Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern/Sylwadau Arbenig

Oddi ar Wicidestun
Pregeth XXII Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern

gan David Samuel Jones

Cynghorion a Dywediadau Neillduol

PENNOD XXI.

SYLWADAU ARBENIG.

Y CYNWYSIAD—Dyfodiad pechod i'r byd—Llywodraeth foesol—Dim ond tri chwrt yn y mil blynyddoedd—"Gan ddechreu yn Jerusalem"—Yn ol eich ffydd—Ffurfio cymeriad cariad: nad yw y priodoleddau dwyfol ond gwahanol agweddau arno.

DYFODIAD PECHOD I'R BYD.

NID ydyw pechod yn hanfodol i greadur rhesymol, oblegid y mae creaduriaid rhesymol heb bechod, megys angylion ac ysbrydoedd y cyfiawn.

2. Y mae achos pechod yn gwbl yn y creadur, yr hyn ydyw ymddibyniaeth y creadur, a'i ryddid mewn cysylltiad â'u gilydd. Mae rhyddid yn dda naturiol, ac nid oes drwg moesol mewn ymddibyniaeth, ac nis gallai creadur cyfrifol fod hebddynt, oblegid gwneuthur creadur yn anymddibynol a fyddai gwneuthur Daw o hono, a bod Duw yn creu Duw sydd yn anmhosibl. Pe y byddai heb ryddid nis gallai fod yn gyfrifol, neu yn weithredydd moesol. Y ddau beth hyn gyda'u gilydd a gynyrchai bechod yn yr angel sancteiddiaf yn y nef, heb gyfryngiad dwyfol ras, os na allai y creadur fod heb yr achos o bechod, ni ddylai Duw gael ei feio o'i herwydd.

Y peth nesaf ydyw, pa un a yw Duw yn rhwym yn ol cyfiawnder i atal pechod yn y creadur; os ydyw, y mae yr holl bechod yn yr holl greadigaeth, i'w osod wrth ei ddrws ef, ac nid wrth ddrws y creadur—na ato Duw! Byddai y fath haeriad yn sarhad ar synwyr cyffredin. Ond os gweithred o ras ydyw atal pechod mewn unrhyw berson ar unrhyw bryd, yna, y mae yr holl anhawsdra yn cael ei ddad-ddyrysu ar unwaith, o herwydd fod pob gweithred rasol yn weithred a ellir ei gwneud neu beidio, heb un achos beiad ar nodweddiad neb yn ei chylch, o herwydd byddai beio ar un am beidio gweithredu, yn rhagdybied ei fod dan rwymau i weithredu.

3. Nis gall Duw ewyllysio pechod mewn ffordd, o herwydd byddai ei ewyllysto mewn modd yn gariad ato, oblegid bod yr ewyllys yn ddangoseg o natur pob bod rhesymol. Holl weithredoedd ac ymddygiad Duw oeddynt i atal pechod i'r byd yn nghyda'i rwysg.

4. Gan hyny, nis gallasai Duw arfaethu pechod, o herwydd y mae ei weithredoedd yn ddangoseg o'i arfaeth, fel y mae ei ewyllys yn ddangoseg o'i natur. Y mae pedwar o gylchoedd megys yn troi yn eu gilydd. Y cylch mwyaf ydyw gwybodaeth gwrthddrychau, yr hon ydyw pob peth galluadwy i Dduw, ac i'r creadur, y rhai sydd ddirifedi, ac nas cymerent byth le; yr ail gylch ydyw rhagwybodaeth gwrthddrychau.

