Neidio i'r cynnwys

Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903)/Bachgen Bach o Ferthyr, erioed, erioed

Oddi ar Wicidestun
Cofiant Artist Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903)

gan Evan Keri Evans

Dros y Werydd

II. " Bachgen Bach o Ferthyr, erioed, erioed."

Hunan-gofiant:

O DYDI anweledig a byth-symudol amser! Yr wyf wedi fy nghludo ar dy adenydd drwy drigain o'th flynyddoedd buain. Cwyd gwawr blwyddyn arall (1902) y llen, ac yr wyf fel yn byw fy mywyd drosodd eto; daw atgofion hoff a chysegredig ger fy mron, megis mewn breuddwyd. Yr wyf eto yn yr hen gartref annwyl lle'm ganwyd ar yr 2iain o Fai, 1841, a lle y treuliais ddyddiau babandod a bachgendod, sef yr ail dŷ yn Chapel Row, Merthyr Tydfil, Deheudir Cymru. Yr wyf yn blentyn unwaith eto ym mreichiau fy mam, a daw nodau ei chân eto i'm clyw—nodau y gallai engyl genfigennu wrthynt. Yr wyf hefyd yn eich gweld chwithau, fy annwyl dad, fy chwaer Ann, a'm hunig frawd Henry, ac er eich bod oll wedi gadael y bywyd hwn, yr wyf gyda chwi eto, a chyda chwithau, fy nwy chwaer sydd yn fyw. 'Rwy'n gweld y coed poplar tal blannwyd gan ddwylo fy mam yn dyrchafu ymhell uwchlaw pennau'r tai, y blodau hardd, yr hen gamlas y gwaredwyd fi ohoni fwy nag unwaith ("gerfydd fy ngwallt" wedi ei groesi allan); y chwareule hefyd gyda chwi, fy nghyd-chwareuwyr bore, yn sẁn seindorf enwog y Gyfarthfa a ddaw o'r pellter; yna yn eich dilyn chwi, wŷr y seindorf, fel y cenwch gan ymdaith drwy heolydd Merthyr, a'ch cerddoriaeth megis yn diwallu fy enaid yn fwy nag y diwalla bwyd y corff.

Yr wyf eto gyda fy mam yn fy hen fam-eglwys—Bethesda, a minnau yn y côr yn hogyn yn canu alto, a'm dyfodol frawd yng nghyfraith yn arwain. Y mae ei seinfforch eto'n torri'n ddarnau yn ymyl yr hen stove, drwy iddo ei lluchio ataf i a bechgyn eraill yr alto am na ddeuem yn nês at y côr na chil-edrych o ddrws y ffrynt, er mawr flinder iddo. Yr wyf yn naw mlwydd oed ac yn gweithio fel pit boy yn y lofa (Pwll Roblins) am hanner coron yr wythnos, a phan yn ddeuddeg oed yn mynd i waith y Gyfarthfa; ac ar nos Sul, ar ol y gwasanaeth a'r ysgol gân a swper, yn newid fy nillad i fynd i'r gwaith ganol nos. Bob prynhawn Sul yr wyf yn y Temperance Hall yn canu alto yng nghôr Rosser Beynon. Yr wyf hefyd yn bresennol ym mherfformiad Twelfth Mass (Mozart), gyda chyfeiliant offerynnol cyflawn, ac yn canu alto yn un o'r saith côr a gystadleuodd ar ganu " Teymasoedd y Ddaear," pryd y rhannodd y beirniad, Mr. Evan Davies, Abertawe, y wobr o saith gini rhwng y saith.




Medd Mr. Levi (yn 1878):

"Mab ydyw Joseph Parry i Daniel ac Elisabeth Parry, gynt o Ferthyr Tydfil. Yr oedd ei dad yn fab i John Parry, ffermwr parchus o sir Benfro. Symudodd Daniel yn ieuanc i Forgannwg, a bu yn refiner yn y Gyfarthfa (Merthyr) am ddeng mlynedd ar hugain cyn ymfudo i America. Yr oedd Elizabeth, mam y cerddor, yn enedigol o'r Graig, yn ymyl Cydweli, sir Gaerfyrddin—un o deulu Richards o'r Graig, ac yn berthynas pell i Henry Richard, Ysw., A.S. Wedi tyfu i fyny, symudodd i Ferthyr, ac ymsefydlodd yn nheulu yr hen weinidog parchus Methusalem Jones, Bethesda, ac oddiyno y priododd â Daniel Parry.

