Neidio i'r cynnwys

Cofiant y Parch Isaac Morgan Harry/Hymnau

Oddi ar Wicidestun
Penillion i'r Ysgol Sabbothol Cofiant y Parch Isaac Morgan Harry

gan Thomas Lewis Jones, Machen

Galargan

HYMNAU.—M. 10.

Arglwydd, tywallt o dy ysbryd,
Ysbryd argyhoeddi yw,
Ysbryd gras ac ysbryd gweddi,
Ysbryd caru delw Duw;
Ysbryd dewis byw yn dduwiol,
Ysbryd gwylio ar bob awr,
Ysbryd isel gostyngedig,
Ysbryd addfwyn Iesu mawr.

M. 3.

'Rwy'n teithio tua'r bythol fyd,
O! Dduw rho im' dy hedd,
Rho 'nabod Iesu'r ffyddlon ffrynd,
Cyn 'r elwyf lawr i'r bedd.

M. 3.

Mae'r Ysgol Sul yn fendith fawr
 A gwerthfawr yn ein gwlad;
O! de'wch i hon i gyd o'r bron,
  I dderbyn addysg rad.

M. 21.

Dyma ddydd y Sabboth hyfryd,
De'wch i ddysgu geiriau'r bywyd,
Ac i ganu mawl i'r Iesu,
Ddaeth o'r nefoedd i'n gwaredu.

M. 10.

Aed Efengyl dros y moroedd
I'r ardaloedd pellaf sydd,
Bloeddied hon yn mhlith y caethion,
Carcharorion ddelo'n rhydd;
Son am frwydr fawr Calfaria,
Iesu 'n marw ar y pren,
Mil o filoedd, myrdd myrddiynau,
O goronau ar ei ben.

Nodiadau

[golygu]