Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903)/Cerddoriaeth Cenedl a Chenhedlaeth
← Yr Ysgub Olaf | Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903) gan Evan Keri Evans |
Lle Dr. Parry yn Natblygiad Cerddoriaeth Gymreig → |
XXV. Cerddoriaeth Cenedl a Chenhedlaeth.
Y MAE i gerddor berthynas â'i genedl ac a'i genhedlaeth, a bydd yn help i'r darllenydd ieuanc i gael syniad gweddol gywir am y berthynas hon, i allu prisio'n iawn yr hyn a ddywed y beirniaid am Parry fel cerddor.
Cydnabyddir yn dra chyffredinol heddyw fod gan bob cenedl hawl i ddatblygu ei bywyd goreu ei hunan yn ei ffordd ei hunan (yn gyson â hawliau cenhedloedd eraill wrth gwrs), ac mai dyna'r unig ffordd i'w ddatblygu. Odditan hyn gorwedd y ragdyb fod i genedl ei hanianawd a'i hathrylith arbennig ei hunan, ac felly ei swyddogaeth benodol yn y cyfan; ac y bydd yn gwasanaethu'r cyfan yn gystal a hi ei hun, nid trwy anwybyddu ac esgeuluso ei nodweddion cenedlaethol, ond drwy eu pwysleisio a'u datblygu nid unffurfiaeth a rydd yr unoliaeth cyfoethocaf.
Nid felly y mae wedi bod yn ystod cyfnodau hir a blin teyrnasiad grym ni chydnabyddid hawliau cenedl i hyn mwy nag eiddo'r unigolyn; gwneid pob ymdrech i ddarostwng ei huchelgais cenedlaethol, ac i fathru allan ei nodweddion. Gwir i ddiwylliant y gorchfygedig rai prydiau ennill gwrogaeth y gorchfygwr, ond nid yn aml. Ac nid felly y bu yng Nghymru. Hyd yn oed heddyw, fel yr awgryma Dr. Protheroe, y mae yna duedd yn y Cymro i leoli cartref y safonau yn Llundain—safon perffeithrwydd cerddorol yn eu plith. Eto pan eir yno ceir ei fod wedi ei symud i'r Cyfandir—cyn y rhyfel mawr o leiaf. Pascal, onide, a ddeffiniodd yr Anherfynol, fel un sydd â'i ganolbwnc ym mhobman, a'i amgylchedd ddim yn unman. Wel, gwybydded y cerddor ieuanc fod safon perffeithrwydd ym mhobman, am nad yw mewn un man, na Llundain, na Pharis, na Berlin, ond yn yr uwchleol; ac mai ei waith ef yw mynegi'r ysbrydoliaeth a ddaw iddo ef oddiyno, heb fynd yn slâf i amser na lle.
Yr oedd Parry byth a beunydd yn pwysleisio hyn, yn ei anerchiadau yn gystal ag yn ei ysgrifau: maentumiai fod yna yr hyn a alwai yn germ o athrylith gerddorol nodweddiadol Gymreig yr awyddai ei ddatblygu a ffurfio arddull ac ysgol Gymreig; a phan gyhuddodd "Zetus" ef yn 1890 o fod wedi oedi'n hir cyn galw sylw at hyn, yr oedd yn alluog i dystio ei fod wedi cyfeirio at y peth ar hyd y blynyddoedd. Da gennym fod ein prif gerddorion presennol yn galw sylw at yr un peth.[1]
Eto y mae yn gwestiwn a fu Parry yn ffyddlon i'w weledigaeth yn ei gyfansoddiadau, neu pa mor ffyddlon y bu. Gyda'i ardymheredd hylifol, ei duedd oedd mynd yn ormodol dan lywodraeth awduron eraill; yn ol Mr. Jenkins meddiennid ef braidd yn gyfangwbl gan ryw awdur oedd yn eilun am y tro, yn awr Mendelssohn, wedyn Rossini, ac yna Wagner. Nid mater ydyw, bid siwr, o beidio astudio awduron eraill, dysgu ganddynt, a hyd yn oed sugno ysbrydoliaeth ohonynt, ond o beidio cymryd ein meddiannu ganddynt fel ag i'w heilfyddu a'u hatgynhyrchu'n slafaidd. Ni ellir pwysleisio'n ormodol nac yn rhy aml y rhaid geni pethau byw—nid pethau "o waith llaw" neu "wneuthur" mohonynt. Yn ddeallol yr oedd Parry'n hollol glir ar y pwnc,—lle, er enghraifft y dywed: "Ni wna unrhyw gymaint o wybodaeth ddyn yn athrylithgar, eithr rhaid i'r athrylithgar wrth wybodaeth." Ond yn ymarferol ni ddihangodd rhag y perigl. Yn ol Mr. Price ysgrifennodd ei bethau mwyaf byw, a'r pethau sydd yn debyg o fyw, pan yn rhydd o'r gorthrwm tramor. Gwel y darllenydd gyfeiriadau pellach at hyn yn yr ysgrifau sydd yn dilyn. Ond y mae yna wahaniaethau mewn amser yn gystal ag mewn lle ac anian. "Un genhedlaeth a ä, a chenhedlaeth arall a ddaw," a chenadwri wahanol er i'r anianawd genedlaethol bara'r un. Perigl yr ieuanc yw addoli delfrydau ei oes ei hun a dibrisio'r hyn a fu. Iddo ef y mae Moderniaeth yn safonol, a chanddo allu i godi neu ynteu i fwrw i lawr; lle na chaiff achub y mae'n damnio. O brin y cydnabyddir mawrion y gorffennol hyd yn oed fel arloeswyr, gan gymaint rhuthr a dirmyg y condemniad. Bid siwr, nid yw cerddorion ieuainc mor anghyson a'r diwinyddion ieuainc rai blynyddoedd yn ol, a gondemniai ddiwinyddiaeth y gorffennol yn ei chrynswth er pwysleisio ohonynt Fewnfodaeth Duw yr un pryd! Ni raid i'r cerddorion ieuainc wrth syniad felly am Dduw, eto dylasent hwy weld mai o brin y mae gan y don hawl i farnu a chondemnio'r môr y cyfyd ohono, er iddi fod yn don gribwen.
