Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn/Balchder
← Yr Hen a ŵyr, a'r Ieuangc a dybia | Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn gan Griffith Williams, Talsarnau |
Prydlondeb → |
BALCHDER.
NID bob amser y bydd pethau, mwy na phersonau, yn cael eu henwau eu hunain. Weithiau fe elwir cynildeb yn gybydd—dod, a llafur yn drafferth, diwydrwydd a darbodaeth yn fydolrwydd; ac felly llawer o'r cyffelyb. Ac yn gymaint a bod pawb yn gydwybodus fod balchder wedi gwreiddio yn ddwfn yn natur dyn, y mae y naill yn drwgdybio y llall yn euog o hono, pryd na byddo. Os bydd dyn yn teimlo mesur o annibyniaeth ynddo ei hun, er iddo deimlo ei ddibyniaeth ar Dduw, dywed yr hwn sydd yn amddifad o'r teimlad annibynol hwnw, fod y cyfryw un yn falch, oblegyd ei fod yn fwy gofalus am ymgadw ar ei gorddyn ei hun nag ef. Ond a ydyw hyn yn falchder mewn gwirionedd? Nac ydyw: oblegyd heb fesur o'r annibyniaeth hwn, byddai y naill ran o'r teulu dynol yn gwneyd osgo barhaus i bwyso ar y rhan arall; a buan y byddai yn glwydaid annyoddefol. Y teimlad o fod uwchlaw cadw cwmni pob math, a ystyrir gan rai yn falchder, pan y mae y byd yn fwy na haner llawn o ddynion o gymeriad drwg, a'r cynghor apostolaidd, "Cilia oddiwrth y cyfryw," yn dra phriodol. Y teimlad o uwchafiaeth creadigaeth dyn fel creadur rhesymol—fel llwch y byd—nid balchder mo hwn ychwaith. Bod uwchlaw ymddwyn yn isel, a gwneyd troion budron, a byw mewn arferion ffiaidd a llygredig, gan roddi ei aelodau yn arfau annghyfiawnder yn ngwasanaeth y diafol—gwasanaeth cwbl annheilwng o greadur rhesymol :—edrych arno ei hun wedi ei ffurfio i ddyben mor uchel, fel nas gall fod ei uwch, nid amgen mwynhau a gogoneddu ei Greawdwr, edrych ar ei ryfeddodau, ac ymhyfrydu yn eu berffeithiau—nid balchder yn wir mo hyn. Nid balchder mewn dyn yw teimlo fod gwasanaethu chwantau ynfyd a niweidiol yn sarhad arno-ni fyn yr Arglwwdd i neb o'i greaduriaid fod mor isel eu swydd.
Ond beth yw balchder? Y mae yn gâr agos â hunan a thrachwant. Hunan yw yr uchel-bris a rydd dyn arno ei hun, a'r difyrwch y mae yn ei gael yn yr ystyriaeth ei fod yn meddu ar gampau, rhinweddau, a phethau da na fedd ei gymydogion mo honynt. Balchder a deimla yn gwbl fel hunan, ond gyda hyn o chwanegiad, ei fod yn diystyru eraill, gan edrych arnynt gyda dirmyg. Trachwant, drachefn, sydd deimlad awyddus i ychwanegu yr uwchafiaeth ar ragoriaeth dybiedig. Nid yw hunan haner cyn gased a balchder, eithr y mae yn llawer gwell ei foes, yn fwynach a haws ei ddyoddef, ac a fedr ymostwng er mwyn clod; eithr y mae y balch yn chwyddedig a llon'd pob man, ac yn ddïystyr o bawb o'i gwmpas, ac i raddau mwy neu lai yn peri i bob dyn gwylaidd deimlo yn llethedig. "O! mor uchel yw ei lygaid, a'i amrantau a ddyrchafwyd." Tybygid fod ei gyfoeth, ei dalentau, a'i orchestion yn rhyw Babilon fawr, yr hon a adeiladodd efe yn frenindŷ, yn nghryfder ei nerth ac er gogoniant ei fawrhydi. Y mae yr hunanol yn peri i blant dynion chwerthin am ei ben, a gwneyd yn hyf ar ei gymeriad; ond y mae y balch yn peri i Dduw a dynion ei ffieiddio, gan ei fod yn ffrom a hyderus. Par i'r gwan ei feddwl ei ofni―ond nid ei garu,—y galluog ei enaid ei ddirmygu—ac i bawb ei gasâu.
