Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903)/Yr Ysgub Olaf
← Dinas y Llyn Halen | Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903) gan Evan Keri Evans |
Cerddoriaeth Cenedl a Chenhedlaeth → |
XXIV. "Yr Ysgub Olaf."[1]
"CAMBRIA," "CERIDWEN," "KING ARTHUR," "His
WORSHIP THE MAYOR," "BRONWEN (Y FERCH O'R SCER),"
"THE MAID OF CEFN YDFA," "JESUS OF NAZARETH."
RWY'N cofio morio, un hwyrddydd haf, ar un o lynnoedd yr Alban, a gweld y mynyddoedd rhyngom a machlud haul yn ymgodi gyda'i gilydd, y tu cefn i'w gilydd, uwchlaw ei gilydd, gan roddi i'r edrychydd yr argraff o amlder o arucheledd, mawr, amryw," ardderchowgrwydd—yn ychwanegol at y teimladau arferol a ddwg machlud haul, gyda'i
Lif o ogoniant yma,
Llif cyfoethocach draw.
Dyna paham y gosodir y teitlau uchod gyda'i gilydd uwchben y bennod hon, am y dymunwn gynhyrchu argraff cyffelyb ym meddwl y darllenydd yn yr olwg ar y gyfres ryfeddol hon o weithiau—mawrion i gyd, er yn fwy a llai. Yr ydym wedi cael ein synnu eisoes gan doreithter cynhyrchiol Parry, ond cynhydda'n syndod yn awr pan gofiom fod yr awdur erbyn hyn tua thrigain oed. Gwir fod awduron cerddorol eraill wedi cyfansoddi rhai o'u prif weithiau wedi pasio canol oed, a hyd yn oed eu trigain oed, a rhai eu trigain a deg, ond nid yn aml gyda'r fath doreithter a hyn, llai fyth gyda thoreithter[2] cynhyddol fel mae'r blynyddoedd yn pasio. Er i Haydn gyfansoddi ei "Greadigaeth" pan o drigain a phedair i drigain a chwech oed, eto cwyna fod meddylddrychau unwaith yn ei geisio ef, ond ei fod ef yn awr yn gorfod eu ceisio hwy. Hyd yn oed mor ddiweddar a dechreu 1903 cawn Parry yn llawenhau—fel "cawr i redeg gyrfa"—am fod Mr. Bennett wedi addaw libretto arall iddo, ac felly wedi rhoddi cyfle arall i'w ymdrechion.
Ag eithrio "Cambria," ni enwir yr un o'r gweithiau hyn yn y rhestr a ddenfyn i mewn fel ymgeisydd am y swydd o Brifathro yn y Guildhall School of Music yn 1896, fel y gellir teimlo'n sicr nad oeddynt ar gael y pryd hwnnw. Ennwyd "Cambria" mewn pennod flaenorol, ond rhoddwn hi yn y fan hon am ei bod yn perthyn i driawd hanesyddol— gyda Ceridwen" a "King Arthur."
Pan alwyd Parry, wedi perfformio "Sylvia" yn 1895, i ymddangos gerbron y gynulleidfa yn y Theatre Royal, Caerdydd, cyfeiriodd at ei fwriad i ysgrifennu chwareu-gerddi'n dal perthynas â Glyndwr, Llewelyn, ac Arthur, ar linell opera'r noson honno. Gwir fod "Sylvia" 'n dal perthynas â hanes, ond chwedlonol—carwriaethol ydyw'n bennaf. Gellir dywedyd fod "Blodwen" yn dal perthynas â hanes y bedwaredd ganrif ar ddeg, ond eilradd hollol yw'r berthynas hon—yr hyn sydd yn ganolog yn y libretto yw'r nodwedd garwriaethol—filwrol, fel y gellir edrych arni fel yn perthyn i'r un dosbarth a Virginia," yr hon hefyd sydd yn garwriaethol—filwrol, er bod ei golygfeydd a'i chymeriadau'n perthyn i wlad arall. Perthyn y "Ferch o'r Scer" a'r "Ferch o Gefn Ydfa" wedyn i'r un dosbarth—dosbarth y rhamant garwriaethol. Yn yr un modd perthyn "Arianwen" a "His Worship the Mayor " yn agos i'w gilydd, er eu bod yn ymwneud â thestunau tra gwahanol, am mai yr elfen ddigrif sydd yn rhoddi eu cymeriad iddynt.