Ond nid arloeswyr yn unig mo wroniaid y gorffennol, ond meistri; ffurfiant uchafbwyntiau hanes eu hoes nas diorseddir gan yr oesoedd dilynol. Y geudeb syniadol rhwydd sy'n gwneuthur unffurfiaeth yn ddelfryd sy'n cyfrif am y duedd i edrych ar bob oes fel yn is-wasanaethgar i'r rhai dilynol, yn hytrach nac fel un sy'n meddu ystyr, a swyddogaeth, a pherffeithrwydd o'i heiddo ei hun. Gall fod yna gyfnodau o ddirywiad, mae'n wir; a gellir edrych ar aml i gyfnod o adweithiad fel y pantle rhwng dwy don. Arferai Carlyle bwysleisio fod oes o weithgarwch mawr yn cael ei dilyn gan oes o feddylgarwch; gallasai ychwanegu y dilynir honno'n aml gan oes o anfeddylgarwch.[2]
Ond am gyfnodau creol, y mae ganddynt hwy waith ac ysbrydoliaeth sydd i fesur yn annibynnol ar orffennol a dyfodol; arhosant fel mynegiadau o'r tragwyddol ym myd amser a lle. Ni chredaf y breuddwydia athronwyr y byd am allu mynd y tu hwnt i Plato ac Aristotle mewn rhai cyfeiriadau; na'i ddramodwyr ychwaith am allu rhagori ar Shakespeare ond mewn ail bethau. Y mae'r un peth yn wir yn nhiriogaeth arluniaeth, cerfluniaeth, ac adeiladaeth. Ac yng nghanol baldordd addolwyr Moderniaeth y dyddiau hyn, i'r rhai y mae Beethoven out-of-date, a haul Wagner hyd yn oed ar fynd i lawr, da gennym gael y dystiolaeth ddoeth a threiddgar a ganlyn gan Dr. Vaughan Williams:
I find that among the musicians of the younger generation Beethoven does not hold the same place as he did to those of us who were young men in the "nineties." Perhaps this is natural. The "sublimity" which a past generation admired in the middle period of Beethoven seems to date it at once as early nineteenth century—a period with which the younger generation is out of sympathy. But doubtless time will bring its revenges; and even now those who are voluble in their criticism of the early and middle Beethoven are dumb before such things as the Ninth Symphony, the Mass in D, and the C Sharp Minor Quartet. These works belong to no period; they seem not to be the product of any individual intelligence, but to be the manifestations of something which has existed from the beginning of time, and whose materialization in the early nineteenth century is purely accidental.
Yn ol hyn nid yw creadigaethau arhosol yn perthyn i un oes ond i'r oesoedd; y mae eu cysylltiad â chyfnod neilltuol yn ddigwyddiadol yn yr ystyr nad ydynt yn codi ohono yn gymaint ag yn dyfod iddo; ac wedi dod y mae eu arhosiad yn annibynnol ar dreigl amser, ac yn dal ar waethaf llawer oes arwynebol a gwageddus. Yn yr un modd y dywedai Cherubini am Beethoven ei fod wedi cyfansoddi ar gyfer amser i gyd; ac fe gofiwn ddywediad Beethoven ei hun fod gwir gelfyddyd yn anfarwol.
Nid yw creadigaethau gwir, na'u creawdwyr yn aml—yn wir, fel rheol—yn cael eu iawn werthfawrogi gan eu hoes eu hun, a hynny am eu bod yn gosod safon newydd i lawr, ac yn gofyn cyfaddasiad newydd yn y farn, na ellir ei sicrhau heb ryw gymaint o amser. Y Deon Swift, onide, a ganodd
Some say that Signor Bononcini
Compared to Handel is a ninny;
While others vow that to him Handel
Is hardly fit to hold a candle;
Strange that such difference should be
Twixt tweedledum and tweedledee.
