Neidio i'r cynnwys

Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn/Pregeth III

Oddi ar Wicidestun
Pregeth II Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn

gan Griffith Williams, Talsarnau

Pregeth IV

PREGETH III.

LLYWODRAETH DUW YN DESTUN LLAWENYDD.

"Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu; gorfoledded y ddaear: llawenyched ynysoedd lawer."—PSALM Xcvii. 1.

NID yw yn adnabyddus i feibion dynion ëangder creadigaeth Duw; mae hi yn fawr iawn, fe wyddis; ond ni wyddis pa mor fawr. Ond hyn sydd hysbys i ni, y mae llywodraeth Duw mor fawr a'i greadigaeth; ei amherodraeth ef ydyw oll. Crëodd fydoedd lawer, ac y mae y cwbl dan ei lywodraeth. Y mae holl lu y nef a'r holl bethau sydd ar y ddaear yn myned yn mlaen wrth reolaeth Duw. Edrychwch ar sêr y nefoedd; "dyrchefwch eich llygaid i fyny, ac edrychwch pwy a greodd y rhai hyn, a ddwg eu llu hwynt allan mewn rhifedi; efe a'u geilw hwynt oll wrth eu henwau; gan amlder ei rym ef, a'i gadarn allu, ni phalla un," ac ni ufuddâ un i'w lywodraeth. Nid oes un llwchyn yn yr holl greadigaeth heb fod dan lywodraeth Duw. Beth yw hyny i ni? meddai rhywun. Mae yn fwy peth nag yr ydych yn feddwl. Gallasai rhyw fydoedd ddyfod ar draws ein byd ni, fel y gwelwyd cerbydau yn taro yn erbyn eu gilydd ar y tir, a llongau ar y môr, oni buasai fod yr Arglwydd yn teyrnasu. Dyma sydd yn ein sicrâu am ddydd ar ol nos, a haf ar ol gauaf. Nid oes wybod pwy o honom a wêl y dydd yfory, ond y mae yn sicr o wawrio. Ni wyddom pwy a fydd byw galanmai nesaf, ond y mae haf hyfryd yn sicr o ddyfod; a dyna'r pa'm:—"Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu.' Y mae ei lywodraeth ef yn hyn yn achos gorfoledd.

Y mae Duw hefyd yn llywodraethu ar y greadigaeth afresymol. Rhoddodd ryw ddeddfau priodol i'r creaduriaid heb reswm ganddynt, ac y mae y rhai hyny yn anian ynddynt. Mae dynion yn gallu eu defnyddio wrth ddeall y deddfau hyny; maent yn cael gwasanaeth oddiwrthynt; ac y mae hyn yn destun diolchgarwch. Dylem gydnabod daioni Duw yn hyn.

Y mae gan Dduw lywodraeth eto ar y greadigaeth resymol. Pa le bynag y mae creadur rhesymol, y mae o dan lywodraeth Duw fel y cyfryw. Y duwinyddion yn gyffredin a alwant hon yn llywodraeth foesol, sef am yr un rheswm ag y galwant y ddeddf yn ddeddf foesol. Gelwir y ddeddf felly, nid am fod deddf anfoesol yn bod, ond i'w gwahaniaethu oddiwrth y deddfau seremoniol, naturiol, a gwladol. Felly gelwir llywodraeth Duw ar berchenogion meddwl a rheswm yn llywodraeth foesol, i'w gwahaniaethu oddiwrth lywodraeth Duw ar y byd naturiol ac ar y greadigaeth ddireswm. Mae y llywodraethau hyny yn wahanol iawn i'r llywodraeth hon. Y mae creaduriaid yn myned yn mlaen yn ol eu deddfau, ond nid ydynt yn gwybod paham; maent yn adwaen eu tymhorau rywsut, ond nid oes ganddynt reswm, pe medrent siarad, i'w roddi am hyny. Nid ydynt yn meddwl am Ddeddfroddwr, nac yn meddu modd i feddwl am dano. Ond y mae gan Dduw lywodraeth foesol ar ddyn. Yn y llywodraeth hon, y mae Duw yn dodi o flaen dynion einioes ac angeu, bywyd a marwolaeth; addewidion am ufudddod, a bygythion ofnadwy am anufudd—dod; mae yn dangos y lles mawr o gydffurfio â'r llywodraeth, a'r perygl mawr o wrthryfel; mae yn cosbi bai, ac yn gwobrwyo rhinwedd a daioni. Ni wn pa fodd i ddyweyd yn well ar hyn mae y Beibl yn dyweyd pethau fel yna.

