Cofiant Hwfa Môn/Ymweliad Hwfa Mon a'r America

Oddi ar Wicidestun
Caledfryn Cofiant Hwfa Môn

gan Rowland Williams (Hwfa Môn)


golygwyd gan William John Parry


YMWELIAD Y PARCH. R. WILLIAMS (HWFA MON) A'R AMERICA,

GORPHENAF 19eg, 1893.

AR gais taer Golygydd enwog y DYSGEDYDD, yr ydym yn ysgrifenu ychydig o hanes ein hymweliad â'r Gorllewinfyd, ac yr ydym yn tybio mai ysgrifenu yr hanes yn wahanol erthyglau byrion o fis i fis, fydd yn fwyaf derbyniol gan y darllenwyr.

I.

Y TEUTONIC.

Un o lestri ardderchocaf llinell odidog y White Star yw y Teutonic, ac wedi ei gwneuthur o'r defnyddiau durol goreu. Y mae yn 582 o droedfeddi o hyd, ac yn 57 a chwe' modfedd o droedfeddi o led, ac yn 39 a phedair modfedd o droedfeddi o ddyfnder. Gall tri chant o fordeithwyr eistedd gyda'u gilydd yn gomfforddus yn y cabin cyntaf, ac y mae digon o le yn yr ail gabin i 170 eistedd yn gysurus, ac y mae digon o le yn y trydydd cabin i 850 i fwynhau eu hunain yn ddigon hapus. Yn gysylltiedig â'r holl leoedd hyn, y mae ystafelloedd hyfryd i'r ysmocwyr wedi eu trefnu yn y modd mwyaf deniadol. Ac er mwyn gwneud yr ysmocwyr yn hapus, ceir digon o boerflychau gerllaw, fel na raid i un ysmociwr halogi ei boeryn yn mhoeredd y llall. Y mae holl ystafelloedd y gwelyau hefyd wedi eu trefnu yn y modd mwyaf rhagorol, ac y mae peraroglau dillad glán yn perarogli trwyddynt oll. Diameu fod gallu cyfoeth a chelfyddyd wedi bod ar ei oreu yn rhagddarparu y Teutonic, er mwyn ei gwneuthur yn un o'r llongau mwyaf hyfryd i fordeithwyr o bob dosbarth. Heblaw y pethau hyn, y mae yr holl swyddogion, o'r Cadben i lawr, yn ddynion o'r cymeriadau dysgleiriaf, ac yn deall eu gwaith yn drwyadl, fel y gall pob mordeithiwr fod yn berffaith dawel fod y Teutonic o dan ofal y dynion goreu, yr hyn sydd yn anrhydedd i gwmpeini y White Star.

Wrth edrych ar fawredd y Teutonic yn y Doc yn Liverpool, tybiem nas gallasai y tonau mwyaf siglo fawr arni. Ond cyn pen nemawr o ddyddiau wedi gadael Liverpool, gwelsom nad oedd y Teutonic, er ei maint, ond megys rhyw flewyn llesg ar frigau y tonau cynddeiriog yr Atlantic.

Ar y 19eg o fis Gorphenaf, 1893, daeth fy anwyl frodyr, y Parch. Henry Rees, Bryngwran, a'r Parch. Joseph Rowlands, Talysarn, gyda mi ar fwrdd y Teutonic. Yr oeddym yn cael ein cyfarwyddo yn ein holl symudiadau gan y gofalus a'r medrus Gymro Gwyllt, yr hwn oedd wedi darparu Berth i ni ein tri fod gyda'n gilydd, yr hyn oedd yn gysur mawr i ni, wrth wynebu ar y fath fordaith beryglus. Oddeutu haner awr wedi tri, ar y prydnawn byth—gofiadwy hwnw, gadawsom Liverpool, a'n calonau yn ymchwyddo gan bryder dwys.

Ac felly gadael ein cyfeillion—a wnaem,
Yn ymyl glan yr afon, —
Tra gwelem, adwaenem dros dòn
Ganoedd a'u cadachau gwynion.

