Cofiant Daniel Owen: ynghyd a Sylwadau ar ei Ysgrifeniadau/At y darllenydd
← Cofiant Daniel Owen: ynghyd a Sylwadau ar ei Ysgrifeniadau | Cofiant Daniel Owen: ynghyd a Sylwadau ar ei Ysgrifeniadau gan John Owen, Yr Wyddgrug |
Cynnwysiad → |
AT Y DARLLENYDD
Pan ofynnodd Meistri Hughes a'i Fab, Gwrecsam, i mi ysgrifennu ychydig o hanes Daniel Owen, i ymddangos ynglŷn â'r Argraffiad Goffadwriaethol a fwriadent gyhoeddi, nis gallwn wrthod. Teimlwn y dylai rhai o brif ffeithiau bywyd awdur Rhys Lewis gael eu casglu at ei gilydd tra yr oedd ei hen gyfeillion yn yr Wyddgrug eto yn fyw - y rhai a'i hadwaenant orau, ac a'i hoffent fwyaf. Nid oedd gennyf ond casglu yr hanes a'i ddodi wrth eu gilydd. Teimlwn, fel llawer o'i gyfeillion yn y dref, hiraeth cywir am dano, ac awyddfryd am weled ychydig o hanes ei fywyd yn ymddangos. Daeth cyfleustra i dalu'r warogaeth hon i'n hanwyl gyfaill ynglŷn â'r cyhoeddiad hwn o'i Weithiau; ac er nad oeddwn yn teimlo fod ynof gymhwyster neilltuol i'r gwaith, a bod lliaws o oruchwylion eraill ar y pryd yn galw am fy sylw, eto, teimlwn fod rhwymedigaeth arnaf i dalu y deyrnged hon o barch i un oedd wedi llenwi lle mor fawr yn mywyd yr Wyddgrug, ac yn wir, yn llenyddiaeth Cymru.
Yr oedd un cymhelliad arall yn peri i mi afael yn y gwaith, sef awyddfryd gweled y gof-golofn y bwriedir ei gosod i fynnu yn ein tref wedi ei chwblhau a thalu am dani. Pan gofiwn yr hyfrydwch a'r budd a dderbyniwyd wrth ddarllen gweithiau Daniel Owen gan y Cymry ymhob rhan o'r byd, gallesid disgwyl i'r deyrnged hon i'w goffadwriaeth gael ei thalu yn ddiymdroi; ac er bod oddeutu £300 wedi eu casglu, y mae agen eto am oddeutu £100 yn ychwaneg er cwblhau y gwaith, a thalu am osod y cerflun i fynu. Y mae yn chwith genym feddwl fod ysgrifennydd gweithgar y mudiad, Mr Llywelyn Eaton, wedi ei gymryd ymaith cyn gweled gwaith wedi ei orffen. Da gennym ddeall fod y bonheddwr adnabyddus, Mr Thomas Parry, U.H., o'r Wyddgrug, wedi ymgymryd â bod yn ysgrifennydd yn lle'r diweddar Mr Eaton. Yr ydym yn hyderu y bydd cyhoeddiad hanes bywyd yr awdur yn rhyw gymaint o fantais er cwblhau yr amcan uchod, a hynny heb ychwaneg o oediad.
Yn y Cofiant byr hwn yr ydym wedi ceisio rhoddi darlun syml o awdur Rhys Lewis, fel yr ymddangosai i'w gyfeillion. Oddiwrth ein hadnabyddiaeth o'i gymeriad gonest a dihocced yr ydym yn sicr na fuasai yn hoffi i ni geisio ei ddangos yn wahanol i'r hyn ydoedd; eto yr ydym yn hyderu y cydnabyddir nad ydym wedi troseddu chwaeth dda wrth lefaru am y marw.