Ymddengys i ni ein bod yn gyfrifol am y pechod. cyntaf yr un modd ag yr ydym yn gyfrifol am bob pechod ar ol hwnw. Pa beth ydyw pechod gwreiddiol yn amgen na bod gweithgar a rhesymol yn dyfod i'r byd yn amddifad o ddwyfol ddylanwadau, neu gywir archwaeth foesol? Yr un ydyw ffeithiau (facts) pob peth a wna Duw, ac a wna y creadur. Y trydydd ydyw arfaeth; gwrthddrychau yr hon ydyw yr hyn a wnaeth ac a wna Duw yn unig. Mae Duw wedi arfaethu ei weithredoedd ei hun, ac y mae wedi rhagwybod holl weithredoedd ei greaduriaid hefyd. Y pedwerydd cylch ydyw etholedigaeth; gwrthddrychau yr hon ydyw holl ddynion ac angylion da. Gwybodaeth ydyw y llenllian ar yr hon y mae Duw wedi tynu ei holl gynlluniau. Pa le bynag y tynodd efe ei bwyntil (pencil) ar hyd—ddo, cyn belled a hyny y mae ei arfaeth yn cyrhaedd a dim pellach. Dywedyd fod Duw wedi arfaethu, gadael neu oddef, rhyw ran o'r papur, neu'r llenllian, i fod yr un lliw ag ydoedd cyn iddo gyffwrdd âg ef, a fyddai dweyd geiriau heb ystyriaethau iddynt, a dweyd fod Duw wedi arfaethu goddef pechod ydyw yr un peth a phe y dywedid ei fod wedi arfaethu y cyfwng, neu'r gwagder sydd rhwng ser y nef â'u gilydd. Gwrthddrychau arfaeth ydoedd creadigaeth y bydoedd hyny, pe amgen, buasai y cyfan yn wagder tragwyddol.

Wrth lywodraeth foesol yr wyf yn deall, dull Duw yn llywodraethu moesau neu ymddygiadau creaduriaid rhesymol. Yr ydym yn ei henwi felly er ei gwahaniaethu oddiwrth lywodraeth naturiol Duw, sef y modd y mae yn llywodraethu yr elfenau a'r creaduriaid direswm drwy gyfreithiau natur a greddfau. Y dull y mae moesau y rhan ddeallawl o'r greadigaeth yn cael eu llywodraethu yw drwy weinidogaeth moddion moesol, sef cymhelliadau, deniadau, a bygythion. Iaith Duw yn y llywodraeth yw, "Dangosaf i ti ddyn yr hyn sydd dda." Er egluro natur y llywodraeth hon, gellir golygu:

1. Fod yr holl fodau deallawl yn y bydysawd yn cyfansoddi un gymdeithas fawr, ac fod y fath gysylltiad rhyngddynt â'u gilydd, fel y mae ymddygiad pob un o ddechreu y byd hyd ei ddiwedd yn effeithio yn dda neu yn ddrwg ar gymdeithas oll, yn ol y sefyllfa y maent yn sefyll ynddi. Y berthynas hon sydd rhwng dynolryw â'u gilydd ydyw un o'r dangosiadau cryfaf o'r angenrheidrwydd am farn gyffredinol. Y mae rhai wedi dechreu ymarferiadau drwg, ac eraill wedi eu trosglwyddo yn mlaen o genedlaeth i genedlaeth; pan o'r tu arall y mae rhai wedi ymdrechu codi arferiadau da, ac wedi llafurio i'w cynal o oes i oes er lles cymdeithas. Yn awr, tuag at i bob un gael derbyn yn ol ei weithredoedd, rhaid galw rhyw gyfarfod cyffredinol i osod holl aelodau y gymdeithas, o ddechreu y byd hyd ei ddiwedd, i sefyll wyneb yn wyneb.

2. Yr hyn sydd yn cyfansoddi un yn aelod o'r gymdeithas hon yw, yn gyntaf, mwynhad gweinidogaeth moddion moesol; yn ail, gallu i amgyffred natur y gwrthddrychau a osodir gerbron; yn drydydd, gallu i garu yr hyn sydd brydferth, a chasâu yr anmhrydferth; yr hyn yn yr Ysgrythyr a elwir "calon," am mai hon yw ffynonell gweithrediad yr enaid, fel y mae y galon naturiol yn ffynonell gweithrediad y gwaed. Ac yn bedwerydd, rhyddid i ddewis, heb fod dim o'r tu allan yn gwthio y galon i ddewis y drwg na dim yn ei rhwystro i ddewis y da. Dyma sylfaeni cyfrifoldeb dyn. Y maent fel pedair craig dragywyddol nas dichon i bechod eu dadymchwelyd, ac na bydd byth eisieu gras i'w hadgyweirio.

