, y rhai a gafodd ei blant ar ei ol.
Chwi welwch fy mod wedi hanu o dri dosbarth. Mae yn anhawdd cael y tri heb fod yn euog o'r hyn ddywed yr hen ddihareb, sef, 'Tri gôf du sychedig,' 'Tri gambler di-fost,' a 'Thri melinydd gonest.'"
Mae llyfr rhent y Felinganol wedi ei gadw er y flwyddyn 1729. Rowland David oedd y tenant y flwyddyn hono, a chan yr un tenant y telid y rhent am dros ddeng mlynedd ar hugain wedi hyny, a phedair punt y flwyddyn oedd y swm. Ni wyddis yr amser yr ymadawodd y teulu o'r Felinganol, ac ni byddai o unrhyw fantais i roddi ychwaneg o'u hanes yno, pe byddai hanes i'w gael. Modd bynag, yr oedd Hugh Rolant, tad gwrthddrych y Cofiant, yr hwn oedd yn ddilledydd wrth ei gelfyddid, yn mlynyddoedd cyntaf y ganrif bresenol, yn byw yn Llwynteg, wrth ymyl y pentref. Ceir ychwaneg am Llwynteg eto yn mhellach yn mlaen.
Tua'r pryd hwn y ganwyd Dafydd Rolant yn y ty crybwylledig. Yr oedd y ty yr adeg hono yn cael ei ranu yn wahanol ystafelloedd, ac amryw deuluoedd yn byw ynddo, dan yr un tô. Un o'r rhai hyn oedd Dr. Pugh, gwr yn arfer dewiniaeth, "Cunger" (conjurer) proffesedig. Honai ei hun yn feddyg, ac oblegid hyny, meddai ddylanwad mawr ar ddosbarth lliosog o bobl y wlad. Gelwid ef wrth yr enw Dr. Pugh, ond nid oedd yn ddim amgen na quack doctor. Adnabyddid ef trwy y cylchoedd o amgylch fel cunger llwyddianus, a byddai cyrchu mawr ato am feddyginiaeth i'r corff a'r meddwl, ac ato ef yr elid am gyfarwyddid os byddai unrhyw anhwyldeb ar anifail, neu anhap wedi digwydd i eiddo a meddianau. Rhoddai yntau iddynt ryw bapuryn a llythyrenau arno fel moddion anffaeledig rhag pob anhwyldeb, a chlwy, ac anhap. Byddai ganddo nifer o bobl loerig ac anmhwyllus yn eu cadw o dan ei ofal, rhai yn ei dŷ ei hun, a rhai yn nhai y cymydogion. Adroddir am un oedd yn byw yn Cefnrhos, uwchlaw Aberdyfi, yn myn'd a'i fam ato, yr hon oedd yn ngafael rhyw afiechyd nad oedd yn gwella o hono, a dywedai y dyn wrth fyn'd a hi at y cunger,— "'Dydyw yr ysbryd drwg yn gwybod dim am dani, a chymer Duw mo honi; ac yr wyf yn myn'd a hi at Dr. Pugh, i Bennal, i edrych a all ef wneyd rhywbeth o honi." Deuent ato fel hyn o filldiroedd o ffordd. Ond cael eu twyllo yr oedd y bobl druain gan y quack doctor.
"O ble mae'r bobl yn d'od yma?" gofynai Hugh Rolant iddo un tro, "Wedi eu witchio y maent?"
"Huwcyn bach," ebe yntau, "nid oes dim o'r fath beth a witchio mewn bod."
"I beth ynte yr ydych yn eu twyllo?"
"Y nhw sydd yn dyfod ataf fi, y ffyliaid, fe ânt at ryw un arall os na rof fi beth iddynt."
Cafodd Hugh Rolant wybod llawer gan ei gymydog a breswyliai dan yr un tô ag ef, am y grefft o ddywedyd tesni (ffortiwn). Yr oedd y Dr. Pugh hwn yn elyniaethus iawn i grefydd, ac yn un o erlidwyr penaf y wlad.
Nid oedd Hugh Rolant yn credu mewn dywedyd tesni. Yn hytrach fel arall, wedi deall dirgelion y grefft, gyrwyd ef i'r eithafion pellaf oddiwrthi. Yr oedd cymdeithas Dr. Pugh, modd bynag, wedi ei wneuthur yn lled elyniaethus tuag at yr Ymneillduwyr. Eglwyswr oedd ef, ac felly y parhaodd hyd ddiwedd ei oes. Nid aeth ei hanes ef ddim yn angho, fel eiddo ei dadau a'i deidiau. Y mae lliaws o'r ardalwyr eto yn ei gofio, a chofiant ei ddywediadau parod a phert, a'i droion direidus, yn nghyda'i chwedlau difyr am bobl a phethau. Dywed amryw hefyd ei fod llawn mor alluog dyn a'i fab, Dafydd Rolant, a phe buasai wedi cymeryd y cyfeiriad a gymerodd ei fab, buasai yn debyg o ragori arno mewn ffraethineb a pharodrwydd ymadrodd. Adnabyddai ef drigolion y cyffiniau yn dda odiaeth, medrai adrodd hanes pawb, nid yn unig yn ei oes ei hun, ond yn yr oes, os nad yr oesau o flaen ei oes ei hun. Nid oedd mo'i debyg am wybod achau teuluoedd. Edrychid arno yn gymaint felly, nes yr oedd wedi myn'd yn ddihareb yn yr ardal am unrhyw un a fedrai olrhain cysylltiadau teuluol, ei fod cystal am hel achau â Hugh Rolant y teiliwr.
