Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903)/Dros y Werydd

Oddi ar Wicidestun
Bachgen Bach o Ferthyr, erioed, erioed Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903)

gan Evan Keri Evans

Yr Athrofa Frenhinol (R.A.M.)

III. Dros y Werydd.

Hunan-gofiant:

1854, yr wyf yn rhoddi fy nghalon i'w Chreawdwr, ac yng Nghorffennaf yr un flwyddyn cymerir fi, gyda'm brawd a'm chwiorydd Elisabeth a Jane, gan fy mam dros y Werydd llydan i America (Danville, Pennsylvania, lle yr aethai fy nhad o'n blaen y flwyddyn flaenorol). Moriwn o Gaerdydd i Philadelphia yn y llong hwyliau Jane Anderson, ac yr ydym chwech wythnos a dau ddiwrnod ar y dŵr. Yn y fan hon syrth y llen ar dair blynedd ar ddeg cyntaf, fel ar ragware (prelude) fy mywyd. Yn awr daw ail len fy ngweledigaethau gyda'u digwyddiadau am lawn ugain mlynedd. Yr wyf yn y Rolling Mills, a symuda fy llafur ynddynt ger fy mron fel drama fawr o fywyd—o 1854 hyd 1865. Yn y Rolls, drwy ddwy waredigaeth wyrthiol oddiwrth ddamwain (1) drwy ffrwydriad berwedydd, pryd y lladdwyd fy nghydweithiwr yn fy ymyl, a (2) thrwy sidell doredig —arbedir fy mywyd tlawd i fod o ryw wasanaeth i gerddoriaeth gwlad fy ngenedigaeth (yr hyn wyf wedi ceisio ei wneuthur yn awr ers tymor hir).

Yn awr daw 1858 ger fy mron, ac yr wyf yn ol mewn ystafell fechan yn nhŷ fy athro cyntaf (y diweddar Mr. John Abel Jones o Ferthyr), lle y cynhelir ei ddosbarthau i ni hogiau'r felin ar brynhawn Sadwm o dri hyd bedwar o'r gloch, wedi i ni fod gartref wedi gwaith. Dysg ni i ddarllen cerddoriaeth fel aelodau o'r côr meibion. Yr wyf yn ddwy ar bymtheg oed cyn deall yr un nodyn o gerddoriaeth (er i mi ganu mewn amryw berfformiadau o draethganau ac offerennau ym Merthyr).

Yn yr ail chwarter fe dyr gwawr darllen cerddoriaeth ar fy meddwl, a pha beth bynnag a ysgrifenna fy athro ar y black-board bychan, yr wyf yn gallu ei ganu'n union. Gweithia ef a minnau gyda'n gilydd drwy'r nos am flynyddoedd—ef fel poethydd (heater), a minnau wrth y rolls. Yn awr, o'r pryd hwn allan, yr wyf yn gaethwas bodlon i gerddoriaeth. Yr wyf yn cyson dynnu ar ei wybodaeth helaeth ef. Tystia fy nghyfeillion ei fod yn aml yn dywedyd, "Ni ad y diafl bychan lonydd i mi o gwbl."

Daw 1859 ger fy mron, a myn fy nghyd-ysgolheigion i mi ffurfio dosbarth i ddysgu iddynt ddarllen cerddoriaeth a'i gwyddor. Yn awr, yr wyf yn ddeunaw oed, a chynghorir fi i astudio cynghanedd. "Beth yw cynghanedd? " meddwn. "Dysgu'r ffordd i gyfansoddi" yw'r ateb. Meddaf finnau tan wrido. Myfi i wneuthur fel Handel, Mozart, Beethoven, a'r meistri eraill" Rhoddir yn fy llaw holwyddoreg fechan Hamilton ar gynghanedd. Prynaf finnau ysgrif-lech a chrafaf erwydd o bum llinell arni ag un o ffyrch bwrdd fy mam. Cymeraf fy ymarferiadau drosodd yn ddyddiol i'm hathro ar yr ochr arall i'r heol i'w cywiro. Yn 1860, trosglwydda fi i'w gyfaill, Mr. John M. Price, Rhymni, i ddysgu cynghanedd. Af i'w dŷ ef bob prynhawn Sadwrn ar y cyntaf, ond yna fore Sul am naw. Yr wyf yno'n brydlon— yn aml cyn iddo godi.

