Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn/Pennod XI
← Pennod X | Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn gan Griffith Williams, Talsarnau |
Pennod XII → |
PENNOD XI.
MR. HUMPHREYS FEL GWEDDIWR.
GELLID meddwl ei fod yn bwngc gan Mr. Humphreys i beidio a gwario ei ddifrifwch gyda phethau dibwys yn ogystal a gochelyd ysgafnder gyda phethau cysegredig. Y mae rhai dynion yn ddifrifol gyda phob peth, ac eraill yn gwneyd y cwbl mewn dull ysgafn a chellweirus. Cofus genyf glywed am un brawd—yr hwn nad oedd ganddo ond yr un pwyslais i'w roddi ar bob peth—yn dyweyd yn yn nghlywedigaeth Mr. Humphreys, "Y mae yr eglwys acw wedi colli dau o'i blaenoriaid; aeth un i fyw i L——n, a'r llall i dragwyddoldeb;" a thrwy nad oedd yn gwneyd dim gwahaniaeth rhwng y ddwy daith, dywedai Humphreys, "Y mae cryn wahaniaeth rhwng y ddau symudiad yna, John." Os ydyw y darllenydd wedi ein dilyn gyda'i hanes hyd yma, y mae wedi deall ei fod yn llawn o ddigrifwch naturiol; ond er hyny, ni welsom neb erioed a golwg mwy defosiynol arno pan yn ymwneyd a phethau cysegredig crefydd, na Mr. Humphreys o'r Dyffryn. Cynyrchai yr olwg addolgar fyddai arno ddifrifwch mawr bob amser y gweinyddai y sacramentau― Bedydd a Swper yr Arglwydd. Arferai ddyweyd wrth y cymunwyr am iddynt fod mewn agwedd briodol wrth dderbyn yr elfenau tynu eu menyg, estyn eu llaw ddehau, a gwneyd ffordd i'r gweinidog i fyned heibio iddynt; ac ychwanegai, nas gallai ef addoli a dillad ei gyd-greaduriaid o dan ei draed, a bod addoli yn beth nice iawn. Byddai yn gyffelyb wrth fedyddio; cynyrchai barchedig ofn yn mynwesau y gynulleidfa wrth ddefnyddio enwau y Drindod Sanctaidd. Dywedai wrth fedyddio yn debyg i hyn, " Y mae rhieni y bychan hwn yn chwenych ei alw yn ——a galwer ef felly, ac nid wrth yr un enw arall. Yr wyf fi, gan hyny, yn bedyddio —— yn enw y Tad, y Mab, a'r Yspryd Glân; a'r Duw hwn sydd yn Dad, Mab, ac Yspryd, a fyddo yn Dduw i'r bychan hwn; eglwys Dduw fyddo ei gartref, pobl Dduw fyddo ei bobl tra byddo yr ochor yma, a nefoedd Duw fyddo yn gartref iddo wedi myned oddiyma." Byddai yr erfyniadau hyn yn cael eu gwisgo gyda'r fath ddifrifwch, a'u llenwi a'r fath deimlad, fel y byddai yn dwyn argyhoeddiad i bob mynwes fod ei galon ar ei wefus; a diau fod yr erfyniadau taerion hyn wedi eu gwrando ar ran llawer o fabanod a gymerodd yn ei freichiau. Clywsom wraig o Sir Aberteifi yn dyweyd ei fod pan yn bedyddio baban iddi wedi prophwydo y byddai y bychan yn ddefnyddiol gydag achos yr Arglwydd, a gweddïodd yn daer am iddo gael bod felly; ac y mae y baban hwnw erbyn hyn yn weinidog parchus yn Neheudir Cymru, gyda'r Trefnyddion Calfinaidd.
