Cofiant Hwfa Môn/Pennod VIII

Oddi ar Wicidestun
Darlun V Cofiant Hwfa Môn

gan Thomas Evans, Amlwch


golygwyd gan William John Parry
Pennod IX


Pennod VIII.

FEL PREGETHWR.

GAN Y PARCH. T. EVANS, AMLWCH.

DYWEDIR gan rai mai fel bardd y rhagorai Hwfa Mon, ac nid fel pregethwr, gadawaf ar eraill cymhwysach i benderfynu y cwestiwn hwnw. Pa un bynag, yr oedd elfenau gwir athrylith yn berwi i'r golwg yn ei bregethau, ac enillodd ei safle fel un o gedyrn y pwlpud Cymreig. Cydoesai a nifer o bregethwyr perthynol i'r gwahanol enwadau, na fendithiwyd ein cenedl erioed a'u rhagorach. Ac yr oedd yn rhaid cael pregethwr yn feddianol ar ddonian uwchraddol, i fod yn amlwg yn mhlith y fath rai. Mae y bychan yn ymddangos yn llai yn ymyl y mawr, ond yr oedd Hwfa Mon yn gawr, yn nghanol cewri.

Gwnaeth natur ef yn etifedd amryw bethau, a fu yn hynod fanteisiol i'w boblogrwydd. Ni chafodd ei eni a llwy aur yn ei enau, nag yn etifedd tai a thiroedd, ond gwnaed ef yn etifedd pethau canmil gwerthfawrocach, a phethau nas gellir eu prynu er arian. Mae ambell un wedi codi i enwogrwydd heb ei fod wedi cael talentau lawer, ond bu "yn ffyddlawn ar ychydig" a thrwy ymdrech galed cyrhaeddodd safle anrhydeddus, a phriodol y gallai dd weyd am y safle a gyrhaeddodd, "A swm mawr y cefais i y ddinasfraint hon." Ond gallasai Hwfa Mon ddweyd, "A minau a anwyd yn freiniol." Mae llawer o wirionedd yn yr hyn a ddywedai yr hynod Ishmael Jones, am ddwyn i sylw—"Mae un o'r Caesars yn dweyd 'rwan, fod y genius mwya' eisiau introduction, ac y mae rhywbeth felly yn y Beibl, 'rwan—"Iago brawd yr Arglwydd " 'rwan. Mae perthynas yn introduction weithiau; bryd arall corph da, presence, trwyn, neu lais—bloedd dda, 'rwan."

Anfynych y cafodd unrhyw athrylith well introduction na'r eiddo Hwfa Mon, dyna presence! Y fath gorph tywysogaidd, tal, lluniaidd, cadarngryf, gwyneb glan, llawn, heb fod blewyn yn cael caniatad i dyfu arno, talcen uchel, pen o faintioli mwy na'r cyffredin, gwallt llaes yn ymdoni ar ei ysgwyddau. Yr oedd ei bresenoldeb yn urddasol, ac yn tynu sylw cyffredinol, ac nid oedd raid ei weled ond unwaith i'w gofio byth wedyn.

