Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn/Prydlondeb
← Balchder | Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn gan Griffith Williams, Talsarnau |
Camgyhuddiadau → |
PRYDLONDEB.
DYWEDIR am y sant, y bydd "fel pren wedi ei blanu ar lan afonydd dyfroedd, yr hwn a rydd ei ffrwyth yn ei bryd;" ac ebai Solomon, "O mor dda yw gair yn ei amser.' Ac yn esiampl i'w holl greaduriaid rhesymol, gwnaeth y Duw mawr "bob peth yn deg yn ei amser." Drachefn, dywedir fod" amser i bob peth, ac i bob amcan.'
Yn gyffredinol, y mae rhyw adeg i wneuthur pob peth, yr hon, os esgeulusir hi, na ddychwel eilwaith. Ymddengys fod mwy na haner plant Adda yn ddifeddwl am yr adeg hon; tybiant, os gwnant eu dyledswydd rywbryd, fod pob peth yn dda, heb ymsynied fod peidio ei gwneyd yn ei phryd mewn rhai amgylchiadau cynddrwg a pheidio ei gwneyd oll. Efallai fod y diffyg hwn yn gymaint. ag un arall yn mhlith y Cymry, ac ysgatfydd yn fwy nag ydyw yn mysg y cenedloedd eraill a breswyliant yr ynysoedd Prydeinaidd. Mae gan y Saeson a'r Ysgotiaid yn gyffredin "le i bob peth, a phob peth yn ei le." Mae cadw pob peth yn eu lleoedd eu hunain ar ol bod yn eu defnyddio yn llawer llai o drafferth na chwilio pob man am danynt pan y byddo eu heisieu, ac wedi yr holl chwilio a chwalu, methu eu cael yn y diwedd; pan y gallai manylrwydd prydlawn alluogi y dyn i roddi ei law arnynt ar y cynyg cyntaf.
Mae bod yn anmhrydlawn yn cyflawni ein hamodau yn fai. Pan yr addawom fod mewn rhyw fan ar ryw bryd, dylem fod yn brydlawn yno yn ol ein haddewid. Dywedir fod Arglwydd Nelson yn cael dodrefn newyddion i'w gabin un tro, a dywedai wrth y gŵr oedd yn eu gwerthu y byddai yn rhaid eu bod yn y fan a'r fan o'r hyn bellaf erbyn chwech o'r gloch y boreu; ac atebodd hwnw yr anfonai y cwbl erbyn chwech yn ddiffael. "Nage," ebe Nelson, bydded eu bod yno chwarter awr cyn chwech, oblegyd i'r chwarter awr yn mlaen yr wyf fi yn ddyledwr am bob buddugoliaeth a enillais erioed." Marsiwndwr yn America unwaith a gytunai â phen—saer am wneyd rhyw gyfnewidiad yn ei swyddfa, a gofynai iddo pa bryd y gallai ddechreu ar y gwaith. Atebai y saer, y gallai ddyfod y pryd a'r pryd. "Nid oes dim brys," ebai y llall," ond byddwch chwi yn sicr o ddyfod pryd yr addawoch." Ar hyn ystyriai y saer ei amgylchiad, a gosodai yr amser i ddechreu dipyn pellach. "Wel," meddai y marchnatawr, "a fyddwch chwi yn sicr o ddyfod y pryd yr enwasoch?" "Os byddaf byw," atebai y saer, byddaf yma y pryd hwnw." Y marsiandwr a ddododd y dydd a'r mis penodedig ar lawr yn ei lyfr, ac aeth pob un i'w fan. Y diwrnod i ddechreu y job a ddaeth, ond nid oedd dim o'r saer i'w gael. Ar hyn, aeth y marsiandwr at gyhoeddwr y papyr newydd oedd yn y dref, i ddymuno arno