Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern/Pregeth III

Oddi ar Wicidestun
Pregeth II Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern

gan David Samuel Jones

Pregeth IV

PREGETH III.

"YR IAWN."

"Ac anfon ei Fab i fod yn Iawn dros ein pechodau," I Ioan iv. 10.

MEWN ffordd o arweiniad i mewn i'r hyn a ganlyn, cawn sylwi ar y pethau canlynol:—

1. Y Person a anfonwyd ydoedd y Mab, yr hwn oedd yn gyd-dragwyddol ac yn ogyfuwch a'r Tad. Yr oedd hyn yn angenrheidiol mewn trefn iddo fod yn hunanfeddianydd, heb hyny ni buasai ganddo hawl ar ei einioes i'w roddi dros eraill; ni byddai'n gyfiawn i'r naill ddyn roddi ei einioes dros y llall, oblegid nad ydyw yn hunanfeddianydd. Yr oedd pob urddasolrwydd yn ei berson ef i wneuthur Iawn, fel yr oedd anrhaethol werth yn yr hyn a wnaeth efe yn lle a thros bechaduriaid.

2. Yr hwn a anfonodd y Mab oedd y Tad. Er fod Crist ynddo ei hun yn berffaith gyfaddas, eto ni buasai'r hyn a wnaeth yn ateb y dyben oni buasai i'r Tad, y Llywydd goruchaf ei anfon, neu ei osod i fod yn Iawn.

3. Yr hyn a wnaeth Iawn oedd ufudd-dod a dyoddefiadau yr Arglwydd Iesu Grist mewn cysylltiad anwahanol â'u gilydd.

4. Yr achos i Dduw ddanfon ei Fab i fod yn Iawn oedd ei gariad. "Yn hyn y mae cariad, nid am i ni garu Duw, ond am iddo ef ein caru ni." Nid amcan yr Iawn oedd rhwymo Duw y cariad i drugarhau wrth ryw nifer o bechaduriaid, nid oes eisiau ar ras ei roi dan rwymau i weithredu, dim ond yn unig cael ffordd addas i weithredu. "Felly y carodd Duw y byd, fel y rhoddodd ei uniganedig Fab,"..."ac anfon ei Fab." Oddiwrth y geiriau amcanwn sylwi ar Iawn Crist yn ei wahanol berthynasau megys yn