Yr wyf yn awr yn bedair ar bymtheg oed, ac yn mynychu rehearsals y Pennsylvanians (Male Glee Party), y rhai a gân y canigau Seisnig goreu. Dylanwadodd hyn arnaf fel canigydd. Cynhaliwn lawer o gyngherddau yma a thraw; myfi eto fel alto, ond â'm llais yn cyfnewid. Esbonia (fy athro) i mi lyfr Dr. Marx ar gynghanedd, ac er ei syndod dargenfydd fy mod yn clywed yn feddyliol effeithiau yr holl gordiau y darllen amdanynt. Nadolig y flwyddyn hon gwna i mi gystadlu am wobr mewn dwy eisteddfod: (1) yn Danville, ar yr ymdeithgan ddirwestol. Rhoddir y wobr i mi, ond nid hoff gan y beimiad fy arddull. Y flwyddyn nesaf gwneir i mi gystadlu ar anthem o bwys yn Eisteddfod fawr Utica, ac yr wyf yn curo fy meirniad yn Danville, a'r canlyniad yw gornest newyddiadurol rhwng y cystadleuydd aflwyddiannus a'r beirniad, Mr. J. P. Jones, yn awr o Chicago. (2) Yn Fairhaven, Vermont, ar dôn gynulleidfaol, a rhennir y wobr rhyngof fi a Mr. Pritchard, hen gyfansoddwr. Fel hyn arweinir fi'n ol i ddechreu bore fy nghwrs fel cyfansoddwr ieuanc.

Y fath wynfyd! Yr wyf yn cael fy offeryn cyntaf— melodion bychan pedair wythawd sydd i'm henaid fel organ bibau fawr, neu gerddorfa gyflawn! Cofiaf yn dda y cordiau cyntaf a genais arni, sef y tri chord cyntaf yng nghanig Callcott, "Brenhines y Dyffryn." Y mae'r offeryn yn awr ym meddiant brawd fy ngwraig, Gomer Thomas, Danville, yr hwn a wrthyd ei werthu i mi.

Teifl y cof yn awr ei ffenestr yn fwy llydan-agored. Yr wyf yn yr hen eglwys briddfaen fythol annwyl yn hau hadau crefyddol fy oes ddyfodol—yn ei chôr, a chyrddau'r gwŷr ieuainc a'r Ysgol Sul, ac yn cerdded tri chwarter milltir deirgwaith bob Sul am lawer blwyddyn; yn canu'r melodion yn y côr, ac yna nos Sadwm yng nghyrddau'r gymdeithas ddadleuol, ac yn cario'r melodion ar fy nghefn bob wythnos i gyfeilio'r canu.

1861: Yr wyf yn awr yn fy ugeinfed blwyddyn, pan ddaw Cupid ym mherson fy nghyntaf a fy unig gariad, a'r un sydd i fod yn gymar bywyd i mi mewn llawenydd a thrallod (am ddeugain mlynedd erbyn hyn). Yr haf hwn danfonir fi fel efrydydd i'r cwrs haf o dri mis yn Geneseo, N.Y. Y mae rhai o'm cyd-efrydwyr erbyn hyn yn enwog, sef Madam Antoinette Sterling, Mr. P. P. Bliss, a Dr. Palmer. Efrydaf ganu dan y meistr mawr Eidalaidd, Bassini (cyfaill Rossini) a'r organ, cynghanedd, a chyfansoddiant dan yr Athro Cook. Fis Gorffennaf, tyr y rhyfel allan; â cannoedd o'm ffrindiau ieuainc i'r rhyfel, ac ychydig ddaw'n ol. Syrth y coelbren ddwywaith arnaf fi, a chyst i mi £200 i ddod yn rhydd. Pan ddychwelaf o'r coleg, af eto i weithio yn y melinau.

