Cofiant Hwfa Môn/Pennod XII

Oddi ar Wicidestun
Pennod XI Cofiant Hwfa Môn

gan David Rowlands (Dewi Môn)


golygwyd gan William John Parry
Darlun VII


Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
David Rowlands (Dewi Môn)
ar Wicipedia





Pennod XII.

ADGOFION.[1]

GAN Y PARCH. DAVID ROWLANDS B.A., "DEWI MON."

CHWITH yw meddwl fod Hwfa Môn bellach yn ei fedd. Yr oedd amryw o honom sydd mewn gwth o oedran yn barod i feddwl y buasai efe yn ein goroesi oll; oblegid yr oedd ei gorff cawraidd, ei lais ystormus,a'iagwedd awdurdodol, yn gyfryw, gellid tybied, ag a barasai i Angeu ei hun betruso ymosod arno. Yn wir, yn yr ornest ddiweddaf, yr oedd yn bur amheus am rai wythnosau pa un o'r ddau a gawsai y llaw uchaf. Ond Angeu a orfu wedi'r cyfan, er mawr alar i laweroedd a obeithient yn wahanol. Ar ryw ystyr gellir dywedyd mai Hwfa oedd y "bardd olaf"—yr olaf o'r âch a fu gynt mor ddylanwadol yng Nghymru. Claddwyd y diweddaf o'r baledwyr ym mherson Owain Meirion, y gwr tal, esgyrnog, ac afrosgo, a arferai deithio o ffair i ffair am flynyddoedd. i ddatganu y naill "gân newydd" ar ol y llall er difyrrwch i lanciau a llancesau gwledig nad allent brisio un math arall o lenyddiaeth. Llawer hanner awr a dreuliais i fy hunan, pan yn hogyn, i wrando ar ei greglais anaearol, pan yn traethu hanes rhyw drychineb cyffrous, megis tanchwa mewn glofa, neu lofruddiaeth erchyll, neu longddrylliad alaethus, mewn rhigwm o'i waith ei hun. Tybiaf nad oedd efe mor isel ei ymadrodd â'i ragflaenydd, "Die Dywyll," mantell yr hwn a ddisgynasai arno, er fod Dic yn rhagori arno mewn athrylith. Hoffai, ar rai adegau, ganu ar destynau crefyddol; hynny yw, pan y byddai testynau mwy poblogaidd dipyn yn brin. Er enghraifft, gellir nodi ei gân ar "Deifas a Lazarus," o'r hon nid oes ond y pennill canlynol yn unig wedi glynu yn fy nghof,—

Y porffor gorau gynt a wisgai,
A'r gwynion grysau i'w groen,
Heb feddwl munyd y cai ei symud
O'r bywyd i'r mawr boen.

Y tro diweddaf y daethum i gyffyrddiad âg ef oedd yn Llanbrynmair, lle y treuliodd ddiwedd ei oes mewn neilltuaeth, gan ennill ei fara wrth gario "siop wen." Ond nid oes iddo yr un olynydd. Er i amryw, o bryd i bryd, geisio ei efelychu, rhaid dywedyd nad oeddynt ar y goreu ond "sparblis" diddym, ag y buasai hen "hoelion wyth" y dyddiau fu yn cywilyddio arddel perthynas â hwy. Maddeuer i mi am grwydro oddiwrth fy nhestyn. Na freuddwydied neb fod Hwfa i'w gymharu am foment â'r clerwyr. Fy amcan yw dangos fel y mae dull y byd yn "myned heibio." Ond i ddychwelyd. Hwfa oedd y cynrychiolydd perffeithiaf o neb yn ei oes o'r bardd, sef yw hynny, bardd yr hen amseroedd. Yr oedd Hwfa yn fardd o'i sawdl i'w goryn: gwaith mawr ei fywyd oedd barddoni; ac ychydig, mewn cymhariaeth, o ddyddordeb a gymerai mewn dim arall. Hyd y gwyddys, nid oedd yn malio brwynen pa blaid boliticaidd a fyddai mewn awdurdod; ac y mae yn amheus a allasai efe, ar unrhyw adeg, enwi prif aelodau y Llywodraeth. Ni fu erioed yn flaenllaw gyda mudiadau yr enwad y perthynai iddo; ac yr oedd cadair yr Eisteddfod yn symbylu ei uchelgais yn llawer mwy grymus na chadair yr Undeb Cynulleidfaol. Yn hyn tebygai i'r diweddar Ddoctor Joseph Parry (Pencerdd America). Gwyr pawb a adwaenent y Pencerdd fod miwsig wedi gorfaelio ei holl alluoedd, fel nad oedd ganddo chwaeth nac amynedd i feddwl na siarad am helyntion y byd yr oedd yn byw ynddo. Pe digwyddasai chwyldroad yn y Deyrnas, nid yw yn debyg y buasai yn tynu ei sylw o gwbl, oddigerth ysgatfydd iddo ganfod ynddo destyn cantawd.