I. YN EI BERTHYNAS A'R LLYWODRAETH FOESOL.

Y mae yn wir nad yw llywodraeth foesol yn enw (term) Ysgrythyrol, er fod ei gynwysiad yn y Beibl, mwy na deddf foesol. Ond er mwyn ei gwahaniaethu oddiwrth ddeddfau eraill, ac i ddangos mai â moesau ac ag ymddygiadau dynion y mae a wnelo hi, fe'i gelwir yn ddeddf foesol, a gwaith Duw yn llywodraethu dynion yn ol natur y ddeddf hon, ydyw llywodraeth foesol. Er mwyn gwahaniaethu, gelwir y rheol wrth ba un y mae yn llywodraethu y greadigaeth afresymol, ei lywodraeth naturiol, sylfaen hon yw perffaith wybodaeth o naturiaeth pob peth, ac anfeidrol allu sydd yn ei dal i fyny; nid gwiw cymeryd anogaethau a deniadau (motives) i lywodraethu y môr na'r elfenau eraill, ond nerth braich Hollalluog sydd raid ei gael i'w rheoli. Ond nid beth a ŵyr Duw, na pha beth a all ef, yw sylfaen ei lywodraeth foesol, ond sylfaen hon yw iawnder tragwyddol, neu yr hanfodol wahaniaeth sydd rhwng da a drwg, a deniadau, ac anogaethau sydd i'w dal i fyny, ac nid nerth; gwnai y radd leiaf o orfod (force) yn y llywodraeth hon ei dinystrio am byth, a chan mai anogaethau (motives) sydd yn dal i fyny y llywodraeth foesol, y mae yn anhebgorol angenrheidiol i'r llywodraethwr eu cynal yn eu llawn nerth mewn ymherodraeth mor eang ag yw y bydysawd. Wrth iawn i berson unigol (private person) y deallir y boddlonrwydd, neu'r atdaliad a dderbynir am y cam a gafodd yn ei eiddo, neu a ddyoddefodd yn ei gymeriad (character), fel nad ydyw yn golledwr, ond yn un a phe y buasai heb gael ei gamweddu erioed yn y mesur lleiaf. Ond wrth Iawn i gyfiawnder cyhoeddus (public justice), neu i lywodraeth, y deallir yr hyn a atebo ynddi holl ddybenion cosp; dyben cosp yw cadw iawn drefn yn y llywodraeth, ac nid llid personol at y troseddwr, neu aberthu iawn drefn yn y llywodraeth (yr hyn a fyddai aberthu ei holl ddedwyddwch ar unwaith), neu ynte gael rhywbeth a atebo yr un dyben a a chospi y troseddwr. Nid yw yn hanfodol i gyfiawnder i gospi y troseddwr yn ei berson ei hun, onide ni buasai lle i dros-osodydd (substitude), ond buasai raid i'r troseddwr ddyoddef, ac nid neb arall. Gofyniad cyfiawnder yw cospi yr euog, neu rywbeth a atebo yr un dyben a hyny yn y llywodraeth. Y mae cyfiawnder mor foddlon a thrugaredd i beidio a chospi y pechadur, ond iddo gael yr hyn a atebo yr un dyben a'i gospi; hyd yma y mae cyfiawnder yn dyfod, naill ai cospi y troseddwr, neu dros-osodydd cyfaddas. Y mae bywyd ac angeu Emanuel, nid yn unig yn ateb cystal dyben a chospi yr holl droseddwyr, ond anrhaethol well; rhoddodd gryfach anogaethau i iawn-drefn na phe cawsent eu dinystrio oll; felly, y mae cyfiawnder wedi cael mwy nag oedd yn ei ofyn yn aberth y Cyfryngwr, yr hyn a gawn ei ddangos eto yn helaethach yn y sylwadau canlynol:—

1. Y mae'r lawn yn gwneuthur i garictor y deddfwr ymddangos yn ddiduedd ac anghyfnewidiol er maddeu i'r troseddwyr. Y mae gweinyddiad anwadal yn sicr o ddinystrio pob llywodraeth, pa un bynag a'i teuluaidd, gwladol, eglwysig, a'i moesol fyddo; os cospir heddyw yn y teulu am ryw drosedd, ac yfory yr unrhyw drosedd yn myned heibio yn ddisylw, cesglir yn fuan gan yr aelod lleiaf mai ar fympwy, ac nid ar iawnder y mae y llywodraeth wedi ei seilio. Pe cospid un troseddwr, ac arbed un arall, fe fernid y gweinyddiad yn bleidgar, ac mai llid personol a achosodd gospi rhai, ond bod yn well ganddo aberthu'r llywodraeth na chospi eraill. Ond

Ond y mae dyoddefiadau y Cyfryngwr yn berffaith ddiogelu carictor Duw, er maddeu i'r euog; ynddo ef y dangosodd ei fod yn berffaith ddiduedd a digyfnewid yn ei benderfyniadau i gospi pechod, a hyny yn yr uchaf o fodau, "Yr hwn nid arbedodd ei briod-fab, ond a'i traddododd ef trosom ni oll, ac os gwnaed hyn yn y pren îr, nid oes lle i ddysgwyl yr arbedir y crin, eithr yr Arglwydd a fynai ei ddryllio ef, efe a'i clwyfodd pan osododd efe ei enaid yn aberth dros bechod.

