Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern/Pregeth IV

Oddi ar Wicidestun
Pregeth III Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern

gan David Samuel Jones

Pregeth V

PREGETH IV.

"FFYDD ELIPHAZ Y TEMANIAD."

"A wna gwr lesâd i Dduw, fel y gwna y synwyrol lesâd iddo ei hun? Ai digrifwch ydyw i'r Hollalluog dy fod di yn gyfiawn? neu ai elw dy fod yn perffeithio dy ffyrdd."—JOB xxii. 2—3.

MAE y geiriau hyn wedi eu llefaru gan un o gyfeillion Job—Eliphaz, fel yr ydys yn barnu, un o hiliogaeth Teman ŵyr Esau. Yr oedd efe yn athrawiaethu yn dda, yn nghyda'r lleill o'i gyfeillion, ond yr oedd yn cyfeirio ei saethau yn gamgymeriadol a chyfeiliornus, yr hyn sydd yn dra hawdd wrth gyfeirio at bersonau neillduol. Yr oedd ef yn barnu Job yn rhagrithiwr, pryd yr oedd ef yn wr duwiol. Yr oedd yn cymeryd achlysur oddi wrth rai daliadau o eiddo Job, i farnu ei fod yn cyfiawnhau gormod arno ei hun ac yn golygu Duw dan rwymau i ymddwyn yn wahanol i fel yr oedd yn gwneuthur. A thuag at ei argyhoeddi ef o hyny, y mae Eliphaz yn dwyn yn mlaen eiriau y testyn, ac yn gofyn y fath ofyniadau ag sydd yn eglur brofi nad yw Duw yn ddyledwr i neb o'i greaduriaid o herwydd dim a allent hwy ei wneuthur iddo. Fe all y synwyrol fod o les mawr iddo ei hun, ac i eraill a fydd yn dal perthynas âg ef, ond nid i Dduw. Nid ar ein hymddygiadau cyfiawn ni y mae digrifwch Jehofa wedi ei sylfaenu, ond ynddo ei hun; ac ni all dyn fod o un elw i Dduw trwy ei onestrwydd neu berffeithrwydd, na gosod rhwymedigaeth ar y Goruchaf i'w wobrwyo am ei wasanaeth, fel y mae meistr gyda'i was gonest a diragrith am ei waith ef. Yr athrawiaeth a gaf fi ei hegluro ar bwys y geiriau, ydyw, na all dyn fod o un elw i Dduw trwy ei wasanaeth, ac felly nad yw Duw yn ddyledwr i neb.

I. MI GAF ENWI RHAI AMGYLCHIADAU NEU BETHAU AG Y MAE DYNION YN BAROD I FEDDWL EU BOD O ELW I DDUW DRWYDDYNT, AC YN EI WNEUTHUR EF YN DDYLEDWR IDDYNT AM DANYNT, MEGYS—

1. Gwaith rhai yn rhoddi blaenffrwyth eu hieuenctyd i wasanaeth Duw. Mae llawer yn eu henaint yn meddwl pe y buasent wedi rhoddi boreu eu dyddiau i wasanaeth Duw, y buasent wedi bod o gymaint elw iddo, ag a fuasai yn ei osod dan rwymau i'w derbyn i ddedwyddwch yn niwedd eu hoes, megis hen filwyr wedi bod yn hir yn ngwasanaeth y Llywodraeth, i gael tâl-wobr (pension) yn y rhan olaf o'u tymor bywyd. Drachefn, mae yr ieuenctyd yn golygu y dylent gael blaenffrwyth a goreuon eu dyddiau iddynt eu hunain. Pe amgen, y cawsai yr Arglwydd ormod o elw oddiwrthynt, os byddai iddynt roddi eu holl ddyddiau yn ei wasanaeth ef; eithr bod ychydig weddill eu dyddiau yn ddigon i Dduw; er nad ydynt yn dywedyd felly mewn geiriau, eto hyny yw iaith eu hymddygiad hwynt, tra byddont heb roddi boreu eu dyddiau i'r Arglwydd.