Pan berfformiwyd "Sylvia" yn 1895, diau fod partoadau ar gyfer Cambria" ar droed, ac fe ellid cysylltu y cyfeiriad at Arthur, Llewelyn, a Glyndwr yn arbennig â hi, a'r lle a gant ynddi; eto cywirach, y mae yn sicr, yw cysylltu'r cyfeiriad â bwriad ehangach o eiddo'r awdur i roddi opera i bob un ohonynt, ac iddo ddechreu'i weithio allan yn ddiweddarach gydag "Arthur a'i Farchogion." Eto perthyn y ddwy gantawd ddramayddol "Cambria" a "Ceridwen" i'r un dosbarth o weithiau "hanesyddol"—hanesyddol, hynny yw, nid yn yr ystyr o fod yn dal rhyw berthynas â hanes Cymru, ond yn yr ystyr o fod yn ymwneud â chymeriadau o faintioli cenedlaetnol, neu ddigwyddiadau oedd ar raddfa genedlaethol. Cymer "Cambria" hanes Cymru ar ei hyd yn destun—ar eiriau gan Syr Owen Edwards—ac am y rheswm hwnnw gellir edrych arni fel math ar sylfaen i'r oll, tra yr ymwna "Ceridwen "—ar eiriau gan Dyfed—â hanes Cymru yn amser y Derwyddon, ymosodiad y Rhufeiniaid, a dyfodiad Cristnogaeth. Yr un ffugr barddonol o nos a gwawr ddefnyddir gan y ddau fardd i osod allan chwyldro hanes, ond y mae eu triniaeth ddeheuig ohono'n rhoddi cyfle arbennig i'r cerddor.
Cyhoeddwyd "Cambria" a "Ceridwen" a pherfformiwyd y ddwy fel y sylwyd eisoes. Gorffennwyd yr opera "King Arthur "ar eiriau gan Elfed—yn 1900, ond nid ydyw eto wedi ei chyhoeddi na'i pherfformio. Daw i fyny â'r safon a nodwyd uchod o fod yn ymwneud â ffugr o faintioli cenedlaethol; ag eithrio hyn, y mae'n fwy chwedlonol na hanesyddol, gyda chorawdau nid yn unig i Farchogion, Gloddestwyr, Mynachod a Lleianod, a Morwynion y llys, ond hefyd i Wrachod, a Syrens, a Bodau anweledig. Y prif gymeriadau yw Arthur a Gwenhwyfar, Lancelot ac Elaine, Merlin a Vivienne.
Gwelir mynd y geiriau yn yr enghreifftiau a ganlyn, a diau fod Parry yn ei elfen yn eu hieuo â miwsig, fel yr oedd Elfed, y mae'n amlwg, wrth eu cyfansoddi:
Y Gloddestwyr:
We know where the world is merry,
We know where a man may laugh,
We are poor and thirsty—very!—
But to-day here is mead to quaff:
So here's to the knight victorious,
And here's to ourselves, say we :
May he oft return as glorious
With all of us there to see!
Good health, all round.
Y Syrens eto
(yn plethu eu gwallt gerllaw ffynnon):
Shine, shine, loverlike sun,
We our tresses plaiting;
Let the moments merrily run,
We our loves relating.
Fal, la, la, fal, la, la, la.
Flow, flow, generous fount,
Glass of charming faces;
Who can tell but a knight or count
May take us for the graces.
Fal, la, la, etc.
Bloom, bloom, flower of life,
Tho' the roses wither;
Who, alas! would be a wife,
Who would not be one either!
Fal, la, la, etc.
Ceir digon o "gysgod"—neu "wawr"—yng nghytgan
y mynachod:
For He knoweth our frame,
He remembereth that we are dust,
As for man, his days are as grass, etc.
Er mai yn 1900 y gorffennwyd yr opera, bu yn y gŵydd
am rai blynyddoedd, yn wir gryn lawer yn hwy na'r rhan
fwyaf o weithiau'r awdur; oblegid ar ddiwedd y tair
cyfrol (gydag act ymhob un) cawn a ganlyn:
Cyfrol I—Scored 27th June, 1900.
Cyfrol II—13th February, 1897; Scored 11th July, 1900.
Cyfrol III Finished Monday, p.m., 2nd January, 1899.—J.P.
The last note of the scoring finished now Saturday, 9.30 p.m. 1st September, 1900."