wneyd yn hysbys fod hwn a hwn o'r fan a'r fan wedi marw, ac felly y gwnaed. Tranoeth, fel yr oedd y saer anwadal yn edrych i'r papyr, yr hwn oedd ar y bwrdd yn y tŷ tafarn, gwelai hanes ei farwolaeth ef ei hun. Cyffröes hyn ef yn fawr, er iddo ddeall yn ebrwydd mai celwydd ydoedd. Aeth at gyhoeddwr y newyddiadur, a gofynai paham y dodai yn ei bapyr ei fod ef wedi marw, "a minau fel y'm gwelwch," meddai, "yn fyw?" "Mr. Hwn a Hwn, y merchant, yw fy ngarn i," ebai hwnw. Ymaith â'r saer, mor hyllig a phe buasai wedi gweled bwgan, at y marsiandwr, yr hwn pan y daeth ato a lygadrythai arno fel pe buasai wedi dyfod o blith y meirw. "Paham," ebe y saer, "y rhoddech yn y papyr fy mod i wedi marw, a minau yn fyw, lysti." "Yr wyf yn synu yn fawr eich gweled," meddai yntau, "canys dywedasoch, os byddech byw, y buasech yma er echdoe yn dechreu y gwaith y cytunasom am dano, a thybiais i eich bod yn ddyn i'ch gair; a chan na ddaethoch, cymerais nad oeddech yn fyw, ac felly bernais yn well hysbysu eich marwolaeth, rhag i neb arall gael ei siomi genych fel y cefais i." Erbyn hyn nid oedd gan y saer ddim i ateb, ond aeth ymaith gan benderfynu bod yn fwy prydlawn o hyny allan. Y wers yn yr hanesyn hwn ydyw, fod gan y rhai sydd yn derbyn addewidion well cof na'r rhai sydd yn eu gwneuthur. Cynyrch naturiol anmhrydlonrwydd fel hyn ydyw anymddiried yn y rhai a wnant y cyfryw addewidion.
Mae dyn o'i air yn sicr o fod yn ddyn parchus, boed ei sefyllfa y peth y byddo. Clybuwyd crydd yn dywedyd unwaith, "Pe byddai pawb fel Charles, ni byddai cadw llyfr o un defnydd i mi; gallwn ei roddi i'r siopwyr yn bapyr lapio tobacco y pryd y mynwn." Byddai Charles yn sicr o dalu pryd yr addawai. Nid oedd y gŵr gonest hwn yn enill ond swllt yn y dydd ar ei draul ei hun; ac nid oedd ei holl ddodrefn ond gwerth ychydig bunoedd; eto nid oedd dim yn eisieu arno ef, a'i hen wraig, i'w gwneyd, nid yn unig yn ddiwall, ond hefyd yn gysurus. Yr oedd mor brydlawn yn ei daliadau ag ydyw trai a llanw y môr; oblegyd hyn, cawsai ei goelio am ddigon i'w gynal, yn fwyd a dillad, am ddeng mlynedd, pe mynasai. Nid oedd yn nyled neb o ddim pan y bu farw, ond gadawai ryw gymaint ar ei ol i'w wraig; a chafodd hithau ddigon, a pheth yn ngweddill. Yr oeddynt ill dau yn proffesu crefydd am amryw flynyddoedd cyn eu marw, ac ni welwyd casgl yn yr holl yspaid hwnw na byddai arnynt hwy ffrwyth yn ei bryd. Byddai chwe'cheiniog Charles mor sicr a machludiad haul yn yr hwyr, os byddai ef neu ei gymhares yn gallu codi a cherdded. Mae y ddau wedi marw er's tro mewn tangnefedd, ac mewn henaint teg. Cawsant eu bendithio gan ragluniaeth â'r fendith hono a ddymunai y duwiol Philip Henry i'w blant―y fendith sydd yn peri i ychydig bach fyned yn mhell.