Yn awr, gorlifa 1862 â'i ddigwyddiadau fy nghof. Enillaf wobrau yn llawer o eisteddfodau'r America. Priodaf ar fy nydd pen blwydd, a chyfansoddaf ganig, "Cupid's Darts," yr hon a genir ar ol y cinio priodas. Gwasanaethaf fel beirniad am y waith gyntaf yn Hyde Park. Mor dda y cofiaf i mi fethu cysgu drwy'r nos oherwydd fy mhryder ynghylch beimiadu'r dydd canlynol.

1863: Gwna fy athrawon i mi gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe. Enillais ar yr oll a dreiais: Y motett (wyth gini); tair canig (pum gini), sef "Man as a Flower" (Male Voice), " Rhowch i mi fynghleddyf " (Male Voice) a "Ffarwel i ti, Gymru fad " (lleisiau cymysg). Yr oedd y canigau adnabyddus "Y Clychau," Yr Haf," a "Nant y Mynydd " yn y gystadleuaeth. Gohiriwyd rhoddi'r wobr o bum gini am y ddwy gorale nes cael prawf pellach o'u gwreiddioldeb. Wedi i mi yrru i mewn Rhif. 1, 2, a 3 o'r deuddeg corale a gyfansoddais y flwyddyn flaenorol, derbyniais y wobr. Nid yw fy nghynrychiolydd yn bresennol yn yr eisteddfod, fel nad yw fy enw fel y buddugwr yn wybyddus hyd nes i'm cyfeillion yn Danville ddanfon atynt. Yr wyf o hyd yn y melinau. (Gwêl. Restr 28 cyfansoddiad y flwyddyn).

1864: 'Rwy'n ennill yr holl wobrwyon yn Eisteddfod Genedlaethol Llandudno (£24 a medal): canon i dri llais, "Nid i ni, O Arglwydd"; y rhangan i leisiau gwrywaidd "Chwarae mae y Chwaon iach ; a'm dau gorawd, "Achub fi, O Dduw," a "Clyw, O Dduw, fy llefain" yn gyntaf ac yn ail.

Yr wyf o hyd yn y melinau—yn awr yn ben roller. (Gwêl. Restr 24 cyfansoddiad am y flwyddyn.)

1865, gyda'i nifer fwy a mwy pwysig o gyfansoddiadau ddatguddir nesaf i mi. (Gwêl. y Rhestr o 32 cyfansoddiad.)

Adlewyrcha drych y cof y cyfnod pwysicaf yn fy mywyd bach. Daw Eisteddfod Aberystwyth yn awr ger fy mron. Y mae fy llwyddiant parhaol yn eisteddfodau America yn gystal ag yn Abertawe a Llandudno yn peri i'm dau athro a'm brawd yng nghyfraith fy nwyn drosodd i'm gwlad a'm tref enedigol, ac i'r tŷ lle'm ganed, ac wrth gerdded rhwng yr hen olygfeydd, y mae fy nghân, "O give me back my childhood's dreams" yn toddi fy enaid i ddagrau. (Y flwyddyn ddiweddaf gyrrais i'r trigiannydd presennol fy narlun, ac yn ysgrifenedig arno, "Ganwyd fi yn yr ystafell hon, Mai 2iain, 1841—Joseph Parry.") Gadawaf fy mhriod a'm dau blentyn yn Danville. Yn New York cyfarfyddaf â brenin fy nghyfeillion dirif, amhrisiadwy, a byth-gofiadwy, sef John Griffiths, "Y Gohebydd," yr hwn, wedi gwylio fy llwyddiant yn Abertawe a Llandudno, fyn gael allan drwy'm cyfeillion hanes fy hynt a'm gorchwyl. Dargenfydd fy mod eto yn y Rolling Mills (yn rolio gini y nos o chwech hyd un o'r gloch), ac ysgrifenna gyfres o lythyrau hirion i'r "Faner." Moriwn yn yr agerlong The City of Washington (yr hon a groesa'r Werydd mewn deuddeg diwmod). Wedi cyrraedd Cymru awn i'r eisteddfod, ac er ein dirfawr syndod deallwn nad oes yr un o'm cyfansoddiadau yn y rhestr a dderbyniwyd gan y beimiaid. Cymerir mesurau yn union i'w holrhain yn y Dead Letter Office, yma ac yn America, ond i ddim pwrpas. (Pa le y maent? pwy a'u medd? ac i ba amcan? Cwestiynau na atebir byth mohonynt). Gwneir y ffeithiau hyn yn hysbys yn yr Eisteddfod, a thrwy'r papurau. Fy motett (buddugol yn Abertawe) yw'r prif-ddam corawl. Gofynnir i mi eistedd gyda'r beirniaid, ac felly y clywais fy nghorawd am y tro cyntaf. Am y waith gyntaf hefyd caf weld, cyfarfod, a siarad â Ieuan Gwyllt, Ambrose Lloyd, Gwilym Gwent, John Thomas (Blaenanerch), John Thomas (Pencerdd Gwalia), Alaw Ddu, Emlyn Evans, Tanymarian, a Rheithor Castellnedd, yr hwn wna i mi wrido wrth fy nghyflwyno i'r dorf anferth, a thywallt ei foliant drosof. Cymerir fi i'r "orsedd," a dwbir fi'n sydyn yn Pencerdd America ganPencerddGwalia. Y mae ysgrifau'r "Gohebydd" yn y "Faner" wedi dylanwadu ar Gyngor yr Eisteddfod Genedlaethol i'w cael i gynnyg i mi ddwy flynedd o addysg dan Dr. Evan Davies, Abertawe, ac yn y Royal Academy yn Llundain—i gychwyn yn union. Derbyniaf y fath gynnyg mawrfrydig gyda diolchgarwch, a chaniateir i mi ddychwelyd adref at fy nheulu a dod yn ol y flwyddyn nesaf, 1866.

