Cofiant Hwfa Môn/Barddoniaeth

Oddi ar Wicidestun
Beirniad Cofiant Hwfa Môn

gan Rowland Williams (Hwfa Môn)


golygwyd gan William John Parry
Eisteddfod Bagillt




BARDDONIAETH
AR WAHANOL
DESTYNAU.


HELEN LLUYDDOG.

Organwyd, ar fore ei geni-gán,
Gynes i'w harfolli;
Y wawr lon roi oleuni
Euraid, hoff, ar ei chryd hi:

Nwyf a gwen y Nef a gaid
Yn eigion ei dwfn lygaid;
Byw gochwyn rosyn yr Ha
Ar ei dwyfoch-wrid Efa;
Llathr wallt crog, donog dwynydd,
A'r haul yn chware yn rhydd;
Eilun fyw, o law wen fâd,
Ystwyth, deneulefn, wastad;
Ysgafn o droediad gwisgi,
A sang na ddeffröai Si,
Hi gerddai 'n ngwisg y wawrddydd.
A'i dawns ar belydr y dydd!

Glan gerfiedig lunio-ei byw dlysedd
A'i gwir angylwedd garai Angelo;
Dien baentio ei dwyael-yn gywir
Mewn aur Offir, a ddymunai Raffael.


EMYN.

Arglwydd, dyro di dy Ysbryd
I'n bendithio yma 'n awr;
Tywallt y cawodydd graslawn
I ireiddio 'r sychder mawr;
Tyfed blodau
Eto trwy y crindir crâs.


Atal di'r cymylau gweigion,
Sydd yn siomi'th bobl o hyd;
Galw y cymylau llawnion
Wlawiant eto ar y byd;
Ti yn unig
All roi bywyd yn y gwaith.


DYLANWAD YR YSBRYD

Arglwydd grasol, tywallt d'ysbryd
Ar ein hodfa yma 'n awr,—
Dyro deimlo ei effeithiau,
Yn ei ddylanwadau mawr,—
Gâd i'n brofi
Beth yw'r nefoedd yn dy dŷ.

Dyro ini'r hên awelon,
Megis yn y dyddiau gynt,—
I ddeffroi ein holl ysbrydoedd.
O na chlywem sŵn y gwynt,—
Chwythed eto
I roi 'n hysbryd oll ar dân.


Y MARWOR

Arglwydd, dyro Di y marwor
Ar Dy allor heddyw'n dân;
Dyro lewyrch y Seceina
Ar y drugareddfa lân;
Dyro 'th wyneb
I'th addoli yn Dy dŷ


Dyro wres y Cariad hwnw
Dodda nghalon dan fy mron ;
Dyro deimlo ei ddylanwad
Yn sancteiddio'r galon hon;
Gwna fy nghalon
Heddyw 'n deml i'r Ysbryd Glân.


SYCHED AM Y GWLAW

Arglwydd, tywallt y cawodydd
Hyfryd ar y crindir crâs,—
Fel bo'r anial yn blaguro
Dan ddylanwad pur dy räs,—
O cyflawna
Dy addewid yma 'n awr.

Y mae gerddi Mynydd Sion,
Yn sychedig am y gwlaw,—
Ac mae 'r blodau mwyaf tyner,
Fel yn gwywo ar bob llaw;
Arglwydd, gwlawia
Ar dy erddi Di dy hun.

Gwrando Arglwydd ein hymbiliau
Heddyw yn y sychder mawr;
Os na roddi y cawodydd,
—Dyro ini 'r gwlith i lawr,—
Ninau ganwn
Dan ddefnynau 'r Dwyfol wlith.


DYFROEDD MARA.

Os rhaid yfed dyfroedd Mara
Heddyw yn yr anial cräs,
Ni gawn yfed dyfroedd peraidd
O hen ffynon Dwyfol räs,—
Am y ffynon
Gorfoledda 'n henaid mwy.


GRAWNWIN ESCOL.

Os rhaid mynd i Rosydd Moab
Gan orchfygu llawer cád,—
Ni gawn brofi sypiau grawnwin
Dyffryn Escol Canaan wlad;
A chawn wledda
Ar ddanteithion nef y nef.


FFYNON GRÂS.

Yfed bum o lawer pydew
Wrth drafaelio 'r anial maith,
A phob pydew oedd yn sychu,
Gan fy siomi ar fy nhaith;
Ond o'r diwedd cefais ffynon,
Beraidd yn yr anial cräs—
Ffynon loew fel y grisial
O ddyfnderau Dwyfol räs.