3. Gan mai Duw ffurfiodd y gymdeithas hon, ac mai efe yw y rhan bwysicaf o honi yn nghlorian bodolaeth, fod hyn o angenrheidrwydd hanfodol yn ei osod yn llywydd iddi. Y mae efe i ofalu am ddedwyddwch y gymdeithas; o ganlyniad nis gall fod yn edrychwr difater ar ymddygiadau ei haelodau heb fod yn anffyddlon i'w ymddiried.

4. Y ddeddf foesol ydyw rheol dedwyddwch y gymdeithas. Cydymffurfiad â'r erthyglau cynwys—edig ynddi ydyw dedwyddwch y gymdeithas, ond y mae anghydffurfiad yn milwrio yn uniongyrchol yn erbyn ei dedwyddwch. 5. Rhaid fod pechod yn taro yn erbyn dedwydd—wch a bodolaeth y gymdeithas, ac yn erbyn pob aelod o honi yn ol maintioli ei fodolaeth. Ond yn

6. Mae pechod, mewn dwy ystyr yn taro mwy yn erbyn Duw nag yn erbyn neb arall, am ei fod ef yn anfeidrol fwy na phawb yn nghlorian bodol—aeth, a'i fod hefyd o ran swydd yn llywydd y gymdeithas. Fel pen llywydd bodolaeth y mae bob amser yn gweithredu yn enw a thros yr holl gymdeithas; ac y mae o bwys mawr i ni ystyried mai nid sarhad dirgelaidd (private injury) yn erbyn Duw yw pechod, ond ei fod sarhad cyhoeddus yn taro yn erbyn bodolaeth yn gyffredinol.

7. Fel Penllywydd bodolaeth y mae Duw yn cospi troseddwyr anedifeiriol, ac yn amddiffyn a gwobrwyo yr ufudd edifeiriol, yn yr un ystyr ag y mae Barnwr gwladol yn gweithredu yn enw y wladwriaeth; ac nid yn ei gymeriad dirgelaidd fel person unigol.

8. Fod yn hanfodol er dedwyddwch y gymdeithas i'r rhan leiaf wasanaethu y rhan fwyaf. Byddai aberthu dedwyddwch y rhan fwyaf er mwyn y rhan leiaf yn ddinystyr ar bob dedwyddwch, ac yn groes i bob trefn. Yr ydym oll yn deall hyn yn ei berthynas a phethau naturiol. Pe byddai i wladwriaeth aberthu ei rhyddid er boddio mympwy un gormeswr troseddai reolau dedwyddwch. Yn awr, Duw yw y rhan fwyaf a'r rhan oreu o fodolaeth, a rhaid iddo ofalu yn benaf am ei ogoniant ei hun, a byddai peidio gweuthur hyn yn drosedd ar reolau dedwyddwch bodolaeth. Y mae pob un a amcano yn gywir i ogoneddu y Pen—llywydd mawr yn sicr o fod yn ddedwydd; ond y mae bod dyn yn gwneuthur ei ddedwyddwch ei hun yn ddyben penaf ei amcanion, yn wrthryfel yn erbyn bodolaeth yn gyffredinol. Crybwyllaf yn awr rai addysgiad—au oddiwrth yr uchod. Gwelwn


1. Rhagoroldeb y llywodraeth foesol. Nid yw yn rhwymo y creadur i wneuthur dim ond yr hyn sy'n tueddu i'w les ei hun, a dedwyddwch yr holl gymdeithas; ac nid yw yn gwahardd dim ond yr hyn sydd yn tueddu at ei anghysur ef, ac annedwyddwch bodolaeth yn gyffredinol. Gwelwn yn

2. Fawr ddrwg pechod. Y mae yn milwrio yn erbyn gwynfydedigrwydd personol dyn, ac ar yr un pryd yn erbyn bodolaeth yn gyffredinol. Bod yn gyfaill i bechod yw bod yn elyn i'r holl fydysawd.