Un o gyfansoddiadau Aberystwyth yw "Ar don o flaen gwyntoedd"; nid oes gennyf gopi ohoni, ond yr wyf yn ei chopio'n union o'm cof, ac yn ei gwerthu i Mri. Hughes a'i Fab, Wrecsam, am 500 o gopiau, ac yn teimlo'n llawen oblegid y fargen fawr! Y mae copiau gennyf o'r gweddill ddanfonwyd i mewn. Am yr "Ar don" arall, a elwir "Gwaredigaeth," enilla hi'r wobr yn Eisteddfod Hyde Park, ar gyfer yr hon yn wir yr ysgrifennais yr un fwy adnabyddus— cenir y ddwy yn America.

Y mae fy nhri chyfaill a minnau'n cynnal cyfres o gyngherddau yng Nghymru, a gwneir y rhaglenni i fyny o ddetholiadau o'm Canigau, Rhanganau, a Chaneuon i fy hun.

Ym Medi dychwelwn adref ar yr agerlong City of New York, ar fôr garw iawn gan chwythiad y gwyntoedd cyhydnosol (equinoctial) am 56 awr, fel y bu rhaid atgyweirio'r llong wedi cyrraedd New York. Wedi cyrraedd, af yn ol at fy ngwaith hyd ddiwedd y flwyddyn.

Mor gerddorol yw eich stŵr, felinau, i mi; siffrwd eich sidellau aruthr, mydr eich peiriannau a'ch olwynwaith: y mae hyd yn oed fflachiadau eich troellau'n arddunol yn fy ngolwg; oblegid yn gymysg â chwi, ac yng nghlwm wrthych y mae fy holl gyfansoddiadau hyd ein hymwahaniad y flwyddyn hon. O! mor dda y cofiaf gyfansoddi fy Nhonau, Caneuon, Rhanganau, Canigau, Anthemau, Corawdau, a hyd yn oed fy Fugues—dygwyd hwy oll i fod yn eich cwmni chwi, sef y Motett, "Ar Don," "Ffarwel i ti, Gymru fad," etc.— ganwyd hwy yn sŵn eich miwsig chwi. Yr wyf yn cael fy hunan yn gweithio allan rai o'r rhannau mwyaf cymhleth â sialc gyda'r llawr haearn yn lle blackboard; ac yn defnyddio amser gorffwys i redeg adref i'n tŷ yn ymyl i'w copio, nes i mi glywed eich peiriannau'n mynd drachefn.