Meddai y Bardd ddylanwad anhraethol yng Nghymru fu." Heb son am oes y Derwyddon neu y Canol Oesoedd, ni raid i ni fyned yn ol ond rhyw ganrif neu ddwy iw weled yn ei ogoniant. Creadur rhyfeddol ei foesau ydoedd, gan amlaf,—aflerw ei wisg, diofal am ei amgylchiadau, ac yn ymddibynu am ei fara beunyddiol ar hygoeledd ei noddwyr. Yr oedd eillio ei farf, a thorri ei wallt, a thrwsio ei berson, gellid meddwl, yn wastraff amser yn ei olwg. Y mae hyn yn cyfrif am y dywediad a ffynnai ymysg y werinos i ddesgrifio dynsawd mwy anolygus na'r cyffredin—"Mae o'n edrych wel prydydd." Nid ydym heb wybod fod eithriadau yn bod—fod y bardd a'r boneddwr, weithiau, yn cyfarfod yn yr un person. Ac yr oedd ei ofn ar bawb—y cyfoethog yn gystal a'r tlawd; oblegid y felldith fwyaf arswydus a allasai ddigwydd i ran neb marwol oedd cael ei oganu mewn cân. Fel hyn yr oedd ei wasanaeth yn werthfawr ar rai adegau. Pwy all fesur y lles a wnaeth Twm o'r Nant yn ei oes trwy fflangellu crach foneddigion ac offeiriaid didoriad oedd yn bla ar y wlad? Nid oedd Elis y Cowper—os gwir yr hanes—yn rhy ofalus bob amser i wahaniaethu rhwng ei eiddo ei hun ac eiddo ei gymydog. Dywedir iddo, unwaith, gymeryd meddiant o goed heb ofyn caniatad eu perchennog. Gwysiwyd ef i ymddangos ger bron yr ynad lleol mewn canlyniad, yr hwn a'i dedfrydodd i dymor o garchariad. Bore drannoeth cyfarfu yr ynad âg Elis ar yr heol yn Llanrwst, ar ei ffordd i'r carchar dan ofal ceisbwl. Dan ei gesail yr oedd rhol fawr o bapyr gwyn. "Aros di, Elis," ebai yr ynad, "beth yw y papyr yna sydd gen' ti?" "O," ebai yntau, " yr wyf yn bwriadu defnyddio hwn i ysgrifennu cân i chwi, syr." Dychrynnodd yr ynad yn aruthr; a chan droi at y ceisbwl dywedai, "Gad iddo fo fynd i'w grogi!

Yr oedd Hwfa yn fardd hyd flaenau ei fysedd— yn fardd yn ystyr gysefin y gair. Yr oedd yn y wir olyniaeth farddol, ac wedi yfed yn helaeth o ysbryd ac etifeddu y rhan fwyaf o hynodion yr urdd— urdd ag sydd, er gwell neu er gwaeth, yn awr wedi diflannu. Gallasai erys rhai blynyddau ddywedyd gyda gradd o briodoldeb, "Myfi fy hunan yn unig a adawyd," er fod amryw ymhonwyr eto yn aros. Wrth eu galw yn ymhonwyr pell wyf o amcanu eu diraddio. Dichon eu bod yn wyr o athrylith, gwybodaeth, a diwylliant tuhwnt i'r cyffredin—gwyr ag ydynt yn anrhydedd i'r wlad a'u magodd; ond nis gellir eu galw yn "feirdd " mwy nag y gellir gwthio gweinidogion Ymneillduol i'r olyniaeth apostolaidd. Pan gyfarfyddir â hwy ar yr heol, pwy sydd byth yn sefyll i synnu at eu hymddangosiad uwch ddaearol? Pwy sydd yn gallu gweled tân ysbrydoliaeth yn fflachio yn eu gwynepryd? Pwy feddyliai am gymhwyso at eu llygad pwyllog eiriau y prydydd Seisnig—" The poet's eye in fine frenzy rolling"? Beirdd, yn wir! Priodol fyddai iddynt, un ac oll, fabwysiadu cyffes Dewi Wyn o Eifion—

"Nid wyf fardd, ond ei furddyn!"

