Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn/Pregeth IV
← Pregeth III | Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn gan Griffith Williams, Talsarnau |
Pregeth V → |
PREGETH IV.
DYNA Y DUW!
"Dyna y Duw."—EZRA i. 3.
MAE y testun yn rhan o eiriau Cyrus wrth anfon y caethion adref o Babilon. Un o'r dynion hynotaf yn mhlith y rhai hynod oedd Cyrus. Yr oedd yn ddyn talentog fel llywodraethwr gwladol; a champ fawr arno oedd ei fod yn llawn o'r hyn a elwir yn synwyr cyffredin, ond yr hwn, ysywaeth, yw y mwyaf annghyffredin o bob synwyr. Rhoddodd Duw hysbysrwydd am dano cyn ei eni.
Ymddengys fod Cyrus yn gwybod rhywbeth am y gwir Dduw. Mae yn ei gyhoeddiad am ollyngiad yr Iuddewon i'w gwlad, ac am adeiladu y deml yn Jerusalem, yn galw Duw Israel yn "Arglwydd Dduw y nefoedd," ac yn dywedyd mai Efe a roisai iddo deyrnasoedd y ddaear; ac medd efe yn ein testun, "Arglwydd Dduw Israel,—dyna y Duw!" fel pe dywedasai, "Nid oes un Duw yn y nefoedd na'r ddaear yn werth ei addoli na'i enwi ond Duw Israel. Clywais am lawer o dduwiau; ond un yn unig yw yr iawn Dduw: Arglwydd Dduw Israel,—dyna y Duw!"
Dylem ninau ystyried mai ein peth mawr ni yw cael Duw. Gan Dduw y cawsom ein crëu. Mae perthynas creaduriaid â Chreawdwr yn bod rhyngom âg Ef; nis gall lai na bod, ac ni phaid byth. Ond peth arall yw cael ein Creawdwr yn Dduw i ni. Mae perthynas llywodraethedig a llywodraethwr rhyngom â Duw; ond y mae hyny hefyd yn wahanol oddiwrth ei fod yn Dduw i ni. Mae Efe yn Dduw mawr, ond gallwn ni fyned trwy y byd heb ei adnabod. Mae yn "Frenin mawr ar yr holl ddaear." Yr wyf yn tybied mai dyna ddylai fod pwnc mawr pob creadur rhesymol; cael ei Greawdwr yn Dduw iddo. Bu efe unwaith yn Dduw i'r angelion ni chadwasent eu dechreuad, ond nid yw felly yn bresenol. Y mae ar ddyn, cofier, angen Duw. Yr ydym wrth natur "heb obaith genym, ac heb Dduw yn y byd." Dyna ddesgrifiad gresynus iawn o'n tlodi.
Arganmawl Duw sydd yn y testun: "Dyna y Duw." Rhaid i lawer o berffeithiau gogoneddus ymddangos yn y gwrthddrych cyn y gellwch ddyweyd am dano, "Dyna y Duw."
I. RHAID EI FOD O RAN EI BRIODOLIAETHAU NATURIOL,
1. Yn dragywyddol; Nid yn ddiddechreu a diddiwedd oes yr un creadur fel hyn, ac am hyny ni ddichon y crëadur fod yn Dduw. Nid ydym ni ond newydd ddechreu byw. Mae miloedd wedi hanfodi o'n blaen. Pe meddyliech am hen ŵr pedwar ugain mlwydd oed, nid yw efe mewn cymhariaeth ond megys newydd ddechreu bôd; eithr nid ä byth bellach allan o fôd. Er na pherthyn anfarwoldeb i'r creadur yn hanfodol, eto y mae Duw wedi ordeinio fod dynion i fyw byth; ac am ein bod i fyw byth, mae yn rhyw haws genym gydnabod fod Duw i barhau i dragwyddoldeb, na'i fod erioed o dragwyddoldeb.
