Cofiant Hwfa Môn/Pennod XI

Oddi ar Wicidestun
Pennod X Cofiant Hwfa Môn

gan Robert Peris Williams


golygwyd gan William John Parry
Pennod XII


Pennod XI.

EI FARWOLAETH AI GLADDEDIGAETH.

GAN Y PARCH. R. PERIS WILLIAMS, WREXHAM.

"Natural death is, as it were, a haven and a rest to us after long navigation. And the noble soul is like a good mariner; for he, when he draws near the port, lowers the sails and enters it softly with gentle steerage. . . . And herein we have from our own nature a great lesson of suavity, for in such a death as this there is no grief nor any bitterness: but as a ripe apple is lightly and without violence loosened from its branch, so our soul without grieving departs from the body in which it hath been.

GELLIR, gyda phriodoldeb, gymwyso y dyfyniad uchod o gyfieithiad Dr. Carlyle i'r Saesneg o Convito Dante, at ymadawiad Hwfa Mon a'r fuchedd hon. Aeth ymaith fel llestr yn myned i'r hafan ar ol mordaith hir.

Bu yn bur wael ychydig amser cyn symud o Langollen i fyw i Rhyl; tybiai ef ac eraill fod ei adferiad yr adeg hono yn dra ansicr, pa fodd bynag, cefnodd ar yr afiechyd hwnw, a chafodd fwynhau iechyd lled dda drachefn, er fod yn amlwg nad adferwyd iddo y nerth oedd wedi ei golli. Yr oedd y gwaeledd hwnw wedi rhoddi mantais iddo i sylweddoli yr amgylchiad y gwyddai nad oedd yn mhell iawn oddiwrtho, a sylwai ei gyfeillion ei fod fel pe yn deimladwy yn barhaus ei fod ar fin byd arall.

Ar y 14eg o Fedi 1905 y tarawyd ef yn wael o'r cystudd olaf. Wedi symud i fyw i Rhyl arferai fyned yn ddyddiol am dro i'r Promenade, ac yn ol ei arfer, aeth foreu y diwrnod y cymerwyd ef yn wael, ac eisteddodd ar fainc yn ymyl y traeth, i wylio y plant yn chwareu yn y tywod ar fin y mor; byddai wrth ei fodd yn edrych arnynt yn adeiladu eu cestyll, yn nofio eu llongau a'u cychod, ac yn ymdrochi ar lan yr heli. Daeth yn sydyn yn gawod o wlaw, prysurodd yntau tua chartref; gwelwyd ef yn y gwlaw yn cyfeirio tua Llys Hwfa gan un o gerbydwyr y Rhyl, yr hwn a'i cododd i'w gerbyd ac a'i dygodd at ddrws y ty. Treuliodd y prydnawn wrth y tân yn ei study; tua phump o'r gloch dywedodd wrth Miss Nellie Hwfa Roberts (ei nith) ei fod yn teimlo yr rhyfedd iawn, a'i fod am fyned i'w wely. Yr oedd mor llesg fel y cymerodd, er iddo gael help ei nith, dros haner awr i fyned i fyny y grisiau i'w ystafell. Erbyn deg o'r gloch y noswaith hono yr oedd yn bur wael a danfonwyd am y meddyg—Dr. Hughes Jones—yr hwn wedi ei weled a ganfu ei fod yn dyoddef oddiwrth inflammation of the lungs. Gwaethygodd wedi hyn, a bu raid cael professional nurse i ofalu am dano. Yn mhen oddeutu tair wythnos yr oedd ychydig yn well, ond cyn diwedd mis Hydref yr oedd gryn lawer yn waeth drachefn. Un diwrnod wedi iddo fod yn holi y meddyg a'r nurse ynghylch ei waeledd, ac iddynt hwythau roddi iddo atebion calonogol, gofynodd i'w nith "Nellie beth wyt ti dy hun yn ei feddwl? A wyt ti yn meddwl fy mod am wella?" Wedi i Miss Roberts ei ateb yn gadarnhaol, torodd yntau i wylo yn hidl, a gweddiodd am gymorth i oddef y cystudd. Yr oedd yn gwbl dawel gyda golwg ar yr ochr draw, eto yr oedd yn amlwg ei fod yn ymwybodol o newydd-deb a mawredd rhamantus yr amgylchiad. Llwyddwyd i'w godi i eistedd mewn cadair rhyw bythefnos cyn ei ymadawiad, ond wedi bod yn eistedd ynddi am tua chwarter awr yr oedd yn dda ganddo gael myned yn ol i'w orweddle. Un diwrnod efe a roddodd" fel Joseph "orchymyn am ei esgyrn." Gofynodd i'w nith drefnu iddo gael ei gladdu yn mynwent newydd y Rhyl, yn hytrach nag yn mynwent Seion Treffynon lle y claddwyd ei briod, ac hefyd lle y claddwyd Miss Roberts fu yn cadw ei dy wedi marwolaeth ei briod. Gofynodd hefyd i'w nith, i ofalu am roddi rhyw gydnabyddiaeth i'r cerbydwr a'i dygodd adref y diwrnod y cymerwyd ef yn wael.