2. Y mae Iawn yn ei berthynas a'r llywodraeth, yn gwneuthur nad ydyw gweinyddiad maddeuant yn dirymu'r gyfraith, o herwydd mae cospi'r troseddwr yn hanfodol i gyfraith, neu gael yr hyn a fyddo yn gyfiawn gyfateb i hyny. Dyma y gwahaniaeth rhwng cyfraith a chynghor, sef nad oes un gosp yn gysylltiedig â'r naill, ond yn hanfodol i'r llall. Yr oedd yn rhaid i un o dri pheth gymeryd lle naill a'i cospi'r troseddwr, neu i'r gyfraith hono, "Ti a geri yr Arglwydd dy Dduw a'th holl galon, ac â'th holl enaid, ac â'th holl nerth, ac â'th holl feddwl, â'th gymydog fel ti dy hun," gael ei throi am byth yn gynghor gwan a dirym, drwy holl ymerodraeth y Jehofah, neu ynte gael Iawn. Pan oedd dyn yn y bwlch cyfyng hwn y daeth Crist, gan ddywedyd (os oedd ei fywyd ef yn ddigon i ddiogelu y gyfraith, ac arbed y troseddwr), "Wele fi, anfon fi. Gwnaeth ef y fath lawn, gan ddangos cyfiawnder ac anghyfnewidioldeb gofyniadau a bygythion y gyfraith yn fwy grymus ac anrhydeddus wrth faddeu i'r euog, nag a fuasai suddo yr holl droseddwyr i ddinystr am byth.

3. Y mae Iawn yn gwneuthur nad yw gweinyddiad trugaredd a maddeuant ddim yn lleihau'r argraffiadau o ddrwg pechod. Y mae maddeuant ynddo ei hun yn tueddu i wneud hyny ar feddwl y troseddwr, yn nghyd a phawb a glywo'r hanes, heb rywbeth i wrthbwyso ar gyfer hyny; y mae hyn yn fynych i'w weled mewn teuluoedd; bydd y rhai hyny yn fynych yn dangos gwg yn eu gwedd, pan y mae eu calon yn llawn parodrwydd i faddeu, eto y mae arnynt ofn dangos hyn, rhag i'r bychan gasglu nad oes dim drwg yn y trosedd. Yn angeu y Cyfryngwr y mae drwg pechod yn ymddangos i'r graddau eithaf, y mae mwy o ddrwg pechod yn ymddangos wrth faddeu drwy angeu Crist nag wrth gondemnio y troseddwr anedifeiriol. Yma y mae pechod yn cael ei gondemnio, a'r pechadur yn cael ei gyfiawnhau.

4. Y mae yr Iawn yn gwneuthur gweinyddiad cyfiawnder a thrugaredd yn gyson a'u gilydd. Buasai raid i gyfiawnder heb lawn rwystro gweinyddiad trugaredd, neu i drugaredd ddinystrio gweinyddiad cyfiawnder am byth; heb Iawn, nis gallasai trugaredd weithredu i achub pechadur heb ddinystrio y gyfraith, ac nis gallasai cyfiawnder amddiffyn y gyfraith heb ddinystrio y pechadur; ond yn yr lawn y mae trugaredd yn rhedeg at ei gwrthddrychau, a chyfiawnder yn myned law yn Ilaw, gan hyfryd a chyson gydweithredu, ac ymgusanu yn nghyd wrth gofleidio y pechadur yn ei waed, Salm lxxxv. 10. Un yn datod ei rwymau a'r llall yn rhoddi olew a gwin yn ei glwyfau—

"A'r priodoliaethau mewn hedd,
O ochr trugaredd i gyd."

Yn yr lawn y mae Duw yn gyfiawn ac yn achubydd, gan ddangos ei gyfiawnder ef y pryd hwn, fel y byddai efe yn gyfiawn ac yn cyfiawnhau y neb sydd o ffydd Iesu, Rhuf. iii. 26.

