Cofiant Hwfa Môn/Trefn Eisteddfod Llandudno
← Awdl Eisteddfod Chicago | Cofiant Hwfa Môn gan Rowland Williams (Hwfa Môn) golygwyd gan William John Parry |
Awdl Eisteddfod Aberhonddu |
AGORIAD
EISTEDDFOD GENEDLAETHOL LLANDUDNO
MEHEFIN,
30ain 1896.
I.
CORN GWLAD
II.
GWEDDI-YR-ORSEDD
Dyro, Dduw, dy nawdd,—
Ac yn nawdd, nerth,—
Ac yn nerth, deall,—
Ac yn neall, gwybod,—
Ac yn ngwybod, gwybod y cyfiawn,—
Ac yn ngwybod y cyfiawn, ei garu,—
Ac o garu, caru pob hanfod;
Ac ymhob hanfod, caru Duw,—
Duw a phob daioni.
III.
GWEINIO Y CLEDD.
Y GWIR YN ERBYN Y BYD
YN NGWYNEB HAUL, LLYGAD GOLEUNI.
Llais uwch adlais—A oes heddwch?
Llef uwch adlef—A oes heddwch?
Gwaedd uwch adwaedd—A oes heddwch?
Iesu nâd gamwaith—Llafar bid lafar.
YR AGORIAD.
Pan y mae oed CRIST yn fil wyth gant naw deg a chwech, a chyfnod Gorsedd Beirdd Ynys Prydain, yng Ngwyl yr Alban Elfed, sef Cyfnod Cyhydedd Haul y Mesuryd, ar ol gwys, a gwahawdd, i Gymru oll, gan Gorn Gwlad, o'r amlwg yng ngolwg, yn nghlyw Gwlad a Theyrnedd, dan Osteg a rhybudd. un dydd a blwyddyn, cynhelir Gorsedd Beirdd Ynys Prydain, ar y Fách, ar Fynydd Pen Gwygarth, yn Mhlwyf Llandudno, Cantref y Creuddyn, Talaeth Gwynedd, yn swydd Gaer yn Arfon, ac hawl i bawb a geisiont Fraint a Thrwydded wrth Gerdd Dafawd a Barddoniaeth, i gyrchu yma, yn awr gyntefin Anterth, lle nad oes noeth arf yn eu herbyn, ac yma yn erwynebol y Tri Chyntefigion. Beirdd Ynys Prydain, nid amgen Plenydd, Alawn, a Gwron, ac yma cynhelir Barn Cadair a Gorsedd, ar Gerdd a Barddoniaeth, ac ar bawb parth Awen a buchedd, a gwybodau, a geisiont Fraint, ac urddas a Thrwyddedogaeth, yn nawdd Cadair Gwynedd.
LLAFAR BID LAFAR.
Y GWIR YN ERBYN Y BYD.
IESU NÂD GAMWAITH.
IV.
CAINC AR Y DELYN.
V.
ANERCHIADAU Y BEIRDD.
VI.
ARAWD.