Y mae yr Orsedd weithian, gan nad beth sydd yn gywir parthed ei hynafiaeth, yn rhan hanfodol o'r Eisteddfod. Pe diddymid yr Orsedd ysbeilid yr Eisteddfod, yn ol syniad y lluaws—Saeson yn gystal â Chymry—o'i phrif swyn; llusgid hi o awyrgylch rhamant i diriogaeth cyffredinedd; ac nis gallai mwyach danio y dychymyg mwy na chystadleuaeth aredig neu arddangosfa amaethyddol. Yr oedd Hwfa yn credu yn drwyadl yn yr Orsedd: ni byddai ei hyawdledd byth mor ysgubol â phan yn amddiffyn ei hawliau neu yn seinio ei chlodydd: arferai, y pryd hwnnw, fathu geiriau digyfryw, a'u lluchio yn chwilboeth at ei wrandawyr, fel bwledi of safn magnel. Dygai fawr sêl dros yr holl ddefodau cysylltiedig â hi; a mynnai eu cario allan gyda'r fath fanylder a phe buasai. iachawdwriaeth y genedl yn ymddibynu arnynt. Prin y gellir meddwl i'r un offeiriad, pan yn gweinyddu yr offeren, gael ei feddiannu a'r fath ddifrifwch angerddol â'r eiddo ef, pan yn sefyll ar y Maen Llog ynghanol y cylch derwyddol, dan nenfwd glasliw y ffurfafen, i gyflawni y dyledswyddau perthynol i'w swydd. Pwy a'i clywodd a all anghofio y "Llais uwch adlais," y "Llef uwch adlef," y "Waedd uwch adwaedd," pan fyddai ei floedd, fel taran drystfawr, yn diasbedain rhwng y creigiau, wrth iddo ofyn, "A oes heddwch"? Nid rhyfedd i'r proffeswr Germanaidd hwnnw a ddaethai i'r wlad hon i ddysgu Cymraeg, wrth iddo roddi hanes ei ymweliad â'r Eisteddfod, yn un o bapyrau Cymreig y Gogledd, ei ddynodi fel y "croch Hwfa!"

Os nad wyf yn camgymeryd, penodiad cymharol ddiweddar yw swydd yr Archdderwydd. Yr unig archdderwyddon wyf fi yn eu cofio yw Dewi o Ddyfed, Meilir, Clwydfardd, a Hwfa Môn; ac y mae yn amheus gennyf a benodwyd yr un o honynt, oddigerth y diweddaf, drwy bleidlais reolaidd y Beirdd. Tae fater am hynny! Clwydfardd oedd y cyntaf i osod bri ar y swydd. Yr oedd ei ymddangosiad patriarchaidd a'i oedran mawr ar unwaith yn hawlio gwarogaeth; ac edrychid i fyny ato, gan fach a mawr, fel person cysegredig, fel ymgorffoliad byw o fawrhydi yr Awen. Gwisgai ei dlysau arian ar ei ddwyfron (megis amryw o'i frodyr), fel cynifer o ser, ar achlysuron cyhoeddus; ac yr oedd un o honynt, o ran maint, bron yn gyfartal i ddysgl giniaw. Gallai adrodd englynion gyda mwy o arddeliad na neb yn ei oes; ac yr oedd ganddo doraeth o honynt ar gyfer pob amgylchiad. Y rhai mwyaf doniol o'r cwbl oll oedd ei englynion ef ei hun i'r Llwynog, a adroddwyd ganddo, am y waith gyntaf, yn Eisteddfod Aberffraw, yn 1849. Wedi darlunio camweddau y creadur barus, yn ei ffordd ddihafal ei hun dywed—

Ac am a wnaeth o gam â ni,—heblaw
Dwyn oen blwydd a thwrei,
Mileiniaid tost yw 'mhlant i,
A'm gwraig sydd am ei grogi.