II. IAWN YN EI BERTHYNAS A GRAS AC ARFAETH.

Gras ydyw ffynonell achub, ac nid yw arfaeth ddim yn amgen na chynllun (plan) gras. gwahaniaeth rhwng bod rhesymol yn gweithredu a pheiriant (machine) sydd fel hyn y mae y cyntaf yn gweithredu yn ol cynllun, a'r olaf heb yr un. Pa beth bynag y mae Duw yn ei wneuthur mewn amser, sydd yn ol ei gynllun tragwyddol. Cyfrwng ydyw yr Iawn i sicrhau dyben gras ac arfaeth. Yr oedd gras erioed yn gyflawn o barodrwydd i achub, ond heb Iawn nid oedd ganddo fodd i sicrhau ei ddybenion. Yr oedd digon o barodrwydd mewn gras i ymgeleddu plant angen yn y carchar, ond ni feiddiai dori y cloion. Yr oedd digon o agerdd (steam) cariad ynddo i gyfodi pechadur o bwll llygredigaeth, ond heb lawn ni feddai gras un cyfrwng i fyned ato. Y mae'r Iawn yn gyfrwng deublyg i sicrhau dybenion gras ac arfaeih, sef yn

1. Cyfrwng gweinidogaeth moddion. Heb Iawn ni chawsem byth Feibl, byth weinidogaeth y cymod, byth Sabbath, nac unrhyw foddion i achub. Pa fodd bynag—

2. Y mae'n sicrhau gweinidogaeth yr ysbryd i ddwyn dynion i wneuthur iawn ddefnydd o weinidogaeth moddion, er eu hiachawdwriaeth; canys Crist a ddywedodd, "Canys onid af fi, ni ddaw y Dyddanydd atoch; eithr os mi a äf, mi a'i hanfonaf ef atoch," Ioan xvi. 7. Yn y cyfrwng hwn y mae holl ddybenion arfaeth yn sicr ddiffael o gael eu cyflawni yn nghadwedigaeth yr eglwys, fel na bydd un o'i gwrthddrychau ar goll yn y dydd diweddaf.

III. YR IAWN YN EI BERTHYNAS A CHRIST EI HUNAN.

I. Yr lawn oedd sail ei ddyrchafiad. Mynych y priodolir dyrchafiad Crist i'r Iawn boddhaol a roddes efe i Dduw, megys yn y geiriau canlynol:—"Gan fod yn ufudd hyd angeu, ie, angeu y groes. O herwydd paham, Duw a'i tra dyrchafodd yntau, ac a roddes iddo enw, yr hwn sydd goruwch pob enw," Phil. ii. 8, 9. Trwy ei aberth y cyrhaeddodd efe yr orsedd fawr, lle "rhaid iddo deyrnasu hyd oni osodo ei holl elynion dan ei draed," I Cor xv. 25.

2. Yr lawn yw sicrwydd llwyddiant ei deyrnas, "O lafur ei enaid y gwel ac y diwellir; fy ngwas cyfiawn a gyfiawnha lawer drwy ei wybodaeth, canys efe a ddwg eu hanwireddau hwynt. Am hyny y rhanaf iddo ran gyda llawer, ac efe a rana yr yspail gyda'r cedyrn; am iddo dywallt ei enaid i farwolaeth," Esa. liii. II, 12. Y mae ei lawn wedi rhoddi y fath foddlonrwydd i Dduw fel y mae'n sicr o gael meddiant o'r noddfeydd cryfaf yn nheyrnas y diafol.

