Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn/Pennod IX
← Pennod VIII | Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn gan Griffith Williams, Talsarnau |
Pennod X → |
PENNOD IX.
MR. HUMPHREYS A'I FFRAETHEIRAU.
Y MAE pawb oedd yn gwybod dim am Mr. Humphreys yn dra adnabyddus o'r ystôr ddihysbydd o'r arabedd ffraethbert a'i nodweddai mor arbenig; ac yn y bennod hon ni a anrhegwn y darllenydd ag ychydig o'i ddywediadau pert a'i atebion parod. Yr oedd mor llawn o humour fel ag y byddai ei wrandawyr yn cael eu llwyr orchfygu ganddo, a byddai ambell i hen sant nad allai fwynhau yr hyn sydd yn naturiol i ddyn yn poeni ei enaid cyfiawn wrth weled y gynulleidfa yn gwenu. Ar ol iddo fod yn pregethu yn agos i'w gartref un bore Sabbath, aeth un o'r frawdoliaeth ato, yr hwn oedd yn dra adnabyddus fel un hynod o'r drwg ei dymer, a dywedodd: "Yn wir, Mr. Humphreys y mae yn rhaid i chwi beidio ag arfer yr holl eiriau digrif yna sydd genych; nid yw reswm yn y byd fod y bobol yn chwerthin cymaint wrth wrando arnoch yn pregethu." "Beth sydd arnat ti, Dick," ebe yntau, "maent mor naturiol i mi ag ydyw natur ddrwg i tithau."
Dro arall, pan mewn lle heb fod yn mhell oddi cartref, canai wrtho ei hunan ar ol myned i dŷ y capel:
"O Cusi, Cusi, newydd trwm
'Am Absalom."
"Ai canu yr wyt ti, dywed," gofynai hen flaenor lled bigog oedd yn y lle.
"Ie, beth am hyny?" gofynai Mr. Humphreys.
"Ymddygiad go ysgafn wyf yn ei gyfrif newydd fod yn pregethu," atebai yr hen frawd.
"Gallaf fod yn ysgafnach na hyn, a bod yn drymach na thi wed'yn, Edward," ebai yntau.
Y tro cyntaf yr aeth i Aberystwyth i bregethu dywedai un brawd wrtho: "Yr ydych yn fwy dyn o lawer nag yr oeddwn i wedi dychymygu am danoch."
"Y mae pob creadur mawr yn ddigon diniwed os caiff lonydd," ebai yntau; "y mae yr Elephant yn greadur mawr, ond y mae o dymer naturiol hynod o'r addfwyn."
Gofynai i gymydog unwaith pa fodd yr oedd o ran ei amgylchiadau: "Pur dyn ydyw hi arnaf fi, Mr. Humphreys, yr wyf bron yn methu a chael dau ben y llinyn yn nghyd yn aml," meddai yntau, dan ysmocio ei oreu.
"Wel sut yr wyt ti yn disgwyl cael y penau at eu gilydd, a thithau yn eu llosgi yn barhaus fel yna?" gofynai yntau.
Gofynai rhywun i Lewis Morris yn ei glywedigaeth unwaith pa faint oedd o'r gloch. Hyn a hyn," ebe Lewis Morris, ac ychwanegai, "Byddaf fi yn cadw fy watch mor agos i'r haul ag y gallaf."
"Y mae yn haws i chwi wneyd hyny na llawer un," atebai Mr. Humphreys, gan gyfeirio at hŷd Lewis Morris —yr hwn oedd rai modfeddi dros ddwy lath o daldra.
Pan y clywai fod ar feddwl rhyw ddyn ieuangc fyned i bregethu, byddai yn hawdd ganddo ofyn, "A ydyw yn gufydd oddiarno?"
Wrth weled rhai o'i gymydogion yn trin gwair, wedi iddi fyned yn bur bell ar y flwyddyn, gan iddynt esgeuluso gwneyd hyny yn ei adeg, dywedai wrth fyned heibio iddynt Ysgol ddrud ydyw ysgol profiad; ond gadewch iddi, ni ddysg ffyliaid yn yr un arall."