Ond gellir dywedyd yn ddibetrus na chyrhaeddodd yr Orsedd binacl ei rhwysg hyd deyrnasiad Hwfa. Yn ystod ei deyrnasiad ef (a Chlwydfardd hefyd, o ran hyny) daeth ei graddau yn werth eu derbyn gan fawrion y tir, ac hyd y nod y teulu brenhinol, heb son am enwogion gwledydd eraill. Credaf na ddygodd Brenhines Roumania o'r wlad hon drysor gwerthfawrocach yn ei golwg na'r ysnoden las a dderbyniodd yn Eisteddfod Bangor. Ychwanegodd y Proffeswr Herkomer hefyd, dro yn ol, at ei hurddas arddangosol drwy wisgo y Derwyddon, y Beirdd, a'r Ofyddion, mewn gynnau gwynion, gleision, a gwyrddion, a choroni yr Archdderwydd â choronbleth o fetel cerfiedig fel arwyddnod o'i uwchafiaeth.

Nid yw yr Orsedd eto y peth y dylai fod, na'i graddau o gymaint gwerth ag y gellid dymuno. Buwyd yn gywilyddus o esgeulus, am lawer blwyddyn, yn y mater o raddio. Ystyrid unrhyw leban a allai gyfansoddi pwt o englyn, ac a allai berswadio y cyflwynfardd calon feddal i'w arwain i'r cylch cyfrin, yn gymwys i'w ysnodennu ar unwaith. Yn unig gofynnai yr Archdderwydd, "A ellir bardd o honaw?" ac os atebid, "Gellir," dyna bopeth ar ben. Cyhoeddai yr Archdderwydd fod y penbwl i gael ei adnabod o hynny allan, ymysg Beirdd Ynys Prydain, dan yr enw "Sion Ddwygoes," er mawr syndod i bob edrychydd meddylgar a ddigwyddai fod yn bresennol. Rhaid i bob ymgeisydd am radd ar hyn o bryd basio rhywfath o arholiad—arholiad digon caled i brofi o leiaf fod ganddo rywbeth amgenach na meipen ar ei ysgwyddau. Deallaf fod diwygiad pellach yn y gwynt; a gobeithio y bydd yn ddiwygiad sylweddol. Dyma gyfleustra ardderchog i wneud yr Orsedd yn grynhoad o hufen diwylliant y genedl. Tybed na ellir rhoddi iddi gyffelyb safle. yng Nghymru ag a fedd yr Académie Française yn Ffrainc, trwy gyfyngu ei haelodaeth yn hollol i'r rhai sydd wedi gwneud eu rhan tuag at gyfoethogi llenyddiaeth eu gwlad?

Brodor o Fôn oedd Hwfa, mal yr awgryma ei enw; ac yr oedd yn falch o'i fro enedigol. Pa fodd y mae cyfrif am y ffaith fod Môn, o ddyddiau y Derwyddon hyd yn awr, wedi bod mor nodedig am wroldeb, athrylith, ac ysbryd anturiaethus ei meibion ? "Môn mam Cymru" y gelwid hi gynt; ac yr oedd yn llwyr deilyngu y cyfenwad. Gofynnai rhyw fardd, yng ngwres ei edmygedd o honi——

Pwy a rif dywod Llifon?
Pwy rydd i lawr wyr mawr Mon?

Gormodiaith, yn ddiau, yw y dyheuriad—"Môn a'i beirdd mwya'n y byd;" ond os gwir yr hen air, fod yn rhaid cael rhyw liw cyn llifo," mae'n deg i ni gasglu fod beirdd Môn ymysg goreuon yr oesau. Dichon fod enwau rhai o honynt wedi myned ar ddifancoll; ond y mae enw Goronwy Ddu yn aros mewn bri, a'i gywydd. gorchestol ar "Y Farn Fawr" yn gofwy oesol o egni seraffaidd ei awen. Pa angen ychwanegu enghreifftiau? "Ab uno disce omnes." Nid oes dim yn arwynebedd y tir i gyfrif am hyn, gan fod y coedwigoedd yn brinion, yr afonydd yn brinnach, a'r bryniau yn brinnach fyth. Gwlad fynyddig yn gyffredin sy'n cenhedlu darfelydd; a swn cornentydd, ysgythredd y creigiau, a rhuthr y dymhestl, sydd fynychaf yn cryfhau ei edyn. Gwastatir unffurf ddigon yw Rhos Trehwfa, yn gorwedd rhwng Cefn Cwmwd a Llangefni, ger llaw y brif-ffordd o Fangor i Gaergybi. Dyma lle y treuliodd Hwfa ei ddyddiau boreuol, a dyma lle yr yfodd gyntaf o ysbrydiaeth cerdd. Yr ydym yn rhyfeddu, gan hynny, at nodwedd ffrochwyllt ei ysgogiadau meddyliol. Gwir y gallasai unrhyw ddiwrnod weled cyrrau Arfon yn y pellder, a mynyddoedd yr Eryri yn dyrchafu eu pennau ar y terfyngylch tua chodiad haul: a gallwn yn hawdd ddyfalu iddo, lawer dydd, sefyll mewn syndod i syllu ar y cymyl trwmlwythog a ymrolient ar eu llethrau ar ddynesiad yr ystorm. Digon tebyg i hyn adael argraff ddyfnach ar ei feddwl na'r olwg hudolus fyddai arnynt dan goron felynliw yr heulwen yn nhawelwch hwyrddydd haf. Tybed ei fod, yn y llinellau canlynol o'i eiddo i genedl y Cymry, yn adrodd ei brofiad ei hun?