Dywedai yr hen bregethwr y cyfeiriais ato eisioes, nad oedd dim daioni o boblogrwydd buan," a chredaf fod llawer o gywirdeb yn y sylw, yn raddol, fel rheol, y mae pethau mawr yn ymddadblygu. Y cicaion yn tyfu mewn noswaith, ond y dderwen yn cymeryd amser hir. Ac felly am ddynion mawr, ond y mae eithriadau, megis y diweddar Mr. Spurgeon yn mhlith y Saeson, ac amryw y gallasem ei henwi yn y weinidogaeth Gymreig. Dyna y Parch John Evans, Eglwysbach, yr oedd fel comet danllyd, yn tynu sylw yr holl wlad, ar ei ymddangosiad cyntaf. Ond yr oedd y fath adnoddau naturiol yn y cymeriadau a nodwyd, fel na siomwyd y disgwyliadau a grewyd ganddynt ar y cychwyn. Daeth ein gwrthrych yn enwog ac adnabyddus fel pregethwr yn fuan wedi iddo ymsefydlu yn y weinidogaeth. Y tro cyntaf i mi ei weled, a'i glywed yn pregethu, ydoedd ar nos Lun cyfarfod blynyddol y Pasg, yn nghapel Pendref, Llanfyllin. Y mae agos i haner cân mlynedd er hyny. Ac er mai pregethu a phregethwyr oedd yn dwyn fy mryd y pryd hwnw, eto, yr oeddwn yn rhy ieuanc i allu cofio ond ychydig, ond y mae yr adgof yn fyw am dano, yn eistedd yn y pwlpud wrth ochr Hen Olygydd y "Dysgedydd "—y patriarch anrhydeddus o Ddolgellau. Nid yn fynych y gwelwyd mwy eithafion mewn pwlpud. Am yr Hen Olygydd yr oedd ei arafwch ef yn hysbys i bob dyn." Ac fel y sylwodd rhywun am ei weinidogaeth, mai Dyfroedd Siloah yn cerdded yn araf" ydoedd. Bwyd cryf yr hwn a berthyn i'r rhai perffaith," ydoedd ei bregethau, a hwnw yn wastad yn fwyd iach, a'i draddodiad yn hollol dawel a digynhwrf, o'r gair cyntaf byd yr amen. Yr oedd hefyd wahaniaeth mawr rhwng y ddau bregethwr mewn oedran; a thybid fod cryn ymryson wedi bod rhyngddynt am gael pregethu yn gyntaf, yr oedd yr Hen Olygydd yn gall fel y Sarff," ond heb ddim o'i gwenwyn, ac felly ymddygodd yn gall y noson hono, barnodd os oedd efe i bregethu o gwbl fod yn rhaid iddo bregethu yn gyntaf, neu ei fod yn bur debyg o golli y cyfle y tro hwnw. Ac wedi pregeth fer a syml gan yr hynafgwr parchedig, ar "nodweddion y rhai sydd gyda'r Iesu," sylfaenedig ar Act iv. 13., cododd Hwfa Mon ar ei draed, "a llygaid pawb yn y Synagog yn craffu arno." Yr oedd ei ddyn oddi allan yn tynu sylw, ac yn peri i'r gynnulleidfa deimlo na welsent neb tebyg iddo yn y pwlpud hwnw o'r blaen. Nid oedd golwg lyfndew a chorphol arno y pryd hwnw, fel mewn blynyddoedd wedi hyny— teneu, esgyrnog, a'i wyneb yn bantiog, ac i raddau yn welw, ac heb flewyn yn tyfu arno, a'i wallt tywyll yn crogi i lawr hyd ei ysgwyddau, a'i lygaid megis wedi eu claddu, o dan dorlanau o aeliau cuchiog. Felly mae ein hadgof am dano yr adeg hono. Mawr oedd y clustfeinio i wrando y gair cyntaf a ddeuai allan o enau y pregethwr dieithr, darllenai ei destyn mewn cywair isel, a goslef oedd yn dreiddgar er yn ddistaw. Ac yr oedd rhyw arbenigrwydd yn y pwysleisiad a'r aceniad, oedd yn hollol wreiddiol, ac yn dwyn delw un oedd yn gynefin a chleciadau y cynghaneddion. Teimlid fod rhyw doriadau yn ei eiriau, oedd yn debyg i fath o attal dywedyd, ag oedd yn nodweddiadol o hono hyd y diwedd. Os bu cywreinrwydd yn meddianu cynulleidfa erioed, yr oedd felly y noswaith hono. Ond wele y gair cyntaf allan o enau y pregethwr ! Llyfr y Di-ar-heb- ion, y bed-war-edd ben-od, a'r ddau-naw-fed ad-nod. "Ond llwybr y cyfiawn sydd fel y gol-eu-ni, yr hwn a lew-yr-ch-a fwy fwy hyd gan-ol dydd." Cynwysai y bregeth athrawiaeth, duwinyddiaeth, a barddoniaeth, a mwy o'r diweddaf nag a glywswn mewn pregeth erioed cyn hyny. Ei fater ydoedd-Cynydd bywyd y Cyfiawn, soniai am ddeddf cynydd, a threuliodd amser hir i ddarlunio fel yr oedd gwahanol wrthrychau natur yn ufuddhau i'r deddfau, a osododd y Creawdwr iddynt. Cyferiai at yr haul a'r lleuad, y ser a'r planedau, eu maintioli, cyflymder eu symudiadau, ac fel yr oeddynt yn cadw eu cylchoedd a'u "hamseroedd nodedig." Rhoddodd ddarluniad brawychus o'r mellt a'r taranau, nes oedd y gwrandawyr bron a dychmygu eu bod yn gweled y mellt yn fflachio, ond meddai, Mae Duw yn "gwneud ffordd i fellt y taranau." Yna dywedai am y gwynt, mor ddilywodraeth yr ymddangosai i ni, ond fod y gwynt ystormus yn gwneuthur ei air ef." Ei ddarluniad o'r môr oedd y mwyaf barddonol. Nid oeddwn wedi gweled môr erioed, ond teimlwn fy mod yn ei weled y noson hono. Yr wyf wedi byw yn ei olwg bob dydd bellach, er's llawer o flynyddoedd. Ond bron nad wyf yn credu fod y darlun a gefais o hono yn y bregeth gan Hwfa Mon, yn ei ddangos yn llawn mor fawreddog, ag y gwelais ef o gwbl. Da fuasai genyf allu rhoddi y desgrifiad yn ei eiriau ef ei hun. Yr oedd rywbeth i'r cyfeiriad a geir ganddo yn ei Awdl "Y flwyddyn."