Yr hanesyn uchod sydd wir hanes; a phe byddai yr esiampl yn cael ei dilyn, byddai gan agos bawb ddigon, a chan y rhan fwyaf beth i'w gyfranu i'r hwn y mae angen arno, a phob peth yn ei amser. Ond yn lle bod felly, mae, ysgatfydd, y rhan fwyaf yn talu eleni am yr hyn a fwytagant ac a yfasant y llynedd; a'r crydd, y saer, y gôf, a siopwr yn cwyno, y naill am yr uchaf a'r llall, eu bod y'rmethu cael eu harian er eu gofyn rifedi eu danedd o weithiau; a chyn y bydd yr ystori drosodd, odid na chaiff crefydd ergyd, trwy ddywedyd fod proffeswyr crefydd can waethed a'r gwaethaf, ac na thâl llawer o honynt dros eu blingo. Fel hyn, y mae teimladau drwg, beth afrifed, yn cael eu cynyrchu. Ystyrier fod arian yn rhy ddrud os rhaid rhoddi eu gwerth am danynt, ac wedi hyny cerdded a chrefu am danynt eu gwerth eilwaith, heblaw yr esgusodion celwyddog a wneir ar yr achlysuron hyn. Nid talu rywbryd cyn dydd y farn olaf sydd eisieu, ond talu yn yr amser a addawsom. Gall y talwr prydlawn gael llwyth long ar goel os myn, a chael benthyg holl arian ei holl gydnabyddiaeth. Pa fodd y mae hyny yn bod? Gwobr ei brydlondeb ydyw, yr hyn na chaiff yr anwadal mwy na thamaid o'r lleuad. Prynu ac addaw tâl heb feddwl am gyflawni sydd cynddrwg mewn egwyddor a lladrata; ac y mae peidio talu yn yr amser a addewir, er bwriadu, weithiau bron cynddrwg a pheidio talu byth.
Yr oedd pedwar cymydog yn byw yn yr un ardal, ac mor agos at eu gilydd fel y gallai y naill weled mŵg y boreu o simdde pob un o'r tri eraill. Enwau y rhai hyn oeddynt, Elis Esgeulus, Dafydd Sion Ddiofal, Ifan Tranoeth-y-dy'-gwyl, a Huw Rhag-ll'w'gu. Tyddynwyr bychain oedd pob un o'r pedwar, ond bod Huw yn arfer prynu a gwerthu amryw nwyddau, ac nid anfynych yr âi y tri hen frawd arall at Huw mewn angen, o herwydd nid oedd neb arall yn y gymydogaeth a werthai ddim iddynt ar goel, ac oblegyd hyn yr oedd yn rhaid myned at Huw rhag ll'w'gu. Addefir mai nid yr enwau yna oedd eu henwau bedydd, fel y dywedir. Cawsant eu bedyddio a'u galw wrth eu henwau priodol, fel plant a dynion ieuainge eraill, am flynynyddoedd lawer; eto, am na wnaethpwyd hwynt yn blant i Dduw, ac yn aelodau o Grist, ac nad oedd arwydd arnynt eu bod yn debyg o fod yn etifeddion teyrnas nefoedd, a chyda hyny, am eu bod yn isel eu cymeriad yn eu hymdriniaethau â phethau y fuchedd hon, yr enwau a nodwyd a roddes y werin yn gyffredin arnynt yn mhen enyd wedi iddynt briodi, a dechreu trin y byd. lë, mor gymhwys y ffitiai yr enwau hyn hwynt â'r cadnaw i Herod, ac nid oedd modd iddynt ymysgwyd oddiwrthynt trwy deg na hagr. Teimlai Elis, Ifan, a Huw, yn anesmwyth ddigon oblegyd y llysenwau hyn; ond am Dafydd Sion Ddiofal, yr oedd ef mor ddiofal am hyn ag yr oedd am bob peth arall.