3. Gwelwn y rheswm paham na allasai Duw faddeu pechod heb lawn, fel y mae yn ein cymhell ni i'w wneuthur; o herwydd yn ol y chweched sylw y mae pechod yn taro yn erbyn Duw, nid fel person unigol, ond fel Llywydd bodolaeth ac amddiffynydd rheolau dedwyddwch y bydysawd. I egluro hyn gellir dweyd, fel y dengys Mathew Henry oddiar Salm li. 4, fod pechod Dafydd yn taro yn erbyn Bathsheba ac Urias, yn erbyn ei gorff a'i enaid ei hun, yn erbyn ei deulu, ei deyrnas, ac eglwys Dduw, ond nid yn erbyn neb fel yn erbyn Duw. Byddai maddeu pechod heb gyfaddas iawn mewn effaith yn ddadymchweliad o reolau dedwyddwch y gymdeithas, ac yn gwneuthur ei herthyglau yn fympwyol anwadal a dirym. Byddai cospi un ddoe am droseddu, a maddeu i arall heddyw am yr un trosedd, yn ddigon i ddinystrio unrhyw lywodraeth. Gallai barnwr gwladol faddeu pechod dirgelaidd yn ei erbyn ei hun yn bersonol, ond yn ei swydd fel gweinyddwr iawnder dros y wladwriaeth nid allai faddeu i ddrwgweithredwr heb ddirymu rheo'au dedwyddwch cymdeithas.

4. Ar ba egwyddorion y mae Duw yn gofyn iawn. Nis gall fod ar egwyddor cyfiawnder masnachol (commutative justice), oblegid yn 1. Nid yw pechod yn ddyled ond mewn ystyr gymhariaethol. Y mae yn fwy o natur gwrthryfel na dyled. Y mae dyledwr yn rhwymedig i'w echwynwyr fel person unigol, ac am hyny gellir maddeu iddo heb iawn. Ond peth yw trosedd yn erbyn cymdeithas yn gyffredinol; gan hyny, ni ellir gwneud iawn am dano ar egwyddorion masnachol, ond ar egwyddorion moesol. 2. Nid yw yr Ysgrythyr mewn un man yn darlunio yr etholedigion fel wedi eu prynu o law y Tad heb ganddo ddim i ddywedyd wrthynt, a'u rhoddi i fyny i Grist fel eiddo wedi talu llawn werth am danynt, ond yn hollol i'r gwrthwyneb—"A rhoddaf y cenedloedd yn etifeddiaeth i ti," Salm. ii. 8, "A thi a'u rhoddaist hwynt i mi," Ioan xvii. 6, 9, II, 12.

"Ac a'n prynaist ni i Dduw," nid oddiwrth Dduw, Dat. v. 9. Yn 3. Y mae yr etholedigion yn cael eu darlunio yn yr un cyflwr ag eraill hyd nes y credont, "Wrth naturiaeth yn blant digofaint megys eraill," Eph. ii. 3, yr hyn nis gall fod ar egwyddorion masnachol, o herwydd y mae y dyledwr mewn gwirionedd yn rhydd y funyd y talwyd ei ddyled, ac nid oes arno eisieu dim ond adnabyddiaeth o'r hyn a wnaed drosto. Y gwahaniaeth i gyd sydd yn ei deimlad ei hun.

