Cofiant Hwfa Môn/Awdl Eisteddfod Bangor

Oddi ar Wicidestun
Eisteddfod Bagillt Cofiant Hwfa Môn

gan Rowland Williams (Hwfa Môn)


golygwyd gan William John Parry
Awdl Eisteddfod Chicago


Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor 1890
ar Wicipedia






BER-AWDL

AR

AGORIAD EISTEDDFOD GENEDLAETHOL

BANGOR,

AWST, 1890.

Tynwn holl blant Awenydd—ein hanadl,
Eneiniwn Awdl newydd;
Yn yr wyl gweithiwn yn rhydd,
O un galon â'n gilydd.

Dyma iawn ddydd dymunawl,
Wybr i gyd yn bwrw gwawl;
Bywyd, ac ysbryd y gân
Yn llenwi pebyll anian.

Wele dég hafeiddiol dir,
Cyffiniau ymylau mór,—
Llawn ffrwythau yw'r parthau pur,
Gloew bau llawn arogl bêr.

Bylchawg binaclau beilchion,
Ymchwyddawg, brychawg eu bron,—
Daiar o'u hol adawant,
Am y nef sylldremio wnant,—

Ninau wrth eu sodlau sydd,
Yn llon yn ein Pabell hedd,—
Hwythau fel duwiau bob dydd,
Yn syn warchodi ein sedd.


Ein gwlad sydd heddyw yn glws
Yn gwenu dan y gwyn dês,
Eirian liw y wybren lâs
A'i llen gysgoda ein llys.

Ar loew dón araul dydd,
I riniaw yr Awenydd,—
Amlunia 'r haul melynwawr
Balasdai ar Fenai fawr!

Y Fenai werdd chwar gerddi—yn wastad
Ar glustiau 'r clogwyni,—
Ar hyawdledd ei rhedli,
Y llong a ddawnsia y lli.

Clyw o gernydd clogyrnach,
Emynau beirdd Penmaenbach—.
Clywch dwrfau clochau dirfawr
Amenau meib Penmaenmawr.

Acenau byw eu cân bêr
Ehed heibiaw hyd Aber,[1]
Tora, ergydia gwedyn,—o'r graig draw
Lais eu holl alaw hyd Lys Llewelyn!

A'r Gogarth dros ferwawg eigion—eto
Ateb y caneuon;
O'r cynwrf, clyw'r acenion
Yn chwarau 'n Nghymydau Món.

Eilia hen Garnedd Llewelyn—ei Salm
Hefo 'r sêr a'u hemyn,—
Y gadarn Wyddfa gwedyn.
Eilia gerdd hefo 'r haul gwyn!


Ogylch erglywch erddygan—mynyddoedd
Ar loew nenoedd orielau anian!
Ac adgaine eu mwyn gydgor—luchia dân
Byw awengan i Eisteddfod Bangor.

Y Werddon heddyw a arddel—urddas
Ei cherddi aruchel,—
Am fwynhau y mydrau mel
Gwaeddi y mae pob Gwyddel.

Ac ato daw yr Yscotyn—enwog,
A'i liniau 'n noeth lymyn,—
Dychlama, dawnsia y dyn,
Dwla wrth lais y delyn.

Yn lle tinc arf hyd greigiau Arfon—serth
Ceir swn telynorion,—
Ac ar benau meinciau Môn,
Ceir alaw 'n lle cwerylon!

Yn Mangor Fawr mae cawri,
Cymrodwyr Frawdwyr o fri,—
Gwyr llawn dysg, ac Iarllon da,
Yw Gwylwyr Athen Gwalia.

Gedyrn athrawon dysgeidiaeth, enwog
Gyfranwyr gwybodaeth,—
Cyfodwch a choethwch chwaeth
Teilwng o freintiau 'n talaeth.

I deilwng ysbrydoli
Holl elfen ein hawen ni,—

Didwyll ysbrydion hen dadau—y beirdd
Ar ben y mynyddau,
Ront glod i'n Heisteddfodau,—clywch berdant
Eco eu moliant goruwch y cymylau!

Er huno y gwyr anwyl,
Awenog hen gawri 'n gwyl,—
Dyrch o glogyrnog gernydd—Arfon wèn,
Broydd hen Awen, y Beirddion newydd.

A mawrhydi Cymrodwyr,
Beiddiwn waith, a byddwn wyr.
Ail gyfyd måd Feirniadon—bendigaid,
A daw Homeriaid o ludw y meirwon!

Gwelwch engyl yn gwyliaw
Ein drych yn yr wybren draw,—
Amneidiaw maent yn llawen
Heddyw ar ein Gorsedd wèn.

Rhag tynged y melltigedig—wawdiwr
A'i giwdodau ffyrnig;
Trwy ruchion melldithion dig,—o gernydd,
Holl furiau 'r caerydd llefara 'r cerig!

Yn arwydd ein gloewon eiriau—ymffrostiwn,
Yn llu ymunwn dan ein llumanau,—
Yn Mangor gwnawn ein gorau—fel brodyr—
Byw eon arwyr dan ein banerau.

Dan farn daw'r Wyddfa 'n garnedd—a'i hesgyrn
A losga cynddaredd,—
Cyn y llosgir, syflir sedd
Gwroniaid y gwirionedd.

Daliwn heb flinaw 'n ddiwyraw ddewrion,
Dros hawliau breiniawl, dwyfawl ein defion,—
Yn galonog plygwn ein gelynion,
Oll yn arwyr ar faesydd llenorion,—
Heb ruthiau, fel Brython,—hyd wybrenydd,
Codwn ein Caerydd,—cadwn ein Coron.




Nodiadau[golygu]

  1. Abergwyngregyn