Yr oedd tyddyn Elis Esgeulus yn dra annedwydd yr olwg arno, a'i dŷ heb ffenestr gyfan, na drws nad allai y cathod a'r perchyll fyned trwy ei ben isaf yn groeniach, yn ol ac yn mlaen, a'r ieir yr un modd. Yr oedd gwraig Elis, megys y dywed yr hen air, yn drimings at y lliw i'r dim; cadachau na wyddid pa nifer a amgylchai ei phen, heb un cewyn glân o'i choryn i'w sawdl, a phâr o glocsiau am ei thraed, a'r rhai hyny a'u pen ôl yn agored. Ar y fferm, nid oedd na chlawdd na chamfa ag ôl ymgeledd arnynt; ac ni welid na drws ar feudy, na llidiart ar adwy, ond pob peth draws eu gilydd. Ni welid byth gan Elis faes o lafur glân, ond byddai ei haner yn chwyn. Mewn gair, ymddangosai y gwartheg, y ceffylau, a'r moch hefyd, fel pe buasent tan felldith. Er hyn oll yr oedd Elis yn rhyw lun o fyw er's blynyddau fel hyn, gan nofio rhwng deuddwr i'r lan y naill flwyddyn ar ol y llall; yr oedd angen yn ei orfodogi i fyw yn gynil, os nad yn galed weithiau. Yr oedd ei dyddyn hefyd am a dalai yn dda, a gwyddai Elis hyny; o ba herwydd, glynai wrtho fel y cranc wrth y gareg. Ond am Dafydd, yr oedd ei fferm ef yn well ei threfn o gryn lawer; gwelid ambell glwtyn o honi yn dda yr olwg arno. Yr oedd ganddo ef well gwraig; a byddai gan Ddafydd cystled pedwar mochyn a dim oedd yn y gymydogaeth; ac yr oedd yn burion llaw at bob gorchwyl. Er hyn oll, a llawer o bethau da eraill, yr oedd diofalwch yn codi toll drom ar gymaint ag a feddai; byddai ychwaneg na degwm ei holl gynyrch yn myned yn ddiwerth bob blwyddyn. Byddai y troliau, yr erydr, a'r ugau, allan yn y gwlaw a'r gwres o fis bwy—gilydd. Gwelid weithiau y moch a'r gwyddau yn yr ŷd, a llawer gwaith y ceid y ceffylau a'r gwartheg yn y cae gwair am haner diwrnod; ac os byddai y gwynt mawr wedi tori tô y tŷ neu'r beudŷ, neu dô y gwair neu yr ŷd, felly y caent' fod am fisoedd, er na chywilydd na cholled. Ac eto er hyn i gyd, a llawer o'r cyffelyb, am fod gan Ddafydd wraig dda, yr oedd yn gwneyd bywioliaeth yn lled ryfedd. Eithr am Ifan, yr oedd ef fel pe buasai wedi tyngu na wnai ef ddim yr un amser a phobl eraill. Gwelid ef yn fynych yn hau haidd, ac yn planu pytatws, am bythefnos neu dair wythnos o hâf; a phan y byddai ei gymydogion wedi darfod â'u cynhauaf, dyna y pryd yr oedd Ifan brysuraf. Byddai ei wair a'i ŷd heb eu troi hyd galangauaf, pan y byddai llawer o'r naill a'r llall wedi pydru; ac os dygwyddai iddi rewi yn gynar, rhewai llawer o'i bytatws cyn eu codi o'r ddaear.
Dyna i ti, ddarllenydd, gipolwg ar y tri wŷr hyn, ac y mae tro Huw i ddyfod ger bron bellach. Yr oedd Huw *yn nodweddiad tra gwahanol i'r tri. Credai ef mai "Goreu cyfaill, ceiniog;" a mynai fwy na'i gwerth am dani, os byddai modd, a rhoddai lai na'i gwerth yn ei lle; ac am hyny nid âi neb ato ond rhag llewygu, ac felly y cafodd ei gyfenw. Gwerthai Huw i rai drwg am dalu, ond iddo ef gael uchelbris; a mynai yr arian os byddai dim y tu allan i groen y dyn; ac nid oedd wiw i neb feddwl byw a bod yn nyled Huw yn hir. Gwerthai bob peth braidd yn uwch na'r farchnad, ond ei gydwybod; cai hono weithiau fyned am ychydig, meddynt.