Yr un peth yw yn llygad y gyfraith cyn cael adnabyddiaeth ac ar ol hyny. Gobeithiaf nad oes nemawr yn Nghymru a gofleidiant yr egwyddorion Antinomaidd sylfaenedig ar y golygiad masnachol am Iawn Crist. 4. Mae golygiadau masnachol ar Iawn Crist yn dadymchwelyd athrawiaeth maddeuant a chyfiawnhad drwy ras; o herwydd mae gan ddyledwr hawl gyfreithlawn i'w ryddid wedi i'r meichiau dalu ei ddyled; nid oes achos iddo ostwng pen na diolch i'w echwynwr am ei ryddid. Ond y mae hyn yn gwbl groes i rediad yr Ysgrythyr a phrofiad y Cristion, yr hwn sydd yn dyfod at orsedd trugaredd i ofyn maddeuant yn y modd gostyngeiddiaf fel erfynydd heb un hawl ganddo. Y mae y Dr. Priestley a'i frodyr bob amser yn darlunio Iawn Crist mewn ystyr fasnachol, ac yna dangosant fod yn anmhosibl cysoni hyn âg athrawiaeth rhad ras yn nghyfiawnhad pechadur, gan ofyn mewn dull buddugoliaethus, Pa le yr ymddengys gras a maddeuant yn rhyddhad y dyledwr wedi i'r meichiau dalu drosto yr hatling eithaf? Hawdd y gallont ofyn felly ar egwyddorion masnachol? Ond yr ydym yn hollol ddiarddel y fath egwyddorion; ac y mae yn ddrwg genyf fod neb o amddiffynwyr athrawiaeth yr Iawn yn rhoddi achlysur i neb i'w darlunio felly. Y mae yn amlwg hefyd mai nid yn ol egwyddorion cyfiawnder haeddianol y gwnaethpwyd iawn; oblegid rhoddi i bob un yn ol ei weithredoedd fuasai hyn. Diddadl na chafodd Crist yr hyn a haeddodd oblegid dyoddefodd y cyfiawn dros yr anghyfiawn; ac nid yn ol ei haeddiant chwaith y mae'r credadyn yn derbyn. Rhaid gan hyny, os na wnaethpwyd iawn yn ol egwyddorion masnachol, na haeddianol, ei fod wedi cael ei wneuthur yn ol egwyddorion cyfiawnder llywydd—ol, neu gyfiawnder cyhoeddus. Boddlonir cyfiawnder cyhoeddus os ca y fath iawn ag a wna y llywodraeth yr un mor anrhydeddus a'r gyfraith yr un mor rymus a phe gweinyddid cyfiawnder haeddedig ar y troseddwr. Eithr os bydd yr iawn o'r fath ag a ddygo fwy o anrhydedd i'r llywodraeth na gweinyddiad cyfiawnder haeddedig, y mae ysbryd a dyben gweinyddiad cyfiawnder haeddedig wedi cael eu perffaith ateb, a hyny yn fwy na phe y cosbid y troseddwr; ac ar yr un pryd gall trugaredd a gwirionedd ymgyfarfod yma, a chyfiawnder a heddwch gydymgusanu," Salm lxxxv. 10. Dyma drefn deilwng o anfeidrol ddoethineb. Gellir yn ol egwyddorion cyfiawnder cyhoeddus wneuthur iawn i'r gyfraith o ran yr ysbryd o honi heb gyflawni y llythyren, megys yn yr hanes am y deddfroddwr Seleucus, yr hwn a gydsyniodd i golli un o'i lygaid ei hun, er mwyn arbed un o lygaid ei fab, yr hwn, drwy droseddu y gyfraith, ydoedd yn agored i golli y ddau. Ni allasai hyn fod ar egwyddor cyfiawnder haeddianol, o herwydd ar—bedwyd un llygad ag a ddylasai yn ol haeddiant, gael ei dynu, a rhoddwyd un i'r Llywodraeth, nad allesid, yn ol haeddiant, ei ofyn. Y mae yr un mor amlwg mai nid ar egwyddorion masnachol yr oedd yr ymddygiad yma. Nid prynu a gwerthu ydoedd. Y mae yr enghraifft hon, cyn belled ag y mae yn myned, yn dderbyniad o natur cyfiawnder llywyddol. Ond y mae pob peth dynol yn rhy fyr i ddangos pethau Duw. Ar yr egwyddor hon cafwyd modd i arbed y troseddwr, a chyfiawnder a thrugaredd yn ymgyfarfod ar yr un weithred, a'r gyfraith wedi ei chadarnhau yn fwy na phe tynesid dau lygad y troseddwr; y trosedd yn ymddangos yn ei liw gwaethaf, a'r troseddwr yn cael ei osod dan y rhwymau mwyaf i garu ei lywydd, a'r holl ddeiliaid yn cael y cymhelliadau cryfaf i ufudd—dod. Ar yr un egwyddor y mae'r apostol Paul yn egluro natur a dyben iawn Crist. "Yr hwn a osododd Duw yn lawn trwy ffydd yn ei waed ef, i ddangos ei gyfiawnder ef, trwy faddeuant y pechodau a wnaethid o'r blaen, trwy ddyoddefgarwch Duw, i ddangos ei gyfiawnder ef y pryd hwn, fel y byddai efe yn gyfiawn, ac yn cyfiawnhau y neb sydd o ffydd Iesu," Rhuf. iii. 25, 26. Nid amcan yr Iawn oedd i rwymo Duw i achub rhyw nifer o ddynolryw. Byddai meddwl hyn yn annheilwng o Dduw, ffynonell hunangynhyrfiol achubiaeth pechaduriaid, Ioan iii. 16, 17. Amcan lawn anfeidrol y groes oedd agor ffordd i Dduw i beidio a chosbi y gwrthryfelwyr, a'u dyrchafu i uchel fraint meibion Duw, heb agor drws i wrthryfel, a dadymchwelyd ei gyfreithiau, fel ag y byddai cyfiawnder a thrugaredd yn cydlewyrchu yn achubiaeth dynion. Yn lawn gogoneddus Emmanuel mae y llywodraeth wedi ei chadarnhau yn fwy, a drwg pechod wedi ei ddangos yn eglurach, a chymhelliadau i ufudddod cryfach holl ddeiliaid llywodraeth y Goruchaf, na phe y buasai yn cosbi pob pechadur yn ol ei haeddiant personol. Ymddengys i mi mai ar y pegwn yma y mae y ddadl rhwng yr uwch-Galfiniaid a'r is-Galfiniaid yn troi, sef pa un ai ar egwyddorion masnachol ai egwyddorion llywyddol yr oedd Crist yn rhoi Iawn? Os ar egwyddorion masnachol, mae yn rhaid mai yr uchel-Galfiniaid sydd yn eu lle. Yn ol yr egwydd—orion hyny, mae yn rhaid fod neillduolrwydd yn natur yr lawn yn ddigonol i ryw nifer yn unig. Ond o'r tu arall, os ar egwyddorion cyfiawnder llywyddol yr oedd Iesu Grist yn gwneuthur Iawn, y mae yn rhaid mai yr is-Galfiniaid sydd yn eu lle, ac mai yn y bwriad a'r cymhwysiad y mae'r neillduolrwydd, ac nid yn natur yr Iawn, ond bod yr Iawn ag sydd yn ddigonol ac yn gyfaddas i un, mor ddigonol a chyfaddas i'r holl fyd. Yr un peth ag sydd yn ei wneuthur yn addas ac yn ddigonol i un pechadur, sydd yn ei wneuthur yn addas ac yn ddigonol i bob pechadur, fel y dywed y bardd W. W.—