Y mae y llywodraeth hon yn destun gorfoledd i'r ddaear, oblegyd y mae Duw yn gwneyd yn dda ac uniawn â phawb. Ni orthryma efe neb." "Nid yw yr Arglwydd yn gweled yn dda wneuthur cam â gŵr yn ei fater." Er ei fod yn uchel, a dynion ger ei fron fel locustiaid, eto "ni ddiystyra efe neb." Yr oedd yn werth ganddo ein creu i ddyben uchel, ac y mae yn werth ganddo ein cynal a gofalu am danom. Ac mor fanwl yw sylw y Jehofah mawr ar ei ddeiliaid fel y dywedir ei fod yn rhifo eu camrau. Mae yn sylwi ar bawb fel pe na byddai ond un, ac yn sylwi ar un fel pe byddai yn bawb. Er mor fawr ydyw, y mae yn hollol gyfiawn. Er ei fod yn Unbenaeth tragwyddol, yn gwneuthur a fyno â llu y nefoedd, ac â thrigolion y ddaear, nid yw yn gwneuthur dim ond yr hyn sydd uniawn. Da yw y peth sydd yn dda yn ngolwg Duw; y goreu yw yr hyn a wêl yn oreu. Peth drwg yw ewyllys dyn yn rheol, ond gwerthfawr iawn yw ewyllys Duw yn rheol; a Duw a blygo ein hewyllysiau ni i'w ewyllys ef.

Y mae pawb yn ddeiliaid i'r llywodraeth hon; er nad yw dynolryw yn gyffredin yn teimlo eu rhwymedigaeth i'r Llywydd mawr. Mae y byd yn meddwl mai pobl grefyddol sydd dan rwymau i ufuddhau i Dduw. Gweddus iawn i grefyddwyr yw bod yn gyson â hwy eu hunain; ond dylai pawb wasanaethu Duw. Y mae llywodraeth Duw ar ddyn fel y mae yn greadur rhesymol, ac am ei fod yn greadur rhesymol. Mor hawdd a fyddai i ddyn fyned o lywodraeth Duw yn yr ystyr yma ag a fyddai iddo fyned yn ddim. Ni all fyned allan o rwymau i ufuddhau i Dduw mwy nag y gall ddiddymu ei hunan. Y mae bod dan rwymau i ufuddhau i Dduw yn anrhydedd i bob dyn. I ba le bynag yr elych, ni elli fod yn rhydd o lywodraeth Duw. Beth pe rhoddid i mi adenydd y wawr, a phe trigwn yn eithafoedd y môr? Ni byddai hyny ond yr un peth yn hollol; byddai llywodraeth Duw yn y fan hono. Beth pe esgynwn i'r nefoedd? Byddit yno yn y breninllys ei hunan. Beth pe cyweiriwn fy nyth yn uffern? Ei garchar ef ydyw, lle y mae y Brenin_yn rhoddi rhai rhy ddrwg i fod a'u traed yn rhyddion. Er i rai fod yn garcharorion yn Newgate oblegyd troseddau, nid ydynt allan o lywodraeth Victoria yno; y mae hwnw yn nghanol y brifddinas. Felly am drigolion Gehena; nid ydynt allan o'r llywodraeth fawr. Y maent allan o ffafr eu Tywysog, ond y maent i gyd yn ddeiliaid. "Gorfoledded y ddaear," oblegyd llywodraeth Duw. Mae yn well gan ddyn feddwl mai yr Arglwydd sydd yn llywodraethu na neb dynion. Un ferch ddigrefydd a ddywedodd, "Mae yn bur sobr genyf feddwl mai Duw sydd yn fy marnu; ond gwell genyf hyny nag i un dyn fod fy marnwr; caf chwareu teg ganddo ef."

