Neidio i'r cynnwys

Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn/Pennod X

Oddi ar Wicidestun
Pennod IX Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn

gan Griffith Williams, Talsarnau

Pennod XI

PENNOD X.

MR. HUMPHREYS A'I SYLWADAU.

DYWEDASOM yn barod nad oedd Mr. Humphreys yn arfer ysgrifenu ei bregethau, nac hyd yn nod fraslun o honynt. Hysbysir ni gan y Parch. Robert Griffth, Bryncrug, yr hwn a fu am flynyddoedd yn ei wasanaeth, a'r hwn oedd wedi craffu ar ei arferion gyda phob peth, mai ei ddull cyffredin fyddai cymeryd rhyw fater i fyny, a'i droi yn ei fyfyrdodau, a'i wneyd yn destyn ei ymddyddanion, a thrwy y dull hwn y byddai yn toddi y gwirionedd yn ei fold ei hunan; yna edrychai am adnod briodol yn destyn, a phregethai yn rhwydd a blasus oddiwrthi. Y mae yr hanesyn canlynol, yr hwn a dderbyniasom gan gyfaill oedd yn adnabyddus iawn o Mr. Humphreys, yn cadarnhau yr hyn a ddywedwyd yn barod. Ni a'i dodwn ef i lawr yn ngeiriau ein hysbysydd. "Yr argraff benaf sydd ar fy meddwl am Mr. Humphreys ydyw y modd y byddwn yn teimlo ar ol bod yn ei gymdeithas, y byddai genyf rywbeth gwerth i'w gofio, ac i feddwl am dano. Y mae yn gofus genyf am un tro neillduol y bum gydag ef yn Bethesda. Yr oedd yn teimlo yn bur wael, ac oblegyd hyny arhosodd yn y tŷ yn lle myned i'r ysgol, a gofynodd i minau aros gydag ef. Mor fuan ag y cawsom y lle i ni ein hunain, dechreuodd ofyn cwestiynau i mi, a'r cyntaf a ofynodd oedd, Pa un ai peth mawr ai peth bychan oedd y cryfaf?' Fel y gellid tybied yr oedd yr ateb yn barod genyf, Y mawr ydyw y cryfaf.' Nage,' meddai yntau, Y bychan o ddigon. Pe byddai i lygoden syrthio o ben ysgubor ar y llawr, mi redai ymaith mor fuan ag y gallai gael ei thraed dani; ond pe byddai i fuwch gael codwm felly, yno y byddai hi. Y mae plant bychain yn cael codymau pur enbyd weithiau. Pe byddai i ddyn trwm syrthio felly, mi fyddai yn ddigon i dori ei esgyrn ef. Meddwl di eto fod cwch bychan cryf iawn, a gwisg haiarn am ei flaen ef: pe byddai i hwnw fyned ar ei ergyd i'r graig, ni byddai un pin gwaeth; ond pe byddai i long fawr, a phob peth ynddi wedi ei wneyd yn y modd cryfaf, fyned yn erbyn craig felly, fe fyddai i hono fyned yn ddrylliau yn y fan. Dyma y wers, ychwanegai: Y mae natur defnydd y fath fel nad oes modd ychwanegu cryfder yn ol cyfartaledd y maintioli.' Yna âi yn mlaen: Dyma wers arall y dymunwn i ti ei deall, Fod yr Arglwydd wedi cadw rhyw bethau o'i weithredoedd yn eiddo iddo ei hunan, fel nas gall dyn eu cyffwrdd hwy. Dyna un peth, rhoddi tyfiant yn ei waith. Duw bia hyny yn hollol. Os bydd ar ddyn eisieu llong, rhaid iddo ei gwneyd yn llong; ni wiw iddo wneyd cwch bach, a disgwyl iddo dyfu yn llong mewn rhyw bedair neu bump o flynyddoedd. Ond dyma gymal pen dy lin di yn tyfu yn ei le fel y mae ef. Gall saer pur gelfydd wneyd cymal fel yna, a'i wneyd hefyd i weithio fel dy lin di; ond gormod o gamp i'r saer beri iddo dyfu. Ond y mae dy gymal di yn tyfu heb i ti deimlo poen ynddo. Duw yn unig bia rhoddi tyfiant yn ei waith. Peth arall y mae Duw wedi ei gadw iddo ei hunan ydyw y gallu sydd gan greadur i genhedlu ei ryw. Y mae dyn yn gallu gwneyd pethau cywrain iawn: dyna watch—y mae llawer o gywreinrwydd ynddi; ond ni feddyliodd yr un Watchmaker erioed am geisio gwneyd watch i fagu watches bach; na, y mae yna ryw bellder nas gall dyn mo'i fesur. Ond at hyn yr oeddwn yn cyfeirio," ebe fy hysbysydd, "Nos Sabbath yr oedd yn pregethu ar y geiriau, Uwch yw fy ffyrdd i nâ'ch ffyrdd chwi, a'm meddyliau i nâ'ch meddyliau chwi ;' a bron yr un oedd materion y bregeth a thestun yr ymddyddan, ond eu bod wedi eu cyfaddasu mor hapus ganddo yn iaith yr efengyl, fel nad oedd yno un gair anweddus i symlrwydd y pulpud."