2. Mae eraill yn meddwl fod eu doniau a'u defnyddioldeb o elw mawr i Dduw a'i achos yn y byd; maent yn tybied mai prin y gall achos Duw fyned yn mlaen yn y lle y maent heb eu cynorthwy hwy; ac yn barod i dybied y dylid rhoddi llawer o barch iddynt er mwyn eu doniau, a myned heibio i lawer o bechodau ynddynt hwy na ddylid myned heibio iddynt yn eraill. Ond da a fyddai i ni gofio y gall Duw fyned a'i achos yn mlaen hebom ni; a chodi eraill a fyddant o lawer mwy o ddefnydd na ni, ac na allwn ni ddim bod yn wir ddedwydd ac anrhydeddus ond gydag achos Duw.

3. Y mae rhai yn medddwl eu bod yn gwneuthur Duw yn ddyledwr iddynt drwy eu helusenau, a'u cyfraniadau o'u meddianau at achosion crefyddol. Maent yn oferdybio y dylai Duw dalu iddynt naill ai yn y byd hwn, neu yn yr hwn a ddaw; a phrin y meddyliant y byddai Duw yn gyfiawn pe y byddai iddo eu hamddifadu o'u meddianau wedi iddynt roddi cymaint at achosion crefyddol, eithr yn gyffelyb i'r Pharisead hwnw a aeth i fyny i'r deml i weddio, Luc xviii. 12. Yr oedd yn golygu fod cyflwyno y ddegfed ran o'i holl eiddo at ddybenion crefyddol yn nghyda phethau eraill ag oedd efe wedi eu gwneuthur, yn haeddu pethau mawrion oddi ar law Duw, ac yn ddadl gref mewn gweddi. Yn gyffredin fe glywir y rhagrithiwr yn udganu yn uchel pan y byddo yn cyfranu at achosion crefyddol, Mat. vi. 2. Y mae am i Dduw a dynion sylwi ar yr hyn y mae yn ei wneuthur.

4. Mae eraill yn tybied eu bod yn gwneuthur Duw yn ddyledwr i'w hunan-gyfiawnderau. Wrth hunan-gyfiawnder y byddaf yn deall pa beth bynag a fyddo dyn yn ei gymeryd i esmwythau ei gydwybod pan y byddo yn ei gyhuddo am ei bechod, ac yn ei gymeryd yn sail i ddysgwyl cymeradwyaeth gyda Duw er ei fwyn, neu yn radd o gymhorth i'w gymeradwyo o flaen Duw, heblaw yr hyn a wnaeth ac a ddyoddefodd yr Arglwydd Iesu Grist.

Mae hunan—gyfiawnder yn newid ei ddull yn ol gwahanol amserau ac amgylchiadau dynion, eto yn parhau yr un o ran ei natur. Yn nyddiau Crist a'i apostolion, ei ddull yn fwyaf cyffredin oedd cadw at y gyfraith seremoniol a thraddodiadau y tadau. Yn erbyn y dull hwn o hunan-gyfiawnder yr oedd Paul yn fynych yn milwrio yn ei ysgrifeniadau. Wedi iddo gael ei orchfygu gan yr efengyl i raddau lled helaeth yn oesoedd cyntaf Cristionogaeth, efe a ymnewidiodd drachefn i ddull pabaidd, yr hwn ddull y milwriodd yr hen ddiwygwyr yn unol yn ei erbyn; ond ei dull mwyaf cyffredin yn ein dyddiau ni o ymwisgo ydyw y deddfol a'r efengylaidd. Wrth y dull deddfol yr wyf yn meddwl, dull y rhai hyny sydd yn ceisio byw bywyd dichlynaidd; ac i ateb i lythyren y ddeddf foesol, y mae rhai yn meddwl yn ddirgel eu bod wedi gwneuthur cymaint o les i Dduw ag y dylai roddi y nefoedd iddynt; er y soniant am drugaredd, ac am Iesu Grist o ran arfer. Wrth y dull efengylaidd yr wyf yn meddwl yr un peth, dull y rhai hyny sydd yn meddwl eu bod yn gwneud Duw yn ddyledwr i roddi ychwaneg o ras iddynt am yr hyn y maent yn ei alw yn ymgais diragrith. Yr hyn sydd yn esmwythau cydwybodau eraill yw eu bod wedi rhoddi eu hunain yn aelodau eglwysig mewn rhyw fan, ac nid gwaed Crist; eithr y maent yn gwneuthur hunan—gyfiawnder o'u proffes. Mae y lleill yn ymorphwys ar eu grasau, neu yr hyn y maent yn feddwl eu bod yn rasau, am gymeradwyaeth gyda Duw, yn fwy nag ar aberth Crist. Yr hyn sydd yn rhoddi yr hyder cryfaf ynddynt i fyned o flaen Duw, a'r hyn y maent yn cael y cysur mwyaf oddiwrtho, yw meddwl eu bod yn dduwiol, ac nid gwaed Crist, ac felly yn gwneuthur hunan-gyfiawnder o'u grasau, trwy eu gosod i wasanaethu yn lle ei aberth ef. Felly iaith hunan-gyfiawnder yn mhob dull, yw bod dyn o elw i Dduw, a Duw yn ddyledwr i ddyn.