Gwelir wrth hyn iddi gael ei dechreu—os nad yn 1896, o leiaf yn gynnar yn 1897, ac felly ei bod yn berthynas agos i "Cambria a Ceridwen."
Yn y "Cerddor" am Mawrth, 1897, darllenwn a ganlyn: "I bobl mor wladgarol a'r Cymry, nid tebyg y bydd i hanes eu dewrion byth apelio atynt yn ofer. Er hynny, nid ydym wedi gwneuthur yn agos i'r hyn a allesid yn y cyfeiriad olaf. Y mae Talhaearn a Phencerdd Gwalia wedi canu ar 'Llewelyn,' ac Eos Bradwen ar 'Owain Glyndwr, ond ni ellir ystyried fod y naill destun na'r llall wedi ei ddihysbyddu ganddynt. Y mae J. D. Jones, hefyd, wedi bod yn ymwneud â Llys Arthur,' ond y mae Arthur ei hun yn parhau yn ei gwsg hirfaith; tra y mae Caradog a Buddug, Gruffydd ap Cynan, Syr Rhys ap Tomos, Picton, a gwroniaid lawer eraill yn aros ymddangosiad y bardd a ddaw ryw ddydd 'i roddi anadl bywyd ynddynt hwy a'u hanes." I ba raddau y llwyddodd y bardd a'r cerddor i roddi anadl bywyd yn hanes Arthur sydd gwestiwn na ellir mo'i benderfynu eto; ond y mae'n amlwg fod Parry wedi gosod ei "gorn ffraeth o saernïaeth nef," a llawer offeryn arall i'r gwaith o'i ddadebru ef, a gwroniaid eraill hanes Cymru.
Yn ei hunan—fywgraffiad dywed wrthym iddo gyfansoddi "His Worship the Mayor," a'r "Ferch o'r Scer" pan yn aros i Mr. Bennett orffen ei libretto fwy pwysig. Gwyddom eisoes mai amhosibl oedd iddo fod yn llonydd, neu wneuthur dim; ond peth newydd yn sicr, yn ei hanes ef, yw gwneuthur cyfansoddi opera neu ddwy yn fath ar ddifyrrwch oriau hamdden. Ni ryfeddem at ei waith yn troi allan nifer o ganeuon a thonau, neu hyd yn oed rangan. Ond tebyg mai anodd i'r capten llong, pan fo'r llanw wedi dod, a'r awel o'i du, ac yntau wedi lledu ei hwyliau ar gyfer mordaith bell, yw rhoddi'r fordaith bell i fyny, a rhedeg ar negeseuau gyda'r glannau, i borthladdoedd bychain yn ymyl—rhai y gallai smack eu gwneuthur lawn cystal.
Bid a fynno, pleser yw deall ei fod yn gallu "gwenu"— a chwerthin—"ar y stormydd oll," oblegid chwerthin mae'r bardd a'r cerddor ar ben y pwysigrwydd bychan sydd yn troi o gylch swyddi a swyddogion trefol yn ei opera, "His Worship the Mayor" Ar hon dywed awdur y geiriau, Mr. Arthur Mee ("Idris" y "Western Mail"): Yr oedd Dr. Parry a Mr. Lascelles Carr yn dra chyfeillgar, ac ymddengys iddynt gynllunio gwaith o'r fath rhyngddynt a'i gilydd. Yr oedd Dr. Parry'n frwdfrydig iawn yn ei gylch. Cytunwyd mai fi oedd i ysgrifennu'r telynegion, ac aelod arall o staff y 'Mail' yr ymddiddan. Cyfansoddais y penhillion, ac yr oeddynt yn dderbyniol. Gosododd Parry hwy i fiwsig, a miwsig tlws odiaeth ydoedd, yn neilltuol cân y Maer a chân y Town Clerk. Yn anffodus ni fu'r un llwydd gyda'r ymddiddan. Gadawodd y cyntaf a gymerodd at y gwaith am Lundain, a gwnaeth yr ail gawl ohono, fel ag i'n bwriad druan ddiflannu bob yn dipyn mewn mwg. Un noson acaf ddifrifol o oer a llithrig gwahoddodd Mr. Carr Dr. Parry a minnau i'w dŷ i ystyried y mater. Yr oedd yn ganol nos neu ragor pan ymadawsom, a chan fod y trên olaf wedi hen fynd, danfonodd Mr. Carr ni adref mewn cab. Yr oedd y ffyrdd fel gwydr. Disgynnodd Parry ym Mhenarth, ac euthum innau yn fy mlaen i Gaerdydd. . . . Cofiaf ofyn rhai cwestiynau i Parry ynghylch ei dôn Aberystwyth,' ond, er syndod i mi, nid ymddangosai ei fod yn gwybod sut y daeth i fod, nac yn cysylltu llawer o bwys â hi o gwbl![3] Ni wn beth ddaeth o eiriau His Worship the Mayor'—yn wir ni wnaed nemawr ddim oddigerth fy ngeiriau i—a'r miwsig wrth gwrs. Bwriadwyd y peth i fod yn fath ar skit ar fywyd dinesig, a'i arferion—dyna'i ergyd mewn ychydig eiriau."