Wrth brysuro o olwg Liverpool, yr oeddym yn dysgwyl y cawsem olwg ar Ynys Mon wrth ei phasio, ond cawsom ein siomi, o herwydd yr oedd niwl a chymylau yr hwyr wedi ymdaenu dros yr hen Ynys druan, fel na chawsom weled ond rhyw arliw gwan o honi. Fodd bynag, wedi ein siomi na chawsem olwg ar yr hen wlad, aethom i'n gwelyau, gan roddi ein hunain o dan ofal yr Hwn a roddodd y môr yn ei wely. Wedi rhoddi ein penau ar ein gobenyddiau, cadwyd ni yn effro gan swn y ddwy sgriw oeddynt yn ysgriwio trwy y tonau wrth fyned yn mlaen. Ond o herwydd ein lludded a'n pryderon, siwyd ni i gysgu yn araf deg. Ond cyn ein bod ni braidd wedi dechreu chwyrnu, deffrowyd ni, ac erbyn i ni agor ein llygaid, yr oedd y Teutonic wedi cyrhaedd i borthladd hyfryd y Queenstown.[1]

Ar hyd y Werydd y rhedai—ac wrth
Queenstown yr angorai,—
Yno ei chroch luman chwai
Uwch yr awyr chwareuai.

O! hafan ogoneddus! Yr oedd yr olwg arno y bore hwn tu hwnt i allu neb i'w ddesgrifio. Yr oedd y môr yn llonydd, ac yn dysglaerio fel y grisial o dan belydrau yr haul. Yr oedd yr olwg ar y tyle gwyrddion o amgylch glanau y porthladd, ac ar y dref a'i phinaclau, wedi ein boddi gan syndod a swyn! Un o'r pethau cyntaf a glywsom yma oedd swn dynion yn taflu llonaid casgiau mawrion o weddillion ymborth i'r môr, a'r peth cyntaf a welsom wed'yn, oedd gweled heidiau o wlanod yn disgyn ar draws eu gilydd i'r môr, gan ymladd â'u gilydd am y briwsion. Ac wedi cael eu gwala a'u gweddill,

Yn llewyrchion haul llachar—gwyl wenai
Y gwlanod chwareugar;
Hyd y lli, heb ofni bâr,
Ymrodiai y môr adar.

Tra yr oeddym yn ymddifyru i edrych ar y golygfeydd hyn, deuai y llythyrau, a'r papyrau newydd i mewn yn sacheidiau, a phawb yn rhedeg am y cyntaf atynt. Yna daeth y Gwyddelod ymfudol i'r bwrdd, a'r olwg arnynt yn wyllt a chyffrous, ac yn edrych fel Gwyddelod! Erbyn hyn, yr oedd ar fwrdd y Teutonic oddeutu pymtheg cant o eneidiau, a phawb a'u gwynebau tua'r Gorllewinfyd.

Wedi aros am ryw deirawr—i'r llyw
Gael trefnu'r llwyth gwerthfawr;
O'r dirion hyfryd orawr,
Aem oll tua'r eigion mawr!


II.
O QUEENSTOWN I NEW YORK.

Os egyr y ffals eigion—ei enau,
Ni ddychryna nghalon,—
Rhodia Duw ar hyd y don
I ngwyliaw a'i angelion.

PAN adawsom borthladd hyfryd Queenstown, yr oedd y môr yn llyfn, a'r haul yn tywynu yn ddysglaer, ac yr oedd ymylau yr Ynys Werdd yn edrych yn hudolus iawn. Yr oedd y creigiau ysgythrog hyd lànau y môr, a'r bythyndai gwynion oedd i'w gweled hyd lethrau yr Ynys, yn gwneud yr olygfa yn dra dyddorol. Wedi i'r Teutonic frysio heibio i'r Cape Clear, troes ei phen mewn rhwysg—

"Tua'r Gorllewin araul,
Ty'r Hwyr, lle lletya'r Haul."

