Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern/Cynghorion a Dywediadau Neillduol

Oddi ar Wicidestun
Sylwadau Arbenig Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern

gan David Samuel Jones

Anrhydeddu Ei Goffadwriaeth

PENNOD XXII.

CYNGHORION A DYWEDIADAU NEILLDUOL.

Y CYNWYSIAD—CYNGHORION O EIDDO MR. WILLIAMS MEWN AMGYLCHIADAU NEILLDUOL, GAN YR HYBARCH R. PARRY (GWALCHMAI)—DYWEDIADAU O'I EIDDO, GAN PARCH. E. DAVIES (DERFEL GADARN)—TRI HANESYN AM DANO, GAN Y PARCH. Z. MATHER, ABERMAW.

CYNGHORION O EIDDO MR. WILLIAMS MEWN AMGYLCHIADAU NEILLDUOL, GAN YR HYBARCH GWALCHMAI.

Y MAE ei sylwadau, ei ymadroddion, a'i ymddygiadau, weithiau, ar amgylchiadau a ymddangosant ar ryw gyfrif yn ddibwys yn gystal mynegai am ei gymeriad â'r hyn a ddangosodd i'r byd mewn achosion cyhoeddus oedd yn tynu sylw pawb. Y mae amryw o'i ddywediadau ar gof a chadw gerbron y byd yn barod; a dichon fod llawer o addysgiadau pellach a ellir eu casglu oddiwrthynt megys, ei sylw ar

Y TRI CYTHRAUL.

Sef cythraul y canu, cythraul gosod eisteddleoedd, a chythraul dewis swyddogion eglwysig, y rhai nad yw ympryd a gweddi yn ddigon nerthol i'w bwrw allan. Bu raid i Mr. Williams ddyoddef hyd y galon oddiwrth yr olaf o'r cythreuliaid hyn. Yr oedd bwriad yr eglwys lle y llywyddai unwaith am ethol chwech o ddiaconiaid, yn ychwanegol at y rhai oedd yn y swydd yn barod. I'r dyben o roddi cyfeiriad i feddwl yr eglwys, ac i ragachub yr aelodau rhag rhedeg allan o derfynau priodoldeb yn eu dewisiad; a phenodi ar rai heb un math o gymhwysder at y swydd, nododd ddeuddeg o bersonau, ac erfyniodd ar y bobl ddethol y chwech a farnent deilyngaf o honynt, ac mai y rhai y byddai y nifer mwyaf yn pleidleisio drostynt a ddewisid. Felly fu, a'r canlyniad annedwydd ydoedd i'r chwech a adawyd yn y lleiafrif droi allan yn ddynion chwerw iddo ef, heb ei arbed â'r cableddau bryntaf. Dywedai un o honynt y goddefai ef y peth, ar yr amod fod i benderfyniad gael ei ysgrifenu yn llyfr yr eglwys, na byddai i'r fath etholiad gael ei ddwyn yn mlaen yn yr eglwys hono byth mwy; a'i atebiad ef iddo ydoedd, "O! ai cymaint a hynyna wyt ti yn ei ddeall o Annibyniaeth eglwysig eto?" Ai tybed na bydd gan y bobl a fydd yma yn mhen pymtheng mlynedd eto cystal cymhwysder a hawl i farnu drostynt eu hunain? Yr oedd yn alarus wrth feddwl iddo ef gael archolli ei deimlad, lle nad oedd un math o achos am hyny.

Yr oedd yn deall llawer am y natur ddynol, ond nid oedd wedi rhagweled digon i eithafion dichellion dynion cnawdol. Os nad oedd efe wedi tremio yn ddigon trwyadl i ragachub niwed trwy gyfrwysdra dynion hunanol y tro hwn, gallwn weled mor ragolygus ydoedd mewn amgylchiad arall, ac yn ei fedr i ddwyn byrbwylldra dynion da i'w le, pan yn

GWEDDIO DROS SIAC WRTH EI DDIARDDEL.

Yr oedd dyn yn ei eglwys unwaith fel aelod, ac yr oedd yr holl swyddogion yn unol am ei ddiarddel, pan yr oedd Mr. Williams yn barnu y buasai rhoddi cerydd llym iddo yn ateb holl ddybenion dysgyblaeth. Nid oedd y dyn yn un o feddwl cyflym, gwyddai pawb fod graddau o wendid yn perthyn iddo. Pa fodd bynag, yr oedd ef rywfodd wedi ymwthio yn lled ddwfn i serchiadau Mr. Williams. Yr oedd ei ffyddlondeb yn ol ei allu yn ddiarhebol; yr oedd ei holl hyfrydwch mewn gweini ar Mr. Williams, a gofalai am nol a danfon ei farch gyda dyfalwch mawr. Ond daeth dydd ei brawf o amgylch yn fuan, ac yr oedd yr holl frawdoliaeth yn benderfynol am ei ddiarddel. Ni wrthwynebodd efe ddim y penderfyniad, ond dywedodd, "Feallai y byddai yn well i ni fyned i weddi drosto cyn iddo fyned allan. "Ie, ïe," ebai pawb, ac felly fu, a gweddi ryfedd ydoedd, yn rhedeg yn y dull canlynol:—"Wel, Arglwydd mawr, dyma ni yn myned i ddiarddel Siac; yr ydym yn credu fod gan Siac, druan, enaid i'w gadw neu ei golli byth; gwelsom ef a'i ddagrau ar ei ruddiau yn troi ei wyneb am dŷ yr ymgeledd; gwelsom ef mewn galar edifeiriol, yn nesâu'n grynedig at fwrdd y cymundeb, buom yn estyn deheu-ddwylaw cymdeithas iddo mewn teimlad gobeithiol am dano, ond dyma ni heno yn myned i'w daflu allan o'r cysegr i'r ffordd fawr. Cangen heb ddwyn ffrwyth a dorir ymaith, ac a deflir yn tân. Llawer cangen a daflwyd allan ar y llwybr cyhoeddus nos Sabbath, ac fe ddeuai rhyw hen wraig foreu dydd Llun, ac a'i codai, ac a'i taflai yn tân. Arglwydd mawr, paid a gadael i ryw gythraul ddyfod heibio a chodi Siac, druan, a'i daflu yn tân, wedi i ni ei fwrw allan," &c. Erbyn hyn, yr oedd yr holl gynulleidfa yn foddfa o ddagrau, ac yn nghanol ocheneidiau a galar, anghofiwyd y cyfan, ac ni soniwyd am ddiarddel Siac. Dyma eglurhad neillduol o ddylanwad ei ysbryd cariadlawn, a'i ddoethineb i arwain cymdeithas i'r iawn.