Da gennym allu hysbysu'r telynegydd a'r darllenydd fod y geiriau a'r gerddoriaeth ar gael. Gwelir eu natur oddiwrth y penhillion a gân y Maer:
A mayor I am of high degree,
They're envious all who speak of me,
An honour surely 'tis to be
The Mayor of Slocum Podger.
Ac yna, wedi derbyn anrhydedd uwch:
Behold his majesty's command,—
The nations hear, I understand—
Proclaimed am I on every hand
Lord Mayor! Lord Mayor! Lord Mayor
Of Slocum Podger!
Diddorol sylwi mai tenor a gân y Maer, tra mai baritone yw'r Town Clerk. Y dyddiadau ar y copi yw 24th Nov., 1900 a 28th March, 1901.
Yr oedd wedi dechreu'r opera "Y Ferch o'r Scer" yn flaenorol oblegid y dyddiad ar y gyfrol gyntaf yw 17th Feb., 1900, ond yn awr y'i gorffennwyd. Y teitl ar y copi yw "Maid of Scer—Bronwen—(A Romantic Opera)." Ond er mai canolbwnc y libretto yw rhamant garwriaethol y Ferch o'r Scer, gorwedd llawer o'i diddordeb yn y disgrifiad a rydd o fywyd gwledig yr oes o'r blaen, a phe perfformid hi, byddai'n sicr o ddod yn boblogaidd ar y cyfrif hwnnw. Dwg yr act gyntaf ni i faes y cynhaeaf, lle y ceir Orchestral Rustic Harvest Dance; yr ail i'r Ffair, lle y cawn Orchestral Fair Dance; a'r drydedd i dŷ'r Briodas, llawn o Bridal Music, a Chorws y Village Bells. Y brif soprano yw'r Ferch, a Twm Ifan y prif denor; cawn ddau faritone poblogaidd yn yr Hen Ganwr Baledau, a'r Cheap Jack (â'i Buffo Song) yn y Ffair, tra y dygir Gipsy i mewn i ganu contralto.
Y dyddiadau ar ddiwedd y gyfrol olaf yw 13th Sept., 1901, ac 9th Oct., 1901.
Ni raid ychwanegu geiriau i chwyddo clodydd y pwyllgor o "gyfeillion yn wir" a gyflogodd Mr. Joseph Bennett i ysgrifennu libretto opera i Parry, a chwmni Moody-Manners i'w pherfformio—"fy mhwyllgor" fel y geilw ef gyda thinc o anwyldeb. Yn ei symlrwydd diystyr disgwyliai'r cerddor i'r bardd fod mor awyddus i gyfansoddi'r geiriau ag oedd ef ei hun i ysgrifennu'r gerddoriaeth, ac y byddai'n mynd at y gwaith yn gyntaf peth. Siomwyd ef yn hyn, ond o'r diwedd fe ddaeth y geiriau, a gorffennwyd yr opera: opera mewn tair act ar hanes adnabyddus y Ferch o Gefn Ydfa, wedi ei drin a'i drosi gan y bardd i'w wneuthur yn gyfaddas i ofynion chwareugerdd.