Mae y meddylddrych o Fôd diddechreu yn ein dyrysu. Duw yn bôd, ac erioed heb ddechreu bôd! Nid all y meddwl dynol amgyffred hyny; ac y mae yn chwilio am ryw le i ffoi rhag ei addef. Hwyrach yr ä i feddwl i Dduw ddechreu bod rhywbryd draw, draw, ei fod yn hen iawn—yn henach na'r ddaear—cyn gosod ei sylfaeni yn mhell! Ond nis gall hyny fod,—fod Duw wedi cael dechreuad. Os cafodd Duw fod gan rywun arall, rhaid i ni briodoli Duwdod i'r neb a roddodd fôd iddo. Gan hyny, os nad yw Duw yn ddiddechreu, nid yw yn deilwng o gael ei alw yn Dduw. Ond ni ddechreuodd y Duw mawr hanfodi erioed. Creawdwr digrëedig yw efe; Gwneuthurwr diwneuthuredig. Efe a wnaeth bobpeth a phawb; eithr efe ei hunan ni wnaed gan neb. Mae y meddwl dynol yn chwanog o fyned i chwilio ai ni ddarfu iddo Ef ryw ddiwrnod roddi bôd iddo ei hunan. Pe tybiech i Adda roddi bôd iddo ei hunan, chwi dybiech yr Adda hwnw o'i flaen ei hunan, yr hyn dyb sydd yn afresymol. Gan hyny, rhaid i'r neb y gellir dywedyd am dano, "Dyna y Duw," fod yn Dduw o dragwyddoldeb i dragwyddoldeb, heb ddoe nac yfory yn perthyn iddo, ond yn llon'd y tragwyddoldeb tu ôl i ni, a'r tragwyddoldeb tu blaen i ni hefyd. Un felly yw Duw y Beibl; gan hyny, "Dyna y Duw."
2. Rhaid ei fod yn Hunanddigonol yn un na bydd arno eisieu dim gan neb. "Nid â dwylaw dynion y gwasanaethir" y cyfryw Dduw, "fel pe byddai arno eisieu dim, gan ei fod Ef yn rhoddi i bawb fywyd ac anadl, a phob peth oll." Nid oes neb fel hyn ond Duw. Yr ydym ni yn ymddibynu ar Dduw mewn modd llwyr a hollol, ac i ryw fesur ar ein gilydd. Cewch weled y plant yn ymddibynu ar eu rhieni, ac weithiau y rhieni ar y plant. Ni wyddom ni yn y byd pa bryd y bydd arnom eisieu cymhorth y mwyaf dirmygedig. Ond am Dduw, nid oes arno ef angen am help neb. Nid oes arno eisieu help neb i fod yn ddedwydd. Mae yn ddigon o hono ei hunan iddo ei hunan. Mae yn gyflawn o bobpeth. Rhaid gan hyny ei fod yn hollol independent. Wele, "Dyna y Duw." Dewiswn yn Dduw i ni yr hwn sydd yn ddigon erioed iddo ei hunan.
3. Rhaid ei fod yn Hollalluog—un a allasai â'i air wneyd yr holl greadigaeth, nefoedd a daear, y môr, a'r hyn oll sydd ynddynt; a gwneuthur y bydoedd o ddim, heb bethau gweledig yn ddefnyddiau iddo; un a all reoli yr elfenau mwyaf afreolus gyda phob hawsder; un na flina ac ni ddiffygia, pa beth bynag a wnelo; un nad oes derfyn ar ei allu,—"Dyna y Duw." Ac un fel yma yw ein Duw ni. Gall ddywedyd yn hyf yn nghlyw pawb oll" Myfi yw Duw Hollalluog."
4. Rhaid ei fod yn Hollbresenol. Mae Duw felly. Ped esgynem i'r nefoedd, mae Duw yno; pe cyweiriem ein gwely yn uffern, mae Efe yno :
"Mae'n llon'd y gwagle yn ddi-goll."
Pe meddyliech am rywle yn y gwagle diderfyn nad yw Duw yno, ni fedrai y meddwl ddim ymdawelu ei fod yn Dduw. Rhaid ei fod yn Anfeidrol, heb derfynau iddo. Pe meddyliech y gallai rhywun fyned o'i gwmpas, a phe gallai creadur ei amgyffred, nis gallai fod yn Dduw. Rhaid ei fod yn anfeidrol fawr—yn uwch na'r nefoedd, yn ddyfnach nag uffern, yn hwy na'r ddaear, ac yn lletach na'r môr, onidê nis gallai ein meddwl ddywedyd, "Dyna y Duw."
5. Rhaid ei fod yn Hollwybodol. Pe gellid dywedyd fod rhywbeth nad yw Duw yn ei wybod, ni byddai yn Dduw. "Goleuni yw Duw, ac nid oes ynddo ddim tywyllwch." Mae ychydig o oleuni yn rheswm dyn, ond y mae ynddo lawer o dywyllwch hefyd. Ond am Dduw, nis gellwch briodoli un math o anwybodaeth iddo. Mae nid yn unig yn gwybod yr hyn sydd yn bod, a'r hyn sydd wedi bod, ond yr hyn oll a fydd, ac a allasai fod. Rhaid i'r perffeithiau hyn gyd—gyfarfod yn ngwrthddrych ein haddoliad. A'r hwn a'i medd, "Dyna y Duw."