Y mae llawer o'r rhai a fu mor garedig ag anfon yr adgofion oedd ganddynt am Mr. Humphreys yn gwneyd cyfeiriadau mynych at ei weddïau. Nid ato fel gweddiwr doniol; yr oedd efe yn ddoniol yn gweddïo fel yn pregethu. Y mae llawer siaradwr hyawdl yn afrwydd iawn pan yn ceisio gweddïo; ond cyfeiriant ato fel gweddiwr difrifol, doeth, a gafaelgar, ac at ei weddïau fel rhai eang, manwl, a chynwysfawr. Ni byddai yn rhy brysur a'i enau, ac ni frysiai ei galon i draethu dim ger bron Duw, canys yr oedd yn ystyried fod Duw yn y nefoedd, ac yntau ar y ddaear, am hyny byddai ei eiriau yn anaml. Gallem feddwl oddiwrth y gwahanol gyfeiriadau a wneir ato, yn nghyd a'n hadgofion ein hunain am dano yn gweddïo, y byddai yn cael defnydd ei weddïau yn ei fyfyrdodau. Credwn y cytuna y darllenydd—os yw yn arfer gweddïo—mai gwaith anhawdd iawn ydyw gweddïo, os na bydd defnydd y weddi yn y myfyrdod. Y mae y Parch. R. Griffith, Bryncrug, yn ei adgofion am ei hen feistr, yn dyweyd fel hyn am dano fel gweddïwr. "Yn Sassiwn Pwllheli, yn dechreu yr oedfa ddau o'r gloch, y gwelais i Mr. Humphreys y tro cyntaf i mi ei adnabod, ac fe dynodd fy sylw i edrych a gwrando arno yn y modd mwyaf astud. Yr oeddwn yn ei weled yn un o'r dynion harddaf a welswn erioed, ac yn uwch o'i ysgwyddau i fyny na neb o'i frodyr oedd gydag ef ar yr esgynlawr. Yr oedd tegwch ei wedd a glendid ei lygaid yn nodedig, canys yr oedd yn mlodeu ei ddyddiau, yn llawn deugain mlwydd oed. Yr oedd ei lais yn dyner a soniarus, ac eto yr oedd yn darllen yn ddigon uchel i'r dyrfa fawr ei glywed heb iddo waeddi dim. Nis gallaf ddesgrifio mor ddyfal ac effeithiol yr oedd yn gweddio y tro hwn. Nesäai at orsedd—faingc y gras mewn llawn hyder ffydd. Siaradai a'r Arglwydd fel yr ymddyddanai gŵr gyda'i gyfaill, ac er hyny yn wylaidd, gyda pharchedig ofn. Yn y weddi hon, fel pob amser, cydnabyddai yr Arglwydd am yr amlygiadau a roes efe o hono ei hunan yn nghreadigaeth pob peth, ac am ei fod a'i orseddfaingo yn y nefoedd yn ddigon uchel i lywodraethu ar bob peth, ac yn neillduol fel Duw pob gras, yn mawredd ei gariad yn anfoniad ei uniganedig Fab i'r byd, fel na choller pwy bynag a gredo ynddo ef, ond caffael o hono fywyd tragwyddol. Ac wrth son am fawredd cariad Duw, cynhyrfodd ei yspryd, newidiodd tôn ei lais, a chyda rhyw wên siriol ar ei wyneb, gogwyddodd ei ben, ac estynodd ei law yn arafaidd a dywedai yn llawn serchogrwydd, "Bendigedig a fyddo dy enw sanotaidd byth ac yn dragywydd;" a'r holl bobl o dan ddylanwad yr un yspryd a ddywedasant, "Amen." Mewn cwr arall o'i adgofion y mae yn cyfeirio at ei weddïau yn y teulu,—a dywedasom mewn pennod arall, fod dylanwad yr addoliad teuluaidd yn fawr yn y Faeldref.—A ein hysbysydd yn mlaen fel hyn, "Gorchfywyd ni lawer tro ganddo, yn enwedig pan y byddai yn ein cyflwyno i ofal y Brenin Mawr, gan ddymuno iddo fod yn Dduw i ni i gyd, fel yr oedd yn Greawdwr a Chynhaliwr i ni. Ie, dywedai, 'Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob; Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, bydd yn Dduw i ninau. Yr ydym wedi dy adael yn foreu iawn, ac y mae arglwyddi eraill lawer heblaw tydi a arglwyddiaethasant arnom ni. Yr ydwyt yn ewyllysio bod yn Dduw i dy greaduriaid, yr ydym ninau yn ewyllysio dy gael yn Dduw i ninau. Nid oes dim a leinw dy le, ond os cawn ni di yn dy Anwyl Fab, fe gawn ddigon am amser a thragwyddoldeb, Gwyn eu byd y bobl y mae yr Arglwydd yn Dduw iddynt.' Yna ychwanegai gofio Hâd Abraham, yr hen genedl, gan ddywedyd, Y maent yn garedigion i ni oblegyd y tadau, brysied yr amser iddynt