"Mae Joseph Parry yn ieuengaf ond dau,[1] dybiem, o wyth o blant. Ganwyd ef yn y tŷ isaf ond un, pen deheuol, o 'Dai yr Hen Gapel' Merthyr, Mai 21ain, 1841; felly y mae yn awr yn ddwy flwydd ar bymtheg ar hugain oed. Cafodd Joseph, fel y rhan fwyaf o ddynion nodedig pob gwlad, fam ragorol i'w fagu; dynes gall, grefyddol, a'i henaid yn llawn cerddoriaeth. Byddai hi yn aml, pan na byddai neb i ddechreu canu yn y capel, yn taro y dôn, ac nid oedd neb fedrai wneuthur yn well. Oddiwrthi hi, mae'n debyg, y cafodd y plant eu doniau cerddorol; oblegid y maent oll yn gantorion nodedig—ond daeth Joseph yn deyrn arnynt i gyd.

"Mae Merthyr yn enwog am fagu cerddorion, a chafodd Joseph Parry ei ddwyn i fyny yn blentyn yn y llecyn mwyaf cerddorol yn y lle. Yr oedd rhes ' Tai yr Hen Gapel ' yn llawn cantorion, ac yn gorwedd i ymfwynhau yn wastad mewn cwmwl o seiniau cerddorol."

Am ei fam dywed Cynonfardd ymhellach:

"Bu Betty Parry'n aelod gyda mi yma am rai blynyddoedd. Oddiyma aeth i Portland, Maine, ac yno y bu farw. Er cof am hynny yr enwodd ef un o'i donau yn ' Maine' . . . Clywais hi'n adrodd ei phrofiad aml dro yn y gyfeillach grefyddol oedd yn sicrwydd ei bod yn gyfarwydd â thynnu dwfr o ffynhonnau dyfnaf yr lachawdwriaeth. Clywais hi hefyd yn canu penhillion nes peri hwyl o orfoledd yn y gwrandawyr, a gwlychu llygaid a gruddiau y tyner-galon. Y mae chwaer y Doctor, sydd yn aelod gyda ni yn awr, er yn bymtheg a thrigain oed, yn gantores ragorol. Hi yw yr unig aelod o'r teulu sydd yn fyw heddyw."

Dywed y "Cerddor Cymreig" (Chwefrol 1869): "Y mae Jane yn un o'r sopranos goreu a fedd y Cymry yn America; y mae Betsy'n un o'r rhai goreu fel contralto; ac nid hawdd yw cyfarfod â neb a fedd bereiddiach llais na Henry." Datblygodd Henry i fod yn "broffeswr" cerddorol. Yr oedd Ann, gwraig Mr. Robert James, arweinydd y gân ym Methesda, Merthyr, yn gantores ragorol hefyd.

Tuag adeg geni Joseph Parry, ac ymlaen drwy dymor ei blentyndod, yr oedd tri chanolfan cerddorol amlwg yng Nghymru, sef Llanidloes a Bethesda yn y Gogledd, a Merthyr yn y De.

Yn ystod hanner cyntaf y ganrif ddiweddaf, tebyg mai Merthyr oedd y dref enwocaf yng Nghymru am nifer, os nad am bwysigrwydd ei heisteddfodau. Cedwid hwy agos yn flynyddol, ac ambell i waith fwy nag un y flwyddyn —o leiaf o 1822 ymlaen. Ceid cyfresi ohonynt tan nawdd Cymdeithas Cadair Merthyr, Cymdeithas Cymrodorion Merthyr, ac yn ddiweddarach, Cymdeithas Lenyddol Merthyr. Gwir na roddid lle i gerddoriaeth—ag eithrio canu'r delyn—yn y rhai cyntaf; ond yn Eisteddfod Cadair Merthyr yn 1825, cawn fod ariandlws i'r datganydd goreu, yn gystal ag i'r telynor cyntaf a'r ail oreu.