Am grefydd y pedwar, ni byddai yr un o honynt yn myned i lan nac i gapel yn gyson. Elis a'i gymhares a deimlent eu hunain islaw eu cymydogion pan mewn cynulleidfa, am eu bod yn aflêr eu gwisgoedd. Byddai Dafydd yn myned i bob tŷ addoliad yn y plwyf ar dro, ac nid oedd waeth ganddo pa le; er hyny byddai gartref lawer Sabbath. Pan y byddai y wraig yn pregethu iddo ei ddyledswydd o fyned i wrando, cychwynai i gael llonydd ganddi; ond nid oedd dim ymddiried na thröai ef i rywle neu gilydd, ac na welai y wraig mo hono yn yr addoliad. Ond am Ifan, yr oedd ef yn rhy hunan—dybus i fyned, oddieithr yn anfynych, i le yn y byd. Nid oedd neb yn iawn yn ei olwg ef ond efe ei hunan, megys nad oedd ef ei hunan yn iawn yn ngolwg neb arall. Ni welwyd mo hono erioed yn nechreu un addoliad; os deuai ar ryw dro, byddai haner yr addoliad wedi pasio. Gwelwyd Huw, pan yn ieuangc, yn myned weithiau i'r capel newydd; ond wedi dechreu trin y byd, a chasglu tipyn o arian, a deall fod pawb yn ei gyfrif yn gybydd, aeth y capel yn annyoddefol iddo. Byd ac arian oedd ei holl feddylfryd.
Ond i ddybenu hyn o hanes can fyred ag y gallom— prynodd Elis Esgeulus fuwch gan Ifan Tranoeth-y-dy'gwyl am ddeg punt, ac addawodd dalu am dani Galanmai, yn y ffair oedd yn y pentref cyfagos. Tua Gŵyl-fair, prynodd Dafydd Siôn Ddiofal geffyl gan Elis am ddeuddeg punt, ac addawodd yntau dalu "can saffed â bank," yn ffair Galanmai. Calanmai a ddaeth, ac aeth Ifan at Elis, ac Elis at Ddafydd, ond dim arian nid oedd i'w cael. Mae yn rhaid cyfaddef fod yn ddrwg dros ben gan Ddafydd hyn, er hyny, gan ei fod yn un mor ddiofal am dalu, nid oedd neb yn y ffair a roddai fenthyg deg punt iddo; ac nid oedd neb yn wir a roddai fenthyg i un o'r ddau eraill, oblegyd Dafydd oedd y goreu o'r tri, ond ei fod yn ddiofal. Pa fodd bynag, gorfu ar Ifan fod hebddynt. Erbyn hyn yr oedd hi yn dranoeth y dy’gwyl ar Ifan. Yr oedd ei feistr tir wedi myned yn mron ar ei lŵ, os na thalai ryw gymaint Galanmai, y gyrai failïaid i'w dŷ, ac y gwerthid y cwbl yn y tŷ ac allan, am yr uchaf ei geiniog. Ac felly bu; a phrynodd Huw Rhag-ll'w'gu y rhan fwyaf o'r eiddo am lai na haner a dalent. Erbyn i'r meistr tir gael ei ofyn, nid oedd gan Ifan ddim ei hunan, na dim i neb arall; ac y mae yn debyg y gorphena efe a'i wraig eu hoes yn nhŷ y tlodion. Ni a welwn mai diofalwch Dafydd oedd yr achos o hyn oll; oblegyd gwellâodd y byd yn fuan gwed'yn; ac y mae lle i feddwl, er diweddared oedd Ifan, y gallasai ddyfod i fyny, ac y buasai y boneddwr yn aros wrtho oni buasai iddo gael ei siomi. Pa sawl amgylchiad tebyg i hyn all fod! Dichon i un siomedigaeth gynyrchu llawer; ac nid oes na phen na pherchen a all ddywedyd pa faint o deimladau pechadurus y mae y pechodau o anwadalwch yn eu hachosi. Llawer y sydd a addawant yn ddigon rhwydd, os byddant heb wybod nad allant gyflawni, er na wyddant y gallant. Esgor yr egwyddor hon ar lïaws o siomedigaethau.