Y mae yr eglurhad hwn yn esponiad am y modd y byddai yn gallu pregethu ar adnodau na byddai wedi meddwl am danynt ond am ychydig amser cyn myned i'r capel. Yr oedd yn aros un noswaith gyda'r Parch. William Davies, Llanegryn—pan oedd Mr. Davies yn byw yn Llanelltyd ar ei ffordd i'r Bala at y Sabbath, ac wrth gychwyn i ffordd boreu Sadwrn, gofynai, "Pa le mae yr adnod hono, (——) William, edrych am dani i mi," ac ychwanegai, Yr wyf yn meddwl dyweyd ychydig arni yfory yn y Bala." Yr oedd dro arall yn myned gyda Mrs. Humphreys a'r teulu i gapel y Dyffryn i bregethu rhyw noson waith, ac ar riw Dolgau, gofynai, "A oes genych yr un testun i mi at heno." "Nid yn awr yr ydych yn holi am destun," meddai Mrs. Humphreys; "Bum yn bwriadu gofyn i chwi bregethu ar yr adnod hono (——) lawer gwaith, ond nid heno Richard Humphreys," ychwanegai. Ond er ei mawr syndod dyna yr adnod a gymerodd yn destun y noson hono, a phregethodd yn dda oddiarni. Y mae yn ymddangos ei bod yn nghanol y wythien y byddai ef yn arfer gweithio arni. Y mae hanesyn arall pur darawiadol am dano ar hyn. Digwyddodd iddo fod yn Nolgellau ddau Sabbath yn bur agos i'w gilydd ; ac wrth ddarllen ei destun bore yr ail Sabbath o'r ddau, fe feddyliodd mai yr un ydoedd ag oedd ganddo y Sabbath o'r blaen; ond wedi iddo ei ddarllen, yn hytrach na chymeryd ail destun, ymdrechodd i fyned i'w daith ar hyd ffordd arall. Ar ol myned i'w lety, gofynodd i Mr. Williams, "A glywsai efe ef yn pregethu ar y gair yna o'r blaen?" "Do," ebe Mr. Williams, " dyna yr adnod oedd genych y tro diweddaf, ond nid yr un oedd y bregeth." "Meddyliais wrth echo yr adnod pan y darllenais hi mai dyna oedd genyf, felly mi geisiais am ryw lwybr newydd i draethu arni." Clywais Mr. Williams yn dyweyd nas gwyddai pa un o'r ddwy bregeth oedd yr oreu; ac y mae hyn yn dangos pa mor gyflawn yr oedd ei feddwl wedi ei ddodrefnu â gwirioneddau yr efengyl.

Bellach ni a ddechreuwn gofnodi rhai o'i sylwadau, a gellir dyweyd am danynt, os nad oeddynt mor boblogaidd yn y traddodiad o honynt ag y dylasent fod, er hyny y maent yn nwyddau sydd yn gwisgo yn dda ragorol. Dywedai un blaenor, yr hwn erbyn hyn sydd yn henafgwr parchus, ac a fu am dymor yn America, Byddwn yn cael mwy o bleser ar y pryd yn gwrando ar hwn a hwn yn pregethu nag ar Mr. Humphreys; ond pethau Mr. Humphreys a nofiodd gyda mi i dir y Gorllewin pell:" ac ychwanegai, "Ni byddai fawr ddiwrnod yn pasio na byddai rhai o'i ddywediadau ef yn myned trwy fy meddwl."

"I'r pant o edifeirwch y rhêd y dwfr o faddeuant."

"Y mae parch yn beth i'w enill ac nid i'w ddemandio."

"Bendith fawr ydyw cael rhan o'r byd hwn; ond cael y byd yn rhan sydd yn felldith drom."