Dyma'n ddiau'r amser prawf dwysaf i iechyd, gyda'i lafurwaith corfforol caled ar y naill law, ac ar y llaw arall efrydiaeth gyson i weithio allan ymarferiadau Cherubini ac Albrechtsburger ar Wrthbwynt a Fugue o mor bell yn ol ag 1862, fel y dengys rhestr y flwyddyn.

Bu Nadolig y flwyddyn hon yn gyswllt mawr ar daith bywyd. Yr wyf yn beimiadu yn Eisteddfod Youngstown, Ohio; ffurfir pwyllgor pwysig mewn cysylltiad â'r Eisteddfod; y mae y "Gohebydd " yn bresennol; cyhoeddir a gwasgerir cylchlythyrau; apwyntir Parry Fund Committee cenedlaethol; gyrrir diolch i Gyngor yr Eisteddfod Genedlaethol am ei gynnyg haelionus i'm haddysgu, gan ddywedyd ar yr un pryd y gwna Cymry America ymgymeryd â'r holl fudiad. Cyfarwyddir fi i ymneilltuo oddiwrth fy ngwaith blaenorol, gan osod terfyn felly ar fy nghysylltiad â'r gwaith haearn. Fel hyn y dygir i ben y drydedd olygfa bwysig yn nrama fy mywyd. Yr wyf yn ofni methu yn fawr.




Ni ddywed air am y cyfnod o 1854 hyd 1858; un o gyfnodau mwyaf derbyngar bywyd. Yr oll a ddywed Mr. Levi yw: "Wedi symud i America, ni chododd un wawr am fanteision addysg i Joseph Parry am flynyddoedd. Dilynai ei orchwyl yn y felin wrth y rolls yn ffyddlon, heb ddim cyfleusterau i efrydu." Yna, fel Parry ei hunan, pasia ymlaen at 1858, a Mr. J. Abel Jones.[1] Yn ol un hanes, " ymbiliodd " ar i Mr. John Abel Jones roddi gwersi iddo mewn cerddoriaeth; ond dywed ef ei hun, mai ar ddymuniad Mr. Jones yr ymunodd â dosbarth a gychwynasai ynglŷn â'r gweithfeydd haearn yn Danville. Yn y "Cerddor Cymreig" am Mawrth, 1869, mewn llythyr o'i eiddo i Mynorydd, fe ddywed, "Ffurfiodd Mr. Jones ddosbarth o wŷr ieuainc perthynol i'r Rolling Mills, ac ar ei ddymuniad ef ymunais â. hwynt. Dysgodd i mi ddarllen caniadaeth, trawsgyweiriad, etc., a chychwynnodd fi mewn cynghanedd. Pan ddechreuais y rhan hon o'r gwaith cymerodd Mr. Price fi ato, ac a ddysgodd i mi gynghanedd a chyfansoddiant." Dwg yr un dystiolaeth mewn llythyr diolch o'i eiddo yn y bennod nesaf.

Ar ol tair blynedd o astudiaeth, yr oedd yn rhaid iddo yn awr fel Cymro dreio'i ffawd a'i fedr mewn cystadleuaeth eisteddfodol. Yn hyn bu yn dra llwyddiannus y tuhwnt i neb o'i frodyr, pa un bynnag a yw popeth a ddywed yr arwr-addolwr amdano yn wir ai peidio. O leiaf, nid rhaid i'w hanes wrth ormodiaith y gwr hwn, fel nad rhaid i Arthur wrth ffyn baglau. Dywedir—yn wir, dywed ef ei hun—na chollodd wobr erioed mewn cystadleuaeth. Digon posibl: eto dim ond y meddwl cystadleuol amrwd, yn gwneuthur "coronau o ddail crinion" yn achlysur bost fyddai'n cysylltu llawer o bwys â hyn. Clod amheus iawn ydyw. Nid athrylith yn aml sy'n llwyddo yn y busnes hwn. Byddai'n dda gennym pe buasai rhai hyd yn oed o'i weithiau borëol yn ddigon newydd a gwreiddiol i golli'r wobr. Dyna hanes athrylith wir erioed, er i'r beirniaid fod y blaenaf yn eu hoes. Buasai Weber yn cyhoeddi "Eroica" Beethoven yn anheilwng o wobr, ac nid heb gryn betruster—ar y cyntaf—y rhoddasai Beethoven wobr i Schubert. Ni wobrwyasid Berlioz gan Cherubini, na hyd yn oed gan Mendelssohn, ag eithrio'i "ganeuon." Ym myd llên meddylier am y fath dderbyniad gafodd Robert Browning a George Meredith.