Dyfnderaw chwyddog, yn foriog ferwant,
A'u glafoerion trochionnawg lifeiriant,
Hyd yr uchelion yn wyrddion hyrddiant,
Goruwch anwfn yn wyllt y gwreichionant;
A thwrw y bytheiriant, erch ryfel
A than yr awel bygythion ruant!

Wedi y darluniad mor rymus, yr adroddai eiriau yr ysgrythyr— "Pan osododd efe ddeddf i'r môr, ac i'r dyfroedd, na thorrent ei orchymyn," "Ti wyt yn llywodraethu ymchwydd y môr; pan gyfodo ei donau, ti a'u gostegi." Disgynai i gywair is a newidiodd ei dôn wedi hyny, a chafwyd ganddo ddarluniad swynol a thlws dros ben o'r gwlaw "Y cynar wlaw, a'r diweddar wlaw, a gwlaw mawr ei nerth," ac fel yr oedd pob dyferyn a ddisgynai o'r cwmwl yn cadw ei ddeddf. "Pan wnaeth efe ei ddeddf i'r gwlaw." Cyfeiriodd wedi hyny at yr anifeiliaid, y bwystfilod, y pysgod, a'r adar asgellog; a dangosai fel yr oedd y Creawdwr wedi gosod terfynau i'r naill a'r llall, a phob un yn cadw ei le.

Pregthodd gydag egni cawr, nes oedd ei chwys yn llifo, rhedai ar hyd ei fochgernau, a dihidlai oddiwrth ei wallt llaes. Pan yn nghymdogaeth y deg ar y gloch, terfynodd gyda haner dydd y cristion gan adael y gynulleidfa mewn synedigaeth ddieithriol. Mawr fu y siarad am ei bregeth ar ol hyny, a hwn a'r llall yn holi pa bryd yr oedd y dyn odd hwnw yn dyfod yno drachefn. Bu "Y Beirniaid" fel yr adnabyddid hwy, yn mesur ac yn pwyso y bregeth. Yr oedd yno ddau yn arbenig a gyfrifent eu hunain yn oraclau, a materion dyrys, rhyw ddirgeledigaethau fyddai ganddynt yn wastad dan sylw. Nid oedd y naill na'r llall yn aelodau eglwysig. Mynychai un ddwy eglwys, un AR y plwy a'r llall YN y plwy. Disgybl y dorth oedd efe yn y gyntaf, a disgybl "Y Pynciau" yn yr ail. Yr oedd y naill yn Armin rhonc a'r llall yn Galfin eithafol. Yr oedd pregeth Hwfa yn rhy Galfinaidd gan yr Armin. Nid oedd sicrwydd y cyrhaeddai yr haul i'w ganol dydd, gallai ddisgyn yn ol saith o raddau, o leiaf ar ddial y Cristíon, canys yr oedd y "gair" yn dweyd. Mai "seithwaith y syrth y cyfiawn, ac efe a gyfyd drachefn." Mynai y Calfin fod hyny yn amhosibl. Yr oedd yn fwy cyfleus iddo ef i gredu mewn "rhad ras" na gweithredoedd. Bu dadleu a beirniadu pwysig ar Hwfa Mon ar ol yr oedfa hono. Ond cytunai pawb Ei Fod yn Ddyn ar ei Ben ei Hun.

