Cofiant Hwfa Môn/Eisteddfod Bagillt

Oddi ar Wicidestun
Barddoniaeth Cofiant Hwfa Môn

gan Rowland Williams (Hwfa Môn)


golygwyd gan William John Parry
Awdl Eisteddfod Bangor


EISTEDDFOD BAGILLT,

GORPHENAF 23ain A'R 24ain 1889.

Torfoedd sydd heddyw yn tyrfu—yn min
Y mor, gan fflamychu,—
A chyrn crog, tyrog, bob tu,
Yn Magillt sydd yn mygu.

Eisteddfod Bagillt gyfodwn,—eilwaith
Y delyn chwareuwn,—
Ei brewyr a wobrwywn,—a gelltydd
Byw gu wyllt gaerydd Bagillt a garwn.

Yn siriol, o'i ffwrneis eirian,—yn boeth
I loni'r bardd truan,—
Yn aur têg, toni o'r tân,
Mae cerig, plwm, ac arian.

I Gallestr,[1] cyd-ddawnsia llestri—y môr
Am eu heurog lwythi,—
Bagillt sydd yn bywiogi
Ar fin dwr yr afòn Dèe.

Gwen Handel yma welwn,—yn ei swydd,
Ein Mosart ganfyddwn,—
Y duwiau ddaeth, y dydd hwn,
I Bagillt, mi debygwn.


Yma Pari yw'r camp wron,—Pari
Sy'n puro'r alawon,—
Ceir cywreinder, tyner ton
Joseph o hyd yn gyson.

Y miloedd, heb lid, na malais,—yn awr
Yn nheml eu huchelgais,—
Fflamychant, llefant a'u llais,
Mawrlwydd i Eos Morlais.

Ar y Maen Cred ymdynghedwn—i gyd
Gadw draw bob Carsiwn,—
Y Maen hedd yw y Maen hwn
Ym Magillt a edmygwn.

Gwiw anturiwch gantorion,—ac hefyd.
Cofiwch oll yr awrhon—
Na chyll cathlau, tanau tôn
O Fagillt tra llif eigion.

Ym Magillt eto megir—y canwyr,
A'u hacenion hoffir,—
Peraidd gathlau clymau clir
Ar delyn hyfryd eilir.




Nodiadau[golygu]

  1. Y Fflint