Enillodd ei wobr gyntaf yn Eisteddfod Danville, Nadolig, 1860, fel y dywed; a'i ail yn Eisteddfod bwysicach Utica y flwyddyn ddilynol, pan orchfygodd ei feirniad yn Danville, ac ennyn ei ddigllonedd. Yn wir, gorwedd gwerth pennaf ei wobr gyntaf a'i ail yn y ffaith iddynt greu cynnwrf mawr o'i gylch, ac i'r rhai a ymosodai ar ei feirniad am wobrwyo un mor ieuanc, alw sylw ei gydwladwyr ato, a'u symbylu i drefnu ffordd i roddi iddo chwech wythnos o addysg mewn ysgol haf gerddorol yn Geneseo, New York, yn y flwyddyn 1861; lle y daeth dan athrawon medrus, ac i gyffyrddiad â chyfeillion megis P. P. Bliss a Madam Antoinette Stirling, fu o fantais a symbyliad pellach iddo. Cychwynasid yr ysgol dan yr enw "Normal Academy of Music " yr haf blaenorol ym misoedd Gorffennaf ac Awst, dan yr athrawon Perkins, Cook, Bassini, ac eraill. Yr oedd y manteision a gynhygid mewn addysg a disgyblaeth gerddorol yn eithriadol, ac nid rhyfedd eu bod yn ffurfio prif ganolbwnc diddordeb pobol gerddgar y wlad. Y'n ei ddyddlyfr am 1861 ysgrifenna Bliss "Summer at Geneseo, New York, T. E. Perkins, T. J. Cook, Pzchowski, faculty this season." Priodolai Bliss ei fedr fel datganydd yn bennaf i'r ddisgyblaeth wyddonol a dderbyniodd dan Bassini—ffugenw Parry, gyda llaw, yng nghystadleuaeth y deuawd yn Abertawe—a diau y teimlai yn ei ddadleuon â Garcia yn yr R.A.M. fod Bassini y tu cefn iddo. Eto anodd gweld fod eisiau fund gyhoeddus i'w alluogi i fynd i'r academi honno, canys deg doler ar hugain yn unig a farnai Bliss yn ddigon i'w gynnal—y rhai a gafodd gan ei famgu o ryw hen hosan gêl oedd ganddi. Nid hir y byddai'r melinau oedd yn "rolio gini'r nos" cyn gwneuthur y swm hwn i fyny.