gael eu himpio i mewn yn eu holewwydden eu hun, cyflawnder y cenhedloedd a ddelo i mewn i dy dŷ yn fuan, a holl Israel yn gadwedig.' Ni byddai Mr. Humphreys un amser yn annghofio yr hen genedl; pa un bynag ai yn ei dŷ ei hun, ai yn y capel, ai ar y maes ar ddydd y gymanfa, y plygai efe ger bron Duw, byddai hiliogaeth Jacob yn sicr o gael eu gosod yn daclus ganddo ger bron yr orsedd; ac nid oedd dim yn brawf gwell mai nid rhywbeth ffurfiol ynddo oedd hyn na'r newydd—deb gwastadol a deimlid yn ei erfyniadau ar eu rhan; ac ni buasai dim yn cadw y fath newydd-deb ynddynt ond y teimlad byw fyddai yn ei daflu i'w erfyniadau. Clywsom fod rhyw hen wr wedi myned i Gymdeithasfa Pwllheli yn methu a chofio pwy oedd y gweinidog oedd yn dechreu yr oedfa: teimlai y dylasai ei adnabod, ond yn ei fyw ni allasai ei gofio; ond o'r diwedd dechreuodd y pregethwr weddio dros yr hen genedl, ac yn y fan fe gofiodd yr hen ŵr mai Mr. Humphreys, Dyffryn, ydoedd. Dywed un cyfaill wrth gyfeirio at ei waith yn gweddio dros hiliogaeth Jacob, na buasai yn anhawdd ganddo ef gredu—os ydyw arferion y nefoedd rywbeth yn debyg i eiddo y ddaear—nad oedd Abraham, Isaac, a Jacob, Moses, a'r holl brophwydi yn brysio i'w gyfarfod yn llu ardderchog, a'u telynau aur yn eu dwylaw i'w groesawu a diolch iddo fel y diolchai nefolion—am gariad ei fynwes tuag at eu cenedl hwy pan ar y ddaear.
Byddai rhyw arogl esmwyth yn dilyn ei waith yn cydnabod Duw am ei drefn, a'r dadganiad fyddai yn ei wneyd o'i ymorphwysiad arni. Yr oedd yn dechreu yr oedfa o flaen y Parch. Joseph Thomas, Carno, yn Mhennal unwaith, a hyny yn lled agos i ddiwedd ei oes. Dywedai gyda llewyrch mawr, "Y mae genyt drefn i gadw, y mae yn hen drefn. Diolch i ti am dani. Nid oes fawr o amser er pan glywsom ni son am dani. Yr ydym wedi ei leicio. Nid oes arnom eisieu yr un drefn arall, a phe buasai trefn arall yn bod, gwell genym hon." Ond efallai mai yr hyn a adawodd yr argraffiadau dyfnaf ar feddyliau y gynulleidfa ydoedd, taerni ei erfyniadau am gael Duw yn Dduw iddynt, a rhoddai ei hunan yn y troop bob amser. Dywedai yn debyg i hyn, "Diolch am fod genyt drefn i fod yn Dduw i ni. Nid ydym yn gwybod ond ychydig am danat, y Duw Mawr, ond ni chymerem y byd am yr hyn a wyddom," yna ychwanegai, "Bydd yn Dduw i ni; yr wyt yn Greawdwr i ni, bydd yn Dduw i ni. Ein Creawdwr fyddo yn Dduw i ni, a'n Barnwr a fyddo i ni yn Waredwr," a diweddglo ei weddi bron bob amser a fyddai, "Bydd yn Dduw i ni oll, a bydd yn Dduw i ni byth Pan y coffawyd yn y weddi ar lan y bedd, ddydd ei gladdedigaeth, ei hen erfyniad ef ei hunan, "BYDD YN DDUW I NI," yr oedd rhyw effeithiau nerthol yn eu dilyn ar feddyliau y dyrfa fawr oedd wedi ymgasglu i'w osod yn "nhy ei hir gartref," a hyny yn cael ei achosi yn ddiau gan yr adgofion bywiog oedd yn eu mynwesau am ei waith yntau yn gofyn yr un pethau ar eu rhan, ac oddiar y grediniaeth ddiysgog oedd yn eu mynwesau ei fod ef ei hunan wedi cael Duw yn Dduw iddo, ac wedi dechreu ar dragwyddoldeb o fwynhau Duw yn Nghrist, a'i holl erfyniadau wedi eu troi yn dderbyniadau.
Byddai yn dangos chwaeth dda bob amser yn netholiad yr Hymnau a roddai allan i'w canu; ac yr oedd ganddo ei hoff bennillion; byddent yn hollol ysgrythyrol ac efengylaidd o ran syniadau, a byddant yn Fawl-eiriau. Ni chafodd Salmau yr Archddiacon Prys eu hacenu erioed yn well na chan Mr. Humphreys, ac ni a ddodwn un o'i hoff Salmau i lawr, er mantais i'r darllenydd i'w hadgofio.
"Da wyt i'th dir, Jehofah Ner,
Dychwelaist gaethder Iago,
Maddeuaist drawsedd dy bobl di,
Mae'n camwedd wedi ei guddio."