Os yw 'm llygaid heddyw'n pylu
Ac yn gollwng deigryn prudd,—
Ac os yw fy llaw yn methu
Sychu'r deigryn ar fy ngrudd;
Daw fy Iesu
Mwyn i'w sychu cyn bo hir

Os yw 'm traed yn methu symud
Fel yn nyddiau bore f'oes,—
Ac os ydynt wedi blino
Wrth i'm geisio cario'r groes,—
Dont i redeg
Hyd heolydd Salem lan


CALFARIA

I GALFARIA awn i weled
Iesu 'n marw ar y Groes;
Trwy ei angau, ni gawn yno
Obaith bywyd drwy ein hoes ;
O GALFARIA
Y cawn nefoedd yn y byd!


Y LLUSERN DDYNOL

Y mae gwawr y Llusern ddynol
Yn ymddangos heddyw 'n gref;
Ond nid gwawr y llusern yma
Yw gwawr llusern nef y nef;

Y mae gwawr y llusern ddynol.
Yn cyfnewid yn ei liw;
Ac mae perygl rhwng y lliwiau
Gam gymeryd llusern Duw.

Y mae gwawr y Llusern ddynol
Yn llewyrchu weithiau 'n dlos;
Ond ceir gwawr y llusern gryfa
Yn diffoddi ganol nôs;
Arglwydd, gwylia'r holl lusernau
Rhag i'w lliwiau dwyllo dyn;
Cadw'r holl lusernau dynol
O dy Demlau di dy hun.


DUW MEWN CNAWD

Gwawl Hwn yw y goleuni—a welir
Yn heuliau 'r Wybreni;
A Hwn, er ein goleu ni
Dywynodd Mewn Cnawd ini:

A heulwen difrycheulyd
Yw Hwn i bawb yn y byd.


IESU

Pan byddaf weithiau yn poeni—yn swrth
Heb Sêr i'm sirioli
Ei wyneb a'i oleuni
Ydyw haul fy enaid i:


Fy ngwared o bob caledi—a wnaeth
Yn ol ei dosturi;
Am oes, llifeiriodd i mi
O'i law anwyl haelioni.

Efe allodd fy arfolli,—o'i fod:l
Huliodd ei fwrdd imi;
Rhanodd rhag pob trueni
Laeth a mêl helaeth i mi:


LLWYBR Y GWAREDYDD

Ara deg goleua'r dydd—ar y llwybr
Lle cerddai'r Gwaredydd;
Ei waed yn sobr ystaen sydd
Ar waelod yr heolydd.

</br

Y BEIBL CYMRAEG

Mor glws yw ei Gymraeg làn
I ddal heirdd feddyliau Ion;
Ar wisg ei holl eiriau hên
lâh a roes ei wawr ei Hun,

A oes iaith mor ddisothach
Ac mor gu a'r Gymraeg iach
I osod Angeu Iesu.
Yn deg o flaen enaid du?


PWLPUD CYMRU.

Goleuad hoff ein gwlad yw
A'i goludog haul ydyw;
Dyry llif ei belydr llon.
Iach oleu drwy ei chalon;
Daw ei lawn fad oleuni
A delw nef i'n cenedl ni.


Mewn tangnefedd
Am ei fawredd
Y myfyrir;
Ac am fwyniant
Ei gryf lwyddiant
Gorfoleddir.


Mewn hedd, o dan y mynyddau—uchel,
Yn nghilfachoedd dreigiau,
Mewn hoen y maent yn mwynhau
Nefoedd yn yr ogofau.

Cyd son am goethion bregethau y maent
Yn y mwll gornelau;
Ac hyd ffyrdd y culffyrdd cau
Hwy hudant eu serchiadau.

Yma eu hoff Anthemoedd—eiliant
Yn nghalon mynyddoedd;
Ac hyd i nef y nefoedd—hosana
Y gerdd fwyn dora o'r gorddyfnderoedd.

Eu cerub sydd yn caru
Y don yn y dyfnder du


A mawr serch ymerys of
Hyd y gwaelod i'w gwylio;
Drwy y dwfn, pelydra dydd.
O dwniad ei adenydd!

Ac i'n tud, y pwlpud pur
Roed i ni o radau Nêr—
I glws oleuo ein gwlad
Hwn yw ein canhwyllbren aur.

Diddwl belydr y Duwddyn
Ydyw gwawl y pwlpud gwyn;
Ei anwyl fyw dywyniad
Yn glir oleua ein gwlad.

Addurn yw ei gynteddoedd—i'n pan,
Hwn yw porth y nefoedd;
At rin ei ddwfn gyfrinoedd—a phurdeb
Mawredd ei wyneb, syna myrddiynoedd.