"Ni raid i ni ofyn i'r Duw mawr am gyfiawnder ni a'i cawn; ond am drugaredd rhaid gofyn am dani."

"Yr oedd ein rhieni yn Eden ar y cyntaf yn dirwyn dedwyddwch oddiar bellen sancteiddrwydd; ond daeth pechod i mewn a dyrysodd y pricied."

"Heb gyfrif.—Ni welaist ti neb erioed yn dy ffitio yn well na Iesu Grist, Cymodi heb gyfrif' ag un heb ddim i dalu."

"Mae eisieu i ni fyned at Iesu Grist heb ddim ; ond i'r byd mewn gwisgoedd o ogoniant."

"Mae mwy o ddarllen ar grefyddwyr nag ar y Beibl."

"Rhoddwch fodrwy ar ei law, ac esgidiau am ei draed.—Ac mi ddywedaf i chwi beth, mhobol i, nid aeth y mab afradlon byth ar hyd yr hen lwybrau ar ol iddo gael esgidiau newyddion."

"Gwaedoliaeth.—Nid yw gwaedoliaeth ddim ond cyfoeth yn aros yn hir yn y teulu."

"Addoli. Y mae addoli yn cynwys tipyn o wybodaeth ac o anwybodaeth am y gwrthddrych. Nis gallwch addoli gwrthddrych os na byddwch yn gwybod rhywbeth am dano; ac nis gellwch addoli os na bydd y gwrthddrych yn rhy fawr i chwi allu gwybod yr oll am dano."

"Neb i'w addoli ond Duw.—Y mae plant yn greaduriaid pur hawdd i'w hoffi, yn enwedig tra yn fychain; ond os â y rhieni i'w haddoli, hwy a droant allan yn dduwiau seilion yn wir; gwell fyddai addoli duwiau o bren a maen, canys ni byddai i'r rhai hyny fyned yn waeth wrth eu haddoli. Ac er y dylai gwraig garu ei gŵr, eto ni wna efe ond duw gwael iddi; ac er y dylai y gŵr garu ei wraig, ni wna hithau well dduwies iddo na Diana. Yr ydym i addoli Duw yn unig, am mai ef yn unig sydd yn werth ei addoli."

"Duw a digon.—Creadur bychan yw dyn mewn cymhariaeth, ond y mae wedi ei wneuthur i gynwys llawer. Er nad yw ei angenion amserol ond ychydig, y mae ei ddymuniadau yn fawrion ac eang. Y mae yn hawdd digoni natur, ond nis gellir boddloni chwant. Gwaedda gwag bleserau o hyd, Melus, moes, mwy. Pe yr addolid y bachgen gan Asia, a'r byd oll, efe a ddymunai ychwaneg o anrhydedd. A pha le y gwelwyd y cybydd yn dyweyd, Digon? Pa beth? Ai nid oes ganddo ddigon o aur ac arian i brynu ei angenrheidiau? Oes, a llawer yn weddill. Paham nad ymfoddlonai ar hyny? Dyma y paham, am ei fod yn gallu dymuno ychwaneg. Ond y neb a gafodd Dduw a gafodd ddigon, am nas gall ddymuno mwy. Nis gellir llanw y lle a gadwodd Duw iddo ei hunan yn nghalon dyn â dim, nac â'r oll a greodd efe. Pe rhoddid i ddyn haner ymerodraeth yr Hollalluog, byddai arno eisieu iddo ei hun yr haner arall; a phe caffai y cwbl, fe deimlai ei wagder er hyny, nes iddo gaffael Duw ei hunan. Ond yr enaid a all ddywedyd fod yr Arglwydd. iddo yn rhan, a all ddyweyd, Digon yw! Nefoedd fechan ar y ddaear yw dechreu mwynhau Duw, a'r nefoedd fawr a pherffaith a fydd ei weled yn Nghrist fel y mae, a bod byth yn gyffelyb iddo."

"Nis gall ond dyn addoli.—Y mae adar a all siarad a chanu, ond dyn yn unig sydd yn gallu addoli."

"Cofia yn awr dy Greawdwr.—Yn eich gwaith yn ei gofio yr ydych mewn bod iddo ef. Y mae dynion ieuaingc yn bur hapus cyn priodi; ond wedi iddynt briodi, a chael plant, nid ydynt yn leicio eu colli. Felly yr oedd y Duw mawr yn berffaith ddedwydd ynddo ei hunan cyn gosod y gogledd ar y gwagle, na chreu yr un creadur, ond wedi iddo roddi bod i chwi, nid yw yn leicio eich colli: cofiwch ef."