Yr oedd Mr. Morgan ac yntau wedi addaw myned i daith gyda'u gilydd unwaith, a'r diwrnod cyn iddynt gychwyn yr oedd yn wlaw mawr. Teimlai Mr. Morgan yn bur bryderus trwy y dydd, cerddai i ben y drws yn fynych, ac yn ol i'r tŷ drachefn, a llawer gwaith y dywedodd, "Nid yw ddim ffit meddwl cychwyn i daith ar y fath dywydd a hyn, Mr. Humphreys."
"Byddwch dawel, Morgan, gwlaw yfory a'n rhwystra ni"
Pan oedd Mr. Morgan yn holi plant yn y seiat un noson, gofynodd gwestiwn nad oedd y plant yn gallu ei ateb, ac wedi peth distawrwydd, dywedai: "Atebed rhai o honoch chwi sydd mewn oed." Ar hyn atebodd Mr. Humphreys y cwestiwn; "Nid oeddwn yn meddwl i chwi ateb," ebe Mr. Morgan.
Paham, Morgan," atebai yntau, "yr wyf mewn oed."
Aeth i'r capel un tro a choryn ei het wedi colli, a phan hysbyswyd ef o hyn, cyn myned allan, dywedai, " Na feindiwch, wêl neb mo'ni ar ol i mi ei rhoddi am fy mhen."
Yr oedd wedi cael ei anfon dros y Cyfarfod Misol i ryw eglwysi i gynnorthwyo i ddewis blaenoriaid, ac fe syrthiodd y coelbren ar un o'r brodyr. Wrth ymddyddan a'r brawd, dywedai yn ostyngedig iawn nad oedd efe wedi meddwl am y swydd, a bod yr Hollwybodol yn gwybod hyny. "Ie, ïe," meddai Humphreys, "yr wyt tithau wedi dod i ddeall fod y Brenin Mawr yn un da am gadw secret." Y gwir distaw oedd hyn, yr oedd y brawd yn chwenych y swydd, ac yr oedd yntau yn gwybod hyny.
Byddai yn hawdd ganddo fwyta a'i het am ei ben, a gofynodd cyfaill iddo unwaith paham na buasai yn ei thynu; a'i ateb oedd, "nad oedd dim drwg yn yr het ond pan y byddai y pen ynddi."
Canmolai un o'i gymydogion am ganu, ac atebodd y cymydog nad oedd ef ond canwr pur fychan. "Ie, ïe," meddai yntau, "bum yn sylwi ar yr iar gyda'r nos yn ymddangos yn bur ben-isel, ond ar y nen-bren y byddai ei golwg hi."
Fel yr oedd arwerthwr yn canmol rhyw nwyddau oedd ganddo yn eu gwerthu, dywedai am rywbeth oedd dan ei forthwyl: "Dyma i chwi beth a bery byth."
"Hir ydyw byth, Mr. E—," meddai Humphreys.
"A ddarfu i chwi ei fesur, Mr. Humphreys?" gofynai yr auctioneer.
"Naddo, neu buasai hyny yn brawf nad ydyw yn hir," oedd yr ateb.
Pan oedd y Parch. E. A. Owen yn gwasanaethu y ddwy eglwys Llanenddwyn a Llanddwye—cyfarfu Mr. Humphreys a Lewis Evans âg ef un bore Sabbath, a mynai Mr. Owen mai yn Llanenddwyn yr oedd y gwasanaeth i fod y bore hwnw, ond dywedai L. Evans mai yn Llanddwye ac ar ar ol peth dadl coffäodd L. Evans ryw ffaith barodd i'r person adgofio pa le yr oedd y gwasanaeth bore Sabbath blaenorol, a dywedai, "Chwi sydd yn eich lle, Lewis, chwi sydd yn eich lle." Wedi i'r gŵr parchedig adael y ddau, "Wel, Lewis Evans," meddai Humphreys, "dyna beth ydyw dyweyd pader i berson."
Yr oedd ganddo achos i alw yn y Gwynfryn gyda Major Nanney, ac yr oedd wedi gwneyd ystorm fawr y noson cynt, fel y dadwreiddiwyd un o'r coed mawr oedd o flaen y palas. Wrth fyned heibio, gofynodd y boneddwr: "Sut y mae y gwynt mor nerthol fel ag yr oedd yn gallu codi y fath bren o'r gwraidd ?" "Ho," ebe Mr. Humphreys, "y mae ei drosol yn hir iawn."