II. YMDRECHAF BROFI GWIRIONEDD YR ATHRAW—IAETH, SEF NA ALL DYN FOD O ELW I DDUW, NA DUW YN DDYLEDWR I DDYN.

1. Mae fod Duw yn Dduw tragwyddol yn profi gwirionedd yr athrawiaeth hon. Mae yr Ysgrythyr yn fynych yn priodoli tragwyddoldeb i Dduw. Mae Abraham yn ei alw yn Dduw tragwyddol, Gen. xxi. 33. Hefyd yn Esa. lvii. 15, y darllenwn am y goruchel a'r dyrchafedig, yr hwn a breswylia dragwyddoldeb. Dywed y Salmydd ei fod yn Dduw o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb Salm xc. 2. Gan hyny, os yw Duw yn dragwyddol, hawdd a rhesymol yw tynu y casgliad hwn, gan ei fod wedi byw cyhyd yn anfeidrol ddedwydd heb ein gwasanaeth ni, y gall fyw felly eto hebom ni a'n gwaith. Dywediad cyffredin gan ddynion "Mi a fum hyn a hyn o flynyddoedd heb'ot ti, ac mi allaf fyw eto heb'ot ti." Ond fe fu Duw fyw drwy annherfynol dragwyddoldeb hebom ni, gan hyny fe all fyw eto hebom yn yr un modd.

2. Mae anymddibyniaeth Duw ar yr oll o'i greaduriaid, yn profi gwirionedd yr athrawiaeth. Mae ei ddedwyddwch a'i holl ogoniant ef yn gwbl ynddo ac o hono ei hun, yn annerbyniedig oddi wrth neb arall. Gall Duw fyw a bod hebom ni, ond nis gallwn ni na byw na bod hebddo ef. Gall ef fod yn ddedwydd byth hebom ni, ond ni allwn ni fod yn ddedwydd am un foment hebddo ef. Gall Duw fod yn ddedwydd heb ein gwasanaeth ni, ond ni allwn ni fod yn ddedwydd heb ei wasanaethu ef. Gall Duw fyned a'i achos yn mlaen trwy y byd hebom ni, ond fe gollwn ni ein braint os na chawn ni fod gydag achos Duw yn y byd. Mae yn haws i Dduw fyw a bod yn ddedwydd hebom ni a'n gwasanaeth, nag a fyddai i'r haul barhau yn ei oleuni a'i wres heb un o'r blodeu, nac un o laswellt y meusydd. Nid yw Duw yn cael mwy o les oddiwrth ein gwasanaeth ni, nag y mae yr haul yn ei gael o les oddiwrth y llygaid y mae yn eu goleuo; oblegid y Duw yn anfeidrol uwchlaw i'n drwg ni wneud niwaid iddo, nac i'n da ni wneud lles iddo. Elihu a ddywed yn Job xxxv. 6, 7, 8, "Os pechi, pa niwed a wnei di iddo ef? Os aml fydd dy anwireddau, pa beth yr wyt yn ei wneuthur iddo ef? Os cyfiawn fyddi, pa beth yr wyt yn ei roddi iddo ef? Neu pa beth y mae yn gael ar dy law di? I ŵr fel tydi, dy annuwioldeb, ac i fab dyn, dy gyfiawnder, a all rywbeth."