IV. YR IAWN YN EI BERTHYNAS A PHECHADUR.

Iawn yw yr unig sail i'r pechadur penaf nesau at Dduw, am faddeuant a gras i fyw yn dduwiol gyda hyder, Heb. iv. 16. Beth pe buasai yn rhaid i bechadur nesau at orsedd Llywydd y bydoedd am faddeuant a gras, a'r teimladau canlynol yn ei fynwes: Os gwrandewir fy ngweddi, y mae yn rhaid i Dduw aberthu ei garıctor drwy ei holl ymerodraeth am byth, a rhoddi ar ddeall i'w holl ddeiliaid, mai yn ol mympwy a phleidgarwch y mae yn gweinyddu llywodraeth, ac nid ar egwyddorion iawnder tragwyddol. Ac yn ganlynol, y byddai yn rhaid iddo faddeu ar draul diddymu y ddeddf; ac yn nesaf y byddai maddeu yn dileu argraffiadau o ddrwg y trosedd oddiar feddwl pawb a glywai'r hanes, a pheri anghydfod tragwyddol rhwng y priodoliaethau. Pa fodd y buasem byth yn gallu nesau at orsedd trugaredd ar y tir yma? Yn wir, ni feiddias—ai yr un dyn gonest byth ddyfod; ond i Dduw y byddo'r diolch, y mae'r holl gymylau tywyll hyn wedi eu chwalu, a'r holl rwystrau wedi eu symud o'r ffordd. Y mae cymeriad y Jehofah yn ymddysglaerio yn fwy gogoneddus wrth faddeu i'r euog drwy aberth y Cyfryngwr, nag wrth ei ddamnio. Y mae maddeu mewn Iawn yn tueddu i gynyrchu mwy o barch i'r gyfraith, a gadael argraffiadau dyfnach o ddrwg pechod ar feddyliau dynion ac angylion, nag a fyddai damnio yr holl fyd. Gall y pechadur penaf fyned at orsedd trugaredd mewn hyder duwiol, a gofyn i Dduw wneuthur iddo yr hyn a fyddo fwyaf er ei ogoniant. Dyma ddadl werthfawr i'r euog yn ngwyneb anghrediniaeth, ar ben dau lin wrth grefu am drugaredd.

2. Iawn yw'r anogaeth gryfaf i edifeirwch dioed a bywyd duwiol. Pwy a ddichon edrych ar Grist yr hwn a wanasant, heb alaru am eu beiau; yma y mae cariad Crist yn ein cymhell ni i fywyd santaidd a defnyddiol yn fwy grymus na holl felldithion y gyfraith, ac na holl boenau'r uffernolion; pwy all garu pechod a meddwl am ddyoddefiadau anrhaethol Emanuel dros ein pechodau ni, y cyfiawn dros yr anghyfiawn, fel y dygai ni at Dduw. Os na lwydda pregethu Crist wedi ei groeshoelio i enill pechaduriaid ato, nis gellir dysgwyl y llwydda unrhyw foddion eraill. Casgliadau:—

1. Ei fod o bwys mawr i gael golygiadau Ysgrythyrol ar Athrawiaeth yr Iawn yn ei holl berthynasau. Ystyria un hi yn ei pherthynas â'r llywodraeth yn unig, fel pe na byddai un berthynas rhyngddi a gras ac ag arfaeth; ac eraill a siaradant am dani yn ei pherthynas a gras ac arfaeth yn unig, ac fel cyfrwng i sicrhau cadwedigaeth yr Eglwys, heb ei golygu yn ei holl berthynasau eraill. Diau y bydd pob un yn dweyd y gwir, ond nid yr holl wir.

2. Dylai athrawiaeth yr Iawn gael y lle blaenaf a phenaf yn ein gweinidogaeth. Yn gyfatebol i hyn y bydd ein llwyddiant fel gweinidogion.

3. Dylai fod yn beth blaenaf mewn crefydd ymarferol. Yn gyfatebol i'r lle a gaiff yr athrawiaeth hon ar ein meddyliau y cynyddwn yn mhob rhinwedd crefyddol, tuag at Dduw a dynion; y mae cymdeithas dyoddefiadau Crist yn sicr o'n dwyn i gydymffurfio â dyben ei farwolaeth.

Nodiadau[golygu]