"Nid oes dim drwg mewn duwioldeb serch fod drwg mewn duwiolion. Purdeb ydyw hi, ac ni bydd wedi gorphen ei gwaith nes cael ei pherchenog yn gwbl yr un fath a hi ei hunan. Nid yw gras yn ymgymysgu â llygredd."

"Y rhai sydd wedi eu galw yn ol ei arfaeth ef.—Y mae rhai yn meddwl fod arfaeth Duw ar ei ffordd hwy i fyn'd i'r nefoedd. Maent yn debyg iawn i'r ŵydd yn myned o dan y bont, bydd yn rhaid iddi gael gostwng ei phen pe byddai yr arch gan' llath yn uwch na hi."

"Ac ni ddwg neb hwynt allan o'm llaw i.—Nid oes myned i fewn ac allan o drefn gras. Yn y Zoological Gardens, yn Llundain, mae yno un ffordd i fyned i mewn, lle y derbynir rhai trwy dalu, a gates eraill i fyned allan pan y myno dyn, ond nid i ddychwelyd i mewn trwy y rhai hyny drachefn. Y mae teyrnas gras yn agored i rai ddyfod i mewn iddi, ond nid i fyned ymaith o honi. Wedi y delo yr enaid i mewn unwaith, allan nid ä mwy."

"Pechod yn aflendid.—Y mae pechod wedi myned yn aflendid y natur ddynol: hen ystaen ofnadwy ydyw, ac y mae yn anhawdd iawn i'w gael i ffordd. Yn gyffredin, po neisiaf y byddo peth, aflanaf fydd wedi ei ddifwyno, ac anhawddaf ei olchi. Y mae careg aflan yn fwy anhardd nag un lân y mae anifail aflan yn wrthunach: y mae dyn aflan yn anmhrydferthach eto: ac y mae merch aflan yn wrthunach fyth: ond o bob peth aflan, enaid neu yspryd aflan yw yr hyllaf, gan ei fod wedi ei wneyd yn fwy refined na dim arall. Ond y mae yn nhrefn iachawdwriaeth fodd i olchi yr enaid oddiwrth ei aflendid: ac y mae miloedd eisoes wedi eu golchi, yn moli am eu cânu yn yn ngwaed yr Oen."

"Manteision heb yr anfanteision.—Nid oes yn y byd hwn yr un fantais heb anfantais yn ei chanlyn. Y bobl sydd am fyned i'r America, meddwl myned yno er eu mantais y maent. Y mae y tir yno yn rhad, a phris uchel ar lafur : ond y mae anfantais yn nglyn â hyny. Os oes yno dir bras, y mae effeithiau annghyfanedd—dra llawer oes ar y ffordd i'w fwynhau. Felly y mae yn y byd hwn, y mae pwll o flaen y drws, neu gareg lithrig o flaen tŷ pob un. Ond yn nheyrnas Dduw ceir y manteision heb yr anfanteision gyferbyn â hwy. Ceisiwch deyrnas Dduw ;' yn wir, pe byddech wedi ymfudo yma ni chwynech byth am yr 'hen wlad."

"Ymrysonau.—Y mae yn y byd yma lawer iawn o groesdynu, fel cŵn yn ymryson am yr un asgwrn, a dim modd ond i un ei gael. Y neb sydd o duedd ymrafaelgar, rhaid iddo fod a'i gleddyf a'i fwa yn ei law o hyd; caiff ddigon o waith i amddiffyn ei hun o ryw gwr yn barhaus. A pheth pur ddienill ydyw ymrafaelio. Clywais fod y Dutchmen yn rhoddi yn arwydd (sign) ar eu tafarndai lun buwch, a Sais yn tynu yn un corn iddi a Ffrancwr yn y llall, a Dutchman yn ei godro. Nid yw y bobl gwerylgar yn cael dim ond y cyrn i'w dwlaw, ac hwyrach y cânt eu cornio hefyd: pobl eraill a gaiff y llaeth."

"Mwyneidd-dra yr Efengyl.—Dywedir fod modd trin pawb ryw sut, naill ai trwy deg neu trwy hagr; eithr nid oes ond yspryd yr efengyl a fwyneiddia bawb yn rhwydd. Gobaith gwlad well yn mhen draw y daith a dymhera ddyn i ddygymod a llawer peth cas ar y ffordd."