II. HEBLAW Y PRIODOLIAETHAU NATURIOL HYN A NODWYD, Y MAE PRIODOLIAETHAU MOESOL YN PERTHYN IDDO.
1. Am yr hwn sydd yn Dduw, rhaid ei fod yn gyfiawn. Nis gellwch feddwl am Dduw ac annghyfiawnder. Gall angel fod yn annghyfiawn, a dyn fod, ie, yn "farnwr annghyfiawn;" ond nid oes annghyfiawnder gyda Duw. Mae tybied ei fod felly yn rhoddi shock i'r meddwl dynol. "Duw cyfiawnder yw yr Arglwydd." Chwi ellwch gysgu yn bur dawel gyda'r meddwl na chewch byth un cam oddiar law Duw. Gellwch gael cam oddiar law eich cydgreaduriaid; er, ar y cyfan, nid wyf yn tybied y cei ryw lawer o gam; canys os cei gam oddiar law y naill ddyn, ti a gei fwy na chyfiawnder oddiar law y llall. Ond doed a ddelo ni chei di ddim cam oddiar law Duw. Ie, fe gaiff y cythreuliaid gyfiawnder oddiar ei law Ef. Ni fedrwn ni gydnabod neb yn Dduw nad yw yn gyfiawn. Yn wir, nis medrwn ni gydnabod neb yn ddyn iawn os na bydd yn gyfiawn; llawer mwy nis gallwn gydnabod Duw os na bydd yn berffaith gyfiawn. Oni wna Barnydd yr holl ddaear farn?" Gwna i'r manylrwydd eithaf; am hyny, "Dyna y Duw."
2. Rhaid ei fod yn sanctaidd; sef, yn gwbl wrthwyneb i halogedigaeth a drygioni; "yn lânach ei lygaid nag y gall edrych ar ddrwg." Dyna ddywed Duw, "Byddwch sanctaidd, canys sanctaidd ydwyf fi." Nis gall dyn, er bod yn bechadur, lai na chasâu yr halogedig. Mae Duw mor bell oddiwrth halogedigaeth ag ydyw oddiwrth annghyfiawnder; un fel yna y rhaid iddo fod cyn y gall fod "Y Duw." Priodoledd yr holl briodoliaethau yw ei sancteiddrwydd.
3. Rhaid iddo fod yn un doeth. Nis medrwch chwi ddim cydnabod un ynfyd yn Dduw. Mae pawb yn canmawl y doeth. Mae ffynonell doethineb yn y Duw sydd yn y nefoedd. "Yr unig ddoeth Dduw " yw. Nid doeth neb fel Efe. Mae doethineb pawb arall yn gymysgedig â ffolineb; eithr yn Nuw ceir doethineb pur a digymysg.
4. Rhaid ei fod yn anfeidrol ddaionus. Dyna yw daioni neu haelfrydedd yn Nuw,—yr hyn sydd yn ei ogwyddo trwy bobpeth y mae yn ei wneuthur i gyrchu at ddedwyddwch ei greaduriaid. Y mae Duw yn anfeidrol ddaionus, yn dwyn oddiamgylch ryw ddaioni mawr nas gall neb ond Efe ei hunan ei amgyffred. Pan orpheno Duw adeiladu Sion, y da mawr hwn, " y gwelir Ef yn ei ogoniant." Am y cristion, gallwn ddyweyd fod peth da ynddo, a thipyn o ddrwg, ar y goreu. Ac am y pechadur, y mae rhywbeth dymunol ynddo, tra mae ynddo lawer o ddrwg. Nid oes dim drwg yn yr angel nefol, ond y mae efe fel creadur o hono ei hun yn agored i ddrwg. Drwg yw y cythraul heb ynddo ddim ond drwg. Nid wyf yn dywedyd mai drwg yw ei hanfod; pechod yn unig sydd felly; ond yr wyf yn dywedyd nad oes dim da ynddo. Eithr y Duw mawr, daioni anfeidrol sydd ynddo —heb ddim drwg na dim posiblrwydd i ddrwg. Mae Duw yn anfeidrol bell oddiwrth ddrwg. Mae mor anmhos bl iddo fod yn ddrwg, neu newid oddiwrth dda i ddrwg, ag yw iddo ddihanfodi ei hunan. Daioni yw, ac nid oes ynddo ddim ond daioni.
