Cofiant Hwfa Môn/Caledfryn

Oddi ar Wicidestun
Nicander Ysgrif II Cofiant Hwfa Môn

gan Rowland Williams (Hwfa Môn)


golygwyd gan William John Parry
Ymweliad Hwfa Mon a'r America


Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
William Williams (Caledfryn)
ar Wicipedia





CALEDFRYN.

(GAN HWFA MON.)

CYNWYSIAD.

Ei naturioldeb—Ei ddestlusrwydd — Ei unplygrwydd—Ei eonder—Ei graffder—Ei eglurder—Ei sefydlogrwydd—Ei watwariaeth — Ei danbeidrwydd—Ei nawdd i addysg bur, a'i garedigrwydd gartref.

DIAU y cydnabydda pob dyn gafodd y fraint o adnabod y diweddar Barch. W. Williams (Caledfryn), o'r Groeswen, mai un o'r pethau cyntaf a welid ynddo ydoedd naturioldeb. Yr oedd yn naturiol yn ei edrychiad, yn ei wisgiad, yn ei ysgogiad, ac yn ei ddull o osod ei feddwl allan. Yr ydoedd yn amlwg fod natur wedi ei eneinio yn blentyn iddi ei hun; ac yr oedd ei henaint tywalltedig yn dysgleirio ac yn perarogli ar ei ben yn wastadol. Yn gysylltiedig a'i naturioldeb, yr ydoedd math o ddestlusrwydd llednais yn ymddangos trwy ei holl ymarferion. Y mae llawer dyn yn ymddangos yn naturiol, ond yn aflerw. Gellir canfod lleng o feirdd, llawn o athrylith farddol, yn meddu digon o naturioldeb, ond yn dra amddifad o ledneisrwydd ymarferol. Ond nid gwr felly ydoedd Caledfryn; o herwydd yr ydoedd ei ddestlusrwydd llednais ef yn dyfod i'r golwg yn brydferth yn ei holl gyflawniadau. Ei arwyddair ef ydoedd :— "Gwneler pob beth yn weddaidd, ac mewn trefn." Peth amlwg arall yn ei gymeriad oedd unplygrwydd gyda phob peth. Nid un wedi ymwisgo mewn dyblygion o dwyll a rhagrith oedd ef; ond un mor noeth oddiwrthynt ag ydyw y gofgolofn farmor sydd yn addurno lle ei feddrod. Os duai ei wyneb gan ystorm ar amserau, nid oedd hyny ond arwydd o'r ystorm oedd yn llenwi ei ysbryd ar y pryd; ac os tywynai ei wyneb agored gan lawenydd, nid oedd hyny ond arwydd o'r llawenydd a'r hoen a goleddai ei galon ar adegau felly. Ni bu dyn ar y ddaear hawddach i'w adnabod nag efe; canys fel yr ymddangosai yn y cyhoedd, felly yr ydoedd yn y dirgel. Drwy y pethau hyn, yr ydoedd yn hawdd canfod elfen arall yn dyfod. i'r golwg yn ei gymeriad, sef ei onestrwydd. Yr ydoedd y son am onestrwydd Caledfryn wedi myned trwy Gymru fel diareb; ac yr ydoedd ei elynion bryntaf yn gorfod cyfaddef mai dyn ydoedd yn cael ei lywodraethu gan yr egwyddor euraidd o uniondeb diwyrni. Ni arferodd ef a dyrchafu y cyfaill ar draul darostwng y gelyn. Ei brif nod yn wastad ydoedd— Darparu pethau onest yn ngolwg pob dyn." Elfen arall oedd. yn ymddangos yn eglur ynddo oedd eonder meddwl. Ni wyddai Caledfryn beth oedd ysbryd llwfr a slafaidd; ac ni allai oddef cymdeithas y dyn llwfr a diyni. Yr oedd ganddo ef ddigon o eonder i ddywedyd y gwir yn ngwyneb pob dyn heb ofni y canlyniadau, ac feallai na ddywedodd un dyn fwy o wirionedd noeth yn ei oes na ddywedodd ef. Ei ddywediad mynych ydoedd,—"O'm lleddir am wir, pa waeth?" Ac nid yw hyn yn beth rhyfedd, canys yr oedd ef yn meddu eonder a beiddiad i fyned yn erbyn llifeiriant llawer o farnau cyffredin y byd; tra yr oedd eraill yn ymollwng yn llwfraidd gyda y llif. Llawer gwaith y clywsom ef yn dywedyd y geiriau hyn gyda nerth—"Y rhai cyfiawn sydd hyf megys llew." Yr ydoedd craffder barn hefyd yn ymddangos yn gryf, ac fel yn reddfol ynddo. Ni ollyngai un gwaith o'i law heb ei brofi wrth y rheol fanylaf. Arferai edrych ar bethau o bob cyfeiriad. Yr oedd yn ddigon craff i weled rhagoriaeth y gwych, a gwrthuni y gwael, a meddai ddigon o graffder i'w deol yn deg oddiwrth eu gilydd. Yr oedd awch ar ei gyllell ysgythru yn wastad; a gorfu i lawer bardd a beirniad yn Nghymru deimlo ei llymder. Haerai rhai y byddai yn rhy lymdost yn ei nodiadau; a'i fod yn llymdostach at waith eraill nag ydoedd at ei waith ei hun. Ond os oedd hyn yn wir am dano, y mae yn wirionedd hefyd i'w feirniadaethau ef wneud mwy tuag at buro barddoniaeth Gymreig, na beirniadaethau neb arall yn ei oes. Diau na bu ei graffach fel