"Dyn wedi gogwyddo.—Peth syth ydyw sancteiddrwydd, ond y mae y natur ddynol wedi gogwyddo trwy bechod; ac at hunan y mae ei ogwydd. Wedi i ddyn lawer pryd geisio barnu pethau yn o uniawn, mae y duedd gref sydd yn ei natur yn ei gario ato ac iddo ei hun bron yn ddiarwybod iddo. Wrth drin y byd gwnewch allowance fod tipyn glew o duedd mewn dynion yn gyffredin atynt eu hunain."

"Os yr Arglwydd sydd Dduw ewch ar ei ol ef; ond os Baal ewch ar ei ol yntau.—Ni chawn ni ddewis ein Creawdwr ; ond am ein Duw, cawn ddewis hwnw. Y mae yn bwysig iawn pwy a ddewiswn yn Dduw, oblegyd bydd delw y Duw a ddewiswn yn sicr o fod arnom. Oes, fy mhobl i, y mae gan Dduw fodd i roddi ei ddelw ar ei blant. A ddarfu i chwi sylwi ar y Manufacturers mawr yna yn Llundain a Birmingham: ar ol gwneyd eunwyddau a'u harfau, maent yn rhoddi stamp arnynt gael i bawb wybod pwy a'u gwnaeth. Felly yn union y mae y Duw mawr yn gwneyd; wedi iddo greu y greadigaeth a'r cwbl sydd ynddi, cyn ei gadael rhoddodd yntau ei stamp arni i ddangos pwy yw ei hawdwr. Ond nid ei stamp a'i enw y mae yn ei roddi ar ei blant, y mae yn gosod ei ddelw arnynt hwy."

"Twyll pechod.—Po fwyaf a fydd ein cymdeithas a Duw ac a dynion, mwyaf oll fydd ein hadnabyddiaeth o honynt ; ond po fwyaf oll fydd ein cymdeithas a phechod, lleiaf oll fydd ein hadnabyddiaeth o hono."

"Cusenwch y Mab rhag iddo ddigio.—Nid y dosbarth anhawddaf eu digio yw y merched, ac fel merched yn gyffredin bydd Ann yn digio weithiau. Ond yr wyf wedi darganfod meddyginiaeth anffaeledig, ni raid i mi ond gafael yn un o'r plant, a'i anwylo, na fydd pob peth yn dyfod i'w le ar unwaith. Fy mhobl i, os mynwch fyned at galon Duw, cusenwch ei Fab ef."

"Plesio Duw.—Yr wyf yn gwybod i mi bechu llawer yn erbyn Duw, ond yr wyf yn bur siwr fy mod wedi gwneyd un peth sydd yn ei blesio yn fawr—yr wyf wedi derbyn ei Fab Ef."

"Mae genym Dduw galluog—gall wneyd dyno bren mawnog; ond beth y gwnaf son am hyny? rhyfeddach lawer, gall wneyd sant o bechadur."

"Nis gallaf ddyweyd fawr am y nefoedd, ond dywedaf hyn, Mae yno ddigrifwch yn dragywydd.'"

"Ofni yr hyn sydd anocheladwy.—Peth ffol iawn i ddyn ydyw ofni yr hyn sydd anocheladwy. Doethineb dynion gyda phethau felly ydyw ymbarotoi ar eu cyfer. Waeth i chwi heb ofni y gauaf, oblegyd, ofni neu beidio, dyfod a wna. Felly am angeu, waeth i chwi heb ei ofni, eich doethineb ydyw parotoi ar ei gyfer."

"Oni buasai Yspryd Crist i weithredu ar bechaduriaid buasai marw Crist dros bechaduriaid yn ofer."

"Os nad oes lle i bob rhinwedd yn dy grefydd, ni thâl hi ddim."

"Ymostwng i Frenin Sion.—Y mae yn ofid i bobl gall a gwybodus ymostwng i gael eu barnu gan benau gweiniaid; ond nid yw yn ddarostyngiad i neb ymostwng i Frenin Sion—un mawr yw."

"Gwylder.—Y mae gwir wylder yn tarddu oddiar deimlad cydwybod fod peth o'i le, ond gau wylder sydd yn tarddu oddiar fod peth o'r ffasiwn."

"Os nad aiff gras rhyngot ti a'th fai, nid aiff maddeuant rhyngot ti a'r gosb."