Pan oeddym yn graddol golli ein golwg ar y Werddon, ac yn dechreu tremio ar y dyfnder mawr, daeth geiriau y Salmydd i'n meddwl yn sydyn. "I ba le yr äf oddiwrth dy ysbryd? ac i ba le y ffoaf o'th wydd? Os dringaf i'r nefoedd, yno yr wyt ti; os cyweiriaf fy ngwely yn uffern, wele di yno. Pe cymerwn adenydd y wawr, a phe trigwn yn eithafoedd y mor; yno hefyd y'm tywysai dy law ac y'm daliai dy ddeheulaw." A phan oeddym yn synfyfyrio ar y pethau hyn, clywem swn canu emynau Sankey, yn dyfod o gymydogaeth y Steerage. Ac yn ein llawenydd, cyfeiriasom tua'r fangre. Ac erbyn myned yno, gwelem dorf daclus o Wyddelod, a'u llyfrau yn eu llaw, yn canu yn eu hwyliau goreu. Llanwyd ein calon o lawenydd wrth eu gweled, a'u clywed yn canu mor dda. Yr oedd erbyn hyn yn dechreu hwyrhau, ac aethom ninau i edrych ar yr haul yn machludo, o herwydd yr oeddym wedi clywed lawer gwaith, fod golwg ar yr haul yn machludo ar y mor, yn un o'r golygfeydd mwyaf gogoneddus, ac yr oeddym yn awchus i gael golwg iawn arno. Aethom i fan cyfleus ar y bwrdd, a chawsom olwg na anghofiwn mo honi byth. Yr oedd y cawr i'w weled yn fwy, ac yn wridgochach, nag y gwelsom ef erioed o'r blaen. Yr oedd yr olwg arno yn ymsuddo o'n golwg, i eigion y mór, y noson hono, yn ofnadwy ogoneddus! Yn rhy ogoneddus i neb allu ei ddarlunio! Ar ol ei fachludiad, prudd-gochai yr holl ffurfafen uwchben.

Ac ael anian wisgai gwsg leni,-a rhydd
Wisgai'r hwyr yn ei dlysni;
Yma yn awr canfyddem ni
Emau'r haul hyd y môr heli!

Wedi ein synu yn mawredd y rhyfeddodau, teimlem ein hunain yn llesgau, ac aethom i'n gwelyau i orphwys. Ond cyn y boreu cawsom ein deffroi gan grygleisiau ofnadwy Corn y niwl! Ac erbyn i ni fyned ar y bwrdd, yn y boreu, yr oedd y niwl fel tywyllwch yr Aipht, wedi ein hamgau; ac yr oedd y corn yn rhuo nes rhwygo ein clustiau. Erbyn hyn, yr oeddym ninau yn dechreu dychrynu, canys clywsom ganwaith, mai gelyn gwaethaf y morwr yw niwl; ac oblegid hyny, yr oeddym mewn pryder, rhag ofn dyfod i wrthdarawaid à rhyw long arall. Fodd bynag, tewychu yr oedd y niwl, a pharhau i ruo yr oedd y corn, a rhwng y naill a'r llall, yr oeddym ni wedi myned i deimlo yn anhapus iawn. Ond yn mhen amser maith, daeth pwff o wynt o rywle, a chwalwyd y niwl, a dechreuodd yr awyr glirio, a daethom i weled y môr fel o'r blaen. Ar hyn, clywem rywun yn gwaeddi Whale, nes oedd y Teutonic yn diasbedain! Gyda hyn, rhedasom i edrych dros ochr y llong, ar, eiliad gwelem heidiau o bysgod yn llamu o'r tonau, a phob un fel yn ymryson i neidio am yr uwchaf! Pan y gofynasom pa bysgod oeddynt, cawsom wybod mai hiliogaeth y Tunny (Thynnus Vulgaris) oeddynt, ac nid hiliogaeth y morfilod. Ymddengys fod heidiau mawrion o'r pysgod hyn yn heigio yn yr Atlantic Ocean, a bod y pysgodwyr yn gwneud elw mawr oddiwrthynt. Yn fuan wedi hyn, ymgryfhaodd y gwynt, a dechreuodd y môr gyfodi fel mynyddoedd mawrion.