Y mae yr hunanol yn wastad yn drachwantus: ni ddywed efe byth "digon " mwy na'r bedd. Y balch hefyd a geir yn gyffredin felly; ond y mae y balch weithiau yn teimlo fel wedi cael cymaint fel mai ofer fyddai chwanegu ato. Yr hunanol a saif ar ei ddoniau a'i gampau, ond y balch a ymeifl mewn unrhyw beth a'i cyfyd rîs yn uwch, oblegyd y mae yn annyoddefol iddo feddwl ei fod yn gydradd â'i gyd-ddynion. Y teimladau hunanol hyn, sef trachwant, hunan, a balchder, sydd raff deir-caingc o ddrygioni, yr hon na thorir ar frys. Maent yn tori allan mewn pob math ar gyflafan, ac yn abl llanw y byd â galar, gruddfan, a gwae. Eu gweithred sydd fel llifddwfr yr hwn ni âd luniaeth. Awydd Nebuchodonosor am awdurdod, balchder Alexander a'i awydd am glod milwraidd, yn y dyddiau gynt, a thrachwant Napoleon yn ein dyddiau ninau, a lanwasant heolydd dinasoedd lawer â gwaed gwirion; ïe, cyrff eu lladdedigion hwy a fuont yn dail i'r ddaear mewn llawer gwlad.
Peth priodol i ddyn yw y teimlad o uwchafiaeth fel creadur rhesymol; ond wedi colli Duw, ac mewn annghof o hono, dirywiodd y teimlad hwn i falchder, gan roddi coel i yspryd cyfeiliornus, ac i athrawiaeth y cythraul—" Chwi a fyddwch megys duwiau." Dyn, wedi cwympo yn isel o ran ei gyflwr, a roes naid hollol wrthwyneb o ran ei ddychymyg. Mor dueddol ydyw dyn i falchder fel y cymer bob achlysur i ymgodi; ac y mae yn waith anorphen nodi yr holl achlysur iddo; ond cawn grybwyll amrywiol. Ac y mae yn syndod fod dynolryw yn gallu tynu boddhad iddynt eu hunain oddiwrth y cyfryw bethau. Ceir plant dynion yn chwanog i falchio o'u genedigaeth —tegwch pryd—nerth corphorol—talent—dysg—swydd— cynydd cyfoeth—llwyddiant mewn unrhyw beth—a dyfais. Ie, y maent yn chwanog o falchio o'u dillad, o'u tai, ac o'u dodrefn, a'u trefn o fyw. Tueddol ydynt i falchio yn eu diwydrwydd a'u medrusrwydd, eu hymddygiadau doeth, eu haelioni, eu duwioldeb; ie, ïe, ni a falchïwn hyd yn nod yn ein gostyngeiddrwydd a'n hedifeirwch! Y peth a dybiwn ni ein bod yn rhagori ynddo, yn hwnw yr ymfalchïwn.
Ond wedi y cwbl, y mae ein rheswm, ac Ysgrythyr, yn dyweyd fod hyn oll yn anfad ynfydrwydd. Fe ddywed yr Ysgrythyr mai " o flaen dyrchafiad yrä gostyngeiddrwydd (y rhinwedd gwrthwyneb i falchder), ac uchder yspryd o flaen cwymp.' Y mae y Duw mawr yn ffieiddio y balch. Y mae gan ragluniaeth Duw wïalen i gefn yr ynfyd hwn. Dynolryw hefyd ydynt wïalenau ar eu gilydd. Penderfynodd Duw ddarostwng y rhai a rodiant mewn balchder. Bydd i ragluniaeth ddoeth, â barn gyfiawn, yn sicr o gael y balch i lawr o'i fawredd.
"Nid rhaid dofi y difalch
Ond fe bryn byd benffrwyn i'r balch."
Nid yw balchder fawr ond gair arall am ynfydrwydd. Edrychwn ar falchder yn y man y mynom, y mae yn berffaith ffolineb. Nid mynych y gwelir dyn synwyrol yn ysgoegyn bach. Profedigaeth ffyliaid gan mwyaf ydyw. Gallodd Cyrus enwog gynal oes gyson o lwyddiant anarferol heb falchio, pan nad allodd Alexander gynal ychydig heb geisio gan ei filwyr ei addoli; ac er fod llawer o gampau ar yr arwr hwn, eto amlwg yw na feddianodd y ddegfed ran o'r synwyr cyffredin a gafodd Cyrus. Balchder teulu, er engraifft, neu falchder gwaed, fel y galwai yr hen bobl, sydd ddisail. Nid oes fawr er pan oedd holl deulu dynol yn un Adda ac Efa.