Yr oedd ei ofal yn arbenig am adael rhyw argraffiadau teilwng ar ei ol, pa le bynag yr elai, fel y gwelir oddiwrth yr hanesyn am

Y FORWYN A'R PREN AFALAU.

Adroddir yr hanesyn canlynol am ei ymweliad â chyfeillion o amaethwyr yn Sir Ddinbych. Ar adeg neillduol y boreu, wedi y noswaith y lletyai yno, gofynai i'r forwyn, "Wel, Mary, a fyddwch chwi yn meddwl rhywbeth am grefydd, am eich enaid, am y Gwaredwr, yn y dyddiau hyn?" "Na fyddaf yn wir, Syr, yn awr," oedd yr atebiad. Gofynai eilwaith, "A fuoch chwi erioed yn meddwl dim am bethau felly?" "O! do, yn wir Syr, lawer gwaith, ond y mae pob peth felly wedi eu colli yn llwyr erbyn hyn." Yr oedd ffenestr wynebol y ty yn lled agored. "Wel, Mary, meddai ef, "A welwch chwi y pren afalau yna sydd allan ger eich bron yn ei flodeu tlysion a gobeithiol." "Gwelaf," ebai hithau. "Wel, pe yr elech chwi yna, ac ysgwyd y pren nes y cwympai y dail, ni ddeuai yna ddim ffrwyth; yr wyf yn ofni mai ysgwyd y teimladau ymaith a wnaethoch chwithau. Os byth y teimlwch y fath argraffiadau eto, gochelwch rhag eu hysgwyd ymaith, ond magwch a meithrinwch hwy." Yna yr oedd yr ymwelydd yn myned ymaith i'w ffordd. Yn fuan wedi hyny, sylwai ei meistres ar yr eneth yn sychu ei dagrau yn ddystaw, a gofynai iddi, "Beth sydd arnoch chwi, Mary, ai nid ydych yn gwbl iach?" "O! ydwyf fi yn gwbl iach, meistres." "Wel, y mae rhyw ddwysder neillduol arnoch ynte. Dywedwch ar unwaith beth yw y mater?" "Wel, a dweyd y gwir i chwi, meistres, gair a ddywedodd Mr. Williams wrthyf cyn ymadael y boreu heddyw sydd wedi glynu ar fy meddwl, drwy fy nghynghori i ofalu rhag lladd unrhyw deimlad crefyddol a allai ddyfod ar fy meddwl, a minau wedi lladd miloedd o honynt." "Wel, Mary fach," meddai y feistres, "penderfynwch ar unwaith, yn gwbl oll, yn achos eich enaid a'ch Gwaredwr." Ac felly fu, rhoddodd yr eneth brawf o wir ddychweliad mewn bywyd hollol gyflwynedig i anrhydedd crefydd Iesu Grist, a'i chysur tymhorol ei hunan dros ei hoes.

Amgylchiad tra hynod yn ei fywyd oedd y pryd yr amlygodd ei syniadau a'i deimladau wrth nifer o'i

FRODYR YN Y WEINIDOGAETH UNWAITH YN NHREF DINBYCH.