Gwela greigiau
Trwy'r cymylau:
Ar y glannau aur a gleiniog
Am eu gyddfau
Gwela dorchau
Niwl y borau yn wlybyrrog.


Y llwydwyn niwl a'u dillada.—a'i darth
Yn dew a'u gorchuddia;
Yna lluwch fentyll o iâ,a'i rewynt
Yn oer, am danynt a hir ymdaena.


Brychion gernau,
Troiog riwiau,
I gorynnau geirw Anian.
Hirfaith drumiau,
Crychog gribau,
Lluaws dyrrau, llys y daran.

Y mae yn rhy fuan eto i benderfynu safle Hwfa yn y byd barddonol: caiff Amser wneud hynny—Amser nad yw byth yn pallu gwneud cyfiawnder, trwy gladdu enwogrwydd rhai, ac anfarwoli eraill mwy teilwng, a esgeuluswyd ond odid gan eu cydoeswyr. Gallwn ddywedyd, fodd bynnag, fod yr elfen gyffrous, ysgythrog, ddychrynllyd, yn cael lle amlwg yn ei gynyrchion. Cymerer y darnau canlynol, y rhai a ddyfynnir ar antur:—

Y RHYFELFARCH.

Trwy wyn hadl, troa yn hyll,—
Cyrcha i'w branciau erchyll!
Troedia lwybr y trydan,—
A charnau dig chwyrna dân!
Ysol fellt trwy y meusydd,
Fel hen seirff, o'i flaen y sydd!
Pala ei ffordd! a'r pylor.
Yn dân oddeutu ei dorr!
Hollta y main trwy wyllter,—
Uwch y sarn lluchia y ser!

Gyrra trwy byllau gorwaed!
Tan ei geirn tonna y gwaed
 mwy o nerth llamu wna,—
Y fagnel dan draed figna.


Y DDANNODD.

Rhonco waew yn rhincian—yw'r Ddannodd,
Trwy ddynion pensyfrdan,—
Bwyall diawl,—ebill o dân
Yn tyllu'r cilddant allan!


YR ANGHREDADYN.

Deall mai nid oddiallan—i ti
Mae ystorm y brwmstan;
Ceir defnydd tywydd y tân
Yn dy enaid dy hunan!


UFFERN.

Y fall lle tyrr fyth fellt daran,—y pwll
Lle mae pawb yn gruddfan,—
Carchar diafl a'r dyn aflan,
A ffwrn Duw, yw Uffern dân.

Mae yr olaf yn dwyn i'm cof waith Dafydd Cadwaladr, dros gan mlynedd yn ol, yn dychrynu cynulleidfa wledig yng nghymydogaeth y Bala, trwy ddarlunio tynged yr anedifeiriol yn y geiriau arswydlawn a ganlyn—"Bobol," meddai, gan ddyrchafu ei lais trywanol,"Bobol, chwi fyddwch yn uffern, yn rhostio fel penwaig cochion, rhwng cilddannedd y cythraul!"