"Byw i'r Arglwydd.—Mae byw i'r Arglwydd yn cynwys llafurio am ei adnabod, ei garu, ufuddhau iddo, ac ymddiried ynddo."

"Marw i'r Arglwydd.—Marw i'r Arglwydd a gynwysa, marw yn ngwasanaeth yr Arglwydd—marw yn deimladwy o dangnefedd yr Arglwydd—a marw dan dywyniad neillduol o wedd wyneb yr Arglwydd."

"Y saint yn eiddo yr Arglwydd.—Fel gwobr ei lafur yn ei ddarostyngiad——trwy roddi ei hunan yn bridwerth drostynt—trwy fuddugoliaeth. Nid oedd eisieu talu i'r diafol—trwy eu gwaith hwythau yn rhoddi eu hunain i'r Arglwydd."

"Cariad brawdol.—Cariad at Dduw yw y cariad uchaf mewn bod—dyna y daioni penaf. Nid oes dim teimlad uwch yn y nefoedd. Caru brawd, am fod delw Duw arno, yw y tebycaf iddo, ac y mae yn brawf ein bod yn caru Duw. Y mae gan gariad ei companions—ewyllys da—tosturi—cydymdeimlad, a chyffelyb i'r rhai hyn: ac y mae y rhinweddau hyn yn tyfu yn nyffryn gostyngeiddrwydd a hunan—ymwadiad. Ond ni thyfant ar leoedd uchel, ar fynyddoedd balchder a hunanoldeb: rhaid iddynt gael eu daear a'u hawyrgylch eu hunain."

"Diffyg mewn crefydd.—Os bydd rhywbeth yn ddiffygiol yn ein crefydd yn myned oddiyma, ni bydd modd gwneyd y diffyg i fyny yn y byd arall. Fel pan y mae plentyn yn cael ei eni i'r byd hwn, a rhyw ddiffyg arno, nis gellir gwneyd y diffyg hwnw i fyny. Y mae y baban yn cael ei gymhwyso i hwn cyn dyfod iddo, ac i'r byd arall yn hwn."

"Dammeg yr hauwr.—Gosod allan wahanol gymeriadau y mae ein Harglwydd yn y ddammeg hon. 'Min y ffordd ' yw dynion o feddyliau bychain, nas gellir rhoddi ond ychydig ynddynt. Y Creigleoedd,' dynion o feddyliau gweiniaid, ac anwadal, nas gellir hyderu ynddynt am eu parhad gyda dim; rhai hawdd argraffu arnynt, ond yn colli yr argraff hono yn fuan. Y Tir—dreiniog,' dynion o feddyliau galluog ac anturiaethus. Rhai felly fydd yn ymlwytho â gofalon bydol, os heb ras. Ond mewn rhai felly, os cânt ras, y ffrwytha yr had ar ei ganfed.' Yn y 'Creigleoedd wedi cael gras, ar ei dri—ugeinfed;' ac yn Min y ffordd ar ei ddegfed ar hugain.'

"Mae y diafol wedi cael goruchafiaeth ar ein natur ni, ond nid oes ganddo hawl arni."

"Yr hwn a'n symudodd ni.—Nid yw bod dyn yn bechadur yn un prawf y bydd yn uffern; y mae y Duw mawr o'i ras yn symud. Os nad yw pechod yn llywodraethu, yr wyt yn ddiogel, ac nis gall y diafol ond vexio y dyn duwiol."

"Chwilod o ddynion.—Y mae y Brenin mawr wedi cyfranu cryn lawer o synwyr i'r creaduriaid direswm; dyna y ceffyl, y fuwch, a'r ci, y mae pob un o honynt wedi cael digon o synwyr i gydnabod dyn: ond am y chwilen bach sydd yn y llwch wrth eich traed, mae hi mor fechan fel nas gall weled dim allan o honi ei hunan; ni welodd hi neb mwy na hi ei hun: y mae hi mor hyf ar y brenin ac ar y beggar. Wel, mhobol i, y mae rhyw chwilod o ddynion felly i'w cael ar hyd y byd yma, na welson' nhw neb erioed mwy na hwy eu hunain, ac mi a'ch marchogant chwi byth a hefyd, os cânt lonydd."