Wel, rhaid yw fod y perffeithiau gogoneddus yna yn y Duw mawr cyn y gallasem ei gydnabod yn Dduw. Mae y Duw hwn yn raslawn a thrugarog tuag atom ni sydd bechaduriaid. Mae arnom angen Duw daionus i faddeu ini. A dyma y Duw sydd yn cyfiawnhau yr annuwiol, ac yn derbyn pechaduriaid; yn "maddeu anwiredd a chamwedd a phechod." Duw yn medru maddeu, ïe, "Duw parod i faddeu" yw ein Duw ni. Yn awr, bechadur, os wyt ti yn deimladol o'th fod yn bechadur, "Dyma y Duw" i ti droi ato; medr daflu dy bechodau o'r tu ôl i'w gefn; mae yn Dduw cyfiawn ac yn Achubwr yn ei Fab, ac yn Dduw sydd yn sancteiddio yn a thrwy ei Yspryd. Mae arnat angen ei ddelw, ac y mae Efe, trwy ei Yspryd, yn ei rhoddi i'r rhai sydd hebddi. Pan ollyngo Duw ei Yspryd, yr adnewyddir wyneb y ddaear; gall beri i'r ddaear dyfu mewn un dydd. Medr dywallt dyfroedd ar y sychedig, a ffrydiau ar y sychdir.
Yr ydym ni wrth natur heb y Duw hwn, "Heb obaith, ac heb Dduw yn y byd." Dyma dy gyflwr; ond yr wyt heddyw mewn amgylchiadau yn mha rai mae Duw i'w gael. Mae yn bosibl i ni gael y Duw mawr hwn yn ei dangnefedd a'i heddwch. Y pechadur caled, onid oes arnat ddim ofn gwrthryfela yn erbyn y Duw mawr hwn? Gall efe arfogi yr holl greadigaeth i'th erbyn; ni raid iddo ddim ond edrych arnat i'th ddyrysu. Mae yn beth ofnadwy bod yn elyn iddo. Ond yn y Cyfryngwr mae yn "cymodi y byd âg ef ei hun, heb gyfrif iddo ei bechodau;" nid heb wybod eu bod yn bechaduriaid, nac heb wneyd iddynt hwythau wybod, ond heb eu chargio âg euogrwydd eu pechodau. Dyna y Duw! ac y mae hwn i'w gael yn Dduw i chwi. Mae eraill wedi ei gael. Fe_gymerodd ei Fab ein natur, ac fe ddaeth i'n deddfle. Derbyn dithau ei Fab, a thi a gei Dduw yn Dduw i ti. Dyna fel y dywedai Crist wrth y rhai a'i derbyniasant, "Fy Nuw i a'ch Duw chwithau." Mae hyn yn ymddangos i mi yn gysurus iawn. Mae yn y Duw mawr hwn barodrwydd i fod yn Dduw i'w greadur; mae yn hoffi cael bod yn Dduw i'n sort ni. Sut y gwyddoch chwi? Wele, y mae yn cyhoeddi nad oes neb arall a wna'r tro yn ei le Ef; ac y mae yn galw arnat i'w dderbyn yn Dduw i ti. Gan iddo dy wneuthur i fyw arno ef ei hunan, yr wyf yn tynu y casgliad fod yn bwrpas ganddo fod yn Dduw i'w greadur tlawd. Mae Duw yn ewyllysio yn dda i'w greaduriaid; yr holl ffrae sydd o herwydd pechod. Dewis di Ef yn Dduw i ti, ac Efe a'th gyfiawnhâ ac a'th sancteiddia. Dewis di Ef yn Dduw i ti ar y ddaear, a thi a'i cei yn Dduw i ti am dragwyddoldeb. Os oes ganddo Ef ryw bwrpas i fod yn Dduw i greaduriaid, a oes genych chwi ryw bwrpas i'w gael Ef? O'i gael ef yn Dduw, chwi fyddwch wedi cael digon. O fewn corph y dydd hwnw, ti gei ddigon am dragwyddoldeb. Dyna'r Duw! Llefwch ac ymdrechwch am ei adnabod. Mae yn foddlawn i fod yn Dduw i chwi: "A mi a fyddaf yn Dduw iddynt hwy, a hwythau a fyddant yn feibion ac yn ferched i mi, medd yr Arglwydd Hollalluog."
Mae yr hyn neu yr hwn sydd yn Dduw gan bawb yn effeithio arnynt. Mae duw pawb naill ai yn eu gwneuthur yn waeth neu yn well. Os credi i Arglwydd Dduw y nefoedd a'r ddaear, os gwasanaethi Ef yn ffyddlawn, ti wnei dy fortune am dragwyddoldeb. Gan fod y Duw hwn i'w gael yn Dduw i chwi yn awr, mynwch afael ynddo oll.[1]—AMEN.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Y" Drysorfa," Chwefror, 1867.