3. Mae anfeidroldeb Duw yn profi yr athrawiaeth. Peth anfeidrol yw yr hyn na ellir ei wneud yn fwy wrth roddi ato, na'i wneud yn llai wrth gymeryd oddiwrtho. Mae Duw mor fawr fel na all rhoddion neb ei wneuthur yn fwy mewn un ystyr, na'i gyfraniadau yntau i neb ei wneuthur yn llai mewn un ystyr. Mae Duw yn rhy alluog i neb fod yn gynorthwy iddo; yn rhy ddoeth i neb fod yn wr o gynghor iddo; ac yn rhy dda i neb ei wneuthur yn well, Rhuf. xi. 34. Mae Duw mor fawr, fel nas gall un gwasanaeth o'n heiddo ni, ddim bod o gymaint lles iddo ef, ag a fyddai canwyll i'r haul ar haner dydd, neu ddafn o ddwfr i'r cefnfor i nofio y llongau mawrion. Mae yr haul yn rhy fawr i ganwyll fod o les iddo; ac felly mae y môr yn rhy fawr i un dafn o ddwfr fod o les iddo, eto nid ydynt hwy ond meidrol; ond am ein Duw ni, y mae efe yn anfeidrol, yr hwn a fesurodd y dyfroedd yn ei ddwrn, ac a fesurodd y nefoedd. â'i rychwant, ac a gymhwysodd bridd y ddaear mewn mesur, ac a bwysodd y mynyddoedd mewn pwysau a'r bryniau mewn clorianau. Wele y cenedloedd a gyfrifwyd fel defnyn o gelwrn, ac fel mân lwch y clorianau; wele, fel brycheuyn y cymer efe yr ynysoedd i fyny. Yr holl genedloedd ydynt megys diddym ger ei fron ef; yn llai na dim, ac na gwagedd y cyfrifwyd hwynt ganddo. Efe sydd yn eistedd ar amgylchoedd y ddaear, a'i thrigolion sydd fel locustiaid; yr hwn a daena y nefoedd fel llen, ac a'i lleda fel pabell i drigo ynddi," Esa. xl. 12, 15, 17, 22. Os yw Duw y fath fod a hyn, mae yn amlwg na all ein gwasanaeth gwael ac anmherffaith ni ddim ei wneud ef yn ddyledwr i ni.

4. Yr ydym ni a'r oll a feddwn yn eiddo Duw, am hyny nis gallwn wneud Duw yn ddyledwr i ni â'i eiddo ei hun. Mae Paul yn gofyn mewn dull buddugoliaethus, "Pwy a roddes iddo ef yn gyntaf, ac fe a delir iddo drachefn? Canys o hono ef, a thrwyddo ef, ac iddo ef, y mae pob peth. Iddo ef y byddo gogoniant yn dragywydd, Amen," Rhuf. xi. 35, 36. A thrachefn y mae yn gofyn,

Pwy sydd yn gwneuthur rhagor rhyngot ti ag arall, a pha beth sydd genyt a'r nas derbyniaist, ac os derbyniaist, paham yr wyt ti yn gorfoleddu megys pe bait heb dderbyn,' I Cor. iv. 7. Os y meddylia neb fod Duw yn ddyledwr iddo am ei fod yn well nag eraill, ac wedi gwneuthur mwy o ddaioni nag eraill, fe ddylai y cyfryw gofio mai gan Dduw y mae wedi derbyn galluoedd i weithredu yr hyn sydd dda; ac mai Duw yn unig sydd yn tueddu ei alluoedd at yr hyn sydd dda, " Canys Duw yw yr hwn sydd yn gweithio ynoch ewyllysio a gweithredu o'i ewyllys da ef," Phil. ii. 13. Mae pob da yn wreiddiol oddiwrth Dduw; a pha dda bynag a fyddom ni yn ei gyflwyno i'r Arglwydd—pa un bynag ai ein gweddiau, ein mawl, ynte ein meddianau at ei achos, gallwn ddywedyd yn ngeiriau Dafydd, "Canys oddiwrthyt ti y mae pob peth, ac o'th law dy hun y rhoisom i ti, I Cron. xxix. 14. Nid ydyw y môr yn ddyledus i'r afonydd am eu dyfroedd, ond y maent hwy yn ddyledus i'r môr—nid yw y ffynnon yn ddyledus i'r ffrydiau, ond y mae y ffrydiau yn ddyledus i'r ffynnon; nid yw y gwreiddyn yn ddyledus i'r canghenau am ei nodd, ond y mae y canghenau yn ddyledus i'r gwreiddyn: felly nis gellir gwneuthur neb yn ddyledus â'i eiddo ei hun. Pa dduwiolaf y byddom, a pha oreu y byddo ein hymddygiadau; yn lle gwneuthur Duw yn ddyledus i ni, mwyaf oll yw ein dyled ni i Dduw am y fraint o gael bod felly.