Y tro cyntaf i mi gyfarfod Hwfa oedd yn ei dŷ ei hun, ym Magillt, oddeutu y flwyddyn 1853. Yr oeddwn i, yr adeg honno, yn llencyn dibrofiad, ac ar fy nhaith drwy Sir Fflint i gasglu at Goleg y Bala. Treuliais ran o wythnos dan ei gronglwyd; ac y mae yr adgof am y dyddiau hynny yn fyw yn fy mynwes hyd y dydd hwn. Yr oedd yn garedig tuhwnt i bopeth: caredig ydoedd efe i bawb; ond dichon i'r ffaith fy mod yn frodor o Fôn ddyblu ei garedigrwydd i mi y tro hwnnw. Ymddangosai wrth ei fodd; a pha ryfedd? Oblegid yr oedd newydd briodi, ac yn y rhan gyntaf o fis y mel. Gwraig landeg, hoenus, a siriol dros ben oedd Mrs. Williams; ac er ei bod amryw flynyddoedd yn hŷn nag efe, nid ymddangosai y gwahaniaeth oedran yn anaturiol ar y pryd. Yr oedd yn amlwg ei fod ef yn ei hanner addoli; a gwn i'w edmygedd o honi a'i serch tuag ati barhau yn ddi fwlch hyd y diwedd. Nid heb bryder yn ymylu ar fraw yr edrychaswn ym mlaen at ei gyfarfod; oblegid gwyddwn y buasai raid i mi bregethu fwy nag unwaith yn ei bresenoldeb, ac yntau yn fardd ag yr oedd ei glod yn cyflym ymdaenu led—led y Dywysogaeth. Pa fodd y gallwn sefyll manylder ei feirniadaeth? Ond profodd fy ofnau yn ddisail. Gwrandawai arnaf mor astud a phe buaswn yn un o gewri yr areithfa.

Goddefer i mi sylwi yma, mai nid croesawgar iawn oedd y derbyniad a roddwyd i Hwfa ar y cyntaf gan rai o'r hen feirdd. Hwyrach fod beiddgarwch ei arddull, yn ol eu barn hwy, yn rhy ddibris o safonau chwaeth ar yr un pryd nid wyf yn gwybod i neb fod yn gâs wrtho;—pwy erioed a geisiodd fod yn gâs wrth Hwfa ac a lwyddodd? Gwelais rai yn gwenu wrth grybwyll ei enw; ond dyna i gyd; ni chefais le i gredu fod y wên un amser yn cuddio malais. Canodd un bardd o fri nifer o englynion ysmala, yn y rhai yr alaethai dynged resynus y Beirdd, y rhai a deflid, un ac oll, allan o waith, gan na byddai dim gofyn mwyach ar eu nwyddau. Terfynai trwy ddywedyd:—

Ni enwir neb yn union
Ond Hwfa fawr, fawr o Fôn!

Ni argraffwyd yr englynion hyn o gwbl; ond buont am flynyddau ar lafar gwlad. Bum yn synnu ynnof fy hun, ganwaith, yn ystod cystudd olaf y bardd, pan yn darllen, o ddydd i ddydd, yn y newyddiaduron Seisnig, yr hysbysiadau parth cwrs ei glefyd—bum yn synnu mor agos fu i'r broffwydoliaeth a nodwyd gael ei chyflawni!