Yr oedd hyn amser adagoriad y Capel Cynulleidfaol yno. Nid oedd efe yn ddigon iach ar y pryd i ddyfod i'r addoliad er nad oedd wedi myned i afael nychdod mawr. Yr oedd yn lletya yn nhy boneddiges garedig yno, ac yr oedd mewn ystafell eang a chynes. Yr oedd wedi amlygu dymuniad am gael gweled yr holl weinidogion yno cyn ymadael o honynt o'r dref; a phenodwyd ar awr neillduol boreu dranoeth ar ol y cyfarfod; a chynullodd y brodyr oll yn brydlawn, yn ol ei ddymuniad. Eisteddai wrth y tân, â gwrthban am ei war. Er ei fod yn ymddangos yn hynod o siriol, eto gallesid yn hawdd ganfod arwyddion fod afiechyd wedi gafael yn ei natur. Yr oedd cyhyrau ei wyneb wedi ymollwng i raddau; safai ei drwyn, yr hwn a ymddangosai yn rhy Rufeinig, yn rhy amlwg rhwng ei ruddiau; yr oedd ei wefusau fel pe buasent yn lled grynu weithiau, ac yr oedd ei wedd ar y cyfan yn lled welw; ond yr oedd ei lygaid yn fflam, a'i lais yn glir, a'i yni yn lled hoyw, er pob peth. Yr oedd yn hawdd deall fod ei enaid yn orlawn o feddyliau, ac fel pe buasai yn llawenhau wrth feddwl am gael cyfle i gyfeillachu a'i frodyr, cyn iddynt ymadael bawb i'w daith. Wedi i bawb gymeryd eu lle yn rhes o'i amgylch, dechreuodd fynegu mor dda oedd ganddo eu gweled; ac os byddai ganddo unrhyw gynghor caredig a allai roddi iddynt, y byddai yn barod i'w roddi, yn gystal a gwrando arnynt hwythau yn eu tro yn adrodd eu golygiadau. Dechreuodd trwy awgrymu fel y dylasai fod teimladau y frawdoliaeth oll yn cysgodi fel tarian, y naill dros y llall, fel y dywedai yr apostol, "y gofal sydd arnaf dros yr holl eglwysi." Y mae cynal teimladau da, yn ofn Duw, yn werthfawr mewn cymdeithas fel hon. Yr oeddwn yn meddwl y cymerwn fy rhyddid i gyfeirio gair at amgylchiad neu ddau. Yr oedd dadleu lled chwerw yn nghylch dirwest yn y wasg ar y pryd. "Dyna y symudiad newydd am sobrwydd sydd yn y wlad yn awr," meddai ef, "ni ddywedais i air erioed yn erbyn dadl deg ar y pwnc, gan nad pa mor benderfynol y byddai pob ochr; ond byddai yn dda iawn genyf pe gellid dangos mwy o foneddigeiddrwydd ar bob llaw, a gochel pob ymosodiad personol, yr hyn nad yw yn ateb nemawr ddyben heblaw chwerwi teimladau mewn cymdeithas, a magu cynhenau mewn gwlad." Ni enwodd neb wrth wneud ei nodiadau, ond gwyddid yn lled dda at ba bwynt yr oedd cyfeiriad y saethau. Yr oedd yn awyddus i gyfeirio gair at amgylchiad arall hefyd. Yr oedd un o'r gweinidogion wedi trechu holl helwyr cedyrn y wlad fel saethydd gyda y dryll ar y maes. Ni allai ef oddef cysylltu y fath enwogrwydd mewn un modd âg urddas y weinidogaeth. Bu yn ddigon gochelgar rhag cyfeirio at enw neb, ond datganodd yn groew pa mor ddedwydd y teimlasai, ond i'r awgrymiadau hyn gael derbyniad caredig. Tystiai yn ddifrifol nad oedd ganddo un amcan wrth wneud y sylwadau mewn golwg, ond anrhydedd y frawdoliaeth a lles yr achos. "Yr wyf wedi bod fel arweinydd gyda chwi lawer gwaith," meddai yn wylaidd, "Ac y mae gan y cadfridogion, fel y gwyddoch, eu cynrychiolwyr ar y maes yn gwylio ysgogiadau y byddinoedd, ac yn cludo pob hanes iddynt. Felly yr wyf finau wedi bod er dechreu y cyfarfod yma; yr wyf wedi cael pob boddlonrwydd am eich cenadwri, ac yn dawel hollol i adael yr achos mawr yn eich dwylaw. Pe buasai genyf ddifrifoldeb yr apostol, buaswn yn dueddol i roddi cynghor caredig i chwi, yn enwedig pan y dywedai, "Yr ydwyf fi, gan hyny, yn eich gorchymyn ger bron Duw a'r Arglwydd Iesu Grist, a'r etholedig angylion, yr hwn a farna y byw a'r meirw yn ei ymddangosiad o'i deyrnas, ar i chwi gyflawni eich gweinidogaeth modd y byddoch yn lân oddiwrth waed pawb oll, pregethwch y gair, byddwch daer mewn amser ac allan o amser, argyhoeddwch, ceryddwch, anogwch gyda phob hirymaros ac athrawiaeth." Dechreuai edrych yn llym iawn, a thremiai ar a thrwy y brodyr oll; yr oeddynt fel pe buasent yn ei ofni, ac yn ei garu ar yr un pryd. "Na chymerwch yn angharedig ynof," meddai, "am wneud fy hun yn lled rydd gyda chwi am dro fel hyn. Yr oeddwn yn meddwl am gyfarfod tebyg i hwn, yn enwedig mewn tref boblog a chyhoeddus fel hon, lle mae lluaws yn dyfod i wrando arnom, na ddeuant ond ar amgylchiad fel hyn. Bob tro y deloch ar y fath achlysur gofalwch am ddyfod yn eich dillad Sabbathol, y pregethau goreu, a'r cyfansoddiad mwyaf trwyadl, a'r testynau mwyaf detholedig a chymhwys y rhai a fyddo oreu ar eich cof, eich tafod, a'ch ysbryd. Y mae nifer mawr yn dyfod i wrando arnoch o gywreingarwch, ac yn ffurfio eu barn am yr enwad wrth eich gwrando. Ni fynwn i chwi fod yn ol i neb am eich prydferthwch allanol, mewn iaith na thraddodiad. Pwy a ŵyr pa argraff a ellwch ei wneud ar ddosbarth fel hyn o wrandawyr. Ond o drugaredd, y mae genych lawer yn dyfod i'ch gwrando o barch at grefydd, ac o serch at yr efengyl. Bydded eich holl enaid yn y gwaith. Deuwch i'r cyfarfod wedi ymgyfamodi ar ben deulin a'ch Meistr mawr, i ymdrechu gadael rhyw argraff teilwng ar eich ol; mynwch gymeryd y dref—take the city by storm. Y mae yn ddiau genyf, ond i chwi gael eich dwyn i'r agwedd a'r ysbryd hwn, na adewir mo honoch yn unig, ond y cewch eich gwisgo â nerth o'r uchelder, ac y bydd udgorn bloedd brenin yn eich plith. Yr oedd yr apostol—ion yn rhoddi gliniau i lawr i weddio cyn ymaflyd mewn pob gorchest fawr, ac yr oedd Duw hefyd yn cyd—dystiolaethu trwy arwyddion a rhyfeddodau, ac amryw nerthoedd a doniau yn Ysbryd Glan, yn ol ei ewyllys ei hun." Teimlai pob un wrth ymadael fel pe buasai wedi bod yn bur agos i Fynydd y Gweddnewidiad, ac nid yn fuan y dileir yr argraffiadau oddiar feddwl yr ychydig weddill sydd wedi eu gadael yn fyw hyd heddyw oedd yno.

DYWEDIADAU O EIDDO MR. WILLIAMS, GAN Y PARCH.
E. DAVIES (DERFEL GADARN.)