5. Pa beth bynag yr ydym yn ei wneuthur, nid ydym yn gwneuthur dim ond yr hyn sydd ddyledus arnom ei wneuthur yn ol natur pethau. Wrth "natur pethau" y byddaf yn deall yr hyn yw Duw, a'r hyn yw dyn, a'r hyn yw y naill ddyn i'r llall. Nid yw plentyn yn haeddu cyflog am anrhydeddu ei dad a'i fam, oblegid nid yw yn gwneuthur dim ond yr hyn sydd ddyledus arno yn ol natur y berthynas sydd rhyngddo a'i rieni; ac nis gall y gwr ddysgwyl cyflog am garu y wraig, na'r wraig am barchu y gwr, oblegid nad ydynt yn gwneuthur ond yr hyn sydd ddyledus arnynt yn ol natur pethau. Felly, nid yw ein gwasanaeth i Dduw yn ei osod dan rwymau i dalu cyflog i ni am ein gwaith, oblegid nid ydym yn gwneuthur ond yr hyn sydd ddyledus arnom yn ol natur y berthynas sydd rhyngom ag ef, fel ei greaduriaid, a pha beth bynag y mae Duw yn ei addaw i ni am ein gwaith, gwobr o ras ydyw, ac nid o ddyled, "Felly chwithau hefyd, gwedi i chwi wneuthur y cwbl oll ag a orchymynwyd i chwi, dywedwch, Gweision anfuddiol ydym; oblegid yr hyn a ddylasem ei wneuthur, a wnaethom," Luc xvii. 10.

6. Os nad yw ein gwasanaeth crefyddol o ddim lles nac elw i Dduw, mae yn rhaid gan hyny mai elw a lles i ni ein hunain ac eraill ydyw, megis y dywed Solomon, "Os doeth fyddi, doeth fyddi i ti dy hun," Diar. ix. 12. Ac y mae y Salmydd yn dywedyd, "Fy nâ nid yw ddim i ti, ond i'r saint sydd ar y ddaear, a'r rhai rhagorol, yn y rhai y mae fy holl hyfrydwch," Salm xvi. 2—3. Mae ein dedwyddwch a'n gogoniant ni yn ymddibynu ar iawn wasanaethu Duw; ond nid yw dedwyddwch Duw yn ymddibynu dim ar ein gwasanaeth ni; a chan mai ni ein hunain, sydd yn cael yr elw oddi wrth ein gwasanaeth, ac nid Duw, ni all fod dyled ar Dduw i dalu i ni am elwa i ni ein hunain. Pe byddai ein gwaith yn dwyn rhyw elw i Dduw, fe fyddai yn ddyledus ar Dduw, i dalu i ni am ein gwaith.

7. Mae ein dyledswyddau yn llawn o anmherffeithrwydd a phechod; ïe, yr ydym ni wedi pechu digon i'n damnio byth, yn y ddyledswydd oreu a wnaethom erioed, pe buasai Duw yn craffu yn fanwl ar anwiredd, oblegid "Yr ydym ni oll megys peth aflan, ac megys bratiau budron yw ein holl gyfiawnderau; a megys deilen y syrthiasom ni oll; a'n hanwireddau, megys gwynt a'n dug ni ymaith,' Esa. Ixiv. 6. Felly mae ein dyledswyddau goreu, a'n gwaith, yn anghymeradwy gyda Duw; ond drwy aberth Crist a'i eiriolaeth, yr hwn sydd yn sefyll wrth yr allor aur, a chanddo arogldarth lawer fel yr offrymai ef gyda gweddiau yr holl saint.