Gwrandewais lawer arno wedi hyny, yn ystod y deugain mlynedd diweddaf, yn enwedig y blynyddoedd y bu yn gweinidogaethu yn Mon., Nid oedd odid bregethwr a elwid yn amlach i gymeryd rhan yn uchelwyliau ei enwad. Ac fel pob pregethwr, yr ydoedd weithiau yn uwch ac weithiau yn is. "Nid oes yr un cloc" fel y dywedai "Ap Vychan" "yn taro deuddeg bob tro." Cafodd lawer o oedfaon nerthol ac effeithiol, a rhai o honynt yn ysgubol. Clywais yr hen bobl o'r lle hwn, yn son llawer am oedfa a gafodd yma, ar foreu Sabbath, flynyddoedd lawer yn ol, pryd y pregethai ar weddi ddirgel. Dywedir iddi dori allan yn orfoledd mawr ar ganol yr oedfa. Gallaf nodi rhai o'r testynau y clywais ef yn cael oedfaon nerthol wrth bregethu arnynt, megis y drydedd Salm ar hugain. Byddaf fel gwlith i Israel &c." "Yr Arglwydd a grea ar bob trigfa o fynydd Seion &c," Minau nesau at Dduw sydd dda i mi &c." a "Ffydd, gobaith, cariad."

Pregethai yn Nghymanfa Mon a gynhelid yn Amlwch, haf y flwyddyn 1874, a chyda llaw, gallaf grybwyll mai efe oedd yr olaf a symudwyd o'r chwech a bregethai yn y Gymanfa hono, Sef y Parchn R. Thomas (Ap Vychan) J. Thomas D.D., Herber Evans, R. S. Williams, Bethesda, a J. T. Evans, Caerfyrddin.

Yr oedd Hwfa Mon yn pregethu am Saith foreu yr ail ddydd. Rhoddwyd ef i bregethu ar yr awr hono fel y caffai yr amser i gyd. iddo ei hunan, a hefyd er mwyn sicrhau cynulleidfa dda. Ac yr oedd y capel eang yn llawn. Sylwasom fod yno amryw wedi dyfod ar awr mor foreu, o mor bell a Llanerchymedd.

Y drydedd Salm ar hugain oedd ei destyn, y boreu hwnw. Cof genyf ei fod yn helaethu ar y pwys o gael gwybod yr amgylchiadau dan ba rai y cyfansoddwyd Salmau, Hymnau, ac Odlau ysbrydol," fod hyny yn ychwanegu at eu dyddordeb. Yna rhoes ddarluniad of Ehedydd Ial" yn croesi y mynydd du, rhwng y Wyddgrug a Rhuthyn, mewn ystorm o fellt a tharanau, nes oedd esgyrn y mynydd yn clecian, ac mai yn yr amgylchiadau hyny y cyfansoddodd yr emynau. "Er nad yw'm cnawd ond gwellt &c." Yna wedi rhagymadroddi deugain munud-dywedai, "Cawn sylwi ar y Salm bob yn frawddeg." Yr oedd yr Hybarch Mr. Griffith, Caergybi, yn eistedd ar ei gyfer, yn y set fawr, gwelwn yr henafgwr parchedig yn estyn ei law at y Beibl oedd ar y bwrdd, a dechreuodd gyfrif y brawddegau, ac yna trodd i edrych yn awgrymiadol ar y cloc. Mewn rhyw fan ar y bregeth dywedodd sylw a gariodd ddylanwad mawr. Darluniai y tan-suddwr (diver) yn myned i lawr i'r dyfnderoedd ar ol y wreck, ac yn dyfod i fyny a darn o'r wreck, gyd ag ef, yn profi iddo fod yn y gwaelod. Yna dywedai am yr Iesu yn myned i'r gogoniant, a'r lleidr edifeiriol gyd ag ef, yn dangos iddo fod yn y gwaelod-yn y dyfnderoedd. Yr oedd hono yn un o'i oedfaon mwyaf grymus, ac yr oedd yn un o'r rhai hwyaf o'i eiddo. Yr oedd y pregethwr yn nghanol ei afiaeth, pan lifai y tyrfaoedd i'r maes at yr oedfa haner awr wedi naw. A'r dyrfa oedd yn y capel yn rhuthro ar eu cythlwng i chwilio am ryw damaid, gan ei bod yn amser myned i'r oedfa arall.

