Cofiant Hwfa Môn/Ysgrif ar Enw da

Oddi ar Wicidestun
Ysbrydoliaeth y Bibl Cofiant Hwfa Môn

gan Rowland Williams (Hwfa Môn)


golygwyd gan William John Parry
Yr Ystorm


ENW DA.

(GAN HWFA MON).

DEFNYDDIR y gair enw, weithiau, i wahaniaethu rhwng gwahanol bersonau, megys Cain ac Abel, a dyn a chythraul. "Beth Pryd arall, defnyddir y gair i osod allan gyflwr peth. yw dy enw?" ebe Iesu wrth y dyn cythreulig. Yntau a atebodd, gan ddywedyd, "Lleng yw fy enw, gan fod llawer o honom;" a byddai yr enw Lleng yn eithaf priodol i lawer un yn y dyddiau hyn, canys y mae llawer o honynt. Dynoda y gair, bryd arall, natur rhyw swydd a weinyddir. "A thi a elwi ei enw ef Iesu; oblegid efe a wared ei bobl." Arferir y gair hefyd i arwyddo rhyw fri ac anrhydedd. Dyn wedi cyflawni rhyw orchest, a thrwy hyny wedi enill iddo ei hun glod ac enw mawr. Yn yr ysgrythyrau, dynodir yr hwn y byddo ei enw wedi ei ysgrifenu yn y nefoedd, fel un yn meddu yr enw rhagoraf. Pan ddychwelodd y deg a thriugain yn ol at yr Iesu, a dywedyd. wrtho fod y cythreuliaid yn ufuddhau iddynt, efe a ddywedodd wrthynt, "Eithr yn hyn na lawenhewch, fod yr ysbrydion wedi eu darostwng i chwi, ond llawenhewch yn hytrach am fod eich enwau yn ysgrifenedig yn y nefoedd." Yr oedd cael yr enw o ddarostwng y cythreuliaid yn beth mawr, ond yr oedd cael eu henwau wedi eu hysgrifenu yn y nefoedd yn beth llawer mwy. Nid yw enw da yn hawdd i'w gael. Mae pethau da yn brinion. Hawddach cael anialwch o ddrain, na chael gardd o flodau, a chael traeth o laid na chael blwch o berlau. Felly hawddach yw cael lleng o enwau drwg na chael un enw da. Cyn cwymp Adda, da oedd pob peth yn y byd; ond wedi hyny, troes bob peth yn ddrwg. Tyfodd drain a mieri ar dir y blodau, ac ymledodd cymylau marwolaeth dros awyrgylch y bywyd pur. Ond er fod yn anhawdd cael enw da, nid yw yn anmhosibl ei gael. Y mae enwau da yn lluosogi bob dydd, ac y mae eu gogoniant yn myned yn ddysgleiriach yn barhaus. Dywedai Solomon mai "Gwell oedd enw da nag enaint gwerthfawr," ac yr oedd ef yn addas i roddi barn ar bethau, o herwydd addfedrwydd ei brofiad, ac eangder ei ddosthineb. Yr oedd gwerth mawr ar yr enaint yn ei ddyddiau ef, o herwydd defnyddid ef i eneinio yr offeiriaid a'r breninoedd; ond nid yw yr enaint rhagoraf ond darfodedig yn ei loewder a'i berarogledd. Y mae enw da yn tra rhagori arno, oblegid perarogla a dysgleiria yn hwy nag ef. Nid yw y gemau, a'r holl bethau dymunol, ond megys gwegi yn ei ymyl. "Mwy dymunol yw enw da na chyfoeth lawer."