Ymddengys mai Ieuan Ddu oedd cychwynnydd canu corawl o radd uchel yn Neheudir Cymru. Sefydlodd gôr ym Merthyr tua 1840, a rhoddodd berfformiad cyflawn o'r "Messiah," y cyntaf yng Nghymru'n ddiau. Ar wahoddiad Lady Charlotte Guest rhoddodd ef a'i gôr gyfres o gyngherddau yn Llundain a Lerpwl. Moses Davies— tad Mynorydd, a thaid Dr. Mary Davies—oedd arweinydd galluog arall ym Mhontmorlais, Merthyr. Ganddo ef a Rosser Beynon (Asaph Glan Tâf) y newidiwyd o'r hen ddull o ganu tôn gynulleidfaol—y gwrrywod yn canu'r alaw, a'r benywod y tenor—i'r dull presennol. Gwnaeth Mr. Beynon fwy na neb o'i gydoeswyr yn ddiau dros ganiadaeth gorawl a gwybodaeth gerddorol yn Neheudir Cymru. Heblaw "Côr Llewelyn," ei gôr enwog ym Merthyr, yr oedd ganddo gorau bychain a dosbarthau cerddorol mewn mannau eraill—rhai mor bell a Chaerdydd. Yn 1845 cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf o "Telyn Seion" y flwyddyn ar ol ymddangosiad y "Canor Dirwestol " (Tydfiyn). Yr oedd brawd yng nghyfraith Parry, Robert James, arweinydd y gân ym Methesda'n ddiweddarach, yn ddisgybl i Rosser Beynon, ond nid ymddengys fod Parry ei hun yn mynychu ei ddosbarth, er ei fod yn aelod o'i gôr. Arweinydd y gân yn Soar, ac Ynysgau yn ddiweddarach, oedd Mr. Beynon, tra yr ai Daniel a Beti Parry a'r plant i Fethesda.

Yr oedd y canu cynulleidfaol hefyd o ansawdd uchel. Meddai Asaph Glyn Ebwy yn ei "Adgofion" (1895): "Credaf fod cystal canu o ran quality yn llawer o gapeli ac eglwysi yr hen wlad hanner can mlynedd yn ol ag sydd ynddynt y dydd heddyw. Yr oedd y canu yn hen eglwys Merthyr, ac yng gwahanol gapeli y dref, dan arweiniad Ieuan Ddu, Asaph Glan Tâf, Tydfilyn, Robert James, Daniel Williams, ac eraill nad wyf ar hyn o bryd yn cofio eu henwau, yn treat i undyn ei wrando. ... Singing was singing in those days: nid bloeddio fel Indiaid i'r gad ydoedd, na chwaith garw ac aflafar fel melin gro yn malu cerrig; nage, eithr tyner megis awel falmaidd haf yn adfywio ac yn ireiddio ein hysbrydoedd, ac mor swynol a soniarus a'r delyn deir-res yn nwylo y diweddar enwog delynor Gruffydd, Llanover."

Ymddengys fod yna gyfnod newydd yn hanes caniadaeth y cysegr wedi gwawrio ar Gymru tua 1840—cyfnod a gyrhaeddodd ei godiad haul yn Llyfr Tonau Ieuan Gwyllt— fel y prawf geiriau Asaph Glan Tâf ar ddechreu "Telyn Seion": "Buasai yn llawer mwy boddhaol gan ddosbarth lluosog o'n cantorion pe cyhoeddasid nifer o'r tonau gwylltion afreolaidd hynny sydd mewn arferiad (ysywaeth) mewn llawer parth o'r dywysogaeth, y rhai a lygra chwaeth gerddorol y sawl a ymarfera â hwy i raddau helaeth." Bu'n frwydr rhwng y ddau ddull am hir amser yng Nghymru—y mae i fesur o hyd—yn y fan hon y naill ddull, a'r fan acw y dull arall yn ennill y dydd. Ni wyddom sut yr oedd ym Methesda a chartref Parry, ond ni synnem glywed fod Beti, gyda'i hanianawd fywiog a'i dawn ddramayddol, yn gogwyddo at y dull ysgafn a chwafrol yn fwy na'r un mwy defosiynnol ac urddasol. Os felly, nid rhyfedd os cynhyrchwyd bias cryf ac arhosol yn natur bachgen mor agored i argraffiadau at yr un dull. O leiaf, rhaid fod yna achos dwfn a dirgel i'w serch a'i ogwydd hyd y diwedd at yr "arddull Cymreig" a'r "tân Cymroaidd"—serch nad oedd ei darddell yn yr R.A.M. na Mendelssohn na Wagner, ac oedd, yn wir, yn ddigon cryf i herio pob dylanwad a datblygiad diweddarach.