III. ODDI WRTH YR ATHRAWIAETH, GWELWN:—

1. Os nad yw Duw yn ddyledwr i neb, fod ganddo hawl i fod yn Benarglwydd grasol i roddi i'r neb y myno, a'r peth y myno, heb wneuthur anghyfiawnder na cham â neb; canys y mae yn gyfreithlon iddo i wneuthur a fyno a'i eiddo ei hun, Mat. xx. 15; "A oes anghyfiawnder gyda Duw? na ato Duw, canys y mae yn dywedyd wrth Moses, mi a drugarhaf wrth yr hwn y trugarhawyf, ac a dosturiaf wrth yr hwn y tosturiwyf," Rhuf. ix. 14, 15, "Felly gan hyny y neb y myno y mae efe yn trugarhau wrtho, a'r neb y myno y mae efe yn ei galedu," adn. 18.

2. Mae bod Duw heb fod yn ddyledwr i neb, eithr bod ganddo hawl i roddi i'r neb y myno, yn athrawiaeth dra chysurus i bechadur heb ganddo ddim ond pechod ac annheilyngdod; oblegid pe na byddai Duw yn rhoddi i neb ond yn ol eu teilyng—dod a'u haeddiant, nis gallai neb o honom ni ddysgwyl dim byth oddiar law Duw mwy na'r angylion na chadwasant eu dechreuad, ond gan mai trugarhau y mae wrth y neb y myno, pwy a wyr na thrugarha efe wrthym ninau. Mae arnaf fi rwymau annrhaethol i ddywedyd yn dda am Ben—arglwyddiaeth rasol, oblegid nid oes genyf ond hi am fywyd fy enaid. Buasai fy nghyflwr mor anobeithiol a phe buaswn yn uffern eisioes, oni buasai fod Penarglwyddiaeth gras yn trugarhau wrth y neb y myno. Pwy na ddywedai yn dda am dani? Oblegid ni wnaeth ddrwg i neb erioed, y mae yn gwneud daioni i bawb, nid yw yn damnio neb, ond y mae yn cadw miloedd; o'r ffynnon rasol yma, y mae pob rhoddiad daionus, a phob rhodd berffaith yn deilliaw; ac nid oes dim ond da yn unig yn dyfod o'r ffynon hon; am hyny, yn lle grwgnach a beio ar Dduw am drugarhau wrth y neb y myno, ymostwng yn edifeiriol a ddylem wrth ei draed, gan ddywedyd, os cedwi fi yn fyw, trugaredd i gyd a fydd hyny; os fy namnio a wnei, mi a gaf yr hyn yr wyf yn ei gyfiawn haeddu.

3. Ni a welwn natur rhad ras, pan y byddom ni yn rhoddi elusen i rywun; mae natur y berthynas sydd rhyngom ni a gwrthddrych ein helusen, yn ein rhwymo i wneuthur felly. Ond nid oes dim rhwymau ar Dduw i wneuthur dim o'r pethau mawr ag y mae yn eu gwneuthur i ni.

Pan y byddo dynion yn gwneuthur rhyw gymwynas, mae yn hawdd ganddynt ddysgwyl cael eu talu mewn rhyw fodd neu ddull; ond O! y pethau mawrion a wnaeth Duw i ni heb ddysgwyl byth dâl genym am yr hyn a wnaeth, dyma ras y mae yn deilwng ei alw felly byth.

4. Ni a welwn yr angenrheidrwydd sydd arnom i fod yn ostyngedig a hunanymwadol am yr hyn sydd genym ac ydym, yn lle ymffrostio a meddwl ein bod yn gwneuthur Duw yn ddyledwr i ni am ein rhinweddau. Pe y byddem ni yn gweled yn gywir, meddyliem, pa fwyaf ein rhinweddau, mai mwyaf ein dyled i Dduw am danynt; ac yn lle dywedyd bod Duw yn ddyledus i ni am ein gwedd—iau, dywedem fod arnom ni ddyled i Dduw am gael gweddio; ac yn lle dywedyd fod Duw yn ddyledus i ni am ein duwioldeb, a'n sancteiddrwydd, dywedem ein bod ni yn ddyledus i Dduw am gael bod felly; a pha fwyaf fyddom felly, mwyaf fydd ein dyled i Dduw am y fraint.