Mae anmhrydlondeb hefyd yn dra niweidiol mewn ymarferiadau crefyddol. Dylai pob casgliad at achos parhaus gael ei wneyd yn flynyddol neu yn fisol, ar yr un pryd, gan yr un gynulleidfa yn enwedig. Gellir dadleu, mae yn wir, eu bod weithiau yn annghyfleus, ond y mae felly o eisieu gofal prydlawn; a'r prawf o hyn ni a'i gwyddom—bod rhai o'r rhai isaf eu hamgylchiadau yn brydlawn, pan y mae lluaws o rai â moddion ganddynt, ac nid hwyrach calon hefyd, oblegyd dull dïofal, yn anmharod ar y pryd, ac felly mae y peth yn myned yn ddiflas. Dechreu addoliad cyhoeddus yn brydlawn sydd hefyd o bwys. Dylai y pregethwr fod yn y fan erbyn yr amser, neu chwarter awr yn gynt, fel y dywedai Nelson; a dylai y gwrandawyr fod yr un modd yn brydlawn. Mae dyfod i mewn yn drystfawr, ar ol i'r addoliad ddechreu, yn anmharch i'r Duw a addolir, yn gystal ag yn aflonyddwch i'r dynion fyddo yn addoli. Llawer o eglwysydd a chapelydd yn Lloegr a lenwir bron mewn can lleied o amser ag yr â y dyrfa allan. Angenrheidiol yw bod cloc y capel yn ei le, mor agos ag y byddo modd, yn lle bod taeru rhwng y gweinidog a'r bobl. Dywedid gynt wrth Robert Jones, Rhoslan, sir Gaernarfon, fod yr oedfa wedi ei chyhoeddi am ddeg o'r gloch. Gofynai yntau, "Deg o'r gloch pwy? Mae gan bawb bron eu deg o'r gloch." Nid oes dim eisieu rhoddi at na thynu oddiwrth ddeddfau natur mewn dim. Y goleuad mawr a roddes Duw i lywodraethu y dydd—mae hwnw yn y dê am haner dydd yn mhob man; a dwy awr cyn hyny yw deg o'r gloch; a dwy awr gwedi yw dau o'r gloch; chwanegwch bedair drachefn, a thyna chwech o'r gloch brydnawn. Amser addoliad teuluaidd hefyd sydd deilwng o sylw. Mae ei fod yn rhy hwyr yn y prydnawn yn ei anfuddioli. Bod i ddynion fyned i addoli pan na fyddont gymhwys i ddim ond i gysgu, sydd yn gwbl annheilwng. Mae naw o'r gloch yn ddigon hwyr; a gwell dechreu yn gynt, fel y galler diweddu erbyn naw.
Rhywun, hwyrach, a ddywed, Pwy sydd ddigonol i'r pethau hyn? Atebwn eu bod yn bwysig; a chan hyny cymerer pob mantais. Gwneler y cyfan yn brydlawn, oblegyd dyna yr amser hawsaf i gyflawni pob dyledswydd, a thyna y pryd mwyaf rhesymol ac ysgrythyrol i ni ddysgwyl cymhorth gan Dduw i gyflawni ein dyledswyddau pwysig. Wel ynte, pob peth yn ei le; hyd yn nod pob gair, bydded yn ei le; a phob dyledswydd yn ei hamser. Bydded ein ïe yn ïe, a'n nage yn nage. Rhodder yr eiddo Cæsar i Cæsar, a'r eiddo Duw i Dduw—a bydded y cyfan yn ffrwyth yn ei bryd.—Y Traethodydd, Gorph., 1846.