Cysyllta'i fywgraffwyr—yn y cyfnod hwn—gryn bwys â'r ffaith iddo dreulio dyddiau mebyd yn sŵn, mwy neu lai cyson, seindorf y Gyfarthfa. Dywed Mr. Tom Price: "Y mae yn ffaith i'r ddau gerddor Gwilym Gwent a Dr. Parry gael magwrfa yn ymyl brass bands, a dichon na fu dau gerddor mwy mydryddol (rhythmical), gyda mwy o'r 'mynd' sydd mewn mydr, yng Nghymru. Cafodd Parry ei fagu yn ymyl y fan lle yr arferai seindorf y Gyfarthfa ymarfer, ac fe glywodd yn fore y gerddoriaeth oreu, yn ei gwisg oreu; ac ni wyddom faint fu y dylanwad ar hogyn mor fyw ei deimladau. Yr oedd Gwilym Gwent yn aelod o'r brass band pan yn ddyn ieuanc. Y mae trwst cerddol seindorf y Gyfarthfa yn ei ddarnau milwrol."

Eir â ni i fyd mwy lledrithiol ac anolrheinadwy pan y ceisir cysylltu elfennau yn ei gerddoriaeth â golygfeydd naturiol Merthyr. Diau fod yna gysylltiad agos ond cyfrin rhwng anianawd y cerddor a natur fawr i gyd—nid ei seiniau yn unig: prawf hanes y prif gerddorion hynny. Yr oedd Gluck, Beethoven, Weber, Wagner, ac eraill yn orhoff o gwmni maes, mynydd, a môr. Ac y mae yna gysylltiad mwy pendant na'r un cyffredinol yna: pan ofynnwyd i Mendelssohn gan ei chwaer Fanny am ddisgrifiad o olygfeydd "llwyd" yr Alban, gwnaeth hynny drwy ysgrifennu darn o gerddoriaeth a ddatblygodd wedyn i fod yn un o'i ddamau goreu. Prin y byddai neb ond un o Ferthyr yn honni fod y lle yn brydferth. Yn bresennol y mae gan gwmniau rheilffyrdd lygaid neilltuol o glir i ganfod prydferthwch yng nghymdogaeth eu relwe hwy, ond ni chlywsom fod un o'r cwmnïau yn hysbysebu Merthyr fel beauty spot. Bid siwr, y drwg ym Morgannwg yw fod y llwch glo, a mwg y gweithfeydd haearn yn cuddio tlysni'r wlad ers talm pan glywid stŵr " arianddwr yn y Rhondda." Diau fod Coed-y-Castell a Bannau Brycheiniog yn y pellter wedi gosod eu hargraff ar ddychymyg y llanc; ond y mae'r berthynas yn rhy gyfrin inni fedru ei holrhain, ac ar y goreu ni allai ond rhoddi gogwydd i'r ddawn oedd ynddo.