5. Ni a welwn natur gwobr y trigolion yn y nefoedd; mai nid talu yn ol eu haeddiant y mae Duw, ond gwobr o ras yw; ffrwyth ei ras yw eu holl rinweddau, a'u gweithredoedd da; ac wrth eu gwobrwyo, y mae efe yn gwobrwyo ei waith ei hun a'i ras ei hun; un llaw yn gwobrwyo yr hyn a wnaeth y llaw arall, "Canys ti hefyd a wnaethost ein holl weithredoedd ynom ni," Esa. xxvi. 12.

6. GWRTHDDADL.

Os nad yw ein gwasanaeth ni o un lles i Dduw, paham y mae Duw yn ein bygwth ni mor llym am esgeuluso ein dyledswydd? I hyn atebaf; nid am fod ar Dduw eisieu un hunan-elw oddiwrth ein gwasanaeth ni, ond o herwydd mai peth anfeidrol uniawn a chyfiawn ydyw i ni wasanaethu a gogoneddu Duw. Pe buasai ein gwasanaeth ni o ryw elw i Dduw, gallasem amheu a oedd un egwyddor o hunan yn ei gymhell ef i ofyn ein gwasanaeth, ond gan nad yw ein gwasanaeth o un elw iddo, mae yn rhaid mai egwyddor o gyfiawnder yn unig sydd yn ei gymhelli ofyn ein gwasanaeth—eisieu ymddwyn yn gyfiawn tuag atom ni, a thuag ato ei hun sydd ar Dduw, ac nid eisieu elwa oddi arnom ni, pan y mae yn gofyn ein gwasanaeth.

7. GWRTHDDADL ARALL.

Onid yw yr athrawiaeth uchod yn gwrthwynebu i Dduw wneuthur ei ogoniant ei hunan yn ddyben penaf ei holl waith, ac yn erbyn y mynych ddywed—iadau hyny; "Er mwyn fy ngogoniant," ac "Er mwyn fy mawl," &c. Mae yn yr wrthddadl hon ddau beth i'w hystyried.

(1.) Mai nid diffyg gogoniant a dedwyddwch yn Nuw sydd yn peri iddo weithredu, a chyfranu rhoddion fel y mae; ond dangos y maent fod anfeidrol lawnder yn Nuw. Nid profi diffyg yn y ffynnon y mae y ffrydiau sydd yn dyfod o honi, ond profi ei chyflawnder y maent; felly nid diffyg yn y ffynnon, ond ei chyflawnder sydd yn peri iddi fwrw allan ei ffrydiau; felly nid diffyg yn y Jehofah, ond anfeidrol gyflawnder o ddedwyddwch a gogoniant sydd yn peri iddo weithredu.

(2.) Mai nid dyben hunanol sydd gan Dduw wrth wneuthur ei ogoniant yn ddyben penaf ei holl weithredoedd; ond y mae yn rhaid iddo wneuthur felly os ymddwyn a wna at fodau yn ol eu gwerth. Y mae yn rhaid iddo ymddwyn ato ei hun fel y mwyaf a'r gwerthfawrocaf o bawb, ac felly wneuthur ei ogoniant ei hun a'i fawl yn ddyben penaf ei holl weithredoedd. Pan y mae Duw yn dywedyd—"Er mwyn fy enw—Er mwyn fy ngogoniant—Er mwyn fy mawl;" nid er mwyn cael yr hyn a fyddwn ni yn ei alw yn hunan-glod, y mae Duw yn dywedyd hyn, ond er mwyn gwneuthur cyfiawnder â'i enw, ac â'i ogoniant, ac â'i fawl, y mae efe yn dywedyd felly, a thrachefn, pe buasai ein gwasan—aeth ni o ryw elw i Dduw, fe fuasai yn deilwng i ni gael rhan o'r clod yn gyfatebol i hyny; ond gan mai "O hono ef a thrwyddo ef y mae pob peth," (Rhuf. xi. 36); y mae yn rhaid mae iddo ef yn unig y mae yr holl ogoniant a'r mawl yn gyfiawn, ac yn deilwng yn dragywydd. Amen.

"Pe ba'i i mi dreulio'r creigiau,
Wrth i'm roddi ngliniau i lawr;
Gwneud afonydd o fy nagrau,
Llenwi hefyd foroedd mawr.
Rhanu trysor y mwngloddiau
Rhwng tylodion yn mhob man,
Anhaeddianol fyddwn wed'yn,
Byth i gael fy nghodi i'r lan.'


Nodiadau[golygu]