Pwlpud hen wlad ein tadau—
Enw hwn sy'n ei mawrhau;
Mae addysg yn em iddi—
Ond hwn yw ei hymffrost hi.


A daw dail llygaid y dydd
A brieill hyd y bröydd,
Ac yna hên Walia wen
A newidir yn Eden.

Daw'r anial o drueni,—tyf rhos cain
A'u lliw byw mirain lle bu mieri.

Ffrydiau glan bywyd sy'n llanw, chwyddant
A murmurant lle bu y Mor Marw.

Y GYMANFA.

O! mor hoff yn moreu Ha!
Yw gweled teulu Gwalia,
Yn eu hwyl yn disgwyl dydd,
A defod prif—wyl Dofydd—
Hyd y nos breuddwydio wna
Am wynfyd y Gymanfa!

Yn eu moes wele naw mil
Mewn urddas ar ddulas ddôl—
Fforddolion Sion mewn sel
Oll yn hardd a llawn o hwyl.

Bendith fel y gwlith a'r gwlaw
Ddistyll o'r Nef yn ddistaw.

Cofio a wnant y cyfan
O goeth lith y bregeth lan—
A chyrddau o seintiau sydd.
Drwy y wlad ar aelwydydd.


SEINAI.

A'r dydd hwn y rhodiodd Iah
Ar wybyr ddu Arabia;
Ei wisg dân yn ysgwyd oedd
Yn wynias yn y nenoedd.
Ac uwch ben, yr wybrenydd
Tan ei Sang yn toni sydd;
O ddialedd ei olwg
Tora y mellt drwy y mwg!


Wele ofnadwy olwg
Ystormydd mynydd y mwg,—
Rhuodd dirgrynodd i'w grai,

O! Clywn Swn calon Seinai!
Yn y fan y dorf anuw
A grynai dan udgyrn Duw!

FY MAM

Am addysg i bob moddion—mi a awn,
Gyda fy mam dirion;
Hi hoeliai yn fy nghalon,
Bethau mawr Sabathau Môn.


FY NHAD

Ei ddwysder ef ydoedd wasdad, yn dod
O flaen Duw drwy brofiad;
Nodau amlwg ddwfn deimlad,
Geiriau Nef oedd dagrau Nhad.


MAM A NHAD

Hyd lwybrau y duwiol Abram—o ganol
Drygionus fyd gwyrgam,
A'i ddunos i'r Nef ddinam,
Wedi mynd mae nhad a Mam.


Drwy ingoedd o frwydyr angau—o râs
Wedi 'r holl ofidiau;
At y grasol dduwiol ddau
Ryw funyd yr af inau.


DYSGEIDIAETH GYNTAF HWFA MÔN

Hwfa a sugnodd o bur hufan—Gras,
O fewn ei gryd bychan;
Yfodd lefrith o lith lan
Ei Feibil er yn faban.


ENAID YN CWYNO AM ADDYSG.

Fy enaid, na fydd gwynfanol—yn awr,
Os na chêst fawr ysgol;
Hefo Nhâd, cei Nef yn ol,
Ac addysg yn dragwyddol.


ODFA ADFYD

Y mae awyr ddu fy Mywyd—heddyw,
Yn clafeiddio 'm hysbryd;
Ond yma 'n odfa adfyd
Iesu gaf yn ras i gyd.


PICELLAU SATAN.

Os ytyw picellau Satan,—a'i fellt,
Am fy ngwaed yn mhobman,—
Y Duw anfeidrol sy'n dân,
Yw fy nhwr, a fy nharian.


HEB IESU.

HEB IESU, pa le buaswn?—O GROES
IESU GRIST caed PARDWN,
A heddyw gorfoleddwn,
Daw GRAS o hyd o GROES HWN.


OES HWFA.

Drwy ofid byd arafa—fy einioes,
A fy enaid wibia;
Er aml gyngor doedor da,
Am sefyll mae oes Hwfa.


CANU HEB Y CORPH.

Enaid, i'r Nef yr esgynwn—ac a'r
Corff byth y ffarweliwn;
Ac yno i Dduw canwn.
Y caniad heb y cnawd hwn.


ENGLYN: CERIDWEN, GENETH Y PARCH E. DAVIES, BRYMBO.

Ceridwen lon sy'n gwirioni—Beirddion,—
Mae pob harddwch ynddi;
Rhoed crog, dryblithog blethi.
O raffau 'n aur i'w phen hi.


Y CWMWL.

Hyd y nwyfre, dan hofran,—yn dawel
Deua'r cwmwl llydan;
Ac o li' môr y gwlaw mân
Ridyllia 'n hyfryd allan.