Cychwynna'r act gyntaf yn aelwyd Cefn Ydfa; ä'r ail â ni, drwy ddyfeisiau i wahanu'r cariadau, i'r Eisteddfod; a dwg yr olaf ni at wely marw Anne. Y mae yr opera, yn ol yr hanes, yn llawn tlysni; unawd Anne ar ei gwely angeu, yn ol un beirniad, yn un o "swyn ysbrydoledig." Y peth a'n tery hynotaf ynddi yw gwaith y cerddor yn gwneuthur i dorf yr Eisteddfod ganu "Crugybar"; dengys hyn ddiffyg barn, beth bynnag am ddiffyg chwaeth, oblegid, hyd yn oed a chaniatâu fod y dôn a'r Eisteddfod yn gydnaws â'i gilydd, a bod "Crugybar" yn bod yn amser Wil Hopkyn, pwy erioed glywodd sôn am ganu tôn yn yr hen eisteddfod? Gwir mai 'alaw' Gymreig yw Crugybar," ond yng nghysylltiadau'r opera tôn ydyw, a thôn ydyw i ni heddyw.
Cafodd Parry—yn gystal a'i gyfeillion ei fodloni'n fawr; oblegid er ei fod wedi gorffen ac arwyddnodi ei hunan-fywgraffiad ym Mai, 1902, cawn a ganlyn ar dudalen unig yn nês ymlaen:
"Ionawr, 1903: Henffych well i ti, flwyddyn arall! Yr wyf yn abl i groniclo llwyddiant mwyaf llafur fy mywyd, sef pum perfformiad o fy opera The Maid of Cefn Ydfa," gan y Moody—Manners Grand Opera Company gyda cherddorfa lawn o 110, corws, a phrif gymeriadau yn y Grand Theatre, Caerdydd, Rhagfyr 15, 1902. Yr oedd fy nghyfeillion cerddorol a'm cydwladwyr yn bresennol o bob parth o'r De, fel yr oedd y chwareudy'n llawn ymhob perfformiad, a derbyniwyd fy ngwaith, a'r canu gyda brwdfrydedd yr oedd yn llwyddiant gwirioneddol. Yr oedd Mr. Bennett ei hun yn bresennol y Sadwrn; a gwell fyth, y mae amcanion fy mhwyllgor yn cael eu sylweddoli i'r eithaf, drwy fod trefniadau wedi eu gwneuthur rhyngddynt a Mr. Manners, i gynnwys fy opera yn repertoire Cwmni A i fynd drwy Loegr a Chwmniau B a C i fynd drwy Gymru.
Ymhellach, y mae Mr. Bennett yn garedig iawn wedi addo ysgrifennu libretto arall ar gyfer Grand Opera i mi. Fel hyn, yr wyt ti, 1903, yn agoryd dy ffenestri gan belydru allan oleuni disglair o obaith mewn cyfleustra newydd i'm hymdrechion. Beth sydd gennyt yn ystôr i mi, fy nheulu, a'm cyfeillion, ti a ddatguddi fel y bydd dy fisoedd yn treiglo ymlaen yn un ac un. Ond y mae gobaith, gwynfyd yr enaid, yn eiddo i mi."
Y mae gennym hefyd dystiolaeth unol rhai o brif aelodau'r cwmni operataidd i ragoroldeb yr opera.
Dywedai Mr. Manners ei bod yn debyg i "Lily of Killarney," ac y byddai'n debyg o fod yn llwyddiannus, am fod y testun yn lleol, y geiriau a'r gerddoriaeth yn syml, a defnydd da'n cael ei wneuthur o'r alawon cenedlaethol."
Madam Fanny Moody: "Y mae fy rhan i'n swynol dros ben; y mae golygfa'r gwely marw'n wirioneddol odidog, ac yr wyf yn methu peidio wylo pan yn mynd drwyddi.'
Charles O'Mara: "Y mae'n llawn melodi, ac yn dangos ôl llaw'r meistr. Y mae'r alawon Cymreig yn fy atgofio o'r rhai Gwyddelig. Y mae hufen y gerddoriaeth wedi ei roddi i mi."
Miss Crichton: "Y mae'r miwsig yn apelio at gymaint o reddf ddramayddol a feddaf."
Miss Lily Moody: "Bydd yn un o'm pleserau mwyaf i ddatganu fy rhan i eto; y mae yn fy nharo i'r dim—y mae cymeriad ynddi.
Y Tenor yntau: "Y mae yna swyn arbennig yn y gerddoriaeth i'r tenor drwyddi i gyd—rhydd bob mantais i'w allu dramayddol."
Dywedai Mr. Eckhold, y Musical Director, fod y miwsig fel yn codi'r bobl allan ohonynt eu hunain. Nid clod bach i'r gerddoriaeth yw fod pob un yn ystyried ei ran ei hun yn oreu.