Talwyd ymweliad ag ef yn ystod ei gystudd gan amryw o'i hen gyfeillion, a'r hyn roddai iddo fwy o foddhad na dim a glywai ganddynt, oedd y newyddion da a ddygent iddo ynghylch y Diwygiad Crefyddol yn ngwahanol ranau y wlad. Wylai fel plentyn ar ol iddynt ymadael, yr oedd hyny yn effeithio arno yn ei wendid fel y bu raid i'r meddyg wahardd i neb ei weled. Yr oedd yn graddol wanhau o ddydd i ddydd, a chan iddo gael ei daraw gan paralysis yn y gwddf, analluogwyd ef i lefaru ond yn bur aneglur; yr oedd ei feddwl hefyd ar brydiau yn ddyryslyd, ond yn ei ddyryswch yr oedd yn nghanol ei waith, yn darparu i fyned i'w deithiau i bregethu, ac yn trefnu ar gyfer yr Eisteddfod, &c. Nid agorodd ei lygaid, ac ni cheisiodd ddweyd gair o'r Nos Fawrth olaf y bu byw, hyd brydnawn dranoeth. Oddeutu tri o'r gloch ddydd Mercher gofynodd ei nith iddo Fewyrth bach, sut yr ydych yn teimlo? Nellie sydd yma hefo chwi. Oes arnoch chwi ddim ofn ai oes?" Ni chymerai sylw am beth amser o'r hyn ddywedai, ond yn sydyn agorodd ei lygaid ac edrychodd, a chyda gwên nefolaidd ar ei wyneb, ceisiodd lefaru. Yr oll ellid ei ddeall o'r hyn ddywedai oedd Nellie bach, O! 0!! hapus! hapus!! hapus!!!" Torodd Miss Roberts i wylo, ceisiodd yntau amneidio arni i beidio, ac yna cododd ei law, a dywedodd yn hyglyw "I fyny, I fyny." Dywedodd Miss Nellie wrtho "Yr ydych yn hapus iawn, fewyrth" ac atebodd yntau "Fu neb erioed yn fwy hapus." Wedi hyny, aeth i ffwrdd yn raddol; anadlai yn wanach a byrach, hyd nes, heb ymdrech na llafur, yr hunodd yn yr Iesu, am ddau o'r gloch boreu dydd Gwener, y 10fed o Dachwedd. Derbyniwyd y newydd am ai ymadawiad gyda galar cyffredinol. Brithid y wasg a chyfeiriadau helaeth at ei farwolaeth. Dydd Mawrth y 14eg., oedd diwrnod ei angladd a gallesid dweyd wrth yr olwg oedd ar dref Rhyl fod rhywbeth mawr yn cymeryd lle yno y diwrnod hwnw. Yn gynar ar y dydd gwelid cerbydau a motor cars arglwyddi a boneddigion y fro yn olwyno tua Llys Hwfa, a dygent dorchau o flodau tlysion a bytholwyrdd yn fud dystion o barch i goffadwriaeth y gwr hyawdl oedd wedi tewi. Haner awr wedi un ydoedd yr adeg i gychwyn yr angladd, ond ymhell cyn yr amser yr oedd tyrfa o gyfeillion ac edmygwyr yr ymadawedig, yn wyr, gwragedd, a phlant, yn cynrychioli gwreng a bonedd, addysg, llenyddiaeth, gwleidyddiaeth, a chrefydd y wlad wedi ymgasglu i River Street. Gweinyddwyd yn y ty, gan y Parch Thomas Evans, Amlwch, drwy ddarllen rhanau o'r Beibl, a gweddio yn dyner a dwys. Yna dygwyd allan yr arch o dderw caboledig yn cynwys yr hyn oedd. farwol o'r prifardd. Yr ysgrifen ar yr arch oedd :—