Sylwai cyfaill wrth edrych arno yn sychu ei draed wrth fyned i'r tŷ un diwrnod: "Yr ydych yn ofalus iawn, Mr. Humphreys." "Yr wyf wedi dysgu ufudd—dod trwy y pethau a ddioddefais," ebe yntau.
Yr oedd brawd dieithr yn pregethu yn y Dyffryn unwaith, ac aeth hen ŵr o gylch pedwar ugain oed i dŷ y capel i ofyn am y pregethwr. Wedi iddo fyned allan sylwodd y pregethwr: "Onid yw yr hen ŵr yna yn dal yn syth iawn ac ystyried ei oedran ?" "Ydyw," meddai Humphreys, "ond tynwch chwi yn ei fwa fe sytha fwy."
Dywedai ei was wrtho unwaith fod rhyw un yn ei feio am ryw syniadau oedd wedi eu traethu mewn pregeth. Felly," ebe yntau yn bur dawel, "ni wiw i mi mwy na dyn arall, ddisgwyl cael chwareu teg gan bawb; ond gad iddo, mi gaf chware' teg rhwng pawb."
Gofynai un o'i frodyr iddo a oedd efe yn hoffi trefn y Methodistiaid; a'i ateb ydoedd, "Ydwyf yn y pethau y mae trefn arnynt."
Pan ofynwyd iddo yn Nolwyddelen ryw Sabbath yr oedd yno, a fu efe erioed yn y Cyfyng, (gan feddwl y capel bach sydd yn rhan o'r daith). "Na, ni bum yn y Cyfyng," ebe yntau, "ond bu yn gyfyng arnaf lawer gwaith.'
Dywedai Mrs. Humphreys wrtho fod rhwygiad yn ei drousers. "Peth rhyfedd na buasai mwy pan ystyrir fod dau yn ei wisgo," atebai yntau.
Pan yn dyfod o'r capel un tro, dywedai Mrs. Hum phreys, "Richard, onid ydych yn gweled hwn a hwn yn gallu bod yn gas iawn, nid oes dim tua'r capel yna wrth ei fodd." "Gwyddoch chwi o'r goreu, Ann," ebai yntau, "mai gwaith llô ydyw brefu."
Dywedai am ryw ddyn oedd yn tybied ei fod wedi darganfod rhywbeth a'i galluogai i ehedeg, ac wedi gwneyd pob peth yn barod aeth y doethawr i ben craig, heb fod yn uchel iawn, ac ymdaflodd ar ei ddyfais, "ac os ydych yn y fan yna," ebe Mr. Humphreys, "fe fuasai wedi ehedeg, pe buasai ei gorph gan ysgafned a'i ben."
Pan yn eistedd ar gyfer y tân mewn tŷ lle y lletyai un nos Sadwrn, cododd ei droed ar y fender; sylwodd Mrs. Jones, gwraig y tŷ, arno, a dywedodd, "Dear me, mae genych droed mawr, Mr. Humphreys," "Oes," ebe yntau gan godi y llall i fynu, "y mae genyf ddau."
Digwyddodd ef a brawd arall fod gyda'u gilydd yn adeg y diwygiad yn cadw cyfarfod pregethu: pregethodd ei gyfaill yn hwyliog, fel arfer, ac yr oedd yno orfoledd mawr. Cododd Mr. Humphreys ar ei ol a dywedodd yn bur dawel, ar ol darllen ei destyn, "Wel, gyfeillion, yr ydych wedi yfed yn bur uchel, beth fyddai i minau geisio tafellu tipyn o fara y bywyd i chwi eto.
Yr oedd rhyw ddyn bychan hunanol yn ymddyddan âg ef unwaith, yr hwn nad oedd Mr. Humphreys yn gwybod dim am dano o'r blaen; ac wedi i'r dyn fyned ymaith, gofynodd cyfaill iddo, "Beth yw eich barn am dano, Mr. Humphreys ?" "Wel," ebe yntau, "y mae yn rhy fawr fel nad ellir ychwanegu dim at ei faintioli."