Gallesid meddwl wrth wrando ar Mr. Williams yn traethu, na byddai wedi astudio un llwybr i fyned yn mlaen, ond ei fod yn ymddibynu yn gwbl ar yr hwyl a gaffai ar y pryd; ond wrth ei ddilyn yr oedd yn eglur ei fod wedi rhagdrefnu ei fater gyda'r medrusrwydd a'r gofal mwyaf. Y mae yn gofus genyf am dano unwaith yn cadw cyfarfod yn Mhwllheli yn nglŷn â chymdeithas y Beiblau. Rhyw ddydd hynod oedd y dydd hwnw; yr oedd pedwar o brif bregethwyr Cymru wedi eu gwahodd i'r cyfarfod. Yr oedd Mr. Williams i areithio yn nghapel Penlan, a chan fod yno ormod o bobl i'r capel allu eu cynwys, aeth ef a safodd yn y ffenestr, ac yr oedd yn edrych o'i gwmpas mor ddigyffro a difeddwl, fel y gallesid tybio na wyddai yn y byd pa beth i'w ddywedyd; ond o'r diwedd, cyn dywedyd dim, edrychodd at ei draed ar waelod y ffenestr, a chanfu yno Destament, ymaflodd ynddo a chododd ef i fyny, a dywedodd, "Byddwn yn arfer edrych tu fewn i'r llyfr hwn am destynau i'n hareithiau, ond y mae yma destun oddiallan i hwn a wna y tro yma heddyw," yna darllenodd y geiriau tuallan—

BRITISH AND FOREIGN BIBLE SOCIETY—
BEIBL GYMDEITHAS FRUTANAIDD A THRAMOR.

Traethodd am fawr werth cymdeithas, ac nad oedd dim braidd yn ormod i gymdeithas allu ei gyflawni. Cymdeithas o fân ronynau yw y ddaear, y goleuni, a'r dwfr. Sylwodd ar ddisgyniad y dwfr yn ronynau mân oddiwrth bigau y brwyn yn y mynyddoedd; a phe y buasai rhywun yn gofyn iddynt, "I ba le yr ydych yn myned? Yr ateb a gawsid eu bod yn myned i nofio llongau. Pa fodd, trwy ymuno a'u gilydd yn gymdeithas; ac erbyn hyn, y maent yn fôr, ac felly yn alluog i nofio llongau. Pe byddai eisiau symud rhyw wrthddrych mawr, a holl wŷr cryfion y wlad yn myned at y gorchwy! bob yn un ar wahan, ni allent byth gyflawni y gwaith; ond gadewch iddynt fyned gyda'u gilydd, cyflawnant y gwaith yn rhwydd. Nid yw y gymdeithas hon yn adnabod plaid na pherson mwy na'u gilydd, ac nid yw yn meddwl gorphwys tra byddo un heb Feibl. Meddyliodd rhyw uchel-Eglwyswyr unwaith nad oedd yn weddus cymeryd dim gan Undodiaid, a rhyw deulu felly at Gymdeithas y Beiblau; ac y mae yn debygol pe cawsent eu pwrpas y buasent yn cau eraill allan bob yn dipyn, ac felly yn dinystrio amcan y Gymdeithas, ond rhoddodd Mr. Rowland Hill derfyn ar hyn mewn byr eiriau drwy ddywedyd yn Exeter Hall, nad oedd waeth ganddo ef gan bwy y caffai Feibl, y cymerai ef Feibl pe buasai y cythraul yn ei gario iddo â gefail dân.

Yr oedd Mr. Williams, a chyfaill enwog iddo unwaith ar daith yn y Deheudir, ac yn cyd-bregethu yn aml, ond byddent weithiau yn gorfod ymwahanu, yn enwedig ar y Sabbathau; ond pa le bynag y byddai Mr. Williams, yno y cyrchai corff y bobl. Gofynodd ei gyfaill iddo unwaith, "Paham y mae hyn yn bod? oblegyd gallwn feddwl fod genyf fi gystal pregethau a chwithau." "Ho," meddai, yntau, "Gallai fod eich pregeth chwi yn well na'r eiddo fi, ac nid hyny yw yr achos. Yr ydych chwi yn myned a'ch gwrandawyr i

YSTAFELL YN LLAWN O DDARLUNIAU PRYDFERTH,

ac yn dangos yr oll iddynt ar unwaith, byddaf finau yn ymaflyd yn handle y drws ac yn dweyd fod genyf ddarlun prydferth iawn oddifewn, ac yn ymdrechu cynyrchu awydd yn y bobl am ei weled, yna byddaf yn agor y drws, ac yn dywedyd, dyma fo, edrychwch arno; felly byddant yn gweled un genyf fi, a byddant yn gweled llawer genych chwi, ond heb weled dim un mwy na'i gilydd." Dywedai Mr. Williams unwaith, "Yr wyf yn cofio clywed un hen frawd yn cwyno mewn cynadledd, ac yn dywedyd ei fod yn ofni nad ydoedd ef ddim wedi cael ei anfon i bregethu, a hyny oblegid nad oedd ganddo ddim llawer o

DDEFNYDDIAU PREGETHAU

o'i eiddo ei hun, ond rhyw bethau a gaffai wrth ddarllen o eiddo rhywrai eraill. "Wel, frawd," meddai Mr. Williams, "Yr wyf yn cofio am hen wreigan dlawd yn fy hen gymydogaeth, a fyddai yn myned oddiamgylch bob dechreu haf i gasglu ychydig wlan, a byddai yn cael ychydig gan hon a'r llall, ac ambell dusw yn y perthi, a byddai yn rhoddi y cwbl yn yr ysgrepan gyda'u gilydd, yna dygai ef adref, a thriniai ef gan ei gribo a'i nyddu, a myned âg ef i dŷ y gwehydd, ac oddiyno i'r Pandy; a byddai rhywun yn ei wneud yn ddillad iddi; ac edrychai yr hen wreigan mor gryno ac mor glyd, a phe buasai y gwlan wedi tyfu i gyd ar gefn ei defaid ei hun, er na feddai lwdn dafad ar ei helw, felly chwithau, na ofelwch gymaint pa le y caffoch ddefnydd eich pregethau, ac ond i chwi drin y cyfryw ddefnyddiau fel yr hen wraig gyda'r gwlan, bydd y cwbl yn eiddo i chwi eich hunan.

Y WESLEYAID YN LAMP YCHWANEGOL YN Y LOBBY.