Y mae gennym i gydnabod yn arbennig gymorth Mr Isaac Jones, o'r dref hon, yr hwn a fu yn gydymaith i Daniel Owen o'r adeg yr ydoedd yn blentyn hyd ei farwolaeth. Ganddo ef y cawsom y prif ffeithiau am febyd ac ieuengctyd ein gwrthddrych, yn ogystal a llawer o hanes y siop fu yn fath o Athrofa i Daniel Owen. Hefyd, cawsom hanes lled fanwl gan Mr Robert Williams, un o flaenoriaid Eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yr Wyddgrug, am gyssylltiad Daniel Owen â'r capel o'r adeg y derbyniwyd ef hyd nes i'w iechyd dorri i lawr. Derbynied y ddau gyfaill hyn ein diolch mwyaf cynnes. Yr ydym hefyd wedi ymgynghori âg amryw o frodyr sydd wedi treulio eu hoes yn y dref, er gallu penderfynu rhai pwyntiau yr oedd graddau o ansicrwydd gyda golwg arnynt.
Credwn ein bod wedi cydnabod yng nghwrs y llyfr y cyfeillion eraill oedd yn abl i daflu goleu i ni ar wahanol gyfnodau ym mywyd ein gwrthddrych.
Darfu Mr John Morgan (Rambler) yn garedig ysgrifenu rhai o'i atgofion i'w dodi i mewn, ond o herwydd prinder gofod bu raid cwtogi yr atgofion hyn. Trwy ganiatad golygydd y Goleuad, a chydsyniad yr awdwr, yr ydym yn cyhoeddi erthygl y Parch. Ellis Edwards, M.A., ar Fywyd ac Athrylith Daniel Owen, a ymddangosodd yn y Goleuad ar ôl ei farwolaeth. Rhoddodd Mr John Lloyd, golygydd y County Herald, ganiatad parod i ni gyhoeddi y desgrifiad personol o Daniel Owen, a ymddangosodd yn y County Herald flynyddoedd yn ôl. Bydd yr Adgofion a'r Desgrifiad hwn yn fantais i'r darllenydd i gyraedd adnabyddiaeth fwy cywir a chyflawn o'r hyn ydoedd Daniel Owen.
Nis gallwn ddwyn y Rhagarweiniad hwn i derfyniad heb gydnabod yn ddiolchgar garedigrwydd Mr Isaac Foulkes (Llyfrbryf), perchennog a golygydd y Cymro, am ganiatáu i ni wneud defnydd mor helaeth o'r Atgofion a ysgrifenwyd i'r Cymro gan Daniel Owen ei hun naw mlynedd yn ol. Teimlwn yn fwy dyledus i Mr. Foulkes yn gymaint a'i fod ef ei hun yn bwriadu dwyn allan Gofiant helaeth o Daniel Owen.
Derbynied Llyfrbryf, ynghyd â'r oll o'r cyfeillion a nodwyd, ein diolch mwyaf cywir am eu cymorth gwerthfawr.
Gwelir fod yr erthygl a ysgrifennodd Daniel Owen i'r Drysorfa, ar ol marwolaeth ei hen olygydd, y Parch. Roger Edwards, wedi ei dodi i mewn ar ôl y portread o "Gymeriadau Methodistaidd." Heblaw fod yr erthygl yn werthfawr ynddi ei hun fel darlun cywir a chyflawn o un yr oedd yr awdur yn dra dyledus iddo, ceir yn yr erthygl hefyd enghraifft nodedig o allu'r ysgrifenydd i sylwi, a'i fedr i ddesgrifio. Y mae'r erthygl hefyd yn dangos nodweddion arbenig arddull Daniel Owen. Dodwyd i mewn y ganig dlws a gyfansoddodd y boreu Nadolig diweddaf y bu fyw, a'r hon sydd yn rhoddi gwelediad i ni i mewn i deimladau yr awdur tua diwedd ei fywyd.
JOHN OWEN.
YR WYDDGRUG,
- Tachwedd 22ain, 1899