beirniad barddonol yn eistedd ar fainc beirniadaeth yn Nghymru erioed; a phan syrthiodd ef i'r beddrod, collodd yr eisteddfodau feirniad oedd yn dwr ac yn darian i degwch a chyfiawnder. Llinell arbenig arall yn nghymeriad Caledfryn ydoedd eglurder. Ni bu neb erioed a lefarodd fwy dros i bawb draethu ei feddwl yn eglur na Caledfryn; ac nid oedd ganddo nemawr o ffydd yn y dynion. hyny sydd yn son yn wastad am y depth of thought; o herwydd credai ef nad oedd modd dysgu arall yn dda ond trwy ddwyn pob peth yn amlwg o flaen eu llygaid. Yr oedd yn gallu traethu ei feddwl bob amser yn oleu a thryloew; ac y mae holl ysgrifeniadau, mewn rhyddiaeth a barddoniaeth, yn profi hyn. Gwr ydoedd ef yn hoffi rhodio wrth liw dydd, ac nid wrth liw nos. Yr ydoedd sefydlogrwydd hefyd yn elfen gref yn ei nodweddiad. Yr ydoedd er pan yn ieuanc yn Ymneillduwr egwyddorol a thrwyadl; a safodd yn ddigryn dros ei egwyddorion trwy ei holl oes: ïe, ymladdodd frwydrau poethion dros ei gredo; ac ambell frwydr hyd at waed. Yr oedd mor ddiysgog a'r graig dros Ymneillduaeth; ac efe a dyngodd lawer gwaith i'w niwed ei hun, ac ni newidiai. Arbenigrwydd arall a ymddangosai yn amlwg ynddo trwy ei oes, oedd math o watwariaeth (sarcasm.) Yr oedd y duedd watwarol mor naturiol iddo ag anadlu. Deuai ei watwaredd i'r golwg trwy wahanol ffyrdd. Weithiau trwy droad ei lygad, nyddiad ei wddf, ysgogiad ei law, a brathiad ei air. Yr oedd cymaint o fin ar ei frath-eiriau weithiau, fel y gallai frathu y dyn mwyaf celffantaidd trwy ddyfnder ei galon; a mynych y gwelwyd rhai o'r tylwyth hwn yn gorwedd yn eu gwaed ger ei fron. Elfen amlwg arall ynddo ydoedd tanbeidrwydd ysbryd. Yr ydoedd tanbeidrwydd ei ysbryd yn angerddol ar amserau. Deuai ei angerddoldeb i'r golwg weithiau yn ei ymddyddanion. ar bynciau neillduol; megys dadgysylltiad yr eglwys a'r wladwriaeth, a gorthrwm y degwm a'r trethi. Ymddangosai tanbeidrwydd ei ysbryd hefyd yn ei ysgrifau, ei areithiau, ei farddoniaeth, ond nid yn fwy yn un man nag yn yr areithfa santaidd. Byddai yr olwg arno ar amserau, ar esgynloriau y cymanfaoedd, fel angel Duw. Gwelwyd tyrfaoedd callestraidd eu calon yn toddi fel y cwyr o flaen y ffwrn, o dan wres angerddol ei genadwri; a gorfodwyd i'w elynion gredu lawer tro, mai nid tân dyeithr oedd yn cyneu ar ei wefusau. Tybiai llawer y buasai yn well iddo beidio a bod mor angerddol ei ysbryd, oblegid y byddai mewn perygl weithiau i'w sèl fradychu ei wybodaeth; ond nid ydym ni yn tueddu i farnu felly am dano. Yn mysg y pethau hyn, yr oedd peth arall yn ymddangos yn llawn mor gryf ynddo, sef ei bleidgarwch dihafal i addysg rydd. Ysgrifenodd lawer, areithiodd lawer, dadleuodd lawer, a theithiodd lawer i amddiffyn addysg rydd yn y wlad; ac nis gwyr neb faint y daioni a wnaeth yn y cyfeiriad hwn yn ystod Yr oedd yr awyddfryd cryf oedd ynddo tros ddiwygiad crefyddol a gwladol, yn anhysbydd; ac nid ydoedd ei fod yn heneiddio yn effeithio dim i wanychu y tueddfryd hwn. Fel y mae gwlith y boreu yn ireiddio yr ardd flodau, felly yr ydoedd yr elfen o garedigrwydd yn eneinio holl gymeriad Caledfryn. Gallai y dyeithrddyn feddwl wrth glywed Caledfryn yn siarad ar adegau, mai dyn o'r fath mwyaf cignoeth ydoedd; ond pe cawsai y dyn hwnw aros o dan ei gronglwyd am ddiwrnod neu ddau, cawsai weled mai dyn llawn o garedigrwydd a thynerwch ydoedd. Yr oedd ei garedigrwydd yn ei dŷ, ei groesaw i ymwelwyr, a'i gydymdeimiad a'r weddw a'r amddifaid, y cystuddiol a'r tlawd, yn ddigyffelyb; ac y mae lluoedd heddyw yn fyw allant ddwyn tystiolaeth i'r gwirionedd hwn. Diau y cyd-dystiolaetha pob dyn cyfarwydd â ni am yr anfarwol Caledfryn, fod yr elfenau a nodwyd yn gyfrodedd trwy ei holl gymeriad. Ond gwybydder, ar yr un pryd, nad ydym wrth grybwyll y pethau hyn, yn haeru nad oedd iddo yntau ei ddiffygion mawrion, fel pob dyn arall. Ond yr oedd y llinellau a nodwyd yn llewyrchu trwy ei gymeriad fel y llewyrcha y gwahanol liwiau yn yr enfys.


Nodiadau[golygu]