"Dewis y gwir Dduw yn Dduw.—Gwnewch mor gall, mhobol i, ag y gwnaeth Esop, wrth fyned gyda mintai i ben y mynydd; yr oedd yno lawer o glud—gelfi ac ymborth yn cael eu darparu ar gyfer y daith, a phawb yn dewis ei faich ond dewisodd Esop y baich bwyd i'w gario; ac fel yr oeddynt yn esgyn i fyny, yr oeddynt yn gorphwys ac yn ymborthi; ac wedi hyny cychwyn a phob un a'i faich ei hun, ac yr oedd baich pawb yn cadw ei bwysau, neu yn hytrach yn trymhau fel yr oeddynt yn dringo, ond baich Esop; yr oedd ei faich ef yn ysgafnach bob tro y gorphwysent, a mwy na hyny yr oedd baich Esop yn rhoddi nerth adnewyddol bob tro i ail gychwyn. Felly chwithau, fy mhobol i, dewiswch yr Arglwydd yn Dduw i chwi, cewch y bydd ei iau yn esmwyth a'i faich yn ysgafn, a chewch fwrw eich baich arno, ac efe a'ch cynal chwi a'ch beichiau."

"Un drwg ydyw pechod.—I gael golwg ar ddrwg pechod yn iawn, dylem edrych, nid yn unig ar yr hyn a wnaeth yn y byd yma, ond ar yr hyn a wnai pe cai."

"Nid yw Duw yn ddim i neb er mwyn Iesu Grist, ond i'r pechadur edifeiriol."

"Heb gyfrif iddynt eu pechodau.—Nid yw heb wybod eu bod yn bechaduriaid, a gwneyd iddynt hwythau wybod, ond heb gyfrif euogrwydd eu pechodau yn eu herbyn."

"Gwybodaeth gartrefol.—Mae yn gymwys fod y wybodaeth sydd genym yn wybodaeth gartrefol—gwybod ein hanes ein hunain yn gyntaf. Dyn cloff, diffygiol, fyddai hwnw a allai ddyweyd hanes ei gymydogion, ac heb ei adnabod ei hun; ynfytyn a fyddai er pob peth."

"Calon newydd.—Mae rhoddi calon newydd i bechadur yn beth na ddichon neb ond Duw ei wneuthur, ac am hyny y mae efe yn addaw, Rhoddaf i chwi galon newydd;' ond y mae arfer y moddion trwy ba rai y mae Duw yn gwneyd hyny yn ddyledswydd ar ddyn, ac am hyny y mae Duw yn gorchymyn, Gwnewch i chwi galon newydd.'

Trefn i gadw.—Peth mawr a rhyfedd oedd cael trefn i gadw pechadur colledig, ond nid cymaint o beth yn awr yw ei gadw trwy y drefn a luniwyd. Yr oedd yn grynbeth gwneyd a gosod crane i ddechreu; ond nid cymaint o beth yw i hwnw godi tunellau o bwysau ar ol ei osod yn ei le."

"Yr iachawdwriaeth yn ffitio pawb.—Nid yw dynion wedi eu ffitio i bob peth. Mae gan ambell ddyn lympiau o ddwylaw tewion, na thalent ddim i wneyd watch. Ond y mae pawb yn ffitio i'r iachawdwriaeth, a'r iachawdwriaeth yn eu ffitio hwythau; hi a achub frenin a chardotyn yn ddiwahaniaeth.'

"Iachawdwriaeth fawr.—Mae Duw yn y greadigaeth wedi darparu lluosogrwydd a digonolrwydd o'r pethau yr oedd eisieu helaethder o honynt. Ni wnewch chwi byth Gader Idris o aur y byd: ychydig bach, mewn cymhariaeth, sydd o aur i'w gael. Ond y mae cyflawnder o ddwfr yn y môr, canys yr oedd ei eisieu yn fawr iawn. Bum i, pan yn fachgen, yn meddwl y buasai yn well fod y môr sydd rhwng y Dyffryn a Sir Gaernarfon yn dir braf, er mwyn i blant dynion gael digon o hono. Ond erbyn i mi ddeall, y mae eisieu i'r môr fod yn fawr fel y mae, gan mai o'r môr y dyfrheir y ddaear, a phe buasai yn llai, ni buasai yn ddigon i'r perwyl ei hamcanwyd. Y mae hefyd ryw doraeth o oleuni a gwres yn yr haul, ac yr oedd eisieu iddo, fel canolbwynt cymaint o fydoedd, fod ei wres a'i oleuni yn fawr. Wel, fel hyn hefyd y mae yr iachawdwriaeth sydd yn y Cyfryngwr. Gwyddai Duw fod angen y pechadur yn fawr, ac efe a drefnodd iachawdwriaeth fawr, Iawn mawr yw yr Iawn; canys yr hwn sydd uwchlaw pawb, Efe yw yr Iawn.'"