Y mae gan Dduw lywodraeth eto mewn ystyr wahanol; llywodraeth gras Duw yn y Cyfryngwr. Mae y Beibl yn son llawer am hon; gelwir hi yn fynych yn deyrnas, a theyrnas Dduw. "Ceisiwch yn gyntaf deyrnas Dduw, a'i gyfiawnder ef." Yr Apostol a ddywed, Yr Apostol a ddywed, "Fel megys y teyrnasodd pechod i farwolaeth;" dyna deyrnasiad sobr iawn; nid gwiw gwaeddi gorfoledded y ddaear am hono. Ond dyma y testun gorfoledd," felly hefyd y teyrnasai gras trwy gyfiawnder, i fywyd tragwyddol, trwy Iesu Grist ein Harglwydd." Mae pechod wedi teyrnasu yn gyffredinol yn y byd. Ni wyddis yn iawn pa sut y daeth pechod i mewn yma; ond ni a wyddom iddo ddyfod. Fe ddaeth trwy un dyn, ac fe deyrnasodd i farwolaeth yn y natur ddynol. Ond dyma deyrnasiad arall; teyrnasiad i fywyd; teyrnasiad gras yn y Cyfryngwr ar lwybr anrhydeddus i ddeddf a phriodoliaethau Duw. "Teyrnas ei amynedd ef."

Beth sydd i ni ddeall wrth lywodraeth gras? Y mae hon, mae yn wir, yn llywodraeth foesol, ac nid yr un peth a llywodraeth Duw ar y greadigaeth ddifywyd neu ddireswm. Y mae addewidion mawr iawn a gwerthfawr yn hon o bethau annhraethol fawr a gogoneddus. Nid yw gwobrwyon am ddaioni a cheryddon am anwiredd wedi eu cymeryd allan o honi. Yr un yw y Llywydd, a'r un yw y ddeddf. Ni ddaeth Crist "i dori y gyfraith ond i gyflawni." "Haws i nef a daear fyned heibio, nag i un tipyn o'r gyfraith ballu." Beth yw y gwahaniaeth? Yn nhrefn gras y mae Duw yn derbyn yn ol bechaduriaid oedd wedi gwrthryfela yn erbyn ei lywodraeth fel un gyffredinol ar yr holl greadigaeth. Pan aeth y dyn cyntaf i lawr, aeth y cyfan i lawr. "Megys deilen y syrthiasom ni oll," ac o hyny hyd yn awr, "ein hanwireddau megys gwynt a'n dug ni ymaith." Er fod pechod yn beth ffol a difantais iawn, mae y natur ddynol yn myned ar ei ol i farwolaeth. Ond yn y Cyfryngwr y mae Duw wedi sylfaenu rhyw deyrnas o ras, yn yr hon y mae anfeidrol ogoniant iddo ei hun ac anfeidrol gyfoeth o drugaredd i bechaduriaid. I ddangos ei ras y mae Iesu, y Llywydd mawr, wedi dyoddef a marw, fel y cai holl ddeiliaid ei deyrnas rasol fywyd yn ei angeu. Mae Ꭹ Person gogoneddus hwn wedi ei osod gan Dduw yn iawn, "i ddangos ei gyfiawnder ef; fel y byddai efe yn gyfiawn, ac yn cyfiawnhau y neb sydd o ffydd Iesu."