Yn yr un modd gosodai llu o'r Parisiaid Piccini uwchlaw Gluck, ac ni welsant fawredd Berlioz o gwbl. Ac nid yw oesoedd dilynol, rai ohonynt, lawer callach; fel nad yw hanes campweithiau arhosol ond cyffelyb i hanes mynydd— oedd daear—heddyw yn y cwmwl tew yng nghudd ac yn anghof, ac fel heb fod, ond wele! yfory, dangosant eu bod ar eu gwadnau o hyd, a'u coryn yn y glesni fel cynt!
Y mae ein hoes ni yn oes o ferw, a chwyldro, a rhysedd—rhysedd dychymyg yn gystal a rhysedd bywyd. Y mae ei beirdd a'i cherddorion a'i harlunwyr fel darganfyddwyr mentrus yn gwthio i foroedd dieithr na fapiwyd mohonynt o'r blaen. Disgrifiant arweddion newydd ar fywyd a phrofiad, a cheisiant gyfuniadau rhyfeddol yn eu creadigaethau. Gwell yr afluniaidd na'r hen; y pechod mawr yw bod yn rheolaidd; ond taro'r dychymyg gellir bod yn baganaidd yn anferth—yn anghenfilaidd! Diau fod yna lawer o gelfwaith gwir, ond mor wir a hynny y mae yna lawer o ffrwyth myfiaeth ronc, wrthwynebol i'r gwir; a gall ein cyfeillion ieuainc fod yn sicr, beth bynnag yw barn yr oes, nad oes yna le i'r myfiol a'r aflan, i'r afluniaidd a'r gwag ym myd gwirionedd a pherffeithrwydd. Cyhyd ag y bo uchelgais a menter yn bod mewn dyn, diau y bydd iddo geisio gwneuthur llwybrau newydd i diroedd disathr, mewn gwyddor a chelfyddyd mewn moes a chrefydd; y cwestiwn yw, a fydd yn cymryd ei ysgogi gan ysbrydiaeth gnawdol oddi isod, neu ynteu gan ysbrydoliaeth ddwyfol oddi uchod. Mewn cyfnodau o orlawnder bywiowgrwydd a nwyfiant, blagura'r dychymyg mewn helaethrwydd amrywiol; ond nid yw wmredd o'r blagur ar y goreu ond math ar arbrawf (experiment)—syrth y mwyafrif mawr i'r ddaear, ac ni welir mohono mwy. Diau fod gan y Meddwl Tragwyddol lawer o feddyliau eto i'w datguddio i ddyn, a llawer i fynegiant o'r Prydferthwch Gwir i'w atgynhyrchu ganddo; ond y mae ganddo hefyd ei ddeddf sy'n "chwalu'r gwael a chwilio'r gwell." Gosododd ddeddf ac nis troseddir hi." Maentumia Arglwydd Inverforth y bydd i "holl eudebau a damcaniaethau gwylltion meddyliau chwyldroadol ddryllio yn y diwedd ar graig Ffaith ddiwydiannol"; ac y mae'r un peth yn wir am berthynas creadigaethau gwyllt ac anferth yr oes a Ffaith y Prydferthwch Gwir. Gwyddom fod cywion pob oes yn crawcian yn hunan-foddhaol gan edrych i lawr ar weithiau'r tadau—a dyna dynged Joseph Parry; ond yr ateb iddynt yw "Hear the roll of the ages—nid y chwi na'ch oes sydd i farnu: gosodir chwi ac yntau gerbron yr un orseddfainc barn."
"Henffasiwn!" meddai'r Arglwydd Shaw yn ei "Letters to Isabel," pan yn sôn am grefydd ei dadau wrth ei ferch. Ond, fy anwylyd, y mae yna ddau beth oddeutu'r ffydd hon: y mae'n gwisgo'n dda, ac yn awr y treial ni phall."
Nodiadau
[golygu]- ↑ Fel y gwnaeth Dr. Vaughan Thomas yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddiweddaf.
- ↑ Dygodd cwrs o ddarllen i gyfeiriad neilltuol "History of European Morals (Lecky) ar ol seibiant maith ar y silff-i'm dwylo'n ddiweddar, a chefais fy hun un dydd yn darllen a ganlyn: "The age of genius had closed, and the age of pedantry had succeeded it. Minute, curious, and fastidious verbal criticism of the great writers of the past was the chief occupation of the scholar, and the whole tone of his mind had become retrospective, and even archaic. Ennius was esteemed a greater poet than Virgil, and Cato a greater prose writer than Cicero. It was the affectation of some to tesselate their conversation with antiquated and obsolete words. The study of etymologies had risen into great favour, and curious questions of grammar and pronunciation were ardently debated."