Ar ol y tymor byr ond effeithiol a thrylwyr hwn o addysg, a chryn dipyn o ymarferiad pellach yn 1862, mentrodd Parry i faes cystadleuaeth yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghymru "i ymladd â hen geiliogod," chwedl Gwilym Gwent—a'u gorchfygu hefyd, yn neilltuol mewn rhan o'r maes. Yn ol yr hanes yn y "Cerddor Cymreig," ymddengys ei fod yn rhagori yn nhiriogaeth yr Anthem a'r Fotett yn fwy na chyda'r Ganig a'r Dôn. Allan o saith gwobr am gyfansoddi yn Eisteddfod Abertawe, 1863, enillodd ef ddwy, sef am Fotett a thair Canig, tra y rhannwyd y wobr am y Dôn Gynulleidfaol oreu rhyngddo ef a David Lewis, Llanrhystyd, ac am y Deuawd goreu, rhyngddo ef a Gwilym Gwent. Dywedir am ei Fotett ei bod yn "dra rhagorol "; ond dyma ddywed Ieuan Gwyllt ar y "Tair Canig"— 'Y tair canig oreu o eiddo yr un awdur yw eiddo 'Hoffwr Amrywiaeth'; ond os detholwn y tair canig oreu o'r holl gyfansoddiadau sydd yn y gystadleuaeth y maent yn sefyll fel y canlyn: 1, Hoffwr Amrywiaeth, Rhif 1 (J. Parry); 2, Davy (J. Thomas); 3, Hoffwr Amrywiaeth, Rhif 3; Emest Augustus, Rhif 1 (Gwilym Gwent)." Yn hynod iawn, yn y gystadleuaeth am y Chwech Alaw Gymreig oreu, nid y chwech goreu at ei gilydd o eiddo'r un awdur a wobrwywyd, ond tair o eiddo Gwilym Gwent, dwy o eiddo D. Lewis, ac un gan John Thomas, a hynny, er fod y beimiaid yr un ag ar y Canigau a geiriad y testun yn gyffelyb, sef, am y Tair Canig oreu (nid goreu); am y Chwech Alaw Gymreig oreu (nid goreu}. Rhoddasai Ieuan Gwyllt y wobr am y Deuawd goreu i Gwilym Gwent am ei fod yn well drwyddi; ond yr oedd mwyafrif y beimiaid yn ffafr ei rhannu.

Yn Eisteddfod Llandudno, y flwyddyn ddilynol, ef enillodd ar yr Anthem (gwobr gyntaf a'r ail), y Ganig, y Rhangan a'r Canon. Enillwyd ar y ddwy Dôn Gynulleidfaol gan J. Thomas a D. Lewis. Dywedai y beimiaid am anthemau Parry, eu bod "yn ymddyrchu'n annhraethol uwchlaw y lleill i gyd, fel nad oedd ganddynt y petruster lleiaf i'w ddyfarnu'n oreu."

Ni chyrhaeddodd ei gyfansoddiadau ar gyfer Eisteddfod Aberystwyth (1865) ddwylo yr ysgrifennydd o gwbl, fel y gwyddis; ond yng Nghaerlleon y flwyddyn ddilynol[2] terfynodd â choronodd ei yrfa gystadleuol â Chantawd, "Y Mab Afradlon," am yr hon y dywedai y beirniaid ei bod " y cyfansoddiad goreu o lawer a anfonwyd i unrhyw Eisteddfod yn eu cof hwynt."

Gyda golwg ar gyfansoddiadau Aberystwyth, y mae'n amlwg nad oedd gan Parry mor ddiweddar a 1902 unrhyw wybodaeth na thyb bendant beth ddaeth ohonynt. Y dyb fwyaf cyffredin a barnu wrth ei fywgraffiadau yw iddynt syrthio i ddwylo rhywrai a genfigennai at ei Iwyddiant, a cheisio ei rwystro. Ond pwy, tybed, fyddai'n debyg o genfigennu at ei Iwyddiant ond ei gyd-gystadleuwyr, yn neilltuol y rhai oedd yn llwyddiannus yn flaenorol? A phwy oedd y rheiny? Gwilym Gwent, John Thomas, a David Lewis—y tri diniweitiaf, yn ddiau, ar y ddaear! A sut y daethant o hyd i'r cyfansoddiadau?

Llai ffôl yn sicr y ffansi i bysg y gorddyfnderau, ymhell islaw'r don a'r gwyntoedd, gael cyfle i synnu ac ymholi uwchben dieithrwch y fath gampweithiau cymhleth o nodau, a chrychnodau, a gogrychnodau, megis y gwna Hardy iddynt ymholi ym mharlyrau'r Titanic:

Dim moon-eyed fishes near
The daintily gilded gear
Gare querying " What does all this
Sumptuousness down here? "

Dengys ei hanes pellach inni mai y fantais bennaf a ddaeth iddo o'r cystadlu hyn oedd iddo nid yn gymaint ennill gwobrau, ond ennill sylw personau o ddylanwad fel y "Gohebydd," a'r Parch. Thos. Levi, a gwŷr blaenllaw'r eisteddfod mewn llên a chân, a'u galw at ei gilydd i bartoi ei ffordd at fanteision cerddorol mwy nag a gawsai. Rhaid inni hefyd roddi iddo yntau y clod a deilynganid yn unig fel cerddor ieuanc o allu a diwydrwydd, ond fel dyn ieuanc o fenter a challineb i weld ac i gymryd y ffordd a'i cynhygiai ei hun iddo i ddisgyblaeth uwch a bywyd llydanach, gan adael byd bach cystadlu am byth o'i ol.