"Bywyd a bery.—Mae etifeddiaethau y ddaear yn myned yn llai wrth eu rhanu. Wrth i blant Israel ranu gwlad Canaan i'w plant, a'u plant hwy drachefn i'w plant hwythau, yr oedd eu hetifeddiaethau yn myned yn llai o hyd. Ond er i lawer o'r newydd gael Duw yn rhan ac yn etifeddiaeth, nid yw rhan neb a'i hetifeddo yn myned yn llai, y mae holl gyflawnder y Duwdod yn eiddo pob credadyn. Mae bara wrth ei ddefnyddio yn darfod, ond nid yw Bara y bywyd yn lleihau dim wrth ei fwyta; 'bwyd a bery i fywyd tragwyddol' ydyw."

"Dilyn o hirbell.—Byddaf yn gweled rhai gyda chrefydd yn bur debyg fel y bydd cymydogion mewn claddedigaeth; gwelir rhai yn cerdded llwybrau cyfochrog a'r ffordd—am y gwrych a hwynt, eraill yn tori cyfarfod iddynt yn lle rowndio y tröad oedd yn y ffordd; ond bydd yno ryw nifer bach yn cadw o amgylch yr elor, a'u hysgwyddau yn aml o dan yr arch."

"Ac i ti er yn fachgen.—Y mae tref yn Lloegr lle y mae llawer yn byw ar wneyd hoelion, a bydd y plant yn chwareu gwneyd hoelion; ond fel y byddant yn tyfu i fyny, fe fydd gwneyd hoelion yn myned yn fywioliaeth. iddynt; a phe gofynid pa bryd y darfu iddynt ddysgu, nis gwyddant. Felly y mae llawer o'r plant a fagwyd yn ein heglwysi, y maent wedi ymarfer â phethau crefydd er yn blant, ond fel y maent yn tyfu i fyny y maent yn dyfod i ymdeimlo â'u rhwymedigaeth fel rhai yn proffesu, ond pe gofynid iddynt pa bryd y daethant i ymdeimlo felly, nis gallant ddyweyd."

"Y mae rhai pethau nad oes arnaf eisieu newid dim arnynt y Duw mawr—y Cyfryngwr mawr—a'r drefn fawr y maent wrth fy modd."

"Wele yr wyf yn sefyll wrth y drws ac yn curo.—Fe ddaw i mewn ond agor iddo. Cofiwch fod yn rhaid agor y galon i Fab Duw, ni wna efe byth fyrstio y drws, ond y mae yn rhaid dy gael di yn barod i'w dderbyn yn gynes a chroesawgar."

"A ranwyd Crist?—Pan yr ydym yn lladd oen, neu ryw anifail arall, y mae gan bawb eu taste at ryw ran neu gilydd o hono ond am Oen y Pasg yma, sef Crist, y mae yn rhaid i bawb ei ddefnyddio ef i gyd neu fod yn ol o hono. Nis gellir rhanu Crist."

Efe a roddes allu iddynt i fod yn feibion i Dduw.—Nid. gallu i fod yn greaduriaid Duw, o ran y mae hyn gan bawb; Efe a'n gwnaeth, ac nid ni ein hunain, ei bobl ef ydym a defaid ei borfa.' Nid yw yr un peth bod yn greaduriaid Duw a bod yn feibion Duw, oblegyd y mae delw Duw ar ei blant—y mae y plant yn wrthddrychau ei neillduol ofal—y mae braint y plant yn fawr dros benbeth bynag gaiff y plant ni ddaw yr un bill byth ar eu hol; ond bydd bill ofnadwy i'r annuwiol ryw ddydd a ddawac y mae y plant ag etifeddiaeth yn eu haros. Nid yw cyfraith Lloegr ond yn rhoddi etifeddiaeth i'r cyntafanedig; ond yn America rhanu yr etifeddiaeth rhwng y plant i gyd; felly am blant Duw, os plant etifeddion hefyd.""

"Os nad ellwch ddiolch am eich bod yn dduwiol, diolchwch am fod gan Dduw drefn i'ch gwneyd yn dduwiol."

"Rhoddwch eich hunain i Dduw.—Mae gan ddyn ryw hawl na fedd neb arall mo honi; gall roddi ei hunan i'r neb y myno—i'r diafol neu i Dduw."

Nodiadau

[golygu]