"PARCH ROWLAND WILLIAMS.

(HWFA MON).

Bu Farw 10fed o Dachwedd, 1905.

Oed 83."

Yr oedd cynifer o wreaths wedi eu danfon fel nad oedd yn bosibl rhoddi ond ychydig o honynt ar yr arch. Wele restr o'r rhai ddanfonasant dorchau o flodau:—Arglwydd ac Arglwyddes Mostyn; yr Arglwyddes Augusta Mostyn; Yr Anrhydeddus Filwriad a Mrs. Henry Lloyd Mostyn; Yr Arglwyddes Pyers Mostyn, Talacre; Miss Harens, Llundain; Nurse Marie Anwyl; Miss Nellie Hwfa Roberts (yr hon a weinyddodd yn dyner a gofalus ar Hwfa hyd y diwedd); Cymdeithas Cymry Caer; Mrs. Bulkeley Owen "Gwenrhian Gwynedd" (mam Arglwydd Kenyon), Mrs. Lawrence Brodrick, "Gwendolen ; Y Proffeswr Hubert Herkomer, R.A.; Mrs. J. Emlyn; Mr. H. R. Hughes a theulu Kinmel Hall; Dr. Owen Prichard, Llundain; Mr. a Mrs. E. O. V. Lloyd, Rhaggat; ac hefyd. oddwrth ychydig o Gatholiciaid Llundain.

Wedi i Mr. Hugh Edwards "Huwco Penmaen," a Mr. T. Whitley yr undertaker hysbysu a threfnu yr orymdaith, cychwynwyd tua Chapel Queen Street, fel y canlyn:—

