Cofiant Richard Jones Llwyngwril/Rhagymadrodd

Oddi ar Wicidestun
Cofiant Richard Jones Llwyngwril Cofiant Richard Jones Llwyngwril

gan Evan Evans, Llangollen

Helyntion Boreuddydd Ei Fywyd

RHAGYMADRODD.

Cymerais mewn llaw y gorchwyl o gyfansoddi Cofiant Mr. Richard Jones, Llwyngwril, nid oddiar dybiaeth am danaf fy hun fy mod yn gymwysach i hyny nag eraill, ond fy mod wedi cael helaethach manteision i wybod am dano ef na nemawr o'm cyfeillion. Ac hefyd oblegid iddo ef ei hun amlygu amryw weithiau, os ystyrid y byddai rhyw gymaint o'i hanes ef yn werth i'w roddi mewn argraff, mai "Bachgen y Beddmo" oedd i wneyd hyny. Wrth ddarlunio fy hen gyfaill 'n gwahanol amgylchiadau ei fywyd o'i febyd i'w farwolaeth, bernais nad oedd bosibl rhoddi darluniad cywir o hono yn ei wir gymeriad, fel y gallai pawb a'i gwelent ef ddywedyd, 'Dyma Richard Jones, Llwyngwril', heb ei ddangos yn ei ddull priodol ei hun bron yn yr oll a wnai ac a ddywedai. Teimlais radd o anhawsder weithiau i wybod pa le i osod y llinell derfyn i'w bethau digrifol diniwaid ef, ymhlith ei rinweddau disglaer. Os aethum ambell waith yn lled helaeth yn y dysgrifiad o honynt, mae'n hawdd i'r darllenydd hynaws fy esgusodi pan y gwel fod mwy o ddiniweidrwydd ynddynt nag sydd o ddrwg moesol. Yr ydwyf yn ymwybodol mai nid awydd i wneyd gwrthddrych ein Cofiant yn destun digrifwch a gwawdagedd genyf mewn golwg, ond rhoddi darluniad cywir o hono ef fel Dyn, Cristion, a Phregethwr. Pa mor bell у mae'r amcan hwn wedi ei ennill, nid oes genyf ond gadael i'r rhai a'i hadwaenent ef farnu.

Bwriedais yn y dechreu gyfleu amryw o Bregethau R. J. yn ei Gofiant, ond erbyn hyn yr wyf wedi cael gwell cyfle i farnu nad ellir gwneuthur hyny: oblegid ymhlith yr ychydig nifer o honynt a ddaethant i'm llaw, nid oedd yn eu mysg gymaint ag un o'i bregethau goreu ef. Ac am hyny nis gallesid gwneuthur tegwch ág ef fel pregethwr heb gael rhai o'r goreuon. Mae'n ofidus gan lawer o'i gyfeillion, heblaw fy hunan, erbyn hyn, na buasem wedi digwydd cofnodi ei bregethau ef wrth eu gwrandaw. Eto ni a hyderwn fod rhyw ddarn au o honynt yn nghof miloedd o'r rhai a'i gwrandawsant, a hyny er eu tragywyddol lesâd.

Dymunwyf gyflwyno fy niolchgarwch i'm cyfeillion a'm hanrhegasant â'u hysgrifau, y rhai a gynwysent amryw ddefnyddiau at y Cofiant hwn. Ni ddefnyddiais yn gyflawn yr hyn a anfonasant ataf, ond cymerais fy rhyddid i ddethol yr hyn a ymddangosai i mi yn fwyaf i'm gwasanaeth. Yr un modd y teimlwyf yn ddiolchgar i'r Beirdd hefyd am eu Henglynion.

Gobeithiwyf mai nid difyrwch yn unig a fwynha y darllenydd oddiwrth y Cofiant hwn, ond y defnyddir ef ganddo er ei addysg a'i wir lesâd

E. EVANS

Llangollen, Mai, 1854.

Nodiadau[golygu]