Yn fuan wedi iddo symud i Bennal teimlai yr eglwys awydd cael ychwaneg o swyddogion, ond cynghorai yntau hwy i aros ychydig y deuai pethau yn fwy aeddfed cyn hir. Ond yn mlaen yr aethant, ac aeth cenadon dros y Cyfarfod Misol yno; ar ol bwrw coelbrenau cafwyd nad oedd yno neb wedi eu dewis. Pan hysbyswyd hyny, cododd Mr. Humphreys ei ddau lygad glân, ac edrychodd o amgylch, a dywedai, "Ha wŷr, chwi a ddylasech wrando arnaf fi, a bod heb ymadaw o Creta, ac enill y sarhâd yma a'r golled."
Wrth ymddyddan am ryw frawd pur siaradus, dywedai cyfaill wrtho, "Diau ei fod yntau yn aelod o'r corph mawr cyffredinol." "Oh ydyw," ebe Humphreys. "Pa aelod ydych chwi yn ei feddwl ydyw, Mr. Humphreys ?" gofynai y cyfaill. "Ei dafod, 'rwy'n credu," oedd ei ateb. Yr oedd wedi myped i'r Gwynfryn un bore Sabbath i wrando ar gyfaill iddo yn pregethu, a gofynodd Mrs. Jones iddo aros i giniawa gyda hwy. "Na," ebe yntau, "y mae fy nghyhoeddiad yn y Faeldref am giniaw, a gwell i mi dori cyhoeddiad gyda phawb na chydag Ann." "Ie," ebe John Jones—un o hen flaenoriaid y Gwynfryn—" y mae merched yn burion nes yr ânt i suro." "Ho," meddai Mr. Humphreys, "ni bydd Ann byth yn suro, ond bydd weithiau yn sharpio, a gallaf fi yfed diod sharp, ond nid diod sur."
Wrth fyned o Faentwrog i Ffestiniog un Sabbath, cafodd wlaw hynod ddwys. "Wel, beth ydych yn ei ddyweyd am yr hin yma, Mr. Humphreys?" ebe rhywun wrtho yn y pentref wedi cyrhaedd pen y daith. "Dyweyd," atebai, "nid oes genyf ond dyweyd mai gwir yw yr adnod, A chnawd arall sydd i bysgod;' y mae eu cnawd hwy wedi ei wneyd i fod yn y dŵr, ond yr wyf yn teimlo mai nid felly fy nghnawd i."
Yr oedd un Sabbath yn pregethu mewn capel bychan rhwng y Ddwy Afon,' lle yr oedd pregethwr poeth ei ysbryd, rhwydd ei ymadrodd, ond tueddol i fod yn isel, ac yn erwin o ran ei ddull, yn pregethu, wedi bod yn cadw odfa y nos Sadwrn blaenorol. Ar ol oedfa Mr. Humphreys dywedai y blaenor wrtho, "Rhyfedd iawn! yr oedd yma fwy yn gwrando ar —— neithiwr, nag arnoch chwi, Mr. Humphreys, ar fore Sabbath braf fel hyn." Na, nid mor rhyfedd," meddai yntau; "pregethwr gododd yr Hollalluog o bwrpas ar gyfer ffyliaid ydyw —— chwi a ddylech wybod fod mwy o lawer o ffyliaid yn y byd nag o bobl gall."
Aeth un o'r dosbarth hwnw a elwir y "grwgnachwyr" ato unwaith i gwyno yn erbyn y blaenoriaid, a dywedai na wnaent wrando ar ddim a ddywedai efe wrthynt. O'r diwedd blinodd Mr. Humphreys ar ei faldordd, a dywedai, "Nid yw ryfedd yn y byd eu bod yn gwrthod gwrando arnat, os wyt ti yn siarad cymaint o ynfydrwydd wrthynt hwy ag yr wyt ti gyda mi."
Dywedai Mrs. Humphreys wrtho unwaith ei fod yn pregethu hen bregethau; "Os byddaf yn rhoddi adgyfodiad i rai o honynt, nis gwyddoch chwi, Ann, â pha ryw gorph y deuant," ebe yntau.
Rywbryd mewn Cymdeithasfa yn Aberystwyth, yr oedd yno un brawd yn enwi rhyw frodyr at orchwylion y cyfarfod ac yn mhlith eraill yr oedd y diweddar Lewis Morris i wneyd rhywbeth. "'Does dim o Lewis Morris wedi d'od," ebe William Rowland, Blaenyplwy'. Fe ddaw o yma i gyd yn fuan, William Rowland," meddai Mr. Humphreys, "ac fe gewch chwi wel'd y bydd cryn swm o hono pan y daw o."