Ystyriai Mr. Williams, mai mewn tywyllwch anwybodaeth, a diffyg cydnabyddiaeth â'n gilydd, y megir rhagfarn bob amser. "Yr oeddwn," meddai, "tua Llanfachreth a Thrawsfynydd acw, yn meddwl pan ddaeth y Wesleyaid gyntaf i'r wlad, eu bod yn ddynion mor ryfedd a phe y buasai cyrn ar eu penau, ac y dylesid ymgadw oddiwrthynt, fel pe buasent yn wahanglwyfus, ond erbyn edrych, nid oedd y cwbl ond dychymyg gwag a disail, ac nid oeddynt hwythau ond lamp ychwanegol yn y lobby. Gwnaethant lawer o les, a phe y codai rhyw enwad newydd o Gristionogion eto byddai hyny yn sicr o gynyrchu daioni. [1]"

Y MAWR YN GALLU BOD YN OSTYNGEDIG.

GAN Y PARCH. Z. MATHER, ABERMAW. Dyma ni mewn dychymyg er's mwy na haner can' mlynedd yn ol, ar hwyr prydnawn dydd hyfryd yn nechren mis Mehefin, yn sefyll o flaen amaethdy henafol o'r enw Dolymynach, yn nghwr dyffryn prydferth yn un o siroedd y Gogledd. Nid ydyw yr adeilad yn wych ei ymddangosiad, ond y mae yn gadarn, fel y prawf ei furiau trwchus o feini mawrion. O'i flaen, o fewn tua phymtheg llath i'w gilydd, mae dwy dderwen gadarn gauad—frig, y rhai ydynt wedi ei gysgodi rhag gwres yr haf ac ystormydd y gauaf am dymhorau lawer. Yma dysgir i blant dynion eu rhwymedigaeth i adeiladu tai, a phlanu coed i'r oesoedd a ddeuant. Onid ydyw adeiladu yn ysgafn ac addurniadol, a phlanu coed ffawydd, yn dangos gwanc anniwall dynion am gael holl fwynderau y byd iddynt eu hunain. Nid ydym yn cael bod yma ond ychydig funydau, cyn i ni glywed llais i ni glywed llais y feistres yn dweyd wrth y forwyn, "Gwna frys i roi bwyd i'r moch, Mari bach, maent yn gwaeddi er's meityn."

"Af 'rwan, meistres," meddai; ac ymaith â hi mewn brys, fel y prawf clinc ei chlocs ar y palmant; ac mewn moment, dyma yr oernadau mochyddawl wedi troi yn rhyntiau boddhaus. Y fath ddylanwad llonyddawl sydd gan ymborth yn nghylla pob creadur... Gyda hyn, clywir trwst y llestri godro, a gwelir y gwartheg o un i un yn dyfod i'r buarth, a Mari y forwyn, Ned yr hogyn, a Dafydd y cowman yn llawen a dedwydd yn myned at y gorchwyl o odro. Clywch chwi Ned yn myned o'i hwyl, gan waeddi, "Bydd llonydd di, Cochen, pwy ddewin al d'odro di?" Ond mae Mari yn ysgafn ei chalon yn canu yn ddedwydd wrth odro Brithen, a hithau, dan gnoi ei chil, yn rhoddi ei llaeth mor dirion a thiriondeb. Mae yn mysg gwartheg, fel yn mysg dynion, rai yn gwasanaethu eu cenedlaeth yn fwy didwrw a rhadlawn o lawer nag eraill. Dyma y gorchwyl hwn eto drosodd y llaeth wedi ei hidlo, a'r gwartheg yn dechreu meddwl am barotoi i dalu eu teyrnged laethawl y boreu dilynol. Yr ydym yn teimlo fod gofalon a thrafferthion amaethdy yn lleng; ond eto, os ceir deupen llinyn amgylchiadau at eu gilydd i'w hwylus glymu, mae yn sicr o fod ar y cyfan yn fywyd pur ddedwydd, bywyd iach ac agos i drefn natur. Gyda golwg ar ei drafferthion, pa beth geir yn y byd yma o werth heb drafferth? Ac i'r hwn sydd a'i galon yn ei waith, oni ellir dweyd mai yn nhrafferthion ei waith mae yn cael ei fwynhad uwchaf.