1, Y Meddyg; 2, Diaconiaid Eglwys Gynulleidfaol Queen Street; 3, Gweinidogion a Phregethwyr y dref; 4, Cynrychiolwyr Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol, a Chymdeithas Y Cymrodorion; 5, Aelodau y Cynghor Trefol; 6, Yr Elorgerbyd; 7 Y Perthynasau; 8, Gweinidogion a Phregethwyr; 9, Cerbydau; 10, Y Cyhoedd. Y Perthynasau yn yr angladd oeddynt Miss Nellie Hwfa Roberts; y Parch. R. Mon Evans; Dr. Owen Prichard, Llundain; Nurse Marie Anwyl; y Parch. R. A. Williams (Berw), Mr. a Mrs. Williams, Prestatyn; a Mrs. W. Roberts, Llanddulas. Ymhlith y dorf o weinidogion ac eraill yn bresenol sylwasom ar y personau canlynol:—Y Parchn Henry Rees, Bryngwran; J. Cadvan Davies, Aberystwyth; Thomas Edwards, (Gwynedd), Aber; Dr. Owen Evans, Liverpool; Dr. Oliver Treffynon; T. Roberts, Wyddgrug; T. Shankland, Bangor; William Hugh Evans; S. T. Jones; W. O. Evans, R. Richards, J. Roberts, R. Curry, J. Pandy Williams, R. Hughes, J. Knowles Jones, Rhyl; Dr. Pan Jones, Mostyn; James Charles, Dinbych; R. Peris Williams, Gwrecsam; J. O. Williams (Pedrog), Liverpool; T. Evans, Amlwch; O. L. Roberts, Liverpool; D. Rees, Capel Mawr; J. Myrddin Thomas; Ben Williams; M. F. Wynne; Ezra Jones, Prestatyn; Thomas Jones, Dinbych; W. James, Sarn; D. Wynne Evans, Caer; T. H. Jones, Seion Treffynon; H. Parri, Rhosymedre, David Jones, Rhuthyn; Mri. J. W. Jones, Y.H., Rhyl; W. J. Parry, Y.H., Bethesda; Thomas Jones, Y.H., Gwrecsam; Joseph Edwards, Gwrecsam; W. Hughes, Y.H., Dolgellau; J. Thomas (Eifionydd), Caernarvon; E. Vincent Evans, Llundain; L. J. Roberts, M.A., Rhyl; E. Lettsome, Llangollen; Christopher Williams, Arlunydd; Pierce Davies a J. Pritchard, Abergele; William Roberts, Dinbych; ynghyda Mri. Arthur Rowlands "Ab Uthr"; Richard Jones, Robert Oldfield, a T. Whitley (diaconiaid Eglwys Queen Streot) a lluaws mawr eraill.

Wedi cyrhaedd y capel, yr hwn yn fuan a orlanwyd, rhoddodd y Parch. Thomas Roberts, Wyddgrug, yr hwn a lywyddai y gwasanaeth, un o emynau Hwfa allan i'w ganu "Gras o'r orsedd fry a redodd" &c. Yna darllenodd y Parch. Dr. Oliver, Treffynon, Salm xc. a gweddiodd yn effeithiol iawn. Y Parch. T. Roberts a sylwodd fod symudiad y bardd wedi peri i'r genedl deimlo, a hyny mewn modd mwy cyffredinol nag oedd yn cael ei arddangos yn y cynulliad hwnw, oblegid yr oedd lluaws o lythyrau wedi eu derbyn oddiwrth amryw bersonau yn datgan eu hanallu i fod yn bresenol. Yn eu plith yr oedd Mr. J. Herbert Lewis, A.S., Mr. J. Herbert Roberts, A.S., Syr T. Marchant Williams; Mr. P. Mostyn Williams; y Prifathraw Probert, D.D., y Parchn. Dr. Abel J. Parry, W. Foulkes, Llangollen; H. Elvet Lewis, Llundain; D. Williams, Llangollen; y Proffeswr J. M. Davies, Bangor; Mri Alltwen Williams; T. H. Thomas (Arlunydd Penygarn); Dr. Drinkwater, Dr. Parry, ac amryw eraill drosodd. Yr oedd eglwysi Bagillt; Brymbo; Queen Street, Gwrecsam; Bethesda; y Tabernacl, King's Cross, Llundain; a Llangollen lle y bu "Hwfa Mon" yn gweinidogaethu a Smyrna Llangefni, lle y dechreuodd bregethu wedi pasio penderfyniadau yn datgan teimlad o golled, trwy ei farwolaeth, a chydymdeimlad a'i berthynasau.

Yn ddiweddarach daeth y llythyr canlynol i law mewn attebiad i air ddanfonwyd i hysbysu y Brenin Edward VII. am farwolaeth yr Archdderwydd:—

Windsor Castle


"The Private Secretary is commanded by the King to thank the Rev. R. P. Williams for his letter of the 14th instant and to say that His Majesty hears with deep regret the news of the death of the Venerable Archdruid of Wales. the Reverend Rowland Williams (Hwfa Mon).

"The King would be glad if the Rev. R. P. Williams would convey the expression of His Majesty's sincere sympathy with Hwfa Mon's relations on the loss they have suffered by the death of the Archdruid of Wales, for whom the King had a great regard.