"Ni was'naethai Iawn oedd lai, Tros un pechadur, tros un bai."

Dysged pawb i fod yn gymedrol yn eu barn, gan chwilio beunydd yr Ysgrythyrau a yw y pethau hyn felly.

DIM OND TRI CHWRT YN Y MIL BLYNYDDOEDD.

Wrth bregethu unwaith ar y mil blynyddoedd, dywedai Mr. Williams, "Rhyw dri chwrt fydd yn y mil blynyddoedd—dim ond tri! Ië, y cyntaf fydd, "Dos ac argyhoedda ef rhyngot ti ag ef ei hun." Beth a wneir os methir yn hwn? Myn'd i'r ail—Galw dau neu dri o'r eglwys; ac os methir a chytuno yno, myn'd i'r trydydd, sef gerbron yr holl eglwys. Pa gwrt fydd wed'yn i apelio iddo? Ni bydd yr un ond hwn. O ddyddiau dedwydd, addoli y byddant bron o hyd yn y mil bynyddoedd. Byddant yn myn'd yn yroedd gyda'u gilydd i gadw cyfarfodydd gweddiau o'r naill ddinas i'r llall. Byddant yn myned oddiyma i Fangor a Pwllheli, ac felly bydd bywyd mewn addoli yn barhaus. Tarawant wrth ambell hen wr yn malu ceryg ar ochr y ffordd fawr, 'P'le yr ewch,' meddai yr hen wr, 'awn i Fangor i gadw cyfarfod gweddi,' ac ar hyn teifl yr hen wr y morthwyl o'i law a gwaedda, 'Arhoswch, ddo'i gyda chwi'—minau a äf hefyd."