"Gwnaeth Duw holl blant dynion o'r un gwaed;
A pha le y caed boneddigion?"
Onid yw yn amlwg nad yw uchel waedoliaeth ddim ond hir feddiant o gyfoeth yn yr un teulu? Balchio mewn tegwch pryd, a nerth gewynawl, sydd yr un ffunud yn ynfyd. Yn mhen ychydig flynyddau, o'r hyn pellaf, bydd tegwch gwedd wedi gwywo, a nerth wedi newid am boen a blinder; ïe, ysgatfydd mai ychydig fisoedd neu ddyddiau o gystudd a fydd yn ddigon i'n hamddifadu o'r naill a'r llall; a pha fodd y gall neb yn ei iawn bwyll ymfalchio ynddynt? Talentau a doniau ydynt roddion Duw; a pha beth sydd gan neb ar nas derbyniodd? ac os derbyniodd, paham y gorfoledda ac yr ymfalchia, megys pe byddai heb dderbyn? Y mae yn fath o wallgofni ein bod heb ystyried mai am y pethau hyn oll y rhoddwn gyfrif i'r hwn a roddes ei dda atom.
Balchder swydd sydd hefyd yn gymaint ffolineb a dim a aller edrych arno; oblegyd yn fuan byddwn heb ein swyddau yn rhoddi cyfrif i Dduw am y modd yr ymddygasom ynddynt. Cyfoeth yr un modd sydd anwadal a damweiniol; yn fynych cymer adenydd, ac eheda ymaith fel eryr tua'r wybr. Galwai yr hen bobl hwn yn falchder pwrs, am fod pawb sydd dan ei lywodraeth yn llawnach eu pyrsau na'u penau.
Ceir pobl cyn waned a balchio yn eu dillad, er nad oes gan na brenin na deiliad ond dillad ar yr ail law. Bu y ceirw yn y coed, anifeiliaid y maes, a bwystfilod yr anialwch, a hyd yn nod y pryfed a llysieu y ddaear, yn eu defnyddio o'u blaen fel eu haddurn a'u clydwch, a hyny heb falchio o honynt, fel y gwna dyn yr hwn sydd yn eu cael ar eu hol.
Wedi y cwbl, dybygid mai balchder ysprydol yw y gwrthunaf o bob balchder,—balchio ein bod yn ffafr Duw. Y mae balchder swyddau sanctaidd yn dra ffiaidd : y mae y lefain hwn yn lefeinio yr holl does, ac yn gwneuthur yr holl ymarferion rhith sanctaidd yn fwg yn ffroenau yr Hollalluog, yn dân yn llosgi ar hyd y dydd. O! yr anfad ynfydrwydd sydd yn hyn oll! Y mae yspryd balch chwyddedig yn berffaith wrthwyneb i'r efengyl, ac i'r ymostyngiad edifeiriol tuag at Dduw, a'r ffydd sydd tuag at ein Harglwydd Iesu Grist. "Yr annuwiol gan uchder ei ffroen ni chais Dduw, ac nid yw Duw yn ei holl feddyliau ef."
Fe allai fod yn bryd i ni bellach roddi pen ar hyn o erthygl; ond hwyrach na byddai yn anfuddiol rhoddi ychydig gynghorion er gwellhau y chwydd hwn; ac yn
1. Gwybydder nad oes modd myned trwy y porth cyfyng heb gael y chwydd hwn i lawr. Y mae y balch yn mhob oes yn cario ei ben yn rhy uchel, yn gystal ac yn cario gormod o gnawd i fyned trwodd.
2. Cofia, ddyn, mai creadur cyfrifol ydwyt i'r Duw mawr am bob peth, ac nad oes na thalent na chyfoeth, na dawn wedi eu rhoddi i ymfalchio ynddynt, ond i'w defnyddio; ac y byddi yn fuan yn cael dy obrwyo am yr iawn ddefnydd, neu dy gosbi am y cam ddefnydd o'r cyfan.