Heb ymdroi yn hwy gyda'r anifeiliaid, gadewch i ni fyned i'r ty. Cyn i ni eistedd i lawr, tynir ein sylw gan y dodrefn henafol a chryfion. O flaen y ffenestr mae hen fwrdd braf a chryf, oddiar yr hwn mae gweision a morwynion, am genedlaethau rai, wedi bod yn cyfranogi o iachusfwyd y wlad. Tynwyd ein sylw mewn cwr arall gan hen gwpwrdd press o riddyn derw, ac wedi ei gerfio arno gan law-gelfydd y flwyddyn 1696, yr hwn sydd wedi bod yn dra gwasanaethgar i gadw dillad brethyn cartref teulu am dymhor hir. Ac i'r ystyriol a'r meddylgar, mae yr hen gwpwrdd press yn ei iaith, yn llefaru yn effeithiol, ond rhaid gadael yr hen ddodrefn i ddyfod at y teulu. Mae y teulu presenol yn gynwysedig o hen wr o'r enw Rolant Dafydd, wedi gadael ei bedwar ugain, ei wallt gan wyned a'r eira, a chwareugarwch plentyn ar ei wedd; ei fab Evan, a'i hawddgar a gofalus wraig Martha, a saith o blant, pump o fechgyn, a dwy o enethod, y rhai oll, fel y dengys eu bochau cochion, ydynt gan iached a iechyd, mor chwareus a'r oen, ac mor llawen a'r gog. Mae yr hen wr yn eistedd yn ei gadair ddwy fraich wrth ochr y tân, a'r Hen Feibl mawr yn agored wrth ei benelin ar y pentan, lle y gosododd ef tra bydd yr hyn ddarllenodd yn myned trwy felin myfyrdod. Tra y myfyriai fel hyn, dyma ei hen gyfaill Lewis Llwyd, yr Hendre, sef y fferm nesaf, yn dyfod i mewn, yr hwn a ddywedai wrth ddyfod yn mlaen, "Nid ydyw o un gwahaniaeth pa bryd y deuaf yma, Rolant Dafydd, yr ydych chwi yn sicr o fod gyda'ch Beibl, mae yn rhaid eich bod yn cael hyfrydwch mawr ynddo." "Ydwyf, Lewis Llwyd anwyl," meddai yntau, "Yr wyf yn cael yr hyfrydwch penaf yn a thrwy hwn; yr oeddwn yn darllen cyn i chwi dd'od i mewn, y geiriau hyny, "Canys ni a wyddom, os ein daearol dŷ o'r babell hon a ddatodir fod i ni adeilad gan Dduw, sef ty nid o waith llaw, tragwyddol yn y nefoedd. Canys am hyny yr ydym yn ocheneidio, gan ddeisyfu cael ein harwisgo â'n ty sydd o'r nef, os hefyd wedi ein gwisgo, nid yn noethion y'n ceir." "Wel, yn wir," meddai Lewis Llwyd, "Os oes neb yn meddu y sicrwydd bendigedig yna, yr ydych chwi yn ei feddu Rolant Dafydd." "Os nad wyf yn twyllo fy hun yn fawr," meddai yntau, "yr wyf yn meddwl fy mod yn ei feddu er's llawer blwyddyn bellach, ond eto, nis gallaf ddweyd fy mod yn berffaith foddlawn i'r daearol dŷ gael ei dynu i lawr. Fel y gwyddoch, rhoddwyd ar ddeall i ni beth amser yn ol, fod y meistr tir yn rhyw feddwl am chwalu yr hen dŷ yma, a chyfodi un newydd yn ei le, ac nis gallwch ddychmygu mor rhyfedd y teimlais. Rhedodd fy meddwl yn ol at yr amser pan yr oeddym yn chwech o blant ar yr aelwyd yma yn ddedwydd gyda'n gilydd. Meddyliais fod fy nhad a fy nhaid wedi eu geni yma, ac wedi eu hebrwng i'r fynwent yna, a theimlais fod yr hen dŷ mor gysegredig i mi ag oedd y deml i genedl Israel gynt, ac nis gallwn am foment oddef y syniad o'i chwalu, a dywedais, Os oes ty newydd i fod, o na ellid ei adeiladu am yr hen dŷ rywfodd. Ac O, mor ddedwydd y teimlais pan y deallais fod yr hen dŷ i gael ei adael fel y mae am beth amser eto. Wel, rhywbeth yn debyg ydyw fy nheimlad gyda golwg ar y daearol dŷ yma, fel yr apostol, Lewis Llwyd, rhyw ddymuniad am gael fy arwisgo." "Yr wyf yn teimlo yr un modd a chwi yn gymhwys," meddai Lewis Llwyd, "Ac yn wir, yr wyf yn meddwl fod yn anmhosibl i neb hoffi y diosg yma welwch chwi, Rolant Dafydd." "Wel, mae yn rhaid i minau gychwyn tua chartref bellach, er mor felus ydyw yr ymddyddan, oblegid bydd yn bryd swper yn union, a dyma y plant yn dyfod i mewn wedi bod yn chwareu yn ddedwydd druain. Beidiwch chwi a chael pobl ddyeithr, d'wedwch?" "Pa'm, beth sydd yn peri i chwi feddwl Lewis Llwyd?" gofynai Martha Davies. "Gweled yr hen gath ddu yn ymolchi ei goreu yr ydwyf fi," meddai yntau. Gydag iddo gychwyn tua chartref, dyma y plant ieuengaf yn dechreu gwaeddi am eu swper.