Twrw heb osteg trybestod-hyd oror
Y dyfnderau isod;
Yn y dwfn, wrth fyn'd a d'od,
Ymrafaeliai morfilod!

Trwy wenyg, codi eu trwynau-yn hyf
Wnai morfeirch gan chwarau;
Chwythent byst, poerbyst o'u pau,
Yn wynias hyd y nenau!

Y llong gref oedd fel yn crefu-yn daer,
Am i'r don lonyddu!
Ac i'r awel dawelu,
Ar y daith drwy y mor du!

Dywedasom wrth un o'r morwyr oedd yn sefyll gerllaw i ni ei bod yn ystormus iawn. A dywedodd yntau nad oedd peth felly yn ddim ond rhyw stiff breeze. Parhaes y gwynt i gyfodi, hyd nes oeddym dros fanciau Newfoundland, ac yr oedd ugeiniau o'r môr-deithwyr yn sal iawn, a'r olwg arnynt yn druenus dros ben. Ond, drwy drugaredd, daliasom ni yn iach drwy y cwbl. Ac i brofi hyny, yr oeddym yn gallu dilyn ein prydiau yn rheolaidd, ac yn gallu eu mwynhau yn rhagorol. Aethom i orphwys yn gynar y noswaith hono, gan ddymuno i'r hin gyfnewid. Ac erbyn i ni godi boreu dranoeth, yr oed y mor wedi tawelu, a'r haul yn dechreu tywynu yn boeth. Pan oeddym yn dechreu mwynhau ein hunain yn nghyfnewidiad y tywydd, clywem fod yn y llong gantorion Cymreig, o'r Deheu a'r Gogledd. Ac heb oedi dim, aethom i chwilio am danynt, ac wedi eu cael, gofynasom iddynt a wnaent ganu rhai o'r hen emynau, a'r hen donau Cymreig, a dywedasant y byddai yn dda gan eu calon gael gwneud. Ac wedi cael cydymgynghori â'u gilydd, dywedasant eu bod yn barod. Gofynasom iddynt a fyddent mor garedig a chanu yr hen emynau, "Ar fôr tymhestlog, teithio'r wyf," "O fryniau Caersalem ceir gweled," "Bydd myrdd o ryfeddodau," &c.; a dywedasant y gwnaent. Yna cydymgynullasant i'r un fan ag yr oedd y Gwyddelod yn canu caneuon Sankey, y dydd o'r blaen. Canasant yr hen emynau, a'r hen donau, a chawsant y fath hwyl, fel yr oedd y mor-deithwyr yn cyrchu atynt o bob cwr yn y llong, ac ni chlywyd byth son am y Gwyddelod, na Sankey, ar ol hyny. Ni buom erioed yn falchach o'n iaith, ein cerddoriaeth, a'n Cenedl, na'r tro hwn ! Aethom i huno y noswaith hono, gan byncio mawl yn ein calonau i Dduw, am fod modd i fwynhau y nefoedd ar y môr fel ar y tir. Cyfodasom yn foreu dranoeth o herwydd ei bod yn foreu Sabbath. Ac wedi cael ein boreufwyd, aethom i'n Berth, a chadwasom ddyledswydd ein tri gyda'n gilydd. Gofynodd yr awdurdodau i ni gymeryd rhan yn y moddion cyhoeddus, ond dywedasom y byddai yn well genym gael llonydd. Ond aethom i'r cyfarfodydd Seisonig, y boreu a'r hwyr, a da oedd genym weled fod y Sabbath yn cael ei gadw mor dda ar y môr. Boreu dranoeth, claddwyd un o'r mor- deithwyr yn y môr, a gwelsom ei weddw druan yn wylo dagrau yn hidl ar ei ol. Wedi i'r amgylchiad alaethus hwn gymeryd