Cwynai un hen frawd mewn Cyfarfod Misol unwaith, am fod rhyw gwestiynau ffol yn cael eu gofyn, megys, "A ydyw y diafol yn berson?" Er mwyn cael gwared o'r mater dywedai Mr. Humphreys, "Buasai yn o lew iddo fo fod yn glochydd, chwaethach yn berson."
Pan ar daith yn y Deheudir un tro, digwyddodd iddo gyfarfod â brawd yr hwn oedd yn un o wyliedyddion yr athrawiaeth yn y Gogledd, ac am yr hwn yr oedd rhyw chwedlau isel yn cael eu lledaenu. Y maent yn dyweyd i mi," ebe y brawd hwnw, "nad ydych chwi, Humphreys, yn pregethu athrawiaeth iachus." "Y maent yn dyweyd i minau," atebai Mr. Humphreys, "na byddwch chwi yn pregethu athrawiaeth yn y byd yn fuan."
Yr oedd cymydog yn syrthio yn fynych i ryw feiau, a thrwy hyny yn peri gofid a blinder mawr i swyddogion yr eglwys lle yr oedd yn aelod; ac un tro fe aeth Mr. Humphreys ato a dywedodd wrtho, "Nid wyf yn ameu nad wyt ti, Dick, yn rhyw lun o Gristion, ond y mae yn arw o beth fod y cythraul yn gwneyd ffwl o honot, a dy yru o'i flaen fel berfa olwyn i bob drwg."
Pan oedd yn eistedd mewn tŷ capel unwaith, daeth dyn mawr tew a chorffol i mewn dan chwythu a thagu, a deallodd Mr. Humphreys ar yr olwg arno y buasai mwy o waith yn lles iddo, ac ebe fe wrth y blonegawg, "Ni waeth i ddyn ddarfod wrth dreulio na darfod wrth rydu."
Pan yn pregethu rhyw noson waith yn Nolwyddelen, ar y ffordd i Gymdeithasfa Llanrwst, lle yr oedd yn myned ar ei draed, gofynodd un o'r cyfeillion iddo, "Sut y mae gŵr o'ch safle chwi yn myned i'r gymanfa ar eich traed?" "Wel," meddai yntau, "yr wyf yn meddwl fod yn well. ganddynt weled pobol yno na cheffylau."
Terfynwn y bennod hon gyda hanesyn am Mr. Humphreys a'r diweddar Mr. Robert Griffith, Dolgellau, yr hwn a gawsom gan y Parch. Owen Thomas, Liverpool. "Yn Nghymanfa y Bala, yn y flwyddyn 1835, yr oedd Mr. James Hughes, o Leyn, Mr. Robert Griffith, Dolgellau, Mr. Humphreys, a minau, yn cysgu yn yr un ystafell, a dau wely ynddi. Yr oedd math o drawst dros yr ystafell, uwch ben y gwely lle y gorweddai Mr. R. Griffith a Mr. Humphreys, a phan yr oedd yr hen frawd o Ddolgellau yn myned i'r gwely, fe darawodd ei ben yn drwm yn erbyn y trawst hwnw, nes yr ofnem ei fod wedi cael cryn niwed. Yn wir, Robert Griffith bach,' meddai Mr Humphreys, mi allaswn i ddysgwyl eich bod wedi cyrhaedd digon o oedran bellach i wybod y gallai dyn trwy blygu tipyn ysgoi llawer dyrnod yn yr hen fyd yma; ond nid ydyw deddfau y Duw mawr, mewn natur mwy na gras, yn arbed na hen nac ieuangc a'u toro hwynt.' Gyda hyny, pan oedd Mr. Humphreys ei hunan yn myned i'w wely, dyna yntau yn taro ei ben, fel yr hen frawd o'i flaen, ond nid yn llawn can waethed. Wel dyna hi,' meddai Robert Griffith, 'dyna chwi yn ffolach na minau, chwi ddylasech ddysgu rhywbeth ar fy anffawd i, yn enwedig newydd i chwi fod yn pregethu i mi.' Ië, ïe,' meddai Mr. Humphreys, ond, ysywaeth, yr wyf wedi bod fel yna lawer gwaith o'r blaen yn pregethu i eraill, ac yn annghofio fy nyledswyddau fy hunan."