Y mae yn werthfawr i'r dyn ei hun. Y mae y peth a ddyrchafo ddyn i sefyllfa o ymddiried yn werthfawr bob amser. Cyfodwyd Joseph i sefyllfa o ymddiried mawr yn yr Aifft, a Daniel yn Mabilon, a hyny trwy ddylanwad eu henwau rhagorol. Y mae harddwch pryd a gwedd, a gogoniant talent, yn dyrchafu llawer; ond y mae enw da yn dyrchafu ei berchenog yn llawer uwch na'r holl bethau hyn. Y mae hwn yn beth nas gellir ei ladrata. Gall y lleidr ladrata yr aur a'r arian; ond byddai mor hawdd iddo ysbeilio yr haul o'i oleuni, nag ysbeilio enw da oddiar ei berchenog. Gall dyn gario hwn gydag ef i bob man, ac ar bob adeg, heb ei deimlo yn faich. Gall amgylchiadau daflu cwmwl drosto weithiau ; ond daw i'r golwg drachefn, fel yr haul trwy y cymylau. Y mae enw da fel yr aur yn dal gwres y ffwrn, a deil wres y farn heb newid ei liw. Y mae hwn yn werthfawr i'r byd o'i amgylch. Y mae y creigiau a'r mynyddoedd yn werthfawr i'r ddaear. Wrth yr esgyrn hyn y mae cnawd a brasder y dyffrynoedd yn crogi. Heb y creigiau, byddai y ddaear fel un corsdir llynclyd a pheryglus. Mae y dynion sydd yn meddu enw da fel colofnau yn cynal y byd i fyny. Y rhai hyn ydynt esgyrn corff pob cymdeithas ragorol, ac y maent yn gryfach na holl greigiau y byd. Peth i'w enill ydyw. Y mae awydd angerddol mewn rhai am enw. Daw yr awydd hwn i'r golwg yn mwthyn y cardotyn, fel yn llys y brenin. Chwiliwyd allan lawer o ddychymygion, a gwnaed llawer ystrane rhyfedd gan lawer un er ceisio cael gafael arno. Ond nid pawb sydd yn ymbalfalu am dano sydd yn ei gyrhaedd ar lwybr cyfiawnder a barn; ac, o herwydd hyny, gwisgir llawer un a chywilydd yn lle anrhydedd a chlod. Y dyn ei hun sydd i'w wneud. Gall arall wneud llawer o bethau iddo; ond rhaid iddo ef ei hun wneud ei enw da, neu fod hebddo. Peth i'w wneud wrth reol ydyw. Nid oes modd gwneud peth yn dda heb reol dda. Gwna llawer bethau heb feddwl am reol yn y byd. Meddyliant heb reol, siaradant heb reol, gweithiant heb reol, a bucheddant heb reol; ac y mae yr olwg arnynt fel tylwythau o ganibaliaid yn yr anialwch. Os myn y plentyn enw da trwy ufuddhau i'w rieni, aed at y rheol, "Y plant, ufuddhewch i'ch rhieni." Os myn enw da trwy fod yn onest, aed at y rheol, "Na ladrata." Os myn enw da trwy fod yn eirwir, aed at y rheol, Dywedwch y gwir bawb wrth eich gilydd." Os myn enw da trwy fod yn sobr, aed at y rheol, "Na feddwer chwi gan win," &c. Peth i'w wneud yn araf ydyw. Fel y gwna y darlunydd ei ddarlun o linell i linell, felly y gwneir enw da, o ychydig i ychydig, hyd nes y gorphener ef. Y mae y pethau a wneir yn araf yn gryfion, a'r pethau a wneir ar ffrwst yn weiniaid. Cicaion Jonah yw y peth a wneir ar ffrwst, ond y mynydd cadarn yw y peth a wneir yn araf. Mae yr enw da a wneir yn araf yn dyfod yn fwy ac yn gadarnach bob dydd, a deua mor gryf yn y diwedd nas gall neb ei ddryllio ond ei berchenog ei hun. Fel y dystrywia y fellten wyllt y palas godidog, y cymerwyd blynyddoedd i'w adeiladu, felly y dystrywia un weithred wyllt yr ENW DA a gymerodd i'w berchenog fwy na haner canrif i'w weithio allan. O bob colled, colli enw da yw y golled fwyaf. Os oes rhyw rai yn amheu hyn, holant y carcharau, a gwrandawant ar lais y crogbrenau!


Nodiadau[golygu]