Pregethodd drachefn ar y maes am ddau y prydnawn, ei fater ydoedd:-Yr arch, ei gwrhydri a'i rhyfeddodau; pryd y daeth heibio i dy Obed-Edom, a Duw yn ei fendithio er mwyn yr arch. Rhoddai un sill yn rhagor at enw Obed-Edom, a dywedai Obed-Ed- Edom "Obed-Ed-Edom, dyna i chwi air tlws, Obed-Ed-Edom, mae o fel y diliau mel, Obed-Ed-Edom, mae o yn goglais clustiau y cerdd-or-ion yma. Obed-Ed-Edom, yr oedd gwartheg Obed-Ed- Edom yn brefu Hosanna, a'r merched wrth eu godro, dip, dip, dip, dim diwedd ar eu llaeth. Yr oedd yd Obed-Ed-Edom yn edrych dros y cloddiau, ac yn dweyd-welwch chwi ni, ŷd Obed-Ed -Edom." Buasai yn dda genyf allu cofio ei ddesgrifiad o'r arch yn Nhy Dagon. "Ac wele, Dagon, wedi syrthio i lawr ar ei wyneb, ger bron arch yr Arglwydd, a phen Dagon, a dwy gledr ei ddwylaw, oedd. wedi tori ar y trothwy, corph Dagon yn unig a adawyd iddo." Yr oedd yn humorous nodedig, yn darlunio y Philistiaid yn gosod eu duw yn ei le drachefn, ac yn myned yno boreu dranoeth, ac er dirfawr syndod, wele Dagon y boreu hwnw, mewn gwaeth cyflwr nag o'r blaen, Crac yn ei ben, crac yn ei ddwylaw, crac ar ei draws, a chrac ar ei hyd, teyrnas y craciau."

Ni chynygiaf wneud elfeniad manwl o'i gymeriad fel pregethwr, mae hyny allan o'm cyrhaedd. Nid oedd ef mwy na rhyw bregethwr arall i fyny a safon beirniadaeth pob un. Clywais rai oeddynt wedi ei bwyso yn eu clorianau, yn dweyd yn ddifloesgni ddarfod iddynt eu gael yn brin. Ond pa le y ceir clorianau beirniadaeth anffaeledig gywir? Mae rhagfarn yn dylanwadu ar rai, ac y mae llawer yn dibynu ar chwaeth a galluoedd. Rhaid cael athrylith i werthfawrogi athrylith. Dylai y bach yn enwedig fod yn ochelgar a phwyllus wrth anturio mesur a phwyso un mwy nag ef ei hun. Eto, ceir rhai o'r cyfryw yn ddigon rhyfygus i gynyg pwyso mynyddoedd mewn pwysau. Mynydd o athrylith oedd Hwfa Mon.

Dywed Dr. Burrell, New York, fod nifer o frodyr yn ymddyddan a'u gilydd am y diweddar bregethwr byd-enwog Dr. Talmage. Beirniadent ef yn rhydd iawn, a nodweddid ef gan rai o honynt fel " buffon," eraill fel "sensationalist," a'r lleill fel Mountebank." Yr oedd yr hen weinidog enwog a duwiolfrydig; Dr. Cuyler yn clywed yr ymddyddan, a throdd atynt, gan ddywedyd "Foneddigion, nid ydym yn ddigon mawr i siarad mor rhydd a hyn am Dr. Talmage. Gwn ei ddiffygion, wedi bod yn gymydog iddo am flynyddau, and he is head and shoulders above us all." Bu rhywun yn ddigon eithafol i alw pregethau Dr. Owen, tywysog y duwinyddion yn "Continent of mud." Ni ddeallais fod mwy o feirniadu ar Hwfa Mon, na rhyw bregethwr poblogaidd arall, ond pe buasai, ni fuasai i'w ryfeddu, gan ei fod gymaint ar ei ben ei hun, ac mor wahanol i bawb arall, o ran ei arddull.