Os dyna'r amgylchfyd, beth am ymateb y llanc iddo? Nid oes un hanes amdano fel am Verdi, pan yn fachgennyn, yn mynd i glustfeinio yn ymyl plas lle y canai'r ferch y piano ddydd ar ol dydd; neu fel ei gyfaill P. P. Bliss, pan glywodd yntau ganu yr un offeryn mewn tŷ gwych, a fentrodd i mewn i ymyl drws y parlwr, a phan beidiodd y canu, a ymbiliodd, "Oh, lady, play some more." Nid yw yr ychydig a ddywedir amdano ond yr hyn ellid ei ddywedyd am ddegau o fechgyn eraill, a'r ychydig hynny, y mae lle i ofni, yn ddim ond casgliadau o'i flynyddoedd dilynol,—ymgais i wneuthur ffrwd bore oes yn deilwng o'r afon fawr. Y mae gennym dystiolaeth uniongyrch un hen wraig (yn ol Cerddwyson), Mrs. Catherine Williams, yn awr yn 86ain mlwydd oed, yr hon a adwaenai'r teulu'n dda, ac oedd yn y tŷ pan aned ef, sef, y byddai'r cymdogion yn arfer ei wahodd i'w tai pan yn blentyn pedair a phum mlwydd oed i ganu a phregethu, ac yn rhoddi pres iddo am wneuthur hynny. Ond pan ddywedir wrthym ei fod pan tua seithmlwydd oed yn medru chwiban darnau clasurol seindorf y Gyfarthfa bob un, nid tystiolaeth mo hyn, ond enghraifft o'r "darllen yn ol" uchod, gan ei bod yn dra sicr na osododd neb y llanc dan arholiad mor fanwl ag a ragdybir yn y fath faentumiad. Wrth gwrs, y mae'n gwbl bosibl a thebygol hyd yn oed, yng ngoleuni ein gwybodaeth am ei glust deneu a'i gof gafaelgar, ond nid mynegiad syml o ffaith mohono yn y ffurf hon. Rhwydd gennym gredu, hefyd, yr hyn a ddywed Mr. Levi amdano: "Ceid anhawster i'w gadw i ganu y prif lais, ond mynnai o hyd ganu ail lais (seconds) a ffurfiai ei hun ar y pryd, tra fyddai'r athro Robert James yn arwain y bass. . . . Erbyn ei fod yn ddeg oed, yr oedd alto rhannau helaeth o oratorios Handel, Mendelssohn, a Haydn, a ddysgid ym Merthyr ar y pryd, ar ei gof." Nid yw dywedyd ei fod yn dilyn y seindorf drwy'r dref ond yr hyn a ellid ei ddywedyd am ddegau o fechgyn eraill. Y mae, efallai'n fwy nodweddiadol ohono iddo fynd i'r ysgol gân unwaith â'i wyneb yn fudr, gan gymaint ei hoffter o ganu, ac i Mr. Robert James ei yrru gartref i'w olchi; yn hyn, yn ddiau, "y plentyn yw tad y dyn," canys dioddefodd Parry drwy'i fywyd oherwydd gwneuthur y dosbarth o gyflawniadau a gynrychiolir gan "olchi'r wyneb " yn eilradd i gerddoriaeth. Ar amgylchiad dadorchuddio cofgolofn Ieuan Gwyllt gorfu iddo gerdded yr holl ffordd o'r orsaf, a chario'i fag, am ei fod yn gwisgo het jim crow wen—gwall trefnyddol sobr.

Y mae adeg plentyndod dyn, fel eiddo cenedl, yn tueddu i fynd yn gyfnod chwedlonol dan ein dwylo. Nid rhyw lawer o chwedloniaeth sydd yn gordoi hanes borëol Parry, er fod yna wisp ledrithiol yma a thraw. Yr hyn a deimlwn yw nad oes nemawr ddim sicr a nodweddiadol yn cael ei ddywedyd amdano a'n helpa i adnabod a gwerthfwrogi'r dyn a ddaeth allan o'r bachgen. Ond o hyn ymlaen, yn neilltuol o'r pryd yr ymroddodd o ddifrif i wasanaeth cerddoriaeth, y mae ôl ei sang yn fwy dwfn a phendant yn hanes ei wlad, ac y mae gennym hanes go lawn, nid yn unig yng nghof cyfeillion, ond mewn papurau a chyfnodolion o'i symudiadau a'i weithrediadau, a hwnnw'n hanes a ysgrifennid ar y pryd.

Wrth ddilyn ei hanes ar y wyneb, fodd bynnag, fe weddai i'r darllenydd gofio mai i fyd cerddoriaeth y perthynai Joseph Parry, ac mai ei waith cariad yn y byd hwnnw oedd cyfansoddi, uwchlaw popeth arall. Ac fel mai mynyddoedd Arfon a Meirion sy'n ffurfio nodwedd amlycaf Gogledd Gymru, er fod yno ddyffrynnoedd bras ac eang, felly i werthfawrogi[2] gwir ystyr bywyd Parry, rhaid inni ddilyn mynyddresi ei operas a'i oratorios, heb anghofio, bid siwr, y bryniau mwy tlws, a'r llecynnau mwy mirain a geir oddeutu eu godreon.


Tai'r Hen Gapel a'r Camlas.

Ganwyd Dr. Parry yn y tŷ olaf i'r dde (yn y darlun—olaf ond un yn y rhestr).

Nodiadau

[golygu]
  1. Ond un meddai'i chwaer. Dim ond at frawd a thair chwaer y eyfeiria Parry yn ei Hunan-gofiant: bu farw y tri arall yn ieuainc.
  2. Dyma'r rheswm na fabwysiedir yr un dosraniad i gyfnodau ag yng Nghofiant D. Emlyn Evans, er y gallesid gwneuthur hynny, canys ymrodd Parry hefyd i wasanaeth lletach o 1880 ymlaen: gwêl. Pennod XII.