Cyfarfyddais âg ef laweroedd o weithiau, dan bob math o amgylchiadau, yn ystod yr hanner can mlynedd dilynol. Mae y rhan fwyaf o'r achlysuron hynny, wrth reswm, wedi llithro o'm cof. Nid felly Eisteddfod fawr Caerynarfon yn 1862, lle gwelais ef yn eistedd, am y tro cyntaf, yn y Gadair Genedlaethol. Nid oeddwn i fy hunan wedi bod mewn eisteddfod erioed o'r blaen; ac yr oedd y gweithrediadau mor newydd, mor ddyddorol, ac mor hyfryd i mi, fel, er i mi wario swm o arian am lety, a lluniaeth, ac anghenrheidiau eraill,—a'm llogell heb fod yn rhy lawn,—ni fu byth yn edifar gennyf. Lle enbydus yw tref Gymreig ar adeg yr Eisteddfod gellir meddwl fod rhyw wanc aniwalladwy yn meddiannu y trigolion, fel nad ydynt yn foddlawn i'r ymwelwyr ymadael cyn talu y ffyrling eithaf—a llawer ffyrling dros ben! Bum mor ffodus a chael fy urddo gan Feilir, archdderwydd y cyfnod; a theimlwn gryn dipyn yn dalach ar ol y ddefod. Yr oedd rhyddid a chynulliadau i mi wedyn fyned i gyfarfodydd y Beirdd digyffelyb oedd cyfarfodydd y cyfarfodydd y Beirdd yr amser hwnnw. Yr amcan proffesedig wrth eu cynnal oedd ymdrin â breiniau Barddas; ond, waeth heb gelu, treulid yr amser i adrodd ffraethebion, chwedlau, ac englynion byrfyfyr, gan hen lychod gwreiddiol, ag ydynt, erys llawer dydd, wedi eu priddo, heb adael neb o gyffelyb ddoniau i lanw eu lle. Dyna'r unig dro i mi glywed yr hen bererin ffraethbert, Owen William o'r Waenfawr; ac er ei fod yn dra oedrannus, yr oedd yn llawn asbri, ac yn ymfflamychu gyda'r goreu o'i frodyr. Digwyddasai Nicander ddywedyd, un boreu, nad oes yr un Cymro "o waed coch cyfan" i'w gael yn bresennol ac ymddengys i'r haeriad gynhyrfu yr hen frawd hyd waelodion ei fodolaeth. Yng nghyfarfod yr hwyr—cyfarfod y Beirdd—torrodd dros ben y llestri; a chyda difrifwch digamsyniol—difrifwch dyn wedi ei sarhau yn nhy ei garedigion—dywedai, "Yr wyf yn adnabod fy nhylwyth erys dwy fil o flynyddoedd. Y dyn yn dweyd fy mod i yn perthyn i Saeson, Ysgotiaid, Gwyddelod, a rhyw 'nialwch felly!" Ond prif arwr y cyfarfodydd, fodd bynnag, oedd Cynddelw. Yr oedd ei ystraeon yn ddiderfyn; a llawer o honynt yn ddigon i greu chwerthin mewn hen geffyl. Crybwyllodd rhywun y lles dirfawr oedd y Saeson yn ei wneud i Gymru, drwy wario eu harian i weithio ei mwngloddiau. Felly'n siwr!" ebai Cynddelw, âg ystryw yng nghil ei lygad, "ond pwy, atolwg, sy'n crafangu y cwbl o'r elw? A glywsoch chwi erioed stori y Gwyddel a'i gi? Digwyddodd i'r ddau golli eu ffordd yn un o goedwigoedd mawrion yr Amerig; a dyna lle buont am ddyddiau yn crwydro nes eu bod bron a newynu. O'r diwedd penderfynodd yr adyn dorri cynffon y ci; ac wedi llwyr—fwyta y cig oedd arni, caniatodd i'r ci druan grafu yr esgyrn!"

Yr oedd pabell yr Eisteddfod, yr hon oedd rhwng muriau y Castell, yn orlawn ddiwrnod y cadeirio. Dodir mwy o bwys ar gadeirio y Bardd yn y Gogledd nag a wneir yn y De; a dyna yr olygfa sydd yn atynnu y miloedd. Ac yr oedd yr Eisteddfod yn Eisteddfod y pryd hwnnw, ac nid, fel y mae wedi myned erbyn hyn, yn gymanfa ganu, —yn enwedig yn y De, lle y teflir popeth i'r cysgod gan y cystadleuaethau corawl. Ar y llwyfan yr oedd cynulliad mawreddog o ser y byd llenyddol, yn cynnwys Caledfryn, Gwalchmai, Nicander, Gweirydd ap Rhys, Taliesin o Eifion, Glasynys, Ioan Emlyn, Ceiriog, Robyn Wyn, Eben Fardd, ac eraill rhy luosog i'w henwi —ser ag ydynt heddyw oll wedi machludo! Sylwer mai Robyn Wyn oedd tywysog y marwnadwyr; ac efe fyddai yn wastad bron yn ennill y dorch pan fyddai Marwnad i gystadlu arni, ac yr oedd wedi ennill y boreu hwnnw. Pan alwyd ei enw, parodd rhyw fardd cellweirus gryn ddifyrrwch trwy waeddi—

Robyn Wyn, er neb, yn awr,
A wyla ar bob elawr!

Ac yn y fan atebodd rhywun arall—

Er neb yn awr, Robyn Wyn
A wyla am ei elyn!