"Gan ein bod ni ychydig yn brysur heno,' meddai y wraig wrth y forwyn, "dyro y crochan uwd ar lawr iddyn' nhw gael eu swper i fyn'd i'w gwelyau oddiar y ffordd." A dyna hwy mor brysur o gylch y crochan a nifer o berchyll. Iechyd i'w calonau, dyma y ffordd i gael cyfansoddiadau cryfion, bochau cochion, a meddyliau bywiog. Dyma Mot y ci yn rhoddi cyfarthiad yn sydyn. "Yr wyf yn meddwl," meddai y wraig, "fod yna rywun wrth y drws; 'dos i edrych pwy sydd yna Mari." Wedi i'r forwyn agor y drws, deallodd nad oedd yno neb llai enwog na'r anfarwol Williams o'r Wern, a gwaeddodd, "Mr. Williams y Wern, Meistres." Gyda hyny rhedodd y wraig i'w gyfarfod wedi cyffroi yn ddirfawr, a dywedodd, "O Mr. Williams anwyl, mae yn ddrwg gen i, i chwi ddyfod i le mor annhrefnus, a'r plant yn bwyta uwd o'r crochan fel yma. Ni fyddwn yn gwneud fel hyn bob amser, ond ein bod wedi ei roddi yn y ffordd rwyddaf heno, o herwydd ein bod ychydig yn brysur." Gwelodd y pregethwr mawr ac athrylithgar mewn moment fod ei ddyfodiad annysgwyliadwy wedi llanw y lle â chyffro; mae y forwyn wedi dianc o'r golwg; Ned yr hogyn yn llechu yn nghongl y tân, ac yn edrych gyda chil ei lygad, a'r wraig druan yn methu gwybod pa beth i'w ddywedyd na'i wneud. Yn y cyffro mae y plant yn dal y llwyau i fyny yn eu dwylaw, ac yn sylldremu yn ngwyneb y gwr dyeithr. Ond profodd Mr. Williams ei hun i fyny â'r achlysur. Edrychai yn foddhaus ar y plant, a dywedai, "Wel, mae yn dda genyf eu gweled, rhoddwch i mi fenthyg llwy. "Beth wnewch chwi â llwy Mr. Williams?" gofynai y wraig yn synedig. "Rhoddwch chwi fenthyg llwy," meddai yntau drachefn, ac o'r diwedd caniataodd y wraig iddo ei ddymuniad, a chyda hyny dyma ef ar ei liniau yn nghanol y plant yn ddedwydd yn bwyta uwd o'r crochan gyda hwy. Torodd y wraig allan i chwerthin yn galonog gan ollwng ei hun i'r gadair oedd gerllaw. Wedi chwerthin allan ei holl drallod, dywedai, "Wel, yr ydach chwi yn un rhyfedd Mr. Williams." Fel hyn, llwyddodd y gwr enwog hwn, nid yn unig i dawelu y cyffro a achlysurodd, ond troes y cyffro yn ddigrifwch a mwynhad i'r teulu oll, ac yn yr amgylchiad daw mawredd y pregethwr i'r golwg mewn modd amlwg. Pwy na wel ei fawredd yn mhlygiad hwylus ei liniau a'i fwynhad wrth gyfranogi o gynwysiad y crochan gyda'r plant. Yr oedd rhaid cael dyn mawr i wneud hyn, ac nid ydym yn rhyfeddu y byddai y gwr allai fyned ar ei liniau wrth y crochan uwd yn gallu swyno y miloedd oddiar esgynlawr y gymanfa. Dangosodd ei hun yn fawr wrth wneud ei hun yn blentyn. Un o'r profion amlycaf o wir fawredd ydyw gostyngeiddrwydd, ac y mae graddau y naill yn cyfateb i raddau y llall. Mae y dyn balch a hunanol i'r gwrthwyneb, yn edrych arno ei hun yn dalach na phawb, oblegid nid ydyw un amser yn dyrchafu ei lygaid. Nid oes angen i mi ddweyd, debygwyf, mai yn ffugyrol yr wyf yn golygu hyn. Ond dylid cofio mai nid am nad ydyw yn gweled ei fawredd mae dyn mawr yn ostyngedig, oblegid mae pob dyn athrylithgar yn ymwybodol o'i fawredd, fel y mae pob cawr yn ymwybodol o'i nerth. Ond y mae dynion mawr yn ostyngedig, fel y dywed un, eu bod yn ymwybodol fod eu mawredd drwyddynt ac nid ynddynt. Pan gyfododd Mr. Williams o fysg y plant oddiwrth y crochan uwd, mae yr henafgwr urddasol a duwiolfrydig yn cyfodi o'i gadair ddwyfraich, ac yn ymaflyd yn ei fraich i'w arwain iddi, ac nid oes ond gadael i'r darllenydd ddychmygu yr ychydig amser dreuliodd Mr. Williams a'r teulu caredig gyda'u gilydd yn ystod ei ymweliad annysgwyliadwy. Yr wyf yn teimlo fod yn yr amgylchiad dyddorol hwn addysg i bob pregethwr ddichon alw yn annysgwyliadwy gyda theuluoedd caredig. Yr wyf wedi rhoddi i lawr y rhan sydd yn son am y crochan uwd mor gywir ag yr wyf yn cofio i mi ei glywed yn cael ei adrodd, a thraethais fy nychymyg am y gweddill i fod yn frame i'r darlun godidog o fawredd yn cael ei ddangos trwy ostyngeiddrwydd.

PREGETH AR Y COF.

Clywais hen wr crefyddol yn dweyd iddo fod yn gwrandaw ar yr anfarwol Williams o'r Wern yn pregethu yn hen gapel yr Annibynwyr yn Nolgellau ar y cof. Nid ydoedd yn cofio ei destun, ond yr oedd darluniad y pregethwr athrylithgar o bobl yn achwyn ar eu cof yn fyw yn ei feddwl.

Efe a ddywedai, yr wyf yn cofio fy mod i yn galw un tro gyda hen wr a hen wraig, ac fod yr hen wr yn achwyn ar ei gof yn fawr, dywedai nad oedd yn cofio dim bron, "wyt ti ddim yn cofio Sion," meddai yr hen wraig, "yr amser y torodd torchres yr hen gaseg wen ar y rhiw yn y fan a'r fan, pan yr oeddit ti yn dyfod adref gyda'r llwyth mawn, ac y bu yn agos i ti gael dy anafu?" "Cofio, ydwyf, Sian, fel pe y buase fo wedi dygwydd ddoe.". Felly y mae y rhai sydd yn achwyn ar eu cof mewn cysylltiad â phethau crefyddol yn cofio pethau eraill yn burion. Mae cof y rhai nad ydynt yn talu sylw i bethau da yn debyg iawn i boced bachgen. "Dos i dy wely Will," meddai mam wrth ei bachgen, ac y mae yntau yn ufuddhau. Wedi iddo fyned, mae y fam wrth roddi ei ddillad ef o'r neilldu yn taro ei llaw yn erbyn ei boced, yr hon sydd yn llawn o ryw bethau dyddorol a gwerthfawr gan y bachgen. Mae yn ei theimlo, ac yn gofyn iddi ei hun, yn enw yr anwyl, beth sydd gan yr hogyn yma yn ei boced? Yna y mae hi yn rhoddi ei llaw i mewn, ac yn dechreu tynu y cynwysiad allan, ac yn cael yno ddarnau o bapyr, hoelion, botymau, marbles, a llinyn, bid a fyno. Ond er fod y boced yn llawn, nid oedd y cwbl ond pethau diwerth. Felly mae cof dynion yn naturiol yn llawn o bethau diwerth, fel y mae yn anmhosibl iddynt allu cofio pethau da. Dangosai y pwysigrwydd o gadw pethau diwerth o'r cof, ac ymdrechu trysori ynddo bethau sylweddol a da; a dywedai yr hen wr fod ei naturioldeb yn tynu ei sylw mewn modd neillduol.

DYSGU MORWYN Y DAFARN I WEDDIO.