Yr ydoedd ei bresenoldeb urddasol, gwreiddioldeb ei arddull, a'i hyawdledd fel areithydd yn driawd pwysig yn mhlith y pethau oedd yn cyfrif am ei boblogrwydd. Cydnabyddwyd ef yn dywysog yn mhlith areithwyr penaf y genedl. Priodol y gellir cymhwyso ato, y darluniad a rydd ef ei hun, o'r hwn y cydnabyddir yn gyffredinol ei fod yr areithydd penaf fu yn y pwlpud Cymreig.—

"Llunia yn deg ei frawddegau,—a doeth,
Y deil ddôr ei enau;
A phob gair, heb goegair gau,
A fesur a'i wefusau."

Tebyg na bu yr un pregethwr yn ein gwlad yn gyfoethocach o iaith nag ef. Yr ydoedd yn feistr perffaith ar eiriau, yr oeddynt yn ddarostynedig iddo, ac at ei alwad, i wneud fel y mynai a hwy. Deallodd ei wrandawyr ystyr llawer gair, na ddeallwyd ganddynt o'r blaen, wrth ei glywed ef yn ei barablu. Yr oedd ynddo y fath ystwythder fel siariadwr, ei wefusau mor denau, fel y gallasai nyddu geiriau, a'u plethu i'r ffurf a ewyllysiai. Ac yr oedd ei iaith yn wastad yn goeth, geiriau detholedig, pur a diledryw fyddai ganddo. Prin yr oedd raid i'r pregethwr hwn chwilio am eiriau cymeradwy," yr oeddynt fel pe buasent yn cymell eu hunain iddo mewn cyflawnder. Bendithiwyd ef hefyd a chyflawnder o lais, a hwnw yn glir a threiddgar, a gwnaeth ddefnydd helaeth o hono, yr oedd ei nerth corphorol yn caniatau hyny. Meddyliodd rhai am dano yn anterth ei ddydd, y buasai ei lais yn pallu, os cawsai fyw i fyned yu hen. Cafodd fyw i oedran mawr, ond parhaodd ei lais yn gryf a chlir, bron i'r diwedd. Gallesid yn ei flynyddoedd diweddaf, glywed ei lef hyd yn mhell, pan y pregethai, neu y safai ar y "Maen Llog." Meddai berffaith lywodraeth ar ei lais, fel y gallai ei godi a'i ostwng pryd y mynai, ac fel y mynai. Amrywiai ei lais yn ol ei ewyllys, i gyfateb i'r mater fyddai ganddo dan sylw. Esgynai i fynydd y "Gwynfydau " a llefarai yn esmwyth a thyner, bryd arall safai ar Sinai, a cheid clywed swn yr ystorm yn ei leferydd, nes y byddai y gwrandawyr yn ofni ac yn crynu.

Yr oedd ei safiad yn y pwlpud yn urddasol, safai yn syth, fel nad oedd berygl i'r meginau a'r peirianau llafar gael cam. Nid oedd ei draed yn cynyg ysgog" o'r un man, er fod ei gorph a'i ben a'i ddwylaw yn symud. Dechreuai mewn cywair isel, ond yn glir, gan dori ei eiriau yn groew, a gallaf eto gyfeirio at yr hyn a ddywed ef yn ei Englynion i John Elias, ai gymhwyso yn dra phriodol ato ef ei hun—

"Geiriai ei destyn rhagorol,—yn glws,
Yn glir a phwysleisiol;
Seiniaw pob gair yn swynol,
Oll a wnai heb sill yn ol."

Llefarai yn bwyllus ac arafaidd ar y dechreu, ond nid oedd byth yn drymaidd a llusgedig. Byddai rhywbeth yn ei aceniad a'i bwysleisiad, i ddeffro sylw, ac i greu sirioldeb, ar y cychwyn; ac yr oedd ei ragymadrodd mor ddyddorol, fel na welid llygaid yn gwibio, na gwrandawr yn gapio. Condemnid ef gan rai am fanylu yn ormodol, ond yr oedd ef yn medru gwneud hyny yn ddyddorol, ac heb ddiflasu y gynulleidfa.