Testyn y Gadair oedd "Y Flwyddyn;" a'r beirniaid oedd Caledfryn, Nicander, a Gwalchmai. Yr oedd llawer o ddyfalu wedi bod, er's wythnosau, pwy oedd i gael y Gadair: ond pan aeth y gair ar led fod. Eben Fardd yn cystadlu, nid oedd dim amheuaeth ym meddwl neb nad efe oedd i'w chael. Rhyfyg o'r mwyaf, yn ol syniad y werin, oedd i neb ei wrthwynebu. Onid oedd efe yn gadeirfardd eisoes? Ac onid oedd wedi cynyrchu rhai o'r awdlau mwyaf gorchestol yn yr iaith? Ac onid oedd ei enw yn adnabyddus trwy Gymru benbaladr fel pencampwr anorchfygol? Ychydig oedd nifer y cadeirfeirdd y dyddiau hyny: gallasai dyn yn rhwydd eu cyfrif ar ei fysedd. Pan ofynnid pwy oedd i gael y Gadair, cyfyngid yr atebiad i ryw un o fysg rhyw hanner dwsin, nid amgen Caledfryn, Hiraethog, Emrys, Gwalchmai, Eben Fardd, ac fe allai un neu ddau eraill. Ni freuddwydid fod yn ddichonadwy ychwanegu at eu nifer. Mor wahanol yw pethau erbyn hyn, pan y mae cadeirfeirdd mor amled ar y ddaear a mwyar duon!

Darllenwyd y feirniadaeth gan Galedfryn yng nghanol distawrwydd y bedd; ac yr oedd y dorf fawr megis yn crogi wrth ei wefusau. Yr oedd clywed Caledfryn yn parablu Cymraeg yn ei ddull dihafal ei hun yn wledd na fwynheid ond yn anfynych; yn wir, rhaid i mi gyfaddef na chlywais i erioed ei ail. Wedi beirniadu nifer o gyfansoddiadau, a nodi allan eu diffygion a'u rhagoriaethau, daeth yn y diwedd at yr awdl fuddugol; a dyma ei ddesgrifiad o honi :— Yr Eryr.—Mae yr awdl hon yn orlawn o syniadau awenyddol, dillyn, tyner, a threiddiol. Y mae y dychymygiad yn dilyn Natur yn deg. Y mae y mydryddiad yn rhydd ac esmwyth. Y mae y gwaith yn arddangos gwreiddioldeb meddwl a syniadau priodol. Y mae yma ystyriaethau dyrchafedig, yn cael eu gwisgo mewn ymadroddion cyfaddas i'r amcan. Y mae priod—ddull yr iaith yn dda ac eglur. Y mae rhai o'r cylymiadau yn gyrhaeddgar ac awgrymiadol. Y mae yr awdwr, gydag aden eryr, weithiau yn ymddyrchafu uwchlaw pethau cyffredin, hyd uwchder teml yr Awen; a chyda llygad eryr yn cymeryd ei dremiad dros derfynau eang ei destyn. Y mae yn tynnu darlun o wahanol dymorau y flwyddyn, mewn lliwiau cryfion, gyda phwyntil cywrain.

Safai Eben Fardd, ar y pryd, yn fy ymyl; a chefais y fraint o gyffwrdd ag ymyl ei wisg: ac yr oedd hynny yn fwy peth yn fy ngolwg na phe cawswn siglo llaw â'r Frenhines. Prin y gallwn sylweddoli y ffaith fy mod yn sefyll ar yr un llwyfan âg awdwr anfarwol "Dinystr Jerusalem "—awdl a ystyriwn yn wyrth o brydferthwch yn nyddiau mebyd. Sylwais fod gwynepryd Eben wedi syrthio erys meityn; ac heb yn wybod i mi ymgiliodd o'r llwyfan, ac nis gwelais ef drachefn. Yr oedd y dorf yn awr yn llygaid ac yn glustiau i gyd—yn dal ei hanadl yn angerddoldeb ei disgwyliad, a channoedd ym mhen draw y babell yn sefyll ar flaenau eu traed. "A ydyw 'Yr Eryr' yn bresennol ?" gofynnai yr arweinydd. "Ydyw," meddai rhywun; ac yn y fan gwelwn Hwfa yn cyfodi ar ei draed. Yr oedd y cyffro yn anesgrifiadwy. Rhwng y curo dwylaw, y chwifio cadachau, a'r banllefau byddarol, yr oeddwn bron a chredu fod pawb ond fy hunan wedi hanner gwallgofi. Cadeiriwyd y bardd gyda'r rhwysg arferol, a chefais innau y pleser o'i longyfarch ymhlith y rhai cyntaf. Ond yr hyn a osodai arbenigrwydd neillduol ar yr amgylchiad oedd, fod hen gylch y cadeirfeirdd wedi ei dorri am byth, a chyfnod newydd. yn hanes yr Eisteddfod wedi gwawrio.


Nodiadau[golygu]

  1. Allan o'r Geninen trwy ganiatad y diweddar Brif Athraw Dewi Môn.