16th Nov., 1905."


Mr. W. J. Parry, Bethesda, a alwyd i siarad yn gyntaf, dywedodd ei fod wedi dyfod yno y diwrnod hwnw i gladdu un o'i hen gyfeillion, cyfaill oedd wedi parhau yn ffyddlon am dros ddeugain mlynedd. Nid oedd yn gwybod a oedd ganddo elyn; ond os oedd, yr oedd efe yn sicr na chlywodd mo Hwfa Mon erioed yn dweyd gair gwael am neb. Ni fethodd erioed a llenwi un cylch cyhoeddus yr ymgymerai ag ef, gwnai hyny yn anrhydeddus, yn y pulpud, ar y llwyfan, yn yr orsedd ac yn yr Eisteddfod. Chwith iawn ganddo feddwl eu bod yn claddu un oedd mor anwyl ganddynt. Y Parch. J. Pandy Williams, Rhyl, a ddywedodd eu bod yn ddiau, yn rhoddi i orwedd yn y bedd y diwrnod hwnw un o enwogion y genedl a'r wlad. Fel brawd a chyfaill cafodd ef bob amser yn siriol a charedig yn llawn cydymdeimlad, ac yn gefnogol iawn yn ei ysbryd a'i ymadrodd i'w gwneyd yn well a chryfach i wynebu eu dyledswyddau ar ol hyny. Y tro diweddaf y cafodd yr hyfrydwch o siarad ag ef, y Diwygiad oedd testyn yr ymddyddan. Yr oedd ei ysbryd yn llawn gwres, a dywedodd ei fod yn ddiolchgar am y dylanwad nerthol a deimlid yn y wlad. Teimlai yn sicr mai nid amser i feirniadu ydoedd, ond i weddio, canu, a gorfoleddu, am fod yr Arglwydd yn gwneyd i ni bethau mawrion. Fel pregethwr yr oedd tlysni a phrydferthwch ei frawddegau, gwelediad clir ei deall, cyflymder a threiddgarwch ei ddychymyg yn ei wneyd yn un o bregethwyr mwyaf poblogaidd ei oes. Fel llenor a bardd yr oedd yn y rheng flaenaf, a bydd ei lafur a'i wasanaeth yn aros.

Y Parch. R. Richards, yr hwn a gynrychiolai Eglwysi Rhyddion, Rhyl, a ddywedodd fod yr Eglwysi hyny yn cydymdeimlo yn fawr â theulu y diweddar Hwfa Mon, a'r Enwad Anibynol. Yr oeddynt yn teimlo yn falch ei fod wedi dyfod i fyw i Rhyl; yr oedd wedi rhoddi mwy o enwogrwydd ar y lle am ei fod wedi dyfod yno. Yr oedd rhyw urddas yn ei bresenoldeb pan yn mynychu cyfarfodydd yr Eglwysi Rhyddion. Cyfeiriodd ato fel gwrandawr rhagorol ar bregethwyr eraill, sylwodd nas gallai draddodi areithiau byrion, a bod yn dda ei fod wedi myned i wlad lle nad oedd cyfrif amser.

Mr. E. Vincent Evans, Llundain, ysgrifenydd Cymdeithas yr Eisteddfod, a Chymdeithas y Cymrodorion, a ddywedodd ei fod ef a Mr. L. J. Roberts, Arolygwr ysgolion, yn cynrychioli Cymdeithas y Cymrodorion yn yr angladd. Yr oedd Hwfa Mon pan ydoedd yn weinidog yn Eglwys Fetter Lane, Llundain, yn bresenol yn y Cyfarfod pwysig gynhaliwyd yn 1875, pryd yr adnewyddwyd yr Eisteddfod Genedlaethol. Yr oedd Syr Hugh Owen, Mr. Stephen Evans, "Y Gohebydd," Mr. Brinley Richards, a Mr. John Thomas, yn bresenol hefyd yn y cyfarfod. Y pryd hwnw y cychwynwyd yr adfywiad cenedlaethol a wnaeth gymaint yn Nghymru yn ystod y blynyddoedd dilynol. Yr oedd yn chwith iawn ganddo feddwl fod Hwfa wedi ein gadael.