Ar waetha'r cwbl, collodd y pwyllgor tua £200 ar yr anturiaeth, a pharai hyn ofid iddo yn ei ddyddiau olaf.
Goruwch yr holl fynyddoedd sy
Bydd mynydd tŷ Jehofa.
Ac felly yr oedd hi gyda Parry: golygai ef i "Jesus of Nazareth" ar yr hwn y gweithiai yn ei ddyddiau olaf, fod yn brif waith ei fywyd. Y mae o ansawdd tra gwahanol i "Emmanuel," er ar yr un testun; oblegid tra yr ä yr olaf yn ol, fel Ioan i'r "dechreuad," cychwynna y blaenaf ym Methlehem gyda Marc. Ac y mae yn llawer mwy dramayddol yn wir, yr hyn a wna yw gweithio allan y drydedd ran o "Emmanuel," drwy help "golygfeydd" yn hanes yr Iesu, mewn ffordd ddramayddol. Golygai i'r gwaith gynnwys dwy ran: y gyntaf yn ymwneud â'r hanes hyd y mynediad olaf i Jerusalem, a'r ail â'r digwyddiadau ynglŷn â'r Croeshoeliad. Ni orffennwyd ond y rhan gyntaf. Dyma'r adrannau I, Bethlehem; II, Nasareth; III, Jerusalem; IV, Samaria; V, Nain; VI, Galilea; VII, Capernaum; VIII, Bethania; IX, Y Mynediad i Jerusalem. Sonia'r Beibl am yr Iesu'n canu (gyda'i ddisgyblion)—gesyd Parry Ef i ganu tenor agos ymhob adran. Yna ceir corawdau i'r Bugeiliaid, y Pererinion ar y ffordd i'r wyl, y Samariaid, y Dorf, etc; unawdau soprano gan yr Angel, Mair Magdalen, Mair o Fethanai, tra y cân Martha contralto; a phedrawd ym Methania, gan yr Iesu, Lazarus, Mair a Martha.
Gadawodd fraslun o eiriau ar ei ol a ddengys i ni y
llwybr fwriadai ei gymryd yn yr Ail Ran. Wele'r prif
adrannau:
I, Y Sanhedrim; II, Bethania (a'r blwch alabaster); III, Y Daith olaf i Jerusalem; IV, Y Swper Olaf; V, Judas gerbron y Sanhedrim; VI, Gethsemane; VII, Iesu gerbron Annas; VIII, Iesu gerbron Caiaphas; IX, Anobaith Judas; X, Iesu gerbron Pilat; XI, Iesu a Barabas; XII, Y Fflangell a'r Goron Ddrain; XIII, Y Ffordd i'r Groes; XIV, Y Croeshoeliad; XV. Yr Adgyfodiad a'r Esgyniad.
Rhydd yr enghraifft a ganlyn (Adran XIV) syniad i'r darllenydd o'i ddull o ddefnyddio'r hanes (y mae'r oll yn Saesneg):
CRUCIFIXION. CAIAPHAS, ANNAS, CENTURION, JESUS, MARY, PRIESTS, NICODEMUS, JOSEPH, PILATE.
CAIAPHAS: This shall be a feast day ever.
ALL: Hail, King of the Jews 1 If thou art he, come down from the cross.
CAIAPHAS: Thou that savedst others, thyself thou canst not save. What, don't you hear?
ALL: Shew thy power, thou mighty King of the Jews!
JESUS: Father, forgive them, they know not what they do. ALL: If thou be Christ, save thyself and the two thieves. JESUS Verily I say unto you, to-day shall ye be with me in Paradise. ALL He speaks to them of Paradise. JESUS Mother, behold thy son. I thirst ALL: Give him vinegar. JESUS Eli, Eli, Lama, Sabachthani! ALL: Hark! he crieth for Elias. Let us see whether Elias will come and save him.
JESUS: It is finished. Father, into Thy hands I command my spirit.
ALL: What a dreadful earthquake! Crashing, falling rocks! Woe be to us! Verily, he is a Son of God. Let us go home. Almighty God, we have sinned; forgive us. The veil of the temple has been rent in twain! Dreadful!
CHORALE: See our Saviour on the cross-see His holy mother, see, see.
Gwelir ei fod yn cyfaddasu, neu gyfansoddi geiriau yn ol awgrym ac angen ei ddychymyg cerddorol.