Er fod dros haner can' mlynedd wedi myned heibio er pan aeth y dyn mawr hwn i dangnefedd yr orphwysfa nefol gan ddweyd, "Tangnefedd, tangnefedd." Mae ei ddylanwad yn aros eto, ac y mae rhai o'r sawl gawsant y fraint o'i weled a'i wrandaw yn pregethu yn aros hyd y dydd hwn. Mae gwrandaw ar y cyfryw yn adrodd eu hadgofion am dano yn un o'r pethau mwyaf dyddorol i mi. Teithiodd drwy Dde a Gogledd Cymru, a buasai yn resyn i'r fath weinidogaeth gael ei chyfyngu i gylch yr eglwysi dan ei ofal. Ond clywais un o hen aelodau y Wern yn dweyd na fyddent yn cael bob Sabbath y byddai gartref bregethau cyffelyb i rai y Cyfarfodydd mawr a'r Cymanfaoedd. Pregethai am Sabbathau yn olynol heb fod dim anarferol yn y pregethau, er y byddai bob amser yn dda.

Ond o'r diwedd, byddai "gwn mawr" o bregeth yn cael ei danio nes synu a swyno pawb, ac edrychid ar hyn fel arwydd bob amser ei fod ar gychwyn i daith. Yna äi drwy y wlad am wythnosau gan wneud bylchau yn rhengoedd y gelyn gyda'r gwn mawr" newydd. Derbynid ef yn mhob man lle yr elai fel angel Duw, a mawrheid y fraint gan deuluoedd o gael ei letya yn adeg ei ymweliadau â threfi ac ardaloedd. Pan an yr ymwelai âg un dref, yn Ngogledd Cymru, arferai letya mewn tafarndy yn nghwr y dref, i'r hwn y perthynai ychydig dir, a'r hwn oedd felly yn gyfuniad o dafarndy ac amaethdy. Yr oedd yn gwasanaethu yno eneth ieuanc ddymunol a charedig, yr hon a wnai bob peth yn ei gallu i wneud Mr. Williams yn ddedwydd yn ystod tymhor ei arosiad yn y lle. Heb fod yn nepell oddiwrth y ty yr oedd planigfa o goed, lle yr oedd ffynnon ddwfr, o'r hon y cyrchid dwfr at wasanaeth y ty. Un nos Sabbath dyma gyhoeddiad Mr. Williams i bregethu ar noswaith benodedig, a mawr oedd y dysgwyl am yr oedfa. Daeth Mr. Williams yno o rywle brydnawn diwrnod yr oedfa, ac aeth fel arfer i'r hen lety, lle y derbyniwyd ef yn siriol a llawen. Ar ol te aeth i'r blanigfa wrtho ei hun i fyfyrio ei bregeth, lle y cerddai yn araf ol a blaen, ac ymddangosai fel un yn teimlo pwysigrwydd y genadwri yr oedd ganddo i'w chyhoeddi dros ei Feistr Dwyfol. Tra yr oedd yno fel hyn yn myfyrio, a'r tan yn enyn, oedd i dori allan fel ffrwydriad mynydd tanllyd cyn pen ychydig amser yn yr oedfa, daeth y forwyn gyda'i dwfr-lestr at y ffynnon i gyrchu dwfr. Plygodd ar ei gliniau ar gareg o flaen y ffynnon, a llanwai y dwfr-lestr gydag un llai, Tra yr oedd yn codi dwfr, daeth Mr. Williams yn mlaen, a safodd uwch ei phen. Ehedodd meddwl y pregethwr wrth ei gweled at hanes y wraig o Samaria, a dywedodd wrth y forwyn, "Os gwnei di ddweyd gweddi fach wna i ddysgu i ti bob tro y deui di yma i godi dwfr ar dy liniau fel hyn, mi roddaf haner sofren i ti pan ddeuaf yma nesaf." "Os gallaf ei dysgu, mi wnaf, Syr," meddai y for—wyn. "O, nid ydyw ond ychydig eiriau, sef 'Ar—glwydd dyro i mi y dwfr bywiol fel na sychedwyf.' Os byddi di yn siwr o ddweyd y weddi fer hon bob tro byddi yn myned ar dy liniau ar y gareg yna i godi dwfr, mi fydda i'n siwr o gyflawni fy addewid." Wedi llenwi y dwfr—lestr dychwelodd y forwyn gydag ef i'r ty, gan benderfynu gwneud fel y dysgodd y pregethwr hi. Yn mhen tua blwyddyn ar ol hyn daeth Mr. Williams heibio drachefn i roddi oedfa, ac wedi myned i'r llety arferol gwelai nad oedd yr hen forwyn yno, a gofynai pa le yr oedd. "Mae yn ddrwg genyf ddweyd, Mr. Wil—liams bach," meddai gwraig y ty, "ein bod ni wedi gorfod ymadael â hi." "Mae yn ofidus iawn genyf glywed hyny," meddai Mr. Williams. "O," atebai y wraig, "ni wnaeth ddim drwg, ac y mae hi yn gwasanaethu gyda theulu parchus yn y dref yma, ac mewn parch mawr ganddynt. Y rheswm i ni ymadael â hi oedd ei bod hi wedi myned i bregethu wrth bawb ddeuent i'r ty i gael glasiad ar niweidiau yr arferiad o yfed diodydd meddwol. buasem yn ei chadw, buasem yn sicr o golli ein cwsmeriaid i gyd." Yr oedd dweyd y weddi fer pan ar ei gliniau ar y gareg oer yn codi dwfr, wedi ei gwneud yn genad dros Grist mor selog a'r wraig o Samaria gynt. Nis gallasai Mr. Williams beidio llawenychu yn fawr wrth glywed hyn, a galwodd yn y ty lle yr oedd yr eneth ieuanc selog hon yn gwasanaethu, i ddatgan ei lawenydd ei bod wedi gwneud ei ddymuniad, ac i roddi yr haner sofren iddi yn ol ei addewid. Buasai hanes ei ymweliad â hi yn sicr o fod yn ddyddorol iawn, ond nid oes genyf gymaint a gair ar hyn i'w ddweyd, a rhaid i'r darllenydd geisio dychmygu cyfarfyddiad dedwydd gwr Duw â'r forwyn grefyddol oedd wedi gorfod gadael ei h en feistres oblegid ei ffyddlondeb i Grist. Wele yr hanes mor gywir ag y medrai hen chwaer dduwiol o'r Wern ei adrodd ychydig flynyddau yn ol.

Nodiadau[golygu]

  1. Gwel "Y Dydd" am Hydref, 1868.