Dywedai Dafydd Rolant yn fynych am ei dad, mai un da iawn ydoedd am adrodd stori. Byddai llawer un yn ei gwmni yn dywedyd wrtho, "Adroddwch stori, Hugh Rolant." Ond ni wnai mo hyny pan ofynid felly iddo. Bydd stori, pan yr etyb y pwrpas, yn dyfod yn naturiol yn nghwrs yr ymddiddan. "Wedi dechreu eu dweyd," meddai Mr. Humphreys, o'r Dyffryn, "byddant yn galw eu gilydd." Yr oedd gan Hugh Rolant stôr o ystraeon. Heblaw hyny, yr oedd yn un dan gamp fel adroddwr, ac yn adroddiad stori y mae llawer o'i hyawdledd yn gynwysedig. Elai beunydd yn rhinwedd ei alwedigaeth ar hyd tai y wlad i weithio, ac adroddodd ganoedd o straeon tra ar ben y bwrdd yn pwytho.
Peth arall a'i gwnaeth yn gofiadwy yn nghôf ei gyd-oeswyr oedd, ei ffraethineb, ynghyd a pharodrwydd a phertrwydd ei sylwadau. Pan oedd yr Hybarch Richard Humphreys yn byw yn y gymydogaeth treuliai lawer o amser yn nhy David Rowland, lle yr oedd yn hynod o gartrefol. Un boreu, eisteddai Hugh Rolant, yn hen wr wrth y tân, wedi gwisgo ei esgidiau, ond heb gau eu careiau; ac ebe Mr. Humphreys, yr hwn a eisteddai yr ochr arall i'r tân, "gaf fi gau creia y'ch sgidia chwi, Hugh Rolant?" "Os ydych yn deilwng," oedd yr ateb parod. "P'run bynag," atebai yntau, "mi wnaf fi hyny am y tro."
Nid oedd ymyrwyr, a phobl fyddent yn ei holi, o gwbl yn ei ffafr. Galwai William James, yr Ynys, yn fynych yn y ty, a byddai yno yn aml i dê prydnhawn Sabbothau, oherwydd fod yr Ynys yn mhell. Un pur arw am gwestiyno oedd ef, a rhyw Sul, ar ol tê, gan nesau at Hugh Rolant i'w gwestiyno, gofynai, "Beth sydd genych chwi i'w ddweyd heddyw, F'ewyrth Hugh?" Yr ateb oedd, "Mae'r adnod hono yn d'od i fy meddwl, 'Cadw dy droed allan o dŷ dy gymydog, rhag iddo flino arnat, a'th gasâu."
Yn hen gapel Pennal, yr oedd y sêt fawr, wrth y pulpud, lle yr eisteddai y blaenoriaid, mor gyfyng nad allai pedwar ddim sefyll ynddi heb daro penelin wrth benelin, nac eistedd heb rwbio eu penau gliniau yn eu gilydd. Y mae yr aderyn bach yn y cage yn cael llawer mwy o le nag a gawsai y blaenoriaid yn y sêt fawr hon. Arthur Evan oedd y prif flaenor, a sêt Arthur y gelwid hi. Pan ddewisodd yr eglwys David Rowland yn flaenor, ebe Hugh Rolant wrth ryw un o fechgyn yr ardal, "Glywaist ti fod Deio ni wedi cael myn'd i gratch Arthur.
Eglwyswr, fel y dywedwyd, oedd Hugh Rolant, ac arferai fynychu yr Eglwys gyda graddau o sêl. Yr oedd yn lled ddeallus yn yr Ysgrythyr; cadwai ddosbarth yn yr Ysgol Sul, a phan fyddai y clochydd yn sâl, darllenai y Llithoedd. Ond nid oedd dim a fynai â phobl y capelau. Byddai yn hoff o'i lasiad pan elai oddicartref ac i ffeiriau, er y cadwai yn weddol o fewn terfynau yn ei gartref a chyda'i oruchwylion. Modd bynag, pan ddaeth Dirwest gyntaf i'r wlad, ymunodd yntau gyda'r lliaws i signio yr ardystiad dirwestol, a mawr y syndod ei weled ef yn anad neb gyda'r dirwestwyr. Deuai gwr o'r enw Mr. Pritchard, o Ceniarth, i Bennal i areithio, â chedwid seiat brofiad gyda'r dirwestwyr, i roddi cyfle i bawb ddweyd en profiad, a phrofiad rhyfedd a geid gan lawer fuasent gynt yn feddwon cyhoeddus. Ar ol bod yn gofyn profiad hwn a'r llall yn y seiat, daeth Mr. Pritchard at Hugh Rolant i ofyn ei brofiad yntau.