"GAN DDECHREU YN JERUSALEM."

Yn mhentref Bersham, gerllaw i'r fan yr wyf yn byw, y mae tawdd-dŷ haiarn (foundry), lle y toddir ac y llunir cyflegrau. Ar ol eu toddi, gwneir prawf arnynt, yn gyntaf oll drwy roddi un ergyd ynddynt; ac os cariant hono, yna dodant ddwbl ergyd, ac os cariant hono heb ffrwydro, yna cyhoeddir hwynt yn gymhwys i'w dodi ar fwrdd llong rhyfel neu i faes y gwaed. Offeryn newydd ac anmhrofedig oedd yr efengyl. Rhaid oedd ei rhoddi dan brawf, ac yn mha le ar wyneb daear y ceid man cyfaddasach i wneud yr arbrawf cyntaf arni nag yn Jerusalem. Os profid yr efengyl yn offeryn effeithiol er troedigaeth pechaduriaid yn Jerusalem, nis gallai fod unrhyw amheuaeth yn ei chylch byth ar ol hyny. Pedr oedd y gwr ddewiswyd i wneud y prawf ar yr offeryn newydd. Efe a'i llwythodd ac a'i taniodd, ac argyhoeddwyd tair mil yr un dydd. Wedi'r fath arbrawf llwyddianus, aeth pysgotwyr Galilea allan i bob man gan bregethu'r Gair gyda phob hyfder, yn gwbl sicr na cheid yn unman ar y ddaear bechaduriaid caletach na'r rhai a labyddiasant ac a laddasant y prophwydi, ac a gyrhaeddasant eithaf bwynt euogrwydd drwy roddi Etifedd y nef ei hun i farwolaeth. Da y gallai apostol mawr y cenedloedd ddatgan ei barodrwydd i bregethu yr efengyl yn Rhufain hefyd, gan y gwyddai ei bod yn allu Duw er iachawdwriaeth i bob un a gredai. Nid oedd ganddo gywilydd o'r hyn a brofasai ei hunan yn allu mor fynych.

YN OL EICH FFYDD.

"Yn ol eich ffydd bydded i chwi." Yn ol maint a rhifedi y ffenestri mewn ty y bydd mesur y goleu a ddaw iddo. Yn ol maint y llestri a ollyngir i'r ffynon y bydd y dwfr a godir i'r lan.

FFURFIO CYMERIAD.

Mewn pregeth a draddododd yn y Bala, lle y dibynai y dosbarth tlotaf ar wau hosanau gofynai—Pa fodd y ffurfir cymeriad? Yn raddol iawn, onide? Yn gymhwys fel y bydd gwragedd y Bala yma yn gwau hosanau—un pwyth ar unwaith.

CARIAD: NAD YW PRIODOLEDDAU DWYFOL OND
GWAHANOL AGWEDDAU ARNO.

Duw cariad yw. Un darn o ddwfr yw y cefnfor mawr llydan; ond fel y mae yn golchi glanau gwledydd gwahanol y mae yn myned dan wahanol enwau. Nid yw y priodoleddau a'r perffeithderau sydd yn Nuw ond gwhanol agweddau ar yr un egwyddor, a hono yw cariad. Yr un egwyddor ag sydd yn adeiladu ysbytty sydd hefyd yn codi carchar.[1]

Nodiadau[golygu]

  1. Gwel The Homilist, vol. iii., New Series.