lle, teimlem ryw bryder ac ofn yn ein llenwi ar hyd gweddill y fordaith; ac yn wir, yr oedd golwg mwy difrifol i'w weled ar bawb. Treuliasom y dydd hwnw ar ei hyd, mewn rhyw syn fyfyrdod, gan feddwl y gallasai yr un dynged ddygwydd i ninau ein tri. Wrth fûd fyfyrio ar y pethau hyn, ail deimlem ein calon yn llenwi o awydd diolch i'r Arglwydd am ei ofal tirion am danom. Ac erbyn hyn, yr oeddym yn dyheu yn fwy-fwy, am gyrhaedd pen y daith; ac am weled cyrau y wlad yn dyfod i'r golwg. Yr oedd ein holl enaid yn ein llygaid, yn tremio am y wlad dramor. Ond o'r diwedd, dyma floedd yn dywedyd fod y Pilot Boat yn y golwg. Ac er ein mawr lawenydd, gwelem ef yn hwylio tuag atom, a'r haul yn tywynu ar ei faner. Ar ol i'r Pilot ddyfod ar fwrdd y Teutonic teimlem ein hunain yn sirioli trwyddom, gan feddwl fod pob peth yn dda, ac nad oeddym yn nepell oddiwrth yr hafan a ddymunem. Tybiem fod y Teutonic fel yn llamu o lawenydd, pan y daeth y Pilot ar ei bwrdd, canys dechreuodd adruo ei ffumerau, ac ail chwyfio ei llumanau, fel brenines, a meistres y môr! Wedi morio fel hyn am rai oriau, gyda rhwysg, a mawredd, ar foment, clywem ryw Gymro yn gwaeddi, tir! ac erbyn edrych, yr oedd creigiau y Long Island yn y golwg. O! y fath orfoledd a lanwodd ein calon! Yn fuan wedi hyn, daeth y Sandy Hook i'n golwg, ac ar ol hyny, dechreuodd y New York Bay ymagor o'n blaen, ac yr oedd yr olwg arno yn ofnadwy ogoneddus! Gyda hyn, yr oedd yr holl for-deithwyr ar y bwrdd, a phawb yn tremio i bob cyfeiriad. Arafodd y Teutonic, a nofiodd yn esmwyth, hyd nes daethom i olwg dinas Efrog Newydd, a Brooklyn. Ac fel pawb arall, yr oeddym ninau ein tri, yn dechreu parotoi ein pethau gan lygaidrythu am y làn. Yr oedd yn awr tua haner awr wedi dau, prydnawn Mercher, y 26ain o Gorphenaf, 1893. Wedi cael pob peth yn drefnus, ac wedi gollwng ei magnel allan, nes crynu tir America, dyna y Teutonic yn llithro yn esmwyth i'r Doc, lle yr oedd miloedd o bob cenedl yn gwibio, ac yn tremio arni. Ac wedi ei sicrhau yn ei lle arferol, dyma ninau, a chanoedd eraill, yn cerdded yn araf oddiar ei bwrdd, hyd nes cawsom ein traed ar geryg palmant America! Yr oeddym yn teimlo awydd diolch, a neidio, wedi cael ein traed ar y graig! Gyda ein bod wedi dyfod i lawr o’r llong, pwy oedd yno yn cyfarch gwell i ni, ond y brawd ffyddlawn y Parch. R. Lloyd Roberts, Bangor, Pa. Galwodd am gerbyd, ac aeth a ni i'n llety lle yr oeddym i aros, sef i'r Universal Hotel, 75, Clarkson Street, New York. Yno yr oedd Mr. a Mrs. Morgans, yn ein dysgwyl. Ac yno y cawsom gartref oddi cartref.


Nodiadau[golygu]

  1. Cobh Hrbwr Corc, Iwerddon