3. Ystyria dy fod yn euog o flaen Duw, ac nad oes ond rhad drugaredd Duw am dy fywyd. Os myn, fe all dy iachau; ond nid oes rhwymau arno i wneyd hyny; ac nid oes dim oddiar y ffordd oddieithr balchder dy galon. Na fydd, gan hyny, heb wybod cyfiawnder Duw, ac na chais osod i fyny dy gyfiawnder dy hunan, heb ymostwng i gyfiawnder Duw.
4. Cofia dy ymddibyniad ar y Duw mawr am bob peth. Y mae dy anadl yn ei law, ac einioes pob math ar ddyn. Dyfodiad pob trugaredd bob boreu oddiwrtho ef. "Bob boreu y deuant o newydd, a mawr yw ei ffyddlondeb."
5. Ystyr fawredd Duw; yr hwn sydd yn lledu y nefoedd fel llen, ac fel pabelli breswylio ynddi—yr hwn y mae pob dyn yn wagedd o'i gymharu âg ef, ïe, yn ddim, yn llai na dim. Efe sydd o dragywyddoldeb a hyd dragywyddoldeb, a thithau er doe, ac heb wybod, mewn cymhariaeth, ddim. Yn ymyl y Duw mawr hwn pa beth yw dyn? Gwagedd yn ddiau yw pob dyn pan fo ar y goreu. Nid yw ei nerth ond gwendid, na'i oleuni ond tywyllwch, na'i ddoethineb ond ynfydrwydd; ac fe dybygid fod yn annaturiol i hwn fod yn falch! Saf, ddyn, balch, edrych ar ryfeddodau Duw, ac ymbwylla. Nid ydwyt ond bychan a gwan o'th gymharu â rhai o greaduriaid Duw, a llawer llai o'th gymharu a'r ddaear a greodd Duw i ti gael preswylfod, ac nid yw y ddaear ond bechan iawn o'i chymharu â holl greadigaeth Duw, na'r greadigaeth i gyd ond fel dyrnaid o lwch wedi ei wasgar yn yr awyr o'i gymharu a'r Hwn a'i gwnaeth.
6. Myfyria ar gariad a haelfrydedd Duw, yr hwn, er ei fod yn uchel, a edrych ar yr isel; ac er ei fod yn fawr, eto ni ddïystyra neb. Y mae yn edrych ar y truan a'r cystuddiedig ag sydd yn crynu wrth ei air. Cofia hefyd ei fod wedi cymeryd y natur ddynol i undeb a'i natur ei hun yn mherson ei anwyl Fab, yn un peth, ysgatfydd, i ddysgu gostyngeiddrwydd i holl ddeiliaid ei lywodraeth, ymhlith llu y nef a thrigolion y ddaear.
7. Gwel brydferthwch y gras o ostyngeiddrwydd. Y mae yn deg odiaeth. Mor hawddgar yw ei wedd yn anad neb, mor foddlawn, mor siriol, fel y tybiech y byddai ddedwydd yn nghanol trallod a phob gorthrymderau. Edrycher arno yn Nghyfryngwr y Testament Newydd yr hwn a dra—ddyrchafodd Duw, ac a roddes iddo enw yr hwn sydd goruwch pob enw yn y byd hwn a'r hwn a ddawyr hwn y darostyngwyd pob peth dan ei draed, ac y rhoddwyd iddo bob awdurdod yn y nef ac ar y ddaear—yr hwn sydd yn blaenori yn mhob peth; ïe yr hwn hefyd a wnaed yn etifedd pob peth—yr hwn y mae y tywysogaethau a'r awdurdodau wedi eu darostwng iddo,—yn Arglwydd y greadigaeth, er gogoniant Duw Dad,—mae efe ar yr un pryd yn addfwyn a gostyngedig o galon. Edrych ar y Person mawr hwn; ymbarotoa, a saf o'i flaen ef, yn yr hwn y mae holl gyflawnder y Duwdod yn preswylio yn gorphorol, a'i ddynoliaeth yn holl degwch ei hieuengetid, a'r cyfan yn cael eu haddurno â gostyngeiddrwydd. Golwg ar ogoniant Brenin Sion a barai i falchder syrthio fel Dagon o flaen arch Duw Israel. "Yna yr iselir uchelder dyn, ac y gostyngir uchder dynion, a'r Arglwydd yn unig a ddyrchefir yn y dydd hwnw."—Traethodydd, Ion., 1851.