Ac wedi rhoi cawodydd—i raddol
Ireiddio y meusydd,—
Rhoi ei bwys yn ara' bydd
Am enyd ar y mynydd.


Y LLEW.

Cadarn yw TEYRN y Coedydd,—ei gilwg
A geula mewn stormydd;
Ofnadwy nos dramwy—ydd,
Yn ei safn taranau sydd.

DYCHRYNWN, flown oddiwrth ffau—y Llew.
Daw llid o'i amrantau;
Tan ei guwch ceir mellt yn gwau,
A'i fwng yn gartref angau.


PERLAU BEDDAU Y BYD

Coeliwch yr Atheistiaid celyd,—y Saint
Sydd yn aur drwy'r hollfyd;
Saint da Iehofa hefyd
Yw perlau beddau y byd.


Y CRISTION YN ANGAU.

Caru eistedd mae y Cristion—yn aml
Yn nhwrf tonau'r afon:
Er cysur clyw furmuron
Geiriau Duw yn mrigau'r dòn.

Y Cristion chwardda ar donau—y Dwr
Yn llaw Duw y Duwiau,—
Yma y Nef i'w mwynhau
Fyn o ing Afon Angau.


RHYBYDD!

Nid â chân y gwych organydd—na Dysg
Daw'n Duw i'r Eglwysydd;
I fawrion doethion y dydd,
"Evan Roberts" fo'n rhybudd.


Y DIWYGIAD.

O'r efail, nid o'r Athrofa,—y dygwyd
Y diwygiwr yma ;
Ar ei hynt yn mlaen yr ä
O'r arfaeth ar ei yrfa.


Wedi o'r Ysbryd ymadael—â'i blant
Yn ein blin ymrafael;
I wneud gwaith mynai Duw gael
Ail Esra yn nheml Israel.

Drwy ganol ein drygioni—ag urddas,
Hwn gerdda o ddifri,
I'w fawr waith o Galfari,
A'i holl esgyrn yn llosgi.

Cryfach o hyd y dyrch crefydd,—ein Duw
Wna dan drwy'r Eglwysydd;
Claer ser dirifedi fydd
Yn awyr Seion Newydd.

O ganol y bechgynos,—Duw alwodd
Ei deilwng Apolos,—
I wneud ei waith yn y nos
Dyma y proffwyd Amos.

Dygwyd ini y diwygiwr—yn Sant
A'i Sel dros Gyfryngwr;
Ac allan drwy dân a dŵr
Lewychodd o Gaslwchwr.

Angel a grym Efengyl gras—drwy Dduw
Drydd ein gwlad i urddas,—
Mawr iawn fraint, daw Cymru 'n fràs,
A Belial ffy o'i Balas.


Y DIWYGIAD.

Rhyw ddiwygiad annirnadwy—yw hwn
O hyd aeth yn fwyfwy;
Yn y wlad, mae'n ofnadwy
Yn ei faint, aiff eto 'n fwy.


Diwallu yr enaid truan—a'i gri
Y mae gras yn mhobman;
Ac hefyd llond y cyfan
Ydyw gwledd yr Ysbryd Glan.

Rhyw egwyddor wna'n dyddori,—a hono
Enyn dan i'n poethi;
Ond gwaedd o enaid gweddi,
Ddaw a nerth i'n crefydd ni.


EMÄOD YN Y PULPUD

Daiarwyd meibion y daran—o'u sedd,
Ac mae'r Saint yn cwynfan;
Yn lle pynciau doniau 'n dân
Emäod sydd yn mewian.

A wyddant beth sydd yn addas—i'r gwaith
O bregethu'r deyrnas?
Nid harddwisg a nôd urddas,
Nid doniau Groeg, ond dawn gras.

Nid ergyd ar nodau organ—neu linyn
Ar delynau arian;
Y nefoedd wnai i Evan
Roi y Dê i gyd ar dân.


EVAN ROBERTS

Nid eurgaine o nodau Organ—na dysg,
Na dawn tannau arian;
Y Nefoedd wna i Evan
Roi y dorf i gyd ar dan.


EVAN ROBERTS.


Onid dwyfol yw'r Sant Evan—o'r De
A droes ar daith allan;
Gweddïwr, doethwr ar dân
Wyr sut i gonero Satan.


Y DIWYGIAD
YN AIL GREU YR ANGRIST

Na edrych di Sant yn odrist—a ffol,
Wrth ofni ffyrdd Athist;
Engraifft o ail greu Angrist
A roes Grás drwy Iesu Grist.




Nodiadau[golygu]