Yn ol rhai o'i fywgraffwyr gadawodd y gwaith haearn i weithredu fel organnydd eglwys wedi gorffen ei dymor yn ysgol haf 1861. Nid cywir hyn, yn ol ei lythyi* i Ieuan Gwyllt yn 1864 (gwêl. y " Cerddor Gymreig " am Medi). Yn y llythyr dywed: "Oddiwrth yr hyn a ddywedwch yn y "Cerddor," ymddengys eich bod yn tybied mai organnydd ydwyf, ac nid gweithiwr. Ond y gwirionedd ydyw, yr wyf yn mynd ar dair ar hugain oed, ac yn gweithio yn galed bob dydd mewn Rail Mill; ac felly nad oes gennyf lawer o amser nac arian wrth fy llaw."

Yn ddiweddarach, fodd bynnag, gallwn gasglu iddo gael ei apwyntio'n organnydd eglwys yn Danville yn 1866, canys darllenwn yn y "Cerddor Cymreig" am Chwefror, 1869: "O'r diwedd, tua thair blynedd yn ol, cafodd le fel organnydd mewn eglwys Bresbyteraidd; ac o hynny allan rhoddodd i fyny weithio haearn." Gan fod Parry yn ei lythyr at Mynorydd—a ddyfynnwyd eisoes—yn cywiro rhannau o'r ysgrif hon, heb awgrymu fod yr hanes hwn amdano fel organnydd yn anghywir, diau y gallwn ei gymryd fel un cywir. Os felly, cafodd ei gyflogi'n organnydd tua'r un adeg ag y rhoddodd i fyny weithio yn y melinau, neu'n fuan wedyn; ond nid yw'r dyfyniad uchod yn gywir mai cael swydd fel organnydd oedd yr achos. Yr oedd, bid siwr, yn canu ei offeryn bach ei hun, medd ef, cyn hyn—yn y gwahanol gyfarfodydd yn ei gapel ei hun.[3]

Nodiadau[golygu]

  1. Dywed "Y Gerddorfa" am Ragfyr, 1873 am Mr. John Abel Jones ei fod yn "un o'r Cymry mwyaf adnabyddus yn Pittsburgh." Efe oedd yn athro cerddoriaeth yn ysgolion cyhoeddus y dref; ac ef a ddewiswyd i ganu y solos ar agoriad cynhadledd fawr y milwyr a'r morwyr.
    Yr oedd yn werinwr selog, a phan deithiai ef a'i gantorion mewn cerbyd ar adeg etholiad, tarawyd ef ar ei wegil gan briddfaen, yr hyn achosodd ei farwolaeth.
    Dywed Asaph Glyn Ebwy amdano ("Cerddor" Medi, 1894) mai ef enillodd y wobr ar y Solo Bass yn Eisteddfod y "Swan," Ystalyfera, yn 1859, er fod Mr. Silas Evans yn cystadlu.
    Yr oedd yn gefnder i'r Parch. D. Jones, B. A., Merthyr. Nid oedd Mr. J. M. Price mor amlwg, ond gweithiai'n ddyfnach.
  2. Dyna ddywed ef yn ei Hunangofiant; ond yn ol Mr. D. Jenkins enillodd ar y Ganig, "Rhosyn yr Haf" y flwyddyn ddilynol (1867) yn America.
  3. Yn y bennod nesaf cyfeiria Parry at ddeuddeng (12) mlynedd fel organnydd yr Eglwys Bresbyteraidd, ond rhaid mai gwall yw hyn, ac fod yr "1" wedi llithro i mewn drwy ryw lapsus. Byddai gwneuthur yr amser yn ddwy (2) flynedd ar y cyfan yn cydgordio â'r uchod.