Y mae pawb yn ddeiliaid llywodraeth gyffredinol Duw; ond y mae rhagor mawr rhwng y cyfiawn a'r drygionus. Nid yw y gwahaniaeth mewn bod yn ddeiliaid; ond y mae y gwahaniaeth mewn cyflwr, tuedd, ac amgylchiad. Mae yn y nefoedd ddau fath o ddeiliaid i Dduw. Mae yno un math heb wrthryfela erioed yn ei erbyn; meibion henaf Duw, y rhai ni throseddasant un amser ei orchymyn; safasant hwy yn ffyddlawn pan fu gwrthryfel yn y nef. Math arall yw rhai wedi bod yn wrthryfelwyr, ond a gymodwyd â Duw yn ngwaed ei Fab; nid oes y radd leiaf o wrthryfel at Dduw yn eu meddyliau yno. O! y mae yn hapus arnynt yn awr yn y mwynhad perffaith o Dduw a'r Oen. Mae yn uffern hefyd ddau fath. Un math wedi gwrthryfela yn foreu; yr angylion syrthiedig, y rhai a gadwodd Duw mewn cadwynau tragwyddol, dan dywyllwch, i farn y dydd mawr, heb gyhoeddi na chynyg trugaredd iddynt erioed. A'r lleill yw pechaduriaid o'r ddaear, y rhai a fuant unwaith yn y byd lle yr oedd Duw yn maddeu, ond a aethant o hono heb dderbyn maddeuant. Dyna ddau ddosbarth sobr iawn; maent yn eithaf truenus, ond y maent er hyny yn ddeiliaid llywodraeth Duw. Mae ar y ddaear hefyd ddau fath. Mae un sort, a gwyn fyd na byddem oll o'r sort hono, wedi eu symud i deyrnas anwyl Fab Duw. Nid ydynt yn hollol yr un fath a'r teulu sydd yn y nefoedd; mae yma ddeddf yn yr aelodau yn gwrthryfela yn erbyn deddf y meddwl; mae yma ryw anhwyldeb yn eu blino, ond y mae eu bywyd yn ddiogel; maent eto yn sŵn y rhyfel, ond ni chyfrgollant byth. Y dosbarth arall sydd yn para yn wrthryfelgar yn erbyn Duw, er clywed am y cymod; maent yn troi yn glustfyddar i holl alwadau Duw ar eu holau, yn myned yn mlaen gan gyflawni pob aflendid yn un chwant. Nid yw holl fygythion y ddeddf yn eu dychrynu, na holl addewidion yr efengyl yn eu denu. Mae y byd, y cnawd, a'r diafol yn cau eu clustiau nes eu byddaru i bob lleisiau eraill. Wele dyma yr annuwiol. A ydyw ef yn ddeiliad Duw? Ydyw, ond deiliad gwrthryfelgar ydyw, heb ei gymodi â'i Frenin; deiliad yn rhedeg yn y gwddf i Dduw; deiliad yn gwrthod cymod, a hyny am ei fod yn gymod rhad. Mae y naill wedi dyfod i deyrnas anwyl Fab Duw, allan o feddiant y tywyllwch, a'r llall yn aros o hyd yn y fyddin ddu wrthryfelgar. Y mae bod mewn cyflwr gwrthryfelgar yn sefyllfa beryglus iawn. Y pwnc mawr i ni yw,—pa le yr ydym ni yn sefyll gyda golwg ar y deyrnas? A dderbyniasom ni yr efengyl? Mae Duw wedi gosod ei Fab yn Frenin ar Sion, ei fynydd sanctaidd; ond efallai dy fod ti yn para i ddywedyd, Ni fynaf y dyn hwn i deyrnasu arnaf. Os felly, yr wyt yn diystyru golud daioni Duw.

Edrychwn yn awr ar ragorfreintiau teyrnas gras. Y mae arnaf eisieu eich cael iddi bob un. Ni wiw i ni droseddwyr bledio cyfiawnder Duw; nid oes dim am dy fywyd, bechadur, ond teyrnas gras Duw. Wel, a oes rhyw fantais i'w gael ynddi? Oes: oblegyd, yn un peth, "maddeuir anwiredd y rhai a drigant ynddi." Onid yw hyn yn ffafr fawr iawn? "Trugarog fyddaf wrth eu hannghyfiawnderau," meddai Duw; "a'u pechodau hwynt a'u hanwireddau ni chofiaf ddim o honynt mwyach." Mae gwynfydedigrwydd yn gyhoeddedig uwch ben y rhai hyn. Gwyn ei fyd y neb y maddeuwyd ei drosedd, ac y cuddiwyd ei bechod." Ond nid yw y gwyn fyd yna yn perthyn i neb ond i ddeiliaid teyrnas gras. Rhaid dy gael i fewn i dir Emanuel i ddechreu. Ni phregethir maddeuant ond yn enw Brenin y deyrnas.

Mae yn ngoruchwyliaeth y deyrnas hon eto, nid yn unig faddeu yr anwiredd, ond iachau y llesgedd. Mae Haul cyfiawnder yn codi ar bechaduriaid yma, â meddyginiaeth yn ei esgyll; byddant yma wedi gwella yn dda. Mae triagl yn y Gilead yma i wellâu iechyd merch y bobl. Dichon Iesu yn y drefn hon gwbl iachâu y rhai trwyddo ef sydd yn dyfod at Dduw.

Y mae yma fodd i olchi yr aflan hefyd. Mae pechod wedi myned yn rhyw aflendid ar y natur ddynol. Hen staen ofnadwy ydyw sydd yn anhawdd iawn i gael i ffordd. Po neisiaf y byddo llawer peth, aflanaf fydd wedi ei ddifwyno, ac anhawddaf ei olchi. Mae careg aflan yn fwy anhardd nag un làn; mae anifail aflan yn wrthunach; mae dyn aflan yn anmhrydferthach eto: ond y mae merch aflan yn wrthunach fyth. Ond o bob peth aflan, ysbryd neu enaid aflan yw yr hyllaf, gan ei fod ef yn fwy refined na dim arall. Ond y mae yn nhrefn gras fodd i olchi yr enaid oddiwrth ei aflendid. Mae ffynon wedi ei hagor o bwrpas i olchi pechaduriaid oddiwrth eu pechodau. Y mae miloedd eisoes wedi eu golchi, yn moli am eu cànu yn ngwaed yr Oen.