Y Parch. Thomas Edwards, "Gwynedd " a sylwodd fod dylanwad personoliaeth Hwfa Mon yn cael ei deimlo yn fawr bob amser; ac fel yr oedd o ran corff, felly yr oedd hefyd mewn ystyr feddyliol. Yr oedd pob peth a ddyferai dros ei wefusau yn werth ei wrando. Cyflawnodd wasanaeth anmhrisiadwy mewn llawer cyfeiriad, ac erys ei goffadwriaeth yn hir. Cafodd y genedl golled fawr iawn trwy ei farwolaeth.

Y Parch. J. Cadvan Davies, a sylwodd eu bod wedi cyfarfod er dychwelyd i'r nef yr hyn oedd wedi cael ei roddi yn fenthyg iddynt; ond wrth roddi y benthyg yn ol yr oedd wedi ei ranu rywfodd, oblegid bydd ei ddylanwad yn aros yn fyw yn yr eglwysi eto. Yr oeddynt yn claddu dyn da a chymeriad anwyl y diwrnod hwnw, a themlai ef hiraeth ar ol ei anwyl gyfaill Hwfa Mon. Y Parch. Dr. Owen Evans, Liverpool, a gyfeiriodd at y ffaith fod Hwfa Mon ac yntau wedi dilyn eu gilydd yn eu meusydd gweinid— ogaethol. Yr oeddynt wedi eu hordeinio i waith y weinidogaeth o fewn rhyw dridiau neu bedwar i'w gilydd; aeth yn olynydd i Hwfa Mon i Brymbo, a daeth Hwfa wedi hyny yn olynydd iddo ef yn Llundain. Yr oedd yr ymadawedig yn ddyn o ragoriaethau dysglaer —yr oedd yn gymeriad cenedlaethol. Yr oedd yn dywysog o ddyn.

Yr Arglwydd Mostyn, a ddywedodd fod Hwfa Mon ac yntau wedi bod. yn gyfeillion am lawer o flynyddoedd. Daeth i'w adnabod bum mlynedd ar hugain yn ol yn yr Eisteddfod gyntaf y bu ynddi. Der— byniodd lawer o garedigrwydd oddiar law y gwr yr oeddynt oll y diwrnod hwnw yn galaru oherwydd ei farwolaeth. Wedi canu yr emyn Seisnig

"Our God, our help in ages past," &c.

terfynwyd y gwasanaeth trwy weddi ddwys gan y Parch. James Charles, Dinbych.

Fel yr oedd y dorf yn myned allan o'r capel chwareuwyd y "Dead March" gan Miss Roose. Yna ymffurfiwyd yn orymdaith fel o'r blaen, a chyfeiriwyd tua Chladdfa newydd y dref, lle y dodwyd y corph i orphwys yn y bedd. Darllenwyd cyfran o'r Ysgrythyr a gweddiwyd yn effeithiol ar lan y bedd gan y Parch. David Rees, Capel Mawr.—Wedi canu

Ymwahanodd y dorf. Nid oes yn y bedd ond ei weddillion marwol; ond y mae y fynwent sydd yn cadw y rhai hyny hyd foreu yr adgyfodiad, yn llecyn cysegredig iawn yn syniad a theimlad miloedd o'r Cymry.

"Man anwyl yw'r man, mae'n huno—a rhwydd
Y rhodda pob Cymro
A ddaw at ei fedd o;—o'i drist enaid
Ryw gu ochenaid Gymreig uwch hono."

Noswaith y cynhebrwng traddoddwyd pregeth angladdol hynod o hapus iddo yn nghapel Queen Street, Rhyl, gan y Parch. Henry Rees, Bryngwran, oddiar Ioan I. 47.


Nodiadau[golygu]