"Wel," fe fuoch chwithau, Hugh Rolant, yn cael eich trin yn arw gan y ddiod?"
"Do."
"Fe fuoch chwithau yn feddw lawer gwaith?"
"Do, laweroedd o weithiau; ochr y ffos fu fy ngwely ddengwaith, a rhyw ddraenen yn hono fy ngobenydd. Nis gallaf gyffelybu teulu y dafarn i ddim gwell na fel y bydd y gwragedd gyda'r ieir. Pan fydd yr iar yn myn'd i ddodwy, mae gwraig y ty yn ei denu, yn tawlu tamaid o fara o'i blaen, nes ei chael i'r nyth i ddodwy. Gyda'i bod wedi dodwy, ac yn dechreu clochdan, 'blant,' ebe gwraig y ty, 'heliwch yr iar yma allan, yn lle ei bod yn clochdan ac yn gwneyd sŵn dros y ty— allan mae ei lle hi. Felly maent yn y dafarn, unwaith y cant arian dyn, allan a fo wed'yn."
Ond hynodrwydd mawr Hugh Rolant oedd ei fod yn ymladdwr ceiliogod di-ail. Adnabyddid ef yn mhell ac yn agos fel y blaenaf ŵr yn myd y chwareuwyr. Efe oedd pen-campwr yr holl wlad. Cadwai ffermdai y wlad bawb ei geiliog iddo, fel y cadwant fytheiad i'w meistr tir, a byddai yntau yn drillio y rhai hyn ar gyfer yr ymladdfeydd a gynhelid yn gyffredin yn y Gwanwyn. Mor ddwfn oedd ei ymlyniad wrth yr hen arferiad greulon, ac mor fanwl ei adnabyddiaeth o natur y creaduriaid pluog ymladdgar, fel y gallai wahaniaethu rhwng eu lleisiau pan glywai geiliogod cyrau pellaf yr ardal yn canu. A phan yn hen wr wrth ei ddwy ffon, edrychai ar dwr o gywion ieir yn yr ardd, a sibrydai wrtho ei hun, re'l game cock. Gwelodd David Rowland lawer o'r chwareuon hyn yn ei fachgendod, ac adroddai iddo fod unwaith pan yn laslanc yn cario dau geiliog ar ei gefn, dros y mynydd o Bennal i Abergynolwyn, lle yr oedd "cocyn ceiliogod" (cock match) enwog i gael ei gynal ar ddydd Llun y Pasg. Yr oedd Abergynolwyn yn ganolbwynt y wlad a elwir Rhwng y Ddwy Afon, i'r lle y cyrchai holl drigolion yr ardaloedd—tlodion a boneddigion—i weled yr ornest rhwng y creaduriaid direswm. "Yr wyf yn cofio yn dda," ebe D. Rowland, "weled o ben y mynydd y diwrnod hwnw, y llwybrau yn dduon o bobl o Fachynlleth a'r amgylchoedd, yn cyrchu i'r cock match." Yr oedd gan Hugh Rolant arfau pwrpasol, spardynau gyda phigau llymion o ddur, y rhai a rwymid am goesau y ceiliogod a osodid i ymladd. Cedwir y rhai hyn yn ofalus yn Llwynteg, fel hen relic o'r amser gynt.
Hyd ddiwedd chwarter cyntaf y ganrif bresenol, y chwareuon hyn fyddai prif gyrchle pobloedd y wlad. Ni byddai yr un dydd gwyl yn pasio, yn enwedig y Nadolig, a'r Groglith, a Llun y Pasg, heb fod Cocyn Ceiliogod naill ai yn Machynlleth, neu Benegoes, neu yr Eglwys Fach, neu Bennal, neu Abergynolwyn; a mawr y miri a'r mwrwst a'i dilynent. O'r diwedd, darfyddodd yr hen arferiad wrthun, yn debyg i ymadawiad y Gog ganol haf, nad oes neb ŵyr pryd y canodd ddiweddaf, na'r dydd o'r mis yr ymadawodd i'w gwlad ei hun.
Bu Hugh Rolant farw Tachwedd 15fed, 1859, yn 84 mlwydd oed. Ni bu ganddo o blant heblaw gwrthddrych y Cofiant, ond dwy ferch,—Mary, yr hon a fu farw yn ddibriod Awst 9fed, 1851; a Jane, yr hon a fu yn briod ddwywaith, ac a fu farw yn y Deheudir, tuag ugain mlynedd yn ol.