Yn mhellach, y mae deiliaid gras wedi eu hysgrifenu yn mhlith y rhai byw; maent wedi dyfod oll i ddiogelwch o ran eu sefyllfa. Ni bydd colled am einioes yr un honynt byth mwy. Efallai fod ganddynt lwythi o ryw bethau mewn perygl; ond ni bydd perygl am eu heinioes; o herwydd "eu bywyd a guddiwyd gyda Christ yn Nuw." Gwelwyd llawer un, wedi bod mewn sefyllfa led gysurus yn y byd, yn cael ei chwythu i lawr oddiyno. Ond nid ydyw felly yn nheyrnas gras. "Nid yw ewyllys y Tad yr hwn sydd yn y nefoedd gyfrgolli yr un o'r rhai bychain hyn." "Y mae yn ddiogel genyf," meddai Paul, "na all nac angeu, nac einioes, nac angylion na thywysogaethau, na meddiannau, na phethau presenol, na phethau i ddyfod, nac uchder na dyfnder, nac un creadur arall, ein gwahanu ni oddiwrth gariad Duw, yr hwn sydd yn Nghrist Iesu ein Harglwydd." Nid oes myned i fewn ac allan yn y deyrnas hon. Yn y Zoological Gardens yn Llundain, y mae yno un ffordd i fyned i mewn, lle y derbynir rhai trwy dalu, a gates eraill i fyned allan pan y myno dyn, ond nid i ddyfod i mewn trwy y rhai hyny drachefn. Ond y mae teyrnas gras yn agored i rai i ddyfod i mewn iddi, ond nid i fyned ymaith o honi. Wedi y delo yr enaid i mewn unwaith, allan nid â ef mwyach.

Y mae holl ddeiliaid hon ynddi o egwyddor. Mae Brenin y deyrnas wedi ysgrifenu ei gyfraith yn eu calonau, a'i dodi yn eu meddyliau. Buont unwaith yn meddwl mai cryn garchar oedd byw yn dduwiol; ac y mae arnaf ofn fod llawer eto yn meddwl yr un fath; ond am bobl Dduw, y mae wedi dyfod yn naturiol iddynt i fyw yn dduwiol; maent oll yn caru eu Brenin, ac y mae ei gyfraith wrth eu bodd. "Gweddïant drosto ef yn wastad, a beunydd y clodforir ef" ganddynt; maent yn barod i hoelio eu clust wrth ei ddôr; mae ei wasanaeth yn dyfod yn fwy boddhaol iddynt o hyd. Ni byddant yn wrthryfelwyr mwyach. Y maent yn ewyllysgar i oddef cystudd megys milwyr da i Iesu Grist. Maent wedi cael eu bywyd tragwyddol yn angeu Crist, a hwy a roddant eu bywyd naturiol drosto os bydd achos. Deddf eu Duw sydd yn eu calonau, am hyny eu camrau ni lithrant.

Y mae pob mantais i'w chael yn nheyrnas gras. Nid oes yn y byd yma yr un fantais heb fod anfantais yn ei chanlyn. Y bobl sydd am fyned i'r America, meddwl myned yno er eu mantais y maent. Y mae y tir yno yn rhad, a phris uchel ar lafur; ond y mae anfanteision yn nglŷn â hyny. Os oes yno dir brâs, y mae effeithiau anghyfannedd-dra llawer oes ar y ffordd i'w fwynhau. Felly y mae yn y byd yma; mae pwll o flaen y drws, neu gareg lithrig wrth dŷ pob un. Ond y mae teyrnas gras Duw yn fanteisiol o ben bwygilydd. Ceir yma fanteision heb yr anfanteision gyferbyn â hwy. Wele, ceisiwch deyrnas Dduw. Yn wir pe byddech wedi mudo yma, ni chwynech byth am yr hen wlad. Cyhoeddir yma dangnefedd i bell ac i agos, a hwnw yn dangnefedd Duw, yr hwn sydd uwchlaw pob deall, i gadw y meddwl a'r galon yn Nghrist Iesu. Bendigedig a fyddo Duw am ei sylfaenu. Gorfoledded y ddaear." Os rhaid i gythreuliaid genfigenu, iawn yw i ddynion lawenychu. Mae llawenydd mawr i'r holl bobl o sylfaenu y deyrnas hon.