Ceid ynddo nodau yr "areithiwr hyawdl." Yr ydoedd ei agweddau (gesture) yn deilwng o'r areithyddiaeth aruchelaf. Nid oedd dim yn ei ystumiau yn ymylu ar fod yn ddichwaeth, ac anaturiol. Weithiau, byddai yn ddistaw am ychydig, a llefarai wrth y gynulleidfa drwy ei symudiadau corphorol, a gwnai hyny, fel y deallent of mor berffaith a phe dywedasai wrthynt mewn geiriau. Fel y dywedir am Elias o Fon, fod—

"Hyd yn nod ei atal dywedyd
Yn gyfrwng o hyawdledd cu."

gellir dweyd am Hwfa Mon, fod agwedd ei gorph, ysgydwad ei ben, a symudiad ei law, yn llefaru yn effeithiol. Os am blanu y soniai, yr oedd mor naturiol a hwylus yn darlunio y planwr, nes oeddych. fel yn gweled y gweithiwr wrth ei orchwyl yn y blanhigfa. "Paul yn planu." "Dyma blanwr!" meddai, "Y mae ambell blanwr fel pe byddai gwenwyn yn myned oddiwrth ei ddwylaw i'r ddaear, at wraidd y pren." Os soniai am bysgota, ceid ei weled yn ymaflyd yn yr enwar, ac yn taflu y line, unwaith, dwywaith, mor gelfydd, nes oeddych bron a dychmygu gweled y bluen yn disgyn ar y dwfr.

Mae rhai yn proffesu bod mor feddylgar, fel nad ydynt yn gofalu dim am lais, na dawn, na dull y pregethwr, ond iddynt gael mater. Os oes rhywrai i'w cael nad oes gan areithyddiaeth ddylanwad arnynt, prawf o ddiffyg yw hyny. Ceisiai rhyw lanciau direidus yn y Chwarel, argyhoeddi yr hen bregethwr diniwed Elias Morris, Bettws y Coed, ei fod cystal pregethwr a Hiraethog "I'e" ebai yntau "ond fod ganddo ef ryw ffordd o ddeud." Yr oedd gan Hwfa Mon "ffordd o ddeud" hollol ar ei ben ei hun, a theilwng o'r athrylith ddisglaer a gafodd.

Yr oedd ganddo drefn a chynllun yn ei bregethau. Pregeth heb gynllun, nid yw ond rheffyn o eiriau, neu gasgliad o frawddegau, tebyg i'r mob yn Ephesus, y rhai "ni wyddent o herwydd pa beth y daethent yn nghyd." Ymddangosai i rai weithiau fel pe buasai yn myned yn bell oddiwrth ei fater, ac yn dweyd pethau amherthynasol, ond camgymeriad fuasai tybied hyny am dano. Mae yn nodweddiadol o athrylith ei bod yn fynych yn cymeryd wib, tra mae talent fechan yn troi mewn cylch bychan, yn yr un man, fel ceffyl malu barc.

Gallaswn hefyd grybwyll am yr humour oedd ynddo, yr ydoedd yn llawn o hono. A phrofedigaeth un felly ydyw ei gamddefnyddio. Ond ymgadwodd ef yn rhagorol, heb fod yn euog o hyny. Mae rhai yn eithafol wrthwynebol rhag gwneud unrhyw ddefnydd o hono yn y pwlpud, mae eraill yn barnu y gellir gwneud defnydd cyfreithlon o hono er mantais i'r gwirionedd. Mae rhai o'n prif bregethwyr wedi gwneud hyny. A'r rhai mwyaf medrus i gynyrchu gwên ddymunol, fel rheol, ydyw y rhai a wyddant oreu ffordd y dagrau hefyd. Ond y mae ysmaldod a chellwair yn anheilwng o'r lle cysegredig y saif y pregethwr ynddo.

Heb ymhelaethu, gallaf grybwyll fod y gwrthrych wedi etifeddu y pethau y cyfeiriais yn fyr atynt, yn nghyd a phethau eraill allesid enwi, yr hyn a barai iddo gael ei ystyried yn Dywysog a gwr mawr fel Pregethwr. Cefais lawer o gyfleusderau i ymgydnabyddu ag ef, fel dyn a phregethwr, fel dyn yr oedd yn un o'r rhai mwyaf diniwed, a llawnaf o garedigrwydd, a adwaenais erioed. Nid diffyg manteision. i'w adnabod yn well, ydyw y rheswm na allaswn ysgrifenu yn well am dano. A diau y gwneir hyny gan frodyr mwy profiadol a galluog.

Bydd ei enw fel bardd a llenor, ac fel pregethwr a darlithydd, mewn bri, tra parhao iaith, llenyddiaeth, a chrefydd Cymru.



Nodiadau[golygu]