Daw amser y bydd y deyrnas hon yn cael ei rhoddi i fyny; pa bryd ni wn, ond y bydd yn y diwedd. "Yna y bydd y diwedd, wedi y rhoddo efe y deyrnas i Dduw a'r Tad." Bydd y deiliaid ffyddlawn yn cael eu cyflwyno i Dduw, a'u gosod ger bron ei ogoniant ef yn ddifeius mewn gorfoledd. Yna plygir y deyrnas fel llen; ni bydd yn bod fel y mae yn awr. Er y bydd Crist yn y natur ddynol yn ben ar ei Eglwys yn oes oesoedd, ni bydd gweinyddiad ei deyrnas yn y dull y mae yn bresenol. Caiff ei chau i fyny yn y fath fodd ag na bydd admittance iddi byth mwy; ni dderbynir neb yn ddeiliaid newydd o hyny allan. Fy ngwrandawyr, gall angeu gau ar y deyrnas yma i chwi yn mhell iawn cyn hyny. Y meirw ni welant ei gogoniant; y bedd ni foliana am dani. Deuwch i mewn iddi cyn i angeu eich dal.

Dymunwn ddywedyd wrth y rhai sydd allan o deyrnas gras, mai peth sobr iawn yw para yn wrthryfelwyr. Bechadur, os gwrthryfela a wnei am dipyn eto, bydd yn rhaid i ti sefyll holl ganlyniadau dy wrthryfel; cei dy ffordd ar dy ben dy hun. Os byddi allan o drefn rasol Duw, rhaid i ti ddwyn yn dy gorff a'th enaid am dragwyddoldeb holl ganlyniadau truenus dy wrthryfel diachos. Bydd yn rhaid i ti fyw byth gyda chydwybod euog, yr hon a fydd yn dyweyd i ti fod yn ymyl trugaredd Duw, a gwrthod ei derbyn.

Wel, meddai rhywun, hwyrach y bydd holl drefn gras wedi myned yn ofer; efallai na chymer plant dynion eu perswadio i roddi eu hunain i Frenin Sion; hwyrach y bydd Iesu farw yn ofer, ac na ddaw neb o'r gwrthryfelwyr i ymostwng yn wirfoddol iddo. O na: "o lafur ei enaid y gwêl (yr Iesu), ac y diwellir ef." Mae addewidion Duw i'w Fab yn sicrhau y bydd iddo gael rhan gyda llawer, neu y llawer yn rhan iddo. Ni cheiff neb ddywedyd, Y Duw hwn a ddechreuodd adeiladu teyrnas, ac ni allodd ei dwyn yn mlaen. Mae etholedigaeth a chyfamod Duw yn sicrhau nad â marwolaeth Iesu yn ofer. Anfonir yr efengyl adref gan Yspryd Duw i galonau miloedd dirifedi, nes eu gwneyd yn ufudd iddo. Mae y deyrnas yn sicr o fyned yn mlaen; ond dyma y pwnc, a ddeui di i mewn iddi. Mae ei phyrth yn agored nos a dydd. A ddeui di i mewn, bechadur? Mae yn beryglus iawn aros allan. Gwylia rhag i angeu dy ddal o'r tu allan i'w muriau.

Yn awr dyma destun gorfoledd, a'r gorfoledd mwyaf i'r ddaear;—mae yr Arglwydd yn teyrnasu yn ei ras. Pe na byddai y deyrnas hon, ni byddai yn werth i ni fod ar y ddaear; ni byddai y ddaear ond agorfa i uffern. Ond yn awr y mae gobaith i bechadur, a galwad arno i ddyfod i mewn a bod yn ddedwydd. Mae llawer wedi dyfod; ond y mae eto ddigon o le. Mae Duw yn barod i faddeu, ac nid oes cofio beiau yn nheyrnas gras. Tuedder ni oll i ddyfod i mewn iddi. AMEN.[1]

Nodiadau

[golygu]
  1. Gwel y "Pregethwr," Ebrill, 1841.